Canllawiau

Amserau agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn Nhŷ’r Cwmnïau

Argaeledd ein Canolfan Gyswllt a gwasanaethau ffeilio dros gyfnod yr ŵyl 2025 i 2026.

Gwasanaethau’r un diwrnod

Rhaid i chi wneud cais cyn 12yp ar ddydd Mercher 24 Rhagfyr os ydych yn defnyddio gwasanaeth o’r un diwrnod i:

  • ffeilio newid enw’r cwmni ar-lein
  • ymgorffori cwmni (meddalwedd yn unig)

Os byddwch yn gwneud cais ar ôl 12yp, efallai na fyddwn yn prosesu eich cais tan ddydd Llun 29 Rhagfyr.

Lleihau cyfalaf (ffurflen SH19)

Rhaid i chi ffeilio eich datganiad cyfalaf wrth leihau cyfalaf mewn cwmni (SH19) ac unrhyw ddogfennau ategol cyn 11yb ddydd Mercher 24 Rhagfyr. Rhaid defnyddio’r  gwasanaeth uwchlwytho dogfen i Dŷ’r Cwmnïau i ffeilio’r dogfennau hyn.

Os byddwn yn derbyn eich dogfennau wedi 11yb, efallai na fydd yn cael ei brosesu tan ddydd Llun 29 Rhagfyr.

Copïau ardystiedig o dystysgrifau a dogfennau

I ddefnyddio’r gwasanaeth anfon cyflym, rhaid i chi osod eich archeb cyn 11yb ar ddydd Gwener 19 Rhagfyr i gwrdd â dyddiadau postio’r Post Brenhinol.

Archebu tystysgrifau ardystiedig a dogfennau o Dŷ’r Cwmnïau.

Gwasanaethau ar-lein

Mae gwasanaethau ar-lein Tŷ’r Cwmnïau ar gael drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein i:

Bydd angen cod dilysu eich cwmni. Os oes angen i chi ofyn am god, dylech ganiatáu digon o amser gan ei fod yn cael ei anfon at eich cwmni drwy’r post.

Argaeledd y Ganolfan Gyswllt

Rhif ffôn: 0303 1234 500 

Dyddiad Argaeledd
Dydd Mercher 24 Rhagfyr Ar agor o 8yb hyd 2yp
Dydd Iau 25 Rhagfyr Ar gau
Dydd Gwener 26 Rhagfyr Ar gau
Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr Ar gau
Dydd Sul 28 Rhagfyr Ar gau
Dydd Llun 29 Rhagfyr Ar agor o 8yb hyd 8yp
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr Ar agor o 8yb hyd 8yp
Dydd Mercher 31 Rhagfyr Ar agor o 8yb hyd 4yp
Dydd Iau 1 Ionawr Ar gau
Dydd Gwener 2 Ionawr Ar agor o 8yb hyd 8yp
Dydd Sadwrn 3 Ionawr Ar agor o 8yb hyd 2yp

Mynediad ac amseroedd agor Tŷ’r Cwmnïau.

Os oes angen i chi ffeilio eich cyfrifon ar bapur, dylech eu hanfon atom ymhell cyn y dyddiad cau ac ystyried defnyddio danfoniad gwarantedig y diwrnod nesaf.

Ni allwn dderbyn oedi drwy’r post fel rheswm i apelio yn erbyn cosb ffeilio hwyr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. Same day services – Added cutoff dates and times for using Companies House same day services during the festive period.

  3. Updated with the availability of our contact centre and filing services over the 2025 to 2026 festive period.

  4. Timings updated for express dispatch service. To use the express dispatch service, you must place your order before 11am on Friday 20 December to meet Royal Mail posting dates.

  5. Updated Welsh page with availability of our contact centre and filing services over the 2024 to 2025 festive period.

  6. Added contact centre opening times and same day service availability for Christmas and new year 2024 to 2025.

  7. Guidance updated for 2023.

  8. Christmas 2022 opening times updated.

  9. Updated Christmas and New Year opening times for 2021/22.

  10. Updated our Christmas and New Year opening times for 2020/21.

  11. Added translation

Argraffu'r dudalen hon