Skip to main content
Open consultation

Cadwch Lygad: Cyfeiriad strategol newydd ar gyfer cyfryngau’r DU

Updated 23 June 2026

Rhagair gan y Gweinidog

Fel llawer ohonom, pan oeddwn yn tyfu i fyny roedd nosweithiau yn fy nghartref yn cael eu treulio’n aml gyda phawb o amgylch y set deledu yn yr ystafell fyw. Boed hynny’r teulu cyfan yn gwylio’r Generation Game neu Noel’s House Party ar nos Sadwrn, neu’n cefnogi’r Alban yn y bêl-droed.

Mae ein cyfryngau yn rhan ganolog o’n gofod dinesig. Mae rhaglenni teledu o ansawdd uchel, fel drama a chomedi sy’n berthnasol yn ddiwylliannol, yn darparu cyfeiriadau cyffredin ac yn helpu i lunio agweddau at faterion cymdeithasol. Mae newyddion dibynadwy, sy’n gorfod cyrraedd safonau golygyddol llym, yn darparu’r ddealltwriaeth a’r ffeithiau cyffredin sydd eu hangen ar bobl i ymddiried yn ei gilydd. Mae darlledu digwyddiadau cenedlaethol, fel y Gemau Olympaidd neu ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol, yn dod â’r genedl at ei gilydd i rannu profiadau. 

Fodd bynnag, mae’r manteision hyn dan bwysau yn amgylchedd cyfryngau’r dyddiau hyn lle mae detholiad cyfyngedig o sianeli darlledu wedi ildio i gynnydd enfawr o gynnwys sydd i bob golwg yn ddiderfyn, ac i’w gael yn bennaf drwy’r rhyngrwyd. Mae’r oes ddigidol wedi gweld cynulleidfaoedd yn symud oddi wrth ddarlledu llinol traddodiadol ac i’r byd ar-lein lle rydym, yn lle gwylio gyda’n gilydd, yn cael ein hannog i fynd am gynnwys mewn ffrydiau sy’n cael eu curadu’n unigol, a lle mae naratifau anghywir sy’n hollti barn pobl yn fwy tebygol o ffynnu. 

Mae’r papur gwyrdd hwn yn nodi cyfeiriad strategol newydd ar gyfer polisi cyfryngau’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Bydd yr ymyriadau rydym yn ymgynghori yn eu cylch yn: 

  • meithrin amgylchedd gwybodaeth iach lle mae’n hawdd dod o hyd i newyddion dibynadwy; 
  • sicrhau bod cynulleidfaoedd yn gallu parhau i fwynhau mynediad cyffredinol at gynnwys teledu dibynadwy o ansawdd uchel ac elwa o’n cymdeithas ddigidol fodern yn ehangach; a 
  • chefnogi ein darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, sydd wrth galon ecosystem ein diwydiant teledu domestig, gan sbarduno twf a mewnfuddsoddiad. 

Gyda’i gilydd, bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod ein cyfryngau’n parhau i chwarae eu rolau hollbwysig o ran diddanu, addysgu, gwasanaethu democratiaeth a chefnogi cydlyniant cymdeithasol yn y DU, gan roi cynulleidfaoedd yn gyntaf ar yr un pryd.

Ian Murray, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, y Cyfryngau a’r Celfyddydau

Crynodeb gweithredol

Ar eu gorau, mae ein cyfryngau’n cynnig y sail i wlad gydlynus a democratiaeth iach. Mae ganddyn nhw’r pŵer i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth, ffeithiau cyffredin, a phrofiadau cyffredin sy’n helpu pobl i ymddiried yn ei gilydd ac i ddeall ei gilydd. Dyma’r tir cyffredin y mae gwlad wedi’i hadeiladu arno. 

Fodd bynnag, fel cynifer o’n gofodau dinesig eraill, mae’n wynebu heriau sylfaenol sy’n tanseilio’r manteision hyn. Mae teledu wrthi’n cael ei drawsnewid yn gyflym ac yn llwyr, ar ôl symud o system o hyn a hyn o sianeli darlledu i amgylchedd o “gynnwys ym mhobman”, lle mai gwasanaethau ffrydio byd-eang, llwyfannau rhannu fideos, a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol yw’r gweithredwyr mwyaf. Mae ein darlledwyr domestig, gan gynnwys ein cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, yn brwydro i gael eu gweld a’u clywed mewn marchnad sy’n fwyfwy cystadleuol a darniog. Mae pobl yn cael gafael ar newyddion ar-lein fwy a mwy, yn hytrach na drwy fannau mwy rheoledig fel Freeview ar eu setiau teledu. Mae hyn yn gwanhau gallu darparwyr newyddion dibynadwy i gyrraedd cynulleidfaoedd a llywio trafodaeth gyhoeddus wybodus. 

Rydym yn wynebu storm, ond mae gennym strategaeth i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Un nad yw wedi’i chynllunio i atal newid, ond i roi technoleg yn ein gwasanaeth, nid ni yn y dechnoleg honno. Mae’r papur gwyrdd hwn yn rhan o’r strategaeth honno ac mae’n nodi cynllun uchelgeisiol i sicrhau bod y cyfryngau, a theledu yn benodol, yn gallu parhau i chwarae ei ran hollbwysig yn ein cymdeithas a’n democratiaeth, drwy sicrhau bod cynnwys o ansawdd uchel o’r DU a newyddion dibynadwy yn parhau i fod yn hygyrch ac yn gynaliadwy i’r genhedlaeth nesaf.

Pennod 1: Cyd-destun y farchnad a’r gynulleidfa

Mae’r cyfyngiadau a oedd unwaith yn diffinio teledu, sbectrwm cyfyngedig sy’n gofyn am drwyddedau a safonau cynnwys llym, yn cael eu dileu gan dechnoleg. Mae cynulleidfaoedd heddiw yn gallu cael gafael ar gynnwys sydd bron yn ddi-ben-draw, ac maen nhw’n symud oddi wrth deledu byw traddodiadol. Mae hyn yn arbennig o wir ymhlith gwylwyr iau.

Gyda’r newid digidol hwn, nid yw’r llinellau mor glir rhwng teledu traddodiadol, teledu sy’n cael ei reoleiddio, a chynnwys ar-lein. Mae llwyfannau fel YouTube yn gartref i fwy a mwy o raglenni “tebyg i deledu” o ansawdd uchel. Yn hollbwysig, erbyn hyn mae llwyfannau technoleg byd-eang yn aml yn rheoli’r algorithmau sy’n penderfynu pa gynnwys mae pobl yn ei weld. Mae’r algorithmau hyn fel arfer yn blaenoriaethu ymgysylltu dros werth, gan roi lle i “swigod hidlo” sy’n erydu’r profiadau diwylliannol cyffredin a arferai gael eu darparu gan ddarlledwyr.

Mae’r amgylchedd hwn yn rhoi straen ariannol sylweddol ar ein darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (PSM) domestig, y BBC, ITV, Channel 4, 5, STV, ac S4C [footnote 1]. Mae eu refeniw o hysbysebion a ffi’r drwydded yn gostwng, ac mae’r gystadleuaeth am gynnwys o safon uchel yn ddwys. Er bod ein sector cynhyrchu domestig yn llwyddiannus ar draws y byd, mae’n wynebu pwysau o ganlyniad i gostau a heriau cynyddol o ran cadw eiddo deallusol, gan symud gwerth masnachol dramor. Rhaid i ni gefnogi’r sector i arallgyfeirio cyllid, cadw eiddo deallusol, a sicrhau bod PSM yn parhau i hyrwyddo cynnwys unigryw o ansawdd uchel yn y DU sy’n sbarduno twf economaidd ar draws y gwledydd a’r rhanbarthau.

Ffeithiau allweddol 

  • Yn 2024-25, roedd llwyfannau rhannu fideos a gwasanaethau ffrydio yn cyfrif am 74% o’r holl amser fideo ar gyfer cynulleidfaoedd rhwng 16 a 24 oed, a 69% ar gyfer pobl rhwng 25 a 34 oed. 
  • YouTube yw’r gwasanaeth sy’n cael ei wylio fwyaf gan blant 4-15 oed erbyn hyn, sy’n cyfrif am 28% o’r fideos sy’n cael eu gwylio ar gyfer y grŵp oedran hwn.
  • Erbyn hyn, mae dros hanner oedolion (16 oed a hŷn) y DU yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol fel un o’r ffyrdd maen nhw’n eu defnyddio i gael newyddion. 
  • Mae pobl sy’n gwylio newyddion ar ddarparwyr PSM yn fwy tebygol o fod yn weithredol yn wleidyddol, yn wybodus, ac yn ymddiried mewn sefydliadau.

Pennod 2: Cefnogi amgylchedd gwybodaeth iach

Mae’r newid lle mae pobl yn cael gafael ar newyddion ar-lein, gyda hanner yr holl newyddion nawr yn cael ei weld a’i glywed drwy gyfryngau cymdeithasol, wedi creu trobwynt i’n democratiaeth. Mae algorithmau sy’n ffafrio sylw yn ei gwneud yn haws i gamwybodaeth, cynnwys polemig, a deunydd wedi’i drin fel “ffugiadau dwfn”, gylchredeg yn eang. Mae’r ymddiriedaeth gyffredinol yn newyddion y DU wedi gostwng, a dim ond 45% o oedolion sy’n teimlo’n hyderus eu bod yn gallu dweud a yw ffynhonnell yn wir. Mae’r cynnydd hwn mewn newyddion annibynadwy a’r gostyngiad cyfatebol yn yr ymddiriedaeth mewn newyddion yn peri risg i allu’r cyhoedd i gael gafael ar wybodaeth gywir. 

Er mwyn hyrwyddo cymdeithas wybodus sy’n deall y cyfryngau, rydym yn cynnig tri ymyriad:

  • Amlygrwydd i gael newyddion dibynadwy: Byddwn yn edrych ar opsiynau deddfwriaethol i fynnu bod cyfryngau cymdeithasol yn gwneud cynnwys newyddion gan ddarparwyr PSM, ac o bosib cyhoeddwyr newyddion cenedlaethol a lleol, yn amlwg ac yn hawdd dod o hyd iddo. Mae hyn yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â chamwybodaeth, yn enwedig yn ystod cyfnod o aflonyddwch neu argyfwng cymdeithasol.
  • Dyletswydd newydd o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar gyfer darparwyr PSM: Rydym yn cynnig rhoi dyletswydd newydd ar ddarparwyr PSM i ddatblygu ac adrodd ar strategaethau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, gan ddefnyddio’r lefel uchel o ymddiriedaeth sydd gan y cyhoedd ynddyn nhw a’u lefel uchel o gyrhaeddiad i helpu pobl i fynd ati’n feirniadol i asesu’r wybodaeth maen nhw’n dod ar ei thraws.
  • Menter newydd ar y cyd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau: Er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosibl, byddwn yn edrych ar ddulliau i gefnogi ymdrechion cydgysylltiedig i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar draws cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, cymdeithas sifil, a’r sectorau cyfryngau a thechnoleg ehangach.

Pennod 3: Sut bydd cynulleidfaoedd yn parhau i gael gafael ar gynnwys teledu dibynadwy o ansawdd uchel 

Dyfodol dosbarthu teledu 

Mae marchnad teledu’r DU yn symud o lwyfannau darlledu traddodiadol i wylio sy’n cael ei ddarparu drwy’r rhyngrwyd (IPTV). Mae mwy o gartrefi’n cael gafael ar gynnwys drwy ddyfeisiau sydd wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd, gan greu tirwedd hybrid sydd bellach yn cynnwys teledu protocol rhyngrwyd (IPTV), teledu daearol digidol (DTT/Freeview), teledu lloeren, a theledu cebl. Er bod DTT yn dal yn hanfodol i dros 4 miliwn o gartrefi, mae llai o ddefnydd ohono, ac mae cost cynnal y rhwydwaith DTT sefydlog yn golygu nad yw’n gynaliadwy yn economaidd i ddarlledwyr.

Mae’r newid i IPTV yn cynnig manteision mawr, gan gynnwys mynediad di-dor at fwy o gynnwys, darpariaeth sydd wedi’i theilwra mwy, a gwell nodweddion hygyrchedd. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gynnal DTT tan ddiwedd 2034 o leiaf, ond rydym nawr yn ymgynghori ar gynllun ar gyfer beth a ddaw ar ôl hyn.

Er mwyn bwrw ymlaen â hyn, byddwn yn:  

  • Gweithio gyda’r diwydiant ar raglen cymorth: Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant a grwpiau cynulleidfa i lunio pecyn cymorth i gynulleidfaoedd newid eu harferion gwylio i wasanaethau IPTV ac i gael y mwyaf o’r manteision ychwanegol a ddaw gyda hyn. Bydd y pecyn hwn yn dibynnu ar y diwydiant ac ecosystem gref yn gweithio gyda’i gilydd i’w ddatblygu a’i roi ar waith: darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, gweithredwyr llwyfannau, darparwyr telegyfathrebiadau, gweithgynhyrchwyr ac adwerthwyr, elusennau a phartneriaid cyflawni lleol, pob un yn chwarae ei ran.
  • Cyflwyno cynllun ar gyfer tynnu gwasanaethau DTT mewn modd dan reolaeth: Bydd hyn naill ai pan ddaw’r trwyddedau presennol i ben ar 31 Rhagfyr 2034 neu yn dilyn estyniad am gyfnod penodol hyd at 31 Rhagfyr 2044. Gydag unrhyw newid, byddai cyfathrebu cyson sy’n rhwydd i bawb ei ddeall, gan egluro beth sy’n newid, pryd, a beth sydd angen i gynulleidfaoedd ei wneud.

Beth yw IPTV?

Mae Teledu Protocol Rhyngrwyd (IPTV) yn ffordd o wylio teledu gan ddefnyddio eich cysylltiad rhyngrwyd yn hytrach na systemau traddodiadol teledu daearol digidol (DTT), lloeren, neu signalau drwy erial. Yn hytrach na darlledu pob sianel ar unwaith fel teledu rheolaidd, mae IPTV yn anfon y rhaglen neu’r sianel benodol rydych chi’n ei dewis yn uniongyrchol i’ch dyfais drwy’r rhyngrwyd. Mae hyn yn golygu y gallwch wylio teledu byw, ffilmiau ar-alw, neu raglenni wedi’u recordio ar setiau teledu clyfar, cyfrifiaduron, dyfeisiau tabled, ffonau clyfar, neu flychau ffrydio. Mae gwasanaethau fel Amazon Prime Video neu Netflix yn defnyddio technoleg debyg ar y rhyngrwyd, ond mae IPTV yn aml yn cynnwys sianeli teledu byw am ddim hefyd, yn debyg iawn i DTT traddodiadol.

Beth yw DTT?

Mae teledu daearol digidol yn system ddarlledu lle mae signalau teledu yn cael eu trawsyrru dros yr awyr o drosglwyddyddion ar y tir ac yn cael eu derbyn gan erial yn hytrach na thrwy gebl neu loeren, sut mae pobl yn derbyn Freeview.

Dyfodol gwaith rheoleiddio’r teledu 

Mae’r tueddiadau yn y farchnad rydym yn edrych arnyn nhw yn y papur hwn yn herio’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer teledu a gynlluniwyd ar gyfer oes o ddarlledu analog. Wrth i gynulleidfaoedd symud fwyfwy tuag at wasanaethau rhannu fideos, fideo-ar-alw a setiau teledu clyfar, mae anghydbwysedd sylweddol o ran rheoleiddio wedi dod i’r amlwg rhwng darlledwyr traddodiadol, sy’n glynu wrth safonau llym o ran cynnwys niweidiol, didueddrwydd, a diogelu cynulleidfaoedd iau,  a darparwyr cynnwys mwy newydd nad yw’n cael eu rheoleiddio i’r fath raddau. Ar ben hynny, nid yw nodweddion hygyrchedd fel isdeitlau, disgrifiadau sain, ac iaith arwyddion (sy’n caniatáu i’r gynulleidfa ehangaf bosibl fwynhau cynnwys teledu) bob amser ar gael, neu mae eu hansawdd yn gyfyngedig.

Sut mae Ofcom yn rheoleiddio’r cyfryngau darlledu

Mae gan Ofcom ddyletswydd ddeddfwriaethol i lunio a gorfodi Cod Darlledu ar gyfer teledu a radio, i warchod cynulleidfaoedd rhag niwed. Mae gan Ofcom ddyletswydd i barhau i adolygu’r cod, ond mae amcanion y safonau sy’n sail iddo wedi’u nodi mewn deddfwriaeth. Mae’r cod yn cynnwys rheolau fel sicrhau nad yw cynnwys sy’n amhriodol i blant yn cael ei ddangos cyn y trothwy 9pm, a bod newyddion yn cael ei adrodd gyda chywirdeb dyladwy a didueddrwydd dyladwy. 

Gall cynulleidfaoedd gwyno i Ofcom os byddan nhw’n gweld neu’n clywed cynnwys ar wasanaeth sy’n cael ei reoleiddio sy’n peri pryder iddyn nhw, ac mae gan Ofcom bwerau i ymchwilio a chyhoeddi sancsiynau lle bo hynny’n briodol. Rhwng 2022 a 2025, cafodd Ofcom tua 56,000 o gwynion y flwyddyn ar gyfartaledd

Yn y tymor hwy, mae’n debygol y bydd angen diwygio sylfaen y fframwaith rheoleiddio, fel ei fod yn adlewyrchu amgylchedd cwbl ddigidol. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Llywodraeth wedi addo chwarteru costau gweinyddol camau rheoleiddio ar fusnesau, gan wneud Prydain y lle gorau i wneud busnes a sbarduno twf economaidd.

Fel cam cyntaf, byddwn yn:  

  • Cynnal cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid: Bydd hyn yn ystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen â’r diwygiadau angenrheidiol, i sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio ar gyfer teledu yn parhau i ddiogelu cynulleidfaoedd rhag cynnwys niweidiol, yn cefnogi darparwyr cyfryngau, ac yn caniatáu i’n diwydiannau creadigol ffynnu, drwy leihau biwrocratiaeth, a sbarduno twf ac arloesedd ledled y DU. Gallai hyn gynnwys nod i symud, yn y pen draw, oddi wrth system reoleiddio sy’n seiliedig ar sut mae cynnwys yn cael ei ddarparu, i un sy’n canolbwyntio ar le mae cynulleidfaoedd yn dod o hyd i gynnwys tebyg i deledu ac yn ei ddefnyddio, gan sicrhau safonau a gwarchodaeth gyson waeth beth fo’r llwyfan. 

Rhaid i’r fframwaith newydd hwn fod yn deg â busnesau a defnyddwyr, a bod yn hyblyg a gallu addasu i’r newid cyflym ym maes technoleg ac i fodelau busnes sy’n esblygu, gan sicrhau bod y DU yn parhau i arwain y byd yn y diwydiannau creadigol yn ogystal â lleihau beichiau rheoleiddio diangen.

Pennod 4: Sicrhau bod cynnwys PSM yn dal yn hygyrch ac yn berthnasol i gynulleidfaoedd

Amlygrwydd ar lwyfannau trydydd parti 

Mae angen i gynnwys PSM fod yn hygyrch ac yn amlwg ar yr holl lwyfannau a dyfeisiau mae pobl yn eu defnyddio’n awr i wylio’r teledu. Os nad yw cynnwys PSM yn weladwy ar y llwyfannau lle mae cynulleidfaoedd allweddol yn treulio eu hamser, nid yw’r egwyddor o fynediad i bawb yn cael ei chyflawni.

Beth yw amlygrwydd?

Mae deddfwriaeth darlledu yn cynnwys fframwaith “amlygrwydd” sy’n ei gwneud yn hawdd dod o hyd i gynnwys gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr a’i wylio. Mae hyn yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd ar gyfer darlledu llinol drwy reolau a bennir gan Ofcom sy’n effeithio ar safle (rhifau) sianeli dynodedig pan fydd gwylwyr yn chwilio amdanyn nhw ar amserlen rhaglenni electronig. Mae’r fframwaith cyfreithiol presennol yn gwarantu mai ein darparwyr PSM sy’n gweithredu’r pum sianel gyntaf mae cynulleidfaoedd yn dod o hyd iddyn nhw pan fyddan nhw’n rhoi eu setiau teledu ymlaen.

Mae’r drefn amlygrwydd newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Cyfryngau 2024 yn gam cyntaf pwysig tuag at sicrhau amlygrwydd i wasanaethau ar-alw darparwyr PSM (er enghraifft, BBC iPlayer neu ITVX). Wrth i’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac Ofcom barhau i roi’r drefn newydd hon ar waith, mae’r bwriad yn glir: sicrhau ei bod hi’n hawdd dod o hyd i gynnwys gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel ar draws rhyngwynebau defnyddwyr y prif setiau teledu clyfar, blychau pen-set a ffyn ffrydio.

Mewn ymateb i newidiadau mewn arferion gwylio cynulleidfaoedd, mae darparwyr PSM wedi dechrau darparu rhywfaint o’u cynnwys ar lwyfannau trydydd parti, fel YouTube. Mae’r rheoleiddiwr cyfryngau annibynnol, Ofcom, wedi argymell bod llwyfannau trydydd parti a darparwyr PSM yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod cynnwys PSM yn amlwg ac ar delerau masnachol teg. Roedden nhw hefyd yn argymell y dylai’r Llywodraeth ystyried ategu hyn drwy ddeddfwriaeth. 

Mae’r Llywodraeth yn dal i ffafrio’n gryf gytundebau gwirfoddol sy’n cael eu harwain gan y diwydiant er mwyn sicrhau mwy o amlygrwydd mewn ffordd gynaliadwy a chadarn sy’n bodloni pob parti. Yn ystod y misoedd diwethaf, gwelwyd datblygiad o ran creu partneriaethau. Er enghraifft, cyhoeddwyd cytundeb rhwng y BBC a YouTube ym mis Ionawr 2026. Bydd hyn yn golygu bod y BBC yn gwneud cynnwys yn benodol ar gyfer YouTube, gan gynnwys adloniant, newyddion a chynnwys i blant. Fodd bynnag, os na fydd y partneriaethau hyn yn mynd yn ddigon pell o ran cyflawni ein hamcanion, byddai’n rhaid i ni ystyried deddfu.

System newydd o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer teledu 

Mae ein darparwyr PSM yn biler canolog diwylliant cenedlaethol, ac maen nhw’n allweddol i sbarduno twf yn y sector teledu. Gyda’i gilydd, maen nhw’n darparu newyddion a chynnwys diduedd o ansawdd uchel sy’n dod â phobl at ei gilydd. Mae darparwyr PSM yn dal ymhlith y ffynonellau mwyaf dibynadwy o newyddion, ac mae ymchwil yn dangos bod y bobl sy’n gwylio a gwrando ar newyddion PSM yn fwy tebygol o adnabod gwybodaeth ffeithiol bwysig yn gywir, bod â lefelau uwch o ymddiriedaeth mewn sefydliadau, a bod llai o hollti barn yn eu plith. Mae’n rhaid i ddarparwyr PSM hefyd wneud cynnwys gwreiddiol o ansawdd uchel yn y DU, sy’n galluogi pobl ledled y DU i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu fel rhan o’n stori genedlaethol.

Darparwyr PSM yn y DU

Y BBC, ITV, STV, Channel 4, 5 ac S4C yw ein darparwyr PSM. Y BBC yw darparwr PSM mwyaf y DU, gyda chenhadaeth i wasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys diduedd o ansawdd uchel i hysbysu, addysgu a diddanu. ITV, ac STV yn yr Alban, yw’r rhwydwaith masnachol hynaf, sy’n darparu newyddion a rhaglenni rhanbarthol yn ogystal â chynnwys sy’n canolbwyntio ar adloniant. Mae Channel 4 yn canolbwyntio ar raglenni arloesol ac unigryw ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc ac amrywiol, gan gynnwys ffilmiau a materion cyfoes. Mae 5, y sianel fwyaf newydd, yn darparu amrywiaeth o gynnwys, er enghraifft rhaglenni dogfen a dramâu, ac mae’n canolbwyntio’n unigryw ar raglenni teledu i blant. Mae S4C wedi ymrwymo i ddarparu rhaglenni Cymraeg.

Mae’r system PSM yn seiliedig ar gompact lle mae darparwyr PSM yn cyflawni rhwymedigaethau penodol, ac yn cael manteision yn gyfnewid am hynny. Mae’r rhwymedigaethau’n cynnwys darparu sianel ddarlledu a chwotâu sy’n mynnu bod darparwyr PSM yn cynhyrchu nifer sylfaenol o wahanol fathau o gynnwys. Yn gyfnewid am hynny, mae’r darparwyr PSM yn cael manteision, yn fwyaf arwyddocaol ‘amlygrwydd’, yn draddodiadol drwy fod ymhlith y pum sianel gyntaf ar setiau teledu. Fodd bynnag, mae’r trefniant hwn dan fygythiad gan fod gwerth manteision PSM yn crebachu wrth i gynulleidfaoedd symud ar-lein, gan wneud y system yn llai cynaliadwy.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, byddwn yn:

  • Edrych ar opsiynau ar gyfer diwygio’r system PSM yn strategol, gyda’r nod o adlewyrchu’n well sut mae pobl yn defnyddio’r cyfryngau, a mynd i’r afael â’r heriau rheoleiddio a’r heriau economaidd y mae hyn yn eu hachosi. Rydym yn awyddus i’r system PSM fod yn fwy hyblyg i newidiadau yn y farchnad, ac i ganiatáu ar gyfer y potensial i gael amrywiaeth ehangach neu wahanol o ddarparwyr PSM sy’n darparu cynnwys mewn gwahanol ffyrdd. Yn y pen draw, rydym am gael system sy’n annog creu mwy o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus, gan wrthdroi tuedd y blynyddoedd diwethaf sydd wedi gweld allbwn ein darparwyr PSM yn gostwng.

Pennod 1: Cyd-destun y farchnad a’r gynulleidfa

Gan mlynedd ar ôl darllediad hanesyddol John Logie Baird ar ddyfais a alwodd yn deledwr, mae teledu’n parhau i chwarae rhan hollbwysig yn ein cymdeithas ac yn ein democratiaeth, gan ddod â phobl at ei gilydd ac adrodd straeon o bob rhan o’n gwledydd a’n rhanbarthau. 

Drwy adlewyrchu’r bobl a’r cymunedau amrywiol sy’n ffurfio’r DU a dod â ni at ein gilydd am achlysuron sy’n brofiad i bawb, mae gan deledu allu pwerus i gefnogi cydlyniant cymdeithasol. Mae’n gwneud hyn drwy lywio agweddau at faterion cymdeithasol, darparu cyfeiriadau cyffredin, creu eiconau diwylliannol a gosod yr agenda gyhoeddus [footnote 2]. Mae rhaglenni fel Gavin and Stacey ac Adolescence yn dangos nad oes dim fel cyfrwng teledu o hyd o ran gallu sbarduno’r sgwrs genedlaethol a rhoi llais i’n stori genedlaethol. Mae rhaglenni dadlau a materion cyfoes amserol, fel rhaglen Question Time y BBC, yn cynnig man cyffredin i gynnal trafodaethau adeiladol a rhesymegol.  Mae digwyddiadau cenedlaethol fel y Gemau Olympaidd neu ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol yn dod â’r wlad at ei gilydd. Drwy hyrwyddo ymgysylltu dinesig, gwerthoedd cyffredin ac ymdeimlad o berthyn, mae gan deledu’r pŵer i gyfrannu at ddemocratiaeth iach sy’n gweithredu’n dda.

Yn hollbwysig, mae teledu hefyd yn parhau i fod yn gyfrwng dibynadwy iawn, gyda phobl sy’n defnyddio teledu fel ffynhonnell newyddion yn rhoi sgôr uwch i ymddiriedaeth, cywirdeb a didueddrwydd ar y teledu na’r rheini sy’n defnyddio llwyfannau newyddion ar-lein neu gyfryngau cymdeithasol [footnote 3]. Mae’r ymddiriedaeth honno’n deillio’n bennaf o’r amgylchedd rheoleiddio sydd wedi cefnogi darlledwyr ac wedi gwarchod cynulleidfaoedd. 

Mae ein sector teledu domestig byd-enwog yn darparu manteision economaidd hynod bwysig sy’n cael eu teimlo ledled y wlad. Rydym yn falch o gael un o ecosystemau teledu mwyaf blaenllaw’r byd, a nodweddir gan ecoleg gymysg gref o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a masnachol, ffrydwyr a chrewyr cynnwys. Mae ein darlledwyr domestig yn darparu canolbwynt ar gyfer creadigrwydd ac yn cefnogi sector annibynnol cryf sy’n creu ac yn gwerthu cynnwys o’r DU ledled y byd. Cefnogir hyn gan fewnfuddsoddiad mawr sy’n creu swyddi ac yn meithrin ein sgiliau creadigol a thechnegol, tra bo’r economi creu yn datblygu modelau newydd ar gyfer cynhyrchu, dosbarthu, a defnyddio cynnwys. Diolch i’n seilwaith sydd o’r radd flaenaf a’n gweithlu medrus iawn, mae’r DU yn ganolfan fyd-eang ar gyfer cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu, gan ddenu £4.8 biliwn o fewnfuddsoddiadau a chyd-gynyrchiadau yn 2024 yn unig. Mae natur gyson a dibynadwy’r amgylchedd rheoleiddio yn rhoi sicrwydd ar gyfer y mewnfuddsoddiad a’r gwariant cynhyrchu hwnnw. 

Er mwyn galluogi ecosystem deledu ffyniannus, mae’r llywodraeth yn parhau i gefnogi’r sector mewn sawl ffordd. Mae ein Cynllun Sector ar gyfer Diwydiannau Creadigol, a gyhoeddwyd yr haf diwethaf fel rhan o’n strategaeth ddiwydiannol ddiwygiedig, yn cynnwys glasbrint ar gyfer sut byddwn yn sicrhau bod hyn yn parhau. Roedd y cynllun yn nodi’n briodol bod ffilm a theledu yn un o bedwar is-sector “arloesi”, yn seiliedig ar eu potensial twf uchel, eu cyfraniad economaidd, eu lefelau cyflogaeth a’u perfformiad allforio a all sbarduno twf yn yr economi ehangach.

Fe wnaethom addo adeiladu ar yr ymrwymiadau yn y cynllun sector drwy gymryd camau penodol i gefnogi cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a’r sector teledu ehangach. Mae’r ymyriadau a nodir yn

y papur gwyrdd hwn yn dangos sut y byddwn yn cymryd y camau hynny i ddiogelu rôl hanfodol teledu yn ein cymdeithas mewn amgylchedd cyfryngau sy’n esblygu’n gyflym. Byddwn yn adeiladu ar adolygiad diweddaraf Ofcom o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, ac yn cefnogi ein darparwyr PSM. Byddwn yn mynd y tu hwnt i’r newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Cyfryngau 2024, ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni’r rheini. 

Mae’r BBC wrth galon ein system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, a’n sector teledu ehangach. Dyma ein hymyriad mwyaf yn y diwydiannau creadigol ac mae’n gweithredu fel hyrwyddwr cenedlaethol a sefydliad angor i sefydliadau ar draws yr economi greadigol. Mae ei gyrhaeddiad yn ysgogi’r ecosystemau cynhyrchu a darlledu. Fel rhan o’r cynlluniau a nodir yn y papur gwyrdd hwn i gefnogi’r sector teledu a’r ecosystem cyfryngau ehangach, rydym hefyd yn bwrw ymlaen ag adolygiad o Siarter Frenhinol y BBC. Ym mis Rhagfyr 2025, fe wnaethom gyhoeddi ymgynghoriad ar newidiadau rydym yn eu hystyried i ddiogelu’r BBC at y dyfodol. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 10 Mawrth 2026.

Drwy’r broses hon, rydym am sicrhau’r BBC cryfaf posibl; un sy’n fwy uchelgeisiol o ran sbarduno twf yn y diwydiannau creadigol ledled y DU, gan gadw ei rôl hanfodol fel darparwr newyddion dibynadwy a chynnwys ehangach sy’n siapio ac yn cefnogi stori genedlaethol gyffredin. Rydym am i’r BBC ddefnyddio ei faint a’i safle yn y farchnad i ffurfio partneriaethau â darparwyr PSM eraill, a’r sector masnachol ehangach, i helpu i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion hyn. Rydym yn credu y bydd y newidiadau sy’n cael eu cynnig yn y papur gwyrdd hwn yn cefnogi sector teledu a chyfryngau cyffredinol sy’n gallu gweithio gyda’r BBC i sicrhau bod ein cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i wasanaethu cynulleidfaoedd fel gwylwyr a dinasyddion. Felly, bydd yn hanfodol ein bod yn ystyried canfyddiadau a chasgliadau’r papur gwyrdd hwn ochr yn ochr â phapur gwyrdd y BBC a gyhoeddwyd fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter.

1.1 O ddarlledu i gynnwys ym mhobman

Mae teledu yn unigryw. Yn y DU, er mwyn darlledu sianel, fel arfer mae angen trwydded arnoch ac mae angen i chi fod yn berson addas a phriodol ar gyfer hynny. Rhaid i’r cynnwys sy’n cael ei ddarlledu fodloni safonau penodol, gan gynnwys diogelu cynulleidfaoedd iau rhag niwed a chywirdeb a didueddrwydd dyladwy ar gyfer newyddion, sy’n cael ei oruchwylio gan y rheoleiddiwr annibynnol Ofcom. Mae teledu hefyd yn elwa o gyllid cyhoeddus a chymorth drwy ffi’r drwydded, cymhellion treth, a seilwaith. 

Mae hyn yn deillio o’i gyfyngiadau. Mae sbectrwm teledu, y tonnau radio sy’n cael eu defnyddio i drawsyrru teledu’n ddi-wifr, yn gyfyngedig ac mae angen ei reoli. Mae technoleg yn cael gwared ar y cyfyngiadau hyn yn y bôn. Roedd teledu lloeren a chebl, a gyflwynwyd yn y 1990au, yn darparu’r capasiti i gludo nifer fawr o sianeli newydd. Roedd y newid o deledu analog i deledu daearol digidol, a gwblhawyd yn 2012, yn caniatáu’r un doreth o sianeli dros yr erial. Er bod y sianeli newydd hyn wedi cael eu cyflwyno o dan yr un drefn reoleiddio, mae’r set o chwe darparwr PSM wedi aros yr un fath, heb newid ers 1997. Ers dechrau’r 2000au, yn sgil y rhyngrwyd mae cynnydd enfawr yn y cynnwys clyweledol sydd wedi cael ei greu a’i rannu heb orfod bodloni safonau darlledu, i fwy a mwy o gynulleidfaoedd torfol. Roedd llwyfannau rhannu fideos gyda chynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr yn cael eu trin yn wahanol, ac yn gorfod dilyn trefn benodol a llai llym ar gyfer rheoleiddio a diogelu cynulleidfaoedd.

Mae cynulleidfaoedd heddiw yn gallu cael gafael ar gynnwys sydd, i bob golwg, yn ddi-ben-draw, a hynny wrth bwyso botwm neu sweipio bys. Mae degau o filoedd o oriau o gynnwys ar y llwyfannau fideo ar-alw mwyaf. Ar gyfartaledd, mae dros 20 miliwn o fideos yn cael eu llwytho i fyny bob dydd i YouTube, llwyfan rhannu fideos mwyaf y byd. Mae gwasanaethau llai hefyd wedi cynyddu, o ENB At Home gan Gwmni Bale Cenedlaethol Lloegr, i Liverpool FC TV, a gwasanaethau plant fel Ketchup TV. O ganlyniad, mae gwylwyr yn rhannu eu hamser rhwng nifer cynyddol o wasanaethau a dyfeisiau, boed hynny’n ffrydio’r dramâu diweddaraf o safon ar Netflix neu Disney+ ar eu setiau teledu, neu’n gwylio fideos TikTok ar eu ffonau.

Ffigur 1: Y 10 Prif Lwyfan â Chynnwys Fideo yn ôl Cyfran o’r Cyfanswm Gwylio a Nodwyd (%), Ch3 2025

Ffynhonnell: Dadansoddiad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon o ddata gwylio BARB

Mae’r dyddiau pan mai’r unig ffordd o wylio’r teledu oedd eistedd i lawr ar gyfer rhaglen 30 neu 60 munud o flaen set deledu wedi hen fynd. Mae cynulleidfaoedd heddiw yn awyddus i ddod o hyd i gynnwys maen nhw’n uniaethu ag ef, ym mha bynnag ffurf ac ym mha le bynnag y bo hynny. Maen nhw’n symud oddi wrth deledu sy’n cael ei ddarlledu’n fyw, ac yn ffafrio ffyrdd mwy hyblyg a hygyrch o wylio cynnwys fideo (gweler Ffigur 2). Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer cynulleidfaoedd iau. Mae faint o amser maen nhw’n ei dreulio’n gwylio cynnwys ar wasanaethau fideo ar-alw, llwyfannau ffrydio neu lwyfannau rhannu fideos wedi lleihau faint o deledu byw maen nhw’n ei wylio erbyn hyn. Yn 2024, roedd llwyfannau rhannu fideos a gwasanaethau ffrydio yn cyfrif am 74% o’r holl amser fideo a wyliwyd yn y cartref ar gyfer cynulleidfaoedd rhwng 16 a 24 oed, a 69% ar gyfer pobl rhwng 25 a 34 oed. Mae hyn yn cael ei gymharu â 9% a 12% yn y drefn honno ar gyfer yr holl deledu byw [footnote 4].

Ffigur 2: Y newid o fod yn llinol i fod ar-alw ac yn gymdeithasol ar draws pob oedran

Canran Cyfanswm y Gwylio a Nodwyd yn ôl Categori: Ch3 2022 o’i gymharu â Ch3 2025

Ffynhonnell: Dadansoddiad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon o ddata gwylio BARB

Mae’r llinellau rhwng rhaglenni teledu a chynnwys fideo arall sy’n cael ei ddarparu ar y rhyngrwyd, yn dod yn fwyfwy aneglur. Mae cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a safleoedd rhannu fideos yn ceisio cynnig y profiad gwylio teledu hamddenol traddodiadol gyda chynnwys sy’n para’n hirach ac wedi’i gynhyrchu’n fwy dwys a fydd yn cael ei wylio ar setiau teledu ac y gellid ei ystyried yn ddeunydd “tebyg i deledu”. Mae cymysgedd genres y cynnwys ar y llwyfannau hyn yn newid hefyd, oddi wrth genres fel cerddoriaeth, a thuag at adloniant a oedd yn draddodiadol yn faes arbenigol y darlledwyr a’r stiwdios mawr [footnote 5]. Ym mis Chwefror 2025, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol YouTube, Neil Mohan, mai “YouTube yw’r teledu newydd”, gan gydnabod sut mae’n dod yn fwyfwy cyffredin i gynulleidfaoedd wylio cynnwys y llwyfan hwn ar eu setiau teledu.

Mae hyn i gyd yn golygu bod y ffordd rydym yn ystyried ac yn diffinio ‘teledu’ yn newid o flaen ein llygaid, ac mae goblygiadau i hyn o ran sut mae’r llywodraeth yn cefnogi ac yn rheoleiddio’r sector teledu. Erbyn hyn, nid cystadlu â’i gilydd yn bennaf mae darlledwyr, ond â llwyfannau technoleg byd-eang sydd â chryn adnoddau. Heb newid, gallai rheoliadau, fel y safonau cynnwys sy’n ein diogelu rhag niwed ac sy’n sicrhau bod newyddion yn cael ei gyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy, ei chael hi’n anodd dal i fyny â’r ffyrdd amrywiol y mae pobl yn dewis cael gafael ar gynnwys.

Mae newidiadau yn arferion gwylio cynulleidfaoedd, ac yn enwedig poblogrwydd cynyddol llwyfannau rhannu fideos a chyfryngau cymdeithasol, wedi arwain at oblygiadau mawr o ran sut a pha gynnwys sy’n cael ei ddarparu i gynulleidfaoedd. Fwy a mwy, algorithmau, ac nid timau o bobl sy’n gweithio fel golygyddion neu gomisiynwyr, sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch pa gynnwys mae pobl yn ei weld ar y sgrin. Mae’r algorithmau hyn yn soffistigedig iawn ac yn helpu pobl i ddod o hyd i gynnwys maen nhw eisiau ymgysylltu ag ef, ac sy’n diwallu eu hanghenion a’u diddordebau’n fwy effeithlon nag erioed o’r blaen. Yn yr un modd, maen nhw hefyd yn adnodd hynod bwerus ar gyfer helpu crewyr i ddod o hyd i gynulleidfaoedd ar gyfer eu cynnwys. Yn hollbwysig, ni fydd cynulleidfaoedd yn ymwybodol i raddau helaeth a yw’r cynnwys maen nhw’n ei wylio yn gorfod dilyn trefn reoleiddio sydd wedi’i llunio i’w diogelu a chynnal safonau golygyddol ac ansawdd.

Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r algorithmau hyn, os nad pob un ohonyn nhw, wedi’u cynllunio i flaenoriaethu cynnwys sy’n cadw defnyddwyr ar lwyfan, er enghraifft, cynnwys sy’n sbarduno ymatebion emosiynol cryf. Maen nhw’n annog ymgysylltu yn hytrach na chywirdeb, ac maen nhw wedi’u cynllunio i ddangos mwy i wylwyr o’r hyn maen nhw’n gwybod eu bod yn ei hoffi, felly maen nhw’n llai tebygol o ddangos cynnwys i gynulleidfaoedd sy’n herio eu safbwyntiau presennol. Mae perygl i hyn atgyfnerthu rhagfarnau drwy swigod hidlo unigol a siambrau adlais [footnote 6]

Mae gweld a chlywed cynnwys mewn ffrydiau sydd wedi’u curadu’n unigol yn erydu’r profiadau diwylliannol a chymdeithasol cyffredin sy’n gysylltiedig â darlledu traddodiadol, sydd wedi cefnogi cydlyniant cymdeithasol. Mae gan deledu’r pŵer o hyd i ddod â phobl at ei gilydd, o wahanol gefndiroedd, o wahanol genedlaethau, ond mae hyn yn dod yn llai cyffredin. 

I blant yn benodol, mae gwylio wedi symud oddi wrth deledu llinol tuag at wylio ar-lein ac ar-alw, lle mae algorithmau a theilwra personol yn chwarae rhan sylfaenol ym mha gynnwys sy’n dod i’r amlwg iddyn nhw. YouTube yw’r gwasanaeth sy’n cael ei wylio fwyaf gan blant 4-15 oed erbyn hyn, sy’n cyfrif am 28% o’r fideos sy’n cael eu gwylio yn y cartref ar gyfer y grŵp oedran hwn [footnote 7]. Er bod hyn wedi arwain at ddatblygiadau sylweddol o ran dewis a hwylustod i ddefnyddwyr, bydd llawer o’r cynnwys yn cael ei optimeiddio ar gyfer cynulleidfa fyd-eang. Efallai na fydd cynnwys sy’n cael ei wneud yn y DU, ac sy’n ddiwylliannol berthnasol i gynulleidfa yn y DU, bob amser yn cael sylw amlwg.

Mae ymchwil gan Ofcom yn awgrymu bod rhywfaint o’r cynnwys i blant, yn enwedig yr hyn sydd ar gael ar lwyfannau rhannu fideos a chyfryngau cymdeithasol, wedi’i olygu’n helaeth, yn fywiog, a bob sut. Mae’n aml yn cael ei ddarparu i’r defnyddiwr heb gyd-destun, ac mae hyn yn gallu gorysgogi gwylwyr [footnote 8]. Mae cynnwys sy’n cael ei greu gan ddeallusrwydd artiffisial, sy’n aml yn gallu bod heb strwythur naratif ac sy’n cynnwys gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol, yn dod yn fwyfwy cyffredin ar gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau rhannu fideos, ac mae’n aml yn cael ei dargedu at blant a gwylwyr iau.

Ar 15 Mehefin, cymerodd y llywodraeth gam hollbwysig i amddiffyn plant ar-lein drwy wahardd llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer pobl ifanc dan 16 oed. Bydd y gwaharddiad yn cynnwys llwyfannau fel Snapchat, TikTok, YouTube, Instagram, Facebook ac X. Bydd eithriadau cyfyngedig ar gyfer rhai llwyfannau nad oes ganddyn nhw nodweddion niweidiol, fel YouTube Kids neu wasanaethau addysgol eraill. Yn ogystal â hyn, bydd cyfyngiadau ar swyddogaethau niweidiol fel ffrydio byw a chyfathrebu â phobl ddieithr. Bydd cyfyngiadau yn cael eu rhagosod ar y swyddogaethau hyn hefyd ar gyfer pobl ifanc o dan 16 ac 17 oed fel nad yw’r warchodaeth yn dod i ben yn llwyr yn 16 oed. Bydd y llywodraeth hefyd yn edrych yn fanylach ar gyrffyw dros nos a seibiannau rhag sgrolio diddiwedd ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed, a bydd yn nodi mwy o fanylion ym mis Gorffennaf.

Mae’r teledu wastad wedi cynnig lle diogel i blant. Ar ei orau, mae teledu a chynnwys fideo o ansawdd uchel i blant yn helpu plant i ddysgu am y byd o’u cwmpas, ehangu eu gorwelion, a gweld eu hunain a’u cymunedau’n cael eu hadlewyrchu’n ôl ynddyn nhw. Mae’n hanfodol bod plant yn gallu parhau i ddod o hyd i gynnwys o ansawdd uchel sy’n ddiwylliannol berthnasol ac wedi’i wneud yn y DU.

1.2 Amgylchedd gwybodaeth sy’n esblygu

Gyda mwy a mwy o gynulleidfaoedd yn cael gafael ar newyddion ar-lein, mae’r ffiniau rhwng cyfryngau newyddion a oedd yn arfer bod yn benodol, yn aneglur. Mae newyddion ar y teledu, yn y wasg, a thrwy sain, yn aml ar ffurf podlediadau, i gyd yn bodoli ochr yn ochr â’i gilydd ar-lein. Er bod y DU yn parhau i elwa o sector cyfryngau cryf, mae llai o ymddiriedaeth, newid mewn arferion defnyddio, a thwf llwyfannau digidol yn gwanhau darparwyr newyddion dibynadwy rhag cyrraedd cynulleidfaoedd a llywio trafodaeth gyhoeddus wybodus. 

Rhaid i ni harneisio ein sector newyddion a chyfryngau yn y DU i gynhyrchu cynnwys o safon, gan fod ei effeithiolrwydd yn dibynnu ar ymddiriedaeth y cyhoedd. Ers 2018, mae’r ymddiriedaeth gyffredinol yn newyddion y DU wedi gostwng saith pwynt canran i 35%, ac mae darparwyr cyfryngau dibynadwy bellach yn rhan o ecosystem wybodaeth dameidiog sy’n cael ei gyrru gan newidiadau yn y defnydd o gynnwys [footnote 9]. Erbyn hyn, mae dros hanner oedolion (16 oed a hŷn) y DU yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol fel un o’r ffyrdd maen nhw’n eu defnyddio i gael newyddion. Mae hyn yn cynnwys cael gafael ar benawdau neu grynodebau newyddion yn hytrach nag ymweld yn uniongyrchol â gwefannau cyhoeddwyr newyddion. Mae’r ganran hon yn codi i 75% ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed [footnote 10]. Mae darparwyr cyfryngau yn dibynnu fwyfwy ar y llwyfannau hyn sy’n rhoi mwy o sylw ar ymgysylltu yn hytrach na chywirdeb [footnote 11].

Ar yr un pryd, mae modelau dosbarthu newydd sy’n cael eu harwain gan grewyr, gan gynnwys cylchlythyrau drwy danysgrifiad a llwyfannau fideo, yn galluogi newyddiadurwyr a sylwebwyr unigol i gyrraedd cynulleidfaoedd yn uniongyrchol. Wrth i lwyfannau fel Substack ehangu i ffrydio fideos a sain, mae hyn yn golygu bod y ffiniau’n fwy aneglur byth rhwng cyhoeddwyr, darlledwyr, agwasanaethau rhannu fideos sy’n cael eu cynhyrchu gan ddefnyddwyr. Er bod hyn wedi ehangu amrywiaeth y lleisiau ar-lein, mae hefyd wedi cymhlethu mwy ar yr wybodaeth mae pobl yn ei gweld, lle mae sefydliadau newyddion sefydledig yn bodoli ochr yn ochr ag amrywiaeth gynyddol o sylwebwyr annibynnol.

Er gwaethaf lefelau uwch o ymddiriedaeth mewn llwyfannau newyddion traddodiadol fel teledu, radio a phrint, gwelwyd am y tro cyntaf yn 2025 fod mwy yn gwylio newyddion ar-lein nag ar deledu llinol [footnote 12]. Mae hanner yr holl unigolion yn gwylio newyddion ar unrhyw un o’r prif ddarparwyr PSM bob wythnos, sy’n 15 pwynt canran o ostyngiad ers 2018, ac mae pedair o’r deg ffynhonnell newyddion uchaf yn llwyfannau cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn [footnote 13]. Mae darparwyr PSM yn ffynonellau craidd o newyddion dibynadwy, ac mae perygl y bydd y defnydd llai ohonyn nhw yn creu gwactod a gaiff ei lenwi gan gamwybodaeth a thwyllwybodaeth.

Mae newidiadau technolegol hefyd yn newid sut mae cael gafael ar newyddion, ac yn effeithio ar allu pobl i ddod o hyd i newyddion cywir. Canfuwyd bod dyfodiad cynorthwywyr deallusrwydd artiffisial a throsolwg chwilio, sy’n gweithredu fel pyrth gwybodaeth, yn camliwio cynnwys newyddion 45% o’r amser, waeth beth fo’r rhanbarth, yr iaith, neu’r llwyfan [footnote 14]. Mae dros ddwy ran o bump o oedolion y DU eisoes yn dweud eu bod yn dod ar draws camwybodaeth neu ffugiadau dwfn, a dim ond 45% o oedolion sy’n teimlo’n hyderus eu bod yn gallu dweud a yw ffynhonnell wybodaeth yn dweud y gwir ai peidio [footnote 15]. Wrth i ffugiadau dwfn gael eu creu a’u lledaenu’n gyflym, mae hyn yn bygwth gwanhau ymddiriedaeth mewn brandiau cyfryngau traddodiadol, gan wneud i gynulleidfaoedd gwestiynu dilysrwydd yr holl gynnwys clyweledol, gan gynnwys adroddiadau newyddion go iawn.

Yn yr amgylchedd gwybodaeth newydd hwn, mae’n her i gynulleidfaoedd ddweud y gwahaniaeth rhwng newyddion a chynnwys polemig, a chynnwys camarweiniol neu ffug. Mae’r papur gwyrdd hwn yn ceisio edrych ar sut gall y sector newyddion a’r cyfryngau helpu amgylchedd gwybodaeth y DU i allu gwrthsefyll hyn. Rydym yn awyddus i harneisio cryfderau ein cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, a chydweithio ar draws y sector cyfan i feithrin ymddiriedaeth, cryfhau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, a sicrhau bod pob cynulleidfa yn cael mynediad at newyddion cywir, gan gynnwys ar lefel leol. Bydd y gwaith y mae’r llywodraeth yn ei wneud i fynd i’r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd newyddion ar-lein yn cyd-fynd â’n gwaith ehangach i gefnogi newyddion dibynadwy a chywir, gan gynnwys ein Cynllun Gweithredu Cyfryngau Lleol.

1.3 Sut mae’r sector teledu yn ymateb

Mae’r ffin aneglur rhwng gwahanol fathau o gynnwys fideo yn golygu bod cryn oblygiadau i’r cwmnïau a’r bobl sy’n creu’r cynnwys hwnnw. Mae darlledwyr, ffrydwyr, a chrewyr cynnwys eraill yn gweithredu mewn marchnad sy’n fwyfwy darniog a chystadleuol, sy’n gwobrwyo fformatau ac eiddo deallusol y gellir eu haddasu ar draws sawl llwyfan. 

Hyd yn oed cyn y cynnydd enfawr o fideos sy’n cael eu gwylio ar gyfryngau cymdeithasol, roedd y sectorau teledu a ffrydio yn cynyddu eu gwariant yn ddramatig mewn ymateb i’r cynnydd yn y galw gan gynulleidfaoedd am gynnwys teledu o safon uchel. Dechreuodd hyn ar ddechrau’r 2010au gan gyrraedd uchafbwynt mewn cyfnod y cyfeirir ato fel y “rhyfeloedd ffrydio” yn y blynyddoedd yn union cyn ac ar ôl pandemig COVID-19. Yn y cyfnod hwn, gwelwyd ffrydwyr yn buddsoddi, drwy fenthyciadau, mewn cynnwys unigryw. Er bod hon yn duedd ar draws y byd, roedd yr effeithiau i’w gweld yn gryf yn y DU, ac yn enwedig gan ein sector cynhyrchu byd-enwog. Gyda’r sector cynhyrchu annibynnol yn y DU ar ei anterth yn 2022, cynhyrchodd ei refeniw uchaf erioed, gan gyrraedd bron i £4 biliwn, wedi’i sbarduno gan y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad rhyngwladol [footnote 16].

Fodd bynnag, rydym wedi gweld y farchnad yn unioni ers hynny. Mae costau chwyddiant cynnwys wedi bod yn anghynaliadwy, ac mewn ymateb i gyfraddau llog uwch a llai o barodrwydd ymysg defnyddwyr i dalu am fwy nag un tanysgrifiad, mae’r sector wedi symud i flaenoriaethu proffidioldeb, ac i ddiogelu eu safleoedd yn y farchnad. Mae darlledwyr, ffrydwyr, stiwdios a chynhyrchwyr i gyd wedi ceisio arallgyfeirio eu refeniw, lleihau costau, a chyfuno cwmnïau llai. Er enghraifft, mae llawer o ddarlledwyr mawr yn y DU ac Ewrop eisoes wedi lansio strategaethau i resymoli eu costau, sy’n aml yn golygu toriadau sylweddol mewn swyddi. Mae maint, yn enwedig pan fydd yn cefnogi mynediad at ddata, yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i’r gystadleuaeth am refeniw hysbysebu ddwysáu, ac i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer hysbysebu a theilwra mwy penodol sy’n mynnu premiwm yn y farchnad. Mae hyn hefyd wedi arwain at gynnydd mewn prisiau i ddefnyddwyr sy’n parhau â’u tanysgrifiadau. Cynyddodd y rhan fwyaf o wasanaethau ffrydio drwy danysgrifiad eu prisiau termau real rhwng 2020 a 2025 [footnote 17].

Tueddiadau byd-eang: cyfuno a phartneriaethau yn y sector teledu

Mae cyfuno wedi bod yn un o’r prif dueddiadau yn y sector teledu dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o gyfuno a phrynu cwmnïau yn digwydd mewn marchnadoedd ledled y byd. Ym mis Awst 2025 prynodd Skydance Media stiwdios Paramount, un o’r stiwdios hynaf yn yr Unol Daleithiau, am $8 biliwn. Yn fwy diweddar, mae Netflix a Paramount wedi rhoi cynigion am Warner Brothers Discovery, ac mae Paramount wedi cytuno i brynu sy’n dal yn aros am gymeradwyaeth reoleiddiol. Yn Ewrop, mae’r cwmni o’r Eidal, MediaForEurope, yn ceisio creu grŵp cyfryngau ar draws Ewrop, gan gymryd rheolaeth dros ProSiebenSat.1 o’r Almaen, ac wedyn cymryd cyfran gychwynnol yn y gorfforaeth cyfryngau o Bortiwgal, Impresa. Mae gan y DU dirwedd ddarlledu gymharol unigryw gyda nifer o ddarparwyr PSM masnachol yn gweithredu ochr yn ochr â darlledwyr a ffrydwyr masnachol, ac nid yw wedi gweld yr un lefel o fargeinio a chydweithio eto. Fodd bynnag, mae’n dal i wynebu’r un pwysau yn y farchnad, ac mae adroddiadau cyhoeddus yn awgrymu y gallai datblygiadau tebyg ddilyn yn y dyfodol agos. 

Mae darlledwyr a ffrydwyr hefyd yn cymryd rhan mewn partneriaethau i gynyddu’r gynulleidfa maen nhw’n ei chyrraedd a rheoli costau dosbarthu. Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd Netflix bartneriaeth â’r darlledwr TF1 o Ffrainc, i alluogi cynulleidfaoedd i wylio cynnwys ar-alw a sianeli TF1 yn uniongyrchol ar y llwyfan ffrydio. Yn fuan wedyn, cyhoeddodd ITV a Disney bartneriaeth strategol i gludo cynnwys ei gilydd ar eu gwasanaethau ffrydio, gyda’r cytundeb yn cael ei ehangu i gynnwys prif sianel linol ITV1 ym mis Chwefror 2026.

Ar yr un pryd, mae rhannau eraill o’r sector yn dal i ehangu’n gyflym, gan fanteisio ar dechnoleg newydd a chyfleoedd i fynd yn uniongyrchol at ddefnyddwyr. Mae busnesau newydd digidol yn rhoi talent ac egni newydd i’r sector, ac mae poblogrwydd fideos dylanwadwyr gan bobl sy’n creu cynnwys yn y DU yn cynyddu gyda chynulleidfaoedd iau a hŷn. Mae llai o rwystrau i fynediad sy’n gysylltiedig â llwyfannau dosbarthu newydd yn galluogi lleisiau arbenigol, newyddiadurwyr annibynnol, a chymunedau ymylol i ddod o hyd i gynulleidfaoedd ar gyfer eu cynnwys ar raddfa na fyddai wedi bod yn bosibl o’r blaen, gan gynnwys yn rhyngwladol [footnote 18]. Mae cwmni cyfryngau’r DU, Goalhanger, sy’n adnabyddus am ei gyfres o sioeau ‘The Rest Is’, gan gynnwys The Rest Is History, yn ehangu i’r Unol Daleithiau a marchnadoedd byd-eang eraill.  

Mae’r newidiadau hyn hefyd wedi effeithio ar y cynnwys y mae’r sector yn ei wneud. Fwyfwy, nid yw cynnwys yn cael ei greu ar gyfer un sianel ddosbarthu, ond yn hytrach mae’n cael ei addasu ar draws nifer o lwyfannau i gyrraedd cynulleidfaoedd darniog a chynyddu refeniw. Mae’r cynnwys hwn hefyd yn defnyddio doniau teledu traddodiadol ochr yn ochr â sêr mwyaf poblogaidd yr economi creu. Mae cyfres hynod lwyddiannus y BBC, The Traitors, yn enghraifft wych o hyn. Mae clipiau penodau a chynnwys cryno arall yn cael eu defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth a chreu cyffro, ac mae podlediad gweledol i gyd-fynd â hyn, The Traitors Uncloaked, yn cynnig mwy o ymgysylltiad i wylwyr sydd eisiau mwy na’r prif benodau. Yn yr un modd, mae’r cwmnïau sy’n creu’r cynnwys hwn yn dod yn fwy traws-gyfrwng yn hytrach na chanolbwyntio ar sianeli dosbarthu penodol (edrychir yn fanylach ar y duedd hon yn adran 1.5). Mae’r cynnwys hwn sy’n draws-ddisgyblaeth, yn draws-lwyfan ac yn draws-fformat yn tynnu rhagor o sylw at yr angen i edrych ar ein dulliau gweithredu o ran y sector.

Y Cynllun Sector ar gyfer Diwydiannau Creadigol yw glasbrint y llywodraeth hon ar gyfer cefnogi twf sector sgrin y DU a sbarduno mewnfuddsoddiad mewn ymateb i’r newidiadau hyn. Gan adeiladu ar ein strategaeth ehangach ar gyfer y Diwydiannau Creadigol, rydym yn mynd ymhellach gyda chynllun penodol i sicrhau mai’r DU yw’r lle gorau yn y byd i greu cynnwys ffilm a theledu. Mae hyn yn golygu meithrin yr amodau iawn ledled y wlad ar gyfer ecosystem gymysg a ffyniannus o ddarparwyr masnachol a gwasanaeth cyhoeddus, sy’n denu mewnfuddsoddiad gan weithredwyr rhyngwladol mawr, yn cynnal sector cynhyrchu bywiog, ac yn galluogi cwmnïau yn y DU i gynyddu a chadw gwerth eu heiddo deallusol.

1.4 Yr effaith ar ddarparwyr PSM y DU

Mae system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus y DU yn unigryw, ac yn cael ei pharchu ledled y byd. Mae chwe darlledwr, BBC, ITV, STV, Channel 4, 5 ac S4C, o wahanol feintiau, arbenigeddau a modelau busnes - yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cystadlu er mwyn dod â manteision sylweddol i fywyd diwylliannol, economaidd a democrataidd y DU. Maen nhw wrth galon ein hecoleg gymysg o ran ffilm a theledu, ond mae’r sefyllfa hon dan fygythiad wrth i gynulleidfaoedd symud fwyfwy ar-lein.

Yn gyntaf oll, mae darparwyr PSM yn gwneud cynnwys gwreiddiol o ansawdd uchel yn y DU, sy’n galluogi pobl a chymunedau ym mhob rhan o’r wlad i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ar y sgrin fel rhan o’n stori genedlaethol. Mae cynnwys gwasanaeth cyhoeddus gan ein darparwyr PSM (cynnwys PSM) yn arwain at fanteision cymdeithasol a democrataidd sylweddol [footnote 19]. Boed hynny’r BBC a Channel 4 yn hyrwyddo cynrychioli anabledd ac yn tynnu sylw at brofiadau o fyddardod yn Reunion a Code of Silence, neu 5 yn adfywio Play for Today ac yn tynnu sylw at bynciau fel perthnasoedd hŷn a phwysau yn y gweithle yn y system addysg. Fe wnaeth Mr Bates vs The Post Office gan ITV helpu i ysgogi barn gyhoeddus a gwleidyddol am gamweinyddu cyfiawnder roedd y wasg wedi bod yn adrodd arno ers dros ddegawd, gan effeithio’n uniongyrchol ar drafodion yn y Senedd a’r llysoedd.

Mae darparwyr PSM yn darparu amrywiaeth o newyddion cenedlaethol, rhyngwladol a rhanbarthol sy’n ddibynadwy ac yn olygyddol gadarn. Mae ymchwil Ofcom wedi dangos hefyd fod y rheini sy’n cael gafael ar newyddion gan ddarparwyr PSM yn fwy tebygol o gywiro gwybodaeth ffeithiol bwysig, bod ganddyn nhw lefelau uwch o ymddiriedaeth mewn sefydliadau, a bod llai o hollti barn yn eu plith na’r rheini nad ydyn nhw’n cael newyddion gan ddarparwyr PSM [footnote 20]. Maen nhw hefyd yn chwarae rhan hanfodol fel asedau pŵer tyner a diwylliannol y DU, drwy gyfleu gwerthoedd Prydeinig dramor a sbarduno argraffiadau ffafriol o’r DU. Y BBC yw’r allbwn diwylliannol mwyaf adnabyddus yn rhyngwladol, a BBC World Service yw darlledwr rhyngwladol mwyaf dibynadwy’r byd o hyd.

Ar yr un pryd, mae darparwyr PSM yn ganolog i sbarduno twf a buddsoddiad yn y sector. Nid dim ond eu maint sy’n bwysig, ond hefyd y lefelau ymddiriedaeth a’r llif dibynadwy o gomisiynu a ddaw yn eu sgil. Mae’r rhain yn nodweddion sy’n hanfodol i sicrhau buddsoddiad sefydlog a hirdymor, sy’n bwysicach nag erioed wrth i amgylchedd y cyfryngau fynd yn fwy darniog a chymhleth. O ganlyniad, maen nhw’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu cronfa dalent ragorol y DU ar y sgrin ac oddi ar y sgrin sydd wedi helpu i ddenu mewnfuddsoddiad. Mae’r amrywiaeth o gynnwys maen nhw’n ei gynhyrchu yn golygu eu bod yn gallu cymryd risgiau gyda thalent newydd a thalent sy’n dod i’r amlwg. Heb y catalydd a’r buddsoddiad mewn cynhyrchu gan ein darparwyr PSM, mae’n bosibl na fyddai llawer o allbwn cynhyrchu ffrydwyr yn y DU wedi digwydd. 

Maen nhw hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sbarduno twf y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr a chefnogi cynhyrchwyr annibynnol yng ngwledydd a rhanbarthau’r DU. Yn 2024, roedd y gwariant ar brif gomisiynau yn y gwledydd a’r rhanbarthau wedi cynhyrchu £1.16 biliwn mewn refeniw cynhyrchwyr, ac roedd gwariant comisiynu rhwydwaith darparwyr PSM yn cyfrif am 68% o hynny [footnote 21]. Mae’r buddsoddiad a’r gweithgarwch hwn wedi cefnogi cynaliadwyedd clystyrau sgrin sydd wedi hen ennill eu plwyf, fel MediaCity yn Salford, neu Gaerdydd sydd wedi dod yn ganolfan sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ar gyfer cynhyrchu dramâu o safon uchel gyda’r cwmni cynhyrchu Bad Wolf a’r Wolf Studios cysylltiedig yn angor yn llwyddiant y sector lleol.

Mae’r DU hefyd yn elwa o system o wasanaethau teledu lleol masnachol, sy’n darlledu mewn trefi a dinasoedd ledled y wlad. Ers lansio’r gwasanaeth teledu lleol cyntaf yn 2013, mae teledu lleol wedi ategu’r hyn a gynigiwyd gan y darparwyr PSM cenedlaethol drwy ddarparu cynnwys a newyddion lleol i gymunedau ledled y DU. Mae hefyd wedi bod yn faes hyfforddi gwerthfawr i newydd-ddyfodiaid sy’n chwilio am y cyfle i gael profiad o weithio ym maes newyddiaduraeth a chynhyrchu teledu.

Fodd bynnag, mae rheoleiddiwr y cyfryngau, Ofcom, wedi tynnu sylw at y ffaith bod darparwyr PSM dan bwysau oherwydd eu maint a’u hadnoddau cymharol. Maen nhw’n brwydro i’w cynnwys gael ei weld a’i glywed mewn marchnad ddeinamig a chystadleuol, lle mae pobl yn gwylio mwy o gynnwys ar lwyfannau trydydd parti (fel cyfryngau cymdeithasol neu lwyfannau rhannu fideos), yn hytrach na sianeli neu wasanaethau fideo ar-alw’r darlledwyr eu hunain. Nid oes sicrwydd erbyn hyn mai’r pum sianel gyntaf ar yr amserlen rhaglenni draddodiadol yw’r drws ffrynt i wylio teledu fel yr oedden nhw ar un adeg. Heddiw, mae cynulleidfaoedd iau yr un mor debygol o droi at wasanaeth ffrydio drwy danysgrifiad pan fyddan nhw’n rhoi’r teledu ymlaen am y tro cyntaf ag ydyn nhw o wylio sianel linol [footnote 22]. Mae hyn yn cynyddu eu dibyniaeth ar genhedlaeth newydd o gyfryngwyr a chyd-gasglwyr.

Ffigur 3: Cyrchfannau pori cychwynnol, 2020-2025

“Nawr, dychmygwch eich bod yn chwilio am rywbeth i’w wylio. I le rydych chi’n troi gyntaf?”

Mae darparwyr PSM yn dechrau sicrhau bod eu cynnwys ar gael ar y gwasanaethau hyn, ond mae’r llwyfannau technoleg byd-eang sy’n rhedeg y llwyfannau hyn bellach yn rheoli’r prif lwybrau at gynulleidfaoedd ac yn siapio’r economeg o ran dosbarthu. Mae hyn yn golygu ei bod yn fwyfwy anodd i ddarparwyr PSM gael eu cynnwys unigryw, sy’n canolbwyntio ar y DU, o flaen cynulleidfaoedd. Mae hyn hefyd yn her iddyn nhw greu digon o elw ariannol, gan ei gwneud yn anoddach iddyn nhw gyllido’r gwaith o gynhyrchu a dosbarthu cynnwys o ansawdd uchel o’r DU i bob cynulleidfa [footnote 23]

Mae materion ariannol darparwyr PSM hefyd yn dod o dan bwysau yn sgil newidiadau strwythurol yn y farchnad hysbysebion teledu. Gyda mwy o gystadleuaeth, roedd refeniw hysbysebion darparwyr PSM masnachol, gyda’i gilydd (ITV, Channel 4, 5 ac STV) oddeutu £1.7 biliwn yn 2024, mwy na £700 miliwn yn is mewn termau real nag yr oedd yn 2018. Mae’r duedd hon yn cael ei gwaethygu gan lwyfannau ffrydio, a oedd yn arfer gwahaniaethu eu hunain oddi wrth ddarlledwyr drwy beidio â chario hysbysebion, gan lansio haenau gyda chymorth hysbysebion fel rhan o ymdrechion i arallgyfeirio eu refeniw a chynyddu maint yr elw. Yn 2025, roedd nifer y tanysgrifwyr ffrydio yn y DU ar becynnau sy’n cynnwys hysbysebion yn fwy na’r rheini ar haenau heb hysbysebion.

Mae’r BBC hefyd yn wynebu pwysau cyllido, yn rhannol oherwydd bod gan lai o aelwydydd drwydded deledu wrth i gynulleidfaoedd symud oddi wrth wylio teledu byw. Mae hyn wedi cyfrannu at dros 30% o ostyngiad yn incwm ffi’r drwydded y BBC mewn termau real dros y degawd diwethaf [footnote 24]. Mae’r datblygiadau hyn yn peryglu dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, a’r manteision economaidd, cymdeithasol a democrataidd y mae darparwyr PSM yn eu darparu. 

Ffigur 4: Refeniw o hysbysebion teledu yn y DU a refeniw o ffi trwydded y BBC, 2015- 2025 (nominal o’i gymharu â CPI-wedi’i addasu)

Ffynhonnell: Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon y BBC, Adroddiad Gwariant WARC/Advertising Association, dadansoddiad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon 

Mae camau penodol rydym yn annog darparwyr PSM i’w cymryd yn awr yn wyneb yr heriau hyn. Rydym yn cefnogi argymhelliad Ofcom yn ei adolygiad diweddaraf o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus fod angen i ddarparwyr PSM addasu i ddewisiadau cynulleidfaoedd drwy brofi ac ailadrodd ffyrdd newydd o ddosbarthu a chreu cynnwys, gan gynnwys ar lwyfannau trydydd parti [footnote 25]. Nododd y llywodraeth hefyd yn y Cynllun Sector ar gyfer y Diwydiannau Creadigol y byddem yn cefnogi cynlluniau trawsnewid a thwf digidol darparwyr PSM, ac yn eu hannog i greu partneriaethau strategol dwfn, lle mae’r rhain o fudd i’w cynulleidfaoedd a’u cynaliadwyedd ariannol. Bydd y newidiadau rydym yn ymgynghori yn eu cylch drwy’r papur gwyrdd hwn yn helpu darparwyr PSM i ymgymryd â’r gweithgareddau hyn gyda mwy o egni ac uchelgais. Rydym hefyd yn ymgynghori ar opsiynau drwy Adolygiad Siarter y BBC i annog y BBC i ymrwymo i bartneriaethau mwy uchelgeisiol, gan gynnwys cydweithio â darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus eraill.

Partneriaethau PSM 

Rydym wedi gweld nifer o enghreifftiau o bartneriaethau uchelgeisiol a strategol sy’n cynnwys darparwyr PSM yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r llywodraeth am greu fframwaith ar gyfer cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n annog mwy ohonyn nhw. 

Freely

Cydweithiodd y BBC, ITV, Channel 4 a 5 drwy eu menter ar y cyd, Everyone TV, i lansio Freely, llwyfan ffrydio ar y cyd. Mae’r llwyfan yn ceisio diogelu teledu am ddim ar gyfer y dyfodol drwy ddarparu sianeli llinol byw a chynnwys ar-alw, gan gynnwys cynnwys gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel, yn ddi-dor dros y rhyngrwyd. Ers hynny, mae’r cydweithio hwn wedi ehangu i gynnwys STV, S4C ac UKTV, ochr yn ochr â phartneriaid technoleg byd-eang gan gynnwys Roku ac Amazon Fire TV. Mae’r defnydd o Freely yn parhau i dyfu ac ym mis Rhagfyr 2025 roedd mwy na miliwn o ddefnyddwyr bob wythnos

Partneriaeth y BBC-S4C 

Ym mis Ionawr 2026, cyhoeddodd y BBC ac S4C bartneriaeth ffrydio newydd (a ddaw i rym o fis Ebrill 2026 ymlaen) i wella’n sylweddol pa mor hawdd yw dod o hyd i gynnwys Cymraeg ar BBC iPlayer. O dan y cytundeb, bydd rhaglenni S4C yn cael lleoliad proffil uchel ar hafan iPlayer yng Nghymru, a bydd dramâu blaenllaw a chwaraeon byw yn cael eu hyrwyddo ledled y DU am y tro cyntaf. Yn ogystal â churadu gwell, mae’r bartneriaeth yn cyflwyno nodweddion technegol gwell, gan gynnwys nifer o ffrydiau chwaraeon byw gyda sylwebaeth Saesneg ddewisol ac isdeitlau estynedig.

Un o’r ffyrdd mwyaf amlwg y mae darparwyr PSM yn parhau i ddod â’r genedl at ei gilydd yw ar gyfer achlysuron chwaraeon gwych. Rydym am sicrhau bod y prif ddigwyddiadau chwaraeon yn dal ar gael i bobl eu gwylio am ddim am flynyddoedd i ddod. Mae’r drefn Digwyddiadau Rhestredig yn ceisio sicrhau bod cynulleidfaoedd yn gallu gwylio campau chwaraeon o fri, er enghraifft Wimbledon neu Rownd Derfynol Cwpan yr FA yn fyw, heb orfod talu tanysgrifiad. Fodd bynnag, mae cynulleidfaoedd fwyfwy yn dewis gwylio chwaraeon ar-alw yn hytrach nag yn fyw. Mae’r drefn bresennol yn berthnasol i hawliau darlledu byw yn unig. Er bod hawliau byw ac ar-alw yn cael eu gwerthu ar ffurf pecyn fel mater o drefn, rydym yn ymwybodol na fydd hyn yn digwydd bob amser. Rydym yn credu y dylid diogelu hawliau ar-alw o dan y drefn, er mwyn i ddarparwyr PSM allu cystadlu’n deg â’u cystadleuwyr byd-eang mwy am yr hawliau hynny. Felly, rydym yn bwriadu deddfu i ymestyn y drefn i gynnwys hawliau ar-alw pan fydd amser y Senedd yn caniatáu hynny.

1.5 Yr effaith ar sector cynhyrchu’r DU

Mae ein sector cynhyrchu teledu annibynnol yn llwyddiant ar draws y byd. Mae’r DU yn enwog ledled y byd am ei hysbryd creadigol, ei gweithlu medrus iawn a’i chyfleusterau cynhyrchu o’r radd flaenaf. Mae’r llywodraeth yn parhau i gefnogi’r sector ac mae ein Cynllun Sector ar gyfer Diwydiannau Creadigol yn nodi nifer o ymrwymiadau, gan gynnwys cynnal mesurau treth cystadleuol ar gyfer cynyrchiadau teledu drwy’r Credyd Gwariant Clyweledol a chefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau’r sector sgrin i gryfhau’r gweithlu [footnote 26]

Mae ein darparwyr PSM wedi bod yn ganolog i gryfder a llwyddiant ein sector cynhyrchu annibynnol. Maen nhw’n darparu parhad i’r gwaith comisiynu ar gyfer cwmnïau cynhyrchu annibynnol o bob maint ac arbenigedd. Yn 2024, roedd darparwyr PSM yn cyfrif am ychydig dros 80% o wariant comisiynu teledu domestig y DU [footnote 27]. Mae teledu domestig yn darparu’r parhad mewn cyflogaeth sydd ei angen ar weithwyr llawrydd i gynnal a datblygu eu sgiliau, ac mae’n fan cychwyn i awduron, cyfarwyddwyr, criwiau, a chynhyrchwyr sy’n dod i’r amlwg. Mae hyn yn ei dro yn gwneud y DU yn ddeniadol ar gyfer mewnfuddsoddiad gan ffrydwyr a chomisiynwyr rhyngwladol eraill sydd am fanteisio ar yr ecosystem hon i wneud cynnwys yn y DU. Yn 2025 roedd cynyrchiadau mewnfuddsoddi yn cyfrif am £3.3 biliwn, neu 81%, o wariant cynyrchiadau’r DU ar deledu o safon uchel[footnote 28].

Comisiynu a Chynhyrchu yn y Gwledydd a’r Rhanbarthau

O The Responder a Riot Women i Blue Lights a Brassic, mae’r rhain i gyd yn straeon sy’n cael eu gwneud y tu allan i Lundain ac mewn clystyrau sgrin ar draws y gwledydd a’r rhanbarthau (Lerpwl, Swydd Efrog, Belfast a Swydd Gaerhirfryn, yn y drefn honno). Straeon sy’n cael eu hadrodd gan awduron lleol ac sy’n dangos y cymunedau lle maen nhw wedi’u lleoli. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ymdrechion wedi cael eu gwneud i gymell gwaith comisiynu a chynhyrchu yn y gwledydd a’r rhanbarthau, gan gynnwys annog ein darparwyr PSM i sefydlu mwy o bresenoldeb y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr (er enghraifft, Channel 4 yn Leeds a’r BBC yn MediaCity Salford a Digbeth yn Birmingham). Fodd bynnag, mae’r sector teledu wedi’i ganoli’n fawr iawn yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr o hyd, gyda dros hanner y prif wariant comisiynu yn cael ei wneud yno. 

Rydym am weld ein clystyrau sgrin yn mynd o nerth i nerth ac yn tyfu’n gynaliadwy. Yr hyn sy’n hanfodol yma yw bod darlledwyr a chomisiynwyr eraill yn dod yn fwy uchelgeisiol wrth gomisiynu cynnwys ar draws y gwledydd a’r rhanbarthau. Rydym wedi bod yn ymgysylltu â’r diwydiant i ddeall beth sy’n rhwystro mwy o weithgarwch, ac rydym wedi comisiynu ymchwil i weld beth yw costau gweithgarwch cynhyrchu ar draws y gwahanol glystyrau sgrin yn y DU o’i gymharu â Llundain a De-ddwyrain Lloegr. Bydd hyn yn cefnogi ein camau nesaf wrth ystyried y ffordd orau o gefnogi twf y sector cynhyrchu yn y gwledydd a’r rhanbarthau.

Fodd bynnag, fel y cyfeirir ato yn adran 1.4, mae pŵer gwario darparwyr PSM yn gostwng. Mae hyn, ynghyd â chostau cynhyrchu cynyddol a phwysau chwyddiant yn y sector, yn enwedig ar gyfer cynnwys o safon uchel fel drama, yn effeithio ar allu darparwyr i gomisiynu ac ariannu cynnwys o’r fath ar yr un lefel ag o’r blaen. Yn 2024, gwelwyd 2.3% o ostyngiad yn refeniw comisiynu sylfaenol y DU, y rhan fwyaf ohono’n deillio o wariant comisiynu darparwyr PSM [footnote 29].

Hefyd, mae darparwyr PSM wedi dechrau mabwysiadu strategaethau comisiynu ‘digidol yn gyntaf’ a ‘llai, mwy a gwell’ i flaenoriaethu cynnwys sy’n perfformio’n dda ar lwyfannau ffrydio sydd, ar y cyd â newid mewn chwaeth ac arferion cynulleidfaoedd, wedi arwain at lai o gomisiynau o ambell genre. Mae Pact, y corff masnach ar gyfer cynhyrchwyr teledu a ffilmiau annibynnol, wedi rhybuddio y gallai’r cyfuniad o arafwch wrth gomisiynu, a’r newid yn y cymysgedd o genres sy’n cael eu comisiynu, fod yn rhan o newid strwythurol sy’n newid cydbwysedd a nodweddion y sector cynhyrchu.

Ffigur 5: Cynnwys PSM ar draws genres yn ôl nifer yr oriau o allbwn gwreiddiol sy’n cael ei ddarlledu am y tro cyntaf

Ffynhonnell: Ofcom, Cronfa Ddata Rhaglenni O&O, dadansoddiad Oliver & Ohlbaum. Mae’r siart yn dangos allbwn gwreiddiol sy’n cael ei ddarlledu am y tro cyntaf gan ddarparwr PSM ar gyfer pob rhan o’r dydd, yn ôl genre, mewn miloedd o oriau ar gyfer 2014-2024, ac eithrio Newyddion a Materion Cyfoes a Chwaraeon.

Wrth i’r gystadleuaeth am gomisiynau gynyddu, mae cynhyrchwyr, yn yr un modd â darlledwyr, wedi troi at gyfuno mewn ymgais i leihau costau a chystadlu â gwasanaethau ffrydio byd-eang sy’n rheoli ac yn berchen ar bopeth o fewn y gadwyn gyflenwi. Er enghraifft, prynodd y cwmni cynhyrchu o Ffrainc, Mediawan, gwmni North Road o’r Unol Daleithiau ym mis Ionawr 2026, ac erbyn hyn mae gan y grŵp cyfunol gyfran mewn tua 100 o gwmnïau cynhyrchu unigol. Mae’r cwmnïau cynhyrchu mwyaf bellach yn fwy na llawer o’n darlledwyr domestig.

O dan fframwaith telerau masnach y DU, mae cynhyrchwyr annibynnol a gomisiynir gan ddarparwyr PSM yn cadw perchnogaeth o’u heiddo deallusol, gan ganiatáu iddyn nhw adeiladu gwerth asedau drwy werthiannau rhyngwladol, trwyddedu fformatau, a manteisio’r eildro. Rydym yn deall pwysigrwydd diogelu marchnad gynhyrchu fywiog a deinamig a’r rôl y mae telerau’r drefn fasnach yn ei chwarae o ran cefnogi hyn. Mae hefyd yn bwysig bod gennym ddarparwyr PSM cryf a chynaliadwy i sicrhau llwyddiant parhaus y fframwaith. Mae diwygiadau a gyflwynwyd yn Neddf Cyfryngau 2024 wedi golygu bod angen i ddarparwyr PSM ddiweddaru eu codau ar gyfer comisiynu gan gynhyrchwyr annibynnol, a chanllawiau Ofcom ar gyfer darparwyr PSM wrth lunio’r codau hynny. O ganlyniad, mae’r llywodraeth yn bwriadu caniatáu amser i’r newidiadau hyn setlo cyn ystyried a fyddai diwygiadau pellach yn briodol.

Pan fydd llwyfannau ffrydio byd-eang yn comisiynu’n uniongyrchol, maen nhw fel arfer yn cadw’r eiddo deallusol. Er bod hyn wedi helpu i lenwi bylchau mewn gwariant cynhyrchu domestig ac wedi arwain at fanteision ehangach sy’n gorgyffwrdd, mae mewnfuddsoddiad yn newid y gwerth masnachol gweddilliol fwyfwy y tu allan i’r farchnad ddomestig. Er bod 74% o fusnesau sgriniau’n defnyddio rhyw fath o gyllid allanol (cyfradd uwch na busnesau bach a chanolig yn y DU), mae 83% yn dweud nad yw’r galw am gyllid wedi’i ddiwallu ac mae 77% yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu hariannu’n ddigonol. Mae’r sector yn wynebu her graidd - cydbwyso mewnfuddsoddiad ag ecosystem ddomestig ar gyfer comisiynu ac eiddo deallusol sy’n gallu gwasanaethu cynulleidfaoedd y DU. Rhaid i gynhyrchwyr ymdopi â phwysau uniongyrchol o ran cyllid cynhyrchu yng nghanol marchnad ddomestig ansefydlog yn ogystal â diogelu’r gwerth economaidd tymor hwy sy’n gysylltiedig â chadw eiddo deallusol.

Mewn ymateb i’r pwysau hyn, ac i helpu’r sector i fanteisio ar gyfleoedd twf mewn marchnad sy’n esblygu, mae Cynllun Sector ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yn nodi strategaeth gydlynol i gryfhau tirwedd cynhyrchu’r DU. Un o’r blaenoriaethau craidd yw ehangu llwybrau cyllido amgen a chyfleoedd allforio ar gyfer cynhyrchwyr yn y DU, gan gydnabod bod “ecoleg ffilm a theledu gymysg” yn sail i ddiwydiant cryf sy’n gystadleuol yn rhyngwladol. Bydd gwell mynediad at gyllid yn rhoi cynhyrchwyr y DU mewn sefyllfa gryfach i gadw eu heiddo deallusol, gan olygu bod angen iddyn nhw ddibynnu llai ar werthu’r eiddo deallusol hwnnw i sicrhau cyllid a thrwy hynny sicrhau eu bod yn gallu cynhyrchu refeniw mwy hirdymor a thyfu busnesau llwyddiannus. 

Mae’r Cynllun hefyd yn cynnwys buddsoddiadau mawr mewn talent, arloesi, a chapasiti rhanbarthol. Cafodd Pecyn Twf Sgrin gwerth £75 miliwn ei lansio ym mis Ebrill 2026, sy’n cynnwys Cronfa Sgrin Fyd-eang ehangach yn y DU o £18 miliwn y flwyddyn (2026–2029), i gryfhau datblygiad busnes ar lefel ryngwladol, cefnogi cyd-gynyrchiadau a gwella sut mae cynnwys annibynnol o’r DU yn cael ei ddosbarthu’n fyd-eang. Fel rhan o ymrwymiad Cynllun y Sector i adeiladu gweithlu cadarn a medrus ar gyfer y dyfodol, mae’r diwydiannau creadigol wedi ymrwymo i fynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu drwy gymorth ar draws y diwydiant i Awdurdod Safonau Annibynnol y Diwydiannau Creadigol (CIISA), a fydd yn cefnogi’r diwydiant teledu yn ei don gyntaf o weithrediadau. Mae hyn ochr yn ochr â rôl hollbwysig yr undebau, fel Equity a Bectu.

Ar yr un pryd, mae newidiadau yn arferion gwylio cynulleidfaoedd, a thwf llwyfannau rhannu fideos yn benodol, yn creu cyfleoedd newydd i gynhyrchwyr a chrewyr cynnwys eraill sy’n gallu meithrin perthynas uniongyrchol â chynulleidfaoedd. Mae llwyfannau newydd yn galluogi cynhyrchwyr a deiliaid hawliau i osgoi porthorion traddodiadol (fel darlledwyr a ffrydwyr) a phennu gwerth ariannol cynnwys yn uniongyrchol. Mae’r galw am fformatau newydd fel rhaglenni gwreiddiol YouTube a phodlediadau fideo yn debygol o gynyddu, ac mae’r cwmnïau cynhyrchu deinamig ac entrepreneuraidd sy’n ffurfio sector y DU mewn sefyllfa dda i elwa.

1.6 Edrych tua’r dyfodol

Mae tirwedd cyfryngau’r DU yn mynd drwy ei thrawsnewidiad mwyaf arwyddocaol ers dyfeisio’r set deledu. Wrth i gynulleidfaoedd symud oddi wrth ddarlledu llinol traddodiadol tuag at fyd ar-lein, mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod ein sector teledu, gyda’r gorau yn y byd, yn parhau i fod yn gonglfaen i’n democratiaeth.

Y tu hwnt i’r Ddeddf Cyfryngau 

Mae’r ymyriadau sy’n destun ymgynghoriad yn y papur gwyrdd hwn yn adeiladu ar y diwygiadau pwysig a gyflwynwyd gan Ddeddf Cyfryngau 2024, sy’n cefnogi llwyddiant a chynaliadwyedd hirdymor y sector teledu a’n cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn benodol.

Gwnaeth y Ddeddf newidiadau mawr eu hangen i reoleiddio cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, a gafodd eu diweddaru’n sylweddol ddiwethaf yn 2003. Er enghraifft, mae’n diweddaru’r fframwaith cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i ganiatáu i’n darparwyr PSM ddarparu mwy o’u gofynion gan ddefnyddio eu gwasanaethau ar-alw (er enghraifft, ITVX neu ap Clic S4C). Mae’r Ddeddf hefyd yn creu fframwaith newydd ar gyfer amlygrwydd ar-lein i sicrhau ei bod yn dal yn hawdd dod o hyd i gynnwys PSM gwerthfawr ar setiau teledu clyfar. Mae hefyd yn golygu bod rheoleiddio gwasanaethau fideo ar-alw prif ffrwd yn cyd-fynd yn well â theledu sy’n cael ei ddarlledu, er mwyn diogelu cynulleidfaoedd yn well a helpu i sicrhau tegwch.

Mae’r broses o ddod â darpariaethau’r Ddeddf Cyfryngau i rym yn mynd rhagddi ers tro. Fodd bynnag, mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio y mae ein darparwyr PSM yn gweithredu ynddo yn cyd-fynd â newidiadau yn y dirwedd cyfryngau. Y Ddeddf Cyfryngau ddechreuodd y daith hon, ond rydym yn ymwybodol bod cyfradd aruthrol y newid yn golygu bod angen i ni ystyried lle mae angen i ni fynd ymhellach.

Fel sy’n cael ei drafod yn adran 1.4, mae darparwyr PSM nawr yn gwneud cynnwys ar gyfer eu gwasanaethau fideo ar-alw eu hunain, ond hefyd ar gyfer llwyfannau trydydd parti fel llwyfannau rhannu fideos a chyfryngau cymdeithasol. Yn gyffredinol, mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu sy’n helpu i ehangu mynediad at gynnwys gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel. Fodd bynnag, mae’r ffyrdd amrywiol y mae darparwyr PSM yn darparu eu cynnwys yn ei gwneud yn fwyfwy anymarferol i’r darparwyr hynny gael eu rheoleiddio’n bennaf drwy eu trwyddedau darlledu (trafodir hyn ymhellach yn adran 4.2). Mae hefyd yn codi cwestiynau ynghylch cwmpas y drefn amlygrwydd, y mae Ofcom wedi awgrymu y gellid ei hymestyn i gynnwys y llwyfannau trydydd parti hynny, fel YouTube (sy’n cael ei ystyried ymhellach yn adran 4.1).

Nid oedd y diwygiadau yn y Ddeddf Cyfryngau yn ymestyn i gwotâu newyddion a materion cyfoes darparwyr PSM y mae’n dal yn rhaid iddyn nhw eu cyflawni drwy eu sianeli darlledu. Fel y nodir yn adran 2.1, mae pobl yn cael gafael ar fwy a mwy o newyddion ar-lein, a gallai hyn gyfyngu ar y cymhellion i ddarparwyr PSM ddarparu newyddion diduedd a chywir i’r llwyfannau hynny.

Mae perygl hefyd, er gwaethaf y newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Cyfryngau, y bydd proses rheoleiddio teledu yn ei chael hi’n anodd dal i fyny ag unrhyw arloesi yn y cyfryngau a newidiadau i sut mae cynulleidfaoedd yn cael gafael ar gynnwys (adran 1.1). Mae’r newid cyflym yn y maes hwn, hyd yn oed ers pasio’r Ddeddf Cyfryngau, yn golygu bod angen edrych ar fframwaith newydd ar gyfer rheoleiddio teledu. 

Ni allwn fforddio aros cyn ystyried pa newidiadau pellach y gallai fod eu hangen yn y dyfodol. Gall ymyriadau sy’n gofyn am ddeddfwriaeth gymryd blynyddoedd i’w cyflwyno, felly mae’n briodol ein bod yn dechrau ymgynghori ar y rheini yn awr.

Fel y mae’r datblygiadau yn y bennod hon wedi dangos, rydym mewn cyfnod o drawsnewid yn hytrach nag esblygiad. Mae hyn yn gofyn am agwedd uchelgeisiol tuag at ddatblygu polisi. I wneud hyn, byddwn yn gweithredu gan ganolbwyntio ar y gynulleidfa, ar sail yr hyn y mae pobl yn ei ystyried yn deledu neu’n ‘debyg i deledu’. Mae’r diffiniadau traddodiadol a’r seilos sydd wedi bodoli yn y sector wedi chwalu, a rhaid i ffordd y llywodraeth o edrych ar reoleiddio a chefnogi ymateb yn unol â hynny, fel ein bod yn gwasanaethu cynulleidfaoedd drwy eu diwallu o ran lle maen nhw’n mynd i ddod o hyd i gynnwys. Nid darlledwyr domestig yn unig yw’r prif weithredwyr yn niwydiant teledu’r DU erbyn hyn, ond hefyd stiwdios yn yr Unol Daleithiau, ffrydwyr rhyngwladol, a llwyfannau technoleg a chyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i ni ystyried sut mae rheoliadau newydd sy’n benodol i deledu yn gweithio ochr yn ochr ag ymyriadau eraill sydd wedi’u llunio i ymateb i newidiadau mewn marchnadoedd defnyddwyr sy’n newid yn gyflym, fel cystadleuaeth ymysg marchnadoedd digidol a’r cyfundrefnau ar gyfer niwed ar-lein, i sicrhau dull rheoleiddio cydlynol.  

Fodd bynnag, os gallwn harneisio’r newid hwn, mae’r manteision posibl yn enfawr. Mae cyfanswm refeniw hysbysebu a thanysgrifio yn gryf, gan sbarduno twf yn y buddsoddiad cyffredinol mewn cynnwys. Rhagwelir y bydd gwariant ar gynnwys byd-eang yn fwy na $250 biliwn yn 2026, y ffigur uchaf ar gofnod. Mae cynulleidfaoedd yn dal i fod â’r un diddordeb ag erioed mewn cynnwys, gyda’r ffigurau diweddaraf gan Ofcom yn dangos bod oedolyn cyffredin yn y DU yn dal i dreulio 4 awr a 30 munud bob dydd yn gwylio cynnwys fideo yn eu cartrefi [footnote 30]. Ochr yn ochr â hyn, mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu bod costau dosbarthu wedi lleihau, gan leihau’r rhwystrau i fynediad ar gyfer amrywiaeth o dalent newydd, yn aml o gefndiroedd sydd wedi cael eu tangynrychioli neu eu gwthio i’r cyrion yn y gorffennol

Ein gweledigaeth yw trawsnewid o hen amgylchedd darlledu i ecosystem fodern sy’n cael ei harwain gan y rhyngrwyd lle mae cynnwys o ansawdd uchel o Brydain nid yn unig yn cael ei ddiogelu ond yn ffynnu. Rydym yn awyddus i bontio’r bwlch rhwng safonau teledu traddodiadol a’r byd ar-lein, gan sicrhau bod gwylwyr sy’n chwilio am gynnwys teledu neu gynnwys tebyg i deledu yn cael eu gwarchod rhag cynnwys niweidiol a chamwybodaeth. Byddwn yn creu amgylchedd lle mae newyddion sy’n cyrraedd safonau uchel o ddidueddrwydd dyladwy a chywirdeb yn hawdd i gynulleidfaoedd ddod o hyd iddo. Rydym am i blant a chynulleidfaoedd ifanc chwilio a gweld cynnwys sy’n hysbysu ac yn addysgu, heb y risgiau sy’n gysylltiedig â llwyfannau heb eu hidlo. Ar yr un pryd, rydym am wneud yn siŵr nad yw darlledwyr yn cael eu llethu gan reoliadau hen ffasiwn sy’n llesteirio eu gallu i dyfu. 

Drwy ddiwygio’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, byddwn yn sicrhau bod ei fanteision cymdeithasol a democrataidd, dod â phobl at ei gilydd drwy brofiadau cyffredin a straeon cenedlaethol dibynadwy, yn cael eu sicrhau ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Drwy ddarparu sicrwydd hirdymor i ddarparwyr PSM a darlledwyr masnachol, byddwn yn creu tirwedd sy’n gwobrwyo straeon beiddgar, gwreiddiol o’r DU, a bod y gorau o deledu Prydain yn dal yn rhan gyffredin a hygyrch o’n hunaniaeth genedlaethol. Mae’r weledigaeth hon yn cefnogi sector cynhyrchu amrywiol sy’n cwmpasu’r wlad gyfan, o ganolfannau sydd wedi ennill eu plwyf i glystyrau rhanbarthol sy’n datblygu. Man lle gall comisiynwyr a chenhedlaeth newydd o gynhyrchwyr gydweithio, gan ddefnyddio technolegau newydd i gyrraedd cynulleidfaoedd mewn ffyrdd creadigol, gan sicrhau bod yr eiddo deallusol a’r manteision economaidd yn parhau i fod wedi’u gwreiddio yn y DU.

Pennod 2: Cefnogi amgylchedd gwybodaeth iach

Mae’r ffordd rydym yn cael gafael ar newyddion a chyfryngau eraill wedi newid am byth, gan greu trobwynt hollbwysig yn ein cymdeithas. Mae’r oes ddigidol, wedi’i siapio gan algorithmau, cyfryngau cymdeithasol, a galluoedd deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol sy’n dod i’r amlwg, wedi trawsnewid sut mae pobl yn cael gafael ar newyddion a gwybodaeth. Er ei fod yn cynnig mynediad hollol newydd at wybodaeth, mae’r newid hwn hefyd wedi ei gwneud yn haws i ddeunydd anghywir neu ddeunydd wedi’i drin gylchredeg ar raddfa fawr. Mae’r union ddiffiniad o’r hyn sy’n “newyddion” yn cael ei herio. Mae hyn yn peryglu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn sefydliadau ac yn bygwth mynediad at y gwirionedd pan fydd ei angen fwyaf arnom.

Mae ecosystem gref a dibynadwy ar gyfer gwybodaeth a chyfryngau yn sail i ddemocratiaeth iach. Mae rôl ddemocrataidd y cyfryngau yn dibynnu ar eu gallu i ddarparu gwybodaeth ddibynadwy a hygyrch, gan sicrhau bod safbwyntiau amrywiol yn cael eu clywed. Mae’n anodd i ddinasyddion wneud dewisiadau gwybodus a rhydd heb gyfryngau sy’n seiliedig ar ffeithiau cywir a chyffredin. 

Yn y cyd-destun hwn, mae gwybodaeth yn rhan o’n seilwaith democrataidd. Mae angen i ni ddiogelu ein hecosystem cyfryngau gyda’r un ymroddiad ag yr ydym yn diogelu mathau eraill o seilwaith cyhoeddus. Nid hyrwyddo un naratif na chyfyngu ar unrhyw anghytuno yw’r nod. Mae amgylchedd lle mae nifer o gyfryngau’n bodoli yn creu sylfaen gyffredin o ffeithiau wedi’u dilysu, gan alluogi safbwyntiau amrywiol i gael eu herio a’u trafod. Mewn amgylchedd sy’n llawn camwybodaeth a lle mae gwybodaeth yn cael ei thrin a’i chamdrafod yn fwriadol, mae gwerth newyddiaduraeth sy’n seiliedig ar safonau a moeseg broffesiynol yn dod yn bwysicach fyth. Mae budd cyhoeddus newyddiaduraeth o’r fath yn dibynnu ar ba mor rhwydd mae cael gafael arni a gallu’r cyhoedd i ymgysylltu â’r newyddiaduraeth mewn modd beirniadol.

Mae cryn bryder hefyd bod y gwahaniaeth rhwng adroddiadau newyddion ffeithiol a deunydd polemig gwleidyddol yn aneglur yn nhirwedd cyfryngau’r DU. Er bod gan ohebu pleidiol le pwysig yn yr amgylchedd gwybodaeth, gall fod yn niweidiol os na all cynulleidfaoedd wahaniaethu’n hawdd rhwng ffaith wrthrychol, a barn neu bolemig. Mae’r cynnydd yn nifer y gwleidyddion sy’n cael eu defnyddio fel cyflwynwyr hefyd wedi cyfrannu at y risg hon, yn enwedig mewn amgylchedd dibynadwy sy’n cael ei reoleiddio, er enghraifft, rhaglenni sy’n cael eu rheoleiddio gan Ofcom.

Mae uniondeb ein hecosystem cyfryngau a gwybodaeth yn flaenoriaeth genedlaethol sy’n gofyn am ystyriaeth frys i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â chyflymder y trawsnewid digidol. Er mwyn diogelu democratiaeth wybodus a chymdeithas gydlynol, rhaid i ni fynd i’r afael â’r bygythiadau hyn gydag ymyriadau i gefnogi ecosystem cyfryngau sy’n annibynnol, yn atebol, yn lluosog ac, yn hollbwysig, yn ddibynadwy.

2.1 Sut mae technoleg yn ail-lunio newyddion a gwybodaeth

Mae datblygiadau technolegol diweddar yn cynnig cyfleoedd a heriau o ran sicrhau cymdeithas wybodus ac amgylchedd cyfryngau dibynadwy. Mae cyfryngwyr ar-lein fel peiriannau chwilio, cyd-gasglwyr newyddion a chyfryngau cymdeithasol yn rheoli mwy a mwy sut mae pobl yn cael gafael ar newyddion ar-lein. Yn wir, yn ôl Ofcom, mae 6 oedolyn o bob 10 yn defnyddio rhyw fath o gyfryngwr ar-lein (fel cyfryngau cymdeithasol, peiriant chwilio neu gyd-gasglwr newyddion) ar gyfer eu newyddion [footnote 31]. Mewn rhai achosion, mae algorithmau yn blaenoriaethu ymgysylltiad defnyddwyr a phoblogrwydd yn hytrach na hyrwyddo cynnwys cywir neu ddibynadwy. Hefyd, mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cyflwyno cynnwys proffesiynol a chynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr ochr yn ochr, gan guddio unrhyw wahaniaethau mewn ansawdd a pheryglu hunaniaeth brand newyddion . Mae’r sefyllfa hon o ‘rywun yn y canol’ wedi ei gwneud yn anoddach i hyd yn oed bobl sy’n llawn bwriadau da ddeall, asesu a rhoi cyd-destun i’r wybodaeth a gyflwynir iddyn nhw, sy’n dangos pa mor bwysig yw ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.

Mae’n ei gwneud yn anoddach hefyd i ddarparwyr newyddion dibynadwy ddod o hyd i gynulleidfa, ei chynnal a chreu gwerth ariannol ohoni, gyda sgil-effeithiau ar hyfywedd masnachol newyddiaduraeth sydd er budd y cyhoedd. Bydd trefn marchnadoedd digidol newydd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn, drwy hybu cystadleuaeth a helpu i ailgydbwyso’r berthynas rhwng y prif lwyfannau a’r rheini sy’n dibynnu arnyn nhw, gan gynnwys darparwyr newyddion. Yn ddiweddar, gosododd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd y Gofyniad Ymddygiad cyntaf, o dan y drefn, ar reolaethau cyhoeddwyr mewn hysbysebion wrth chwilio a chwilio drwy Google. Nod hyn oedd sicrhau tryloywder, priodoliad, a dewis i gyhoeddwyr o ran sut mae eu cynnwys, sy’n cael ei gasglu at ddibenion chwilio, yn cael ei ddefnyddio yn nodweddion deallusrwydd artiffisial Google wrth chwilio, fel crynodebau Deallusrwydd Artiffisial.

Yn fwy cyffredinol, mae’r cynnydd diweddar mewn deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn gwneud yr heriau hyn yn waeth oherwydd ei fod yn ei gwneud yn anoddach fyth i bobl ddeall a yw gwybodaeth yn ddibynadwy ai peidio, yn ogystal â heriau masnachol sy’n datblygu’n gyflym. Mae hyn yn golygu bod yr achos dros ymyrryd yn fwy brys nag erioed. Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol hefyd yn cynnig cyfleoedd enfawr o ran cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio newyddion a gwybodaeth, ond mae angen i ni hefyd fod yn ymwybodol o’r bygythiad posibl y mae’n ei achosi i ymddiriedaeth yn amgylchedd y cyfryngau. Mae crynodebau newyddion sy’n cael eu cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial hefyd yn dod yn y canol rhwng darparwyr newyddion a chynulleidfaoedd, ond maen nhw’n gwneud hynny drwy geisio diwallu anghenion gwybodaeth y gynulleidfa yn hytrach na hwyluso mynediad at wasanaeth y darparwr newyddion ei hun, gan erydu mwy ar hunaniaeth brand newyddion, nifer y gynulleidfa sy’n defnyddio’r gwasanaeth newyddion gan ddarparwr, a refeniw sy’n deillio o ddefnyddwyr. Mae hyn yn peri cryn bryder wrth feddwl am y posibilrwydd o anghywirdeb. Mewn ymchwil ddiweddar gan y BBC, canfu fod problemau sylweddol yn 51% o’r holl atebion drwy ddeallusrwydd artiffisial i gwestiynau am y newyddion, a bod 19% o’r atebion drwy ddeallusrwydd artiffisial a oedd yn nodi cynnwys y BBC wedi cyflwyno gwallau ffeithiol.

Yn fwy cyffredinol, mae’r cynnydd diweddar mewn deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn gwneud yr heriau hyn yn waeth oherwydd ei fod yn ei gwneud yn anoddach fyth i bobl ddeall a yw gwybodaeth yn ddibynadwy ai peidio, yn ogystal â heriau masnachol sy’n datblygu’n gyflym. Mae hyn yn golygu bod yr achos dros ymyrryd yn fwy brys nag erioed. Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol hefyd yn cynnig cyfleoedd enfawr o ran cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio newyddion a gwybodaeth, ond mae angen i ni hefyd fod yn ymwybodol o’r bygythiad posibl y mae’n ei achosi i ymddiriedaeth yn amgylchedd y cyfryngau. Mae crynodebau newyddion sy’n cael eu cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial hefyd yn dod yn y canol rhwng darparwyr newyddion a chynulleidfaoedd, ond maen nhw’n gwneud hynny drwy geisio diwallu anghenion gwybodaeth y gynulleidfa yn hytrach na hwyluso mynediad at wasanaeth y darparwr newyddion ei hun, gan erydu mwy ar hunaniaeth brand newyddion, nifer y gynulleidfa sy’n defnyddio’r gwasanaeth newyddion gan ddarparwr, a refeniw sy’n deillio o ddefnyddwyr. Mae hyn yn peri cryn bryder wrth feddwl am y posibilrwydd o anghywirdeb. Mewn ymchwil ddiweddar gan y BBC, canfu fod problemau sylweddol yn 51% o’r holl atebion drwy ddeallusrwydd artiffisial i gwestiynau am y newyddion, a bod 19% o’r atebion drwy ddeallusrwydd artiffisial a oedd yn nodi cynnwys y BBC wedi cyflwyno gwallau ffeithiol [footnote 32].

Astudiaeth achos: Labelu Deallusrwydd Artiffisial

Mae camau’n cael eu cymryd yn barod i helpu defnyddwyr ar-lein i wahaniaethu rhwng cynnwys synthetig. Mae TikTok yn mynd ati’n awtomatig nawr i labelu cyfryngau sy’n dod i mewn pan fydd metaddata ynghlwm wrtho; mae YouTube wedi dechrau defnyddio labeli o dan fideos sy’n dangos a gafodd ei ffilmio ar gamera; mae Meta yn defnyddio metaddata fel sail i’w labeli “Made with AI” ar Instagram a Facebook; ac mae LinkedIn yn dangos Manylion Cynnwys ar ddelweddau a fideos mae modd delio â nhw.

Mae’r BBC hefyd wrthi’n datblygu dull o labelu cynnwys deallusrwydd artiffisial sydd wedi’i wreiddio yn anghenion cynulleidfaoedd, sydd wedi’i ddylunio i weithio ar draws ein holl gynnyrch, ac sy’n canolbwyntio ar ddau brif beth: tryloywder ac ymddiriedaeth.  Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy a dyna pam mae’r llywodraeth yn sefydlu tasglu i gyflwyno cynigion i’r llywodraeth ar yr arferion gorau ar gyfer labelu cynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial, gydag adroddiad interim i’w gyhoeddi yn yr hydref.

Yn wir, mae’r cynnydd mewn “ffugiadau dwfn”, fideos, delweddau neu recordiadau sain wedi’u cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial sy’n gwneud iddo ymddangos fel pe bai person yn dweud neu’n gwneud rhywbeth na wnaeth erioed, hefyd yn fygythiad i’n hamgylchedd gwybodaeth. Mae eisoes yn dod yn anoddach nag erioed i gynulleidfaoedd farnu a yw darn o gynnwys yn wir ai peidio, ac mae hyn yn codi pryderon am lai o ymddiriedaeth yn gyffredinol yn yr holl gynnwys clyweledol a sain. Bydd hyn yn mynd yn waeth wrth i adnoddau deallusrwydd artiffisial mwy pwerus gael eu cyflwyno. Bydd y llywodraeth yn lansio ymgynghoriad yn yr haf ar gopïau dyblyg digidol. Bydd hyn yn gofyn am farn am sut mae mynd i’r afael â’r niwed a achosir pan fydd tebygrwydd rhywun yn cael ei gopïo heb ei ganiatâd, gan ddiogelu arloesedd cyfreithlon hefyd. 

Mae gan y diwydiant cyfryngau adnoddau penodol ar gael i wirio a yw ei ffynonellau yn ddilys. Mae safonau ar gyfer tarddiad fel Manylion Adnabod Cynnwys C2PA yn cael eu datblygu sy’n ymgorffori metaddata mewn delweddau, fideos a sain i ddangos pryd, ble a sut y cafodd cynnwys ei greu. Mae hyn yn helpu newyddiadurwyr a defnyddwyr ar-lein i ddeall o ble mae darn o gynnwys wedi dod.

Fodd bynnag, wrth i ffugiadau dwfn a mathau eraill o gyfryngau synthetig ddod yn fwyfwy soffistigedig ac yn anoddach eu canfod, byddwn yn edrych i weld a allwn gefnogi’r sector i integreiddio technolegau canfod newydd a ffyrdd newydd o weithio.

Mae’r cynnydd mewn cyfryngau cymdeithasol a deallusrwydd artiffisial ar gyfer newyddion yn arwain at oblygiadau dwfn i gymdeithas ac i’n hecosystem cyfryngau. Mae tri maes allweddol lle gallai’r llywodraeth gefnogi sector y cyfryngau i fynd i’r afael â’r heriau hyn: 

  • Parhau i gefnogi ymdrechion ymchwil a datblygu, fel yr Her Canfod Ffugiadau Dwfn dan arweiniad y Swyddfa Gartref, i ddod o hyd i’r offer canfod gorau, a gweithio i sicrhau bod modd cyflwyno’r rhain ar draws y diwydiant cyfryngau ehangach, gan gynnwys sefydliadau cyfryngau newyddion llai.
  • Archwilio pa mor ymarferol yw atebion technegol, fel tarddiad a labelu, ar gyfer adnabod cynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial ac i helpu gyda thryloywder. Gallai’r mesurau technegol hyn alluogi cyfryngau o ansawdd uchel i wahaniaethu ei hun yn glir oddi wrth gamwybodaeth a thwyllwybodaeth ar-lein. Fel rhan o hyn, mae’r llywodraeth yn sefydlu tasglu i gyflwyno cynigion ar yr arferion gorau ar gyfer labelu cynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial. .
  • Rhagor o ymgysylltu ar safonau technegol gyda’r cyfryngau newyddion, datblygwyr deallusrwydd artiffisial, a rhanddeiliaid perthnasol eraill, gan gynnwys drwy’r Tasglu Labelu Deallusrwydd Artiffisial a thrwy’r Ymgynghoriad ar Gopïau Dyblyg Digidol, a gyhoeddwyd gan y llywodraeth ym mis Mawrth 2026.

Ochr yn ochr â chymorth y llywodraeth, mae adrannau 2.2 i 2.4 yn edrych ar ymyriadau i ail-gydbwyso’r ecosystem wybodaeth i flaenoriaethu newyddion dibynadwy o ansawdd uchel a sicrhau ei fod yn weladwy ac yn hawdd dod o hyd iddo, ac yn galluogi defnyddwyr i ymgysylltu â chynnwys ar-lein ac oddi ar y we.

Astudiaeth Achos: Fframwaith newydd ar gyfer canfod ffugiadau dwfn 

Gan ddod â chwmnïau technoleg blaenllaw, fel Microsoft, academyddion ac arbenigwyr at ei gilydd, mae’r llywodraeth ar fin datblygu a gweithredu fframwaith cyntaf y byd sy’n gwerthuso prosesau canfod ffugiadau dwfn, gan sefydlu safonau cyson ar gyfer asesu pob math o offer a thechnolegau canfod. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y DU yn arweinydd byd-eang yn y gwaith o fynd i’r afael â chynnwys ffugiadau dwfn niweidiol a thwyllodrus.

 2.2 Amlygrwydd newyddion ar gyfryngau cymdeithasol

Mae tirwedd cyfryngau’r DU yn cynnwys amrywiaeth eang o ddarparwyr newyddion, sy’n cwmpasu darparwyr PSM ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o sefydliadau newyddion cenedlaethol, rhanbarthol, a lleol. Er bod darparwyr PSM yn gweithredu o dan reoliadau annibynnol Ofcom ar ddidueddrwydd dyladwy a chywirdeb, mae’r ecosystem cyfryngau newyddion draddodiadol ehangach yn rheoleiddio ei hun, wedi’i seilio ar godau ymarfer, sy’n rheoli safonau proffesiynol a golygyddol ac sydd, mewn llawer o achosion, yn cael eu goruchwylio gan reoleiddwyr sydd wedi’u sefydlu’n annibynnol. Mae newyddion credadwy a dibynadwy, a’r darparwyr sy’n cyflawni hyn, yn hanfodol i’n sylfeini democrataidd, gan sicrhau ystod gynhwysfawr o sylw sy’n adlewyrchu bywydau a phryderon cymunedau ar draws pob gwlad a rhanbarth yn y DU.

Mae mwy a mwy o bobl yn cael gafael ar newyddion ar-lein, ac yn aml drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn arwain at fanteision o ran yr amrywiaeth o newyddion sydd ar gael, yn enwedig i ffynonellau newyddion rhyngwladol, ond mae hefyd yn golygu bod gan algorithmau ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel llwyfannau Meta rôl bwysig o ran penderfynu beth mae cynulleidfaoedd yn ei weld ac efallai na fydd hi’n hawdd dod o hyd i newyddion dibynadwy o ansawdd uchel neu newyddion sy’n cael ei reoleiddio. 

Yn y cyd-destun hwn, mae perygl y bydd ffynonellau gwybodaeth a newyddion llai cywir yn disodli ffynonellau newyddion mwy dibynadwy. Yn 2024, dywedodd 43% o bobl eu bod wedi dod ar draws rhyw fath o gamwybodaeth neu ffugiadau dwfn. Dywedodd 71% o’r rheini a ddaeth i gysylltiad â chamwybodaeth fod hyn wedi bod ar-lein (gan gynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol)[footnote 33]. Er bod llawer o ddefnyddwyr yn dod ar draws cynnwys camarweiniol, mae traean o oedolion y DU yn dweud nad ydyn nhw’n hyderus yn eu gallu i adnabod deunydd sy’n cael ei gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial [footnote 34]. Ar ben hynny, mae astudiaeth ddiweddar yn awgrymu bod hyder pobl o ran adnabod deunydd sy’n cael ei gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial yn aml yn uwch na’u gallu go iawn

Gall diffyg mynediad cyson at wybodaeth gredadwy a dibynadwy beri risgiau difrifol i’n democratiaeth, i ddiogelwch y cyhoedd, ac i gydlyniant cymdeithasol. Fel yr adlewyrchir ym mhapur polisi Protecting What Matters y Llywodraeth, mae camwybodaeth a thwyllwybodaeth asiambrau adlais ar-lein yn gallu arwain at fwy o lawer o hollti barn, gwrthdaro a rhaniadau, gan danseilio ymddiriedaeth yn ein sefydliadau pwysicaf a’n gwneud yn fwy agored i ddylanwadau gelyniaethus ac eithafol. 

Mae sicrhau amlygrwydd ffynonellau dibynadwy o newyddion a gwybodaeth ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mwyaf yn arbennig o hanfodol hefyd i sicrhau gwydnwch yn ystod cyfnodau o densiwn cymunedol, aflonyddwch cymdeithasol a digwyddiadau democrataidd. Gan fod yr amgylchedd gwybodaeth ar-lein yn arbennig o agored i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth yn ystod y cyfnodau hyn, mae’n hanfodol felly bod y cyhoedd yn cael cymorth i ddod o hyd i wybodaeth a newyddion dibynadwy a chywir. Yn wir, mae tystiolaeth yn dangos bod dinasyddion, pan fydd digwyddiadau newyddion o bwys neu ddigwyddiadau lleol, yn troi at fathau mwy traddodiadol o ddarparwyr newyddion fel y papur newydd lleol, gorsafoedd radio lleol neu newyddion PSM. Er bod gwybodaeth anghywir yn aml yn gallu cael ei lledaenu heb fwriad maleisus, mae gweithredwyr niweidiol yn manteisio fwyfwy ar y cyfnod hwn i roi twyllwybodaeth ar waith. Mae newyddion dibynadwy yn ffordd hanfodol o fynd i’r afael â’r camwybodaeth a’r twyllwybodaeth hon.

Er enghraifft, rhwng 30 Gorffennaf a 7 Awst 2024, yn dilyn yr achosion o drywanu yn Southport, cafwyd ton o anhrefn cyhoeddus a therfysgoedd yn erbyn mewnfudwyr ledled y DU. Nododd Ofcom rôl allweddol “argymhellion algorithmig” o ran lledaenu naratif camarweiniol a chynhennus. Mae’r argymhellion hyn yn aml yn gwthio cynnwys camarweiniol i gynulleidfaoedd mawr ar draul gwybodaeth gan awdurdodau, gan gyflymu sut mae camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn cael ei lledaenu ac, yn yr achos hwn, cyfrannu’n uniongyrchol at fwy o drais yn y byd go iawn.  

Roedd ymchwil a gomisiynwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i natur y sylw a roddwyd i’r terfysgoedd yn y cyfryngau lleol  yn tynnu sylw at rôl cyfryngau lleol o ran lleihau tensiynau drwy roi mwy o sylw i leisiau arweinwyr cymunedol, arweinwyr crefyddol a’r heddlu, yn wahanol i gynnwys mwy ymfflamychol ar y cyfryngau cymdeithasol. Tynnwyd sylw at rôl hanfodol cyfryngau lleol yng ngwead ein cymdeithas, o ran darparu newyddion a gwybodaeth leol berthnasol o ansawdd uchel yn ein cymunedau yn Strategaeth Cyfryngau Lleol y llywodraeth, ac fe wnaethom ymrwymo yn y strategaeth honno i edrych ar amlygrwydd cynnwys newyddion gan gyfryngau lleol masnachol.

Felly, bydd y llywodraeth yn edrych ar opsiynau deddfwriaethol i sefydlu trefn amlygrwydd yn benodol ar gyfer cynnwys newyddion dibynadwy ar gyfryngau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r drefn amlygrwydd ehangach ar gyfer cynnwys PSM a drafodir yn adran 4.2, ond sydd ar wahân iddi. Byddai hyn yn gofyn am i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â llwyfannau rhannu fideos o bosibl, sicrhau bod cynnwys newyddion gan ddarparwyr PSM yn amlwg ac yn hawdd dod o hyd iddo ar ryngwynebau defnyddwyr. Byddai hyn yn ceisio sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar newyddion ffeithiol, cywir a dibynadwy ar-lein. Gallai’r mesurau hyn gynnwys cyhoeddwyr newyddion eraill ar lefel genedlaethol a lleol, gan gydnabod pa mor bwysig yw bod dinasyddion yn cael gafael ar amrywiaeth doreithiog o leisiau a sicrhau ein bod yn cael newyddion a lleisiau lleol.

Bydd y llywodraeth yn bwrw ymlaen â gwaith yn ystod y misoedd nesaf, ynghyd ag ymgysylltu â’r diwydiant ac asesu ymatebion i ymgynghoriadau, i edrych ar sut beth allai trefn amlygrwydd sy’n benodol i newyddion fod yn ymarferol. Cyn bo hir, bydd y llywodraeth yn cynnal ymchwil i brofi gwahanol ddulliau o sicrhau amlygrwydd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan sicrhau bod y rhain yn gymesur ac yn cyd-fynd â sicrhau tirwedd wybodaeth amrywiol a thoreithiog. Fel rhan o hyn, bydd y llywodraeth yn mabwysiadu’r egwyddorion canlynol wrth ddatblygu’r gwaith hwn a chyflwyno unrhyw fesurau amlygrwydd newydd:

  • Dan arweiniad y gynulleidfa: Rydym yn cydnabod yr angen i gael cydbwysedd rhwng amlygrwydd cynnwys newyddion a sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu grymuso.
  • Addas ar gyfer y dyfodol: Bydd angen i unrhyw amlygrwydd ar gyfer trefn cynnwys newyddion fod yn hyblyg ac yn amrywiol ar draws profiadau defnyddwyr llwyfannau a gallu esblygu gyda datblygiadau technoleg a deallusrwydd artiffisial. 
  • Bod yn seiliedig ar ganlyniadau: Bydd angen i unrhyw drefn newydd fod yn ymarferol i lwyfannau ei rhoi ar waith a dylai unrhyw fesurau fod yn seiliedig ar ganlyniadau, gan roi’r hyblygrwydd i lwyfannau gyflawni’r canlyniadau hyn mewn ffordd gymesur. Bydd y llywodraeth yn gweithio ochr yn ochr â’r sector i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni.
  • Cynhwysfawr a pherthnasol: Dylai unrhyw fesurau a gymerir yma sicrhau bod dinasyddion ar draws pob rhan o’r DU yn gallu cael gafael ar newyddion a gwybodaeth sy’n berthnasol iddyn nhw, ac felly efallai y bydd angen i ni ystyried, er enghraifft, beth mae hyn yn ei olygu i ddarparwyr newyddion rhanbarthol a lleol o’i gymharu â darparwyr newyddion cenedlaethol. Bydd angen dod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng amlygrwydd sefydliadau cyfryngau newyddion cenedlaethol a darparwyr lleol, gan sicrhau bod y llais a’r arbenigedd cywir yn cael sylw blaenllaw mewn unrhyw fesurau amlygrwydd.
  • Amrywiaeth o safbwyntiau: Rydym yn ymwybodol o’r angen i sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu yn hyrwyddo ffynonellau newyddion o ansawdd uchel, ond gan beidio â bod mor rhagnodol i’r graddau ein bod mewn perygl o waethygu’r heriau masnachol sy’n wynebu llawer o gyhoeddwyr newyddion ar-lein neu effeithio ar yr amrywiaeth o newyddion. 
  • Meini prawf ar gyfer darparwr newyddion ‘dibynadwy’, wedi’u pennu mewn ffordd agored a thryloyw o ran diogelu rhyddid y cyfryngau. Mae’n allweddol bod unrhyw broses i bennu amlygrwydd darparwyr newyddion yn cael ei phenderfynu mewn ffordd agored a thryloyw ac yn amodol ar y prosesau gwirio a’r pwyso a mesur angenrheidiol.

Fel rhan o’n proses polisi, mae angen i ni edrych ar sut rydym yn datblygu meini prawf ar gyfer ‘darparwr newyddion dibynadwy’. Nid ydym wedi penderfynu eto pa feini prawf y byddwn yn eu defnyddio ac y byddwn am ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, i wneud hyn. Gall y diffiniad o Gyhoeddwr Newyddion Cydnabyddedig yn Neddf Diogelwch Ar-lein 2023 fod yn fan cychwyn ar gyfer hyn. Mae’n cynnwys darlledwyr ac endidau yn y DU sydd â’r prif bwrpas o gyhoeddi deunydd sy’n ymwneud â newyddion, wedi’i greu gan wahanol bobl, yn amodol ar reolaeth olygyddol, cod safonau, a mecanwaith ar gyfer datrys cwynion.

Bydd y broses polisi hefyd yn awyddus i ddeall a ddylid cysylltu’r fantais o gael amlygrwydd yn benodol â chyfrifoldebau pellach ar gyfer darparwyr newyddion sydd o fewn cwmpas unrhyw drefn newydd i sicrhau mai dim ond y ffynonellau newyddion mwyaf dibynadwy ddylai gael amlygrwydd. Gallai hyn gynnwys mwy o dryloywder, prosesau cwyno effeithiol, safonau mwy llym o ran defnyddio cynnwys deallusrwydd artiffisial, hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, neu lynu wrth arferion gorau sy’n esblygu.

Yn olaf, er y gallai sefydlu mesurau amlygrwydd helpu i gael mynediad at ffynonellau newyddion dibynadwy, rydym yn cydnabod mai dim ond os bydd y mesurau hynny yn cael eu hategu gan ymdrechion i roi’r sgiliau angenrheidiol i gynulleidfaoedd lywio drwy’r amgylchedd ar-lein ehangach a chymhleth, y byddan nhw’n llwyddo i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn ymgysylltu’n feirniadol â’r ffynonellau hynny. Yn y cyd-destun hwn, mae opsiynau sy’n ymwneud â grymuso cynulleidfaoedd yn well drwy ymyriadau newydd i godi ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, yn cael eu trafod isod.

2.3 Dyletswydd newydd o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar gyfer darparwyr PSM

Mae newidiadau yn y ffordd y mae newyddion yn cael ei ddosbarthu ar-lein yn golygu bod llawer o bobl bellach yn dod ar draws gwybodaeth mewn amgylcheddau cymhleth sy’n dilyn algorithm. Yn y cyd-destun hwn, mae’n hanfodol eich bod yn gyfarwydd â’r cyfryngau. Yn 2025, dywedodd Ofcom mai dim ond 45% o oedolion oedd yn teimlo’n hyderus eu bod yn gallu dweud a yw ffynhonnell wybodaeth yn wir [footnote 35]. Mae’r ffaith bod llai o hyder yn pwysleisio maint y broblem a’r angen am ymateb cydgysylltiedig. Mae hyn yn bwysig ar gyfer gwneud penderfyniadau unigol, ond hefyd ar gyfer cyflwr ein democratiaeth: mae ymchwil yn canfod bod lefelau uwch o ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn gysylltiedig â mwy o gyfranogiad mewn gweithgareddau dinesig [footnote 36].

Rydym am gryfhau ac adeiladu ar y gwaith pwysig sydd eisoes yn cael ei wneud i wella ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn y DU. Ar 16 Mawrth 2026, fe wnaethom gyhoeddi Cynllun Gweithredu Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau, gan nodi cyfeiriad clir a dull mwy cydgysylltiedig ar draws y llywodraeth. Mae gwaith pwysig i wella ymwybyddiaeth o’r cyfryngau eisoes wedi cychwyn; er enghraifft, mae’r Adran Addysg yn rhoi argymhellion o’r Adolygiad o’r Cwricwlwm ac Asesiad ar waith i helpu disgyblion i adnabod camwybodaeth a thwyllwybodaeth, gan gynnwys cynnwys wedi’i greu gan ddeallusrwydd artiffisial, ac i feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol. 

Mae gan ddarparwyr PSM yn y DU draddodiad hir a balch o ddarparu newyddion diduedd a dibynadwy. Y BBC sy’n cyrraedd y gynulleidfa fwyaf ar draws llwyfannau yn y DU, gan gyrraedd 67% o’r holl oedolion yn y DU, ac mae ymchwil yn dangos mai dyma’r ffynhonnell newyddion mwyaf dibynadwy ymhlith y rhai a holwyd yn y DU [footnote 37][footnote 38]., Drwy ddarparu cynnwys diduedd sy’n cefnogi trafodaethau a dadleuon gwybodus, mae darparwyr PSM yn cryfhau cydlyniant cymdeithasol a chyfranogiad democrataidd. Maen nhw hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi amgylchedd gwybodaeth iach, a grymuso cynulleidfaoedd i ymgysylltu’n feirniadol â’r cynnwys maen nhw’n ei weld. Mae darparwyr PSM eisoes yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn y DU; er enghraifft, yn 2024 fe wnaeth rhaglen bresennol y BBC ar gyfer ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, Other Side of the Story, gyrraedd dros 2.4 miliwn o bobl ifanc [footnote 39]

Mae ymchwil yn dangos bod pobl yn fwy tebygol o ymgysylltu â chymorth ar gyfer ymwybyddiaeth o’r cyfryngau pan fydd yn cael ei ddarparu gan sefydliadau maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw [footnote 40]. Mae’r cyfuniad hwn o ymddiriedaeth a maint y gynulleidfa yn rhoi darparwyr PSM mewn lle cryf i gefnogi ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar draws y system, gan sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lywio amgylchedd gwybodaeth y dyddiau hyn. Felly, byddwn yn edrych ar gyflwyno dyletswydd ychwanegol bosibl ar ddarparwyr PSM i adrodd ar y gwaith sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.

Fel y mae ein cynigion yn ei nodi yn gynharach yn y bennod hon, mae rhagor o gamau y gall llwyfannau eu cymryd i fynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Mae maint a chymhlethdod yr amgylchedd gwybodaeth modern yn gofyn am weithredu ar draws y system, a dylai darparwyr PSM barhau i ddefnyddio eu cryfderau i gefnogi hyn. Yn amodol ar adborth yr ymgynghoriad, byddai’r ddyletswydd hon yn gofyn i ddarparwyr PSM ddarparu ac adrodd ar gamau sy’n gysylltiedig ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, gan nodi eu cynlluniau drwy strategaeth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, ac adrodd ar ba mor effeithiol yw eu hymyriadau. Byddai canllawiau’n gosod uchelgais a chwmpas disgwyliedig y camau hyn. Rhaid cyflawni unrhyw ddyletswydd gyfreithiol newydd ar ymwybyddiaeth o’r cyfryngau mewn ecosystem cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n gynaliadwy. Felly, mae’r opsiwn hwn yn cael ei ystyried mewn pecyn ehangach o ddiwygiadau sydd â’r bwriad o sicrhau bod sylfaen gynaliadwy i ddarparwyr PSM yn y dyfodol, a bod y compact PSM yn dal i gael ei gydbwyso’n briodol rhwng unrhyw rwymedigaethau newydd a’r manteision (a nodir yn adran 4.2). Os yw amlygrwydd a hwylustod canfod gwasanaethau darparwyr PSM yn cael eu cryfhau, mae’n briodol bod y darparwyr hyn yn gyfrifol am gefnogi’r cyhoedd i ymgysylltu’n feirniadol â’r wybodaeth maen nhw’n dod ar ei thraws.

2.4 Menter newydd ar y cyd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau

Mae gan y DU dirwedd wych a gweithredol o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau gyda nifer o randdeiliaid yn cyfrannu at weithgarwch gan gynnwys adrannau’r llywodraeth, ysgolion, llyfrgelloedd a chymdeithas. Mae gan Ofcom, fel rheoleiddiwr Diogelwch Ar-lein a chyfathrebiadau’r DU, ddyletswyddau o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a rôl sefydledig i gefnogi ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Mae strategaeth tair blynedd bresennol Ofcom yn canolbwyntio ar ddod â rhanddeiliaid ynghyd, hyrwyddo arferion gorau, a chryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar yr hyn sy’n gweithio i gynulleidfaoedd. Cyn bo hir, bydd Ofcom yn cyhoeddi ei Argymhellion ar gyfer Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau. Bydd yr argymhellion, sy’n ofynnol o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, yn nodi am y tro cyntaf beth fydd disgwyliadau Ofcom o ran y ffordd orau i ddarlledwyr a gwasanaethau ar-lein hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.

Yn aml, mae gan sefydliadau sy’n darparu ymyriadau sy’n gysylltiedig ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau arbenigedd cryf yn y sector ac maen nhw’n gallu darparu ymyriadau wedi’u teilwra i amrywiaeth o anghenion a chyd-destunau. Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth ar wasgar yn ddaearyddol. Mae sefydliadau’n aml yn gweithio mewn seilos, gan adlewyrchu amrywiaeth y gweithredwyr a’r dulliau gweithredu ar draws y sector. Er gwaethaf amrywiaeth y gweithgarwch sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, canfu ymchwiliad Tŷ’r Arglwyddi ar ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn 2025 fod y sector ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn dameidiog iawn. 

Mae llawer o ffactorau’n siapio gallu’r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd rhan yn ein democratiaeth, gan gynnwys yr hyn maen nhw’n ei ddysgu yn yr ysgol, yr hyn maen nhw’n ei weld gan ddarlledwyr a darparwyr newyddion, eu profiadau ar-lein, a’r arweiniad maen nhw’n ei gael gan deuluoedd a chymunedau.

Rydym am gefnogi gweithgarwch cydgysylltiedig sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau sy’n cael ei siapio gan flaenoriaethau cyffredin, ac sy’n ategu rôl y system addysg.

I gyflawni hyn, byddwn yn edrych ar ddatblygu cynllun newydd i gefnogi’r gwaith o gydlynu gweithgareddau yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Bydd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a’r sector cyfryngau ehangach, yn lleol ac yn genedlaethol, yn ganolog i hyn. Byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd o ymgysylltu ag ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cymdeithas sifil a chwmnïau technoleg, i gefnogi symud y tu hwnt i ddulliau gweithredu ynysig a thuag at weithio mwy cydgysylltiedig ar draws sectorau. Rydym am gefnogi’r gwaith o ddarparu ymyriadau yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau mewn modd mwy strategol, cryfhau gweithio mewn partneriaeth, a galluogi rhannu arferion gorau yn ehangach ar draws yr ecosystem ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Gan weithio’n agos gydag Ofcom, gallai hyn ganolbwyntio ar nodi meysydd blaenoriaeth, adeiladu ar dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio, a chefnogi gwerthuso cymesur.

Bydd unrhyw gynllun newydd yn cyd-fynd â’r egwyddorion a nodir yn y Cynllun Gweithredu Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau, ac yn ategu yn hytrach na dyblygu’r gweithgarwch ehangach sydd eisoes yn mynd rhagddo ar draws y sector. Byddwn hefyd yn sicrhau bod y gwaith hwn yn cyd-fynd â’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan Ofcom. Rydym am gynyddu’r buddsoddiad sy’n cael ei roi i ymwybyddiaeth o’r cyfryngau drwy gynyddu effaith ymdrechion ar y cyd, er budd y sector a’r cyhoedd.

Pennod 3: Sut bydd cynulleidfaoedd yn parhau i gael gafael ar gynnwys teledu dibynadwy o ansawdd uchel

Mae teledu yn sylfaen i’n hunaniaeth genedlaethol ac yn beiriant hanfodol ar gyfer ein democratiaeth, ein cymdeithas, ein diwylliant, a’n heconomi. Mewn oes lle mae mwy a mwy o ymrannu digidol, mae teledu yn parhau i fod yn un o’r ychydig lefydd lle mae’r genedl yn dod at ei gilydd i rannu digwyddiadau diwylliannol pwysig, o ddiweddglo cyfresi, achlysuron brenhinol a llwyddiannau byd chwaraeon i newyddion sy’n torri. Mae’n helpu i bontio rhaniadau daearyddol a chymdeithasol drwy ddarparu set gyffredin o ffeithiau a ffenestr gyffredin i fywydau pobl eraill ledled y DU. Mae sicrhau bod pob aelwyd, lle bynnag maen nhw’n byw, yn gallu parhau i gael gafael ar amrywiaeth eang o gynnwys dibynadwy o ansawdd uchel, gan gynnwys newyddion ond hefyd genres eraill fel rhaglenni dogfen a drama sy’n berthnasol yn ddiwylliannol, yn hanfodol i gynnal ymdeimlad o berthyn a chymdeithas wybodus.

Ers degawdau, y “erial ar y to” traddodiadol (teledu daearol digidol) fu’r brif ffordd i ni sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar hyn. Mae wedi darparu man cyhoeddus lle mae disgwyl i’r newyddion gyrraedd safonau uchel o ran cywirdeb a didueddrwydd, a lle mae straeon y DU yn cael eu hadrodd gyda llais sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd ein hunain. Wrth i fwy ohonom groesawu manteision gwylio’r teledu dros y rhyngrwyd, rydym yn wynebu her sylweddol: sut mae harneisio manteision technoleg newydd heb golli’r mynediad, y cydlyniant, y warchodaeth, a’r mesurau diogelu democrataidd y mae darlledu traddodiadol yn eu darparu. Os na fyddwn yn rheoli’r newid hwn yn ofalus, rydym mewn perygl o raniad digidol lle mae rhai aelodau o gymdeithas yn cael eu gadael heb yr wybodaeth gyffredin a’r cysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol sy’n helpu i’n clymu’n un.

Mae’r bennod hon yn nodi sut mae’r llywodraeth yn bwriadu llywio’r newid hwn o ddarlledu traddodiadol i wylio ar y rhyngrwyd. Ein nod yw sicrhau bod teledu’r dyfodol yn parhau i fod yn lle dibynadwy a hygyrch sy’n parhau i wasanaethu budd y cyhoedd. Rhaid i ni sicrhau, hyd yn oed wrth i dechnoleg newid, fod egwyddorion yn ymwneud â chyffredinolrwydd a safonau uchel yn parhau. Drwy wneud hynny, gallwn sicrhau bod teledu’n parhau i gefnogi democratiaeth iach a chymdeithas gydlynus, gan gynnig llwyfan diogel a dibynadwy ar gyfer dadl a darparu drych lle gall pob rhan o’r DU weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu.

3.1 Dyfodol dosbarthu cynnwys teledu

Mae cyfres o atodiadau’n ategu’r adran hon. Mae’r rhain yn rhoi rhagor o fanylion am y broses polisi hyd yma, ein hasesiad o’r prif heriau, a dadansoddiad cost a budd.

Yr achos dros newid

Mae tirwedd teledu’r DU yn mynd drwy newid sylweddol o ddarlledu traddodiadol i wylio teledu llinol ac ar-alw ar-lein, y cyfeirir ato gyda’i gilydd yma fel ‘teledu protocol rhyngrwyd’ (IPTV). Mae cynulleidfaoedd yn cael gafael ar fwy a mwy o gynnwys drwy ddyfeisiau sydd wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd, gan greu tirwedd hybrid rhwng teledu protocol rhyngrwyd, teledu daearol digidol traddodiadol, darlledu drwy loeren a chebl [footnote 41].

Teledu Protocol Rhyngrwyd (IPTV)

Mae Teledu Protocol Rhyngrwyd (IPTV) yn ffordd o wylio teledu gan ddefnyddio eich cysylltiad rhyngrwyd yn hytrach na systemau traddodiadol teledu daearol digidol (DTT), teledu lloeren neu signalau drwy erial. Yn hytrach na darlledu pob sianel ar unwaith fel teledu rheolaidd, mae IPTV yn anfon y rhaglen neu’r sianel benodol rydych chi’n ei dewis yn uniongyrchol i’ch dyfais drwy’r rhyngrwyd. Mae hyn yn golygu y gallwch wylio teledu byw, ffilmiau ar-alw, neu raglenni wedi’u recordio ar setiau teledu clyfar, cyfrifiaduron, dyfeisiau tabled, ffonau clyfar, neu flychau ffrydio. Mae gwasanaethau fel Amazon Prime Video neu Netflix yn defnyddio technoleg debyg ar y rhyngrwyd, ond mae IPTV yn aml yn cynnwys sianeli teledu byw am ddim hefyd, yn debyg iawn i DTT traddodiadol.

Teledu daearol digidol (DTT)

System ddarlledu lle mae signalau teledu yn cael eu trawsyrru dros yr awyr o drosglwyddyddion ar y tir ac yn cael eu derbyn gan erial yn hytrach na thrwy gebl neu loeren, sut mae pobl yn derbyn Freeview.

Freeview

Mae Freeview yn wasanaeth teledu daearol digidol (DTT) sy’n darparu sianeli teledu am ddim drwy erial. Mae Freeview Play yn fersiwn well o Freeview sy’n cyfuno teledu sy’n cael ei ddarlledu â gwasanaethau dal i fyny ac ar-alw sy’n cael eu darparu ar y rhyngrwyd.

Mae’r newid hwn yn cynnig mwy o ddewis, hwylustod, a llu o lwyfannau ffrydio i filiynau o gartrefi. Mae gan system deledu IPTV y potensial i wella profiad gwylio cynulleidfaoedd ledled y DU. Mae’n galluogi mynediad di-dor i gynnwys byw ac ar-alw, teilwra mwy personol, gwell nodweddion hygyrchedd, a’r gallu i fwynhau gwasanaethau ar draws nifer o ddyfeisiau. 

Mae bod ar-lein yn fwy na rhywbeth “neis i’w gael” erbyn hyn. Dyma sut mae pobl fwyfwy yn cael gafael ar ofal iechyd, yn rheoli arian, yn cadw mewn cysylltiad â theulu, yn gwneud cais am swyddi, ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Os nad yw pobl ar-lein, neu os nad oes ganddyn nhw ddigon o hyder wrth ddefnyddio gwasanaethau digidol, maen nhw’n fwy tebygol o dalu mwy am hanfodion bob dydd, cael trafferth cael gafael ar gymorth, a theimlo eu bod wedi’u heithrio o rannau o fywyd modern. Os caiff hyn ei reoli’n dda, mae cefnogi pobl i gael gafael ar deledu dros y rhyngrwyd yn gallu agor y drws i gyfranogiad digidol ar lefel ehangach. Unwaith y bydd gan aelwydydd gysylltiad dibynadwy a’r hyder i’w ddefnyddio, maen nhw mewn sefyllfa well i wneud y canlynol:

  • trefnu apwyntiadau gyda meddyg teulu neu archebu presgripsiynau rheolaidd ar-lein; 
  • rheoli budd-daliadau, pensiynau neu wasanaethau’r cyngor yn ddigidol; 
  • bancio ar-lein yn ddiogel ac yn hwylus; 
  • cymharu bargeinion ynni, band eang neu yswiriant ac arbed arian; 
  • cael gafael ar gyfleoedd dysgu, sgiliau, a chyflogaeth; a
  • chadw mewn cysylltiad yn gymdeithasol, gan leihau unigrwydd a theimlo’n ynysig. 

Fodd bynnag, mae’r llywodraeth hefyd yn cydnabod bod nifer sylweddol o aelodau cynulleidfaoedd yn parhau i ddibynnu ar lwyfannau darlledu traddodiadol, sy’n cynnwys DTT (Freeview) a lloeren, fel eu hunig ffordd o gael gafael ar deledu. Mae’r llwyfannau hyn yn dal yn hanfodol ar gyfer mynediad teledu i bawb, gan gyfrif am 4.01 miliwn o aelwydydd darlledu-yn-unig yn 2024, ochr ynochr ag 16.61 miliwn o gartrefi ‘hybrid’ [footnote 42]. Fodd bynnag, mae’r defnydd cyffredinol ar draws y dulliau traddodiadol hyn yn gostwng. Rhagwelir y bydd nifer yr aelwydydd heb fynediad at deledu protocol rhyngrwyd yn gostwng i 1.51 miliwn yn 2034. Disgwylir hefyd i nifer yr aelwydydd hybrid ostwng wrth i gyfran gynyddol o aelwydydd ddewis cael gafael ar wasanaethau byw ac ar-alw dros y rhyngrwyd.

Ffigur 6: Mathau o Fynediad IPTV i Aelwydydd (miliynau)

Ffynhonnell: 3 Reasons , MTM (ffigurau 2024 a 2034); Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (ffigurau 2044)

Er gwaethaf y gostyngiad hwn yn y defnydd, mae costau cynnal y rhwydwaith DTT, sy’n cael ei ysgwyddo gan ddarlledwyr, yn sefydlog i raddau helaeth. Mae cynnal y rhwydwaith DTT y tu hwnt i 2034 yn golygu y bydd darlledwyr yn wynebu’r her economaidd o drosglwyddo costau amryfal ddulliau dosbarthu i lai a llai o aelwydydd sy’n dibynnu ar DTT [footnote 43]. Wrth i nifer yr aelwydydd â DTT ostwng, bydd llai o gymhelliant i dalu am gludo ar y llwyfan DTT, a bydd hyn yn golygu bod llai o sianeli ar gael a chostau uwch i’r darparwyr sy’n weddill [footnote 44]. I’r darlledwyr hynny a fydd yn dal ar y llwyfan DTT, gan gynnwys darparwyr PSM, bydd y costau uwch hyn yn lleihau faint maen nhw’n gallu ei fuddsoddi mewn rhaglenni ac felly’n lleihau’r gwerth cymdeithasol a’r gwerth economaidd maen nhw’n ei ychwanegu.

Compact PSM

O dan y ‘compact PSM’ presennol, mae’n rhaid i ddarparwyr PSM sicrhau bod eu gwasanaethau ar gael am ddim i bawb. Rhaid i’w sianeli teledu fod am ddim ac ar gael i bawb, yn enwedig ar lwyfannau teledu traddodiadol fel Freeview. Yn gyfnewid am hynny, mae’r darlledwyr hyn yn cael manteision fel gwelededd a safleoedd sianel da ar lwyfannau teledu, sy’n ei gwneud yn haws i wylwyr ddod o hyd iddyn nhw. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw barhau i ddarlledu ar systemau teledu traddodiadol ac nad oes modd iddyn nhw ddewis fel y mynnan nhw sut mae eu sianeli’n cael eu dosbarthu. Wrth i fwy o bobl symud i wasanaethau ar-lein a ffrydio, mae llai o wylwyr yn defnyddio teledu traddodiadol. Oherwydd hyn, efallai y bydd cost darlledu ar y systemau hŷn hyn yn uwch na’r arian maen nhw’n ei gael drwy hysbysebion, a gall hyn olygu yn y pen draw bod y rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â bod yn ddarparwr PSM yn fwy na’r manteision cysylltiedig.

Mae’r llywodraeth am i bob cynulleidfa allu derbyn a chael gafael ar yr ystod lawn o gynnwys a gwasanaethau sydd ar gael drwy IPTV mewn ffordd fforddiadwy a hygyrch, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl (mae’r manylion yn Atodiad B). Bydd sicrhau bod cysylltedd, dyfeisiau a defnydd parhaus yn fforddiadwy yn ffactor pwysig o ran cefnogi’r dasg o fabwysiadu hyn yn eang ac yn amserol. Dros amser, rydym yn credu y bydd ymdrech gydgysylltiedig sy’n cael ei harwain gan y diwydiant i gefnogi cynulleidfaoedd i newid eu harferion gwylio o DTT i IPTV yn cefnogi’r nodau hyn, gan ddarparu ecosystem deledu sy’n fwy cynhwysol, hygyrch ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol, un sy’n ehangu dewis ac yn gwella ansawdd, gan ganiatáu i’r sector teledu aros yn gynaliadwy a pharhau i fuddsoddi mewn cynnwys sydd o fudd i bob cynulleidfa. 

Er bod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud, rydym yn cydnabod y bydd heriau i rai pobl o ran cael mynediad at fand eang digon cyflym a meddu ar y sgiliau digidol i wneud y defnydd gorau ohono. Gall hyn greu sefyllfa o allgáu digidol os caiff gwasanaethau DTT eu tynnu’n gynnar. Felly, mae penderfyniadau ynghylch dyfodol hirdymor DTT, a’r newid i IPTV, yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer pob cynulleidfa, yn cynnal gwasanaeth teledu dibynadwy, yn hyrwyddo cystadleuaeth ac arloesedd yn y diwydiant teledu ac yn cefnogi dyfodol cynaliadwy i ddarparwyr PSM (mae rhagor o fanylion yn Atodiad B). Bydd pa mor hawdd fydd newid o’r fath hefyd yn dibynnu ar rôl teledu lloeren yn y dyfodol fel dull amgen ac economaidd o ddarparu cynnwys teledu.

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i barhad DTT tan o leiaf 31 Rhagfyr 2034, ac nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ynghylch dyfodol dosbarthu cynnwys teledu y tu hwnt i hyn. Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi bod yn gweithio i werthuso sut bydd cynnwys teledu yn cael ei ddosbarthu yn y dyfodol, gan gynnwys drwy gynnull Fforwm Rhanddeiliaid Dyfodol Dosbarthu Cynnwys Teledu. Mae’r adran nesaf yn nodi casgliadau cychwynnol y gwaith hwnnw a ffordd ymlaen a gynigir.

Dull gweithredu arfaethedig 

Mae’r llywodraeth wedi ystyried ystod eang o fodelau hirdymor posibl ar gyfer dyfodol dosbarthu cynnwys teledu yn y DU y tu hwnt i 2034. Rydym wedi edrych ar opsiynau (gweler Atodiad A) i ganfod y canlyniad gorau ar gyfer ecosystem dosbarthu teledu gynaliadwy a llwyddiannus yn y DU dros y degawdau nesaf.

Un peth sydd wedi dod yn amlwg iawn yw’r manteision sylweddol i aelwydydd wrth ddewis defnyddio gwasanaethau IPTV. Fel yr amlinellwyd uchod, mae’n darparu mynediad at ystod ehangach o wasanaethau teledu ar-lein o ansawdd uchel, llawer ohonyn nhw ar gael heb gost ychwanegol. Mae cynulleidfaoedd yn disgwyl gwylio mwy a mwy o gynnwys byw ac ar-alw yn ddi-dor ar draws dyfeisiau, gyda mwy o ddewis, hyblygrwydd, a hygyrchedd. Mae IPTV yn galluogi hyn mewn ffyrdd na all llwyfannau darlledu traddodiadol eu gwneud: mae’n cefnogi gwasanaethau sy’n fwy ymatebol ac wedi’u teilwra’n bersonol, gwell nodweddion hygyrchedd, a mathau newydd o arloesi o ran darganfod a darparu cynnwys. 

Os caiff hyn ei reoli’n dda, mae’r newid o ddarlledu traddodiadol i deledu protocol rhyngrwyd yn un o’r cyfleoedd mwyaf arwyddocaol i gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, cynulleidfaoedd a’r economi ddigidol ehangach mewn cenhedlaeth. Gall y newid hwn hefyd fod yn borth i gyfranogiad digidol ehangach, os yw’r newid wedi’i gynllunio’n gynhwysol a’i roi ar waith gyda’r cymorth cywir.

O ran dyfodol gwasanaethau DTT, mae amrywiol fuddiannau darlledwyr, darparwyr rhwydwaith a darparwyr seilwaith, a grwpiau sy’n cynrychioli cynulleidfaoedd wedi golygu nad oes consensws amlwg eto ar y canlyniad gorau posibl i holl gymdeithas a busnesau’r DU ar ddyfodol dosbarthu cynnwys teledu. Fodd bynnag, mae cytundeb rhanddeiliaid yn dod i’r amlwg erbyn hyn ar nifer o bwyntiau allweddol, gan gynnwys:

  1. Mae arferion gwylio a thueddiadau technoleg yn dangos newid parhaus o DTT i IPTV dros amser. Bydd y manteision a ddaw gydag IPTV yn parhau i dyfu’n gyflym, o ganlyniad i gamau pellach a gymerir gan ddarlledwyr ac eraill yn y diwydiant i ddatblygu gwasanaethau, llwyfannau a dyfeisiau newydd ac i farchnata ac egluro’r rheini i ddefnyddwyr. Felly, ni fydd yn talu i gynnal y llwyfan DTT yn y ddau ddegawd nesaf, ac o bosibl mor fuan â 2034;
  2. Os (a dim ond os) gellir lleihau costau cludo ar DTT ar gyfer darparwyr PSM i lefel mae modd ei rheoli, efallai y bydd lle i DTT barhau y tu hwnt i 2034, er mwyn gwneud y newid yn haws i gynulleidfaoedd ei reoli (yn enwedig y rheini sy’n fwy dibynnol ar DTT). Yn yr amgylchiadau hyn, gallai fod rôl ar gyfer polisïau neu ddulliau rheoleiddio cefnogol (gweler Atodiad C);
  3. Bydd parhad o’r fath yn cyflwyno heriau i ddarlledwyr oherwydd yr angen i barhau i dalu costau dosbarthu DTT, mewn sefyllfa lle mae llai o wylwyr yn dibynnu arno, yn ogystal â chost gynyddol dosbarthu cynnwys IPTV sy’n gysylltiedig â’r nifer gynyddol sy’n ei ddefnyddio. Felly, mae angen i’r darparwyr PSM hynny sy’n cynnal y seilwaith allu fforddio unrhyw estyniad a fydd i amserlenni DTT. Ar ben hynny, byddai darparwyr PSM yn amharod i ysgwyddo’r risgiau o barhau â DTT pe bai’r galw gan wasanaethau DTT masnachol yn gostwng dros gyfnod estynedig; a
  4. Ni waeth pryd y bydd gwasanaethau DTT yn dod i ben, bydd angen i’r llywodraeth a’r diwydiant weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â nifer o heriau allweddol sydd eisoes wedi cael eu nodi (Atodiad B). Mae effeithiau sylweddol hefyd a allai arwain at ganlyniadau i ddefnyddwyr eraill y seilwaith dosbarthu cynnwys drwy fastiau uchel fel y BBC a gwasanaethau radio masnachol.

Fel yr archwilir yn fanylach isod, mae dwy elfen i’r dull gweithredu a gynigir gan y llywodraeth.

  • Yn gyntaf, byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant a grwpiau cynulleidfa i lunio pecyn cymorth i gynulleidfaoedd drosglwyddo eu harferion gwylio i wasanaethau IPTV ac i gael y mwyaf o’r manteision ychwanegol a ddaw gyda hyn. Bydd y pecyn hwn yn dibynnu ar y diwydiant ac ecosystem gref yn gweithio gyda’i gilydd i’w ddatblygu a’i roi ar waith: darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, gweithredwyr llwyfannau, darparwyr telegyfathrebiadau, gweithgynhyrchwyr ac adwerthwyr, elusennau a phartneriaid cyflawni lleol, pob un yn chwarae ei ran.
  • Yn ail, byddwn yn gosod y cynllun ar gyfer diffodd gwasanaethau DTT dan reolaeth, naill ai pan ddaw’r trwyddedau presennol i ben ar 31 Rhagfyr 2034 neu yn dilyn estyniad am gyfnod penodol hyd at 31 Rhagfyr 2044.

Diffodd DTT

Dyma broses lle mae dull penodol o ddarparu (darlledu daearol) yn cael ei ddiffodd, nid diffodd y sianeli eu hunain. Byddai’r un sianeli yn dal i fodoli ac yn dal i fod ar gael drwy lwyfannau eraill, fel lloerennau neu ffrydio dros y rhyngrwyd.

Mae’r llywodraeth o’r farn felly y bydd y broses o ddosbarthu cynnwys teledu yn newid, dros amser, tuag at wasanaethau protocol rhyngrwyd ac y bydd hyn yn golygu na fydd y llwyfan DTT yn gynaliadwy yn economaidd. Bydd yr ymgynghoriad rydym yn ei gynnal fel rhan o’r papur gwyrdd hwn yn ein helpu i bennu’r ffrâm amser mwyaf addas ar sail tystiolaeth a mewnbwn rhanddeiliaid. 

Byddai angen cydweithio parhaus ac agos gyda grwpiau cynulleidfa, y diwydiant ac ar draws y llywodraeth i roi’r dull hwn ar waith. Gyda hyn mewn cof, mae’r llywodraeth yn gofyn i’r grwpiau hyn ddod ynghyd i gyflwyno atebion arloesol i gyflawni’r newid hwn drwy’r ymgynghoriad. Ni ddylid rhagdybio ar hyn o bryd y bydd arian cyhoeddus ar gael i gefnogi’r broses newid.

Newid i deledu protocol rhyngrwyd (IPTV)

Mae symud oddi wrth DTT yn cynnig cyfle sylweddol i foderneiddio sut mae teledu’n cael ei ddarparu yn y DU, gan adeiladu ar sylfeini cryf i greu system fwy hyblyg sy’n barod ar gyfer y dyfodol. Gall darpariaeth seiliedig ar brotocol rhyngrwyd wella profiadau gwylio, ehangu mynediad at gynnwys, a chefnogi tirwedd ddarlledu fwy deinamig, gan barhau i ddod â chynulleidfaoedd at ei gilydd drwy newyddion dibynadwy, achlysuron cenedlaethol mawr, a chynnwys gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel.

Os caiff y newid hwn ei roi ar waith yn dda, gall gefnogi model cynaliadwy ar gyfer cynulleidfaoedd a’r diwydiant. Mae’n creu cyfle i wella hygyrchedd, ehangu’r dewis o ddyfeisiau, a gwneud gwasanaethau’n haws eu defnyddio ar draws amrywiaeth o aelwydydd, a galluogi buddsoddiad parhaus mewn cynnwys yn y DU a chefnogi cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus mewn amgylchedd digidol. Fodd bynnag, mae’r newid hefyd yn dod â chyfres o heriau rhyng-gysylltiedig o ran darparu ar gyfer pob cynulleidfa, cynnal gwasanaeth teledu dibynadwy, hyrwyddo cystadleuaeth, a chefnogi cynaliadwyedd darparwyr PSM yn yr hirdymor (mae rhagor o fanylion yn Atodiad B). Ynbenodol, er y gallai peidio â gorfod darparu gwasanaethau ar DTT fod o fudd ariannol i gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, bydd angen buddsoddiad sylweddol i newid yn llwyr i IPTV (yn ogystal â dosbarthu cynnwys digidol yn ehangach) er mwyn iddyn nhw allu darparu cynnyrch sy’n gwasanaethu cynulleidfaoedd orau ac sy’n gallu cystadlu â chynigion gan ddarparwyr rhyngwladol.

Sut gall gwasanaethau IPTV wella hygyrchedd a llesiant
Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Cymdeithas Alzheimer a Dementia UK, defnyddiodd y BBC adnodd BBC iPlayer i guradu casgliadau o raglenni cyfarwydd o’i archif, wedi’u trefnu yn ôl degawd, lle a phrofiadau cyffredin. Y bwriad oedd bod y casgliadau hyn yn hawdd dod o hyd iddyn nhw ac yn syml i’w defnyddio, a’u nod oedd helpu pobl sy’n byw gyda dementia i ddwyn atgofion a dechrau sgyrsiau gydag aelodau o’r teulu a gofalwyr.

Roedd tystiolaeth o’r cynllun yn dangos bod cynnwys teledu ar-alw cyfarwydd yn gallu helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus a sefydlog wrth wylio’r teledu, gan leihau dryswch, a chefnogi rhyngweithio cymdeithasol. Dywedodd teuluoedd a gofalwyr fod y gallu i deilwra cynnwys i berson, er enghraifft, drwy grwpio eu hoff raglenni gyda’i gilydd, yn gwneud teledu yn haws ei ddefnyddio ac yn dod â mwy o bleser.

Yn bwysig, roedd nodweddion IPTV wedi galluogi’r manteision nad oedd modd i deledu sy’n cael ei ddarlledu’n draddodiadol ei wneud, fel mynediad ar-alw a theilwra syml. Pan fydd gwasanaethau IPTV yn cael eu dylunio mewn modd hygyrch, mae’r fenter yn dangos sut maen nhw’n gallu gwella ansawdd bywyd a chefnogi cynhwysiant, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a’r rheini sydd â llai o hyder yn ddigidol, yn hytrach na gwneud teledu’n anoddach ei ddefnyddio [footnote 45].

Un flaenoriaeth allweddol yw sicrhau nad yw aelwydydd yn cael eu heithrio wrth i arferion gwylio symud ar-lein. Mae hyn yn gofyn am gysylltiad band eang dibynadwy sydd ar gael yn eang, gan gynnwys cysylltiadau cyflym iawn i’r rheini sy’n dibynnu ar DTT ar hyn o bryd, ochr yn ochr â strwythurau prisio fforddiadwy. Bydd tariffau band eang rhad a mesurau cymorth penodol yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o helpu aelwydydd incwm is i barhau i fod â chysylltiad. Dylid rhoi’r un sylw i ba mor fforddiadwy yw dyfeisiau, gydag offer IPTV syml, rhad, fel setiau teledu clyfar neu addasyddion heb ffioedd parhaus, sy’n efelychu elfennau rhwydd a chyfarwydd y teledu traddodiadol. Mae hyn yn cynnwys camau gosod syml, mynediad uniongyrchol at sianeli byw wrth gychwyn, a llywio greddfol drwy declynnau rheoli o bell ac amserlenni rhaglenni electronig, ochr yn ochr â darparu nodweddion hygyrchedd dibynadwy fel isdeitlau, disgrifiadau sain, ac iaith arwyddion.

Mae gwaith mawr eisoes yn mynd rhagddo i gryfhau sylfeini’r seilwaith sy’n angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau sy’n seiliedig ar brotocol rhyngrwyd ar raddfa fawr, gan gynnwys cynnydd fel bod pawb bron yn cael mynediad i fand eang o ansawdd uchel. Mae’r llywodraeth, mewn partneriaeth â’r diwydiant, yn sbarduno’r gwaith o gyflwyno band eang sy’n gallu delio â gigadid er mwyn i 99% o eiddo’r DU allu cael gafael ar gysylltedd band eang o ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer y dyfodol erbyn 2032. Mae’r farchnad ar gyfer technolegau amgen yn parhau i ddatblygu’n gyflym, a bydd y llywodraeth yn parhau i fonitro a chefnogi’r datblygiadau hyn i helpu i wella cysylltedd ar gyfer safleoedd mwy anghysbell.  Mae hyn yn rhoi sylfaen gref i’r llywodraeth a’r diwydiant gynllunio ar gyfer newid, gan gyfeirio eu hymdrechion ar y cyd at y garfan lai o aelwydydd sydd fwyaf tebygol o fod angen cymorth ychwanegol. 

Heblaw am y seilwaith a dyfeisiau, dylai gwasanaethau IPTV fod yn reddfol ac yn gynhwysol. Mae hyn yn cynnwys symleiddio prosesau mewngofnodi, cefnogi amrywiaeth eang o ddyfeisiau drwy safonau agored, a dylunio rhyngwynebau sy’n darparu ar gyfer lefelau amrywiol o hyder digidol. Bydd cynhwysiant digidol ehangach yn hanfodol, a bydd angen ymdrechion cydgysylltiedig ar draws y diwydiant, y llywodraeth, awdurdodau lleol, a sefydliadau cymunedol i ddarparu hyfforddiant a chymorth ymarferol. Dylai cynnwys PSM barhau i fod am ddim ar y pwynt defnyddio, gan gynnal profiad sylfaenol sy’n debyg i’r gwasanaethau DTT presennol.

Mae cynnal gwasanaeth teledu dibynadwy yn hanfodol hefyd. Dylai unrhyw deledu daearol digidol newydd fodloni neu ragori ar y safonau presennol, yn enwedig yn ystod y cyfnodau gwylio brig a digwyddiadau cenedlaethol mawr. Bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad parhaus mewn rhwydweithiau darparu cynnwys a seilwaith band eang, safonau gwasanaeth clir, a chynlluniau wrth gefn cadarn. Bydd cydweithio â’r diwydiant yn allweddol i sicrhau cysondeb ar draws y gadwyn gyflenwi, wedi’i gefnogi lle bo angen gan oruchwyliaeth y llywodraeth ac asesiad parhaus o gapasiti’r rhwydwaith.

Rydym hefyd yn cydnabod bod rhywfaint o seilwaith darlledu yn rhan o Seilwaith Cenedlaethol Critigol y DU. Mae darparwyr allweddol, gan gynnwys Arqiva, yn darparu gwasanaethau sy’n cefnogi systemau hanfodol fel mesuryddion clyfar, cyfathrebu mewn argyfwng, a gwybodaeth i’r cyhoedd mewn argyfwng. Er bod angen mynd ati’n ofalus i asesu goblygiadau llawn unrhyw newid i’r gwasanaethau hyn, byddwn yn parhau i sicrhau bod unrhyw symud o DTT i IPTV yn rhoi sylw i ystyriaethau cymdeithasol a diogelwch ehangach.

Mae’r newid hefyd yn gyfle i foderneiddio’r sector. Gallai symud oddi wrth hen seilwaith leihau costau, rhyddhau sbectrwm, a chaniatáu i ddarlledwyr ganolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau a chynnwys. Bydd hyn yn dibynnu ar gael atebion IPTV agored, rhyngweithredol sy’n gweithio ar draws dyfeisiau heb gloi defnyddwyr neu ddarparwyr mewn ecosystemau caeedig. Bydd trefniadau cludo teg a thryloyw, ynghyd â sicrhau bod hyn yn gydnaws â dyfeisiau ar lefel eang, yn bwysig er mwyn cynnal cystadleuaeth, amrywiaeth, a mynediad rhwydd. Bydd eglurder o ran rheoliadau, gan gynnwys penderfyniadau ar ddefnydd o sbectrwm, yn bwysig hefyd i gefnogi buddsoddiad ac arloesedd.

Dylai unrhyw fodel dosbarthu newydd gefnogi darparwyr PSM i barhau i fod yn hyfyw a pharhau i gyrraedd cynulleidfaoedd. Dylai eu cynnwys barhau i fod yn rhad ac am ddim, yn hawdd dod o hyd iddo, ac ar gael ar draws llwyfannau a dyfeisiau mawr. Bydd cydweithio parhaus yn y diwydiant, ochr yn ochr â fframwaith rheoleiddio wedi’i ddiweddaru lle bo angen hynny, yn helpu i ddiogelu amlygrwydd, hygyrchedd, a chynaliadwyedd hirdymor.

Rydym yn bwriadu datblygu cynllun newid, sy’n nodi’r mesurau technegol, rheoleiddiol, a mesurau ar gyfer defnyddwyr sydd eu hangen i sicrhau bod y newid o DTT i IPTV yn digwydd yn rhwydd. Bydd hyn yn ystyried pobl sy’n gwylio drwy loerennau, parhad gwasanaeth, a’r effeithiau posibl ar radio, a bydd yn ategu unrhyw gynlluniau i helpu cynulleidfaoedd. Bydd amlinelliad o’r cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â phenderfyniad terfynol y llywodraeth ar ddyfodol dosbarthu cynnwys teledu yn ddiweddarach eleni.

Yn gyffredinol, bydd rhoi hyn ar waith yn llwyddiannus yn dibynnu ar gydweithio agos rhwng y diwydiant i sicrhau newid llyfn sy’n cynnal mynediad, yn cefnogi gwydnwch, ac yn galluogi datblygiad tymor hir yn y sector.

Ystyriaethau o ran amseru

Fel y nodir uchod, rydym yn credu bod newid o DTT i IPTV ar ryw bwynt yn ddymunol. Y dewis i’r llywodraeth felly yw sut mae gweithredu’r newid hwnnw dan arweiniad y diwydiant, a’r amserlen i gyflawni hynny. Mae’r opsiynau sy’n cael eu hystyried wedi’u nodi yn Atodiad A, a chynigir 2034 fel yr amserlen bosibl gynharaf i ddechrau’r newid. 

Gallai symud i ddosbarthu cynnwys teledu yn llawn drwy brotocol rhyngrwyd yn 2034 ddatgloi amrywiaeth o fanteision strategol ac economaidd a manteision i ddefnyddwyr. Yn gyntaf, gallai roi cyfle i wireddu arbedion cost yn gynharach ar draws y gadwyn gwerth darlledu. Gallai newid yn 2034 arwain hefyd at fanteision o ran effeithlonrwydd sbectrwm yn gynharach. Byddai gadael sbectrwm DTT yn creu cyfleoedd iddo gael ei ailddyrannu ar gyfer defnydd gwerth uchel arall, fel band eang symudol a thechnolegau di-wifr newydd, gan gefnogi amcanion economaidd a chysylltedd ehangach (gweler Atodiad C). 

Rydym hefyd yn credu y byddai amserlen 2034 yn cyflymu arloesedd o ran cynnwys, gwasanaethau, a phrofiad defnyddwyr. Mae amgylcheddau IPTV yn galluogi nodweddion mwy datblygedig na darlledu traddodiadol, gan gynnwys teilwra personol, rhyngweithio, hysbysebu deinamig, ac integreiddio di-dor â gwasanaethau ar-alw a ffrydio. Byddai cyflwyno’r newid yn caniatáu i gynulleidfaoedd y DU a gweithredwyr yn y diwydiant elwa’n gynt o’r galluoedd hyn, gan gryfhau cystadleurwydd sector cyfryngau’r DU mewn marchnad sydd fwyfwy digidol a byd-eang. Byddai hefyd yn fan cychwyn pwerus i helpu pobl i gymryd eu camau cyntaf ar-lein er mwyn iddyn nhw allu bod yn rhan o’r gymdeithas ddigidol ac elwa ohoni, gan gynnwys arbed arian ar filiau, cael gafael yn haws ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, a chynyddu cysylltiadau cymdeithasol. Gyda tharged y llywodraeth i gyflwyno band eang sy’n gallu delio â gigadid gan gyrraedd 99% erbyn 2032, a’r farchnad ar gyfer technolegau amgen yn datblygu’n gyflym, rydym yn disgwyl i gysylltedd fod ar waith i gefnogi newid yn 2034. Fodd bynnag, gallai fod yn fwy cymhleth mynd i’r afael â’r heriau a nodwyd (Atodiad B) yn ystod y cyfnod hwn. 

Opsiwn arall fyddai newid erbyn 2044, gan gynnig estyniad 10 mlynedd i’r llwyfan DTT. Byddai cynnal model teledu DTT/IPTV hybrid tan 2044 yn gwarchod mynediad cyffredinol am ddim ar gyfer aelwydydd sy’n arafach yn mabwysiadu band eang, gan gynnwys gwylwyr hŷn a gwylwyr mwy agored i niwed. Byddai hefyd yn diogelu amlygrwydd darparwyr PSM, ac yn lleihau’r effeithiau ar y ffyrdd eraill o ddefnyddio’r rhwydwaith trawsyrru daearol, gan gynnwys radio a chyfathrebu mewn argyfwng. Yn gyffredinol, byddai’n caniatáu ar gyfer newid graddol, a llai o risg. Mae hyn yn rhannol oherwydd, er bod disgwyl i’r mwyafrif helaeth o aelwydydd gael mynediad at fand eang dibynadwy sy’n gallu cefnogi teledu sy’n seiliedig ar brotocol rhyngrwyd erbyn dechrau’r 2030au, nid oes disgwyl y bydd mynediad i bron pawb i IPTV tan ddechrau’r 2040au [footnote 46]. Yn benodol, dylai setiau IPTV sy’n darparu mynediad hawdd at sianeli teledu llinol (yn enwedig sianeli gwasanaeth cyhoeddus) fod ar gael yn eang yn y farchnad ac (wrth ystyried cylch bywyd arferol setiau teledu sy’n cael eu huwchraddio mewn cartrefi) i fod mewn mwy o’r cartrefi sydd eu hangen. Bydd hyn yn lleihau’r angen am lwyfan darlledu daearol penodol. Ar yr un amserlen, disgwylir i lefelau llythrennedd ym maes digidol fod wedi gwella’n sylweddol, gan leihau ymhellach yr angen am lwyfan darlledu daearol penodol. 

Nid yw’r llywodraeth o’r farn bod rhoi estyniad pellach i DTT y tu hwnt i 2044 yn rhywbeth sy’n ddymunol nac yn gynaliadwy’n economaidd. Byddai cynnal DTT y tu hwnt i’r pwynt hwn yn golygu costau seilwaith sylweddol na fyddai’n gymesur mwyach â’i gynulleidfa lai (gweler Atodiad C).

Erbyn y pwynt hwn, disgwylir i lwyfannau IPTV fod yn hygyrch ac yn gynhwysol drwy ddyluniad, a bydd costau parhaus cynnal seilwaith DTT ar gyfer cynulleidfa lai yn debygol o fod yn fwy na’i werth cyhoeddus. Ni fyddai cadw sbectrwm ar gyfer DTT am gyfnod amhenodol ar y lefelau presennol yn ffordd orau ychwaith o ddefnyddio adnodd sy’n gyfyngedig ac yn strategol bwysig. Gallai rhyddhau hyd yn oed gyfran o’r sbectrwm hwn ar gyfer sectorau eraill arwain at fanteision twf sylweddol, er enghraifft drwy alluogi gwell cysylltedd symudol i bobl ledled y wlad. 

Casgliadau a’r camau nesaf

Mae’r llywodraeth yn awyddus i wella profiadau gwylwyr a helpu mwy o bobl i gymryd eu camau cyntaf ar-lein. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd rhoi sicrwydd ac eglurder i’r diwydiant a’r cyhoedd. 

Am y rhesymau a nodir uchod, mae’r llywodraeth yn credu bod achos cryf dros newid o wasanaethau DTT i wasanaethau IPTV erbyn 2034. Ond, gan gydnabod yr heriau y byddai angen eu goresgyn, mae’r llywodraeth yn glir bod yn rhaid i’r newid ddigwydd yn y ffordd iawn, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae newid gan ddilyn yr amserlen hon yn dibynnu, ymysg pethau eraill, ar y llywodraeth yn cyrraedd ei tharged i gyflwyno band eang sy’n gallu delio â gigadid, a rhagor o waith gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid, gan gynnwys ar heriau pwysig fel fforddiadwyedd a chynhwysiant digidol.

Drwy’r papur gwyrdd hwn, mae’r llywodraeth yn nodi’r egwyddorion ar gyfer llwybr y newid, yn ogystal â cheisio barn am 2044 fel dyddiad posibl ar gyfer y newid, er mwyn clywed ac ystyried amrywiaeth eang o safbwyntiau.

Yn dibynnu ar ganlyniadau’r ymgynghoriad hwn, un o’r camau nesaf i’r llywodraeth, gan weithio gyda rhanddeiliaid, fydd llunio cynllun ar gyfer trosglwyddo o DTT i IPTV. Yn y cynllun bydd manylion y mesurau technegol, rheoleiddiol, a mesurau defnyddwyr sydd eu hangen i sicrhau newid didrafferth a chynhwysol i deledu sy’n seiliedig ar brotocol rhyngrwyd.

Fel rhan o’r cynllun hwn, a beth bynnag fo amserlen y newid yn y pen draw, mae’r llywodraeth yn disgwyl y bydd angen pecyn cymorth strwythuredig i helpu cynulleidfaoedd i symud o DTT i IPTV yn ddidrafferth ac yn hyderus.

Dysgu o’r newid diwethaf ym myd teledu
Yn ystod y newid diwethaf i deledu digidol yn y DU (2008-2012), roedd llawer o wylwyr hŷn a gwylwyr bregus yn poeni am y newid ar y dechrau. Dangosodd ymchwil ar y pryd fod pobl yn poeni na fydden nhw’n ymdopi â thechnoleg newydd neu y bydden nhw’n colli mynediad at deledu yn gyfan gwbl.

Yn ymarferol, roedd y profiad yn wahanol. Gyda phrosiect gweithredu ar raddfa fawr, a buddsoddiad cyhoeddus sylweddol mewn adnoddau ac mewn cyllid, arweiniodd hyn at wybodaeth glir, safonau syml ar gyfer offer, a mynediad at gymorth dibynadwy. Roedd hyn yn golygu bod y newid yn llawer llai brawychus na’r disgwyl i’r rhan fwyaf o bobl. Dywedodd un cyfranogwr fod y cyfarwyddiadau wedi bod mor hawdd fel nad oedd yn broblem fawr yn y diwedd.

Erbyn diwedd y rhaglen, roedd miliynau o gartrefi wedi llwyddo i newid, roedd lefelau bodlonrwydd yn uchel, a dywedodd llawer o bobl eu bod yn mwynhau nodweddion newydd fel ansawdd gwell i’r llun, mwy o sianeli, a’r gallu i oedi teledu byw.

Yn yr un modd â’r newid i’r digidol, mae profiad yn dangos bod llwyddiant yn dibynnu ar fod yn barod o ran y dechnoleg, yn ogystal hefyd â chyfathrebu’n gynnar, rhoi digon o amser paratoi, a chymorth ymarferol a dibynadwy i’r rheini y bydd y newid fwyaf tebygol o effeithio arnyn nhw. Yn wahanol i unrhyw newid blaenorol, fodd bynnag, mae symud i IPTV yn gyfle hefyd i gefnogi cyfranogiad digidol ehangach ac i leihau allgáu digidol sy’n bodoli ers tro.

Wrth gynnig cymorth, dylid cydnabod bod angen gwahanol lefelau o gymorth ar wahanol gynulleidfaoedd, o sicrwydd ac arweiniad syml i gymorth mwy ymarferol. Dylai adlewyrchu anghenion cynulleidfaoedd, gan gynnwys y rheini sydd fwyaf tebygol o wynebu rhwystrau, fel aelwydydd heb gysylltiad neu heb gysylltiad digonol, pobl hŷn, pobl ag anableddau, a phobl heb fawr o sgiliau neu hyder yn y byd digidol. 

Bydd angen i unrhyw gynllun newid ystyried yn benodol y rheini sy’n gwylio drwy loerennau, cynnal parhad gwasanaeth, ac edrych ar ffyrdd o integreiddio sianeli sy’n cael eu darparu gan loerennau i fodelau dosbarthu newydd hybrid a phrotocol rhyngrwyd. Dylai hefyd sicrhau bod cynlluniau ar waith i unioni unrhyw effeithiau niweidiol ar radio yn sgil diffodd gwasanaethau DTT, ar sail canfyddiadau’r Adolygiad Radio a lansiwyd gan y llywodraeth ar 12 Chwefror 2026 ac a fydd yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd mis Tachwedd.

Hefyd, byddai’r cynllun newid yn ystyried gwelliannau i reoleiddio darparwyr seilwaith, gan sicrhau mynediad teg, prisio tryloyw, a goruchwyliaeth gadarn i gefnogi seilwaith darlledu cynaliadwy, cystadleuol, ac effeithlon yn ystod ac ar ôl y newid i ddosbarthu cynnwys yn seiliedig ar brotocol rhyngrwyd. 

Bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud mewn ymateb i’r ymgynghoriad ac yn cael eu nodi yn y papur gwyn. Bydd unrhyw newid yn golygu cynllun newid credadwy, gan weithio’n agos gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid, a byddem hefyd yn adolygu cynnydd yn rheolaidd drwyddi draw.

Y papur gwyrdd hwn yw’r man cychwyn ar gyfer ymdrech ar y cyd: ymgynghori ar y llwybr gorau ar gyfer y newid, gosod disgwyliadau clir, a pharatoi ymrwymiadau sy’n sicrhau bod cyffredinolrwydd, dibynadwyedd, arloesedd, a’n cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, sydd gyda’r gorau yn y byd, yn cael eu diogelu.

3.2 Dyfodol gwaith rheoleiddio’r teledu

Pa wasanaethau tebyg i deledu y dylid eu rheoleiddio yn y dyfodol

Drwy ba bynnag seilwaith dosbarthu neu lwyfan y bydd cynulleidfaoedd yn cael gafael ar gynnwys teledu yn y dyfodol, rydym am sicrhau bod ein darlledwyr a’n darparwyr cynnwys yn parhau i ffynnu yn y dirwedd cyfryngau newydd hon. Rydym hefyd am sicrhau bod cynulleidfaoedd y DU yn parhau i gael y rhaglenni gorau a’u bod yn cael eu diogelu’n briodol rhag cynnwys a allai fod yn niweidiol neu’n gamarweiniol. Ac ystyried y newid technolegol cyflym hwn, mae’n hanfodol bod y llywodraeth yn ystyried pa gamau y dylid eu cymryd i sicrhau bod cynnwys a sianeli teledu’n cael eu rheoleiddio’n gyson yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae cynulleidfaoedd yn y DU yn gwybod, os ydyn nhw’n gwylio teledu sy’n cael ei ddarlledu, fod rheolau o safon uchel ar waith i’w diogelu drwy God Darlledu Ofcom, gan gynnwys y trothwy 9pm, a gofynion bod yn rhaid i newyddion fod yn ddigon cywir a diduedd, a bod plant yn cael eu gwarchod rhag cynnwys a allai eu niweidio. Mae rheolau hefyd ynghylch tegwch a phreifatrwydd sy’n diogelu unigolion sy’n ymddangos mewn rhaglenni fel rhaglenni dogfen a rhaglenni teledu realaeth. Yn olaf, mae cynulleidfaoedd y DU yn gwybod y bydd gofynion sylfaenol ar gyfer nodweddion hygyrchedd (isdeitlau, disgrifiadau sain ac iaith arwyddion) a nodir yng Nghod Ofcom ar wasanaethau mynediad ar gyfer teledu. Os na chedwir at y safonau uchel hyn, gall cynulleidfaoedd, ac unigolion yr effeithir arnyn nhw, gwyno wrth y rheoleiddiwr annibynnol, Ofcom, sydd â phwerau i gymryd camau priodol. 

Fodd bynnag, mae tirwedd teledu’r DU yn mynd drwy broses trawsnewid cyflym sy’n cael ei gyrru gan dechnoleg, ac mae’n herio, yn y bôn, y fframwaith rheoleiddio traddodiadol a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer oes o ddarlledu analog. Heb newid, bydd rheoleiddio yn y DU, fel safonau cynnwys Ofcom, yn ei chael hi’n anodd dal i fyny â’r arloesi yn y cyfryngau a’r newidiadau o ran sut mae cynulleidfaoedd yn defnyddio cynnwys. Gallai hyn arwain hefyd at amodau rheoleiddio annheg ac anghystadleuol rhwng darlledwyr traddodiadol a darparwyr cynnwys mwy newydd sy’n cael eu rheoleiddio llai. 

Mae setiau teledu clyfar yn cynnig dewis o gannoedd o filoedd o oriau o gynnwys i gynulleidfaoedd erbyn hyn, ar draws ystod gynyddol o wasanaethau ac apiau, drwy bwyso botwm. Er enghraifft, mae cyfran yr amser sy’n cael ei dreulio’n gwylio YouTube yn y cartref drwy set deledu wedi cynyddu o un flwyddyn i’r llall, o 34% ar gyfartaledd yn 2023 i 41% yn 2024 [footnote 47]. Yn ôl Ofcom, mae 20% o blant rhwng 4 a 15 oed nawr yn dewis llwyfan rhannu fideos, yn benodol YouTube, fel eu cyrchfan gyntaf wrth droi teledu ymlaen [footnote 48]. Mae 85% o oedolion yn defnyddio gwasanaeth fideo ar-alw bob mis, cyfran uwch na’r 67% sy’n gwylio teledu byw ar set deledu [footnote 49]. Fodd bynnag, er eu bod yn cynnig profiad sy’n fwy ‘tebyg i deledu’ i gynulleidfaoedd, gyda mwy o gynnwys ar ffurf hir a gwerth cynhyrchu uchel, nid yw’r gwasanaethau hyn yn cael eu rheoleiddio i’r un safonau â gwasanaethau traddodiadol. Mae rhai gwneuthurwyr teledu, fel Samsung ac LG, hefyd yn darparu eu detholiad eu hunain o sianeli teledu, sy’n hwylus iawn ac yn edrych ac yn teimlo fel amserlenni teledu traddodiadol, ond heb fod yn cael eu rheoleiddio gan Ofcom ar y cyfan.

Ar 1 Ebrill 2026, daeth deddfwriaeth i rym i ddechrau mynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn a allai fod. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ddynodi bod gwasanaethau fideo ar-alw prif ffrwd sydd â dros 500,000 o ddefnyddwyr, fel Netflix, Disney+ ac ITVX, i gael eu rheoleiddio’n well, yn debyg i raglenni teledu, gan ddod â nhw’n nes at y ffordd mae darlledwyr trwyddedig Ofcom yn cael eu rheoleiddio ar hyn o bryd. Mae Ofcom wedi lansio ymgynghoriad ar ei god safonau fideo ar-alw a fydd yn gyfle i’r cyhoedd a darparwyr gyflwyno eu safbwyntiau ar y rheolau a fydd yn y cod hwnnw. 

Mae’r llywodraeth hefyd wedi cynyddu nifer yr amserlenni rhaglenni electronig (EPG) sy’n cael eu rheoleiddio, gan ddod â’r gwasanaethau newydd mwyaf poblogaidd, fel Sky Glass a Freely, o dan reoliadau Ofcom. Yr amserlenni rhaglenni electronig yw’r dewislenni digidol rhyngweithiol ar y sgrin sy’n dangos amserlenni teledu sy’n helpu cynulleidfaoedd i ddewis y rhaglen a’r sianel maen nhw am eu gwylio. Ar ben hynny, mae’r llywodraeth yn datrys man gwan sydd wedi caniatáu i bobl gael mynediad at rai sianeli heb eu rheoleiddio drwy wasanaeth sy’n cael ei reoleiddio.

Gyda’i gilydd, bydd y diweddariadau hanfodol hyn yn sicrhau bod modd i fesurau diogelu a nodweddion hygyrchedd hanfodol fel isdeitlau, disgrifiadau sain ac iaith arwyddion, barhau i fod ar gael i gynulleidfaoedd, ni waeth sut maen nhw’n dewis dal i fyny â’u hoff raglenni teledu. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod y safonau cynnwys y mae cynulleidfaoedd yn eu disgwyl wrth roi eu teledu ymlaen yn cael eu defnyddio’n fwy cyson. Mae’r mesur hwn hefyd yn cefnogi ein darparwyr PSM, drwy ymestyn rheolau amlygrwydd sy’n sicrhau ei bod yn hawdd dod o hyd i sianeli gwasanaeth cyhoeddus ar wasanaethau EPG newydd.

Fodd bynnag, mae’r hyn sy’n cael ei gyfrif yn “teledu” yn parhau i newid. Nid yw’r llinellau rhwng cynnwys wedi’i guradu’n olygyddol a chynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr, a rhwng darparwyr cynnwys a llwyfannau cynnwys, wedi’u diffinio’n glir mwyach. Yn bwysicach na hynny, mae datblygiadau mewn technoleg a’r cynnydd mewn gwasanaethau mwy newydd yn golygu bod cynulleidfaoedd yn dod i gysylltiad fwyfwy ag amgylchedd cyfryngau tebyg i deledu sy’n anghyson ac yn gallu bod yn niweidiol, . Er bod llawer o’r rhaglenni sy’n cael eu gwylio drwy setiau teledu, naill ai’n fyw neu ar-alw, yn dal i gael eu rheoleiddio gan Ofcom, mae’r man diogel a dibynadwy hwn sy’n cael ei reoleiddio yn mynd yn llai.

Mae newidiadau mewn technoleg hefyd wedi caniatáu i ddarparwyr gynnig mwy o wasanaethau i’w cynulleidfaoedd, gan agor mannau ar wasanaethau presennol sy’n cael eu rheoleiddio sydd y tu allan i gwmpas y ddeddfwriaeth bresennol. Er enghraifft, mae gwasanaethau fel Netflix ac Amazon Prime Video yn symud fwyfwy i ddarparu cynnwys chwaraeon byw. Fodd bynnag, mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn golygu na ellir rheoleiddio cynnwys byw ar y gwasanaethau hyn yn yr un ffordd â rhaglenni ar-alw. Yn yr un modd, mae rhyngwynebau defnyddwyr setiau teledu clyfar yn dod yn fwyfwy rhyngweithiol. Er bod y rhain yn cynnig lefel uwch o deilwra personol a rhyngweithio i gynulleidfaoedd, ychydig iawn o ofynion sydd ar wneuthurwyr ar hyn o bryd i sicrhau nad yw sgrin hafan ar ddyfais yn cynnwys deunydd niweidiol a allai, er enghraifft, fod yn amhriodol i blant.

Sut dylid rheoleiddio gwasanaethau tebyg i deledu yn y dyfodol

Yn ogystal ag ystyried pwy ddylai gael ei reoleiddio, mae’r un mor bwysig ein bod yn ystyried sut dylid rheoleiddio gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod rheoleiddio’n parhau i fod yn effeithiol ac yn gymesur wrth i’r tirwedd cyfryngau newid. Ar hyn o bryd, mae gan Ofcom bwerau statudol eang i drwyddedu sianeli teledu masnachol, gorfodi’r Cod Darlledu a diweddaru ei reolau, ac ymchwilio i gwynion ynghylch cynnwys niweidiol neu dramgwyddus. Maen nhw’n gallu rhoi dirwyon, mynnu cywiriadau a dileu cynnwys, a dirymu trwyddedau ar gyfer achosion difrifol o dorri amodau. Yn dilyn Deddf Cyfryngau 2024, mae gan Ofcom bwerau newydd i reoleiddio gwasanaethau fideo ar-alw prif ffrwd i safon debyg. Er y bydd yn cymryd amser i weithredu’n llawn, mae Ofcom yn ystyried sut y gellir diweddaru rheolau safonau cynnwys a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer gwylio llinol i fod ar gyfer profiad ar-alw. 

Ar hyn o bryd, yn gyffredinol, mae sianeli llinol sy’n ymddangos ar amserlenni rhaglenni electronig sy’n cael eu rheoleiddio yn cael eu trwyddedu gan Ofcom, sy’n golygu bod cynulleidfaoedd yn gallu cwyno wrth Ofcom os ydyn nhw wedi gweld rhywbeth maen nhw’n poeni amdano, a gall Ofcom ddewis ymchwilio a chymryd camau sy’n briodol yn ei farn ef. Cafodd Ofcom bron i 50,000 o gwynion yn 2025 am dros 8,000 o raglenni teledu, radio ac ar-alw. Mae hyn yn arwydd clir bod yr hyn mae cynulleidfaoedd yn ei wylio ac yn gwrando arno yn bwysig iawn iddyn nhw. Rhaid i Ofcom fynd ati’n ofalus i gael cydbwysedd rhwng diogelu cynulleidfaoedd rhag cynnwys niweidiol a thramgwyddus a’r hawl sylfaenol i ryddid mynegiant. Mae’r llywodraeth yn cefnogi Ofcom yn gryf fel y rheoleiddiwr annibynnol ond mae’n awyddus i ystyried lle gellid cefnogi Ofcom ymhellach yn y rôl hon.

O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 a Deddf Darlledu 1996, mae’n rhaid i Ofcom lunio a gorfodi Cod Darlledu i sicrhau amcanion safonau sydd wedi’u nodi mewn deddfwriaeth. Mae hyn yn golygu gosod safonau sylfaenol i sicrhau’r amcanion hyn, ond hefyd unrhyw safonau eraill sy’n briodol ym marn Ofcom. Mae amcanion y safonau hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl dan ddeunaw oed yn cael eu diogelu, bod safonau a dderbynnir yn gyffredinol yn cael eu defnyddio er mwyn darparu gwarchodaeth ddigonol rhag deunydd tramgwyddus a niweidiol, a bod newyddion yn cael ei adrodd gyda chywirdeb dyladwy ac yn cael ei gyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy. Mae’r Ddeddf Darlledu yn mynnu bod Ofcom yn sicrhau bod darlledwyr yn osgoi unrhyw darfu heb gyfiawnhad ar breifatrwydd neu driniaeth annheg mewn rhaglenni. Mae Ofcom yn gyfrifol am y Cod Darlledu, ac mae ganddo ddyletswydd i’w adolygu’n gyson a gwneud unrhyw newidiadau yn ôl yr angen.

Mae gallu cael gafael ar newyddion diduedd a chywir ar y teledu a’r radio yn hanfodol i gymdeithas ddemocrataidd, ac o’r herwydd mae hyn yn cael ei warchod mwy o dan gyfraith y DU. Ond, mae’r dirwedd newyddion yn parhau i esblygu ac mae’r gwahaniaeth rhwng cynnwys newyddion a materion cyfoes wedi dod yn llai eglur. O’r herwydd, ar ôl ymgynghori, ym mis Hydref 2025 diweddarodd Ofcom ei reolau a’i ganllawiau ynghylch gwleidyddion yn cyflwyno newyddion, i adlewyrchu’r dirwedd bresennol.

Yn ogystal ag amddiffyn cynulleidfaoedd, mae rheolau Cod Darlledu Ofcom hefyd yn berthnasol i’r rheini sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni, er mwyn sicrhau bod darlledwyr yn gofalu’n briodol am les pobl a allai fod mewn perygl o niwed sylweddol o ganlyniad i gymryd rhan mewn rhaglen. Diweddarodd Ofcom ei reolau yn 2021 i ddiogelu’n well y bobl sy’n ymddangos ar raglenni teledu a radio, a bydd yn cynnal adolygiad amserol o’u rheolau a’u canllawiau i ystyried a oes angen eu cryfhau.

Mae Ofcom hefyd yn rheoleiddio safonau hygyrchedd ac yn gorfodi cwotâu sylfaenol ar gyfer isdeitlau, disgrifiadau sain, ac iaith arwyddion. Mae gan ddarlledwyr trwyddedig rwymedigaethau hefyd, fel darparu data, sicrhau bod ganddyn nhw systemau priodol ar waith, glynu wrth gyfyngiadau hysbysebu, a thalu ffioedd i Ofcom. Ar ôl eu rhoi ar waith yn llawn, bydd gwasanaethau fideo ar-alw Haen 1 dynodedig hefyd o dan reoliad tebyg neu gyfatebol, ond drwy system hysbysu. Yn hytrach na gwneud cais am drwydded, mae natur gwasanaethau ar-alw yn golygu bod angen iddyn nhw roi gwybod i Ofcom pan fyddan nhw’n gweithredu yn awdurdodaeth y DU. O’u hystyried gyda’i gilydd, mae hyn yn sicrhau bod sianeli teledu sy’n cael eu rheoleiddio a’r gwasanaeth fideo ar-alw prif ffrwd sydd ar gael yn y DU yn dilyn set gyffredin o reolau a safonau mewn perthynas â’r rhaglenni maen nhw’n eu dangos. 

O dan y system bresennol, mae safonau rheoleiddio yn uchel ar gyfer darlledwyr trwyddedig a darparwyr fideo ar-alw prif ffrwd (ar ôl gweithredu’r Ddeddf Cyfryngau). Mae llwyfannau rhannu fideos yn dilyn safonau is drwy’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, sy’n seiliedig ar egwyddorion diogelu cynulleidfaoedd, ac ychydig iawn o reoleiddio, os o gwbl, sydd ar fathau eraill o gynnwys tebyg i deledu a theledu ar-lein. Mae hyn yn arwain at dirwedd reoleiddio ddryslyd i fusnesau a chynulleidfaoedd, ac mae’r amodau rheoleiddio yn annheg ac anghystadleuol i’r diwydiant.

Yn y tymor hwy, mae’n debygol y bydd angen diwygio sylfaen y fframwaith rheoleiddio, fel ei fod yn adlewyrchu amgylchedd cwbl ddigidol. Ym mis Tachwedd 2025, lansiodd Ofcom gais am fewnbwn i adolygiad o ddeddfwriaeth darlledu. Gosododd y rheoleiddiwr yr her fod angen gwneud mwy mewn amgylchedd cyfryngau sy’n fwyfwy deinamig a darniog, fel bod cynulleidfaoedd yn cael eu diogelu lle bynnag maen nhw’n gwylio ac yn gwrando ar gynnwys. Rhaid i reoleiddio fod yn hyblygar gyfer newidiadau anochel yn y farchnad yn y dyfodol, a gallu cefnogi arloesedd a thwf yn y sector er budd dinasyddion a defnyddwyr.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r llywodraeth wedi addo haneru costau gweinyddol rheoleiddio i fusnesau, gan wneud y DU y lle gorau i wneud busnes a sbarduno twf economaidd. Mae’n hanfodol bod newid rheoleiddiol yn ystyried codi safonau pawb a diogelu cynulleidfaoedd, ond golygu hefyd nad oes yn rhaid i’n darlledwyr a’n darparwyr PSM ddilyn rheoliadau hen ffasiwn nad yw’n addas i’r diben mwyach.

Y camau nesaf ar gyfer dyfodol rheoleiddio’r teledu

Bydd y llywodraeth nawr yn cynnal cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid i ystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen â’r diwygio angenrheidiol hwnnw, i sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio’n parhau i ddiogelu cynulleidfaoedd rhag cynnwys niweidiol, yn cefnogi darparwyr cyfryngau, ac yn caniatáu i’n diwydiannau creadigol ffynnu, drwy leihau biwrocratiaeth, a sbarduno twf ac arloesedd ledled y DU.

Gallai hyn gynnwys nod i symud, yn y pen draw, oddi wrth system reoleiddio sy’n seiliedig ar sut mae cynnwys yn cael ei ddarparu, i un sy’n canolbwyntio ar le mae cynulleidfaoedd yn dod o hyd i gynnwys tebyg i deledu ac yn ei ddefnyddio, gan sicrhau safonau a gwarchodaeth gyson waeth beth fo’r llwyfan. Fodd bynnag, rhaid i’r fframwaith hwn fod yn deg â busnesau a defnyddwyr, a bod yn hyblyg a gallu addasu i’r newid cyflym ym maes technoleg ac i fodelau busnes sy’n esblygu, gan sicrhau bod y DU yn parhau i arwain y byd yn y diwydiannau creadigol yn ogystal â lleihau beichiau rheoleiddio diangen.

Rydym wedi nodi’r amcanion canlynol a fydd yn darparu fframwaith cyffredinol i’r hyn rydym am ei gyflawni:

  • Diogelu cynulleidfaoedd: Sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith ar gyfer cynulleidfaoedd rhag cynnwys niweidiol neu gamarweiniol, yn enwedig i blant, a sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu defnyddio’n briodol ar draws gwasanaethau teledu a thebyg i deledu.
  • Hygyrchedd: Galluogi pob cynulleidfa, yn enwedig y rheini sydd ag anableddau sy’n effeithio ar eu golwg neu eu clyw, i gael gafael ar gynnwys teledu a chynnwys tebyg i deledu a’i fwynhau, sut bynnag maen nhw’n dewis ei wylio.
  • Cymesuredd: Lleihau’r rhwystrau sy’n atal twf ac arloesedd, gan gynnwys ymrwymiad i gael gwared ar feichiau rheoleiddio diangen a sefydlu amodau rheoleiddio tecach ar gyfer gwasanaethau teledu a thebyg i deledu sy’n cystadlu â’i gilydd. 
  • Diogelu’r fframwaith rheoleiddio a phwerau Ofcom at y dyfodol: Sicrhau bod gan Ofcom bwerau priodol a digon o hyblygrwydd i reoleiddio gwasanaethau tebyg i deledu yn effeithiol yn y dyfodol, lle bynnag y byddan nhw’n ymddangos.

Pennod 4: Sicrhau bod cynnwys PSM yn dal yn hygyrch ac yn berthnasol i gynulleidfaoedd

Er gwaethaf yr heriau sy’n codi yn sgil tirwedd cyfryngau sy’n fwyfwy cymhleth a darniog, nid oes neb fel darlledwyr i allu dod â phobl at ei gilydd i rannu profiadau; hyd yn oed cynulleidfaoedd iau y mae cyfran gynyddol o’u hamser gwylio’n cael ei threulio ar wasanaethau ffrydio a llwyfannau rhannu fideos. Ymysg pobl 16-24 oed, mae 62% o’r teledu sy’n cael ei wylio gan ddarlledwyr yn cael ei wneud gyda phobl eraill, o’i gymharu â 41% ar gyfer ffrydwyr a 30% ar gyfer llwyfannau rhannu fideos [footnote 50]

Mae’r chwe darlledwr sy’n darparu cynnwys PSM yn y DU yn rhan hanfodol o wead cymdeithasol y wlad. Gyda’i gilydd, maen nhw’n sicrhau bod amrywiaeth eang o gynnwys diwylliannol berthnasol sy’n cael effaith ddemocrataidd ar gael yn gyffredinol i gynulleidfaoedd am ddim. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o newyddion a materion cyfoes ar y teledu, ond hefyd rhaglenni eraill sy’n bwysig yn gymdeithasol ac yn ddemocrataidd fel rhaglenni plant a rhaglenni addysgol, a drama a chomedi sy’n berthnasol yn ddiwylliannol. Mewn gwledydd sydd â systemau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus cryf sy’n cael eu hariannu’n dda, mae llai o hollti barn yn gymdeithasol [footnote 51].

Y system gyfredol o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus

Mae gan gynulleidfaoedd yn y DU fynediad at gannoedd o sianeli teledu, ond dim ond ffracsiwn o’r rhain sy’n sianeli gwasanaeth cyhoeddus. Y prif sianeli gwasanaeth cyhoeddus yw BBC One, BBC Two, Channel 3 (ITV1 neu STV ar hyn o bryd, yn dibynnu ar y rhanbarth), Channel 4, S4C, a 5. Mae’r sianeli hyn yn cael eu gweithredu gan ein darparwyr PSM: y BBC, ITV, STV, Channel 4, S4C, a 5. 

Yn rhinwedd eu statws fel darparwyr PSM, mae’n rhaid i’r darlledwyr hyn gyflawni’r cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer teledu gyda’i gilydd, sy’n cynnwys gofynion i gynhyrchu cynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu; cynnwys sy’n diwallu anghenion ac yn bodloni buddiannau cynulleidfaoedd. Mae’n rhaid i ddarparwyr PSM fodloni rhai cwotâu ar gyfer cynnwys penodol hefyd, fel cynyrchiadau gwreiddiol (cynnwys sy’n cael ei wneud yn benodol ar gyfer marchnad y DU), cynyrchiadau annibynnol (rhaglenni sy’n cael eu gwneud gan gwmnïau nad ydyn nhw’n eiddo i ddarlledwr) a chynnwys rhanbarthol (rhaglenni sy’n adlewyrchu ac yn gwasanaethu gwledydd a rhanbarthau amrywiol y DU). Yn wreiddiol, dim ond drwy brif sianel ddarlledu’r darparwr PSM roedd modd cyflawni’r rhwymedigaethau hyn. Erbyn hyn, mae Deddf Cyfryngau 2024 wedi galluogi darparwyr PSM i gyflawni’r rhwymedigaethau hyn drwy amrywiaeth ehangach o wasanaethau, gan gynnwys eu gwasanaethau rhaglenni ar-alw.

Yn gyfnewid am y rhwymedigaethau ychwanegol hyn, mae darparwyr PSM yn cael manteision penodol, fel amlygrwydd ‘priodol’ ar amserlenni teledu (er enghraifft, mae’r pum slot cyntaf wedi’u cadw ar gyfer sianeli gwasanaeth cyhoeddus). Bydd y Ddeddf hefyd yn cyflwyno trefn amlygrwydd newydd i roi amlygrwydd priodol i wasanaethau ffrydio darparwyr PSM ar lwyfannau teledu dynodedig fel setiau teledu clyfar, wrth ystyried bod gwylwyr yn gwylio mwy a mwy ogynnwys gan ddarparwyr PSM ar-alw. Caiff y cyfnewidiad ei alw weithiau yn ‘gompact PSM’.

Fodd bynnag, mae’r ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â chyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn newid. Mae cynulleidfaoedd nawr yn newid rhwng cynnwys PSM sy’n cael ei ddarparu ar sianeli darlledu, ar chwaraewyr fideo ar-alw’r darparwyr PSM eu hunain, clipiau o gynnwys darparwyr PSM ar lwyfannau rhannu fideos, a chynnwys a allai fod wedi cael ei gomisiynu’n wreiddiol gan ddarparwyr PSM ond sydd bellach ar gael ar wasanaethau ffrydio. Mae cynulleidfaoedd hefyd yn gallu cael gafael fwyfwy ar gynnwys sydd â gwerth cyhoeddus unigryw o amrywiaeth eang o ffynonellau; boed hynny’n ddramâu gwreiddiol o safon ar wasanaethau ffrydio fel Netflix, neu raglenni dogfen cytbwys sydd wedi cael eu hymchwilio’n dda ar lwyfannau fideo fel YouTube sy’n helpu pobl i ddeall y byd o’u cwmpas.  

Wrth i bobl ddefnyddio mwy a mwy o gynnwys ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol, yn aml ar lwyfannau sy’n blaenoriaethu sylw dros y gwerth cyhoeddus, mae cynnwys PSM yn dod yn llai amlwg i gynulleidfaoedd. Mae hyn yn cyfrannu at y pwysau ariannol y mae ein darparwyr PSM yn eu hwynebu, sy’n ei gwneud yn anoddach iddyn nhw ariannu’r gwaith o gynhyrchu a dosbarthu cynnwys gwreiddiol o’r DU i bob cynulleidfa. 

Mae’r llywodraeth yn dal wedi ymrwymo’n gryf i bwysigrwydd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, ond rhaid i ni fod yn effro i’r newidiadau yn y ffyrdd mae pobl yn rhyngweithio â’r cyfryngau ac yn agored i ffyrdd newydd y gall cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus newid ac arloesi er mwyn aros yn berthnasol i gynulleidfaoedd. Gallai hyn gynnwys diffiniadau newydd o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus, ac agor y system i ddarparwyr PSM newydd. 

Roedd adolygiad diweddaraf Ofcom o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, Argyfwng Darlledu, yn cydnabod wrth i gynulleidfaoedd symud ar-lein, eu bod yn gwylio cynnwys fideo ar ystod ehangach o wasanaethau. Dyna pam mae Ofcom wedi argymell bod angen i gynnwys PSM fod yn amlwg ac yn hawdd dod o hyd iddo ar y llwyfannau trydydd parti y mae cynulleidfaoedd yn troi atyn nhw fwyfwy. Fodd bynnag, ni fydd trefniadau amlygrwydd newydd yn ddigon ar eu pen eu hunain i sicrhau dyfodol tymor hir cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Felly, rydym hefyd am ystyried opsiynau ar gyfer model newydd o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus; un sy’n llai dibynnol ar ddarlledwyr traddodiadol, ac un sydd wedi’i sefydlu’n well i harneisio’r gwerth gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei greu ar draws ein sector sgrin deinamig.

4.1 Amlygrwydd cynnwys PSM yn oes y llwyfannau

Mae sicrhau mynediad cyffredinol at gynnwys PSM yn hanfodol nawr ac yng nghyd-destun unrhyw ddiwygiadau i reoleiddio cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Mewn ecosystem sy’n llawn cynnwys, mae mynediad at y cynnwys nid yn unig yn ymwneud â’r seilwaith, ond hefyd â pha mor hawdd yw dod o hyd i’r cynnwys hwnnw. Mae hyn yn golygu bod angen i gynnwys PSM fod yn hygyrch ac yn ddigon amlwg ar yr holl lwyfannau a dyfeisiau mae pobl yn eu defnyddio’n awr i wylio’r teledu. Mae gan y llywodraeth feddwl agored ynghylch sut gall hyn ddigwydd, ac felly mae’n gofyn am farn ynghylch a oes modd cyflawni hyn yn wirfoddol, a ddylai holl gynnwys PSM fod yn amlwg, ac ar ba lwyfannau.

Mae disgwyl i ddarparwyr PSM gyrraedd safonau rheoleiddio uwch na darparwyr cynnwys eraill, ac mae hyn yn ei dro yn cynyddu eu costau. Yn hanesyddol, mae’r compact PSM wedi ceisio cydbwyso’r costau uwch hyn â sicrwydd y bydd cynnwys PSM yn ddigon amlwg i gynulleidfaoedd. Mae cynnwys PSM yn cynnwys deunydd craidd sy’n werthfawr yn ddemocrataidd, fel newyddion diduedd, yn ogystal ag amrywiaeth eang o allbwn o raglenni plant o ansawdd uchel i ddigwyddiadau diwylliannol, chwaraeon, ac adloniant nodedig.

Mae amlygrwydd yn golygu mwy na dim ond cynaliadwyedd economaidd y darlledwyr; mae’n ymwneud hefyd â’r effaith ar gynulleidfaoedd. Mewn amgylchedd llwyfan sy’n cael ei yrru gan argymhellion algorithmig, mae cyfryngau’n aml yn cael eu hoptimeiddio ar gyfer ymgysylltu â’r gwylwyr yn hytrach na gwerth cyhoeddus. Mae’r risg a ddaw wrth wneud hyn yn amlwg, yn enwedig i bobl ifanc. Mae consensws eang mewn cymdeithas y dylai cynulleidfaoedd ifanc gael sicrwydd o fynediad at gynnwys diogel ac addysgol o ansawdd uchel. Yn unol â chamau diweddar y Llywodraeth i ddiogelu plant ar-lein, os na fydd ffyrdd cadarn o ganfod y math hwn o gynnwys, boed hynny ar lwyfannau penodol fel YouTube Kids neu lwyfannau ehangach i bobl dros 16 oed, mae perygl y byddwn yn esgeuluso ein gwylwyr ieuengaf. 

Fel y nodir ym mhennod 2, bydd y llywodraeth yn edrych ar opsiynau i sefydlu trefn amlygrwydd ar gyfer newyddion ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn ystyried hefyd a ddylai fod yn haws dod o hyd i gynnwys PSM, gan gynnwys newyddion, a lle y bo’n berthnasol, cynnwys plant a genres eraill, ar lwyfannau fideo. Er bod genres penodol fel newyddion yn flaenoriaeth, mae angen i ni ystyried a ddylid rhoi sylw i holl gynnwys PSM er mwyn ei gwneud hi’n haws dod o hyd i amrywiaeth ehangach o gynnwys perthnasol o ansawdd uchel yn y DU. 

Rydym yn gwybod mai dim ond un rhan o sector cyfryngau bywiog y DU yw darparwyr PSM; mae crewyr cynnwys, cynhyrchwyr annibynnol a darparwyr byd-eang oll yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gysylltu cynulleidfaoedd â chynnwys difyr, perthnasol, ac apelgar. Fodd bynnag, mae cynnwys PSM sy’n hawdd dod o hyd iddo yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi hunaniaeth ddiwylliannol gyffredin ac atal arwahanrwydd. Os nad yw achlysuron cenedlaethol cyffredin o’r fath yn ddigon amlwg neu’n hawdd dod o hyd iddyn nhw, rydym mewn perygl o gael tirwedd cyfryngau sy’n cael ei hatomeiddio fwyfwy. 

Nid dirywiad yn apêl y rhaglenni eu hunain sy’n gyfrifol, o reidrwydd, am yr ymrannu wrth wylio cynnwys PSM, ond newid strwythurol yn nemograffeg cynulleidfaoedd a’r defnydd o lwyfannau. Mae’r newid yn ymddygiad cynulleidfaoedd wedi creu risg uniongyrchol o golli cynulleidfaoedd iau, oherwydd mae gwylwyr iau yn gallu newid yn rhwydd rhwng llwyfannau, ac rydym yn dechrau gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn y boblogaeth drwyddi draw. Ar gyfartaledd, ar draws pob dyfais, mae gwylwyr yn treulio 51 munud y dydd ar lwyfannau rhannu fideos, a 40 munud y dydd ar wasanaethau ffrydio o’i gymharu â dim ond 25 munud ar wasanaethau darlledu ar-alw [footnote 52][footnote 53].  

Erbyn hyn, dim ond 43% o bobl 16-24 oed sy’n gwylio teledu sy’n cael ei ddarlledu bob wythnos, a gwylio ar lwyfannau rhannu fideos mae chwarter y defnydd o setiau teledu ar gyfer pobl dan 35 oed erbyn hyn [footnote 54]. Os nad yw cynnwys PSM yn weladwy ar y llwyfannau lle mae cynulleidfaoedd allweddol yn treulio eu hamser, mae’r llywodraeth yn pryderu nad yw’r egwyddor o fynediad i bawb yn cael ei chyflawni a bod hyn, yn y bôn, yn bygwth dyfodol cynnwys PSM.

Sicrhau bod cynnwys PSM yn fwy amlwg drwy bartneriaethau

Yn ystod y misoedd diwethaf, gwelwyd datblygiad o ran creu partneriaethau. Er enghraifft, cyhoeddwyd cytundeb rhwng y BBC a YouTube ym mis Ionawr 2026. Bydd hyn yn golygu bod y BBC yn gwneud cynnwys yn benodol ar gyfer YouTube, gan gynnwys adloniant, newyddion a chynnwys i blant. Ymddangosodd y bartneriaeth hon am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2026, gan roi sylw penodol i Gemau Olympaidd y Gaeaf.  Yn yr un modd, mae YouTube yn cael ei ddefnyddio fwyfwy fel llwyfan dosbarthu sy’n dangos doniau o Brydain, gyda Gwobrau Brit yn cael eu ffrydio drwy sianel YouTube ITV. 

Rydym yn awyddus i fynd ati i annog partneriaethau dwfn rhwng crewyr annibynnol a darparwyr PSM, gan gyfuno hyblygrwydd ac arloesedd yr economi sy’n creu â maint cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a’r dull o’u curadu. Gallwn eisoes weld y model hwn yn llwyddo’n ymarferol. Er enghraifft, symudodd Francis Bourgeois o YouTube i gyflwyno’r gyfres Mission to Space ar Channel 4. 

Yn ddiamau, mae’r ffiniau traddodiadol rhwng teledu, darlledwyr a llwyfannau yn aneglur, ac mae’r llywodraeth yn ceisio cefnogi pob elfen o hynny. Rydym am weld unrhyw bartneriaethau a wneir yn gwella amlygrwydd, er budd pob rhan o’r ecosystem creu yn y pen draw, gan greu marchnad decach a mwy cynaliadwy ar gyfer darparwyr PSM, llwyfannau, a chrewyr fel ei gilydd.

Mae’r llywodraeth yn edrych ar opsiynau i sicrhau bod cynnwys PSM yn amlwg, yn hawdd dod o hyd iddo ac yn cael ei hyrwyddo lle mae cynulleidfaoedd yn gwylio’r teledu, gan gynnwys ar ryngwynebau defnyddwyr llwyfannau trydydd parti. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn caniatáu i ni gasglu safbwyntiau ynghylch a yw’r cyhoedd yn teimlo eu bod yn gallu cael gafael ar ddigon o gynnwys PSM a’i wylio. Hefyd, bydd yn caniatáu i ni gasglu data gan y diwydiant ynghylch a yw’r partneriaethau presennol rhwng darparwyr PSM a llwyfannau yn gweithio’n effeithiol. 

Mae’r llywodraeth yn dal i ffafrio’n gryf gytundebau gwirfoddol sy’n cael eu harwain gan y diwydiant er mwyn sicrhau mwy o amlygrwydd mewn ffordd gynaliadwy a chadarn sy’n bodloni pob parti.

Mae’r llywodraeth yn nodi’n benodol y ddeialog adeiladol sy’n digwydd ar hyn o bryd rhwng YouTube a darparwyr PSM. Rydym yn croesawu’n fawr yr ymgysylltu a’r ymrwymiad sy’n cael ei ddangos gan bob parti hyd yma. Wrth i’r ymgynghoriad hwn fynd rhagddo, rydym yn annog i’r ymdrechion cydweithredol hyn barhau ar raddfa gyflym i gyflawni cytundebau ystyrlon sy’n cael eu harwain gan y diwydiant.

Nid ydym yn gweld canlyniad yr ymgynghoriad hwn fel sefyllfa o ennill neu golli rhwng darlledwyr traddodiadol, crewyr cynnwys, a llwyfannau fideo eraill. Darparwyr PSM yw conglfaen economi greadigol y DU ac maen nhw’n buddsoddi’n sylweddol mewn sgiliau, talent a busnesau ledled y DU. Bydd sector cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ffyniannus yn cael effeithiau cadarnhaol ar y sector creadigol ehangach a’r gymuned o grewyr maen nhw’n helpu i’w cefnogi. Mae gan grewyr a darparwyr PSM lawer o ddiddordebau cyffredin hefyd. Mae angen i’r ddau grŵp gael sefydlogrwydd ac i allu rhagweld sut mae llwyfannau’n gweithredu a sut mae eu hincwm yn cael ei gynhyrchu. Mae’r naill a’r llall yn dibynnu ar dryloywder data i ddeall sut mae modd iddyn nhw gyrraedd eu cynulleidfaoedd mewn ffordd ddibynadwy. Mae’r llywodraeth yn glir y dylai unrhywwaith a wneir yn y maes hwn arwain at ganlyniad da i grewyr hefyd.

Er mwyn helpu gyda’r ymatebion i’r ymgynghoriad, byddem yn disgwyl i’r egwyddorion canlynol gael eu defnyddio wrth ddatblygu a chyflawni’r gwaith hwn:

  • Dan arweiniad y gynulleidfa: rydym yn cydnabod yr angen i gael cydbwysedd rhwng amlygrwydd cynnwys PSM a defnyddwyr yn parhau i deimlo eu bod wedi’u grymuso i ddewis y cynnwys maen nhw am ei weld. 
  • Diogelu at y dyfodol: bydd angen i unrhyw fesurau amlygrwydd fod yn hyblyg a gallu esblygu gyda thechnoleg ac arferion busnes sy’n newid.
  • Niwtral o ran dyfeisiau: rhaid gallu defnyddio unrhyw fesurau ar draws ffonau symudol, byrddau gwaith a setiau teledu sy’n cael eu cysylltu.
  • Bod yn seiliedig ar ganlyniadau: Dylai mesurau amlygrwydd fod yn seiliedig ar ganlyniadau, gan roi’r hyblygrwydd i lwyfannau gyflawni’r amcanion mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw. 
  • Telerau masnachol teg: rydym hefyd yn cydnabod yr angen i benderfynu ar delerau masnachol teg mewn ffordd agored a thryloyw.

Nid ydym yn gwneud penderfyniad ar ddeddfwriaeth ar hyn o bryd. Rydym am ganiatáu mwy o amser i ddatblygu cytundebau gwirfoddol ac rydym am gasglu mwy o dystiolaeth, gan gynnwys drwy’r ymgynghoriad hwn.

4.2 System newydd o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer teledu

Yn ogystal â sicrhau bod modd dod o hyd i gynnwys PSM a’i fod yn amlwg ar y llwyfannau y mae cynulleidfaoedd yn troi atyn nhw fwyfwy, rhaid i ni hefyd sicrhau bod cynnwys PSM yn cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu mewn ffordd sy’n gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol. 

Mae ein system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei hedmygu ar draws y byd. Mae’n darparu llawer o fanteision cymdeithasol, economaidd a democrataidd, ac mae wedi parhau ers dros ganrif. Mae gan bob un o’n darparwyr PSM fodelau busnes gwahanol ac maen nhw’n cyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol, ond mae pob un yn gwneud cynnwys unigryw a gwreiddiol o’r DU sy’n meithrin cymuned, ac yn gwarchod treftadaeth ddiwylliannol.

Rhaid i gynnwys PSM fod ar gael i bawb ym mhob cwr o gymdeithas er mwyn cyflawni ei amcanion yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae cyffredinolrwydd cynnwys PSM mewn perygl yn oes y llwyfannau os nad yw’r modd mae’n cael ei ddosbarthu’n adlewyrchu’r ffordd mae pobl yn gwylio’r teledu. Mae ein darparwyr PSM eisoes wedi symud o ddarparu gwerth gwasanaeth cyhoeddus drwy eu gweithrediadau darlledu yn unig, i ystod ehangach o wasanaethau. Mae Channel 4, er enghraifft, wedi nodi uchelgais i fod yn ‘ffrydiwr gwasanaeth cyhoeddus’ erbyn 2030. Yn 2025, roedd cynnwys a oedd yn cael ei wylio ar wasanaethau fideo ar-alw darparwyr PSM yn cyfrif am un rhan o bump o’r amser gwylio ar setiau teledu [footnote 55]. Fwyfwy, maen nhw hefyd yn comisiynu cynnwys yn benodol ar gyfer eu gwasanaethau fideo ar-alw ac ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau trydydd parti eraill

O ganlyniad, mae darparwyr PSM yn gweithredu mewn marchnad fyd-eang, ac yn wynebu mwy o gystadleuaeth am wylwyr oddi wrth ffrydwyr a llwyfannau rhannu fideos. Fel y nodir yn adran 4.1, erbod darparwyr PSM yn parhau i elwa wrth i’w sianeli llinol a’u gwasanaethau ar-alw gael lle amlwg, rhaid i gynnwys PSM ar lwyfannau trydydd parti gystadlu am sylw mewn ffrydiau defnyddwyr sy’n cael eu gyrru gan algorithm ac sy’n cael eu targedu’n unigol, ac mae hyn yn gosod her o ran pa mor hawdd yw dod o hyd i’r cynnwys a’i allu i adrodd straeon cenedlaethol sy’n gadarnhaol ac yn uno pobl.

Mae cyllid darparwyr PSM dan bwysau. Mae refeniw o ffi’r Drwydded Deledu a hysbysebion teledu llinol wedi gostwng dros chwarter mewn termau real ers 2016. Fel y mae Ffigur 7 yn ei ddangos, nid yw’r twf mewn refeniw hysbysebion o’r gwasanaethau fideo ar-alw wedi llwyddo i wneud iawn am y gostyngiad mewn refeniw llinol a gollwyd, gan effeithio ar refeniw darparwyr PSM masnachol. Mae costau cynyddol, sy’n cael eu sbarduno gan yr angen i ddarparu cynnwys ar draws gwasanaethau llinol a gwasanaethau ar-lein a buddsoddiad mewn cynnwys drud o safon uchel, yn rhoi cyllidebau comisiynu darparwyr PSM dan straen. Fel y mae Ffigur 8 yn ei ddangos, mae llai o gynnwys PSM wedi cael ei gynhyrchu o un flwyddyn i’r llall ers 2022, gan beryglu’r manteision democrataidd a chymdeithasol rydym yn ymdrechu i’w cyflawni [footnote 56]

Ffigur 7: Cymharu gwariant absoliwt blynyddol ar gyfer gofod ar y teledu o’i gymharu â fideo ar-alw

Ch1 2011 - Ch4 2025, Miliynau GBP, Prisiau Cyson

Ffynhonnell: Adroddiad Gwariant yr Advertising Association / WARC

Ffigur 8: Cynnwys PSM ar draws genres yn ôl nifer yr oriau o raglenni gwreiddiol sy’n cael eu darlledu am y tro cyntaf

Ffynhonnell: Ofcom/darlledwyr o Adroddiad ar y Farchnad Gyfathrebiadau 2025 - rhyngweithiol. Mae’r ffigurau’n nominal a ddim yn cynnwys S4C, BBC ALBA, BBC HD na rhaglenni’r gwledydd/rhanbarthau. Mae’r graff hwn yn adeiladu ar ffigur 5 ym mhennod 1 ac yn defnyddio data manylach sydd ar gael gan Ofcom i ddadansoddi oriau cynnwys rhaglenni gwreiddiol gan gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael eu dangos am y tro cyntaf yn genres mwy manwl, ac mae’n cynnwys genres ychwanegol fel newyddion a materion cyfoes.

Caiff y cydbwysedd o fanteision a rhwymedigaethau sy’n cael eu rhoi ar ein darparwyr PSM ei alw yn ‘gompact PSM’. Mae perygl y bydd y cyfuniad hwn o gostau cynyddol a llai o fanteision yn arwain at golled net i ddarparwyr PSM (ac o bosibl iddi beidio â bod yn ymarferol i ddarparwyr PSM barhau neu adnewyddu eu trwyddedau) oni bai ein bod yn edrych ar amrywiaeth eang o opsiynau i ailgydbwyso’r compact.

Bydd y llywodraeth yn edrych ar opsiynau i ddiwygio system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus y DU ar gyfer teledu. Mae’r system bresennol o reoleiddio cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn cyfyngu’r opsiynau i amrywio’r gymysgedd o ddarparwyr, ac mae hyn yn golygu ei bod yn dibynnu’n drwm ar ddarlledwyr traddodiadol. Byddai symud oddi wrth reoleiddio darparwyr PSM drwy drwyddedau darlledu yn rhoi mwy o hyblygrwydd o ran pwy yw’r darparwyr, yn ogystal â natur y manteision a’r rhwymedigaethau sy’n cael eu rhoi arnyn nhw, gan adlewyrchu’r amgylchedd cyfryngau newydd. Er enghraifft, gallai hyn arwain at ofynion newydd i ddarparwyr PSM greu cynnwys yn benodol ar gyfer llwyfannau rhannu fideos neu gyfryngau cymdeithasol.  

Mae darparwyr teledu lleol hefyd yn wynebu heriau tebyg o ran y newid yn arferion gwylio cynulleidfaoedd a’r gostyngiad mewn refeniw hysbysebion. Yn debyg i ddarparwyr PSM cenedlaethol, maen nhw’n cael eu rheoleiddio gan Ofcom drwy amodau sy’n cael eu gosod yn eu trwyddedau darlledu. Bydd unrhyw ddiwygiad i’n system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn ystyried system gyfochrog teledu lleol, a’r cyfleoedd y gallai hyn eu cynnig i’r darparwyr hynny.  

Dylai unrhyw fodel rheoleiddio newydd arwain at greu mwy o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus, sy’n cael mwy o effaith ar gynulleidfaoedd ac sy’n helpu i siapio cymdeithas sy’n fwy cydlynus ac sy’nymgysylltu’n fwy democrataidd. Isod, rydym yn cynnig pedair egwyddor ar gyfer yr hyn y dylai system gwasanaeth cyhoeddus wedi’i diweddaru ei gyflawni:

Egwyddorion posibl y system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus:

  • Cyffredinolrwydd: sicrhau bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn dal ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim, gan adlewyrchu ymddygiad ac arferion defnyddio cyfryngau’r cynulleidfaoedd. 
  • Cynnwys gwasanaeth cyhoeddus: sicrhau bod amrywiaeth eang o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus unigryw o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu.

  • Cynaliadwyedd systemig: sicrhau bod gan y system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus gymysgedd o ddarparwyr i’w gwneud yn fwy gwydn er mwyn cyflawni amcanion cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y tymor hir. Dylai hefyd fod yn ddigon hyblyg i addasu i newidiadau posibl yn y casgliad presennol o ddarparwyr PSM a bod yn agored i gyfleoedd i uno, partneriaethau, a diffiniadau o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus.
  • Compact PSM cynaliadwy: sicrhau bod y manteision mae darparwyr PSM yn eu cael yn gymesur â’r rhwymedigaethau mae’n rhaid iddyn nhw eu cyflawni i gael statws PSM er mwyn bod yn ddeniadol ac yn gynaliadwy’n fasnachol.

Rydym hefyd yn cydnabod bod darparwyr PSM yn rhan o farchnad amrywiol, ac ecoleg gymysg ddeinamig rydym yn awyddus i’w chynnal. Yn benodol, mae system gynhyrchu annibynnol gref, gyda chanolfannau cynhyrchu cynaliadwy ledled y DU, yn bwysig er mwyn sicrhau bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu. Mae darparwyr PSM sy’n comisiynu ac yn buddsoddi drwy swyddi a seilwaith yn helpu i adeiladu mas critigol ac yn creu cyfleoedd i gynhyrchwyr domestig, criwiau, talent, a gweithwyr eraill. Mae gan y BBC rôl bwysig i’w chwarae yma. Un o brif amcanion yr Adolygiad o Siarter y BBC yw sicrhau BBC sy’n cefnogi’r sector, ac sy’n cyflwyno cyfleoedd a swyddi da ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU y mae’n rhaid iddo ei wneud ar y cyd â darparwyr PSM eraill a’r sector teledu ehangach. Ni ddylai unrhyw newidiadau i’r system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus fod ar draul twf ehangach yn y sector.

Isod, rydym yn cyflwyno tri model enghreifftiol i ddangos sut gallai diwygiadau i’r system ateb yr heriau a bodloni’r amcanion a nodwyd mewn adrannau blaenorol. Mae pob un yn fodel cymysg, sy’n cadw rôl y BBC fel ein darparwr PSM mwyaf. Mae’r ecosystem sy’n ymwneud â hyn yn helpu i lywio wedyn pa rôl mae’r BBC yn ei chwarae a’i gylch gwaith, gan gynnwys sut gall ddefnyddio ei gyllid cyhoeddus i ffurfio partneriaeth ystyrlon a chydweithio â darparwyr PSM eraill. Mae’r ffyrdd y mae’r BBC yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn y sector, gan gynnwys darparwyr PSM, mewn ffordd sy’n cryfhau ecosystem ehangach y cyfryngau, hefyd yn cael eu hystyried drwy’r Adolygiad o Siarter y BBC.

Modelau enghreifftiol o system newydd o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus:

Byddai model sy’n canolbwyntio ar sefydliadau PSM yn golygu bod sefydliadau, fel darlledwyr neu ffrydwyr, yn cael eu dynodi’n sefydliadau PSM. Fel hyn, byddai cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, fel y mae heddiw, yn cael ei gysylltu’n glir â set benodol o sefydliadau, fel bod cynulleidfaoedd yn gwybod pwy ydyn nhw. O ran eu rheoleiddio, gallen nhw ddal fod â chylchoedd gwaith gwasanaeth cyhoeddus unigol, yn ogystal â gofynion i gyfrannu at gylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus cyffredinol ar gyfer teledu. Byddai’r dull hwn yn debycach i system reoleiddio bresennol y DU, ac felly byddai’n cadw llawer o’i chryfderau (er enghraifft, ethos sefydliadol cryf cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ymysg y darparwyr). Gallai’r system ddarparu ar gyfer system ddwy haen o ddarparwyr ‘llawn’ a darparwyr neu wasanaethau llai gyda lefelau cyfatebol o fanteision a rhwymedigaethau. Gallai hyn helpu i gefnogi nifer fach o sefydliadau PSM ychwanegol.

Byddai model sy’n canolbwyntio ar wasanaethau PSM yn caniatáu i ‘wasanaethau’ penodol gael eu dynodi’n gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus pe bydden nhw’n bodloni gofynion y cytunwyd arnyn nhw. Yn y cyd-destun hwn, gallai ‘gwasanaethau’ amrywio o ddarpariaeth linol, fel sianel deledu sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau, i wasanaeth fideo ar-alw o ansawdd uchel, neu sianeli ar lwyfannau rhannu fideos, fel sianel rhaglenni hanes neu sianel rhaglenni dogfen ar YouTube. Mae cael ystod ehangach o ddarparwyr yn gallu golygu ei bod yn llai clir i gynulleidfaoedd sy’n chwilio am gynnwys gwasanaeth cyhoeddus wybod ymhle i ddod o hyd iddo. Fodd bynnag, gallai hyn gynyddu’r tebygolrwydd y bydd cynulleidfaoedd yn rhyngweithio â chynnwys gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys cynulleidfaoedd sydd wedi ymddieithrio oddi wrth gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, yn enwedig os gellir defnyddio algorithmau i ddarparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus i gynulleidfaoedd ar lwyfannau. Gallai rheoleiddio gynnwys gosod manteision a rhwymedigaethau (er enghraifft, amlygrwydd) ar wasanaethau unigol. Gallai’r model hwn agor y system i ystod ehangach o ddarparwyr, a rheoleiddio cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus mewn modd mwy hyblyg a deinamig.   

Byddai dull sy’n canolbwyntio ar gynnwys yn pennu a yw rhywbeth yn gynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn amodol ar ddiffiniad y cytunwyd arno (a allai esblygu yn unol ag anghenion diwylliannol/cymdeithasol) yn hytrach na sefydliad neu wasanaeth penodol. Gallai gwerth cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ymestyn i fwy o gynulleidfaoedd wrth i bobl ymgysylltu â chynnwys gwasanaeth cyhoeddus ni waeth sut maen nhw’n gwylio cynnwys, gan adlewyrchu amgylchedd lle mae cynnwys yn cael ei gyflwyno fwyfwy gan ddilyn algorithm. Byddai modd ei addasu i newidiadau o ran cynulleidfa a thechnoleg a pheidio â dibynnu ar lwyddiant sefydliadau penodol. Byddai manteision, fel cyllid ar gyfer cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ac amlygrwydd y cynnwys hwnnw, hefyd yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r cynnwys ei hun. Yn ymarferol, mae gwledydd y mae eu systemau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn canolbwyntio mwy ar gynnwys, yn tueddu i fabwysiadu model cymysg lle mae nifer fach o sefydliadau PSM yn cael cymhellion ychwanegol i gefnogi’r gwaith o gyflenwi cynnwys gwasanaeth cyhoeddus.

Uchelgais y llywodraeth ar gyfer cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus

Er gwaethaf y newidiadau trawsnewidiol o ran sut mae pobl yn defnyddio cyfryngau, credwn fod galw mawr o hyd, ac angen yn ddi-os, am gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Mae cynulleidfaoedd yn dal yn gwerthfawrogi ac yn awyddus i gael gafael ar newyddion cywir a chynnwys addysgiadol a difyr sy’n adlewyrchu amrywiaeth y DU ac sy’n dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd. Rydym am gael system rheoleiddio sy’n annog creu mwy o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus, gan wrthdroi tuedd y blynyddoedd diwethaf sydd wedi gweld allbwn ein darparwyr PSM yn gostwng. Rydym hefyd am sicrhau bod y manteision y mae cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn eu darparu yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â’r ecosystem cyfryngau modern. Fel sy’n cael ei drafod yn adran 2.3, gallai hyn gynnwys ychwanegu rhwymedigaethau newydd at y compact PSM, fel mwy o gyfrifoldebau sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, sy’n hanfodol i gymdeithas yn yr oes ddigidol. 

I gyflawni hyn, bydd angen i’r model cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus rydym yn ei ffafrio weithio fel rhan o’r penderfyniad terfynol ynghylch dyfodol dosbarthu cynnwys teledu (adran 3.1). Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod mynediad at gynnwys PSM yn dal i fod ar gyfer pawb, ac y caiff y costau o fod yn ddarparwr PSM eu cydbwyso â manteision priodol. Bydd angen i’r dull gweithredu terfynol y mae’r llywodraeth yn ei nodi adlewyrchu’n llawn y newid yn y patrwm o ddarlledu i gynnwys ym mhob man, fel y nodir ym mhennod 1. Mae’r newid hwn yn addasu, yn y bôn, sut a ble mae angen i ddarparwyr PSM sicrhau bod eu cynnwys ar gael, a lle rydym ni am sicrhau bod cynnwys PSM yn hygyrch ac yn amlwg. 

Ein huchelgais yw cael system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd a ddaw yn sgil technolegau newydd. Gall y technolegau hynny leihau cost dosbarthu neu o bosibl leihau cost creu cynnwys, ac mae cyflwyno cynnwys mewn modd algorithmig yn caniatáu i gynnwys PSM gael ei gynnig yn uniongyrchol i gynulleidfaoedd rydym yn awyddus i ymgysylltu â nhw. Rydym yn cefnogi darparwyr PSM sy’n datblygu algorithmau yn unol â gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus, sy’n taro’r cydbwysedd cywir rhwng cynnig gwasanaethau wedi’u teilwra’n bersonol i gynulleidfaoedd a sicrhau eu bod yn dod i gysylltiad ag amrywiaeth eang o gynnwys PSM sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am y byd o’u cwmpas. Roedd papur gwyrdd Adolygiad o Siarter y BBC yn ymgynghori ar ba rwymedigaethau pellach y dylai’r BBC yn benodol eu cael i sicrhau bod amrywiaeth eang o gynnwys PSM yn cael ei hyrwyddo ar ei lwyfannau ei hun.

Fel y nodir yn adran 1.4, rydym yn cefnogi partneriaethau strategol ymysg darparwyr PSM sydd o fudd i’w cynulleidfaoedd a’u cynaliadwyedd ariannol. Wrth fabwysiadu technolegau newydd, byddem yn disgwyl i hyn gyflwyno cyfleoedd ar gyfer partneriaethau o’r fath, gyda’r potensial i resymoli costau a chynyddu buddsoddiad mewn creu cynnwys PSM. Rydym am annog arloesedd sy’n cael ei arwain gan ddarparwyr PSM. Er y bydd y gwaith hwn yn cael ei arwain gan y farchnad, rydym yn croesawu safbwyntiau ar sut gall ein diwygiadau i reoleiddio PSM ac yn ehangach gefnogi hyn.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn rhagarweiniol

C1. Mae’r papur gwyrdd yn ymdrin â phynciau sy’n ymwneud â dyfodol teledu a chyfryngau’r DU. Yn fwy penodol, mae’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol: 

  • Cyd-destun presennol y farchnad a’r gynulleidfa
  • Amlygrwydd newyddion a chyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
  • Dyfodol gwaith rheoleiddio a dosbarthu teledu
  • System newydd ar gyfer cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
  • Ymwybyddiaeth o’r cyfryngau

Beth yw eich barn gyffredinol am ddyfodol teledu a’r cyfryngau yn y DU, sy’n ymwneud â’r pynciau yn y papur gwyrdd hwn?

Cyd-destun y farchnad a’r gynulleidfa

C2. Mae pennod un y papur gwyrdd yn disgrifio cyfres o heriau sy’n effeithio ar ecosystem cynyrchiadau teledu’r DU, gan gynnwys: 

  • Mae grym gwario darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (PSM) yn lleihau, sy’n effeithio ar eu gallu i gomisiynu cynnwys newydd.
  • Mae’r sector yn wynebu costau cynhyrchu cynyddol a phwysau chwyddiant, yn enwedig ar gyfer cynnwys o safon uchel fel drama.
  • Mae darparwyr PSM yn mabwysiadu strategaethau comisiynu “llai, mwy a gwell”, yn aml gan flaenoriaethu cynnwys digidol yn gyntaf, sydd wedi arwain at lai o gomisiynau ar gyfer rhai genres.
  • Pan fydd llwyfannau ffrydio byd-eang yn comisiynu’n uniongyrchol, maen nhw fel arfer yn cadw’r eiddo deallusol. Er bod y mewnfuddsoddiad hwn yn llenwi bylchau mewn gwariant cynhyrchu, mae hyn mewn perygl o symud y gwerth masnachol gweddilliol y tu allan i’r farchnad ddomestig, gan greu her i gynhyrchwyr gadw eiddo deallusol a gwerth economaidd hirdymor.
  • Mae busnesau sgriniau’n dweud nad yw’r galw am gyllid wedi’i ddiwallu ac maen nhw’n teimlo nad ydyn nhw’n cael eu hariannu’n ddigonol, er gwaethaf cyfradd uchel o ddefnyddio cyllid allanol.

Yn eich barn chi, pa fesurau fyddai fwyaf effeithiol i’r llywodraeth eu cymryd i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn gyffredinol?

Amlygrwydd newyddion ar gyfryngau cymdeithasol

C3. Pa mor aml ydych chi’n dod ar draws newyddion ar-lein nad yw, yn eich barn chi, yn ddibynadwy (er enghraifft, rhywbeth rydych chi’n ei ystyried yn gamwybodaeth)?

Dewisiadau:

  • Byth
  • Yn anaml 
  • Weithiau 
  • Yn aml 
  • Yn aml iawn
  • Ddim yn siŵr

C4. Ydych chi’n credu y dylai cynnwys newyddion ‘dibynadwy’ fod yn fwy amlwg ar gyfryngau cymdeithasol? Dewisiadau:

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn siŵr

C4a. Sut hoffech chi i hyn edrych yn ymarferol, er mwyn i gynulleidfaoedd allu cael gafael ar newyddion dibynadwy yn haws ar gyfryngau cymdeithasol?

C5. Os yw’r llywodraeth yn rhoi amlygrwydd i ddarparwyr newyddion dibynadwy (hynny yw, yn eu gwneud yn fwy gweladwy ar-lein), a ddylai’r amlygrwydd hwn fod yn barhaus, ac ‘ar waith bob amser’, neu ddim ond yn weithredol yn ystod cyfnodau o argyfwng?

Dewisiadau: 

  • Parhaus ac ‘ar waith bob amser’ 
  • Dim ond yn ystod cyfnodau o fod yn fwy bregus
  • Ddim yn siŵr

C6. Ydych chi’n teimlo y dylid rhoi opsiwn i ddefnyddwyr unigol o ran a yw mesurau amlygrwydd ar gyfer cynnwys newyddion dibynadwy ar waith ar eu cyfer neu wedi’u diffodd? 

Dewisiadau:

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn siŵr

Dyletswydd ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a menter ar y cyd

C7. Pa mor bryderus, os o gwbl, ydych chi am effaith gwybodaeth gamarweiniol neu annibynadwy ar gymdeithas? 

Dewisiadau:

  • Pryderus iawn
  • Ychydig yn bryderus
  • Ddim yn bryderus iawn
  • Ddim yn bryderus o gwbl
  • Ddim yn siŵr

C8. Pa mor bryderus, os o gwbl, ydych chi am effaith gwybodaeth gamarweiniol neu annibynadwy ar ddemocratiaeth? 

Dewisiadau:

  • Pryderus iawn
  • Ychydig yn bryderus
  • Ddim yn bryderus iawn
  • Ddim yn bryderus o gwbl
  • Ddim yn siŵr

C9. Mae cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn cyfeirio at sefydliadau fel y BBC, ITV, Channel 4 ac S4C.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n adlewyrchu orau eich barn am rôl cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus o ran helpu pobl i ymgysylltu’n feirniadol â newyddion a gwybodaeth arall maen nhw’n dod ar ei thraws ar-lein neu oddi ar y we? [dewiswch un yn unig]

Dewisiadau:

  • Mae gan Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus rôl i’w chwarae o ran helpu i ymgysylltu’n feirniadol, ac mae’n gwneud digon ar hyn o bryd
  • Mae gan Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus rôl i’w chwarae o ran helpu i ymgysylltu’n feirniadol, a dylen nhw wneud mwy
  • Nid oes gan Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus rôl o ran helpu i ymgysylltu’n feirniadol
  • Ar hyn o bryd mae Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus yn gwneud gormod i helpu i ymgysylltu’n feirniadol, a dylen nhw wneud llai
  • Ddim yn siŵr

C10. Yn eich barn chi, pa mor bwysig yw hi i bobl allu dweud pa mor gywir a dibynadwy yw’r wybodaeth maen nhw’n dod ar ei thraws, er enghraifft ar-lein neu yn y newyddion?

Dewisiadau:

  • Pwysig iawn
  • Gweddol bwysig
  • Ddim yn bwysig iawn
  • Ddim yn bwysig o gwbl
  • Ddim yn siŵr

C11. Pa mor werthfawr, os o gwbl, ydych chi’n credu y gallai cydweithio rhwng cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, sefydliadau cymdeithas sifil (er enghraifft elusennau a grwpiau addysg), a sector y cyfryngau fod o ran cefnogi pobl i asesu gwybodaeth yn feirniadol?

Dewisiadau:

  • Gwerthfawr iawn
  • Eithaf gwerthfawr
  • Ddim yn werthfawr iawn
  • Ddim yn werthfawr o gwbl
  • Ddim yn siŵr

C12. Pa rai o’r modelau canlynol, os o gwbl, ydych chi’n credu sydd fwyaf effeithiol ar gyfer rhagor o gydweithio yn sector y cyfryngau yn y maes hwn?

Dewisiadau: [dewiswch bob un sy’n berthnasol]

  • Cydlynu a rhannu dysgu mewn modd anffurfiol
  • Fforwm strwythuredig gydag amcanion a phrosesau adrodd y cytunir arnyn nhw
  • Rhoi mentrau cyhoeddus ar waith ar y cyd
  • Nid oes angen cydweithio ychwanegol
  • Ddim yn siŵr

C12a. Rhowch unrhyw dystiolaeth ategol ynghylch pam rydych chi’n meddwl bod y model(au) rydych chi wedi’u dewis yn effeithiol ar gyfer cydweithio rhwng cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a’r sector cyfryngau.

Dyfodol dosbarthu teledu

C13. Mae Pennod 3.1 y papur gwyrdd yn amlinellu dymuniad y llywodraeth i newid i deledu protocol rhyngrwyd (IPTV) o naill ai 2034 neu 2044. Mae’r cwestiynau canlynol yn gofyn am farn a thystiolaeth sy’n ymwneud â’r cynnig hwn. 

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno ag asesiad y llywodraeth o’r achos o blaid newid sy’n ymwneud â dyfodol teledu daearol digidol?

  • Cytuno’n gryf - yn bendant dylai cynulleidfaoedd fabwysiadu Teledu Protocol Rhyngrwyd (IPTV) a thechnolegau tebyg 
  • Cytuno - dylai cynulleidfaoedd fabwysiadu IPTV a thechnolegau tebyg
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - dim barn gref y naill ffordd na’r llall
  • Anghytuno - ni ddylai cynulleidfaoedd fabwysiadu IPTV a thechnolegau tebyg 
  • Anghytuno’n gryf - yn bendant ni ddylai cynulleidfaoedd fabwysiadu IPTV a thechnolegau tebyg 
  • Ddim yn siŵr

C13a. Rhowch ragor o resymau dros eich ateb ac unrhyw dystiolaeth berthnasol.

C14. Mae’r papur gwyrdd yn amlinellu dau opsiwn o ran amseriad diffodd teledu daearol digidol (DTT). Y rhain yw 31 Rhagfyr 2034 (opsiwn 1 yn Atodiad A) a 31 Rhagfyr 2044 (opsiwn 2 yn Atodiad A). 

Pa opsiwn ydych chi’n ei ffafrio ar gyfer diffodd teledu daearol digidol?

Dewisiadau:

  • Mae’n well o lawer gen i 2034
  • Mae’n well gen i 2034
  • Dim barn gref y naill ffordd na’r llall
  • Mae’n well gen i 2044
  • Mae’n well o lawer gen i 2044
  • Dim 2034 na 2044
  • Ddim yn siŵr

C14a. Rhowch ragor o resymau dros eich ateb ac unrhyw dystiolaeth berthnasol.

C15. A oes gennych dystiolaeth y byddai amserlen arall yn well na’r rhai a nodir yn yr ymgynghoriad hwn? Os felly, rhowch ragor o fanylion.

C15a. Ar gyfer diwydiant / sefydliadau yn unig:

Er mwyn newid i deledu protocol rhyngrwyd (IPTV), byddai angen cydweithio â grwpiau cynulleidfa, y diwydiant, ac ar draws y llywodraeth. Amlinellwch ymrwymiad eich sefydliad i gefnogi’r gwaith hwn, gan gynnwys adnoddau, atebion arloesol, a phrofiad perthnasol o ran sut byddech chi’n cyflawni’r newid hwn.

C16. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod yr heriau a nodwyd yn y papur gwyrdd (darparu ar gyfer pob cynulleidfa; cynnal gwasanaeth teledu dibynadwy; hyrwyddo cystadleuaeth ac arloesedd yn y diwydiant teledu a chefnogi dyfodol cynaliadwy i ddarparwyr PSM) yn cynnwys yr holl ystyriaethau wrth benderfynu a ddylid cefnogi cynulleidfaoedd i fabwysiadu IPTV a thechnolegau tebyg eraill, a’r ffordd orau o wneud hynny? 

  • Cytuno’n gryf - mae’r heriau’n cynnwys yr holl ystyriaethau’n gynhwysfawr wrth benderfynu a ddylid cefnogi cynulleidfaoedd i fabwysiadu IPTV a thechnolegau tebyg eraill, a’r ffordd orau o wneud hynny
  • Cytuno - mae’r heriau’n cynnwys yr holl ystyriaethau
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - dim barn gref y naill ffordd na’r llall
  • Anghytuno - nid yw’r heriau’n cynnwys yr holl ystyriaethau  
  • Anghytuno’n gryf - yn sicr nid yw’r heriau’n cynnwys yr holl ystyriaethau  
  • Ddim yn siŵr

C16a. Rhowch ragor o resymau dros eich ateb.

C17. Yn eich barn chi, pa rai o’r heriau, os o gwbl, sydd bwysicaf i chi? Rhowch nhw yn nhrefn eu pwysigrwydd.

Dewisiadau:

  • Darparu ar gyfer pob cynulleidfa - Rhaid i unrhyw newid i IPTV a thechnolegau tebyg eraill ddiogelu mynediad i bawb at deledu, gan gynnwys darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, ni waeth beth yw eu hincwm, eu lleoliad, eu hoedran, na’u hyder yn y byd digidol.
  • Cynnal gwasanaeth teledu dibynadwy - Rhaid cadw’r gallu i gyfathrebu â’r cyhoedd mewn argyfwng cenedlaethol y tu hwnt i symud i IPTV. Cyn diffodd teledu daearol digidol, rhaid i’r diwydiant ddangos bod technolegau amgen yn gallu darparu safonau tebyg neu well o ran dibynadwyedd, gwydnwch, a darpariaeth.
  • Hyrwyddo cystadleuaeth ac arloesedd yn y diwydiant teledu - Mae newid dan reolaeth i IPTV a thechnolegau tebyg eraill yn cynnig cyfle i foderneiddio darpariaeth teledu, a dylai’r newid ryddhau adnoddau a sbectrwm, a chaniatáu i ddarlledwyr ganolbwyntio ar gynnwys ac arloesedd yn hytrach na chynnal hen systemau cyfochrog.
  • Cefnogi dyfodol cynaliadwy i ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus - mae darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rhan ganolog ym mywyd diwylliannol, dinesig, a democrataidd y DU. Rhaid i’r diwydiant sicrhau bod modelau dosbarthu newydd yn cefnogi, yn hytrach na thanseilio, gallu darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i chwarae’r rôl hon.

C18. Os bydd newid i IPTV, pa rai o’r canlynol, os o gwbl, sydd bwysicaf yn eich barn chi i sicrhau bod pawb yn dal i allu cael gafael ar deledu yn eu cartrefi eu hunain? Rhowch nhw yn nhrefn eu pwysigrwydd. 

Dewisiadau:

  • Band eang fforddiadwy i bawb, addas ar gyfer gwylio’r teledu
  • Band eang rhad neu gyda chymhorthdal i bobl sy’n cael budd-daliadau neu sydd ar incwm isel
  • Setiau teledu sy’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd sy’n rhad neu ar bris is i bobl ar incwm isel
  • Dyfeisiau syml sy’n cysylltu setiau teledu hŷn â’r rhyngrwyd heb ffioedd parhaus
  • Gwasanaethau a systemau sy’n teimlo’r un fath â theledu daearol digidol fel eu bod yn hawdd eu defnyddio i bobl sydd â hyn a hyn o sgiliau digidol
  • Nodweddion hygyrchedd parod, hawdd eu defnyddio ar gyfer defnyddwyr anabl, er enghraifft isdeitlau a disgrifiadau sain
  • Y sgiliau digidol sydd eu hangen i lywio neu i osod IPTV

C19. Beth yw’r effeithiau amgylcheddol tebygol sy’n gysylltiedig â newid yn 2034 a diffodd DTT yn 2044 (newid i IPTV)? 

Yn eich ymateb, rhowch dystiolaeth lle bo modd ar y canlynol:

  • Y defnydd cymharol o ynni ac allyriadau carbon ar gyfer gwahanol dechnolegau dosbarthu.
  • Goblygiadau amgylcheddol y newidiadau mewn ymddygiad gwylio (er enghraifft, mwy o ffrydio neu ddefnydd ar-alw).
  • Effeithiau amgylcheddol cylch bywyd y seilwaith a’r offer defnyddwyr perthnasol (fel trosglwyddyddion, seilwaith rhwydwaith, blychau pen-set, a setiau teledu sydd wedi’u cysylltu).
  • Cyfleoedd i wella cynaliadwyedd amgylcheddol dosbarthu cynnwys teledu, gan gynnwys drwy arloesi technolegol, effeithlonrwydd seilwaith, neu ymddygiad defnyddwyr.
  • Unrhyw risgiau y gallai penderfyniadau polisi ar ddyfodol dosbarthu cynnwys teledu gynyddu’r effeithiau ar yr amgylchedd yn anfwriadol.

Dylech gynnwys unrhyw ddata, modelau, neu ymchwil sydd ar gael a allai lywio asesiad y llywodraeth o’r effeithiau ar yr amgylchedd.

C20. A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu am ddyfodol dosbarthu cynnwys teledu nad yw wedi’i nodi’n barod?

Dyfodol gwaith rheoleiddio’r teledu

C21. Mae Pennod 3.2 y papur gwyrdd yn nodi rhai o’r heriau o ran dyfodol rheoleiddio teledu, fel pa wasanaethau tebyg i deledu y dylid eu rheoleiddio yn y dyfodol, ac i ba safon. A oes unrhyw wybodaeth neu sylwadau yr hoffech eu rhoi mewn perthynas â dyfodol gwaith rheoleiddio teledu?

Amlygrwydd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn oes y llwyfannau

C22. Pa mor hawdd neu anodd yw hi i chi ddod o hyd i gynnwys sy’n berthnasol yn ddiwylliannol ar lwyfannau fideo, gan gynnwys llwyfannau rhannu fideos fel YouTube a TikTok a llwyfannau ffrydio fel Netflix ac Amazon Prime Video?

Gallai enghreifftiau o gynnwys sy’n berthnasol yn ddiwylliannol gynnwys straeon sydd wedi’u gosod ym Mhrydain, gyda chyflwynwyr o Brydain, sy’n cynrychioli gwerthoedd Prydeinig neu’n cyfeirio at ddigwyddiadau neu arferion Prydeinig.

Dewisiadau:

  • Hawdd iawn - dydw i ddim yn cael trafferth dod o hyd i gynnwys sy’n ddiwylliannol berthnasol ar y llwyfannau hyn
  • Eithaf hawdd - ychydig iawn o drafferth rydw i’n ei gael o ran dod o hyd i gynnwys sy’n ddiwylliannol berthnasol ar y llwyfannau hyn 
  • Ddim yn hawdd nac yn anodd - dim barn y naill ffordd na’r llall
  • Eithaf anodd - rydw i’n cael peth trafferth dod o hyd i gynnwys sy’n ddiwylliannol berthnasol ar y llwyfannau hyn
  • Anodd iawn - rydw i’n cael cryn drafferth dod o hyd i gynnwys sy’n ddiwylliannol berthnasol ar y llwyfannau hyn 
  • Ddim yn siŵr

C23. Mae modd diffinio amlygrwydd fel rhoi safle breintiedig i gynnwys penodol, er enghraifft, sicrhau bod sianel benodol yn ymddangos ar frig canlyniadau chwilio neu’n codi ar ffrydiau argymell, ar ryngwyneb defnyddiwr fel ei bod yn arbennig o hawdd i gynulleidfaoedd ddod o hyd iddi a’i gwylio. 

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai fod yn haws dod o hyd i gynnwys gan ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (fel y BBC a Channel 4) ar lwyfannau fideo?

Dewisiadau:

  • Cytuno’n gryf - yn bendant, dylai fod yn haws dod o hyd i gynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus ar y llwyfannau hyn
  • Cytuno - mae’n debyg y dylai fod yn haws dod o hyd i gynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus ar y llwyfannau hyn 
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - dim barn y naill ffordd na’r llall
  • Anghytuno - mae’n debyg na ddylai fod yn haws dod o hyd i gynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus ar y llwyfannau hyn
  • Anghytuno’n gryf - yn sicr ni ddylai fod yn haws dod o hyd i gynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus ar y llwyfannau hyn 
  • Ddim yn siŵr

C23a. Yn eich barn chi, beth yw’r manteision wrth allu dod o hyd yn haws i gynnwys darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (fel y BBC a Channel 4) ar lwyfannau fideo?

C23b. Pa fath o gynnwys gan ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ydych chi’n meddwl y dylai fod yn haws dod o hyd iddo ar lwyfannau fideo? (dewiswch bob un sy’n berthnasol)

Dewisiadau:

  • Y celfyddydau a cherddoriaeth glasurol
  • Plant
  • Comedi
  • Drama
  • Addysg
  • Adloniant
  • Adloniant ffeithiol
  • Ffilmiau nodwedd
  • Ffeithiol cyffredinol
  • Newyddion a materion cyfoes
  • Crefydd a moeseg
  • Operâu sebon
  • Ffeithiol arbenigol
  • Chwaraeon
  • Dim un o’r uchod
  • Arall [rhowch fanylion]

C23c. Ar ba lwyfannau fideo ydych chi’n meddwl y dylai fod yn haws dod o hyd i gynnwys gan ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus?

C24. Ydych chi’n creu cynnwys fideo’n rheolaidd ac yn ei lwytho i fyny i lwyfannau rhannu fideos, fel YouTube a TikTok?

Dewisiadau:

  • Ydw, yn bennaf am hwyl neu fel hobi 
  • Ydw, yn bennaf at ddibenion proffesiynol neu i gynhyrchu incwm
  • Nac ydw
  • Mae’n well gen i beidio â dweud

C24a. Fel crëwr cynnwys neu rywun sy’n llwytho cynnwys i fyny i lwyfannau rhannu fideos, a oes newidiadau neu nodweddion ychwanegol y byddech chi eisiau i lwyfannau rhannu fideos eu cynnig? Er enghraifft, gwneud eich cynnwys yn fwy gweladwy, gwneud systemau’n dryloyw, neu ei gwneud yn haws dod o hyd i’r cynnwys.

C24b. Gan feddwl am y llwyfannau rhannu fideos rydych chi’n llwytho cynnwys i fyny ac yn ei rannu arnyn nhw, ydych chi’n deall o gwbl sut mae cynnwys yn cael ei ddangos i wylwyr drwy’r algorithmau?

Dewisiadau:

  • Rydw i’n deall digon sut mae’r algorithm yn gweithio
  • Dydw i ddim yn deall digon sut mae’r algorithm yn gweithio
  • Ddim yn siŵr

System newydd o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus

C25. Pa rai o’r priodoleddau canlynol, os o gwbl, o gynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ydych chi’n eu gwerthfawrogi fwyaf? Dewiswch hyd at dri o’r rhai pwysicaf i chi.

Dewisiadau:

  • Rhaglenni amrywiol - cynnwys am bobl fel fi, a phobl o wahanol gefndiroedd
  • Newyddion o safon - cynnwys newyddion sy’n gywir, ac yn fy helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn y byd heddiw
  • Darpariaeth ranbarthol - rhaglenni neu gynnwys sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am fy ardal
  • Cynnwys o safon (heb fod yn newyddion) - rhaglenni neu gynnwys rydych chi’n eu hystyried yn rhai o ansawdd uchel a/neu’n wahanol o ran dull i’r hyn sy’n cael ei gynnig gan ddarparwyr eraill
  • Amrywiaeth - bod amrywiaeth o wahanol fathau o raglenni ar gael (er enghraifft drama, comedi, adloniant, chwaraeon)
  • Wedi’i deilwra ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU - rhaglenni sydd wedi’u gwneud yn benodol ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU, ac sy’n berthnasol i mi
  • Cyfleoedd i wylio ar y cyd - rhaglenni a digwyddiadau sy’n cael eu darlledu y gallaf eu gwylio a siarad amdanyn nhw gydag eraill, er enghraifft fy nheulu neu fy nghyfoedion
  • Cydlyniant cenedlaethol - darlledu digwyddiadau sy’n dod â’r genedl at ei gilydd ar gyfer profiad gwylio ar y cyd
  • Dim un o’r uchod
  • Ddim yn siŵr

C26. Mae Pennod 4.2 y papur gwyrdd yn amlinellu’r heriau sy’n wynebu cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a sut mae’r system sy’n gysylltiedig â thrwyddedau darlledu yn weddol anhyblyg. Mae’r bennod yn awgrymu bod hyn yn cyfyngu ar yr opsiynau ar gyfer y manteision a’r rhwymedigaethau y gall Ofcom eu rhoi ar ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, ac yn ei gwneud yn anoddach agor y system i ddarparwyr newydd. Y ddadl yw bod hyn yn peryglu cynaliadwyedd y system wrth i gynulleidfaoedd symud oddi wrth deledu sy’n cael ei ddarlledu’n fyw i gynnwys llinol, cynnwys ar-alw, a chynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr ar nifer o ddyfeisiau, a newid o un i’r llall.

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r awgrym bod angen diwygio’r system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a symud oddi wrth y model presennol sy’n defnyddio trwyddedau darlledu?

Dewisiadau:

  • Cytuno’n gryf - yn bendant mae angen diwygio’r system a symud oddi wrth ddefnyddio trwyddedau darlledu 
  • Cytuno - rwy’n cytuno y gallai fod angen diwygio’r system a symud oddi wrth ddefnyddio trwyddedau darlledu
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Dim barn y naill ffordd na’r llall
  • Anghytuno - nid wyf yn cytuno bod angen diwygio’r system o reidrwydd a symud oddi wrth ddefnyddio trwyddedau darlledu
  • Anghytuno’n gryf - rwy’n teimlo’n gryf y dylai’r system barhau i ddefnyddio trwyddedau darlledu
  • Ddim yn siŵr

C26a. Rhowch reswm ac unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich barn.

C27. Mae’r papur gwyrdd yn amlinellu pedair egwyddor bosibl y system Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus.

Dyma nhw yn fras:

  • Cyffredinolrwydd: sicrhau bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn dal ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim, gan adlewyrchu ymddygiad ac arferion defnyddio cyfryngau’r cynulleidfaoedd. 
  • Cynnwys gwasanaeth cyhoeddus: sicrhau bod amrywiaeth eang o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus unigryw o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu.

  • Cynaliadwyedd systemig: sicrhau bod gan y system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus gymysgedd o ddarparwyr i’w gwneud yn fwy gwydn er mwyn cyflawni amcanion cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y tymor hir. Dylai hefyd fod yn ddigon hyblyg i’r newidiadau posibl yn y casgliad presennol o ddarparwyr PSM a bod yn agored i gyfleoedd i uno, partneriaethau, a diffiniadau o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus.
  • Compact PSM cynaliadwy: sicrhau bod y manteision mae darparwyr PSM yn eu cael yn gymesur â’r rhwymedigaethau mae’n rhaid iddyn nhw eu cyflawni i gael statws PSM er mwyn bod yn ddeniadol ac yn gynaliadwy’n fasnachol.

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai’r llywodraeth ystyried pob un o’r canlynol fel egwyddorion system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus?

  • Cyffredinolrwydd
    • Dewisiadau: Cytuno’n gryf, Cytuno, Ddim yn cytuno nac yn anghytuno, Anghytuno, Anghytuno’n gryf
  • Cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
    • Dewisiadau: Cytuno’n gryf, Cytuno, Ddim yn cytuno nac yn anghytuno, Anghytuno, Anghytuno’n gryf
  • Cynaliadwyedd systemig 
    • Dewisiadau: Cytuno’n gryf, Cytuno, Ddim yn cytuno nac yn anghytuno, Anghytuno, Anghytuno’n gryf
  • Compact cynaliadwy ar gyfer cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
    • Dewisiadau: Cytuno’n gryf, Cytuno, Ddim yn cytuno nac yn anghytuno, Anghytuno, Anghytuno’n gryf

C28. Mae’r papur gwyrdd yn amlinellu tri model enghreifftiol ar gyfer ein system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i gyd-fynd â’r egwyddorion a gynigiwn. Mae amlinelliad o’r modelau hyn i’w weld isod, ac mae disgrifiad manylach o bob un ar gael ym mhennod 4 y papur gwyrdd.

  • Byddai model sy’n canolbwyntio ar sefydliadau PSM yn golygu bod sefydliadau, fel darlledwyr neu ffrydwyr, yn cael eu dynodi’n sefydliadau PSM.
  • Byddai model sy’n canolbwyntio ar wasanaethau PSM yn caniatáu i ‘wasanaethau’ penodol gael eu dynodi’n gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus pe bydden nhw’n bodloni gofynion y cytunwyd arnyn nhw. Yn y cyd-destun hwn, gallai ‘gwasanaethau’ amrywio o ddarpariaeth linol, fel sianel deledu sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau, gwasanaeth fideo ar-alw o ansawdd uchel, neu sianeli ar lwyfannau rhannu fideos, fel sianel rhaglenni hanes neu sianel rhaglenni dogfen ar YouTube.
  • Byddai dull sy’n canolbwyntio ar gynnwys yn pennu a yw rhywbeth yn gynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn amodol ar ddiffiniad y cytunwyd arno (a allai esblygu yn unol ag anghenion diwylliannol/cymdeithasol) yn hytrach na darparwr (sefydliad neu wasanaeth) penodol.

Rhowch y model o’r system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus rydych chi’n ei ffafrio mewn trefn, gyda’r model rydych chi’n ei ffafrio fwyaf yn rhif 1:

Dewisiadau:

  • Model sy’n canolbwyntio ar sefydliadau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
  • Model sy’n canolbwyntio ar wasanaethau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
  • Dull sy’n canolbwyntio ar gynnwys
  • Cyfuniad o’r modelau

C29. A oes gennych ragor o sylwadau yr hoffech eu hychwanegu ar y cynnwys sy’n cael sylw yn y bennod hon, neu unrhyw wybodaeth bellach a fydd yn ein helpu i ddehongli eich ymatebion?

Effaith ar gydraddoldeb

C30. Mae dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i ystyried sut mae eu polisïau neu eu penderfyniadau yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

A oes gennych chi unrhyw dystiolaeth ynghylch effaith unrhyw gynigion sydd yn yr ymgynghoriad ar gydraddoldeb?

Atodiad: Dyfodol Dosbarthu Cynnwys Teledu

Atodiad A: Opsiynau asesu

Opsiynau asesu

Mae’r adran hon yn amlinellu’r achos dros newid dan reolaeth oddi wrth DTT, gan dynnu sylw at y risgiau o beidio â gwneud dim a’r ystyriaethau allweddol i’r llywodraeth. Mae’r llywodraeth o’r farn bod newid o’r fath yn anochel am resymau sydd wedi’u trafod ym mhennod 3 (3.1). Felly, mae’r dewis polisi rhwng dwy linell amser ar gyfer newid dan reolaeth, gyda 2034 yn cynnig manteision cynharach ond angen ymyriadau cynharach. 

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu parhau i fwynhau gwasanaethau teledu o ansawdd uchel wrth i dechnoleg ddatblygu. Wrth i fwy o gartrefi ddewis gwylio’r teledu dros fand eang, rydym am wneud yn siŵr bod gwylwyr yn cael y mynediad, y gefnogaeth a’r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i elwa o unrhyw newidiadau.

Gyda chynnydd parhaus o ran cyflwyno darpariaeth band eang sy’n gallu delio â gigadid ledled y wlad a gwaith parhaus i wella cynhwysiant digidol, rydym yn credu y gallai unrhyw newid i IPTV gynnig cyfle i wella dewis, dibynadwyedd, a phrofiadau gwylio cynulleidfaoedd ledled y wlad.

I gefnogi’r gwaith hwn, yn gyntaf gofynnodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i Ofcom gynnal adolygiad cynnar o newidiadau yn y farchnad a allai effeithio ar ddyfodol dosbarthu cynnwys ar DTT a llwyfannau dosbarthu eraill [footnote 57]. Yn eu hadroddiad, nodwyd tri dull cyffredinol ar gyfer dyfodol DTT:

  • Buddsoddi mewn gwasanaeth DTT mwy effeithlon.
  • Lleihau’r defnydd o DTT gan gynnig gwasanaeth craidd (‘nightlight’).
  • Symud tuag at ddiffodd DTT yn ystod y 2030au.

Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cynnal gwaith ymchwil a dadansoddi helaeth i ddatblygu’r cynigion hyn ymhellach. Mae’r gwaith hwn wedi cael ei wneud ar draws y llywodraeth ac mewn cydweithrediad agos â grwpiau cynulleidfa, cynrychiolwyr y diwydiant, ac academyddion, gan gynnwys drwy Fforwm Rhanddeiliaid Dyfodol Dosbarthu Cynnwys Teledu.

Gan ddefnyddio’r dystiolaeth hon, fe wnaethom fireinio amrywiaeth eang o ddulliau posibl i greu rhestr fer o dri opsiwn penodol. Mae’r amseru a gynigir yn cyd-fynd â’r rhesymeg a nodir ym mhennod 3 (adran 3.1), yn enwedig o dan “ystyriaethau o ran amseru”.

Ac ystyried yr amrywiaeth o dechnolegau dan sylw a’r amserlenni gwahanol ar gyfer gweithredu, roedd llawer o fodelau posibl ac amrywiaeth o safbwyntiau rhanddeiliaid. Yn anochel, penderfynwyd peidio â bwrw ymlaen â rhai opsiynau. Fodd bynnag, roedd mewnbwn gan y fforwm rhanddeiliaid, ochr yn ochr ag ymgysylltu ehangach ac ymchwil ychwanegol, yn cynnig sylfaen dystiolaeth gref a chytbwys i gefnogi’r rhestr fer, fel y manylir isod.

Opsiwn 0 (gwaelodlin at ddibenion cymharu a ddim yn cael ei ystyried) - Caniatáu i’r farchnad bennu canlyniadau: Yn y senario hwn, dim ond y camau angenrheidiol y byddai’r llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau parhad darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Byddai hyn yncynnwys diddymu gofynion ar ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i ddosbarthu eu sianeli drwy DTT, er gallen nhw ddewis gwneud hynny pe bydden nhw’n dymuno. Byddai teledu protocol rhyngrwyd (IPTV) yn debygol o barhau i dyfu, yn bennaf drwy dynnu gwylwyr oddi wrth DTT. Efallai y byddai cwmnïau teledu masnachol yn rhoi’r gorau i ddefnyddio DTT yn gyfan gwbl, a fyddai’n golygu bod ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn gorfod talu mwy o’r costau eu hunain, a rhoi mwy o gymhelliant i unrhyw gynulleidfaoedd sy’n weddill symud i lwyfannau eraill. Er mwyn cymharu, mae cwmnïau teledu mewn gwledydd fel y Ffindir a Sweden yn dechrau cwtogi neu roi’r gorau i’w gwasanaethau teledu tebyg i Freeview sy’n dibynnu ar ddarpariaeth erial. Mewn sefyllfa o’r fath yn y DU, mae perygl y gallai darlledu DTT ddod i ben yn gyflym ac yn ddi-drefn sy’n golygu na fydd gan bobl sy’n dibynnu ar y llwyfan arweiniad na chefnogaeth neu dim mynediad o gwbl. Byddai llwyfannau teledu eraill sy’n cael eu dosbarthu drwy IPTV, lloeren a chebl hefyd yn penderfynu drostyn nhw eu hunain a yw’n dal yn gwneud synnwyr o ran busnes i barhau i weithredu. Nid yw’r llywodraeth o’r farn bod yr opsiwn hwn yn ymarferol oherwydd y risg o effeithiau niweidiol ar gynulleidfaoedd, a dim ond fel pwynt cymharu y mae wedi’i gynnwys yma.

Opsiwn 1 (dan ystyriaeth ar gyfer ymgynghori) - Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2034 [footnote 58]: O dan y senario hwn, byddai’r llywodraeth yn gweithredu newid dan arweiniad y diwydiant i wasanaethau IPTV. Ni fyddai’r llwyfan DTT yn cael ei ymestyn y tu hwnt i 2034, felly byddai cymorth ar gyfer y newid hwn yn cael ei roi ar waith cyn y dyddiad hwnnw, a byddai modd rhyddhau’r holl sbectrwm radio sy’n cael ei ddefnyddio gan DTT ar hyn o bryd yn 2035. Byddai’r ffocws ar sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael o hyd ar deledu a’i fwynhau, gan gynnwys sianeli byw, rhaglenni ar-alw a chynnwys PSM, wrth i’r gwylio symud fwyfwy ar-lein. Byddai hyn yn cynnwys cymorth ymarferol, gwybodaeth glir a chymorth penodol i aelwydydd a allai deimlo bod y newid yn fwy o her. Rydym yn cydnabod bod rhai cynulleidfaoedd, gan gynnwys gwylwyr hŷn, y rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, pobl anabl a’r rheini sydd ar incwm is yn llai tebygol o fod â mynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd neu’n meddu ar y sgiliau digidol sydd eu hangen i wylio teledu ar-lein. Heb gefnogaeth briodol, gallai’r grwpiau hyn wynebu rhwystrau rhag cael gafael ar y gwasanaethau teledu maen nhw’n dibynnu arnyn nhw, ac felly byddem yn cyfeirio mesurau cefnogi atyn nhw’n benodol. Y bwriad yw sicrhau bod y newid i IPTV yn cryfhau, yn hytrach na lleihau, mynediad at deledu fforddiadwy o ansawdd uchel i bob cynulleidfa. Byddai hyn yn gwneud i’r holl randdeiliaid ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r heriau rydym wedi’u nodi i gynnal mynediad i bawb at deledu gan sicrhau sgiliau digidol, defnyddioldeb, a band eang fforddiadwy a dibynadwy. Mae’r llywodraeth yn rhagweld y byddai teledu lloeren a chebl yn parhau ar sail fasnachol yn unig.

Opsiwn 2 (dan ystyriaeth ar gyfer ymgynghori) - Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2044: Fel gydag opsiwn 1, byddai’r llywodraeth yn gweithredu newid dan arweiniad y diwydiant i wasanaethau IPTV erbyn 2044. Fodd bynnag, mae’r opsiwn hwn yn darparu estyniad 10 mlynedd i oes llwyfan DTT, ochr yn ochr â buddsoddiad penodol sydd â’r bwriad o leihau’r costau gweithredu sy’n cael eu trosglwyddo i ddarlledwyr [footnote 59]. Yn hytrach na’r chwe amlblecs sy’n weithredol heddiw, byddai’r llwyfan yn gweithredu gyda thri amlblecs yn ystod y cyfnod hwn. Byddai’r dull hwn yn cynnal DTT fel gwasanaeth heb leihau faint mae’n ei gyrraedd yn gyffredinol. Ar yr un pryd, byddai lleihau nifer yr amlblecsau o chwech i dri yn golygu bod modd rhyddhau sbectrwm radio gwerthfawr mewn modd penodol i’w ddefnyddio at ddibenion eraill. Byddai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i fod â rhwymedigaethau darlledu DTT yn ystod cyfnod y newid, ond yn ôl ffigurau prisio a ddarparwyd gan Arqiva byddai cost cludo DTT yn lleihau’n sylweddol o’i gymharu â’r ffioedd blynyddol presennol. Gallai’r costau cludo is hyn hefyd annog sianeli masnachol i aros ar y llwyfan. Disgwylir i wasanaethau teledu lloeren a chebl barhau i weithredu ar sail gwbl fasnachol, fel maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd. Wrth i gynulleidfaoedd symud fwyfwy i IPTV, mae’r achos economaidd dros ddarlledu ar DTT yn debygol o ddod yn fwy o her. Yn draddodiadol, mae hysbysebion ar deledu llinol wedi dibynnu ar gynulleidfaoedd mawr, yn gwylio ar yr un pryd, i sicrhau refeniw hysbysebu premiwm. Wrth i’r cynulleidfaoedd sy’n gwylio leihau ac ymrannu, efallai y bydd angen i ddarlledwyr masnachol wneud penderfyniadau masnachol ynghylch pa mor ymarferol dros yr hirdymor yw aros ar y llwyfan DTT.

Am y rhesymau a nodir ym mhennod 3 (3.1), ac yn dilyn ymgysylltu â’r Fforwm Rhanddeiliaid a rhanddeiliaid eraill, mae’r llywodraeth yn credu bod achos cryf dros newid o wasanaethau DTT i wasanaethau IPTV erbyn 2034. Ond, gan gydnabod yr heriau y byddai angen eu goresgyn, mae’r llywodraeth yn glir bod yn rhaid i’r newid ddigwydd yn y ffordd iawn, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Drwy’r papur gwyrdd hwn, mae’r llywodraeth yn nodi’r egwyddorion ar gyfer llwybr y newid, yn ogystal â cheisio barn am 2044 fel dyddiad posibl ar gyfer y newid, er mwyn clywed ac ystyried amrywiaeth eang o safbwyntiau. Felly, bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio’r penderfyniad ynghylch pa un o’r opsiynau hyn (neu opsiwn arall) i fynd amdano.

Fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, rydym yn casglu gwybodaeth i lywio ein hasesiad o’r opsiynau hyn o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ac i ddeall unrhyw effeithiau posibl ar unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig.

Atodiad B: Heriau i fynd i’r afael â nhw cyn diffodd gwasanaethau DTT

Mae’r adran hon yn nodi’r prif ffactorau a fydd yn dylanwadu ar broses newid lwyddiannus oddi wrth DTT, a rôl unrhyw fesurau ategol.

Er gwaethaf y newid graddol tuag at ddefnyddio IPTV, bydd angen cymorth strwythuredig i newid o DTT i system sy’n seiliedig yn gyfan gwbl ar IPTV [footnote 60]. Mae’r llywodraeth wedi nodi pedair her y mae’n rhaid i unrhyw gynllun newid, gan gynnwys pecyn cymorth i gynulleidfaoedd, eu goresgyn. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar egwyddorion sy’n ymwneud ag 1) cyffredinolrwydd, 2) dibynadwyedd, 3) arloesi a 4) cynaliadwyedd PSM. Beth bynnag fo amserlen y newid yn y pen draw, bydd angen pecyn cymorth i helpu cynulleidfaoedd i symud o DTT i IPTV yn ddidrafferth ac yn hyderus. Bydd yr ymyriadau hyn yn cael eu dylunio ar y cyd â’r diwydiant a phartneriaid eraill.

Yn ogystal â nodi’r her i fynd i’r afael â hi fel rhan o’r pecyn hwnnw, mae pob piler isod yn nodi’r canlynol:

  • y canlyniadau arfaethedig
  • ymyriadau posibl i’w harwain gan y diwydiant [footnote 61]
  • y rôl y gallai’r llywodraeth ei chwarae

Rydym wedi darparu’r rhain fel enghreifftiau ac rydym yn disgwyl i’r diwydiant weithio gyda’i gilydd a chynnig atebion gyda’u cynllun ar gyfer cyflawni hyn yn erbyn y canlyniadau a geisir. 

Her 1: Darparu ar gyfer pob cynulleidfa 

Bydd pawb sydd am gael gafael ar deledu yn eu cartref yn gallu gwneud hynny, neb yn cael ei adael ar ôl. 

Mae teledu yn chwarae rhan hanfodol yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol, gan ddarparu newyddion dibynadwy, achlysuron cenedlaethol cyffredin, a mynediad at gynnwys PSM. Dylai unrhyw newid i IPTV ddiogelu mynediad i bawb at deledu, gan gynnwys darparwyr PSM, ni waeth beth yw eu hincwm, eu lleoliad, eu hoedran, na’u hyder yn y byd digidol.

Mae rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at amrywiaeth o ddulliau posibl y gallai’r diwydiant a’r llywodraeth edrych arnyn nhw i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Bwriad yr enghreifftiau isod yw dangos meysydd posibl lle mae angen gweithredu yn hytrach na set ddiffiniedig o ymyriadau. Gallai ymyriadau’r diwydiant gynnwys:

  • Sicrhau nad yw’r newid yn golygu bod cartrefi’n methu fforddio’r cynnwys teledu, er enghraifft drwy gymorth ariannol gan y diwydiant ehangach sy’n debygol o elwa o’r newid.
  • Sicrhau mynediad fforddiadwy at gysylltedd a gwasanaethau:

  • Helpu i sicrhau bod cynigion rhad (fel tariffau cymdeithasol) ar gael yn barhaus sy’n galluogi mynediad fforddiadwy at gynnwys teledu.
  • Cyfrannu at yr uchelgais gyffredin fod pob aelwyd sydd ag angen cysylltedd band eang i gael gafael ar deledu yn gallu cael gafael ar hyn, gan gydnabod rôl ymyriadau’r llywodraeth (gan gynnwys rhaglenni fel Project Gigabit) ochr yn ochr â darpariaeth y diwydiant.

  • Cynnig dyfeisiau IPTV syml, rhad (fel ‘offer plygio i mewn’ neu ‘dongl’), gyda phrisiau clir a dim ffioedd parhaus diangen.
  • Dylunio gwasanaethau cynhwysol a hygyrch:

  • Sicrhau bod gwasanaethau IPTV yn hawdd eu gosod ac yn hawdd eu defnyddio.
  • Gweithio gyda gwneuthurwyr dyfeisiau, llwyfannau a darparwyr gwasanaethau i hyrwyddo dyluniad cynhwysol sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth eang o alluoedd yn y byd digidol.
  • Sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn ddiofyn.
  • Cefnogi gallu a hyder yn y byd digidol:

  • Chwarae rhan yn y gwaith o wella sgiliau digidol drwy ariannu a chyflwyno mentrau hyfforddi.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol, elusennau a grwpiau cymunedol i gefnogi defnyddwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.
  • Sicrhau mynediad hawdd at gynnwys:

  • Dangos bod cynnwys gan ddarparwyr PSM, ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o gynnwys arall, yn dal ar gael yn rhwydd ac am ddim heb fod angen tanysgrifiadau premiwm na bwndeli cymhleth.

Gallai ymyriadau’r Llywodraeth gynnwys:

  • Gosod disgwyliadau clir ar gyfer fforddiadwyedd a hygyrchedd gwasanaethau a dyfeisiau IPTV, i sicrhau nad yw aelwydydd yn cael eu heithrio rhag cael gwylio teledu wrth i wasanaethau esblygu.
  • Sicrhau bod cysylltiadau’n cael eu darparu ledled y wlad, yn unol â thargedau a rhaglenni presennol y llywodraeth (gan gynnwys Prosiect Gigabit).
  • Cydlynu a chryfhau ymdrechion i gael cynhwysiant digidol, drwy ddod â gweithgarwch at ei gilydd ar draws y llywodraeth, awdurdodau lleol, elusennau a grwpiau cymunedol i gefnogi’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i ddefnyddio gwasanaethau IPTV.

Her 2: Cynnal gwasanaeth teledu dibynadwy 

Mae unrhyw beth yn lle DTT yn bodloni safonau tebyg o ran dibynadwyedd.

Er mwyn gallu diffodd DTT, rhaid i’r diwydiant ddangos bod llwyfannau eraill yn gallu darparu lefelau tebyg neu well o ran darpariaeth a dibynadwyedd. O ran dibynadwyedd, dylai IPTV allu darparu gwasanaeth sydd yr un mor gyson â DTT. 

O ran hyn, mae’r llywodraeth yn deall pwysigrwydd mynediad at wybodaeth mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol. Mae teledu a radio ill dau’n chwarae rhan bwysig o ran darparu mynediad o’r fath mewn amrywiaeth o wahanol senarios argyfwng, gan gynnwys senarios lle byddai tarfu ar ddulliau cyfathrebu eraill. Dylid cadw’r gallu i gyfathrebu â’r cyhoedd mewn argyfwng cenedlaethol y tu hwnt i symud i IPTV. 

Gallai ymyriadau’r diwydiant gynnwys:

  • Buddsoddi mewn rhwydweithiau darparu cynnwys a band eang er mwyn:
    • Helpu i gynnal y lefelau gwylio byw uchaf ar raddfa genedlaethol, ochr yn ochr â defnyddio band eang ar yr un pryd. 
    • Cynnal gwasanaeth yn ystod argyfyngau a digwyddiadau o bwys.
  • Darparu safonau dibynadwyedd clir a gwarantau gwasanaeth.
  • Dangos cynlluniau wrth gefn cadarn ar gyfer cyfnodau pa na fydd cysylltiad ar gael, neu pan fydd tagfeydd, neu fethiannau.
  • Cydweithio ar draws y sector i osgoi ansawdd gwasanaeth sy’n ddarniog neu anghyson.

Gallai ymyriadau’r Llywodraeth gynnwys:

  • Gofyn am dystiolaeth bod safonau’n cael eu bodloni cyn i DTT gael ei ddiffodd.
  • Cynnal ymchwil i werthuso gofynion capasiti rhwydwaith band eang mewn amgylchedd IPTV yn unig a phenderfynu sut mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa bresennol. 
  • Sicrhau bod cynlluniau effeithiol ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau niweidiol ar radio ac ar ddarlledu mewn argyfwng sy’n ymwneud â’r posibilrwydd o ddiffodd DTT.

Her 3: Hyrwyddo cystadleuaeth ac arloesedd yn y diwydiant teledu 

Mae’r newid yn datgloi arloesedd ac mae cynulleidfaoedd yn parhau i fwynhau dewis, amrywiaeth, a chystadleuaeth.

Mae symud oddi wrth DTT yn cynnig cyfle i foderneiddio’r ddarpariaeth teledu. Dylai’r newid ryddhau adnoddau a sbectrwm, a chaniatáu i ddarlledwyr ganolbwyntio ar gynnwys ac arloesi yn hytrach na chynnal hen systemau cyfochrog.

Gallai ymyriadau’r diwydiant gynnwys:

  • Datblygu a defnyddio datrysiadau IPTV agored, rhyngweithredol sy’n:
    • Gweithio ar draws rhwydweithiau, dyfeisiau, a llwyfannau.
    • Osgoi cloi darlledwyr neu gynulleidfaoedd mewn ecosystemau perchnogol [footnote 62].  
  • Ailfuddsoddi’r arbedion a ddaw o system ddosbarthu wedi’i moderneiddio mewn:
    • Cynhyrchu yn y DU.
    • Gwasanaethau newydd.
    • Gwell hygyrchedd a phrofiad i ddefnyddwyr.
  • Dysgu o brofiad rhyngwladol a mabwysiadu dulliau llwyddiannus.
  • Cytuno ar drefniadau cludo teg, tryloyw, nad ydyn nhw’n gwahaniaethu.
  • Sicrhau bod llwyfannau’n gallu cefnogi amrywiaeth eang o sianeli a gwasanaethau yn dechnegol.
  • Osgoi arferion sy’n cyfyngu ar gystadleuaeth, dewis, neu fynediad i’r farchnad a sicrhau cysondeb â pholisïau sy’n diogelu niwtraliaeth y rhyngrwyd.

Gallai ymyriadau’r Llywodraeth gynnwys:

  • Darparu sicrwydd hirdymor ac eglurder yng nghyd-destun rheoliadau.

Her 4: Cefnogi dyfodol cynaliadwy i ddarparwyr PSM 

Mae cynnwys PSM yn dal yn gynaliadwy ac ar gael yn eang.

Mae darparwyr PSM yn chwarae rhan ganolog ym mywyd diwylliannol, dinesig, a democrataidd y DU. Dylai’r diwydiant sicrhau bod modelau dosbarthu newydd yn cefnogi, yn hytrach na thanseilio, darparwyr PSM.

Gallai ymyriadau’r diwydiant gynnwys:

  • Sicrhau bod cynnwys gan ddarparwyr PSM:
    • Am ddim yn y man maen nhw’n cael eu defnyddio.
    • Yn hawdd dod o hyd iddo a’i bod yn hawdd llywio rhwng gwasanaethau, ar bob dyfais.
    • Ar gael ar bob prif ddyfais a llwyfan IPTV.
  • Cefnogi trefniadau technegol a masnachol sy’n caniatáu i ddarparwyr PSM wneud y canlynol:
    • Cyrraedd cynulleidfaoedd eang a bod ar gael ym mhob cartref yn y DU.
    • Buddsoddi mewn cynnwys o ansawdd uchel yn y DU.
  • Cydweithio ar fodelau dosbarthu cynaliadwy.

Bydd y llywodraeth yn ceisio:

  • Sicrhau bod darparwyr PSM yn dal yn cyrraedd pawb ac yn amlwg.

Bydd y llywodraeth yn parhau i fireinio’r heriau hyn a rhoi mwy o eglurder ynghylch metrigau a thargedau yn dilyn ymatebion i’r papur gwyrdd hwn.

Atodiad C: Dadansoddiad cost a budd

Yn yr adran ganlynol rydym wedi darparu dadansoddiad cost a budd cychwynnol ar gyfer y ddau brif opsiwn: Opsiwn 1, newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2034; ac Opsiwn 2, newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2044.  Ni fwriedir i hyn fod yn ddadansoddiad terfynol a fydd yn sail i wneud penderfyniad, ond mae’n rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd a’r diwydiant ddeall a chyfrannu at ddealltwriaeth bresennol y llywodraeth o’r costau a’r budd a briodolir i bob opsiwn.

Mae’r ddau brif opsiwn hyn yn cael eu cymharu â set o dybiaethau sy’n ffurfio gwaelodlin: Opsiwn 0, sy’n caniatáu i’r farchnad bennu canlyniadau. Ar gyfer y waelodlin hon, er mwyn cadw pethau’n syml, rydym yn tybio’r canlynol: (1) erbyn 2034, mae pob darlledwr yn rhoi’r gorau i ddosbarthu dros seilwaith DTT; (2) nid yw’r llywodraeth/darlledwyr yn trefnu rhaglen gyfathrebu na chymorth i helpu aelwydydd gyda’r newid hwn; (3) mae aelwydydd heb fand eang yn mynd am fand eang ar yr un gyfradd ag y bydden nhw wedi’i wneud ar sail y rhagolygon presennol; a (4) oherwydd nad yw’r broses o golli seilwaith DTT yn cael ei rheoli, nid oes bwriad i arwerthu’r bandiau 500 MHz a 600 MHz o sbectrwm na fyddai’n cael eu defnyddio at ddibenion eraill. Mewn gwaith dadansoddi yn y dyfodol, byddwn yn datblygu’r waelodlin hon ymhellach.

A) Crynodeb

Ar gyfer pob effaith â gwerth ariannol iddi, rydym yn cyfrifo ffigur canolog sy’n cynrychioli’r amcangyfrif gorau ar sail y data sydd ar gael. Fodd bynnag, oherwydd bod sawl effaith heb werth ariannol iddyn nhw; ansicrwydd ynghylch y waelodlin; ac ansicrwydd ynghylch rhai newidynnau allweddol, dylid bod yn ofalus gyda’r amcangyfrifon hyn, oherwydd gallai pob un o’r rhain ddylanwadu ar werth am arian y naill opsiwn neu’r llall. Mae newidiadau bach mewn mewnbynnau (er enghraifft, rhagolygon aelwydydd, prisiau band eang, traffig rhwydweithiau symudol yn y dyfodol) yn newid cryn dipyn ar yr effeithiau â gwerth ariannol. Felly, oherwydd bod ystodau â gwerth ariannol yn gorgyffwrdd a bod ansicrwydd yn y rhifau hyn, yn ogystal â dylanwad yr effeithiau heb werth ariannol, nid yw’r dadansoddiad hwn yn gwneud unrhyw argymhelliad ar hyn o bryd rhwng y ddau opsiwn. 

Lle y bo’n bosibl, rydym wedi darparu amcangyfrifon rhesymol isel ac uchel i greu senario cyfanswm uchel ac isel: gyda lefel isel yn dangos senario pesimistaidd sy’n cynyddu costau ac yn lleihau’r budd; a lefel uchel yn dangos senario optimistaidd sy’n lleihau costau ac yn cynyddu’r budd. Bydd angen rhagor o brofion sensitifrwydd hefyd, fel effaith addasiadau mewn rhagolygon aelwydydd o ran cyfradd y bobl sy’n dewis mynd am IPTV a band eang, yn ogystal â phrofi effaith defnydd uwch ac is o ryngrwyd ar arbedion costau gweithredwyr rhwydweithiau symudol. Prisiau 2026, Gwerth presennol yw’r ffigurau yn y tabl isod. Maen nhw’n cael eu disgowntio gan ddefnyddio cyfradd ddisgownt y Llyfr Gwyrdd sef 3.5% [footnote 63]

Nid yw ein dadansoddiad cychwynnol o’r gost a’r budd yn ystyried yr angen i uwchraddio hen seilwaith teledu mewn nifer o adeiladau masnachol ac annomestig (fel gwestai, ysbytai a charchardai). Bydd y costau hyn yn cael eu gwerthuso’n fanylach yn ystod camau dilynol y broses datblygu polisi.

Effeithiau â gwerth ariannol

Gwerth Presennol, Prisiau 2026 (gan ddefnyddio datchwyddydd cynnyrch domestig gros), wedi’i dalgrynnu Cyfnod Arfarnu: 2026-2044/54 Buddion sbectrwm yn unig hyd at 2054 Opsiwn 1: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2034 (gydag/ Ystod Isel-Uchel) Opsiwn 2: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2044 (gydag/ Ystod Isel-Uchel)
Costau £2,135m (£1,850m-£2,270m) £1,590m (£1,435m-£1,615m)
Costau cymdeithasol band eang i aelwydydd heb fand eang neu fand eang sy’n gallu delio ag IPTV £1,600m (£1,500m-£1,700m) £200m (£180m-£220m)
Costau cymdeithasol dyfeisiau IPTV (fel dyfeisiau ffrydio teledu Freely) i aelwydydd heb ddyfeisiau sy’n gallu delio ag IPTV £125m (£120m-£130m) £20m (£15m-£25m)
Rhaglen Gyfathrebu (ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd, cymorth i ddefnyddwyr, hyfforddiant sgiliau, ac ati) £410m (£230m-£410m) £290m (£160m-£290m)
Costau Rhwydwaith Blynyddol DTT (costau y mae gweithredwyr amlblecs yn eu talu i ddarparwr seilwaith) £0m (Dim senario Isel/Uchel) £820m (Dim senario Isel/Uchel)
Costau Rhaglen Clirio 600MHz DTT (trawsyryddion ac antenau newydd, costau llafur, ac ati) £0m (Dim senario Isel/Uchel) £260m (Dim senario Isel/Uchel)
Buddion £3,500m (£3,300m - £3,600m) £3,260m (£2,960m-£3,360m)
Arbedion Costau Radio DTT (lliniaru costau radio newydd i ddarlledwyr yn sgil colli ffioedd rhwydwaith blynyddol DTT) £0m (Dim senario Isel/Uchel) £160m (Dim senario Isel/Uchel)
Arbedion Costau Gweithredwyr Rhwydweithiau Symudol, drwy ryddhau sbectrwm (2026-2054) £3,500m (£3,300m - £3,600m) £3,100m (£2,800m-£3,200m)
Gwerth Presennol Net £1,365m (£1,030m - £1,750m) £1,670m (£1,345m-£1,925m)

Mae’r ffigurau terfynol wedi cael eu talgrynnu i 2 ffigur ystyrlon, a’u cyfuno ar gyfer ffigurau cryno.

Effeithiau heb werth ariannol

Opsiwn 1: Newid dan reolaeth i IPTV yn 2034 Opsiwn 2: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2044
Costau Costau datgomisiynu seilwaith DTT yn 2035 Costau datgomisiynu seilwaith DTT yn 2045                                                                                                 
Costau Amh Disodli setiau teledu DVB-T yn unig erbyn 2035  
Costau Cynnydd yng nghostau traffig rhyngrwyd (i ddarlledwyr) Amh  
Costau  Rhaglen gymorth cynhwysiant digidol ehangach (heb fod ar y teledu) ychwanegol bosibl  Rhaglen gymorth cynhwysiant digidol ehangach (heb fod ar y teledu) ychwanegol bosibl   
Buddion Defnydd PSM amgen o arbedion cyllid DTT blynyddol (er enghraifft, cynnwys, arloesi) Amh  
Buddion Amh Arbedion cost i ddefnyddwyr mastiau eraill (ac eithrio Radio) drwy liniaru colli ffioedd rhwydwaith blynyddol DTT    
Buddion Defnyddio manteision o welliannau i rwydwaith gweithredwyr rhwydweithiau symudol oherwydd y defnydd o fandiau sbectrwm 500 MHz a 600 MHz   Defnyddio manteision o welliannau i rwydwaith gweithredwyr rhwydweithiau symudol oherwydd y defnydd o fandiau sbectrwm 500 MHz a 600 MHz   
Buddion Manteision o ran cynhwysiant digidol wrth i’r nifer sy’n ddefnyddio band eang gynyddu’n gyflym (newid i IPTV 2034) Disgwylir i hyn fod yn fwy yn Opsiwn 1 Manteision o ran cynhwysiant digidol wrth i’r nifer sy’n ddefnyddio band eang gynyddu’n gyflym (newid i IPTV 2044)   
Amhenodol Newid mewn refeniw hysbysebu yn sgil newid cyflym o DTT i IPTV yn 2034 Newid mewn refeniw hysbysebu yn sgil newid graddol o DTT i IPTV rhwng 2034 a 2044  
Amhenodol Effeithiau amgylcheddol wrth newid o dechnoleg DTT i dechnoleg IPTV (er enghraifft, defnyddio ynni) Effeithiau amgylcheddol wrth newid technoleg DTT (er enghraifft, defnyddio ynni)  

B) Rhagolygon aelwydydd

Erbyn cyfnod y newid posibl i IPTV yn 2034, gallai fod tua 1.51m o aelwydydd [footnote 64] sy’n dal yn dibynnu ar lwyfannau darlledu traddodiadol (gan gynnwys DTT a lloeren) o’i gymharu â thua 0.52m [footnote 65] erbyn cyfnod y newid posibl i IPTV yn 2044 (Ffigur A1). 

O’r aelwydydd hyn heb fod ag IPTV, mae Ffigur A2 yn dangos na fydd tua 880,000 yn gallu cael gafael ar IPTV heb danysgrifiad band eang addas [footnote 66] yn 2034 o’i gymharu â thua 510,000 yn 2044. Fodd bynnag, mae gan tua 340,000 o’r 880,000 o aelwydydd hyn yn 2034 (ac oddeutu 360,000 o’r 480,000 yn 2044) ffôn symudol sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd, ond heb gysylltiad band eang; felly bydd gan yr aelwydydd hyn rywfaint o fynediad i’r rhyngrwyd. Mae nifer yr aelwydydd sydd â band eang addas, ond sy’n dewis peidio â chysylltu ag IPTV (hynny yw, wedi dewis peidio â defnyddio dyfais IPTV), hefyd yn gostwng o tua 630,000 o aelwydydd yn 2034 i ffigur bach iawn bron yn 2044 [footnote 67].

Ffigur A1: Cysylltedd IPTV aelwydydd, rhagolwg 2024-2044 (miliynau)

Ffynhonnell: 3 Reasons, MTM (ffigurau 2024 a 2034); Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (ffigurau 2044)

Ffigur A2: Aelwydydd heb IPTV, rhagolwg 2024-2044 (miliynau)

Ffynhonnell: 3 Reasons, MTM (ffigurau 2024 a 2034); Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (ffigurau 2044) [footnote 68]

Mae rhagolygon yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer aelwydydd yn adlewyrchu newid parhaus i IPTV hyd at 2044, sy’n cael ei sbarduno gan y nifer sy’n manteisio ar y farchnad organig ac effaith barhaus rhaglenni’r seilwaith presennol. Mae’r gostyngiad yn nifer ycartrefi sydd â band eang addas sy’n dewis peidio â chysylltu yn digwydd wrth i aelwydydd newid yn naturiol i IPTV. Ar yr un pryd, mae nifer y cartrefi sydd â band eang “anaddas” (llai na 30Mbps, gweler yr esboniad uchod) hefyd yn gostwng, wedi’i ategu gan y gwaith cenedlaethol parhaus o gyflwyno band eang cyflym iawn.

Roedd Adroddiad Prifysgol Caerwysg 2024 yn tynnu sylw at y ffaith bod oedran yn ffactor diffiniol o ran statws cysylltedd aelwydydd; roedd unigolion yn y segmentau teledu heb gysylltiad yn yr adroddiad yn sylweddol hŷn ar gyfartaledd na’r rheini mewn grwpiau â mwy o gysylltiad. Yn 2023, roedd dros 90% o unigolion heb gysylltiad band eang yn hŷn na 55 oed. Disgwylir i’r crynodiad demograffig hwn newid dros amser oherwydd ‘effaith carfan oedran’, wrth i genedlaethau iau, sy’n ddigidol frodorol heneiddio i fod mewn grwpiau hŷn gyda thuedd lawer uwch i ddefnyddio band eang. I’r gwrthwyneb, dim ond 9% o unigolion mewn aelwydydd IPTV yn unig oedd yn 55 oed neu’n hŷn yn 2023 [footnote 69].

Canfu’r adroddiad hefyd fod aelwydydd heb fynediad IPTV yn perthyn i garfannau economaidd-gymdeithasol is. Yn 2023, roedd 82% o aelwydydd heb gysylltiad band eang o fewn y bandiau C2DE, ochr yn ochr â 55% o aelwydydd â band eang ond yn dal heb gysylltu oherwydd diffyg set deledu sy’n gallu delio ag IPTV. I’r gwrthwyneb, roedd aelwydydd hybrid yn dangos proffil mwy gwasgaredig gyda 41%-44% yn perthyn i fandiau C2DE, tra bod 46% o aelwydydd IPTV yn unig yn perthyn i’r carfannau economaidd-gymdeithasol hyn, sy’n awgrymu bod fforddiadwyedd yn parhau i fod yn rhwystr sylfaenol i’r aelwydydd sy’n weddill sy’n dibynnu ar systemau darlledu traddodiadol [footnote 70].

Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at wahaniaethau rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol. Yn 2025, nid oedd gan tua 9% o aelwydydd mewn ardaloedd gwledig ledled y DU fynediad at fand eang cyflym iawn, o’i gymharu â dim ond 1% o’r rheini mewn ardaloedd trefol. Roedd y bwlch hwn yn fwyaf amlwg yn yr Alban, lle roedd 13% o aelwydydd mewn ardaloedd gwledig yn dal heb ddarpariaeth gyflym iawn [footnote 71]. Mae hyn yn awgrymu bod cyfyngiadau o ran seilwaith mewn ardaloedd gwledig yn dal yn rhwystr sylweddol i bawb allu defnyddio IPTV. Fodd bynnag, drwy Project Gigabit, mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau darpariaeth sy’n gallu delio â gigadid ledled y wlad. Mae’n disgwyl i 99% o adeiladau gael mynediad at gysylltiad sy’n gallu delio â gigadid erbyn 2032 a ddylai fynd i’r afael â’r mater hwn i raddau helaeth cyn 2034.

Ar ben hynny, mae mynediad at gysylltedd personol heblaw drwy deledu yn dilyn patrwm tebyg ymysg y grwpiau sydd heb gysylltiad fwyaf. Yn 2023, dim ond 16-17% o unigolion mewn aelwydydd heb gysylltiad band eang oedd yn berchen ar ffôn clyfar, o’i gymharu â 97% o’r rheini yn y segment IPTV yn unig. Roedd bod yn berchen ar gyfrifiadur hyd yn oed yn is ymysg y grwpiau hyn heb gysylltiad, rhwng dim ond 4-5% o’i gymharu ag 88% o unigolion yn y grŵp IPTV yn unig [footnote 72]. Mae’r cyferbyniad amlwg hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod diffyg IPTV yn aml yn rhan o duedd ehangach o allgáu digidol, lle nad oes gan aelwydydd y galedwedd hanfodol i ddefnyddio gwasanaethau ar y rhyngrwyd hyd yn oed pan fydd darpariaeth ar gael.

Mae rhagolygon yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer mynediad at IPTV yn wahanol i’r rheini yn adroddiad Prifysgol Caerwysg gan eu bod yn cyfrif am y gostyngiad cyflym mewn cysylltiadau nad ydyn nhw’n gallu delio â fideo ar-alw. Mae nifer y cysylltiadau llinell sefydlog sy’n darparu llai na 30 Mbps wedi haneru dros y pedair blynedd diwethaf (o 1.18m i 0.61m), acmae cysylltiadau gwibgyswllt wedi dyblu o 8.3m yn 2021 i 16.5m ddiwedd 2024. Erbyn 2034, mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn rhagweld y bydd y momentwm hwn, ynghyd â lansio gwasanaethau IPTV newydd am ddim fel Freely (na chawson nhw eu hystyried yn nadansoddiad adroddiad Prifysgol Caerwysg), yn mynd ati’n sylweddol i leihau’r segment o aelwydydd sy’n dibynnu ar DTT a oedd yn dewis peidio â chysylltu o’r blaen er bod ganddyn nhw fynediad addas. Er bod ein data presennol ar gyfer aelwydydd ar gyfer pobl dan 65 oed yn dangos bod y nifer sy’n defnyddio band eang bron â chyrraedd lefel dirlawnder yn barod, ar 98.7%, mae’r model hwn yn mynd ati’n benodol i dargedu’r ffaith bod y carfannau demograffig sy’n weddill yn symud wrth i ryngwynebau defnyddwyr ddechrau adlewyrchu prosesau llywio DTT cyfarwydd. Felly, mae angen gwneud rhagor o waith i ddeall sut mae’r carfannau demograffig rydym yn eu trafod yn y paragraff uchod wedi newid ers 2023, a sut byddem yn disgwyl iddyn nhw newid yn y dyfodol.

C) Costau cymdeithasol band eang i aelwydydd heb fand eang neu fand eang sy’n gallu delio ag IPTV

Amcangyfrifir bod costau band eang Gwerth Presennol yn £1,600m yn Opsiwn 1 (newid i IPTV 2034) ac yn £200m yn Opsiwn 2 (newid i IPTV 2044), sy’n cyfleu effaith y gost gymdeithasol wrth fynd am danysgrifiadau band eang. Mae’r gwahaniaeth hwn yn cael ei sbarduno’n bennaf gan y 10 mlynedd o gostau band eang blynyddol ychwanegol a brofir gan y 740,000 o aelwydydd yn Opsiwn 1, gan ostwng i 480,000 o aelwydydd dros y cyfnod 2034-2044 (gweler Ffigur 1). Rydym yn cyfrifo’r costau band eang hyn ar gyfer pob aelwyd y rhagwelir nad oes ganddyn nhw fand eang (sy’n cynnwys aelwydydd sy’n dibynnu ar loerennau). Rydym yn tybio y bydd aelwydydd yn mynd am fand eang o 30 Mbps o leiaf, ac yn defnyddio prisiau rhestredig sydd wedi cynyddu ar gyfer cysylltiadau cyflym iawn o adroddiad Ofcom ar batrymau prisio ar gyfer gwasanaethau cyfathrebu yn 2025 i amcangyfrif hyn. Rydym hefyd o’r farn y gallai llawer o aelwydydd fod â gwasanaeth llinell dir/llais-yn-unig yn barod ac ond yn costio’r gwahaniaeth yn y pris rhwng gwasanaeth llinell dir/llais-yn-unig a phecyn deuol ar gyfer llinell dir/llais-yn-unig a band eang cyflym iawn. 

Er bod adroddiad Ofcom yn dangos bod prisiau band eang wedi gostwng mewn termau real dros y blynyddoedd diwethaf, nid oes tystiolaeth y bydd hyn yn parhau dros gyfnod o 19 mlynedd, felly rydym yn tybio yn y senario Canol bod prisiau band eang yn aros yr un fath ag y maen nhw mewn termau real ar hyn o bryd. Fodd bynnag, er mwyn ystyried newidiadau posibl mewn prisiau, rydym yn tybio yn y senario Isel fod cost band eang yn cynyddu 10% dros y cyfnod gwerthuso, ac ar gyfer y senario Uchel, mae cost band eang, ar y llaw arall, yn gostwng 10% dros y cyfnod hwn. 

Rydym hefyd o’r farn y bydd rhai aelwydydd cymwys (8.6%) yn mynd am brisiau tariff cymdeithasol ar gyfer band eang (yn unol â’r ffigur diweddaraf o adroddiad Ofcom ar brisiau ac ymgysylltu â defnyddwyr), sy’n is o lawer na phrisiau band eang rhestredig traddodiadol ac sy’n dod o restrau tariffau cymdeithasol Ofcom [footnote 73]. Rydym yn nodi aelwydydd cymwys drwy gyfuno gwybodaeth am fand economaidd-gymdeithasol o adroddiad[footnote 74] Prifysgol Caerwysg â data cymhwysedd o atodiad ymchwil defnyddwyr Ofcom.

Costau band eang i aelwydydd heb fand eang neu fand eang sy’n gallu delio ag IPTV

Cyfnod Gwerthuso (2026-2044) Opsiwn 1: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2034 Opsiwn 1: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2034 Opsiwn 1: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2034 Opsiwn 2: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2044 Opsiwn 2: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2044 Opsiwn 2: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2044
Senario Isel Canol Uchel Isel Canol Uchel
Prisiau 2026 £2,500m £2,300m £2,200m £400m £360m £330m
Prisiau 2026, Gwerth Presennol £1,700m £1,600m £1,500m £220m £200m £180m

Mae’r ffigurau terfynol wedi cael eu talgrynnu i 2 ffigur ystyrlon

D) Costau dyfais IPTV i aelwydydd heb ddyfeisiau sy’n gallu delio ag IPTV

Rydym yn amcangyfrif yn ofalus nad oes gan yr holl aelwydydd heb IPTV ar adeg unrhyw newid (gweler Ffigur 2) ddyfais sy’n gallu delio ag IPTV ac felly bydd angen un arnyn nhw er mwyn cael gafael ar IPTV. Fe wnaethom seilio ein cyfrifiadau ar y pris gwreiddiol o £69.99 ar gyfer dyfais Freely cyn bod galw mawr am hyn, ac yn sgil prinder darnau ar draws y byd, arweiniodd hyn at £20 o gynnydd [footnote 75]. Rydym wedi defnyddio’r waelodlin hon yn hytrach na chyfartaledd marchnad ar y dybiaeth y bydd defnyddwyr sy’n newid technoleg yn debygol o chwilio am yr opsiwn mwyaf cost-effeithiol, ac y bydd cost y dechnoleg hon yn gostwng dros amser. Rydym yn tybio yn y senario Canol fod prisiau’n aros yr un fath ag y maen nhw ar hyn o bryd mewn termau real. Fodd bynnag, er mwyn ystyried newidiadau posibl mewn prisiau, rydym yn tybio yn y senario Isel fod cost band eang yn cynyddu 20% dros y cyfnod gwerthuso, ac ar gyfer y senario Uchel, mae cost band eang, ar y llaw arall, yn gostwng 20% dros y cyfnod hwn.

Costau dyfais IPTV i aelwydydd heb ddyfeisiau sy’n gallu delio ag IPTV

Cyfnod Gwerthuso (2026-2044) Opsiwn 1: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2034 Opsiwn 1: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2034 Opsiwn 1: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2034 Opsiwn 2: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2044 Opsiwn 2: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2044 Opsiwn 2: Newid dan reolaeth i IPTV erbyn 2044
Senario Isel Canol Uchel Isel Canol Uchel
Prisiau 2026 £160m £150m £140m £44m £37m £30m
Prisiau 2026, Gwerth Presennol £130m £125m £120m £25m £21m £17m

Mae’r ffigurau terfynol wedi cael eu talgrynnu i 2 ffigur ystyrlon

E) Costau rhaglen gyfathrebu

Amcangyfrifwyd costau’r rhaglen gyfathrebu drwy gynyddu gwariant arfaethedig Digital UK ar gyfer yr ymgyrch gyfathrebu ynghylch y newid i deledu digidol i brisiau 2026, gydag amcangyfrif o gostau postio wedi’u diweddaru o gost llythyrau a anfonwyd ar gyfer arolygon y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Yn y ddau opsiwn, mae’r rhaglen gyfathrebu yn cael ei rhoi ar waith, ond ar wahanol adegau i adlewyrchu’r gwahaniaeth yn nyddiad y newid. Ar gyfer y senario Canol ac Uchel, mae hyn yn cyfrif am hysbysebu ar y teledu, ar y radio ac yn y wasg; canolfan alwadau a gwefan; cynllunio a chynhyrchu; postio ar lefel ranbarthol; cymorth masnach; ymchwil a thracio; costau gweinyddol; yn ogystal â chostau gweithredol cychwyn sefydliad (hynny yw, fel Digital UK) i redeg y rhaglen gyfathrebu. Ar gyfer y senario Isel, mae’r rhestr hon wedi’i chyfyngu i hysbysebu ar y teledu, ar y radio ac yn y wasg yn unig; postio ar lefel ranbarthol; a chostau gweinyddol rhedeg y ddwy elfen hyn.

Rhaglen Gyfathrebu (er enghraifft, ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd, cymorth i ddefnyddwyr, a hyfforddiant sgiliau)

Cyfnod Gwerthuso (2026-2044) Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044
Senario Isel Canol Uchel Isel Canol Uchel
Prisiau 2026 £490m £490m £270m £490m £490m £270m
Prisiau 2026, Gwerth Presennol £410m £410m £230m £290m £290m £160m

Mae’r ffigurau terfynol wedi cael eu talgrynnu i ddau ffigur ystyrlon

F) Costau seilwaith DTT

Gan mai dim ond ar gyfer Opsiwn 2 (newid i IPTV yn 2044 gyda 10 mlynedd o rywfaint o seilwaith DTT ar ôl rhwng 2034-2044) y mae’r costau seilwaith DTT a ystyrir isod yn berthnasol, dim ond costau a buddion ar gyfer yr opsiwn hwn rydym wedi’u darparu. Mae’r costau’n cael eu sbarduno’n bennaf gan y taliadau blynyddol y mae gweithredwyr amlblecs yn eu talu i ddefnyddio’r seilwaith DTT sy’n werth tua £820m ar hyn o bryd dros y cyfnod gwerthuso [footnote 76]. Fodd bynnag, mae Arqiva yn amcangyfrif y gallai diffodd DTT ar ddiwedd 2034 olygu y bydd cost gwasanaethau radio yn cynyddu o’i gymharu â’r sefyllfa os bydd DTT yn parhau hyd at  2045, gan arwain at ‘arbedion costau radio’ (hynny yw, budd) o tua £160m yn Opsiwn 2 [footnote 77]. Mae’r cynnydd hwn wedi’i wasgaru ar draws gwasanaethau radio masnachol a gwasanaethau parhaus y BBC, gyda’r effaith yn amrywio ar sail i ba raddau y mae’r gwasanaeth radio yn rhannu safleoedd â DTT ar hyn o bryd. Mae’r gwaith modelu’n ystyried amcangyfrif uchel o’r gwariant cyfalaf a ragwelir sydd ei angen i ymestyn oes gwasanaethau radio ac mae’n cynnwys amcangyfrif o gostau pŵer.

Hefyd, mae Arqiva yn amcangyfrif y gallai rhaglen clirio 600 MHz gostio tua £260m ar sail methodoleg a dull tebyg a’r hyn a ddysgwyd o ddigwyddiadau clirio eraill, gan gynnwys clirio 700 MHz a newid i’r digidol [footnote 78]. Mae’r rhaglen sydd wedi’i hamcangyfrif yn cynnwys y gwaith technegol angenrheidiol sy’n cynnwys gwaith technegol y brif orsaf a’r orsaf drosglwyddo, gan gynnwys trosglwyddyddion, a chynllunio parhad gwasanaeth, gwaith newid, llafur, a chynllunio wrth gefn. Nid yw’n cynnwys unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â rheoli neu gyfathrebu â gwylwyr neu ddelio ag unrhyw broblemau ymyriant a allai godi.

Nid ydym wedi cynhyrchu senarios Uchel ac Isel ar gyfer yr effaith hon, gan fod y ffigurau hyn yn cael eu dyfynnu gan Arqiva, ac nid yw’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn rhan o drafodaethau rhwng Arqiva a defnyddwyr masnachol y rhwydwaith mastiau DTT. Byddai’r holl ffigurau hyn yn amodol ar drafodaethau angenrheidiol a gallent newid.

Costau Rhwydwaith Blynyddol DTT (costau y mae gweithredwyr amlblecs yn eu talu i ddarparwr seilwaith)

Cyfnod Gwerthuso (2026-2044) Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044
Senario Isel Canol Uchel Isel Canol Uchel
Prisiau 2026 Amh £0m Amh Amh £1,300m Amh
Prisiau 2026, Gwerth Presennol Amh £0m Amh Amh £820m Amh

Mae’r ffigurau terfynol wedi cael eu talgrynnu i 2 ffigur ystyrlon

Arbedion Costau Radio DTT (Budd)

Cyfnod Gwerthuso (2026-2044) Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044
Senario Isel Canol Uchel Isel Canol Uchel
Prisiau 2026 Amh £0m Amh Amh £250m Amh
Prisiau 2026, Gwerth Presennol Amh £0m Amh Amh £160m Amh

Mae’r ffigurau terfynol wedi cael eu talgrynnu i 2 ffigur ystyrlon

Costau Rhaglen Clirio 600MHz DTT (trawsyryddion ac antenau newydd, costau llafur, ac ati)

Cyfnod Gwerthuso (2026-2044) Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044
Senario Isel Canol Uchel Isel Canol Uchel
Prisiau 2026 Amh £0m Amh Amh £310m Amh
Prisiau 2026, Gwerth Presennol Amh £0m Amh Amh £260m Amh

Mae’r ffigurau terfynol wedi cael eu talgrynnu i 2 ffigur ystyrlon

G) Defnydd PSM amgen o gyllid DTT

Yn Opsiwn 1 (newid i IPTV yn 2034) ni fyddai cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn talu ffioedd DTT, ac Opsiwn 2 (newid i IPTV yn 2044), bydden nhw’n talu llai o ffioedd DTT. Felly, un effaith allweddol heb ei mesur yw cost cyfle o ran sut gallai cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus wario’r cyllid mewn modd arall, yn enwedig yn Opsiwn 1 lle nad oes ffioedd DTT. Gallai cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus fancio arbedion i ailfuddsoddi yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau presennol o dan bwysau cyllido cyfyngedig a chefnogi’r gwasanaethau hynny. Neu, gallen nhw ddefnyddio’r refeniw cyfatebol ar gyfer cynnwys ac arloesi, a allai arwain at fanteision sylweddol i bob cynulleidfa a’r sector cyfryngau yn y DU, gan hyrwyddo allforion a thwf yn eu tro. 

Fel rhyw fath o ffigur i ddangos, mae dadansoddiad y BBC a baratowyd gyda chymorth gan EY yn dangos am bob £1 y mae’r BBC yn ei hychwanegu’n uniongyrchol at yr economi [gwerth ychwanegol gros uniongyrchol], mae £3.55 yn cael ei gynhyrchu yn economi’r DU drwyddi draw [gwerth ychwanegol gros anuniongyrchol ac wedi’i gymell][footnote 79]. Mae cynnwys PSM yn bwysig hefyd ar gyfer dod â’r wlad at ei gilydd a hyrwyddo gwerthoedd cyffredin.

H) Effaith rhyddhau’r bandiau sbectrwm 600 MHz a 500 MHz

Comisiynodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg adroddiad ar y cyd gan Analysys-Mason a DotEcon. Nod yr adroddiad oedd ceisio gweld beth oedd gwerth y sbectrwm amledd uchel iawn (UHF) sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan DTT (470-694 MHz) pe bai rhywfaint neu’r cyfan yn cael ei ryddhau i’w ddefnyddio gan amrywiaeth o wasanaethau amgen tebygol. At y dibenion hyn, mae’r sbectrwm UHF a ddefnyddir gan DTT wedi’i rannu’n ddau fand, band 500 MHz, sy’n cwmpasu 470 MHz i 614 MHz, a band 600 MHz, sy’n cwmpasu 614 MHz i 694 MHz. Nid yw’r dadansoddiad hwn yn awgrymu bod unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud ynghylch defnyddio’r band UHF yn y dyfodol. Ofcom sy’n gyfrifol am reoli’r sbectrwm yn y DU, gan gynnwys penderfyniadau yn y dyfodol ar ddyrannu bandiau gwahanol.

Roedd yr opsiynau o ran rhyddhau sbectrwm DTT yn cynnwys:

i) Rhyddhau’r holl sbectrwm UHF (y bandiau 500 MHz a 600 MHz) yn 2035
ii) Rhyddhau’r band 600 MHz yn 2035 a’r band 500 MHz yn 2045
iii) Rhyddhau’r band 600 MHz a rhan o’r band 500 MHz nad yw’n cael ei gadw ar gyfer DTT yn 2035

Mae’r opsiwn cyntaf ar gyfer rhyddhau sbectrwm yn cyfateb i newid i ddarpariaeth IPTV yn llawn yn 2034. Mae’r ail ddewis yn cyfateb i gynllun uwchraddio ar gyfer trefniant amlblecs DTT, drwy gyflwyno technolegau trawsyrru mwy effeithlon, lle byddai’r chwe amlblecs DTT cenedlaethol presennol yn cael eu lleihau i set lai (o dri) i ddarparu’r un gwasanaethau teledu. Felly, byddai modd ad-drefnu’r amleddau a ddefnyddir mewn trosglwyddyddion DTT i ryddhau’r band 600 MHz. 

Roedd y gwasanaethau eraill a ystyriwyd yn cynnwys:

1. Gwasanaethau telegyfathrebu symudol (ffonau symudol/gwasanaethau data)
2. Gwneud Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig (PMSE), hynny yw radiomicroffonau sain, dyfeisiau ‘talkback’ ac ati
3. Gwasanaethau cyfleustodau rhwydweithiau ynni (hynny yw, cyfathrebu di-wifr i gefnogi rhwydweithiau nwy/trydan/dŵr)
4. Rhwydweithiau’r Gwasanaethau Brys (ESN)
5. Gwasanaethau trafnidiaeth (gwasanaethau di-wifr sy’n cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus a mathau eraill o drafnidiaeth)

Canfuwyd bod y sbectrwm UHF o fudd penodol i wasanaethau telegyfathrebu symudol er mwyn cynyddu capasiti’r rhwydwaith a gwella’r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig ac mewn adeiladau. Disgwylir i hyn arwain at brofiad llawer gwell i ddefnyddwyr, yn enwedig drwy sicrhau cysylltedd mwy sefydlog wrth deithio a mynediad mwy dibynadwy os bydd eu band eang sefydlog yn methu neu os nad yw ar gael.

Mae PMSE yn ddefnyddiwr presennol sy’n rhannu’r sbectrwm yn helaeth â DTT, ac mae’n cael ei ddefnyddio i gefnogi gwyliau a digwyddiadau cerddoriaeth, cynhyrchu rhaglenni sy’n cael eu darlledu, a chynyrchiadau theatr. Mae gan y gwasanaethau Cyfleustodau, ESN, a Thrafnidiaeth opsiynau sbectrwm eraill ar gael yn lle defnyddio UHF, er y byddai sbectrwm UHF yn darparu rhagor o opsiynau a manteision y tu hwnt i’r bandiau eraill y gallen nhw eu defnyddio.

Arbedion cost posibl i weithredwyr rhwydweithiau symudol

Ar gyfer gwasanaethau telegyfathrebu symudol, dangosodd yr astudiaeth, mewn senario sicrhau’r arbedion mwyaf mewn costau, sy’n mesur y buddion, rhwng 2035 a 2055, y byddai swmp (hynny yw, £3.1 biliwn) y gwerth [footnote 80] i weithredwyr rhwydweithiau symudol (MNO) yn cael ei ddarparu drwy ryddhau’r band 600 MHz yn 2035 a’r sbectrwm 500 MHz yn 2045 (hynny yw, opsiwn 2 uchod ar gyfer rhyddhau). Byddai tua £400m ychwanegol o werth yn cael ei ddarparu drwy ddod â’r broses rhyddhau 500 MHz ymlaen i 2035 (hynny yw, gyda newid llawn i IPTV yn 2035), ond roedd y gwerth ychwanegol hwn yn ddibynnol iawn ar ecosystem symudol yn datblygu yn y band 500 MHz o 2035 ymlaen.

Addasodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y dadansoddiad o’r adroddiad hwn i gyfrifo senarios addas at ddibenion ein Dadansoddiad Cost a Budd. Rydym wedi gwneud un newid sylfaenol o’i gymharu ag adroddiad Analysys Mason a DotEcon. Mae’r adroddiad yn defnyddio senario ‘sicrhau’r arbedion mwyaf mewn costau’ ar gyfer pob opsiwn fel ei brif senario. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio hyn fel y senario Uchel i adlewyrchu efallai na fydd gweithredwyr rhwydweithiau symudol [footnote 81] yn caffael yr holl sbectrwm sydd ar gael yn y ffordd orau bosibl i bawb. I’r gwrthwyneb, ar gyfer y senario Isel, fe wnaethom nodi’r senario ‘sicrhau’r arbedion lleiaf mewn costau’ lle mae’r arbedion lleiaf o ran costau’n cael eu gwneud ar yr un pryd â dyrannu’r sbectrwm cyfan ymysg y gweithredwyr rhwydweithiau symudol. Yn olaf ar gyfer y senario canol, fe wnaethom ddefnyddio dull cymesur, gan rannu bandiau’r sbectrwm yn gyfartal rhwng y gweithredwyr rhwydweithiau symudol, gyda rhywfaint o ffafriaeth tuag at y gweithredwr rhwydwaith symudol a gafodd y gwerth mwyaf o’r sbectrwm pan nad oedd swm cyfartal i’w ddosbarthu. 

Yn hytrach na defnyddio’r ffactor disgownt cymdeithasol o 3.5% a ddefnyddir yn y Llyfr Gwyrdd, fe wnaethom ddefnyddio argymhelliad Analysys Mason a DotEcon o gost cyfalaf gyfartalog wedi’i phwysoli ar 7.2% (WACC) fel y gyfradd ddisgownt.  Byddwn yn archwilio’r cyfraddau disgownt hyn ymhellach mewn dadansoddiadau yn y dyfodol.

Arbedion cost posibl i weithredwyr rhwydweithiau symudol (drwy ryddhau sbectrwm)

Cyfnod Gwerthuso (2026-2054) Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 1: Newid i IPTV yn 2034 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044 Opsiwn 2: Newid i IPTV yn 2044
Senario Isel Canol Uchel Isel Canol Uchel
Prisiau 2026 £14,200m £15,100m £15,900m £12,800m £14,100m £14,800m
Prisiau 2026, Gwerth Presennol £3,300m £3,500m £3,600m £2,800m £3,100m £3,200m

Mae’r ffigurau terfynol wedi cael eu talgrynnu i 2 ffigur ystyrlon (neu 3 ffigur ystyrlon ar gyfer prisiau 2026)

Mae canlyniad y dadansoddiad hwn sydd wedi’i addasu yn dangos, ar gyfer y senario Canol rydym yn ei ystyried, fod arbedion cost posibl i weithredwyr rhwydwaith symudol drwy ryddhau sbectrwm yn Opsiwn 1 (newid i IPTV yn 2034) yn fwy (tua £400m mewn Gwerth Presennol) nag yn Opsiwn 2 (newid i IPTV yn 2044). 

Ar ben hynny, mae costau tebygol clirio DTT o’r band 600 MHz yn 2035 (drwy leihau nifer yr amlblecsau DTT i dri a gwneud newidiadau i amledd trawsyryddion DTT) yn debygol o fod ynllawer llai na’r buddion i weithredwyr rhwydweithiau symudol. Mae hyn yn awgrymu y byddai’n werth ymrwymo i glirio’r band 600 MHz yn 2035 pe bai DTT yn parhau tan 2044.

Gwneud Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig (PMSE)

Ar hyn o bryd, mae PMSE yn defnyddio llawer iawn o’r bandiau 500 MHz a 600 MHz, gan rannu â DTT, ac mae’n darparu gwerth sylweddol i’r diwydiannau creadigol. Mae’r defnydd wedi’i ganoli mewn lleoliadau daearyddol penodol, er enghraifft, theatrau a stiwdios, ac mewn rhai lleoliadau gall fod wedi’i gyfyngu i gyfnodau o 1-2 wythnos yn ystod y flwyddyn, fel gwyliau cerddoriaeth.

Yn astudiaeth Analysys-Mason a DotEcon nodwyd yr heriau i PMSE pe bai DTT yn cael ei glirio o’r band 600 MHz a bod y band hwnnw’n cael ei ailddyrannu i wasanaethau symudol, a hefyd pe bai DTT yn cael ei ddiffodd yn gyfan gwbl. Nododd yr astudiaeth hefyd fandiau eraill y gallai PMSE sain eu defnyddio o dan y senarios clirio DTT hyn. Ar ben hynny, roedd yr astudiaeth yn cydnabod y twf cyson yn y galw am amleddau ar gyfer PMSE, a sut gallai newidiadau mewn technoleg helpu i gefnogi’r galw cynyddol hwn. Hefyd, fe wnaeth yr astudiaeth ystyried yn gryno gyfleoedd rhannu rhwng gwasanaethau symudol a PMSE, a oedd ond yn cael ei ystyried yn bosibl gydag amodau a chyfyngiadau penodol i sicrhau cydfodolaeth ddiogel heb ymyriant niweidiol.

Mae gan lawer o’r bandiau eraill gyfyngiadau, fel diffyg offer ar gael (os nad yw’r bandiau hynny’n cael eu cysoni i’w defnyddio mewn gwledydd eraill), lefelau uwch o ymyriant, neu flociau cymharol fach o sbectrwm ar gael. Mae’r bloc amgen mwyaf o sbectrwm ychwanegol sydd ar gael i PMSE yn y band 960-1164 Mhz, a gafodd ei wneud ar gael yn y DU yn flaenorol i wneud iawn am golli’r band 700 MHz i wasanaethau symudol. Mae’r defnydd o’r band hwnnw wedi dechrau cynyddu er bod llai o offer ar gael ar hyn o bryd nag yn y band UHF gan nad yw gwledydd eraill wedi ymrwymo eto i ddefnyddio’r band hwnnw ar gyfer PMSE.

Mae Ofcom wedi cyhoeddi Cais am Wybodaeth, a chredwn y dylai ymatebion i hyn ac unrhyw waith posibl yn y dyfodol allu creu darlun cliriach o anghenion y sector a’r opsiynau priodol ar gyfer mynediad priodol at sbectrwm.

Cyfleustodau, Rhwydwaith y Gwasanaethau Brys, a Thrafnidiaeth

Pan nodir mai sbectrwm penodol yw’r ateb mwyaf priodol ar gyfer y sectorau hyn, disgwylir i’r swm sydd ei angen fod yn sylweddol llai na’r sbectrwm sydd ei angen i ddiwallu anghenion y sectorau gwasanaethau symudol neu PMSE. Felly, mae’n bosibl y gellid diwallu hyn drwy ddefnyddio dyraniad bach yn y band 500 MHz. Byddai hyn yn amodol ar unrhyw benderfyniad a wneir ynghylch y band 500 MHz ac unrhyw waith gan Ofcom yn y dyfodol ar y defnydd gorau posibl o sbectrwm.

I) Y manteision o ran cynhwysiant digidol

Mae pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn aml yn wynebu canlyniadau gwaeth na’r rheini nad ydyn nhw wedi’u hallgáu: maen nhw’n talu mwy am bethau hanfodol (mae ymchwil yn dangos bod y rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn gallu talu hyd at 25%[footnote 82] yn fwy am hanfodion fel yswiriant cartref, teithio ar drenau, a bwyd); yn cael mwy o anhawster ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus; ac yn profi canlyniadau gwaeth o ran cyflogaeth (mae’r rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol ddwy neu dair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith [footnote 83], ac mae’r rheini sydd â sgiliau digidol gwael yn ennill 3-9% yn llai). Mae canlyniadau’n dangos yn gyson fod gwella hyder a gallu yn y byd digidol yn arwain at fanteision unigol ac ariannol, yn enwedig pan fydd cymorth wedi’i amseru’n dda ac wedi’i seilio ar anghenion bob dydd pobl. 

Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg wedi cynnal asesiad cychwynnol o fanteision posibl y pecyn cymorth ar gyfer cynhwysiant digidol. Mae hyn wedi cael ei fodelu ar sail y senario o gefnogi unigolion sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i ennill Sgiliau Digidol Hanfodol mewn Bywyd (y rheini sydd eu hangen er mwyn bod yn hyfedr yn ddigidol mewn bywyd o ddydd i ddydd, gan gynnwys creu a defnyddio cyfrifon ar-lein, a bod yn ddiogel ar-lein). Mae’r dadansoddiad yn defnyddio’r ymchwil economaidd yn adroddiad Good Things Foundation ar fanteision cynhwysiant digidol [footnote 84], ac mae’n defnyddio data poblogaeth i gyfrif am nodweddion demograffig pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol (yn fwy tebygol o fod yn hŷn, yn ddi-waith, ac ag anabledd). Mae’r manteision hyn yn cael eu disgrifio yn Nhabl 1 isod. 

Mae dadansoddiad cychwynnol yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg o’r manteision hyn wedi canfod, yn y senario canol, y gallai model y pecyn cymorth ar gyfer cynhwysiant digidol arwain at fudd o tua £2,314 fesul unigolyn sy’n cael cymorth dros 10 mlynedd (prisiau 2026, wedi’u disgowntio), yn dibynnu at ba lefel y caiff y sgiliau digidol hyn eu mabwysiadu. Ac ystyried y dystiolaeth sydd gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg am gost darparu cymorth arall ar gyfer cynhwysiant digidol, rydym yn hyderus y bydd hyn yn costio llai na hyn, ar gyfartaledd, i gefnogi unigolyn sydd wedi’i eithrio’n ddigidol i ennill Sgiliau Digidol Hanfodol mewn Bywyd, ac felly disgwylir i becyn cymorth ar gyfer cynhwysiant digidol ddangos gwerth am arian. Nid yw’r dadansoddiad hwn wedi’i gynnwys yn y tabl dadansoddi effeithiau meintiol (cost a budd), a bydd yn parhau i gael ei ddatblygu wrth i unrhyw becyn cymorth gael ei lunio ac wrth i ragor o dystiolaeth ddod i’r fei. Er nad ydym eto wedi rhoi gwerth ariannol ar fanteision cynhwysiant digidol o ganlyniad i’r newid cynharach yn Opsiwn 1, byddem yn disgwyl i’r manteision hyn fod yn fwy yn yr opsiwn hwn. 

Mae’n debygol y bydd cryn orgyffwrdd rhwng y rheini sydd wedi’u heithrio’n ddigidol a’r rheini sy’n gwylio DTT yn unig. Canfu Adroddiad Prifysgol Caerwysg fod 92% o aelwydydd sy’n dibynnu ar DTT heb fand eang dros 55 oed, bod 58% yn dod o’r ddau fand economaidd-gymdeithasol isaf, a bod 41% yn bobl ag anabledd [footnote 85]. Mae amrywiaeth eang o dystiolaeth sy’n dangos sut mae cynhwysiant digidol ehangach yn sbarduno manteision personol ac ehangach.

Tabl 1: Asesiad o’r Manteision Posibl yn ôl Categori

1. Manteision unigol

Mantais Asesiad ansoddol a pha mor berthnasol yw
Cynnydd mewn enillion Effaith fach. Erbyn y newid (2034), bydd cyfran sylweddol o’r aelwydydd DTT yn unig yn 65 oed a hŷn ac yn llai gweithredol yn y farchnad lafur.
Gwella canlyniadau cyflogaeth Effaith fach. Yn yr un modd, oherwydd y gyfran sylweddol o unigolion 65 oed a hŷn.
Mwy o arbedion i ddefnyddwyr (er enghraifft, gwell gwybodaeth/osgoi sgamiau) Yn berthnasol ond gyda chafeatau. Nid yw cynhwysiant digidol yn golygu’n awtomatig y bydd y demograffig hŷn hwn yn gallu deall mwy yn y byd digidol; gallai mynediad i’r rhyngrwyd gynyddu’r risg o sgamiau yn hytrach na’i leihau. Fodd bynnag, mae Manteision trafodiadau manwerthu yn berthnasol. Er bod gwerth cyfartalog trafodion ar-lein yn llai ar gyfer pobl 65 oed a hŷn, disgwylir i’r grŵp hwn sbarduno mwy na thri chwarter yr enillion cyffredinol oherwydd bod nifer uchel ohonyn nhw ymysg y rheini sy’n cael eu “huwchsgilio[footnote 86]. Canfu ymchwil gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol yn 2023 fod y rheini nad ydyn nhw ar-lein yn talu premiwm yn aml am gynnyrch a gwasanaethau bob dydd.[footnote 87]
Arbed amser Perthnasol. Wrth gynnal trafodion personol ar-lein, disgwylir i hyn arbed amser ac mae’n cael ei ystyried yn fudd o ran llesiant, gan roi mwy o amser i unigolion fwynhau gweithgareddau pleserus. Mae ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos cynnydd mewn mynediad i’r rhyngrwyd a siopa ar-lein ymysg oedolion 65 oed a hŷn.[footnote 88]
Llesiant gwell Perthnasol. Mae allgáu digidol yn gysylltiedig â sgoriau llesiant is (0.8–0.9 pwynt yn is ar raddfa 10 pwynt). Wrth gysylltu’r grŵp hwn, disgwylir i hyn liniaru’r diffyg hwn sy’n gysylltiedig ag allgáu. [footnote 89]

2. Manteision busnes

Mantais Asesiad ansoddol a pha mor berthnasol yw
Arbedion corfforaethol wrth i swyddi gwag gael eu llenwi Effaith fach. Bydd y grwpiau demograffig sy’n cael eu cynnwys yn ddigidol (65 oed a hŷn yn bennaf) yn llai gweithgar yn y farchnad lafur i raddau helaeth.

3. Manteision i’r llywodraeth

Mantais Asesiad ansoddol a pha mor berthnasol yw
Arbedion effeithlonrwydd i’r llywodraeth Perthnasol. Mae’r fantais hon yn gysylltiedig â’r cynnydd a ddisgwylir yn y nifer sy’n defnyddio gwasanaethau trafodion y llywodraeth ar-lein o ganlyniad i gynhwysiant digidol. Gan dybio bod nifer o oedolion yn uwchsgilio ac yn defnyddio’r gwasanaethau hyn, mae hwn yn arbediad ariannol y gellir ei wireddu i lywodraeth y DU.[footnote 90]
Refeniw gwell y llywodraeth Effaith fach. Mae’r fantais hon yn dibynnu ar fwy o enillion a chyflogaeth, sy’n llai perthnasol wrth ystyried cyfansoddiad demograffig y rheini sy’n cael eu huwchsgilio’n ddigidol.

4. Manteision eraill

Mantais Asesiad ansoddol a pha mor berthnasol yw
Lleihau’r galw am ymgynghoriadau meddygon teulu y gellir eu hosgoi Perthnasol. Mae hwn yn fantais mae modd ei mesur sy’n gysylltiedig â gwerth ariannol llai o apwyntiadau meddygon teulu drwy uwchsgilio.[footnote 91]
Manteision amgylcheddol Yn berthnasol ond gyda chafeatau. Mae manteision amgylcheddol sy’n seiliedig ar y tybiaethau bod mwy yn gweithio gartref yn llai perthnasol i ddemograffeg sy’n llai gweithredol yn y farchnad lafur. Fodd bynnag, gallai’r manteision amgylcheddol wrth i ddefnyddwyr symud i brynu ar-lein; defnyddio GOV.UK a phyrth lleol i leihau effaith cynhyrchu a dosbarthu dogfennau ffisegol ar yr amgylchedd; a lleihau llygredd teithio drwy alluogi mynediad at ofal iechyd a gwasanaethau’r llywodraeth drwy ddyfeisiau wedi’u cysylltu yn hytrach na chymudo ffisegol, i gyd fod yn berthnasol.

Mae’r manteision i unigolion wrth newid i IPTV yn trosi nodweddion yn ganlyniadau cymdeithasol ar draws tair colofn: 

1. Cynhwysiant cymdeithasol (llesiant)

Mae allgáu digidol yn gysylltiedig â 0.8 i 0.9 pwynt o ddiffyg ar raddfa llesiant 10 pwynt [footnote 92]. Gallai defnyddio band eang liniaru’r diffyg hwn drwy hwyluso cysylltiad cymdeithasol a chael gafael ar wasanaethau hanfodol. I drigolion ardaloedd gwledig, cael gwared ar ynysu daearyddol yw’r fantais o ran cynhwysiant. Mae cysylltiadau band eang yn galluogi modelau cymorth o bell, lle gall gofalwyr neu deulu helpu i osod dyfeisiau a datrys problemau o bell, gan leihau’r teimlad o gael eu “gadael ar ôl” mewn cymdeithas ddigidol yn gyntaf. Mae ymchwil a gomisiynwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn dangos bod teledu yn gallu cynnig cwmnïaeth i bobl sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol [footnote 93]. Gall IPTV fynd i’r afael â hyn drwy ddarparu cynnwys sy’n benodol yn ddiwylliannol ac yn lleol dros ben (er enghraifft, sianeli rhyngwladol neu sianeli ffydd) mewn ffordd na all DTT ei wneud. Ar ben hynny, mae lled band uwch band eang yn caniatáu cymorth o bell ar gyfer gosod setiau teledu a datrys problemau, sy’n gallu bod yn hanfodol ar gyfer cynnal cysylltiad cymdeithasol.

2. Cynhwysiant economaidd 

Mae’r “cynhwysiant economaidd” wrth ddefnyddio band eang a newid i IPTV i’w deimlo’n bennaf drwy’r amser sy’n cael ei arbed a’r arbedion manwerthu yn hytrach na thrwy gyflogaeth, gan fod 92% o’r grŵp targed dros 55 oed yn 2023, felly mae cyfran debyg yn debygol o fod yn 65 oed a hŷn erbyn 2034. Felly, bydd manteision sy’n gysylltiedig ag enillion, canlyniadau cyflogaeth, neu arbedion o ran swyddi gwag corfforaethol yn cael llai o effaith oherwydd bydd llai o fanteision sy’n gysylltiedig â chyflogaeth i’r grŵp 65 oed a hŷn. Fodd bynnag, bydd rhai effeithiau cyflogaeth i’r grŵp oedran hwn o hyd: roedd tua 1.5m dros 65 oed mewn gwaith yn 2022 yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol; bydd yr oedran ymddeol yn 67 erbyn 2034; ac efallai y bydd y grŵp hwn yn dal i wirfoddoli a gwneud gwaith di-dâl.

Fodd bynnag, mae manteision i’w cael o drafodion manwerthu, gan fod y rheini “nad ydyn nhw ar-lein” yn talu “premiwm tlodi” yn aml ar gyfer cynnyrch [footnote 94]. Wrth gysylltu â band eang, gall hyn uwchsgilio defnyddwyr i gael gafael ar arbedion ar-lein, sy’n arwyddocaol wrth ystyried amlygrwydd demograffig y grŵp 65 a hŷn. Ar ben hynny, mae trafodion personol ar-lein yn darparu budd o ran llesiant drwy arbed amser, gan ganiatáu mwy o amser ar gyfer gweithgareddau pleserus. Un cafeat yma yw y gallai mwy o fynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer y grŵp demograffig hwn gynyddu’r risg o sgamiau os nad yw lefel y ddealltwriaeth o fyd digidol yn cyd-fynd â’r mynediad i fyd technegol.

3. Cynhwysiant gweithredol (Hygyrchedd) 

Rhwystr presennol rhag cynhwysiant digidol yw hygyrchedd gwybyddol, gan fod llawer o ddefnyddwyr hŷn yn teimlo bod DTT yn gyfarwydd ac yn ddiogel. Ar ben hynny, nid yw symud i IPTV yn gwella sgiliau digidol yn reddfol. I unigolion hŷn heb lawer o hyder digidol, mae angen cymorth strwythuredig i oresgyn y rhwystr hwn. Mae darbwyllo’r defnyddwyr hyn i newid yn gofyn am ryngwynebau defnyddiwr sy’n dyblygu’r profiad “byw yn gyntaf”. Drwy ddarparu rhyngwyneb (fel Freely) sy’n adlewyrchu’r camau llywio cyfarwydd ar DTT wrth ddefnyddio darpariaeth rhyngrwyd, mae defnyddwyr yn cael eu cyflwyno’n raddol i fyd digidol drwy reolyddion teledu cyfarwydd. Mae hyn yn lleihau’r rhwystr gwybyddol i offer digidol drwy eu gwneud yn rhan annatod o arferion dyddiol maen nhw eisoes yn eu gwerthfawrogi, wrth wylio’r teledu. Mae ychwanegu nodweddion sy’n cael eu sbarduno gan ddeallusrwydd artiffisial, fel disgrifiadau sain mwy manwl a llywio dan reolaeth llais, yn caniatáu i ddefnyddwyr sydd ag amhariad gweledol neu gorfforol gael gafael ar gynnwys mewn ffordd a oedd yn dechnegol amhosibl ar DTT â lled band cyfyngedig.

Gallai newid dan reolaeth i IPTV, gyda phecyn cymorth cysylltiedig, hefyd greu rhagor o fanteision i effeithlonrwydd y llywodraeth neu’r amgylchedd gan ganiatáu i aelwydydd gael gafael ar wasanaethau digidol:

1. Effeithlonrwydd i’r Llywodraeth:

Un o brif elfennau’r “difidend digidol” hwn yw bod llai o alw am ymgynghoriadau meddygon teulu mae modd eu hosgoi, gan fod uwchsgilio digidol yn caniatáu i garfannau hŷn a charfannau agored i niwed reoli ceisiadau iechyd drwy ddulliau brysbennu ac ymgynghori mwy effeithlon ar-lein. Ar ben hynny, mae cynyddu’r nifer sy’n defnyddio gwasanaethau trafodion ar-lein yn lleihau’r baich gweinyddol ar adrannau llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol, gan ddarparu arbedion ariannol cyraeddadwy drwy leihau swmp y gwaith prosesu papur a swmp y canolfannau galwadau.

2. Yr Amgylchedd:

Mae newid i IPTV yn gyfle unigryw i sicrhau manteision i’r amgylchedd drwy integreiddio carfannau nad ydyn nhw, yn hanesyddol, wedi bod ar y we yn rhan o’r economi ddigidol. Drwy bontio’r bwlch digidol, mae’r newid hwn yn hwyluso newid o ryngweithio ffisegol i ryngweithio digidol, gan leihau’r ôl troed carbon sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau ffisegol y llywodraeth a gwasanaethau manwerthu traddodiadol. Er nad yw’r manteision amgylcheddol wrth weithio gartref yn debygol o fod yn berthnasol oherwydd proffil demograffig y garfan yr effeithir arni, gellir sicrhau manteision amgylcheddol drwy:

  • Prynu ar-lein: Mae symud defnyddwyr i fod ar-lein yn lleihau’r ddibyniaeth ar storfeydd ffisegol sy’n defnyddio llawer o ynni. 
  • Gwasanaethau digidol y llywodraeth: Mae defnyddio GOV.UK a phyrth lleol yn lleihau effaith cynhyrchu a dosbarthu dogfennau ffisegol ar yr amgylchedd, gan arbed adnoddau a lleihau gwastraff post.
  • Llai o lygredd teithio: Mae galluogi mynediad at ofal iechyd a gwasanaethau’r llywodraeth drwy ddyfeisiau sydd wedi’u cysylltu yn cael gwared ar gymudo ffisegol.

Ystyriaethau eraill ar werthuso manteision cynhwysiant digidol:

Ni ddylid tybio y bydd 100% o’r cartrefi sydd heb fand eang yn cysylltu â’r rhyngrwyd wrth newid i IPTV. Os na fydd hyd yn oed gyfran fach yn cysylltu â’r rhyngrwyd, mae hyn yn creu’r risg o allgáu eilaidd. Hyd yn oed i’r rheini sy’n cysylltu, nid oes sicrwydd y byddan nhw’n ymgysylltu’n ddigidol heblaw am ddefnyddio IPTV. Un cwestiwn allweddol ar gyfer asesu manteision cynhwysiant digidol yw penderfynu faint o’r grŵp hwn fydd yn cael eu cynnwys yn ddigidol wrth newid i IPTV. Ar ben hynny, mae diffyg data manwl ar sut bydd defnyddwyr sydd ag amhariadau gwybyddol neu niwroamrywiaeth yn delio â’r newid o ryngwynebau DTT llinol i ryngwynebau sy’n seiliedig ar apiau.

Felly, er bod y newid i IPTV yn datrys y broblem mynediad ar gyfer y garfan hon, sy’n un o’r rhagofynion ar gyfer cyflawni holl fanteision cynhwysiant digidol, dim ond manteision Cynhwysiant Gweithredol a chynhwysiant cymdeithasol penodol y mae’n eu creu (hynny yw, y rheini sy’n uniongyrchol gysylltiedig â theledu). Er mwyn gwireddu’r manteision economaidd, llywodraeth ac amgylcheddol sylweddol, rhaid defnyddio traws-ddyfeisiau’n llwyddiannus a datblygu sgiliau digidol yn effeithiol

Atodiad D: Llyfryddiaeth

Assessing the value and alternative uses of DTT spectrum for the future of UK TV distribution. Analysys Mason a Dot Econ. Ebrill 2026. 

Dyfarnu sbectrwm 700 MHz a 3.6-3.8 GHz drwy arwerthiant. Ofcom. Tachwedd 2024.

Adroddiad Cysylltu’r Gwledydd y DU 2025. Tachwedd 2025.

Digital Inclusion UK Economic Impact. Good Things Foundation. Gorffennaf 2024.

Future of TV Distribution Stakeholder Forum - cylch gorchwyl. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Tachwedd 2024.

Future of TV Distribution, Adroddiad gan Brifysgol Caerwysg gyda Phrifysgol Leeds, MTM, 3 Reasons a Real Wireless. Hydref 2024.

Dyfodol Dosbarthu Teledu: Early market report to government. Adroddiad a baratowyd gan Ofcom. Mai 2024.

Government Digital Inclusion Action Plan: First Steps. Chwefror 2025.

Government preparations for digital switchover. Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin. Twenty–eighth Report of Session 2007 to 2008.

Identifying challenges and solutions for improving inclusivity and usability in the consumption of internet delivered television. Ofcom. Medi 2025.

Internet access - households and individuals, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Awst 2020.

Is the government doing enough to tackle the impact of digital exclusion on unemployment? – Digital Poverty Alliance. Rhagfyr 2024.

Left Out: Digital Inclusion and the Most Excluded, Y Ganolfan dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Awst 2023.

Memories and Dementia: Starting the Conversation season launches at the BBC. Mawrth 2025. 

Cod Ofcom ar wasanaethau mynediad ar gyfer teledu. Ofcom. Gorffennaf 2024.

Trwyddedau amlblecs DTT Ofcom.

Rhestr Ofcom o ddarparwyr tariffau cymdeithasol

Ofcom, gwasanaethau rhaglenni teledu ac ar-alw:Adroddiad ar wasanaethau mynediad. Rhagfyr 2024.

Gwaith Ofcom ar weithredu’r Ddeddf Cyfryngau 2024.

Pricing and consumer engagement 2025: interactive report. Ofcom. Chwefror 2026.

Amlygrwydd a Hygyrchedd ar Lwyfannau Teledu Cysylltiedig - Ymgynghoriad ar ein Cod Ymarfer drafft a’n Canllawiau drafft ar Amcanion y Cytundeb. Ofcom. Ionawr 2026.
Hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad mewn rhwydweithiau ffeibr:Adolygiad o Fynediad Telegyfathrebiadau 2026 – 2031. Ofcom. Rhagfyr 2025. 

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: canllawiau i awdurdodau cyhoeddus. GOV.UK. Rhagfyr 2023

Adolygiad o’r Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus. Ofcom. Gorffennaf 2025.

Ymateb Sky i ymgynghoriad Ofcom ar ei adroddiad drafft i’r Ysgrifennydd Gwladol. Medi 2025.

Socio Economic Impact of Digital Transition. Mehefin 2025.

Papur fforwm rhanddeiliaid. Universality in future of TV distribution. Ebrill 2026. 

Papur fforwm rhanddeiliaid. Television Usability in the future of TV experience. Ebrill 2026. 

Papur fforwm rhanddeiliaid. IPTV ecosystem readiness. Ebrill 2026. 

Papur fforwm rhanddeiliaid. Television competitiveness and sustainability of PSB ecosystem. Ebrill 2026. 

Stream On: The Future of UK TV:Adroddiad ar gyfer Sky a baratowyd gan Oliver & Ohlbaum Associates Ltd, Ionawr 2026.

Tackling the barriers to financial and digital inclusion. WPI Economics, Rhagfyr 2024.

The connected TV platform market - An update on our work. Ofcom. Rhagfyr 2024.

The Future of TV distribution. Adroddiad a baratowyd gan Revealing Reality. Mawrth 2025.

Argyfwng Darlledu - Dyfodol Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus. Ofcom. Gorffennaf 2025

Up next — the government’s vision for the broadcasting sector. Papur gwyn y llywodraeth. Ebrill 2022.

Rhestr termau

Term Diffiniad ar gyfer y papur hwn
Hygyrchedd I ba raddau y mae pob defnyddiwr, gan gynnwys pobl anabl, yn gallu cael yr un mynediad at gynnyrch neu wasanaeth.
Fforddiadwyedd I ba raddau y gall aelwyd yn rhesymol ddefnyddio a chynnal y band eang, y dyfeisiau a’r cymorth digidol sydd eu hangen i gael gafael ar wasanaethau IPTV heb orfod lleihau gwariant hanfodol mewn mannau eraill.
Cludo Y weithred lle mae darparwr gwasanaeth yn dosbarthu sianel neu signal penodol ar ei system.
Sianel Gwasanaeth teledu llinol neu fyw.
Rhwydweithiau Darparu Cynnwys (CDN) Grŵp o weinyddion (cyfrifiaduron arbenigol) sydd wedi’u dosbarthu’n ddaearyddol sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cynnwys rhyngrwyd i’r defnyddiwr yn gyflym.
Cynhwysiant digidol Sicrhau bod gan bawb fynediad, sgiliau, cefnogaeth a hyder i gymryd rhan yn ein cymdeithas ddigidol fodern ac elwa ohoni, beth bynnag fo’u hamgylchiadau.
Llythrennedd digidol Gallu unigolyn i ganfod, gwerthuso, a chyfleu gwybodaeth yn glir drwy wahanol lwyfannau digidol.
Ecosystem dosbarthu Y rhwydwaith o galedwedd, meddalwedd, llwyfannau, seilwaith, ac endidau sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu teledu i’r defnyddiwr.
Teledu daearol digidol (DTT) Teledu daearol digidol (DTT) yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o dderbyn teledu yn y DU ers newid i’r digidol. Mae cynulleidfaoedd hefyd yn adnabod y gwasanaeth hwn fel Freeview, ac mae’n anfon cynnwys teledu i adeiladau dros sbectrwm radio drwy erial.
Darlledu am ddim Gwasanaethau darlledu mae modd cael gafael arnyn nhw heb danysgrifiad. Er enghraifft, mae’r BBC, ITV, Channel 4 a 5 yn rhai sianeli sy’n darparu cynnwys am ddim.
Cynhwysiant Gweithredol Ystyr Cynhwysiant Gweithredol yw gwneud i’r teledu rhyngrwyd newydd deimlo’n union fel eich hen deledu, yn enwedig i bobl sy’n llai hyderus gyda thechnoleg. Mae’n defnyddio botymau sianel ac amserlenni teledu cyfarwydd, ac mae’n ychwanegu nodweddion newydd, hawdd eu defnyddio fel gwell disgrifiadau sain a rheolyddion llais
Hybrid Llwyfannau sy’n gallu derbyn mwy nag un math o gynnwys wedi’i ddosbarthu. Mae modd cyflawni hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys drwy ryngwyneb defnyddiwr sy’n cyfuno mynediad at DTT ac IPTV, neu fynediad atodol at IPTV, er enghraifft, drwy ‘ffon glyfar’.
Diwydiant Mae’n cyfeirio at yr ecosystem lawn o sefydliadau sy’n dylanwadu ar fforddiadwyedd, hygyrchedd, a’r defnydd o wasanaethau digidol. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: darparwyr gwasanaethau (er enghraifft, telegyfathrebiadau, darlledwyr, a gwasanaethau ffrydio); llwyfannau technoleg a gwneuthurwyr dyfeisiau; darparwyr gwasanaethau ariannol a gwasanaethau talu; manwerthwyr mawr a llwyfannau e-fasnach; darparwyr seilwaith; hysbysebwyr a dosbarthwyr cynnwys; rheoleiddwyr a chyrff cyhoeddus; a sefydliadau sy’n cynrychioli defnyddwyr, cynulleidfaoedd, a grwpiau sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mae hefyd yn cynnwys sectorau nad ydyn nhw’n ystyried yn draddodiadol bod ganddyn nhw rôl o ran fforddiadwyedd, ond y mae eu cynhyrchion, eu prisiau, neu eu modelau busnes yn siapio cost a phrofiad cyffredinol cyfranogiad digidol, yn ogystal â’r rhai a fydd yn elwa o’r newid yn ehangach.
Protocol Rhyngrwyd Set o safonau rhyngwladol sy’n rheoli’r broses o ddosbarthu cynnwys dros y rhyngrwyd mewn ffordd sy’n caniatáu i ddyfeisiau sy’n derbyn gael gafael ar y cynnwys hwnnw mewn ffordd gyson.
Teledu Protocol Rhyngrwyd (IPTV) Mae Teledu Protocol Rhyngrwyd (IPTV) yn gynnwys tebyg i deledu sy’n cael ei ddarparu dros y rhyngrwyd, gan gynnwys gwasanaethau ar-alw a sianeli darlledu byw, er enghraifft mae BBC iPlayer a Freely yn darparu gwasanaethau IPTV am ddim i setiau teledu sy’n gallu delio â’r rhyngrwyd.
Teledu llinol Mae’n cyfeirio at gynnwys sy’n cael ei ddarlledu gan ddilyn amserlen. Mae modd ei wylio naill ai’n fyw (ar yr adeg y mae wedi’i amserlennu) neu mae modd ei ohirio drwy oedi teledu byw neu drwy ddefnyddio dyfais recordio. Nid yw’n cynnwys gwasanaethau ar-alw.
Mbp yr eiliad Mae Mbps yn golygu megadid yr eiliad, sy’n ffordd o fesur pa mor gyflym mae data’n symud drwy eich cysylltiad â’r rhyngrwyd.
Ymwybyddiaeth o’r cyfryngau Ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yw’r gallu i ddefnyddio, i ddeall ac i greu cyfryngau a chyfathrebiadau ar draws nifer o fformatau a gwasanaethau.
Amlblecs Mae amlblecs DTT, neu “mux”, yn ddull o ddarlledu nifer o sianeli teledu, gorsafoedd radio, a gwasanaethau data ar yr un pryd dros un amledd radio.
Trwydded amlblecs Mae trwydded amlblecs yn rhoi’r hawl i ddarlledwyr ddefnyddio amleddau sbectrwm radio penodol i ddarlledu gwasanaethau a sianeli teledu digidol dros yr awyr drwy antenau.
Teledu ar-alw Ffordd o wylio teledu sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gael gafael ar gynnwys penodol pa bryd bynnag maen nhw’n ei ddymuno, yn hytrach na dilyn amserlen benodol. Er enghraifft, gwylio cynnwys ar ôl iddo gael ei ddarlledu ar BBC iPlayer.
PMSE Gwneud Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig. Yr ecosystem a ddefnyddir i gefnogi darlledu, casglu newyddion, cynyrchiadau theatrig a digwyddiadau arbennig, fel digwyddiadau diwylliannol, cyngherddau, digwyddiadau chwaraeon, cynadleddau a ffeiriau masnach. Mae hyn yn cynnwys Monitorau yn y Glust Aml-sianel (IEMs) a meicroffonau di-wifr.
Darparwyr PSM Mae’r term darparwyr PSM yn cael ei ddefnyddio yn y ddogfen hon, yn hytrach na darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, i adlewyrchu sut mae’r BBC, ITV, Channel 4, 5, STV ac S4C wedi symud ymlaen o ddarparu gwerth gwasanaeth cyhoeddus yn unig drwy eu darllediadau, i ddarparu hyn ar draws amrywiaeth o allbwn cyfryngau, fel gwasanaethau fideo ar-alw.
Cynnwys PSM Cynnwys a ddarperir gan ddarparwyr PSM sy’n bodloni’r diffiniad o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus ac sy’n cyfrannu at eu cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus.
Dibynadwyedd Mae gwasanaeth dibynadwy yn un sy’n gyson yn gyffredinol o ran ei ansawdd ac argaeledd.
Gwydnwch Mae gwasanaeth (neu ecosystem) sy’n wydn yn un sy’n gallu gwrthsefyll heriau a digwyddiadau allanol, fel trychinebau naturiol neu weithgarwch troseddol, neu adfer yn gyflym ar ôl hyn.
Darlledu drwy loeren Cynnwys teledu yn cael ei ddosbarthu drwy signalau sy’n bowndio oddi ar loerennau mewn cylchdro daearsefydlog i antenau ar y ddaear. Er enghraifft, un ffordd y mae Sky yn dosbarthu cynnwys teledu yw drwy loeren.
Blwch pen-set Dyfais fach sy’n cysylltu â theledu i dderbyn signalau digidol o ffynonellau fel cebl, lloeren neu’r rhyngrwyd yw blwch pen-set. Mae’n caniatáu mynediad at sianeli, gwasanaethau ffrydio, a chynnwys ar-alw.
Sbectrwm Sbectrwm (neu sbectrwm radio) yw’r ystod o donnau electromagnetig anweledig sy’n galluogi pob technoleg ddi-wifr, o’n ffonau symudol, ein dyfeisiau Wi-Fi a Bluetooth i lywio awyrennau, rhaglenni lloeren a Theledu Daearol Digidol (DTT), ymysg llawer o rai eraill.
Fforwm Rhanddeiliaid Daeth fforwm rhanddeiliaid Dyfodol Dosbarthu Cynnwys Teledu â sefydliadau ac unigolion o’r diwydiant teledu, partneriaid seilwaith, grwpiau eiriolaeth cynulleidfaoedd, y rheoleiddiwr a’r llywodraeth at ei gilydd. Mae’r fforwm wedi cynllunio cyfanswm o 12 papur i’w cyhoeddi’n fuan ar GOV.UK.
Cyffredinolrwydd Gallu pobl o bob cefndir i gael gafael ar gynnwys teledu sy’n werthfawr iddyn nhw, ac sy’n eu cysylltu ag eraill ledled y DU. Mae cyffredinolrwydd yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad yn rhwydd at ffynhonnell newyddion a gwybodaeth ddibynadwy, yn ogystal ag amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol a phrofiadau diwylliannol o fywyd yn y DU.
Defnyddioldeb Term cyffredinol sy’n cwmpasu gwasanaethau mynediad teledu traddodiadol (er enghraifft, isdeitlo a disgrifiadau sain) a pha mor hawdd yw defnyddio rhyngwyneb defnyddiwr teledu ar gyfer pob cynulleidfa.
  1. Mae’r term darparwyr PSM yn cael ei ddefnyddio yn y ddogfen hon, yn hytrach na darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, i adlewyrchu sut mae’r BBC, ITV, Channel 4, 5, STV ac S4C wedi symud ymlaen o ddarparu gwerth gwasanaeth cyhoeddus yn unig drwy eu darllediadau i ddarparu hyn ar draws amrywiaeth o allbwn cyfryngau, fel gwasanaethau fideo ar-alw. 

  2. Enders Analysis, Broadcasting consolidation - European content needs scale, 2026, tudalen 12 

  3. Ofcom, Pobl yn cael gafael ar Newyddion yn y DU, 2025, tudalen 12 

  4. Ofcom, Cyfryngau’r Genedl, 2025, tudalen 19 

  5. Enders Analysis, YouTube - Becoming more TV-like, 2024, tudalennau 9-11  

  6. Tŷ’r Arglwyddi, Social media, misinformation and harmful algorithms, Ail Adroddiad Sesiwn 2024–25, 2025, tudalen 16 

  7. Ofcom, Cyfryngau’r Genedl, 2025, tudalen 22 

  8. Ofcom, Y Cyfryngau ym Mywyd Plant - Adroddiad Cryno, 2025, tudalennau 54-55 

  9. Reuters Institute for the Study of Journalism, Digital News Report 2025: United Kingdom, 2025, tudalen 26 

  10. Ofcom, Cael gafael ar Newyddion yn y Deyrnas Unedig, 2025, tudalennau 8-9 

  11. Luca Rossi et al., Algorithms, Attention, and the Spread of Misinformation, 2024, tudalen 2 

  12. Cael gafael ar Newyddion yn y Deyrnas Unedig, 2025, tudalennau 7-12 

  13. Ofcom, Pobl yn cael gafael ar Newyddion yn y DU, 2024, tudalen 11 

  14. BBC, Audience Use and Perceptions of AI Assistants for News, 2025, tudalen 3 

  15. Ofcom, Deall Camwybodaeth: Ymddygiad ac Agweddau Oedolion yn y DU, 2024, tudalennau 4-9 

  16. PACT, TV Television Production Survey, 2025, tudalen 9 

  17. Ofcom, Pricing and consumer engagement report, 2026, tudalen 77 

  18. Ofcom, Argyfwng Darlledu, 2025, tudalen 16 

  19. Cynnwys gwasanaeth cyhoeddus fel y caiff ei ddiffinio gan adran 264 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 

  20. Ofcom, The relationship between the use of PSBs for news and societal outcomes: An empirical analysis, 2025, tudalen 4 

  21. Pact, TV Production Census 2025 - Nations and Regions Annex, 2025 tudalennau 2-7 

  22. Ofcom, Cyfryngau’r Genedl, 2025, tudalen 35 

  23. Ofcom, Argyfwng Darlledu, 2025, tudalen 5 

  24. Yn seiliedig ar adroddiadau blynyddol ar ffi’r drwydded Trwyddedu Teledu, Datganiad Ymddiriedolaeth y BBC: Ffi’r Drwydded Deledu, Datganiad ymddiriedolaeth ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025, 2025 

  25. Ofcom, Argyfwng Darlledu, 2025, tudalen 5 

  26. Llywodraeth y DU, Cynllun Sector ar gyfer y Diwydiannau Creadigol, 2025, tudalen 43-47 

  27. Pact Census, Oliver & Ohlbaum Associates, UK Television Production Survey, Financial Census 2025, 2025, tudalen 15 

  28. Drama, rhaglen ddogfen neu gomedi yw ‘teledu o safon uchel’ i’w ddarlledu’n gyhoeddus, gydag isafswm gwariant craidd o £1 miliwn yr awr a hyd slot o fwy nag 20 munud. 

  29. Pact Census, Oliver & Ohlbaum Associates, UK Television Production Survey, Financial Census 2025, 2025, tudalen 15 

  30. Ofcom, Cyfryngau’r Genedl, 2025, tudalen 18 

  31. Ofcom, Y prif dueddiadau o’n golwg ddiweddaraf ar ddefnydd o newyddion yn y DU, 2025, tudalen 5 

  32. BBC, Representation of BBC News content in AI Assistants, 2025, tudalen 2 

  33. Ofcom, Deall camwybodaeth: archwilio ymddygiad ac agweddau oedolion yn y DU, 2024, tudalen 10 

  34. Ofcom, Deall camwybodaeth: archwilio ymddygiad ac agweddau oedolion yn y DU, 2024, tudalen 4 

  35. Ofcom, Deall camwybodaeth: archwilio ymddygiad ac agweddau oedolion yn y DU, 2024, tudalen 4 

  36. Park, S., Lee, J.Y., Notley, T. a Dezuanni, M., Exploring the relationship between media literacy, online interaction, and civic engagement, 2023. Cafodd yr ymchwil hon ei chynnal gyda sampl genedlaethol o 3,510 o oedolion yn Awstralia, gan fesur ymwybyddiaeth o’r cyfryngau gan ddefnyddio hyder yng ngalluoedd cyfryngau fel procsi. 

  37. Ofcom, Pobl yn cael gafael ar Newyddion yn y DU, 2025, tudalen 5 

  38. Reuters Institute for the Study of Journalism, Digital News Report, 2025, tudalen 67 

  39. Pwyllgor Cyfathrebiadau a Digidol Tŷ’r Arglwyddi, Tystiolaeth Ysgrifenedig o Ymchwiliad i Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau gan BBC Education a BBC News, 2025, tudalen 3 

  40. Tîm Deall Ymddygiad, Media Literacy Uptake Among Hard-to-Reach Citizens, 2023, tudalen 5 

  41. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), Future of TV Distribution, 2024, tudalen 7. 

  42. Aelwydydd sydd â mynediad at deledu protocol rhyngrwyd ac sy’n defnyddio math arall o ddosbarthu cynnwys teledu. Gweler Ffigur 6. 

  43. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), Future of TV distribution audience research, 2025, tudalen 9. 

  44. Gweler y Rhestr Termau i gael diffiniad. 

  45. PWC,  Socioeconomic Impact of Digital Transition, 2025, tudalen 57 

  46. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Future of TV Distribution, 2024, tudalen 8 a 65. 

  47. Ofcom, Cyfryngau’r Genedl, 2025, tudalen 5 

  48. Ofcom, Cyfryngau’r Genedl, 2025, tudalen 4 

  49. Ofcom, Cyfryngau’r Genedl, 2025, tudalen 9 

  50. Enders Analysis, Viewing Trends in 2025, 2026, tudalen 3 

  51. Undeb Darlledu Ewropeaidd, Public service media as an antidote to polarisation, 2024, tudalen 20 

  52. Ofcom, Argyfwng Darlledu, 2025, tudalen 14 

  53. Mae’r rhai sy’n ffrydio yn cynnwys hysbysebu ar-alw a gwasanaethau tanysgrifio ar-alw. 

  54. Enders Analysis, Viewing trends in 2025, 2026, tudalennau 3-5 

  55. Enders Analysis, Viewing Trends in 2025, 2026, tudalen 3 

  56. Ofcom, Argyfwng Darlledu, 2025, tudalennau 5-13 

  57. Ofcom, Future of TV Distribution Report, 2024, tudalen 7. 

  58. Mae’r rhan fwyaf o drwyddedau amlblecs Teledu Daearol Digidol (DTT) mawr y DU yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2034. Byddai’r opsiwn hwn yn golygu na fyddai estyniad pellach. 

  59. Mae amserlen 2044 yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch oes y seilwaith darlledu, y newidiadau nodweddiadol tebygol yn y defnydd o sbectrwm yn Ewrop, a yw swyddogaethau tebyg i DTT ar gael yn barod ar gyfer y rheini sydd ei angen, a phatrymau defnyddwyr o ran prynu offer newydd neu waredu offer. 

  60. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), Future of TV distribution audience research, 2025, tudalen 6. 

  61. Gweler y Rhestr Termau am ddiffiniad llawn. 

  62. Meddalwedd, caledwedd, a gwasanaethau, a reolir fel arfer gan un cwmni. 

  63. Ac eithrio’r ‘Arbedion Costau Gweithredwyr Rhwydweithiau Symudol’ sy’n defnyddio cyfradd ddisgownt o 7.2% (gweler yr adran berthnasol) 

  64. Fel yr amcangyfrifwyd gan 3 Reasons Ltd 

  65. Ar sail estyniad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i ragolwg 3 Reasons 

  66. Consensws y diwydiant yw mai band eang ‘cyflym iawn’ (o leiaf 30 Mbps) yw’r isafswm ar gyfer darparu gwasanaeth ffrydio fideo dibynadwy dros brotocol rhyngrwyd; Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Future of TV Distribution, Tudalen 46 

  67. D.S. Mae’r holl ffigurau hyn yn amcangyfrifon o’r data gorau sydd ar gael, ond mae lefel uchel o ansicrwydd wrth ragweld cyfnod o 20 mlynedd. 

  68. Gwnaed hyn drwy allosod data 3 Reasons am 10 mlynedd ychwanegol. Felly, mae mwy o ansicrwydd ym mlynyddoedd diweddarach cyfnod y rhagolwg hwn. 

  69. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), Future of TV Distribution, ffigur 22 

  70. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), Future of TV Distribution, ffigur 26 

  71. Ofcom, Adroddiad Cysylltu’r Gwledydd y DU 2025, Tabl 2.7 

  72. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), Future of TV Distribution, ffigur 34 

  73. Ofcom, Tariffau cymdeithasol: Pecynnau band eang a ffôn rhatach, 23 Chwefror 2026 

  74. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), Future of TV Distribution, Tudalen 38 

  75. Freely, Manhattan Aero 4K TV Streamer, pris o fis Chwefror 2026 

  76. Darparodd Arqiva ffigurau’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gostau Rhwydwaith DTT, costau radio, a chostau rhaglen clirio 600 MHz ym mhrisiau 2024 sydd wedi cael eu chwyddo i brisiau 2026 gan ddefnyddio datchwyddydd GDP a’u disgowntio gan ddefnyddio cyfradd disgownt cymdeithasol a argymhellir gan y Llyfr Gwyrdd. 

  77. Amcangyfrif yn unig yw hwn ac nid yw’n cynrychioli cynnig gan Arqiva y gellir ei dderbyn. 

  78. Gall yr amcangyfrif hwn newid ar sail amseriad a manylion terfynol y prosiect. Dogfen at ddiben trafod yn unig yw hon ac nid yw’n gynnig contract rhwymol. 

  79. BBC, A BBC For All: Our response to the government’s Green Paper, 2026 

  80. Mae’r gwerth hwn yn amcangyfrif o’r hyn a fyddai’n codi i bob MNO o gael mynediad i’r sbectrwm, er mwyn osgoi gorfod gwneud rhagor o waith ar eu rhwydweithiau. Nid dyma’r pris a fyddai’n debygol o gael ei dalu mewn arwerthiant sbectrwm, a fyddai’n is. 

  81. Mae hyn yn cyd-fynd â gwerthu’r sbectrwm 700 MHz lle cafodd ei ddyrannu’n gyfartal rhwng gweithredwyr rhwydweithiau symudol: Ofcom - Dyfarnu sbectrwm 700 MHz a 3.6-3.8 GHz drwy arwerthiant, 26 Chwefror 2026 

  82. Left Out: How to tackle digital exclusion and reduce the poverty premium - The Centre for Social Justice 

  83. Is the government doing enough to tackle the impact of digital exclusion on unemployment? – Digital Poverty Alliance 

  84. Good things foundation,  UK Economic Impact of Digital Inclusion, 2024 

  85. Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Future of TV Distribution, Ffigur 21 

  86. Good Things Foundation, Digital Inclusion UK Economic Impact, 2024. 

  87. Y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, Left Out: Digital Inclusion and the Most Excluded, 2023. 

  88. ONS, Internet access - households and individuals, Great Britain, 2020. 

  89. WPI Economics, Tackling the barriers to financial and digital inclusion,2025. 

  90. Good Things Foundation, ‘Digital Inclusion UK Economic Impact’, 2024. 

  91. Good Things Foundation, Digital Inclusion UK Economic Impact, 2024. 

  92. WPI Economics, Tackling the barriers to financial and digital inclusion, 2025. 

  93. Revealing Reality: Future of TV distribution: Research report, 2025. 

  94. Y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol,Left Out: Digital Inclusion and the Most Excluded, 2023.