Policy paper

Nesaf - Gweledigaeth y llywodraeth ar gyfer y sector darlledu

Updated 29 April 2022

Rhagair gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Rt Hon Nadine Dorries MP

Mae economi greadigol y DU yn llwyddiant byd-eang. Mae ein sector cynhyrchu yn ffynnu, mae galw am gynnwys sy’n cael ei greu yn y DU, ac mae ein hecoleg darlledu gymysg yn destun edmygedd rhyngwladol.

Mae’r ecosystem ffyniannus ac amrywiol hon wedi creu cylch rhinweddol. Mae’n gwneud y DU yn lle deniadol iawn i fuddsoddi ynddo, ac mae’n galluogi gweithwyr creadigol y DU i lunio cynnwys gwreiddiol o ansawdd uchel y mae cynulleidfaoedd yn ei fwynhau.

Mae ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn allweddol i’r llwyddiant hwnnw. Yn graidd i’r tirlun hwn, maen nhw’n datblygu sgiliau a thalent, yn sbarduno twf ar draws y diwydiannau creadigol, ac yn darparu cynnwys Prydeinig sy’n unigryw ond y gellir ei adnabod ar unwaith.

Ond mae newidiadau cyflym mewn technoleg, arferion gwylio a dyfodiad chwaraewyr byd-eang wedi cyflwyno heriau newydd i ddarlledwyr ym Mhrydain.

Yn y cyd-destun hwnnw o newid cyflym, mae angen i ni weithredu i gefnogi darlledwyr o Brydain i fodloni’r heriau hynny sydd fwyaf brys, i warchod ein hecoleg gymysg, ac i sicrhau bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn dal yn ganolog yn ein cynlluniau. Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Sicrhau bod cynnwys tebyg i deledu, ni waeth sut mae cynulleidfaoedd yn dewis ei wylio, yn ddarostyngedig i safonau tebyg. Bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd cynulleidfaoedd y DU yn cael eu diogelu’n well rhag deunydd niweidiol a byddant yn gallu cwyno’n well wrth Ofcom os byddant yn gweld rhywbeth sy’n peri pryder iddynt.

  • Cyflwyno trefn amlygrwydd newydd ar gyfer teledu ar-alw i sicrhau bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar gael ac yn hawdd dod o hyd iddo ar lwyfannau teledu dynodedig.

  • Diweddaru’r cylch gwaith y mae’n rhaid i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gyfrannu ato fel ei fod yn cyflawni ar gyfer gwylwyr heddiw.

  • Rhoi mwy o hyblygrwydd i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus o ran sut maent yn cyflawni eu rhwymedigaethau i adlewyrchu sut mae cynulleidfaoedd yn gwylio cynnwys.

  • Mynd ar drywydd newid perchnogaeth Channel 4 er mwyn sicrhau ei bod yn gallu parhau i ffynnu a thyfu am flynyddoedd i ddod, fel rhan o’r ecoleg darlledu gwasanaeth cyhoeddus ehangach yn y DU.

Mae’r diwygiadau hyn yn bwysig iawn. Byddant yn galluogi ein darlledwyr i ffynnu, sef canlyniad sy’n dda i gynulleidfaoedd, yn dda i’n heconomi ac yn dda i’n gallu i gyflwyno gwerthoedd Prydeinig yn fyd-eang.

Y Gwir Anrhydeddus Nadine Dorries AS

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Crynodeb gweithredol

Mae economi greadigol y DU yn stori o lwyddiant rhyngwladol, ac mae ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ganolog yn y llwyddiant hwnnw. Maen nhw’n cynhyrchu cynnwys gwych o Brydain sy’n cael ei garu ar hyd a lled y DU ac ym mhedwar ban byd. Mae’r llywodraeth eisiau i’r sefyllfa honno barhau.

Mae radio a theledu yn dal yn gyfryngau cryf sy’n cael eu gwerthfawrogi yn y DU ac maen nhw’n darparu llawer o werth i’r cyhoedd. Mae 89% o’r boblogaeth yn gwrando ar y radio bob wythnos, sef ffigur sydd wedi aros yn hynod o gyson dros y degawd diwethaf. Yr amser a dreulid yn gwylio teledu llinol oedd 2 awr, 33 munud y dydd ym mis Mawrth 2022, gyda gwylwyr yn parhau i droi at ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gael newyddion dibynadwy a rhaglenni gwreiddiol o ansawdd uchel.

Mae’r llywodraeth yn credu y bydd hyn yn parhau’n wir ymhell i’r degawd nesaf. Mae’r amcanestyniadau gwrando a baratowyd ar gyfer yr Adolygiad Sain a Radio Digidol yn ddiweddar yn dangos y bydd gan radio rôl ganolog yng nghyfryngau’r DU am o leiaf y 10-15 mlynedd nesaf. Ac er bod bron i hanner oedolion y DU bellach yn ystyried mai gwasanaethau fideo ar-lein yw eu prif ffordd o wylio teledu a ffilmiau, mae 17.3 miliwn o gartrefi yn dal i gael teledu daearol digidol drwy erial, mae 8.4 miliwn o gartrefi yn tanysgrifio i deledu lloeren, ac mae gan 3.9 miliwn danysgrifiad teledu cebl.

Ond mae’r gwyntoedd sy’n wynebu ein darlledwyr radio a theledu yn dwysáu. Mae mwy a mwy o gystadleuaeth, mae arferion cynulleidfaoedd a thechnoleg yn newid yn gyson, ac mae cwmnïau byd-eang enfawr yn dod yn fwy amlwg.

Felly, mae’r llywodraeth yn bwriadu gweithredu i gefnogi ein system o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan ddefnyddio ein rhyddid deddfwriaethol newydd i ddarparu fframwaith rheoleiddio er budd gorau’r DU. Mae gwir angen i ni nawr ddiwygio’r ‘compact’, sef cydbwysedd y buddion a’r rhwymedigaethau sy’n cael eu rhoi i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r papur gwyn hwn yn nodi sut rydym yn cymryd camau i wneud y canlynol:

  • Rhewi pris y drwydded deledu ar £159 am ddwy flynedd. Bydd wedyn yn codi yn unol â chwyddiant. Mae’r llywodraeth yn credu y bydd y setliad hwn yn rhoi’r arian sydd ei angen ar y BBC i gyflawni ei genhadaeth a’i ddibenion cyhoeddus yn effeithiol, gan sicrhau ein bod yn cefnogi aelwydydd drwy gyfnod anodd.

  • Cynyddu terfyn benthyca masnachol y BBC o £350 miliwn i £750 miliwn, hyd nes y cytunir ar fecanweithiau goruchwylio priodol, i gefnogi’r BBC i gael gafael ar gyfalaf a buddsoddi mewn cynlluniau twf uchelgeisiol.

  • Mynd ar drywydd newid perchnogaeth Channel 4. Bydd hyn yn sicrhau bod Channel 4 yn gallu parhau i ffynnu a thyfu am flynyddoedd i ddod fel rhan o’r ecoleg darlledu gwasanaeth cyhoeddus ehangach yn y DU. Mae Channel 4 yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus, a bydd yn parhau felly, yn union fel darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus llwyddiannus eraill – ITV, STV, Channel 5 – sydd eisoes dan berchnogaeth breifat.

  • Sicrhau bod pwysigrwydd rhaglenni sy’n cael eu darlledu yn ieithoedd lleiafrifol cynhenid y DU yn glir mewn deddfwriaeth, drwy gynnwys hynny yn ein cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus newydd ar gyfer teledu. Credwn fod gan ddarlledu rhanbarthol ac mewn ieithoedd lleiafrifol rôl bwysig i’w chwarae yn ecoleg ddarlledu’r DU, gan ddarparu nid yn unig gyfle i siaradwyr gael gafael ar gynnwys mewn iaith sy’n gyfarwydd iddynt, ond mae hefyd yn ffordd o fynegiant diwylliannol ar gyfer cymunedau ar draws y DU.

  • Diweddaru cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein a chael gwared â’r cyfyngiadau darlledu daearyddol presennol. Bydd y newidiadau hyn yn caniatáu i S4C ehangu ei gyrhaeddiad a chynnig ei gynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau newydd yn y DU a thu hwnt. Byddwn hefyd yn deddfu i gefnogi S4C a’r BBC i symud oddi wrth y fframwaith presennol, eithaf llym, sy’n mynnu bod y BBC yn darparu nifer penodol o oriau o raglenni teledu i S4C, er mwyn iddynt allu cytuno gyda’i gilydd ar drefniant amgen sy’n gweddu’n well i’r dirwedd ddarlledu sy’n esblygu a’r newid yn y ffordd y mae pobl yn cael gafael ar gynnwys.

  • Disodli’r set hen ffasiwn o un deg pedwar o ‘bwrpasau’ ac ‘amcanion’ sy’n gorgyffwrdd y mae’n rhaid i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gyfrannu atynt, a chael cylch gwaith newydd byrrach sy’n canolbwyntio ar y pethau maent mewn sefyllfa unigryw i’w cyflawni, a fyddai’n ein gwneud yn dlotach fel cenedl – yn ddiwylliannol, yn economaidd ac yn ddemocrataidd – pe na baent yn cael eu darparu. Byddwn yn ei gwneud yn gliriach bod yn rhaid i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gyfrannu at y cylch gwaith hwn ac y byddant yn atebol am faint eu cyfraniadau.

  • Rhoi mwy o hyblygrwydd i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus o ran sut maent yn cyflawni eu cylchoedd gwaith, gan sicrhau bod pwerau effeithiol ar gael pe bai angen ymyrryd. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws iddynt sicrhau bod eu cynnwys ar gael ar ystod ehangach o lwyfannau am ddim.

  • Cyflwyno trefn amlygrwydd newydd ar gyfer teledu ar-alw. Bydd hyn yn sicrhau bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar gael ac yn hawdd dod o hyd iddo ar lwyfannau teledu dynodedig. Mae hyn yn cynnwys cydnabyddiaeth briodol ar gyfer perthnasedd unigryw’r cynnwys gwasanaeth cyhoeddus a gynhyrchir gan STV ac S4C mewn rhannau penodol o’r Deyrnas Unedig. Bydd ein trefn amlygrwydd newydd ar gyfer gwasanaethau ar-alw yn gymesur ac yn hyblyg, er mwyn iddi allu addasu i’r gwahaniaethau ar draws y farchnad a newidiadau parhaus, heb greu beichiau gormodol ac effeithio’n negyddol ar brofiadau a dewisiadau defnyddwyr. Bydd Ofcom hefyd yn cael y pwerau gorfodi newydd angenrheidiol.

  • Gwneud newidiadau i’r drefn trwyddedu teledu lleol er mwyn gallu ymestyn y drwydded amlblecs teledu lleol tan 2034 ac yn agored i’r un amodau sy’n berthnasol i’r amlblecsau teledu daearol digidol (DTT) cenedlaethol. Byddwn yn ymgynghori ar opsiynau ar gyfer adnewyddu neu aildrwyddedu gwasanaethau teledu lleol unigol ar yr un pryd.

  • Diogelu cyfundrefn telerau masnach y DU, gan ei diweddaru ar yr un pryd i adlewyrchu newidiadau mewn technoleg a’r ffordd mae gwylwyr yn gwylio cynnwys gan ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Byddwn hefyd yn ystyried a oes angen ymestyn agweddau ar y drefn hon i gynhyrchwyr radio a sain sy’n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer y BBC.

  • Sicrhau bod darparwyr fideo-ar-alw tebyg i deledu, mwy o faint, nad ydynt yn cael eu rheoleiddio yn y DU ar hyn o bryd ond sy’n targedu ac yn elwa o gynulleidfaoedd yn y DU, yn dod o dan awdurdodaeth Ofcom. Byddwn hefyd yn rhoi pwerau i Ofcom ddrafftio a gorfodi Cod Fideo-ar-alw newydd, tebyg i’r Cod Darlledu, i sicrhau y bydd cynnwys tebyg i deledu, ni waeth sut mae cynulleidfaoedd yn dewis ei wylio, yn rhwym wrth safonau tebyg. Bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd cynulleidfaoedd y DU yn cael eu diogelu’n well rhag deunydd niweidiol a byddant yn gallu cwyno’n well wrth Ofcom os byddant yn gweld rhywbeth sy’n peri pryder iddynt. Gan barchu materion sy’n ymwneud â’r rhyddid i lefaru a chymesuredd, bydd gwasanaethau ar-alw llai o faint â risg is yn y DU yn parhau o dan y rheolau presennol.

  • Cau’r bwlch sy’n caniatáu i wasanaethau sy’n cael eu darparu drwy’r rhyngrwyd heb eu rheoleiddio ymddangos ar setiau teledu yn y DU drwy ddynodi cyfeiryddion rhaglenni electronig ychwanegol wedi’u rheoleiddio. Bydd hyn yn golygu y bydd Ofcom yn rhestru gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar y rhyngrwyd ar y cyfeiryddion sydd o fewn cwmpas rheoleiddio. Byddwn hefyd yn parhau i adolygu’r pwerau casglu gwybodaeth a gorfodi sydd ar gael i Ofcom yn y maes hwn.

Mae’r llywodraeth hefyd yn ymwybodol iawn o’r heriau tymor canolig a thymor hir i ddarlledu yn y DU. Mae’r papur gwyn hwn yn nodi gweledigaeth ar gyfer dyfodol darlledu yn y DU, a bwriadau’r llywodraeth ar sut i’w chyflawni, gan gynnwys:

  • Cynnal adolygiad o fodel cyllido ffi’r drwydded cyn cyfnod nesaf y Siarter. Byddwn yn nodi cynlluniau manylach ar gyfer yr adolygiad hwnnw – a fydd yn ategu’r Adolygiad Canol Tymor o Siarter y BBC a gyhoeddwyd yn flaenorol – yn ystod y misoedd nesaf.

  • Parhau i gefnogi ymrwymiadau tymor hir i gefnogi darlledu trawsffiniol ar ynys Iwerddon, gan gynnwys cyllid ar gyfer amlblecs teledu daearol digidol Gogledd Iwerddon sydd wedi cludo gwasanaethau RTÉ a TG4 i Ogledd Iwerddon ers 2012. Byddwn hefyd yn ystyried y cwmpas i sicrhau amlygrwydd gwasanaethau rhanbarthol ac mewn ieithoedd lleiafrifol.

  • Ymgynghori ar wreiddio pwysigrwydd cynnwys unigryw o Brydain yn uniongyrchol yn y system gwota bresennol. Byddwn yn glir bod hyn yn cynnwys rhaglenni sy’n adlewyrchu bywydau a phryderon gwahanol rannau o’r DU, a bydd unrhyw ddull deddfwriaethol a fabwysiadwn yn caniatáu ystyriaeth bellach i sicrhau ei fod yn gymesur ac yn cyflawni ei nod o warantu y bydd cynnwys y gellid bod wedi’i greu ar gyfer cynulleidfaoedd Prydain yn unig yn parhau i gael ei gynhyrchu.

  • Ystyried gwneud cymhwyso ar gyfer y drefn digwyddiadau rhestredig yn fantais sy’n benodol i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, i gydnabod y rôl allweddol maen nhw’n ei chwarae o ran dosbarthu cynnwys sy’n unigryw Brydeinig ac sydd o ddiddordeb i gynulleidfaoedd ym Mhrydain, a chydnabod bod yr holl wasanaethau presennol sy’n gymwys ar gyfer y drefn digwyddiadau rhestredig yn cael eu gweithredu gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Byddwn hefyd yn cynnal adolygiad i weld a ddylid ymestyn cwmpas y drefn digwyddiadau rhestredig i gynnwys hawliau digidol.

  • Cynnal gwerthusiad o gynllun treialu cronfa mae modd cystadlu amdani. Bydd hyn yn cynnwys ystyried yn fanwl y gwersi a ddysgwyd wrth benderfynu a fyddai model cronfa gystadlu – yn y tymor hirach – yn darparu gwerth ychwanegol i ehangder ac argaeledd cynnwys gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel a gynhyrchir yn y DU, a allai ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd yn well.

  • Cynnal adolygiad i ystyried a ddylid cyflwyno cap refeniw i gael statws cynhyrchydd ‘annibynnol cymwys’, er mwyn sicrhau bod y statws hwnnw’n parhau i fod yn gyfrwng effeithiol i hybu twf y sector.

  • Parhau i gefnogi ein diwydiannau creadigol arloesol a medrus iawn drwy ostyngiadau treth yn y sector creadigol. Mae ymchwil diweddar wedi dangos eu heffaith anhygoel, gyda phob £1 o Ryddhad Treth ar gyfer Teledu Lefel Uchel yn darparu enillion o £6.44. Ar yr un pryd, cynyddodd cynyrchiadau a gefnogir gan y rhyddhad treth hwnnw o £1.2 biliwn yn 2017 i £4.1 biliwn yn 2021.

  • Cefnogi Comisiwn Ffilm Prydain i hwyluso twf pellach saith canolfan cynhyrchu daearyddol – gan gynnwys un ym mhob gwlad – a nifer o ddatblygiadau stiwdios newydd ledled y DU. Ym mhob un o’r rhanbarthau hyn mae eisoes rhai o’r unigolion creadigol a masnachol mwyaf talentog mewn unrhyw ddiwydiant, a rhaid i’r dirwedd sgiliau esblygu i fanteisio ar y cyfle hwn.

  • Ymgynghori ddechrau 2023 ar gynigion newydd i hyrwyddo’r sector radio cymunedol a, lle bo angen, dwyn ymlaen newidiadau i ofynion trwyddedu drwy ddiwygiadau i Orchymyn Radio Cymunedol 2004. At hynny, mae’r llywodraeth wedi ymrwymo o hyd i ddeddfu i roi canlyniadau ymgynghoriad 2017 ar ddadreoleiddio radio ar waith pan fydd amser seneddol yn caniatáu hynny.

  • Archwilio ffyrdd o gefnogi darlledwyr yn y DU drwy newidiadau posibl yn yr ecosystem hysbysebu ehangach. Er enghraifft, drwy’r Rhaglen Hysbysebu Ar-lein, rydym yn bwriadu ystyried sut mae creu mwy o degwch rhwng hysbysebion sy’n cael eu darlledu a hysbysebion ar-lein, gan gynnwys o ran atebolrwydd llwyfannau, wrth i ni ystyried pa fesurau y gellid eu cyflwyno i wella atebolrwydd a thryloywder.

  • Sicrhau bod polisi masnach y DU yn ategu ac yn diogelu fframwaith polisi cyhoeddus clyweledol y DU, gan gynnwys cynnal ein haelodaeth o Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Deledu Trawsffiniol ac, o ganlyniad, ein statws Gwaith Ewropeaidd. Mae’r statws hwn yn sicrhau bod y DU yn parhau i gyfrannu at gyfoethogi diwylliannol hanfodol ar draws y gwledydd, gan ganiatáu i ni gydweithio’n effeithiol â’n cymdogion yn Ewrop a dosbarthu gweithiau sy’n bwysig yn ddiwylliannol ar draws Ewrop.

  • Sefydlu trefn newydd o blaid cystadleuaeth mewn marchnadoedd digidol. Bydd hyn yn sbarduno economi ddigidol fwy bywiog ac arloesol ledled y DU a bydd yn ategu’r drefn gystadlu bresennol a’r pwerau rheoleiddio sydd ar gael i reoleiddwyr sector fel Ofcom.

  • Gweithio gydag Ofcom i ddatblygu cynigion deddfwriaethol i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth yn y ddarpariaeth gwasanaethau mynediad rhwng gwasanaethau darlledu ac ar-alw. Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i sicrhau bod deddfwriaeth yn glir, yn gymesur ac yn addas i’r diben.

  • Galluogi adnewyddu trwyddedau amlblecs teledu daearol digidol yn y tymor hir hyd at 2034. Hefyd, bydd y llywodraeth yn gofyn i Ofcom barhau i gadw golwg ar newidiadau i wylio teledu daearol digidol ac i gynnal adolygiad cynnar cyn diwedd 2025 o newidiadau yn y farchnad a allai effeithio ar ddyfodol dosbarthu cynnwys.

  • Ymgysylltu ymhellach â’r diwydiant radio, a chael dealltwriaeth ddyfnach o bolisïau ac arferion y llwyfannau seinyddion clyfar, er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r drefn orau bosibl ar waith i ganiatáu i radio barhau i gyrraedd ei wrandawyr ymhell i’r dyfodol.

Bydd y rhaglen bolisi uchelgeisiol hon yn cymryd amser i’w chyflawni, ond mae’n hanfodol er mwyn i’r DU barhau i elwa o ecosystem ddarlledu fywiog a llwyddiannus.

Pennod 1: Cyd-destun y farchnad

Mae economi greadigol y DU yn llwyddiant byd-eang. Mae ein sector cynhyrchu yn ffynnu, mae galw am gynnwys sy’n cael ei greu yn y DU, ac mae ein hecoleg darlledu gymysg yn destun edmygedd rhyngwladol. Yn 2019, roedd y diwydiannau creadigol yn y DU wedi cyfrannu £115.9 biliwn at yr economi, gyda’r sectorau Ffilm, teledu, fideo, radio a ffotograffiaeth yn unig yn cyfrannu £21.6 biliwn.

Mae’r ecosystem ffyniannus ac amrywiol hon wedi creu cylch rhinweddol. Mae’n gwneud y DU yn lle deniadol iawn i fuddsoddi ynddo ac mae’n galluogi gweithwyr creadigol y DU i lunio cynnwys gwreiddiol o ansawdd uchel y mae cynulleidfaoedd yn ei fwynhau. Ac wrth i ni godi’r gwastad, mae ein diwydiannau creadigol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynyddu cyfleoedd a chanlyniadau ledled y DU.

Mae ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn allweddol i’r llwyddiant hwnnw. Yn graidd i’r tirlun hwn, maen nhw’n datblygu sgiliau a thalent, yn sbarduno twf ar draws y diwydiannau creadigol, ac yn darparu cynnwys unigryw y gellir ei adnabod ar unwaith. Yn 2020, roeddent wedi dangos 30,000 awr o gynnwys gwreiddiol newydd o’r DU, a hwnnw wedi’i gynhyrchu ym mhob cwr o’r wlad. A hyn er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil pandemig COVID-19.

Roedd gan ein darlledwyr rôl allweddol yn ystod pandemig COVID-19 o ran cefnogi’r wlad drwy gyfnod eithriadol o anodd. Mae’r enghreifftiau o hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Fe wnaeth y BBC ddarparu cynnwys addysgol drwy gydol yr amserlen i helpu plant nad oedd yn gallu mynd i’r ysgol. Fe wnaeth radio lleol y BBC ymuno â gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr a’r elusen Wavelength i gynnig radios DAB am ddim i’r bobl fwyaf agored i niwed dros 70 oed.

  • Fe wnaeth ITV ail-alsio eu hymgyrch Britain Get Talking (‘Apart. But never alone”) ar yr awyr ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

  • Fe wnaeth Channel 4 ddarlledu graffigyn ar-sgrin ‘Stay at Home’ yn ystod ei holl raglenni i helpu i gyflwyno’r neges hollbwysig hon ar gyfer iechyd y cyhoedd. Roedd y graffigyn hwn wedi cyrraedd 78% o boblogaeth y DU, gyda phobl yn gweld y neges dair ar ddeg o weithiau ar gyfartaledd.

  • Fe wnaeth gorsafoedd radio cymunedol, drwy ymdrechion gwirfoddolwyr, oresgyn yr heriau i ddarparu gwybodaeth a chymorth lleol gwerthfawr i’w cymunedau, gan gynnwys negeseuon iechyd cyhoeddus lleol wedi’u targedu at grwpiau agored i niwed.

  • Fe wnaeth y gorsafoedd radio masnachol lleol gynyddu eu hymrwymiad i newyddion a gwybodaeth yn sylweddol yn ystod y cyfnod clo, gan ddarlledu 25% yn fwy o newyddion ar gyfartaledd a oedd yn para 28% yn hirach.

Ar yr un pryd, fe wnaeth ein sectorau cynhyrchu ddangos eu gwytnwch a’u gallu i arloesi. Hyd yn oed yn wyneb heriau COVID-19, bu bron i’r diwydiant gyrraedd y lefelau gwariant uchaf erioed – roedd y gwariant cyfunol ar gynyrchiadau ffilm a theledu yn ystod 2021 wedi cyrraedd £5.64 biliwn, sef yr uchaf erioed ac £1.27 biliwn yn uwch nag yn ystod yn ystod 2019 cyn y pandemig.

Wrth gwrs, nid y diwydiant neu’r darlledwyr yn unig sydd wedi cyflawni hyn. Roedd ymyrraeth gan y llywodraeth yn ystod y pandemig wedi sicrhau bod y gwaith cynhyrchu’n parhau’n ddiogel. Mae dros 1100 o gynyrchiadau wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Ailgychwyn Ffilm a Theledu’r llywodraeth hyd yma, ac ni fyddai wedi bod yn bosib gwario dros £2.9 biliwn ar gynyrchiadau heb y cynllun, sydd wedi cefnogi mwy na 95,000 o swyddi.

Mae radio hefyd yn gwneud cyfraniad hollbwysig i dirwedd ddarlledu’r DU. Mae naws bersonol darlledu ar y radio, a’i allu i gymysgu newyddion, gwybodaeth, cerddoriaeth ac adloniant, wedi sicrhau ei boblogrwydd parhaus. Mae ei ddarpariaeth o newyddion a gwybodaeth genedlaethol a lleol yn cryfhau lluosogrwydd ac yn rhoi radio ymysg y cyfryngau mwyaf dibynadwy yn y DU – heb sôn am ei rôl allweddol yn cysylltu cymunedau ac yn helpu i fynd i’r afael â materion cymdeithasol gan gynnwys unigrwydd ac iechyd meddwl.

Ond mae newidiadau cyflym mewn technoleg, arferion gwylio a dyfodiad chwaraewyr byd-eang wedi cyflwyno heriau newydd i ddarlledwyr ym Mhrydain.

1.1. Dyfodiad technolegau newydd

Mae radio a theledu yn dal yn rhan bwysig iawn o fywyd bob dydd i filiynau o wrandawyr a gwylwyr. Yn 2020, roedd oedolion y DU yn gwylio bron i 40 awr o gynnwys fideo bob wythnos ar gyfartaledd, ac roedd 89% yn gwrando ar y radio.

Fodd bynnag, mae’r ffordd rydym yn dewis gwrando a gwylio yn newid. Mae’r twf cyflym yn y nifer sy’n defnyddio band eang cyflym iawn a’r llu o ddyfeisiau sy’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd yn newid y ffordd rydym yn cael gafael ar gynnwys sain a fideo. Er enghraifft, mae 79% o gartrefi sydd â set deledu bellach yn dewis ei chysylltu â’r rhyngrwyd, gan roi mynediad at amrywiaeth eang o wasanaethau ychwanegol. Yn yr un modd, mae gwasanaethau sain sy’n cael eu darparu ar y rhyngrwyd wedi tyfu’n gyflym yn ystod y tair blynedd diwethaf a byddan nhw’n rhan o ddyfodol radio. Mae’n arbennig o drawiadol bod traean o oedolion bellach yn berchen ar seinyddion clyfar, er mai dim ond pum mlynedd yn ôl y daethon nhw i’r amlwg. Mae’r tueddiadau hyn eisoes wedi gyrru’r defnydd cyfartalog o’r rhyngrwyd yn y DU i fwy na 453 gigabeit o bob cysylltiad bob mis – sy’n cyfateb i dros 150 awr o gynnwys manylder uwch – ac nid yw’n dangos fawr o arwydd y bydd yn stopio.

Mae’r technolegau hyn nid yn unig yn newid sut rydyn ni’n gwylio, ond hefyd lle rydym yn gwylio. Yn benodol, mae’r llu o ddyfeisiau cludadwy – yn enwedig ffonau clyfar – yn golygu nad yw pobl yn cael eu cyfyngu mwyach o ran ble maen nhw’n gwylio’r teledu, a nawr maen nhw’n gallu gwylio lle bynnag maen nhw.

Mae’r hysbysebion rydym ni’n eu gweld, sef ffynhonnell incwm hanfodol i lawer o’n darlledwyr teledu a radio, yn newid hefyd. Er bod hysbysebu teledu llinol, fel cyfran o’r holl hysbysebion arddangos, wedi aros yn weddol gyson rhwng 2000 a 2015 sef tua 40%, rhwng 2015 a 2020 gostyngodd ei gyfran i 27% wrth i hysbysebwyr symud fwyfwy ar-lein.

1.2. Cynnydd yn y dewis i wylwyr a gwrandawyr

Mae’r datblygiadau hyn mewn technoleg yn golygu bod gan wylwyr a gwrandawyr heddiw ddewis enfawr o ran yr hyn maen nhw’n ei wylio a sut maen nhw’n ei wylio – ac maen nhw’n manteisio ar y dewis hwnnw. Yn ogystal â’r cynnwys helaeth gan ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, mae gwylwyr hefyd yn mwynhau amrywiaeth gynyddol eang o raglenni gwreiddiol o ansawdd uchel yn y DU gan ddarlledwyr masnachol. Mae Sky News ac, ers 2020, Sky Arts, ar gael am ddim, ac mae gwariant sylweddol Discovery ar gynnwys yn y DU yn parhau i gynyddu wrth iddo geisio cystadlu yn y farchnad ffrydio fyd-eang.

Ochr yn ochr â theledu a radio byw, mae cynulleidfaoedd bellach yn rhannu eu hamser rhwng nifer cynyddol o ddarparwyr a dyfeisiau. Er enghraifft, mae 574 o orsafoedd radio ar gael ar DAB ar draws y DU, yn ogystal â miloedd o orsafoedd a ffrydiau ar-lein, 333 o orsafoedd analog a dros 300 o orsafoedd cymunedol. I’r rhai sy’n chwilio am rywbeth i’w wylio, roedd 294 o sianeli teledu ar gael yn y DU a mwy na 500 o oriau o fideo wedi’u huwchlwytho i YouTube bob munud.

Y canlyniad yw diwedd cyfnod o gyfryngau torfol yn cael eu dominyddu gan deledu a radio llinol, yn cael eu danfon dros y tonnau awyr drwy flwch yn yr ystafell fyw. Yn wir, yn 2020, roedd llai na hanner y gwylio fideo ar wasanaethau byw traddodiadol. Er bod y tueddiad yn arbennig o amlwg yn y grwpiau iau, mae hyn bellach yn amlwg ym mhob demograffeg oedran bron. O ran radio, mae’r BBC a radio masnachol wedi ymateb drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau ar-lein newydd, er enghraifft gwasanaethau sy’n seiliedig ar apiau fel BBC Sounds, Global Player, Kiss Kube neu ap Times Radio, a drwy ddarparu cynnwys ar wasanaethau ffrydio fel Spotify neu YouTube i barhau i gadw gwrandawyr a denu cynulleidfaoedd iau newydd.

Y rhai sydd ar eu hennill fwyaf o’r newid hwn yn y ffordd rydym ni’n defnyddio’r teledu yw’r gwasanaethau fideo ar-alw. Maen nhw’n cael eu darparu dros y rhyngrwyd, ac yn galluogi gwylwyr i ddewis o gatalog o gannoedd neu hyd yn oed filoedd o oriau o raglenni, a’r cyfan drwy gyffwrdd botwm. Ym mis Ebrill 2021, roedd gan lyfrgell cynnwys Amazon Prime Video 41,000 awr o raglenni, roedd gan Netflix 38,000 awr ac roedd gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gyda’i gilydd gyfanswm o 37,000 awr o gynnwys – sef gwerth 12 mlynedd o wylio 8 awr y dydd. Yn y pymtheg mlynedd ers lansio BBC iPlayer am y tro cyntaf, mae poblogrwydd y gwasanaethau hyn wedi tyfu’n gyflym:mae dros dri chwarter cartrefi’r DU bellach yn defnyddio gwasanaeth fideo-ar-alw, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu cynnig gan ddarlledwyr presennol (BBC iPlayer, ITV Hub) neu sydd ar gael ar danysgrifiad (Netflix, Amazon Prime Video). Yn benodol, roedd y defnydd o wasanaethau fideo-ar-alw drwy danysgrifiad, fel Netflix, wedicynyddu’n gyflym ymysg pobl dros 55 oed yn ystod dechrau 2020 wrth i bobl aros gartref. Yn fwy diweddar, mae tystiolaeth gynyddol fod gwylwyr yn siopa o gwmpas i ddod o hyd i’r gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion orau, mewn marchnad sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol.

Nid nhw yw’r unig rai sy’n ennill, fodd bynnag. Rhaid i ddarlledwr teledu neu radio modern hefyd gystadlu am ein llygaid a’n clustiau gyda’r buddsoddiad sylweddol mewn cynnwys newydd o lwyfannau rhannu fideos, podledwyr, llwyfannau ffrydio cerddoriaeth a chwmnïau gemau fideo – pob un yn ddiwydiannau rhyngwladol sy’n werth biliynau o bunnoedd ynddyn nhw’u hunain.

Mae’r cynnydd hwn mewn dewis a chystadleuaeth yn beth da. Serch hynny, mae iddo oblygiadau sylweddol i sectorau darlledu’r DU ac mae angen eu hystyried. Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU yn benodol yn wynebu heriau sylweddol yn amgylchedd darlledu a thechnolegol heddiw – amgylchedd sy’n bell o amgylchedd y 1920au pan sefydlwyd y BBC, neu hyd yn oed y 1990au pan lansiwyd y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus diweddaraf, Channel 5. Rhoddir mwy o sylw i’r her hon ym Mhennod 2 a 3.

1.3. Dyfodiad cwmnïau rhyngwladol mawr i farchnadoedd domestig y DU

Yn ogystal â chynyddu’r dewis sydd ar gael i wylwyr a gwrandawyr, mae’r broses o fabwysiadu dulliau dosbarthu ar y rhyngrwyd – ochr yn ochr â dymuniad cynyddol cynulleidfaoedd i chwilio am raglenni newydd – wedi arwain at don newydd o globaleiddio. Mae rhaglenni o Brydain wedi bod ag enw da iawn dramor ers tro byd, ac mae sioeau Americanaidd wedi bod yn ymddangos ar sianeli teledu ym Mhrydain ers degawdau. Ond mae’r tirlun wedi newid ac mae’n gliriach nag erioed bod ein darlledwyr yn cystadlu ar lwyfan rhyngwladol. Teimlwyd hyn yn bennaf mewn dwy ffordd.

Yn gyntaf, mae darlledwyr yn y DU bellach yn cystadlu’n uniongyrchol â gwasanaethau sydd wedi’u lleoli dramor, ac mae llawer ohonyn nhw wedi gallu defnyddio’r adnoddau ariannol sylweddol sy’n deillio o’u graddfa fyd-eang. Yn 2019, roedd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU yn gallu gwario ychydig llai na £2.8 biliwn ar gynnwys newydd – sydd ddim yn swm ansylweddol. Ond ar yr un pryd, amcangyfrifir fod Netflix ar ei ben ei hun wedi gwario $13.9 biliwn (£11.5 biliwn). Teimlir yr effaith hon yn fwyaf amlwg mewn genres penodol, gan gynnwys drama o safon uchel, lle mae’r gwariant cyfartalog yr awr ar gynyrchiadau domestig yn unig wedi aros ymhell o dan £2 filiwn yr awr, tra bo’r gyllideb ar gyfer sioeau gyda buddsoddiad rhyngwladol bellach bron yn £6 miliwn yr awr. Gallai’r gwahaniaeth hwn mewn cyllid ei gwneud hi’n anoddach i’n darlledwyr domestig gael gafael ar y cyfleusterau gorau a denu’r talentau gorau ar y sgrin ac oddi ar y sgrin.

Ar yr un pryd, mae ein darlledwyr yn gorfod gweithio’n fwyfwy caled i sicrhau eu presenoldeb ar lwyfannau byd-eang newydd – sy’n cael eu gweithredu gan gewri digidol sy’n prysur droi’n borthorion ar gyfer darganfod cynnwys. Mae rhai o’r cwmnïau hyn hefyd yn rhedeg eu gwasanaethau eu hunain, sydd, yn eu tro, yn destun balchder ar y platfformau maen nhw’n eu gweithredu.

Mae’r chwaraewyr byd-eang newydd hyn – sef Googles, Amazons ac Apples y byd – yn llwyddiannus oherwydd eu bod nhw’n cynnig hwylustod ac integreiddiad. Ond mae’n anochel y bydd grym cynyddol y chwaraewyr hyn, a’r data sydd ganddynt ar flaenau eu bysedd, yn effeithio ar sut mae hawliau mynediad, cludiant ac amlygrwydd yn cael eu trafod yn y dyfodol. Er bod y cynnydd yn yr amrywiaeth o lwyfannau dosbarthu a’r nifer sy’n berchen arnynt yn creu manteision posibl o ran arloesedd a dewis i ddefnyddwyr, mae perygl y bydd y darlledwyr rydym ni yn y DU yn eu hadnabod ac yn eu caru yn cael eu gwthio i’r neilltu.

Mewn sectorau eraill, mae dyfodiad cewri technolegol byd-eang a’r don o gydgrynhoi y maen nhw’n ei hysgogi wedi codi cwestiynau am yr effaith ar gystadleuaeth a’r perygl i’r amrywiaeth o safbwyntiau posib sydd ar gael i ddefnyddwyr. Yn y sector darlledu, gwelwyd tuedd gynyddol tuag at gyfuno, yn fwyaf nodedig gydag uno mawr yng Ngogledd America ac Ewrop. Rydym eisiau sicrhau bod gwylwyr a gwrandawyr yn profi’r manteision sy’n deillio o esblygiad y sector, tra’n sicrhau ein bod ni’n parhau i gefnogi dewis defnyddwyr a llwyddiant ein hecoleg gymysg. Rhoddir mwy o sylw i’r heriau hyn ym Mhenodau 3, 4 a 5.

1.4. Twf sector cynhyrchu’r DU

Yng nghanol y dewis cynyddol a’r arloesedd technolegol, mae sector cynhyrchu teledu’r DU yn ffynnu, a hynny yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn 2019, roedd cyfanswm refeniw’r sector wedi tyfu i fwy na £3.3 biliwn, sef eu lefel uchaf hyd yma, hyd yn oed cyn cyfrif llwyddiannau unigol stiwdios cynhyrchu sydd ym mherchnogaeth lwyr y BBC, ITV a Channel 5. Er mai comisiynau gan ddarlledwyr yn y DU oedd y rhan fwyaf o’r refeniw hwnnw, mae refeniw rhyngwladol (comisiynau gan ddarlledwyr tramor a gwasanaethau ffrydio) yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r ffrwd refeniw hon wedi cynyddu’n gyflym ers canol y degawd diwethaf, ac yn 2019 roedd yn fwy na £1 biliwn am y tro cyntaf.

Er gwaethaf yr heriau amlwg a ddaeth yn sgil y pandemig COVID-19, roedd refeniw’r sector yn gadarn yn 2020. Wedi’i hwyluso gan Gynllun Ailddechrau Cynyrchiadau Ffilm a Theledu’r Llywodraeth sydd gyda’r gorau yn y byd,dim ond 14% oedd y gostyngiad, i £2.9 biliwn, sef y trydydd ffigur uchaf. Mae’r sector wedi ailgodi’n sylweddol ac mae hynny’n dystiolaeth o ba mor gadarn a deinamig yw sector cynhyrchu’r DU.

Yn unol ag uchelgais y llywodraeth i godi’r gwastad yn y Deyrnas Unedig, mae cynhyrchu y tu allan i Lundain wedi cynyddu’n sylweddol dros y degawd diwethaf. Mae’r tueddiad hwn wedi cael ei sbarduno’n bennaf gan ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, sydd bellach yn gwneud dros hanner eu cynnwys y tu allan i Lundain. Mae canolfannau cynhyrchu ffyniannus wedi datblygu ar draws y DU. Mae’r BBC ac ITV eisoes wedi sefydlu clwstwr cyfryngau bywiog yn MediaCityUK yn Salford lle mae rhaglenni cenedlaethol mawr, gan gynnwys BBC Breakfast a Coronation Street, yn cael eu gwneud a’u darlledu. Yn yr un modd, mae Caerdydd wedi dod yn un o ganolfannau cyfryngau mwyaf y DU y tu allan i Lundain, gan gynnal BBC Cymru Wales, ITV Wales a’r darlledwr Cymraeg S4C.

Nid yw’r twf hwn wedi’i gyfyngu i deledu. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae radio byw hefyd wedi cael ei gryfhau gan ddatblygiad sector cynhyrchu annibynnol bach – ond deinamig. Mae’r cwmnïau hyn yn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y BBC a radio masnachol, ac yn ychwanegu at bresenoldeb cynyddol cynnwys sain o’r DU ar bodlediadau a llwyfannau sain eraill.

1.5. Edrych tua’r dyfodol

Mae cyfraniad y diwydiannau creadigol at economi’r DU wedi cynyddu’n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf –bron i 50% rhwng 2010 a 2019. Mae nifer y bobl maen nhw’n eu cyflogi wedi cynyddu mwy na thraean ers 2011. Rydym ni eisiau gweld y tueddiadau hyn yn parhau, ac mae ein sector darlledu byd-enwog – sy’n rhan allweddol o’r economi greadigol – yn mynd o nerth i nerth.

Cafodd y cryfder hwn ei gydnabod yn y ‘Cynllun ar gyfer Twf’, a oedd yn nodi’r diwydiannau creadigol fel un o’r prif sectorau i sbarduno twf y wlad ar ôl y pandemig. Drwy ddatblygu Gweledigaeth ar gyfer y Sector, byddwn yn sefydlu ein gweledigaeth ar y cyd rhwng llywodraeth a diwydiant gyfer y sector hyd at 2030. Bydd y strategaeth hon yn sicrhau bod pob rhan o’r diwydiannau creadigol yn parhau i chwarae rhan ganolog yn y gwaith o fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd masnachu a buddsoddi byd-eang, cyrraedd ein targedau sero net, a chodi’r gwastad yn y wlad.

Mae radio a theledu yn dal yn gyfryngau cryf sy’n cael eu gwerthfawrogi yn y DU, ac maen nhw’n darparu llawer o werth i’r cyhoedd. Fel y nodwyd uchod, mae 89% o’r boblogaeth yn gwrando ar y radio bob wythnos, sef ffigwr sydd wedi aros yn hynod o gyson dros y ddegawd diwethaf. Yr amser a dreulid yn gwylio teledu llinol oedd 2 awr, 33 munud y dydd ym mis Mawrth 2022, gyda gwylwyr yn parhau i droi at ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gael newyddion dibynadwy a rhaglenni gwreiddiol o ansawdd uchel.

Credwn y bydd hyn yn parhau’n wir ymhell i’r degawd nesaf. Mae’r amcanestyniadau gwrando a baratowyd ar gyfer yr Adolygiad Sain a Radio Digidol yn ddiweddar yn dangos y bydd gan radio rôl ganolog yng nghyfryngau’r DU am o leiaf y 10-15 mlynedd nesaf. Ac er bod bron i hanner oedolion y Du bellach yn ystyried mai gwasanaethau fideo ar-lein yw eu prif ffordd o wylio teledu a ffilmiau,mae 17.3 miliwn o gartrefi yn tanysgrifio i deledu daearol digidol drwy erial, mae 8.4 miliwn o gartrefi yn tanysgrifio i deledu lloeren ac mae gan 3.9 miliwn danysgrifiad teledu cebl.

Mae’r sector darlledu wedi gweld newid sylweddol, ac nid yw’r gyfradd o newid pellach yn debygol o arafu wrth i ni edrych ymlaen at y degawd hwn a thu hwnt. Roedd cyfanswm y tanysgrifiadau i wasanaethau fideo-ar-alwwedi cyrraedd 31 miliwn yn ail hanner 2020, sef 54% yn uwch ers y flwyddyn flaenorol. Ac yn drawiadol, dywedodd 42% o ddefnyddwyr y gwasanaethau hynny eu bod yn gallu dychmygu peidio â gwylio teledu wedi’i ddarlledu o gwbl ymhen 5 mlynedd, gan godi i bron i hanner (46%) pobl ifanc 18-34 oed.

Mae’r tueddiadau hyn yn glir ac yn annhebygol o gael eu gwrthdroi. Ond cymaint ag y maen nhw’n creu heriau, maen nhw hefyd yn creu cyfleoedd – i ddarparu gwasanaethau newydd i wylwyr a gwrandawyr. I gadw cynulleidfaoedd yn ogystal â denu rhai newydd o bob cwr o’r byd.

Bydd y cynigion a nodir yn y papur gwyn hwn yn helpu darlledwyr o Brydain i fynd i’r afael â’r heriau hynny, gan sicrhau llwyddiant parhaus ein hecoleg gymysg, gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ganolog i’n cynlluniau.

Pennod 2: Sicrhau bod ein darlledwyr sy’n eiddo cyhoeddus yn gallu parhau i ffynnu

Mae’r DU yn elwa o chwe darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, ac mae pob un ohonynt yn annibynnol yn weithredol ac yn olygyddol ar y llywodraeth. Mae tri yn eiddo cyhoeddus. Mae’r darlledwyr hynny – y BBC, Channel 4 a’r darlledwr Cymraeg S4C – yn amrywio o ran eu maint, eu cylch gwaith a’u modelau cyllido. Bydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus preifat y DU – ITV, STV a Channel 5 – yn cael eu trafod ym Mhennod 3.

Rydym eisiau i’r holl ddarlledwyr hynny barhau i greu cynnwys gwreiddiol o ansawdd uchel, y mae pobl ledled y DU yn ei garu, yn ymddiried ynddo ac yn dysgu ohono. Rydym hefyd eisiau iddynt fod ar flaen y gad o ran datblygiadau ar gyfer cael y cynnwys hwnnw o flaen cynulleidfaoedd. Fodd bynnag, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu sefydlu i gyflawni hyn, mae rhai newidiadau penodol y mae angen i ni eu gweld gan ein darlledwyr sy’n eiddo cyhoeddus.

Mae’r BBC yn sefydliad cenedlaethol gwych. Dros y 100 mlynedd diwethaf, mae wedi cyffwrdd â bywydau bron pawb yn y DU ac wedi gwneud cyfraniad unigryw i’n treftadaeth ddiwylliannol. Mae hefyd yn cael ei barchu’n fyd-eang, ac mae’n cyrraedd cannoedd o filiynau o bobl ledled y byd bob wythnos. Nid oes gan yr un wlad arall yn y byd ddim byd tebyg.

Mae’r BBC hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi’r economi greadigol ledled y DU, ac mae’n gwneud cyfraniad economaidd sylweddol ar draws pob un o wledydd a rhanbarthau’r DU drwy ei wariant a’i weithgareddau ehangach. Mae pob £1 o weithgaredd economaidd uniongyrchol y BBC yn cynhyrchu £2.63 yn yr economi, ac mae tua hanner effaith economaidd y BBC y tu allan i Lundain. Mae’r BBC hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ecosystem darlledu gwasanaeth cyhoeddus ehangach y DU, gan gynnwys drwy gomisiynu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus unigryw a datblygu talent a sgiliau o gymunedau ledled y DU.

Mae’r BBC wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd yn y DU, ac wedi gwasanaethu miliynau o bobl yn fyd-eang, ers 1922. Ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant, mae’r llywodraeth nid yn unig eisiau dathlu llwyddiannau’r BBC dros y 100 mlynedd diwethaf, ond hefyd eisiau edrych tua’r dyfodol a chymryd hyn fel cyfle priodol i ymgymryd â diwygiadau pellach a all sicrhau dyfodol y BBC yn y degawdau i ddod. Mae angen i’r BBC edrych tua’r dyfodol er mwyn iddo allu ymateb i heriau darlledu modern wrth iddo wasanaethu cynulleidfaoedd ar draws y DU. Fel y dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn ei araith gyntaf wrth gymryd ei swydd,, mae’n rhaid i’r BBC fod yn “sefydliad symlach, mwy darbodus” sy’n cynnig “gwerth gwell” i dalwyr ffi’r drwydded. Mae angen i’r BBC hefyd fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â didueddrwydd a meddwl grwpiau, ac er mwyn gwneud hynny mae angen iddo wneud cynnydd sylweddol a chyflym ar ei Gynllun Gweithredu 10 Pwynt ar Ddidueddrwydd a Safonau Golygyddol. Mae Map Diwygio’r llywodraeth yn ystyried bod yr Adolygiad o’r Siarter Canol Tymor a’r Adolygiad o’r Model Cyllid sydd ar y gweill yn ddwy garreg filltir allweddol wrth baratoi ar gyfer Adolygiad nesaf y Siarter. Bydd yr agenda hon yn sicrhau bod y BBC yn gallu parhau i ffynnu a bod yn esiampl fyd-eang am ddegawdau i ddod.

Dechreuodd Corfforaethol Deledu Channel Four ddarlledu yn 1982. Mae’n gorfforaeth gyhoeddus sy’n ei hariannu ei hun, mae’n eiddo cyhoeddus ond mae’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o’i hincwm drwy hysbysebu. Mae Channel 4 yn rhan annatod o’n system darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae’n cyfrannu at economi greadigol y DU ac yn creu rhaglenni hwyliog, beiddgar a phryfoclyd y mae amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd yn eu mwynhau. Ond mae wedi’i gyfyngu mewn modd unigryw o ran ei allu i wynebu heriau’r dirwedd cyfryngau sy’n newid o dan ei fodel gweithredu a pherchnogaeth presennol. Rhoddir cyfrif am ei fenthyciadau fel benthyciadau sector cyhoeddus a sgoriau yn erbyn dyled net y sector cyhoeddus. Ni all gael refeniw sylweddol o gynhyrchu oherwydd ei statws darlledwr-cyhoeddwr, sy’n gwahardd Channel 4 gan mwyaf rhag cynhyrchu ei chynnwys ei hun – a chyfyngu ar refeniw o werthu hawliau eilaidd. Yn y cyd-destun y mae Channel 4 yn gweithredu ynddo, sydd wedi esblygu’n sylweddol ac yn parhau i esblygu, mae’r cyfyngiadau hyn yn llesteirio ei gallu i dyfu a llwyddo. Gallai llacio’r cyfyngiadau hyn o fewn perchnogaeth gyhoeddus arwain at fwy o ddyled net yn y sector cyhoeddus a risg i’r llywodraeth ac, yn y pen draw, i’r trethdalwr, os na allai Channel 4 wasanaethu dyled ychwanegol neu os byddai ei sefyllfa ariannol yn dirywio. Felly, o ystyried cyflymder y newid yn nhirwedd y cyfryngau a phwysigrwydd diogelu safle unigryw Channel 4 ynddo, roedd y llywodraeth wedi ymgynghori ar y model gweithredu a pherchnogaeth gorau i sicrhau cynaliadwyedd Channel 4 yn y dyfodol. Trafodir ymateb y llywodraeth hon i’r ymgynghoriad hwnnw yn adran 2.4.

Mae gan y DU hefyd nifer o ddarlledwyr sy’n gwasanaethu cynulleidfaoedd ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol y DU. Mae S4C, a ddechreuodd ddarlledu yn 1982, yn darparu ystod eang o gynnwys Cymraeg ar draws llwyfannau traddodiadol a digidol i wylwyr yng Nghymru, gan chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg. MG ALBA yw gwasanaeth cyfryngau Gaeleg y DU, gyda’r cylch gwaith o sicrhau bod ystod eang ac amrywiol o raglenni o ansawdd uchel yn yr Aeleg ar gael i bobl yn yr Alban. Mae’n gwneud cyfraniad hynod o werthfawr at fywydau a lles siaradwyr Gaeleg ledled yr Alban a’r DU yn gyffredinol, gan gynnwys drwy ei bartneriaeth â’r BBC i ddarparu BBC ALBA.

Mae gan y llywodraeth rôl bwysig i’w chwarae wrth i ni edrych ar sicrhau bod ein darlledwyr sy’n eiddo cyhoeddus yn parhau i fod yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy – gan gydnabod eu cyfraniadau sylweddol at fywyd ym Mhrydain ar yr un pryd â bod yn ymwybodol o’r ffaith y gallai newidiadau fod yn angenrheidiol os ydynt am barhau i ffynnu. Mae’r bennod hon yn nodi cynigion y llywodraeth ar gyfer y newid hwn.

2.1. Setliad Ffi’r Drwydded a Diwygio’r BBC

Mae’r BBC yn cael ei ariannu gan ffi’r drwydded, a gyflwynwyd yn gyntaf fel ffi’r drwydded ddi-wifr yn 1923. Daeth hyn yn ffi’r drwydded deledu a radio yn 1946, a oedd yn costio £2 am un sianel. Mae allbwn y BBC, a ffi’r drwydded, wedi esblygu’n aruthrol ers hynny, o ychwanegu’r atodiad teledu lliw yn 1964 i gau’r bwlch o ran iPlayer yn 2016.

Ar 17 Ionawr, cyhoeddodd y llywodraeth y Setliad Ffi’r Drwydded hyd at ddiwedd cyfnod presennol y Siarter. Bydd pris y drwydded deledu yn aros yn £159 am ddwy flynedd, cyn codi yn unol â chwyddiant o fis Ebrill 2024 ymlaen. Mae’r llywodraeth yn credu y bydd y setliad hwn yn rhoi’r arian sydd ei angen ar y BBC i gyflawni ei genhadaeth a’i ddibenion cyhoeddus yn effeithiol, gan sicrhau ein bod yn cefnogi aelwydydd drwy gyfnod anodd.

Mae Setliad Ffi’r Drwydded yn rhoi sicrwydd i’r BBC ynghylch ei gyllid dros weddill cyfnod y Siarter. Gan edrych ymlaen, mae’r llywodraeth hefyd am weld y BBC yn cymryd camau i ddiwygio dros y chwe blynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau i wella ei didueddrwydd, sy’n ganolog i Genhadaeth y BBC ac i gynnal ymddiriedaeth gyda chynulleidfaoedd. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym yn croesawu Cynllun Gweithredu 10 Pwynt ar Ddidueddrwydd a Safonau Golygyddol y BBC, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021, sy’n ceisio codi safonau drwy sicrhau bod rhaglenni a chynnwys y BBC yn deg, yn gywir, yn ddiduedd, ac yn adlewyrchu’r cyhoedd yn y DU. Ochr yn ochr â hyn, mabwysiadodd y BBC ganfyddiadau Adolygiad Serota o lywodraethu a diwylliant y BBC yn llwyr. Er bod y Cynllun Gweithredu yn ddechrau da, mae angen gwneud newidiadau ac mae angen eu cyflawni.

Er mwyn dangos cefnogaeth y llywodraeth i agenda ddiwygio ehangach y BBC, rydym wedi cytuno’n ddiweddar i ddiweddaru’r Cytundeb Fframwaith rhwng y llywodraeth a’r BBC i gynnwys ymrwymiadau diwygio newydd y BBC, ac i sicrhau bod y Cytundeb Fframwaith yn adlewyrchu’n gywir y rhwymedigaethau a’r cyfrifoldebau newydd y bydd y BBC yn eu cyflawni dros weddill cyfnod y Siarter. Bydd y diweddariadau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

2.2. Adolygiad Canol Tymor o Siarter y BBC

Cam nesaf ein cynllun tuag at ddiwygio’r BBC yw’r Adolygiad o’r Siarter Canol Tymor. Cafodd hyn ei sefydlu gan y Siarter bresennol, ac mae’n arf allweddol y gall y llywodraeth ei ddefnyddio i ystyried a yw’r BBC yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar yr adolygiad, a fydd yn adrodd erbyn 2024 ac yn bwydo i’r broses Adolygu’r Siarter, a fydd yn dechrau yn 2025. Er na fydd yr adolygiad yn edrych ar faterion cyllido a ffi’r drwydded y BBC, bydd yn ystyried a yw’r trefniadau llywodraethu a rheoleiddio presennol yn gweithio’n effeithiol, neu a oes angen rhagor o ddiwygio.

Rydym yn ymgynghori â’r BBC, Ofcom a’r gweinyddiaethau datganoledig wrth benderfynu ar gwmpas a Chylch Gorchwyl yr adolygiad. Mae gan y llywodraeth ddiddordeb yn effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC o ran galluogi cynnydd mewn perthynas â’n huchelgais i fod yn fwy diduedd, i gael mwy o atebolrwydd am ei safonau golygyddol gan gynnwys delio â chwynion, ac i sicrhau bod y BBC yn cynrychioli ehangder y gynulleidfa y cafodd ei sefydlu i’w gwasanaethu. Nid yw hyn yn ymwneud â pha mor dda mae’r BBC yn perfformio – rydym hefyd eisiau edrych ar effeithiolrwydd y fframwaith y mae Ofcom yn ei ddefnyddio i ddal y BBC i gyfrif. Wrth wneud hynny, byddwn yn ystyried canfyddiadau Ofcom o’i adolygiad o reoleiddio’r BBC yn y dyfodol.

Byddwn yn nodi rhagor o fanylion yn ystod y misoedd nesaf.

2.3. Adolygiad o Gyllid y BBC

Gan edrych ymhellach ymlaen ar hyd y map ar gyfer diwygio’r BBC, mae angen i ni ystyried dyfodol model cyllido’r BBC. Y tro diwethaf i’r llywodraeth adolygu model ffi drwydded yn 2015/16, roedd yn cydnabod bod nifer o anfanteision i ffi’r drwydded, ond daeth i’r casgliad mai dyma oedd y model cyllido mwyaf priodol i’r BBC ar gyfer y cyfnod Siarter hwn.

Fodd bynnag, mae’r sector darlledu’n parhau i newid yn gyflym. Fel y nodir yn fwy manwl ym Mhennod 1, mae technoleg wedi gweddnewid sut, pryd a ble y gall cynulleidfaoedd gael gafael ar gynnwys a’i wylio. Mae mwy a mwy o aelwydydd yn dewis peidio â dal trwydded deledu, gan fod llai o bobl yn dewis gwylio teledu byw neu weithgareddau eraill sydd angen trwydded deledu.

Os bydd y duedd hon yn parhau yn ôl y disgwyl, mae heriau amlwg ar y gorwel o ran cynaliadwyedd ffi’r drwydded. Er enghraifft, os bydd yn rhaid i lai o aelwydydd ddal trwydded deledu, a bod dymuniad i gynnal lefel ariannu bresennol y BBC, yna byddai’n rhaid i bris ffi’r drwydded gynyddu, yn sylweddol o bosibl, i’r aelwydydd hynny sy’n dal i orfod dal trwydded deledu.

Mae’r llywodraeth hefyd yn dal i bryderu bod ffi’r drwydded yn cael ei gorfodi gan sancsiynau troseddol, sy’n fwyfwy anghymesur ac annheg ym marn y llywodraeth mewn system ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus fodern. Rydym yn arbennig o bryderus, ar ôl i’r consesiwn trwydded deledu am ddim i bobl dros 75 oed ddod i ben, y gallai camau gorfodi ffi’r drwydded gael eu cymryd yn erbyn pobl hŷn a bregus. Mae’r llywodraeth hefyd yn ystyried bod y gwahaniaeth parhaus yng nghyfran y sancsiynau yn erbyn menywod yn annheg, gan mai menywod oedd 74% o’r bobl a gafwyd yn euog o beidio â thalu trwydded deledu yn 2019.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o wledydd wedi newid modelau cyllido eu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gan feddwl am heriau tebyg, a byddwn ninnau yn gallu fanteisio ar eu profiadau. Ar yr un pryd, mae’r BBC yn sefydliad unigryw yn fyd-eang. Felly, mae angen nodi dull gweithredu unigryw sy’n gweithio orau ar gyfer cynaliadwyedd parhaus y BBC wrth iddo barhau i wasanaethu’r DU gyfan.

Mae’r llywodraeth eisiau gweld y BBC yn parhau i lwyddo, a dyna pam mae angen i ni ystyried y mecanwaith cyllido mwyaf teg a phriodol i’w gyflwyno ar ddiwedd cyfnod presennol y Siarter. Rydym am weld y BBC yn parhau i chwarae ei rôl bwysig yn cynhyrchu rhaglenni grymus, gan gyfrannu at ein diwydiannau creadigol ffyniannus, a chefnogi miloedd o swyddi ledled y DU. Rydym hefyd eisiau gweld y BBC yn parhau i ddarparu newyddion diduedd o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd byd-eang drwy’r World Service, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan ffi’r drwydded ar hyn o bryd, ac yn rhannol drwy drethiant cyffredinol. At hynny, rydym eisiau sicrhau bod S4C, sy’n cael ei holl arian cyhoeddus o incwm ffi’r drwydded, yn parhau i gael lefel gynaliadwy a rhagweladwy o gyllid.

Felly, bydd y llywodraeth yn cynnal adolygiad o fodel cyllido ffi’r drwydded cyn cyfnod nesaf y Siarter, ac rydym yn bwriadu nodi cynlluniau manylach ar gyfer yr adolygiad hwnnw yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd y llywodraeth hefyd yn parhau i gefnogi’r BBC i arallgyfeirio ei ffrydiau incwm, gan fod yn fwy llwyddiannus yn fasnachol ac yn llai dibynnol ar ffi’r drwydded. Yn ddiweddar, cytunodd y llywodraeth i gynyddu terfyn benthyca masnachol y BBC o £350 miliwn i £750 miliwn, hyd nes y cytunir ar fecanweithiau goruchwylio priodol, a hynny er mwyn cefnogi’r BBC i gael gafael ar gyfalaf a buddsoddi mewn cynlluniau twf uchelgeisiol.

2.4. Dyfodol cynaliadwy i Channel 4

Mae Channel 4 yn rhan annatod o’n system darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae’n cyfrannu at economi greadigol y DU ac yn creu rhaglenni hwyliog, beiddgar a phryfoclyd y mae amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd yn eu mwynhau.

Mae Channel 4 wedi gwneud gwaith ardderchog yn cyflawni ei dibenion gwreiddiol – gan roi mwy o ddewis i gynulleidfaoedd, a chefnogi’r sector cynhyrchu ym Mhrydain. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae cynhyrchu annibynnol yn y DU yn ffynnu erbyn hyn, gyda chwmnïau’n dibynnu llai ar Channel 4 am gomisiynau. Nid yw dewis yn broblem mwyach, mewn byd o setiau teledu clyfar a ffyn ffrydio, a gwasanaethau dal-i-fyny ac ar-alw.

Mae Channel 4 yn darparu cynnwys sy’n fasnachol lwyddiannus ac sy’n apelio’n benodol at gynulleidfaoedd ifanc a gwerthfawr, sy’n sail i’w frand unigryw. Fodd bynnag, mae’r farchnad y mae’n gweithredu ynddi wedi newid yn sylweddol ac mae’n parhau i newid. Felly, ni all sefyllfa ariannol bresennol y cwmni a’i rhagolygon tymor byr fod yn unig ffocws i ni. Nid yw ei berfformiad hanesyddol yn gwarantu ei gynaliadwyedd yn y dyfodol – rhaid i ni dalu sylw i’r rhagolygon tymor hir hefyd ac ystyried pa offer fydd eu hangen er mwyn llwyddo yn y dyfodol.

Fel sy’n wir am ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill, mae Channel 4 yn wynebu cystadleuaeth gynyddol am gynulleidfaoedd, rhaglenni a thalent, gan ddarparwyr fideo-ar-alw byd-eang newydd sydd â mwy o bŵer gwario. Mae cynulleidfaoedd yn fwyfwy tebygol o wylio cynnwys ar lwyfannau aflinol fel gwasanaethau fideo-ar-alw. Er bod gwylio dyddiol yn cynyddu ar y cyfan, gan godi o 4 awr 49 munud yn 2017 i 5 awr 40 munud yn 2020, gostyngodd holl gyfran gwylio teledu llinol o 74% yn 2017 (3 awr 33 munud) i 61% yn 2020 (3 awr 27 munud). Ar yr un pryd, roedd cyfran gwasanaethau tanysgrifio fideo-ar-alw o gyfanswm y fideo wedi cynyddu o 6% yn 2017 (18 munud) i 19% yn 2020 (1 awr 5 munud). Hefyd, mae’r farchnad hysbysebu ar y teledu wedi newid yn sylweddol, gyda gwariant ar hysbysebu teledu llinol, sef 74% o refeniw Channel 4 yn 2020, yn gostwng yn sylweddol yn y degawd diwethaf o blaid digidol. Roedd refeniw hysbysebu teledu llinol wedi gostwng 31% ar draws y sector rhwng 2015 a 2020. Rydym yn rhoi rhagor o fanylion am y cyd-destun newidiol y mae Channel 4 yn gweithredu ynddo yn y sail resymegol i’r penderfyniad a’r dadansoddiad o’r effaith ar werthiant a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r papur gwyn hwn.

Ym marn y llywodraeth, mae model perchnogaeth gyhoeddus Channel 4 yn cyfyngu ar ei allu i ymateb i heriau a chyfleoedd y farchnad ddarlledu newidiol hon yn y tymor hir. Dyna pam rydym wedi ymgynghori ynghylch y ffordd orau o sicrhau ei llwyddiant a’i chynaliadwyedd yn y dyfodol fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus. Ein casgliad ni yw mai nawr yw’r amser iawn i’r llywodraeth fynd ar drywydd newid perchnogaeth Channel 4. Mae angen i ni sicrhau bod Channel 4 yn gallu parhau i ffynnu a thyfu am flynyddoedd i ddod fel rhan o’r ecoleg darlledu gwasanaeth cyhoeddus ehangach yn y DU.

Rydym ar drobwynt unigryw. Mae Channel 4 wedi cyflawni ei chenhadaeth wreiddiol a nawr mae cyfrifoldeb ar y llywodraeth i gymryd golwg tymor hir. Credwn y bydd y buddsoddiad mewn cynnwys a thechnoleg sydd ei angen i lwyddo yn y dirwedd cyfryngau hon sy’n newid yn gyflym yn cael ei gyflawni ar raddfa fwy ac yn gyflymach dan berchnogaeth breifat, gyda chefnogaeth cyfalaf sector preifat, yn hytrach na gofyn i’r trethdalwr ysgwyddo’r risg gysylltiedig. Mae gennym gyfle i wneud Channel 4 yn fwy ac yn well heb golli’r hyn sy’n ei gwneud mor unigryw. Mae Channel 4 yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus, a bydd yn parhau felly, yn union fel darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus llwyddiannus eraill – ITV, STV, Channel 5 – sydd eisoes dan berchnogaeth breifat. Mae newid perchnogaeth Channel 4 yn rhan o ddiwygiadau darlledu ehangach y llywodraeth i gefnogi pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol, fel y nodir mewn rhannau eraill o’r ddogfen hon.

Mae Channel 4 ei hun wedi nodi ei bod eisiau ac angen tyfu. Rydym yn croesawu’r uchelgais honno, ac er mwyn ei chyflawni bydd angen i Channel 4 fuddsoddi ac arloesi, a hynny fwy ac yn gyflymach. Yn yr un modd â phob darlledwr arall yn y sector cyhoeddus, mae angen iddi allu cynhyrchu a rheoli ei chynnwys ei hun. Bydd cael mwy o fynediad at gyfalaf, a’r gallu i gynhyrchu a gwerthu ei gynnwys ei hun yn rhoi’r amrywiaeth orau o adnoddau i Channel 4 er mwyn cyflymu a rhyddhau ei photensial.

Gall hyn ei galluogi i greu mwy o raglenni gwych sy’n cael eu gwneud gan bobl sy’n byw ac yn gweithio ledled y DU. Gall ganiatáu iddi fuddsoddi mwy mewn technoleg i’w gwneud yn haws, yn gyflymach ac yn fwy difyr i wylio cynnwys Channel 4. Gall alluogi Channel 4 i feddwl yn wirioneddol fawr o ran esblygiad nesaf ei strategaeth a’i model busnes er mwyn ei helpu i arwain y ffordd o ran diffinio ‘beth nesaf’ yn y farchnad deledu fyd-eang.

Nid yw hwn yn benderfyniad y mae’r llywodraeth wedi’i wneud yn ysgafn. Cynhyrchodd ein hymgynghoriad 56,293 o ymatebion – gan gynnwys 40,411 o ymatebion i’r ymgyrch, 15,727 o ymatebion unigol, a 155 o ymatebion gan sefydliadau, grwpiau ymgyrchu neu randdeiliaid sector – ac mae teimladau cryf am y mater hwn. Mae’r llywodraeth wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ac wedi edrych ar ystod eang o opsiynau eraill y tu allan i newid perchnogaeth. Mae’r crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gawsom, ein hymateb, a’r sail resymegol i’r penderfyniad a’r dadansoddiad o’r effaith ar werthu wedi cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r ddogfen hon.

Rydym yn cydnabod nad oedd nifer sylweddol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cytuno bod heriau yn y farchnad darlledu teledu bresennol yn cyflwyno rhwystrau rhag sicrhau bod Channel 4 yn gynaliadwy o dan berchnogaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, fel y nodir uchod, rhaid i ni roi sylw i’r rhagolygon tymor hir ar gyfer Channel 4 a sicrhau bod yr ystod orau o offer ar gael ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Credwn y bydd newid perchnogaeth yn darparu hyn.

Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd ynghylch yr effeithiau y gallai dileu’r cyfyngiad cyhoeddwr-ddarlledwr (sydd mewn gwirionedd yn gwahardd Channel 4 rhag cynhyrchu ei chynnwys ei hun) eu cael ar y sector cynhyrchu annibynnol. Fodd bynnag, nid ydym yn cytuno â’r rhai sydd wedi dadlau bod angen cadw’r cyfyngiad er mwyn i’r sector barhau i lwyddo. Mae refeniw’r sector cynhyrchu annibynnol wedi tyfu o £500 miliwn yn 1995 i £2.9 biliwn yn 2020, ac roedd cyfraniad comisiynau darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus at refeniw’r sector wedi gostwng o 58% yn 2010 i 41% yn 2020, yn rhannol oherwydd twf refeniw comisiynu rhyngwladol. O’r £2.9 biliwn o refeniw sector yn 2020,roedd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn gyfrifol am £1.2 biliwn, gyda Channel 4 yn gwario £210 miliwn ar gomisiynau allanol, llai na phob un o’r BBC (£508 miliwn) ac ITV (£356 miliwn), sydd ill dau â’u stiwdios cynhyrchu mewnol eu hunain. Er bod Channel 4 felly’n dal i chwarae rhan bwysig, mae’r sector yn elwa fwyfwy o gomisiynau o ffynonellau eraill a gall barhau i ffynnu heb gyfyngiad y cyhoeddwr-ddarlledwr ar Channel 4. Bydd y llywodraeth yn dileu’r cyfyngiad hwn er mwyn galluogi Channel 4 i arallgyfeirio ei ffrydiau refeniw i gynnwys a gwella ei chadernid busnes. Bydd yn dal yn ofynnol i Channel 4 gomisiynu nifer sylfaenol o’i rhaglenni gan gynhyrchwyr annibynnol, yn unol â’r cwotâu sydd wedi’u gosod ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill, gan sicrhau ei fod yn parhau i gyfrannu at y sector.

Dadleuwyd hefyd y bydd y newidiadau hyn yn arwain at ostyngiad mewn refeniw o gomisiynau sylfaenol ar gyfer cynhyrchwyr bach a chanolig eu maint. Mae gan Channel 4 berthynas ragorol â chynhyrchwyr annibynnol ledled y DU ac nid oes unrhyw reswm pam y dylai hyn newid – mae ei waith gyda’r diwydiannau creadigol hyn wedi’i gwneud yn llwyddiant heddiw, a rhan o’i fodel busnes yw cynhyrchu cynnwys mentrus sy’n siarad â chynulleidfaoedd ledled y DU. Felly, rydym yn disgwyl i berchennog newydd fod eisiau tyfu a datblygu’r perthnasoedd hynny, hyd yn oed wrth iddo ddechrau cynhyrchu a gwerthu ei gynnwys ei hun. Bydd cefnogaeth barhaus y llywodraeth i’r sector cynhyrchu annibynnol yn seiliedig ar ddiogelu a diweddaru’r drefn ‘telerau masnach’ a’r cwotâu cynhyrchu annibynnol cysylltiedig sy’n berthnasol i bob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus. Rydym yn edrych yn fanylach ar hyn ym Mhennod 4.

Mae’r llywodraeth hefyd yn cydnabod ymrwymiad Channel 4 i godi’r gwastad, a’i chefnogaeth i economïau cenedlaethol a rhanbarthol. Bydd dyletswyddau presennol Channel 4 o ran cynyrchiadau rhanbarthol, a chynyrchiadau y tu allan i Loegr, yn cael eu cynnal. Rydym yn disgwyl i fynediad Channel 4 at rwydweithiau y tu allan i Lundain, a’i allu i siarad ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd ledled y DU, fod yn ased deniadol y bydd unrhyw brynwr posibl yn ceisio’i feithrin a’i ddatblygu. Yn wir, nid oes unrhyw reswm pam na allai gwerthiant gyflymu’r broses o gynyddu effaith y darlledwr y tu allan i Lundain.

Mae’r llywodraeth yn cydnabod effaith sylweddol a pharhaus buddsoddiad Channel 4 yn sector ffilm y DU. Mae gan Film4 frand unigryw a hanes llwyddiannus o gyflwyno ffilmiau llwyddiannus sydd wedi ennill gwobrau Oscar y gallai llawer o brynwyr posibl eu hystyried yn gaffaeliad.

Nid yw’r llywodraeth yn credu bod perchnogaeth breifat yn gorfod bod yn niweidiol i les y cyhoedd. Nid dewis rhwng dau mohono, a bydd y perchennog iawn yn darparu mwy o fuddsoddiad, ac yn cefnogi rôl Channel 4 o ran sicrhau lles y cyhoedd. Mae rhai pobl yn poeni y bydd perchennog preifat yn gwneud newidiadau sylfaenol i’r hyn mae Channel 4 yn ei wneud, a sut mae’n gweld ei lle yn nheulu’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Er nad yw’n bosibl rhagweld yn union sut y byddai unrhyw brynwr penodol yn gweithredu ei rwymedigaethau yn y dyfodol, byddem yn disgwyl i brynwyr weld gwerth mewn gwneud penderfyniadau sy’n parhau i sicrhau canlyniadau yn unol â’r hyn a welwn heddiw, gan eu bod yn gysylltiedig â brand Channel 4.

Y perchennog cywir ar gyfer Channel 4 fydd un sy’n rhannu ein huchelgais ar gyfer y busnes a’n cred yn yr hyn sy’n golygu ei bod yn sianel arbennig. Bydd y llywodraeth yn mynnu bod y perchennog newydd hwn yn glynu wrth ymrwymiadau parhaus, tebyg i’r rhai sydd gan Channel 4 heddiw, gan ganiatáu i Channel 4 addasu a thyfu, a chadw ei llais unigryw ar ein sgriniau am flynyddoedd i ddod. Bydd hyn yn cynnwys cadw ei gylch gwaith i ddarparu rhaglenni gwahanol, addysgol, arloesol ac arbrofol sy’n cynrychioli hyd a lled cymdeithas. Bydd hefyd yn cynnwys rhwymedigaethau cyfatebol ar gyfer darpariaeth newyddion a materion cyfoes, i ddangos rhaglenni gwreiddiol, ac i barhau i wneud rhaglenni y tu allan i Lundain a ledled y DU. Yn benodol, byddwn yn disgwyl i Channel 4 o dan berchnogaeth newydd barhau i weithio gyda chwmnïau cynhyrchu annibynnol ledled y DU. Nid ydym yn ceisio newid y rôl unigryw y mae Channel 4 yn ei chwarae; rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i roi’r set orau o adnoddau iddi i lwyddo yng nghyd-destun y farchnad sy’n dod i’r amlwg.

Bydd cyfleoedd a buddsoddiad newydd, a hwylusir gan newid perchnogaeth, yn ategu cefnogaeth barhaus y llywodraeth i’r economi greadigol (a drafodir ymhellach ym Mhennod 4). Bydd y llywodraeth yn ceisio defnyddio rhywfaint o’r elw o werthu Channel 4 i sicrhau difidend creadigol newydd i’r sector. Bydd y llywodraeth hefyd yn ystyried cyllid ar gyfer y diwydiannau creadigol yn ei gyfanrwydd yn yr Adolygiad o Wariant nesaf.

2.5. Darlledu mewn ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol

Mae gan ddarlledu mewn ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol rôl bwysig i’w chwarae yn ecoleg ddarlledu’r DU, gan ddarparu nid yn unig gyfle i siaradwyr gael gafael ar gynnwys mewn iaith sy’n gyfarwydd iddynt, ond mae hefyd yn ffordd o fynegiant diwylliannol ar gyfer cymunedau ar draws y DU.

Mae gan y llywodraeth hanes cryf o ddangos ei hymrwymiad i ddarlledu mewn ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol. Er enghraifft, mae’r llywodraeth wedi gosod dyletswydd ar ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol fel rhan o ddyletswyddau cyffredinol y BBC o dan Siarter bresennol y BBC, gyda set arall o gyfrifoldebau yn y Cytundeb Fframwaith presennol.

Gallwn fynd ymhellach yn awr. Fel rhan o’r newidiadau i gylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer teledu a ddisgrifir ym Mhennod 3, byddwn am y tro cyntaf yn pwysleisio pwysigrwydd rhaglenni sy’n cael eu darlledu yn ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol cynhenid y DU, drwy gynnwys hynny yn ein cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus newydd ar gyfer teledu.

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo o hyd i helpu S4C i addasu i’r dirwedd cyfryngau sy’n newid ac i barhau’n berthnasol fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus modern annibynnol yn y DU.

Fel y cyhoeddodd y llywodraeth ar 17 Ionawr, mae S4C wedi cael setliad cryf ar gyfer ffi’r drwydded am y chwe blynedd nesaf. Mae hyn yn darparu £88.8 miliwn y flwyddyn am y ddwy flynedd gyntaf, ac yna’n codi yn unol â chwyddiant ar ôl hynny. Mae’n cynnwys ymrwymiad newydd o £7.5 miliwn y flwyddyn i gefnogi datblygiad digidol S4C, gan sicrhau bod arlwy S4C yn parhau’n gynaliadwy yn yr oes ddigidol. Drwy ddarparu amrywiaeth eang o gynnwys yn Gymraeg ar draws llwyfannau traddodiadol a digidol i wylwyr yng Nghymru, mae S4C yn hanfodol i bobl Cymru, a bydd y setliad hwn yn galluogi S4C i barhau i gefnogi economi, diwylliant a chymdeithas Cymru, cyrraedd mwy o siaradwyr Cymraeg gan gynnwys cynulleidfaoedd iau, ac ymrwymiad llywodraeth y DU i gefnogi’r uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gan adeiladu ar y setliad hwn, ac yn unol â’r diwygiadau ehangach a ddisgrifir ym Mhennod 3, byddwn yn diweddaru cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein a dileu’r cyfyngiadau darlledu daearyddol presennol. Bydd y newidiadau hyn yn caniatáu i S4C ehangu ei gyrhaeddiad a chynnig ei gynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau newydd yn y DU a’r tu hwnt. Bydd gan S4C fwy o eglurder ynghylch ei gallu i fuddsoddi a chynhyrchu refeniw masnachol, a bydd y trefniadau archwilio a’r bwrdd unedol newydd, a weithredir yn dilyn adolygiad annibynnol 2017 o S4C, ‘Creu S4C ar gyfer y dyfodol’, yn cael eu hadlewyrchu mewn deddfwriaeth wedi’i diweddaru.

Byddwn hefyd yn deddfu i gefnogi S4C a’r BBC i symud oddi wrth y fframwaith presennol, eithaf llym, sy’n mynnu bod y BBC yn darparu nifer penodol o oriau o raglenni teledu i S4C, er mwyn iddynt allu cytuno gyda’i gilydd ar drefniant amgen sy’n gweddu’n well i’r dirwedd ddarlledu sy’n esblygu a’r newid yn y ffordd y mae pobl yn cael gafael ar gynnwys.

Mae’r llywodraeth yn cydnabod y cyfraniad hynod werthfawr y mae MG ALBA yn ei wneud i fywydau a lles siaradwyr Gaeleg ledled yr Alban a’r DU, gan gynnwys drwy ei bartneriaeth unigryw â’r BBC wrth ddarparu BBC ALBA. Rhaid i bartneriaeth o’r fath sicrhau bod cynnwys Gaeleg amrywiol o ansawdd uchel yn parhau i fod ar gael yn rhwydd fel bod diwylliant Gaeleg yn cael ei ddiogelu yn y blynyddoedd i ddod. Rydym hefyd yn cydnabod bod sicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol yn bwysig i MG ALBA allu darparu ar gyfer siaradwyr Gaeleg.

Mae’r llywodraeth hefyd yn ariannu Cronfa Ddarlledu Gwyddeleg a Chronfa Ddarlledu Sgoteg Ulster i ddarparu cynnwys ieithoedd lleiafrifol o ansawdd uchel ar gyfer cynulleidfa yng Ngogledd Iwerddon ac i gefnogi’r sector cynhyrchu annibynnol yng Ngogledd Iwerddon. Yn dilyn yr ymrwymiad yng nghytundeb gwleidyddol ‘ New Decade New Approach’ yn 2020, darparodd y llywodraeth £2 filiwn o gyllid ychwanegol i gefnogi’r amcanion hyn ymhellach.

Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi ymrwymiadau tymor hir i gefnogi darlledu trawsffiniol ar ynys Iwerddon, gan gynnwys cyllid ar gyfer amlblecs teledu daearol digidol Gogledd Iwerddon sydd wedi cludo gwasanaethau RTÉ a TG4 i Ogledd Iwerddon ers 2012. Byddwn hefyd yn ystyried y cwmpas i sicrhau amlygrwydd gwasanaethau rhanbarthol ac mewn ieithoedd lleiafrifol.

Pennod 3: System newydd o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer oes newydd

Mae system darlledu gwasanaeth cyhoeddus y Deyrnas Unedig ar gyfer teledu gyda’r gorau yn y byd. Drwy bwyso botwm, mae gwylwyr yn gallu cael gafael ar filoedd o oriau o raglenni lleol o ansawdd uchel, boed hynny ar ffurf ffefrynnau’r teledu neu ddramâu a rhaglenni dogfen arloesol newydd. Mae hyn wedi cael ei helpu gan y ffaith bod ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi arwain y ffordd yn fyd-eang yn aml o ran darparu’r cynnwys hwnnw i gynulleidfaoedd. Dechreuodd y BBC gyflwyno iPlayer yn 2005, a chynhaliodd Channel 4 lansiad llawn ar gyfer 4OD – rhagflaenydd All4 – yn 2006, pan oedd Netflix yn dal i fod yn fusnes rhentu DVDs. Mae cynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig wrth eu bodd â chynnwys o Brydain ac mae’n destun edmygedd ledled y byd – a dyma sut mae’r llywodraeth am i bethau fod.

Mae gan gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig fynediad at gannoedd o sianeli teledu, ond dim ond ffracsiwn o’r rhain sy’n sianeli gwasanaeth cyhoeddus. Y prif sianeli gwasanaeth cyhoeddus yw BBC One, BBC Two, Sianel 3 (ITV1 neu STV ar hyn o bryd, yn dibynnu ar y rhanbarth), Channel 4, S4C, a Channel 5.

Mae’r sianeli hyn yn cael eu gweithredu gan ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, sef y BBC, ITV, STV, Channel 4, S4C a Channel 5. Yn rhinwedd eu statws fel darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, mae gan y darlledwyr hyn rwymedigaethau ychwanegol – er enghraifft, darlledu rhywfaint o raglenni newyddion a materion cyfoes. Fodd bynnag, maent hefyd yn cael buddion, gan gynnwys yr hawl i ymddangos yn amlwg ar gyfeiryddion rhaglenni electronig (gweler adran 3.2). Cyfeirir at y cyfnewidiad hwn weithiau fel ‘compact’ darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Yn wahanol i lawer o wledydd eraill yn rhyngwladol, mae’r Deyrnas Unedig yn elwa ar gael nifer o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Fel y nodir ym Mhennod 2, mae rhai yn eiddo cyhoeddus, ac eraill yn eiddo preifat, ond maent i gyd yn gyfrifol am lwyddiant y system gyffredinol. Ac, yn ei dro, mae ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wrth galon sector darlledu bywiog (gweler Pennod 4).

Mae’r bennod hon yn nodi casgliadau adolygiad strategol y llywodraeth o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, a’r camau rydym yn eu cymryd ar unwaith i ddiogelu’r hyn sydd bwysicaf.

3.1. Cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus newydd ar gyfer teledu

Mae adolygiad strategol y llywodraeth wedi bod yn ystyried a yw darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dal yn hanfodol yn oes y cyfryngau modern, ac os felly, sut dylai’r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus gyfrannu at fywyd economaidd, diwylliannol a democrataidd ledled y Deyrnas Unedig.

Mewn ymateb i’r cwestiwn cyntaf, mae’r ateb yn bendant iawn. Mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i fod yn gysylltiedig ag amrywiaeth eang o gynnwys o ansawdd uchel sydd ar gael i wylwyr o bob cefndir ac ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig, ac mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr.

Serch hynny, y tro diwethaf i’r system gael ei diweddaru’n sylweddol oedd yn 2003 – pan oedd darlledu teledu yn dal yn analog yn bennaf, a chyn dyfodiad gwasanaethau fideo-ar-alw a gwasanaethau ffrydio byd-eang. Mae hyn yn golygu, os ydym am i’r system barhau i ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd – yn y degawd nesaf a’r tu hwnt – mae’n hanfodol ei bod yn cael ei diweddaru yng nghyd-destun y tueddiadau a’r datblygiadau diweddaraf yn y sector y rhoddir sylw iddynt ym Mhennod 1.

Mae hyn yn arwain at ail gwestiwn cyffredinol yr adolygiad, sef: beth yw pwrpas system darlledu gwasanaeth cyhoeddus fodern? Credwn fod yr ateb yn syml: sicrhau bod gwylwyr yn dal i allu cael gafael ar amrywiaeth eang o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus am ddim.

Yng nghyd-destun y cylch gwaith newydd hwn, rydym yn cydnabod bod sawl ffurf o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys:

  • Cynnwys sy’n ddiwylliannol berthnasol ac yn adlewyrchu’r Deyrnas Unedig heddiw a’r gwerthoedd sy’n ei diffinio;

  • Cynnwys o bwys economaidd a gynhyrchir gan gynhyrchwyr annibynnol a ledled y Deyrnas Unedig;

  • Cynnwys sy’n cael effaith ddemocrataidd, fel newyddion a materion cyfoes diduedd y gellir ymddiried ynddynt.

O ystyried yr atebion i’r cwestiynau hyn, byddwn yn disodli’r set hen ffasiwn o un deg pedwar o ‘bwrpasau’ ac ‘amcanion’ sy’n gorgyffwrdd y mae’n rhaid i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gyfrannu atynt drwy gael cylch gwaith newydd byrrach, sy’n canolbwyntio ar y pethau maent mewn sefyllfa unigryw i’w cyflawni ac a fyddai’n ein gwneud yn dlotach fel cenedl – yn ddiwylliannol, yn economaidd ac yn ddemocrataidd – pe na baent yn cael eu darparu. Byddwn yn ei gwneud yn gliriach fod yn rhaid i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gyfrannu at y cylch gwaith hwn ac y byddant yn atebol am faint eu cyfraniadau.

Yng ngoleuni’r newidiadau mewn technoleg yr ydym wedi eu gweld er 2003, bydd y llywodraeth yn deddfu i roi mwy o hyblygrwydd i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus o ran sut maent yn cyflawni eu cylchoedd gwaith, gan sicrhau bod pwerau effeithiol ar gael pe bai angen ymyrryd. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws iddynt sicrhau bod eu cynnwys ar gael ar ystod ehangach o lwyfannau am ddim.

Yn ogystal â sicrhau bod cynnwys sy’n fwy diwylliannol berthnasol ac yn adlewyrchu’r Deyrnas Unedig, a’r gwerthoedd rydym yn eu rhannu, yn rhan o’r cylch gwaith newydd fel y disgrifir uchod, byddwn yn ymgynghori ar wreiddio pwysigrwydd y cynnwys Prydeinig unigryw hwn yn uniongyrchol yn y system gwota bresennol. Bydd unrhyw ddull deddfwriaethol a fabwysiadwn yn caniatáu ystyriaeth bellach i sicrhau ei fod yn gymesur ac yn cyflawni ei nod o warantu y bydd cynnwys y gellid bod wedi’i gynhyrchu ar gyfer cynulleidfaoedd Prydain yn unig yn parhau i gael ei gynhyrchu.

Fe fyddwn yn glir fod hyn yn cynnwys rhaglenni sy’n adlewyrchu bywydau a phryderon gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, o Fangor i Bognor a Dunmurry i Dunblane. A byddwn yn cymryd camau i gefnogi darlledu mewn ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn y Deyrnas Unedig (gweler Pennod 2).

Mae’r llywodraeth hefyd yn parhau i gydnabod bod angen i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus gynhyrchu cynnwys y mae pobl eisiau ei wylio ac ymgysylltu ag ef – sioeau sy’n cael eu caru a’u hedmygu nid yn unig gartref, ond ledled y byd. Fel nawr, bydd gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eu cylchoedd gwaith eu hunain ar gyfer sianeli unigol, a fydd yn helpu i sicrhau bod y safonau uchel presennol o ansawdd rhaglenni yn cael eu cynnal, a’u bod yn parhau i gynhyrchu amrywiaeth eang o gynnwys i wylwyr ei fwynhau beth bynnag fo’u chwaeth a’u dewisiadau.

3.2. Sicrhau bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn hawdd dod o hyd iddo a’i wylio

Un agwedd bwysig ar system darlledu gwasanaeth cyhoeddus y Deyrnas Unedig yw sicrhau bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar gael yn rhwydd i gynulleidfa mor eang â phosibl a’i bod yn hawdd dod o hyd iddo.

Er mwyn galluogi hyn, mae deddfwriaeth darlledu yn cynnwys fframwaith “amlygrwydd” sy’n ei gwneud yn hawdd dod o hyd i gynnwys gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr ac i’w wylio. Mae hyn yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar gyfer darlledu llinol drwy reolau a nodir gan Ofcom sy’n effeithio ar safle (rhifau sianeli) sianeli dynodedig pan fyddant yn cael eu defnyddio drwy ganllaw rhaglenni electronig. Mae’r fframwaith cyfreithiol presennol yn gwarantu mai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sy’n gweithredu’r pum sianel gyntaf mae’r cyhoedd ym Mhrydain yn dod ar eu traws pan fyddant yn troi eu setiau teledu ymlaen.

Mae’r fframwaith hwn nid yn unig yn darparu manteision diwylliannol a chymdeithasol pwysig, gan ganiatáu i wylwyr ganfod eu hoff raglenni’n hawdd, ond mae hefyd yn darparu manteision masnachol ac economaidd pwysig i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Mae amlygrwydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rhan hollbwysig drwy hybu amlygrwydd ac ymgysylltiad, sy’n bwysig o ran hysbysebu refeniw a gwerth brand i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu rhaglenni gwreiddiol o ansawdd uchel. Felly, mae’n rhan allweddol o’r compact darlledu gwasanaeth cyhoeddus y cyfeirir ato uchod.

Mae rheolau eraill hefyd yn mynnu bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ‘cynnig’ eu sianeli i lwyfannau teledu sy’n cael eu darlledu, ac mae’n ofynnol ar y rheini wedyn i’w ‘cludo’. Mae’r rheolau hyn gyda’i gilydd yn sicrhau bod llwyfan Freeview a gwasanaethau lloeren a chebl fel Sky a Virgin ar hyn o bryd yn gorfod sicrhau bod sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar gael ar eu llwyfannau.

Fodd bynnag, nid yw’r fframwaith rheoleiddio presennol ar gyfer amlygrwydd, a’r rheolau presennol sy’n ymwneud â’r hyn y mae’n rhaid ei gynnig a’r hyn y mae’n rhaid ei gludo, yn ymestyn i’r gwasanaethau ar-alw sydd gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Oherwydd amrywiaeth o ffactorau sy’n cael eu trafod ym Mhennod 1, fel mwy o gystadleuaeth, mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chael hi’n fwyfwy anodd sicrhau eu presenoldeb ar lwyfannau byd-eang, cynnal eu hamlygrwydd ar y llwyfannau hynny, a sicrhau gwerth teg am y gwasanaethau maent yn eu darparu.

Mae cynulleidfaoedd yn gwylio mwy a mwy o gynnwys ar-lein, ac mewn llawer o achosion maent yn osgoi llwyfannau dosbarthu traddodiadol yn gyfan gwbl. Mae’r tueddiadau hyn yn debygol o gyflymu ymhellach, gan greu heriau i gynaliadwyedd tymor hir y system darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Os nad yw darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn cael amlygrwydd digonol ar-lein, bydd perygl hefyd i’n hymrwymiad hirsefydlog i sicrhau bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar gael yn eang ac yn hawdd dod o hyd iddo.

Fel yr eglurodd Pwyllgor Dethol yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ei adroddiad ar ddyfodol Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, mae angen cymryd camau cyflym i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn rhwng llwyfannau teledu traddodiadol a rhai newydd. Gan adeiladu ar yr argymhellion a wnaed gan Ofcom yn 2019 a 2021, byddwn yn cyflwyno trefn amlygrwydd newydd ar gyfer teledu ar-alw. Bydd hyn yn sicrhau bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar gael ac yn hawdd dod o hyd iddo ar lwyfannau teledu dynodedig. Mae hyn yn cynnwys cydnabyddiaeth briodol ar gyfer perthnasedd unigryw’r cynnwys gwasanaeth cyhoeddus a gynhyrchir gan STV ac S4C mewn rhannau penodol o’r Deyrnas Unedig.

Byddwn yn cyflawni hyn drwy ddeddfu ar fframwaith deddfwriaethol newydd sy’n seiliedig ar egwyddorion, lle bydd darparwyr llwyfannau teledu dynodedig – sef y rhai sy’n cael eu defnyddio gan nifer sylweddol o wylwyr yn y Deyrnas Unedig fel y brif ffordd o wylio cynnwys teledu ar-alw – yn gorfod rhoi amlygrwydd priodol i wasanaethau ar-alw dynodedig darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Rydym yn disgwyl y bydd darparwyr llwyfannau teledu sydd dan sylw yn cynnwys setiau teledu clyfar poblogaidd, gweithredwyr teledu drwy dalu, a darparwyr llwyfannau teledu byd-eang. Bydd y drefn newydd hon yn cael ei gorfodi gan Ofcom, a fydd yn gorfod datblygu a chynnal canllawiau ar y fframwaith newydd.

Bydd ein trefn amlygrwydd newydd ar gyfer gwasanaethau ar-alw yn gymesur ac yn hyblyg, er mwyn iddi allu addasu i’r gwahaniaethau ar draws y farchnad a newidiadau parhaus, heb greu beichiau gormodol ac effeithio’n negyddol ar brofiadau a dewisiadau defnyddwyr. Bydd Ofcom hefyd yn cael y pwerau gorfodi newydd angenrheidiol, gan gynnwys pwerau casglu gwybodaeth a’r gallu i osod cosbau ariannol lle bo hynny’n briodol os bydd diffyg cydymffurfio.

Bydd y drefn yn ymgorffori rheolau newydd i sicrhau bod cynnwys ar gael ar lwyfannau teledu perthnasol drwy fynnu bod darparwyr darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn cynnig eu gwasanaethau ar-alw dynodedig i lwyfannau ac yn mynnu bod llwyfannau yn cludo’r gwasanaethau ar-alw darlledu gwasanaeth cyhoeddus hyn. Ategir hyn gan amcanion statudol sy’n cynnwys:

  • sicrhau bod gwasanaethau ar-alw darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ar gael i’w gweld gan gynifer o aelodau o’u cynulleidfaoedd arfaethedig ag sy’n ymarferol;

  • sicrhau bod gwasanaethau ar-alw darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn cael amlygrwydd priodol ar lwyfannau teledu perthnasol; a

  • sicrhau bod gwasanaethau ar-alw darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ar gael ar delerau sy’n gyson â chyflawni rhwymedigaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn gynaliadwy, ond nad ydynt hefyd yn gosod cyfyngiadau anghymesur ar ddewisiadau defnyddwyr na’r gallu sydd gan lwyfannau teledu i arloesi.

Bydd Ofcom hefyd yn cael swyddogaeth datrys anghydfodau, yn unol â’r argymhellion yn ei adolygiad Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr. Dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a llwyfannau bob amser geisio mynd ar drywydd trefniadau masnachol sydd o fudd i’r naill ochr a’r llall yn y lle cyntaf, ond os nad yw hynny’n bosibl am ba reswm bynnag, mae’n briodol i’r rheoleiddiwr gael y pwerau angenrheidiol i ymyrryd i gefnogi trafodaethau effeithiol.

3.3. Digwyddiadau o ddiddordeb cenedlaethol

Fel y nodir uchod, mae’n bwysig fod gwylwyr yn gallu cael gafael yn hawdd ar gynnwys sy’n berthnasol yn ddiwylliannol. Mae hyn yn cynnwys rhai digwyddiadau chwaraeon o ddiddordeb cenedlaethol, fel Cwpan y Byd FIFA a Rownd Derfynol Tennis Wimbledon. Mae’r llywodraeth o’r farn y dylai’r digwyddiadau hyn gael eu dangos ar deledu am ddim lle bo hynny’n bosibl er mwyn i gynulleidfa mor eang â phosibl eu mwynhau.

Mae’r drefn digwyddiadau rhestredig yn gweithio drwy wahardd hawliau unigryw darlledu digwyddiad ar y rhestr heb gael caniatâd ymlaen llaw gan Ofcom. Mae’r rhestr bresennol wedi ei rhannu’n ddau gategori (Grŵp A a Grŵp B) a phan fydd deiliaid hawliau’n sicrhau bod digwyddiad ar gael, rhaid cynnig darllediadau byw llawn i’w prynu yn gyntaf i sianeli am ddim ar gyfer digwyddiadau yn Grŵp A. Mae’n bosibl y bydd digwyddiadau Grŵp B yn cael sylw byw ar deledu drwy danysgrifiadau ar yr amod bod darllediadau neu uchafbwyntiau eilaidd yn cael eu cynnig i’w prynu am y tro cyntaf i ddarlledwyr am ddim. Fodd bynnag, ni ellir gorfodi unrhyw ddeiliad hawliau i werthu ei hawliau, ac ni ellir gorfodi unrhyw ddarlledwr i gaffael hawliau.

Mae’r llywodraeth yn cydnabod bod gwerthu hawliau darlledu i ddarparwyr teledu drwy danysgrifio yn cynhyrchu incwm i gyrff chwaraeon, sy’n eu galluogi i fuddsoddi yn eu chwaraeon ar lefel elît ac ar lawr gwlad. Gan hynny, mae angen i’r fframwaith cyfreithiol daro cydbwysedd priodol rhwng cynnal digwyddiadau chwaraeon am ddim i’r cyhoedd, gan ganiatáu i ddeiliaid hawliau negodi cytundebau er budd gorau eu chwaraeon. Credwn fod y rhestr bresennol o ddigwyddiadau yn cyflawni hyn. Fodd bynnag, rydym hefyd o’r farn y gellid gwneud mwy i wella amrywiaeth y rhestr, a dyna pam roeddem wedi ychwanegu’r Gemau Paralympaidd yn 2020, ac yn ddiweddaraf rydym wedi ychwanegu Cwpan y Byd FIFA i Ferched a phencampwriaethau Ewropeaidd UEFA i Ferched.

Fodd bynnag, lluniwyd y fframwaith presennol mewn tirwedd cyfryngau wahanol lle’r oedd cystadleuwyr darlledwyr am ddim yn gyfyngedig ac o fewn y Deyrnas Unedig yn bennaf. Mae arferion gwylio gwylwyr yn newid yn gyflym ac mae’n rhaid i ddarlledwyr gystadlu am hawliau gyda llwyfannau cyfryngau byd-eang. Felly, gwelwn fod angen nifer fach o ddiwygiadau pwysig er mwyn moderneiddio’r fframwaith presennol.

I gydnabod y rôl allweddol mae ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae o ran dosbarthu cynnwys sy’n unigryw Brydeinig ac sydd o ddiddordeb i gynulleidfaoedd ym Mhrydain – ac sy’n cydnabod bod yr holl wasanaethau presennol sy’n gymwys ar gyfer y drefn digwyddiadau rhestredig yn cael eu gweithredu gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus – byddwn yn ystyried gwneud cymhwyso ar gyfer y drefn digwyddiadau rhestredig yn un sydd er budd penodol i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.

Sefydlwyd y fframwaith cyfreithiol presennol yn 1996 ar adeg pan mai dim ond 4% o gartrefi’r Deyrnas Unedig oedd â mynediad i’r rhyngrwyd. O ganlyniad, er bod hawliau digidol, gan gynnwys hawliau ar-alw, wedi dod bellach yn elfen bwysig wrth werthu hawliau chwaraeon, nid ydynt yn dod o dan y drefn digwyddiadau rhestredig. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch a yw amcanion y drefn bresennol yn dal i gael eu cyflawni ac a fyddant yn parhau i gael eu cyflawni yn y dyfodol. Er enghraifft, pe bai rownd derfynol 100 metr y Gemau Olympaidd yn cael ei darlledu’n fyw yng nghanol y nos ar y BBC, ond bod yr holl hawliau ffrydio a dal i fyny yn cael eu gwerthu i ddarlledwr gwahanol a’u cadw y tu ôl i wal dalu, mae’n bosibl na fyddai digwyddiad sy’n berthnasol yn ddiwylliannol ar gael i gynulleidfa eang am ddim.

Wrth i arferion gwylio newid a thechnoleg esblygu, rydym eisiau sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio yn dal yn addas i’r diben. Felly, byddwn yn cynnal adolygiad i weld a ddylid ymestyn cwmpas y drefn digwyddiadau rhestredig i gynnwys hawliau digidol.

3.4. Cyllid cystadlu

Mae’r Deyrnas Unedig yn gartref i ddiwydiant darlledu ffyniannus, ac mae’r llywodraeth yn benderfynol o sicrhau ei fod yn parhau i fynd o nerth i nerth. Er mwyn gwneud hynny, rhaid iddo sicrhau bod holl gynulleidfaoedd y Deyrnas Unedig yn gallu cael gafael ar amrywiaeth eang o gynnwys o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein gwlad. Rhaid iddo hefyd ddarparu cyfleoedd i’n sector cynhyrchu byd-enwog arloesi a thyfu hyd yn oed wrth i dechnoleg ac arferion gwylio newid ar gyflymder nas gwelwyd o’r blaen.

I ategu’r uchelgeisiau hyn, mae’r llywodraeth wedi bod yn treialu cyllid cystadlu, sef ffordd newydd o gynorthwyo cynnwys gwasanaeth cyhoeddus nad yw’n cael ei wasanaethu’n ddigonol yn uniongyrchol. Ers 2019, mae’r Gronfa Cynnwys i Gynulleidfaoedd Ifanc a’r Gronfa Cynnwys Sain wedi cael bron i £48 miliwn o gyllid cyhoeddus ac wedi cynorthwyo 220 awr o gynnwys teledu i blant a thros 700 awr o gynnwys radio hyd yma.

Daeth cam peilot tair blynedd y Gronfa Gystadlu i ben ar 31 Mawrth 2022. Byddwn yn cynnal gwerthusiad o’r cynllun peilot, a byddwn yn ystyried yn fanwl y gwersi a ddysgwyd wrth benderfynu a fyddai model cronfa gystadlu – yn y tymor hir – yn darparu gwerth ychwanegol i ehangder ac argaeledd cynnwys gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig ac a allai ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd yn well.

3.5. Trwyddedu Sianeli 3 a 5

Mae maint a lluosogrwydd darpariaeth darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig yn un o’r agweddau sy’n ei gwneud yn unigryw. Elfen bwysig o hyn yw trwyddedau masnachol Sianel 3 a Sianel 5, sy’n nodi’r dyletswyddau manwl ar drwyddedigion unigol. Mae trwyddedau Sianel 3 yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel a de’r Alban yn cael eu dal gan ITV plc; ac mae’r trwyddedau ar gyfer gogledd a chanol yr Alban yn cael eu dal gan STV plc. Channel 5 Ltd, sy’n cael ei reoli gan Paramount Global (ViacomCBS gynt), sy’n darparu gwasanaeth Sianel 5.

Mae gan y darlledwyr hyn rôl benodol a phwysig nid yn unig yn y system darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ond hefyd yn yr ecoleg ddarlledu ehangach. Mae ITV yn cyflogi mwy na 6000 o bobl, ac mae’n gwario dros £1 biliwn y flwyddyn ar gynnwys, gyda’r rhan fwyaf ohono ar gynnwys gwreiddiol o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys newyddion rhanbarthol. Cafodd Channel 5 wobr ‘Sianel y Flwyddyn’ yng ngwobrau’r Broadcast Awards a’r Royal Television Society Programme yn 2020, ac roedd ei bloc rhaglenni plant, Milkshake!, wedi cyrraedd 19.5 miliwn o wylwyr yn 2019.

Bydd trwyddedau Sianel 3 a Sianel 5 yn dod i ben yn 2024. Fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae’r llywodraeth yn disgwyl cael adroddiad gan Ofcom ym mis Mehefin 2022 ynghylch y posibilrwydd o adnewyddu trwyddedau Sianel 3 a Sianel 5. Edrychwn ymlaen at adolygu adroddiad Ofcom yn nes ymlaen yn y flwyddyn. ### 3.6 Agor y system i ddarparwyr newydd

Mae darparwyr masnachol fel Sky, Discovery a BT, er nad ydynt yn ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eu hunain, yn dal i chwarae rhan hynod werthfawr yn ein hecoleg darlledu. Yn benodol, maent yn comisiynu ac yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnwys o ansawdd uchel, gan gynnwys newyddion, ac yn buddsoddi mewn technoleg newydd a chyfleusterau cynhyrchu.

Sky sy’n rhedeg y gwasanaeth newyddion teledu mwyaf nad yw’n wasanaeth darlledu gwasanaeth cyhoeddus – Sky News – sydd ar gael am ddim, ac mae wedi cael ei henwi’n ‘Sianel Newyddion y Flwyddyn’ yng Ngwobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol am bum mlynedd yn olynol. Ers 2020, mae ei sianel Sky Arts hefyd ar gael i’w gwylio heb danysgrifiad ar Freeview a Freesat. Yn 2019, cyhoeddodd Sky gynlluniau i ddyblu ei fuddsoddiad mewn cynnwys gwreiddiol yn y Deyrnas Unedig erbyn 2024, ac mae’n datblygu canolfan stiwdio newydd yn Elstree. Mae’n amcangyfrif y bydd honno’n ychwanegu £3 biliwn at yr economi greadigol yn ystod ei phum mlynedd gyntaf o weithredu.

Mae Discovery yn fuddsoddwyr mawr mewn cynnwys gwreiddiol o’r Deyrnas Unedig, yn enwedig mewn genres fel hanes naturiol a ffeithiol – ac mae’r gwariant hwnnw’n parhau i godi wrth iddynt gystadlu yn y farchnad ffrydio fyd-eang. Mae BT Studios wedi arfer creu rhaglenni chwaraeon ac mae hefyd ar gael i gwmnïau cynhyrchu annibynnol yn y Deyrnas Unedig eu llogi. Mae BT hefyd wedi arwain nifer o ymgyrchoedd uchel eu proffil er budd y cyhoedd, fel ei ymgyrch ‘Draw The Line’ sy’n targedu cam-drin a chasineb ar-lein.

Mae’r llywodraeth yn cydnabod bod amrywiaeth eang o ddarparwyr yn cynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel sy’n deillio o’r Deyrnas Unedig ar gyfer teledu. Mae hyn yn cynnwys y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eu hunain. Ond mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o ddarlledwyr masnachol sy’n cynhyrchu cannoedd o oriau o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus er nad oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny – yn enwedig rhaglenni newyddion, drama a chelfyddydau gwreiddiol yn y Deyrnas Unedig.

Yn eu hargymhellion diweddar i’r llywodraeth, argymhellodd Ofcom y dylid agor y system darlledu gwasanaeth cyhoeddus i ddarparwyr newydd drwy sefydlu system ar gyfer dynodi darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ychwanegol. Roeddent yn awgrymu y gallai hyn roi hwb i arloesi a helpu gyda chynaliadwyedd.

Fel y nodir uchod, mae’r llywodraeth yn bwrw ymlaen â nifer o newidiadau eraill i system darlledu gwasanaeth cyhoeddus y Deyrnas Unedig, ac mae’n bwriadu gadael i’r rhain ymsefydlu cyn ystyried diwygiadau pellach. Serch hynny, byddwn yn parhau i ystyried yr achos dros ddiwygiadau yn y dyfodol wrth i ni weithio i ddiweddaru’r fframwaith darlledu gwasanaeth cyhoeddus i sicrhau ei gynaliadwyedd yn y tymor hir.

3.7. Teledu lleol

Ers 2013, mae cyfanswm o 34 o wasanaethau teledu lleol wedi cael eu lansio ledled y Deyrnas Unedig, a phob un yn gwasanaethu ardal benodol gyda newyddion lleol a chynnwys lleol.

Mae’r hinsawdd ar gyfer teledu lleol ers 2013 wedi bod yn heriol o ran gallu gwasanaethau i ddatblygu hysbysebion lleol. Fe wnaeth nifer o’r deiliaid trwydded cychwynnol – gan gynnwys STV yn 2018 – werthu eu buddiannau wrth i’r sector gyfuno gweithrediadau a gwasanaethau er mwyn lleihau costau. Mae Ofcom wedi cynorthwyo’r broses hon drwy gytuno ar gynigion i leihau nifer yr oriau cynhyrchu lleol yr oedd yn rhaid i orsafoedd eu darparu, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau teledu lleol yn parhau i ddarparu gwasanaeth newyddion lleol craidd. Yn ogystal, mae’r trwyddedeion yn Belfast, Brighton, Llundain, Maidstone, Nottingham a Sheffield wedi gallu gweithredu gwasanaethau lleol fel endidau unigol ac maent yn parhau i ddarparu gwasanaethau lleol pwrpasol gydag ethos cryf tuag at hyfforddiant, sgiliau yn ogystal â newyddiaduraeth leol.

I ddechrau, cefnogwyd lansio teledu lleol drwy hyd at £40 miliwn o gyllid ffi trwydded y BBC a oedd yn cynnwys datblygu’r amlblecs teledu daearol digidol lleol a chymorth ar gyfer cynnwys newyddion. Daeth y cynllun i ddarparu newyddion teledu lleol, wedi ei redeg gan y BBC, i ben yn 2020 ac ar hyn o bryd nid yw teledu lleol yn cael unrhyw gymhorthdal cyhoeddus, ond mae’n parhau i elwa ar ostyngiad sylweddol yn y costau trawsyrru teledu daearol digidol oherwydd y refeniw masnachol a gynhyrchir gan y ffrydiau fideo teledu daearol digidol sbâr yn ogystal ag amlygrwydd ar deledu daearol digidol a llwyfannau teledu eraill.

Ym mis Medi 2021, cyhoeddodd y llywodraeth newidiadau i ddeddfwriaeth drwyddedu amlblecs teledu daearol digidol cenedlaethol. Mae’r newidiadau’n galluogi Ofcom i ymestyn trwyddedau a roddir i’r BBC, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill a gweithredwyr masnachol eraill tan 2034 (yn amodol ar bŵer dirymu newydd, na all ddod i rym cyn diwedd 2030).

Yng ngoleuni hyn, mae’r llywodraeth yn bwriadu gwneud newidiadau i’r drefn trwyddedu teledu lleol er mwyn gallu ymestyn y drwydded amlblecs teledu lleol tan 2034 ac yn amodol ar yr un amodau (gan gynnwys pŵer dirymu) sy’n berthnasol i’r amlblecsau teledu daearol digidol cenedlaethol. Rydym yn bwriadu ymgynghori erbyn diwedd 2022 ar y trefniadau manwl ar gyfer adnewyddu’r drwydded amlblecs teledu lleol ac amodau ar gyfer adnewyddu. Byddwn yn ymgynghori ar ddewisiadau ar gyfer adnewyddu neu aildrwyddedu gwasanaethau teledu lleol unigol ar yr un pryd.

3.8. Manteision cydweithio

Fel y disgrifir yn fwy manwl ym Mhennod 4, mae sector darlledu’r Deyrnas Unedig yn un cyfoethog ac amrywiol, gyda nifer o wahanol chwaraewyr. Mae’r llywodraeth o’r farn fod newidiadau a chyfuno yn y sector yn codi cwestiynau strategol ynghylch a oes angen i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fynd ar drywydd mwy o gydweithio, naill ai gyda’i gilydd neu gyda phartneriaid allanol.

Sefydlwyd Radioplayer yn 2010 fel ffordd o gynnig ffordd syml a hygyrch o wrando ar radio ar-lein. Mae’n fenter nid-er-elw rhwng y BBC a darlledwyr radio masnachol (mae ei gyfranddalwyr presennol yn cynnwys y BBC, Global, Bauer Media a Radiocentre). Er 2014, mae wedi trwyddedu ei dechnoleg i gonsortia o ddarlledwyr mewn tiriogaethau eraill ac mae ganddo gytundebau partneriaeth â 14 o wledydd eraill.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Radioplayer wedi ehangu ei weithgareddau’n sylweddol gan ddefnyddio ei dechnoleg gefndirol i gyflwyno metadata darlledwyr i gerbydau i bweru radio hybrid. Mae hyn yn caniatáu i yrwyr newid yn ddi-dor rhwng FM, DAB/DAB+ a ffrydio ar yr un pryd â darparu profiad mwy cyfoethog a gweledol. Mae Radioplayer wedi llofnodi cytundebau partneriaeth gyda VW Group a BMW Group, sydd, gyda’i gilydd, yn cynrychioli traean o’r holl werthiant ceir yn Ewrop, ac mae wedi cynhyrchu ap radio hybrid (DAB, DAB+, FM, Rhyngrwyd) yn Android Automotive y gellir ei addasu gan gwmnïau ceir am ddim neu am bris.

Mae digon o enghreifftiau o’r cydweithio hwn yn digwydd yn barod. Er enghraifft, roedd Freesat – menter a sefydlwyd yn gyntaf gan y BBC ac ITV yn 2007 i greu llwyfan lloeren rhad ac am ddim i ategu’r newid i deledu digidol – wedi uno â Freeview yn ddiweddar i greu llwyfan a rennir ar gyfer y BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5. Yn yr un modd, mae Radioplayer, sef menter nid-er-elw rhwng y BBC a darlledwyr radio masnachol, wedi trwyddedu ei dechnoleg i gonsortia o ddarlledwyr mewn tiriogaethau eraill ac mae ganddo gytundebau partneriaeth â 14 o wledydd eraill ers 2014. Mae partneriaeth Channel 4 a Sky – yn enwedig rhannu hawliau chwaraeon – wedi helpu i greu sawl moment sydd wedi dod â’r wlad at ei gilydd.

Yng nghyd-destun tirwedd ddarlledu ddarniog ond hynod gystadleuol, yn enwedig lle nad yw darlledwyr bellach yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar gyfer gwylwyr a refeniw ond hefyd yn erbyn mathau eraill o gynnwys a llwyfannau byd-eang, mae’r partneriaethau strategol hyn yn dod yn bwysicach fyth. Nid ydym eisiau ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol – camgymeriadau a arweiniodd, er enghraifft, at y Comisiwn Cystadleuaeth yn rhwystro Prosiect Kangaroo (menter fideo-ar-alw ar y cyd rhwng ITV, Channel 4 a BBC Worldwide) yn 2009 ar ôl iddo gael ei ystyried yn ormod o fygythiad i farchnad ffrydio newydd y Deyrnas Unedig. Roedd hyn yn caniatáu i gystadleuwyr rhyngwladol achub y blaen ar ein darlledwyr domestig a’u gadael ar eu hôl.

Yn ogystal ag ategu cynaliadwyedd y sector, mae’r llywodraeth o’r farn fod y partneriaethau hyn hefyd yn dod â manteision i wylwyr – er enghraifft, gallu dod o hyd i gynnwys yn haws mewn un lle, neu ddarparu’r dechnoleg sy’n caniatáu i ddarlledwyr helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol ledled y byd. Mae Siarter y BBC yn cynnwys gofyniad i’r BBC gydweithio â sefydliadau eraill, yn enwedig yn yr economi greadigol, a byddwn yn parhau i edrych ar sut gellir annog yr ymddygiad hwn drwy’r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus ehangach. Gall cydweithio hefyd helpu i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn parhau i elwa ar amrywiaeth o leisiau a safbwyntiau.

Pennod 4: Ecoleg ddarlledu fywiog

Mae cyfraniad y diwydiannau creadigol at economi’r DU wedi cynyddu’n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf – bron i 50% rhwng 2010 a 2019. Mae nifer y bobl maen nhw’n eu cyflogi wedi cynyddu mwy na thraean ers 2011.

Mae’r ecosystem ffyniannus ac amrywiol hon wedi creu cylch rhinweddol. Mae’n gwneud y DU yn lle deniadol iawn i fuddsoddi ynddo ac mae’n galluogi gweithwyr creadigol y DU i lunio cynnwys gwreiddiol o ansawdd uchel y mae cynulleidfaoedd yn ei fwynhau. Rydym ni eisiau gweld y tueddiadau hyn yn parhau, ac mae ein sector darlledu byd-enwog – sy’n rhan allweddol o’r economi greadigol – yn mynd o nerth i nerth.

Mae’r bennod hon yn nodi’r camau rydyn ni’n eu cymryd i ddiogelu’r cylch rhinweddol hwnnw, ac i helpu’r sector i ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd y mae’n eu hwynebu.

4.1. Hyrwyddo ein sector cynhyrchu

Diolch i gamau gweithredu ac ymyrraeth y llywodraeth, mae’r sector cynhyrchu teledu yn ffynnu ar draws pob rhan o’n hundeb. Fel y nodir ym Mhennod 1, mae’r llwyddiant hwn wedi’i sbarduno gan fuddsoddiad traddodiadol gan ein darlledwyr domestig a chan lwyddiant y DU o ran denu buddsoddiad rhyngwladol.

Roedd y cyfanswm refeniw cynhyrchu teledu wedi mwy na dyblu rhwng 2004 a 2020, gyda dros £1 biliwn o refeniw blynyddol yn dod o fewnfuddsoddiad o’r tu allan i’r DU. Hyd yn oed yn wyneb heriau COVID-19, bu bron i’r diwydiant â chyrraedd y lefelau gwariant uchaf erioed – roedd y gwariant cyfunol o gynyrchiadau ffilm a theledu yn ystod 2021 wedi cyrraedd £5.64 biliwn, sef yr uchaf erioed a £1.27 biliwn yn uwch na 2019 cyn y pandemig.

Wrth gwrs, nid y diwydiant neu’r darlledwyr yn unig sydd wedi cyflawni hyn. Roedd ymyrraeth gan y llywodraeth yn ystod y pandemig wedi sicrhau bod y gwaith cynhyrchu’n parhau’n ddiogel. Mae dros 1,100 o gynyrchiadau wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Ailgychwyn Ffilm a Theledu’r llywodraeth hyd yma, ac ni fyddai wedi bod yn bosib gwario dros £2.9 biliwn ar gynyrchiadau heb y cynllun, sydd wedi cefnogi mwy na 95,000 o swyddi. Roedd PACT, y grŵp diwydiant sy’n cynrychioli cynhyrchwyr ffilm a theledu yn cydnabod hyn wrth ddweud, “…darparodd Cynllun Ailgychwyn Cynhyrchu Ffilm a Theledu’r llywodraeth gymorth busnes hollbwysig i’r sector, gan eu galluogi i ddechrau neu ailgychwyn eu cynyrchiadau, cadw pobl mewn swyddi a chael cynnwys newydd ar sgriniau yn y DU”.

Mae hwn yn wir yn sector sy’n arwain yn fyd-eang, a theimlir ei fod yn llwyddo ym mhob cwr o’r wlad, boed yn Line of Duty yng Ngogledd Iwerddon, Poldark yng Nghernyw, Peaky Blinders yn Swydd Efrog, Outlander yn yr Alban, neu Brassic yng Nghymru – bydd y llywodraeth hon yn diogelu ac yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Gan gydnabod bod y bwlch rhwng gofynion cynhyrchu teledu a ffilm wedi lleihau ar y lefel uchaf, mae’r llywodraeth hefyd yn benderfynol o helpu’r sector darlledu a chynyrchiadau sgrin ehangach, gan gynnwys ffilm, i ffynnu gyda’i gilydd, gan gynnwys cyflwyno mesurau sy’n galluogi cwmnïau cynhyrchu ffilmiau i newid rhwng Rhyddhad Treth Ffilm a Rhyddhad Teledu Lefel Uchel yn ystod cynhyrchiad.

Y tu hwnt i deledu, mae cynyrchiadau sain yn y DU yn dal i arallgyfeirio oddi wrth radio wrth i’r galw am gynnwys podlediadau barhau i dyfu. Mae tua 10 miliwn o oedolion yn gwrando ar bodlediadau bob wythnos ac mae disgwyl i refeniw hysbysebu ar bodlediadau yn y DU ddyblu i £75 miliwn y flwyddyn erbyn 2024.

Fel sy’n cael ei drafod ym Mhennod 1, mae sector cynhyrchu teledu annibynnol y DU wedi tyfu’n gyflym yn ystod y degawd diwethaf, gyda chynnydd o 50% mewn refeniw rhwng 2010 a 2019. Nawr, wrth siapio tirwedd darlledu yn y DU yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn ganolfan gynhyrchu lewyrchus ar gyfer cynhyrchwyr cynnwys domestig a rhyngwladol. Mae hyn yn golygu diogelu trefn “telerau masnach” y DU, gan ei diweddaru ar yr un pryd i adlewyrchu newidiadau mewn technoleg a’r ffordd mae gwylwyr yn gwylio cynnwys gan ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Byddwn hefyd yn ystyried a oes angen ymestyn agweddau ar y drefn hon i gynhyrchwyr radio a sain sy’n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer y BBC.

Ar yr un pryd, rydym am sicrhau bod manteision y drefn telerau masnachu, a’r cwota ar gyfer cynhyrchu annibynnol sy’n gweithredu ochr yn ochr â hynny, yn cronni i fusnesau bach a chanolig a fydd yn elwa fwyaf o’r ymyriadau hyn. Mae twf trawiadol y sector wedi hwyluso dyfodiad cwmnïau annibynnol mawr sydd – er eu bod yn dal i gael eu hystyried yn annibynnol – yn aml yn fwy na’r darlledwyr maen nhw’n gweithio gyda nhw. Felly, rydym yn bwriadu cynnal adolygiad i ystyried a ddylid cyflwyno cap refeniw i gael statws cynhyrchydd ‘annibynnol cymwys’, er mwyn sicrhau bod y statws hwnnw’n parhau i fod yn gyfrwng effeithiol i hybu twf y sector.

Rydym hefyd yn cydnabod bod llwyddiant y DU o ran denu mewnfuddsoddiad yn seiliedig ar y rhyngweithio unigryw rhwng y priodoleddau hynny sy’n golygu mai ni yw’r brif gyrchfan fyd-eang ar gyfer cynhyrchu: system rhyddhad treth sefydlog a hael; gweithlu medrus; seilwaith ffisegol cryf a chynyddol; sefydliadau cefnogol ac ecosystem sgrin ehangach, a natur greadigol a deinamig dinasyddion y DU.

Fel mae’r Canghellor eisoes wedi’i nodi, bydd y llywodraeth yn parhau i gefnogi ein diwydiannau creadigol hynod fedrus ac arloesol drwy rhyddhad treth i’r sector creadigol. Mae ymchwil diweddar wedi dangos eu heffaith anhygoel, er enghraifft mae pob £1 o ryddhad treth ar gyfer Teledu Lefel Uchel yn darparu enillion o £6.44. Ar yr un pryd, cynyddodd cynyrchiadau a gefnogir gan y rhyddhad treth hwnnw o £1.2 biliwn yn 2017 i £4.1 biliwn yn 2021.

Hefyd, gan gydnabod bod angen seilwaith addas ar gyfer yr holl fuddsoddiad hwn, yn enwedig ar gyfer cynyrchiadau mwy o faint, fe wnaeth y llywodraeth gamu i mewn a rhoi £1.6 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i Gomisiwn Ffilm Prydain rhwng 2020/21 a 2022/23 i hwyluso’r gwaith o ddatblygu mwy o lwyfannau sain ledled y DU. Mae’r buddsoddiad hwn eisoes wedi chwarae rhan bwysig o ran diwallu’r galw enfawr am seilwaith sgrin, gan gefnogi cynyrchiadau o bob maint.

Mae teledu yn farchnad fyd-eang ac rydym eisiau denu mewnfuddsoddiad ac eisiau helpu i ddod o hyd i’r cynulleidfaoedd rhyngwladol ehangaf posibl ar gyfer cynyrchiadau o’r DU. Rydym yn gwybod bod gwledydd eraill yn gwneud yr un fath, ac yn edrych yn eiddigeddus tuag at y DU. Felly, mae’n rhaid i ni weithredu i sicrhau bod ein diwygiadau’n cefnogi’r hyn sy’n gweithio ac yn diogelu statws y DU fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer cynhyrchu teledu a ffilmiau.

Mae’r mesurau hyn, yn ogystal â rhai eraill a nodir yn y ddogfen hon, yn rhan o’n gweledigaeth ar gyfer y diwydiannau creadigol. Bydd Gweledigaeth y Sector Diwydiannau Creadigol, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn haf 2022, yn nodi strategaeth hirdymor ar gyfer y sector ac yn cyflawni amcanion codi’r gwastad, Prydain Fyd-eang a sero-net y llywodraeth. Datblygir y strategaeth hon fel partneriaeth rhwng y llywodraeth a diwydiant.

4.2. Cefnogi sector radio masnachol y DU

Mae darlledu radio wedi bod yn rhan o dirwedd cyfryngau’r DU ers dros 100 mlynedd ac mae’n parhau i fod yn gonglfaen i ddarlledu cyhoeddus. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf – a hyd yn oed yn fwy felly nag yn ystod y pandemig – mae’r BBC, y sector radio masnachol (a fydd yn 50 oed y flwyddyn nesaf) a radio cymunedol i gyd wedi dangos gwytnwch a gwerth anhygoel radio i’r genedl, boed hynny o ran rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am effeithiau COVID-19 yn eu cymuned, bod yn ffynhonnell adloniant a darganfod yn rhad ac am ddim, neu drwy roi cwmnïaeth.

Mae’r llywodraeth eisiau cefnogi a chryfhau radio yn y DU. Byddwn yn parhau i annog a meithrin cydweithrediad rhwng y BBC, radio masnachol a radio cymunedol – fel y dangoswyd yn fwyaf diweddar drwy’r Adolygiad Sain a Radio Digidol. Mae’r llywodraeth yn rhoi croeso brwd i gyhoeddiad diweddar y BBC a radio masnachol ynghylch buddsoddiad newydd a chefnogaeth barhaus i Radioplayer, er mwyn helpu i sicrhau lle radio ar draws amrywiaeth o lwyfannau digidol wrth i bobl wrando ar radio a sain yn amlach ar-lein.

Datblygwyd y rheolau presennol ar gyfer trwyddedu radio masnachol fel rhan o Ddeddfau Darlledu 1990 a 1996 er mwyn rhyddhau’r tonfeddi i gael mwy o ddewis i FM ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau radio digidol. Ond er bod radio masnachol ymysg y rhannau mwyaf dibynadwy o gyfryngau’r DU, y sector sy’n cael ei reoleiddio fwyaf fel mae’n digwydd, gwaddol y gofynion lleolrwydd cyfyngol a gyflwynwyd ar wasanaethau analog trwyddedig bron i ddau ddegawd yn ôl.

Gan fod radio digidol bellach yn cyfrif am 64.4% o’r radio y gwrandewir arno yn y DU, a gyda heriau newydd gan ddarparwyr sain ar-lein sy’n gweithredu heb unrhyw reoleiddio, rydym yn dal o’r farn fod angen diweddaru strwythur rheoleiddio radio masnachol. Rydym am sicrhau bod radio masnachol yn gallu gweithredu o dan fframwaith rheoleiddio mwy hyblyg sy’n addas ar gyfer yr oes fodern. Felly – cyn gynted ag y bydd amser seneddol yn caniatáu – byddwn yn cyflwyno mesurau i ddileu hen ofynion am gymeriad y gwasanaeth fel fformatau cerddoriaeth ac yn diwygio’r rheolau presennol ynghylch lle caiff rhaglenni radio lleol eu cynhyrchu, gan gryfhau’r gofynion ar gyfer ei newyddion lleol hanfodol a’i wasanaethau gwybodaeth lleol, gan gynnwys mesurau sy’n caniatáu ar gyfer diogelu newyddion lleol ar lwyfannau digidol.

Ymgynghorodd y llywodraeth ar becyn o fesurau i ddadreoleiddio radio masnachol yn 2017. Ers hynny, mae’r Adolygiad Radio a Sain Digidol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021, wedi asesu effaith bosibl y newidiadau cyflym mewn technoleg ac ymddygiad gwrandawyr ar batrymau gwrando ar y radio yn y dyfodol, gan ddod i gasgliad clir bod angen canolbwyntio fwy ar fuddsoddi mewn cynnwys radio a sain ac yn y ffordd y mae hyn yn cyrraedd y gwrandawyr. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo o hyd i ddeddfu i roi canlyniadau’r ymgynghoriad ar ddadreoleiddio radio a gynhaliwyd yn 2017 ar waith pan fydd amser seneddol yn caniatáu hynny. Bydd hyn yn cynnwys caniatáu i Ofcom drwyddedu rhai gwasanaethau radio dramor am y tro cyntaf – yn benodol y rheini sydd wedi’u lleoli yng Ngweriniaeth Iwerddon – ac i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ychwanegu gwledydd eraill at y rhestr o wasanaethau y gall Ofcom eu trwyddedu.

Mae’r llywodraeth hefyd yn cytuno â phrif gasgliad yr Adolygiad Radio a Sain Digidol na ddylid diffodd gwasanaethau FM tan o leiaf 2030. Fodd bynnag, mae angen diweddaru’r ddeddfwriaeth i helpu annog y broses barhaus tuag at radio digidol. Felly, rydym yn bwriadu:

  • rhoi pwerau i Ofcom ymestyn trwyddedau FM os ceir cadarnhad o ddyddiad trosglwyddo i sicrhau y gall gwasanaethau FM barhau, os oes angen, hyd at unrhyw ddyddiad trosglwyddo;

  • sicrhau bod y tri gwasanaeth radio cenedlaethol annibynnol (Classic FM, TalkSport ac Absolute Radio) yn gallu cael mynediad gwarantedig at gapasiti ar amlblecs DAB cenedlaethol D1 os byddant yn penderfynu ar unrhyw adeg yn y dyfodol cyn unrhyw newid i ddigidol i roi’r gorau i ddarlledu ar AM neu FM ac ildio eu trwyddedau analog i Ofcom; a

  • dileu gofynion beichus sy’n gorfodi gweithredwyr amlblecsau lleol i ofyn am ganiatâd Ofcom pan fydd y rhestr o orsafoedd yn newid.

4.3. Cryfhau radio cymunedol

Mae gorsafoedd radio cymunedol fel rheol yn gwasanaethu ardal ddaearyddol fach ac yn cael eu rhedeg ar sail nid-er-elw. Gallant ddarparu arlwy ar gyfer cymunedau cyfan neu ar gyfer meysydd diddordeb gwahanol – megis grŵp ethnig penodol, grŵp oed neu grŵp diddordeb. Mae yna orsafoedd sy’n cynnig cerddoriaeth drefol neu arbrofol, ac mae eraill wedi’u hanelu at bobl iau, cymunedau crefyddol neu’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd.

Mae radio cymunedol wedi tyfu ers ei sefydlu’n ffurfiol yn 2005 ac mae wedi dod yn rhan fywiog a chynyddol aeddfed o sector radio’r DU. Erbyn hyn, mae dros 300 o orsafoedd radio cymunedol ar yr awyr ledled y DU ac mae gwasanaethau digidol newydd yn cael eu cynllunio fel rhan o’r gwaith o lwyddo i ddatblygu DAB ar raddfa fach, rhywbeth sy’n cael ei hyrwyddo’n gryf gan y llywodraeth.

Mae’r twf hwn yn rhannol oherwydd cefnogaeth barhaus y llywodraeth drwy’r Gronfa Radio Cymunedol. Mae’r gronfa, sy’n cael ei gweinyddu gan Ofcom, yn darparu grantiau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gorsafoedd radio cymunedol. Cafodd y gronfa hwb wedi’i dargedu o £200,000 yn 2020/21 a 2021/22, gan alluogi Ofcom i ddyrannu mwy o gyllid i fwy o orsafoedd nag erioed o’r blaen.

Fodd bynnag, bydd trwyddedau ar gyfer y gorsafoedd cymunedol cyntaf a lansiwyd yn 2005 yn dod i ben yn 2025.[footnote 1] Rydym am sicrhau bod gan radio cymunedol y strwythur cywir i sicrhau bod gorsafoedd presennol yn gallu parhau i ddatblygu eu gwasanaethau ac y gellir datblygu gorsafoedd radio cymunedol newydd ar radio digidol.

Er ein bod eisiau cynnal model darparu radio cymunedol drwy gwmnïau neu elusennau cymunedol, nid-er-elw, rydym eisiau edrych eto ar y cyfyngiadau ar refeniw hysbysebu sy’n atal rhai gorsafoedd radio cymunedol rhag sicrhau gwerth ariannol llawn ar eu cynnwys. Rydym hefyd am sicrhau bod gwasanaethau radio cymunedol ar gael yn llawer ehangach, er enghraifft drwy broses drwyddedu ddigidol Ofcom, fel rhan o agenda ehangach y llywodraeth i godi’r gwastad.

Felly, rydym yn bwriadu ymgynghori ddechrau 2023 ar gynigion newydd i hyrwyddo’r sector radio cymunedol a, lle bo angen, byddwn yn dwyn ymlaen newidiadau i ofynion trwyddedu drwy ddiwygiadau i Orchymyn Radio Cymunedol 2004.

4.4. Gwella mynediad a chynrychiolaeth yn y sector

Mae gan ddarlledwyr a’r cyfryngau ehangach gyfrifoldeb pwysig i adlewyrchu bywyd yr 21ain ganrif yn y DU. Mae’n bwysig fod y diwydiant darlledu – ar y sgrin ac oddi ar y sgrin – yn gynrychioliadol o’r wlad lle rydym yn byw, a’i fod yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob cefndir gyfrannu a chyflawni. Gall gweithlu mwy amrywiol fod o fudd uniongyrchol i ddarlledwyr hefyd, gan eu helpu i ddod o hyd i gynulleidfaoedd newydd a chreu cynnwys mwy dilys a gwybodus.

Er bod y llywodraeth yn cydnabod annibyniaeth olygyddol a gweithredol y sector darlledu, rydym am sicrhau ein bod yn gweld cynnydd o ran cynrychiolaeth a chynhwysiant ar draws y sector. Dylai darlledu yn y DU – yn ogystal â’r diwydiannau creadigol ehangach – gynrychioli poblogaeth gyfan y DU. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod nifer o rwystrau cudd, yn enwedig ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli a’r rheini o gefndiroedd dosbarth gweithiol, rhag cael mynediad a chynnydd yn y sectorau hyn. Canfu ymchwil gan y Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Diwydiannau Creadigol i symudedd cymdeithasol yn yr economi greadigol fod “pobl o gefndir breintiedig ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y Diwydiannau Creadigol na’u cymheiriaid o’r dosbarth gweithiol”. At hynny, mae COVID-19 wedi gwaethygu’r rhaniad hwn, gyda chyfran y gweithlu o gefndiroedd dosbarth gweithiol yn gostwng gymaint â phedwar pwynt canran yn y sector ‘Ffilm, Teledu, Fideo a Ffotograffiaeth’ erbyn Medi 2020, o gymharu â 2019.

O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae dyletswydd ar Ofcom i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn perthynas â chyflogaeth yn y sector darlledu (ar gyfer teledu a radio) ac mae ganddo bwerau i ofyn i ddarlledwyr ddarparu gwybodaeth am eu polisïau amrywiaeth a chyfansoddiad eu gweithlu. Er bod adolygiad pum mlynedd Ofcom o amrywiaeth ym maes darlledu (a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021) wedi dangos tuedd gyffredinol tuag at ddiwydiant mwy cynrychioladol, mae llawer o le i wella, yn enwedig o ran cyfran y gweithwyr teledu sy’n anabl, y rhagwelir y bydd yn disgyn dros y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â lefelau isel o gynrychiolaeth o grwpiau ethnig lleiafrifol ar lefelau uwch. Canfu Ofcom hefyd fod angen gwneud mwy o gynnydd o ran cadw a datblygu talent amrywiol yn y sector.

Cafodd y materion a godwyd yn adolygiad pum mlynedd Ofcom o amrywiaeth a chyfle cyfartal ym maes darlledu yn y DU eu hystyried hefyd gan yr Adolygiad Radio a Sain Digidol diweddar. Mae’r BBC a darlledwyr radio masnachol wedi cymryd camau clir i hybu amrywiaeth ar draws eu gwasanaethau ar-yr-awyr ac ar-lein ac yn eu sefydliadau ehangach, drwy newidiadau eu trefn recriwtio a’u hagwedd at hyfforddiant a sgiliau. Fodd bynnag, roedd ymchwil a gynhaliwyd ar gyfer yr Adolygiad Sain a Radio Digidol yn tynnu sylw at yr angen a’r cyfle i radio sicrhau ei fod yn parhau i siarad â chymunedau ledled y DU. Am y rheswm hwn, bydd y llywodraeth yn gweithio gyda darlledwyr radio i ganfod cyfleoedd i ehangu gwasanaethau radio a sain ar gyfer cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol – gan adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol a gynigir gan orsafoedd radio masnachol a chymunedol.

Mae newidiadau i’r farchnad fyd-eang a’r cynnydd mewn gwasanaethau fideo-ar-alw, yn ogystal ag effeithiau’r pandemig, yn parhau i ail-lunio’r sector fel rydyn ni’n ei adnabod.* Rydym yn awyddus i weld gwasanaethau ar-alw yn cael mwy o ran yn y sgwrs ar amrywiaeth, ac i weld mwy o gydweithio ar draws y diwydiant i ddod o hyd i ffyrdd arloesol ac effeithiol o leihau rhwystrau mynediad a chynnydd, a gwella cynrychiolaeth.

Rydym hefyd yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud gan nifer o’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sydd hefyd wedi lansio eu strategaethau a’u mentrau amrywiaeth a chynhwysiant eu hunain. Mae’r llywodraeth yn galw ar ddarlledwyr yn y DU i wneud popeth o fewn eu gallu i fynd i’r afael â meysydd hollbwysig o dangynrychiolaeth yn eu sefydliadau ac yn y sector ehangach, yn enwedig o ran hygyrchedd i bobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol, ac i ddangos mwy o ymrwymiad i amrywiaeth barn ymysg staff, yn hytrach na meddwl fel grŵp. Wrth wneud hynny, dylai’r uchelgais fod ar gyfer newid go iawn ac nid geiriau cynnes yn unig.

4.5. Diogelu rhyddid i lefaru

Cyfryngau rhydd yw un o gonglfeini ein democratiaeth. Mae’r llywodraeth yn cydnabod rôl hanfodol y cyfryngau, gan gynnwys ein darlledwyr teledu a radio, o ran dal pobl i gyfrif a thynnu sylw at y materion pwysicaf. Mae pwysigrwydd canolog cael gafael ar newyddion dibynadwy a diduedd yn benodol wedi cael ei danlinellu yn ystod goresgyniad diweddar Wcráin, sydd wedi gweld newyddiadurwyr, yn gweithio i’r BBC, ITN, Sky a darparwyr newyddion eraill, yn peryglu eu bywydau i ddod â newyddion diduedd a chywir i ni o barth rhyfel byw.

I gefnogi hynny, mae gennym system gadarn o reoleiddio cyfathrebiadau sy’n cael ei harwain yn annibynnol gan Ofcom. O ran darlledu, mae’n dal yn gwbl briodol fod Ofcom yn parhau i fod yn gyfrifol am gynnal y Cod Darlledu gan ei fod yn rheoleiddio materion fel tegwch, yn ogystal â chywirdeb dyladwy a didueddrwydd. Cod sy’n llwyr adlewyrchu hawl darlledwyr i ryddid mynegiant a hawl cynulleidfaoedd i dderbyn gwybodaeth a syniadau.

Yn y cyswllt hwn, mae hefyd yn bwysig fod cyfraith darlledu’r DU yn adlewyrchu rhyddid a thraddodiadau’r DU. Ar ôl rhoi’r Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweledol ar waith, mae deddfwriaeth y DU ar hyn o bryd yn cyfeirio at Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd a allai yn ein barn ni gael effaith ddychrynllyd ar y rhyddid i lefaru. Fel rhan o ymdrechion ehangach y llywodraeth i ddiwygio neu ddileu ‘cyfraith yr UE a ddargedwir’ sydd wedi dyddio’n barod – sef hen gyfraith yr UE a gedwir ar y llyfr statud ar ôl Brexit – rydym dros y misoedd nesaf yn bwriadu disodli diffiniad yr UE yn Neddf Cyfathrebiadau 2003 drwy gael mesur sy’n benodol i’r DU.

Rydym hefyd yn pryderu am y goblygiadau i ryddid y cyfryngau o weithredoedd gan lwyfannau technoleg mawr. Mae gan gyhoeddwyr newyddion y DU – boed ar y teledu, ar y radio neu mewn print – hanes cryf o hyrwyddo rhyddid y cyfryngau ac o adrodd a rhoi sylwadau yn ddi-ofn ar ddigwyddiadau. Mae gwasanaethau teledu a radio yn cael eu rheoleiddio’n uniongyrchol gan Ofcom ac mae system hunanreoleiddio annibynnol ar gael ar gyfer y wasg. Fodd bynnag, mae tensiwn posibl rhwng y fframweithiau rheoleiddio hyn a phenderfyniadau ar wahân gan lwyfannau ar-lein, y mae cyhoeddwyr newyddion yn dibynnu fwyfwy arnynt am ddosbarthu eu cynnwys. Er enghraifft, yn 2021, caeodd YouTube wasanaeth TalkRadio dros dro oherwydd cynnwys a oedd eisoes wedi cael ei ddarlledu ar radio cenedlaethol ac felly’n destun rheoleiddio uniongyrchol gan Ofcom. Mae’r llywodraeth yn glir y dylid rhoi mwy o warchodaeth ar-lein i gynnwys y cyhoeddwyr newyddion, ac i ddeunydd newyddiadurol ehangach. Felly, rydym wedi cynnwys darpariaethau yn y Bil Diogelwch Ar-lein i eithrio cynnwys gan gyhoeddwyr newyddion rhag y dyletswyddau diogelwch yn y ddeddfwriaeth diogelwch ar-lein a sicrhau bod llwyfannau perthnasol yn rhoi mesurau diogelu ar waith ar gyfer cynnwys newyddiadurol sy’n cael ei rannu ar eu gwasanaethau.

4.6. Codi’r Gwastad

Ym mis Chwefror eleni, mae’r llywodraeth wedi nodi cynllun uchelgeisiol ar gyfer ‘newid system’ cyflawn o ran sut mae’r llywodraeth yn gweithio a fydd yn cael ei gyflwyno i godi’r gwastad yn y DU. Wrth galon y ffordd newydd hon o lunio a gweithredu polisi bydd 12 o genadaethau cenedlaethol, beiddgar. Bydd y cenadaethau hyn, a fydd wrth wraidd ein hagenda ar gyfer yr 2020au, yn ymdrechion ar draws y llywodraeth ac ar draws y gymdeithas. Bydd y genhadaeth gyntaf, er enghraifft, yn golygu bod cyflogau, cyflogaeth a chynhyrchiant yn tyfu ym mhob man, a bod bwlch yn cael ei gau rhwng yr ardaloedd sy’n perfformio orau a’r ardaloedd sy’n perfformio waethaf yn lleihau.

Mae gan ddarlledwyr a’r cyfryngau ehangach botensial sylweddol i gyfrannu at godi’r gwastad. Gallant wneud hyn drwy adfywio economïau lleol ar ôl y pandemig i sbarduno twf rhanbarthol, a chryfhau ymdeimlad o hunaniaeth a chysylltiad â chymunedau lleol, drwy ganiatáu i bobl weld eu hunain a’u ffordd o fyw yn cael eu hadlewyrchu ar y sgrin.

Bydd ailgydbwyso gwariant a gweithgarwch ar draws y wlad, gyda mwy o bwyslais ar ardaloedd y tu allan i Lundain a De Ddwyrain Lloegr, yn helpu i ddod â manteision economaidd a chymdeithasol y cyfryngau a darlledu i bobl ar draws rhanbarthau’r DU.

Mae gan ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gwotâu penodol ar gyfer comisiynu rhaglenni o’r tu allan i Lundain. Mae’r cwotâu hyn yn cael eu gosod a’u monitro gan Ofcom ac maent wedi bod yn effeithiol o ran sbarduno twf ar draws y DU. Er enghraifft, mae’r BBC ac ITV eisoes wedi sefydlu clwstwr cyfryngau bywiog yn MediaCityUK yn Salford lle mae rhaglenni cenedlaethol mawr, gan gynnwys BBC Breakfast a Coronation Street, yn cael eu gwneud a’u darlledu. Mae strategaeth y BBC Across the UK yn nodi bod hanner effaith economaidd y BBC eisoes y tu allan i Lundain ac mae wedi nodi ymrwymiadau newydd sylweddol pellach i gomisiynu rhanbarthol a datblygu talent. Mae hyn yn cynnwys cynyddu’r gyfran o wariant teledu a radio’r BBC sydd y tu allan i Lundain i 60% a 50% yn y drefn honno erbyn diwedd cyfnod presennol y Siarter, sef ymrwymiad y mae’r llywodraeth yn ei groesawu. Yn yr un modd, mae Channel 4 wedi comisiynu dros hanner ei rhaglenni gan gynhyrchwyr y tu allan i Lundain bob blwyddyn ers 2013.

Ond rydym wedi cymryd camau i fynd ymhellach na hyn. Bydd cyllid gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i Gomisiwn Ffilm Prydain yn cefnogi twf pellach saith canolfan gynhyrchu ddaearyddol – gan gynnwys un ym mhob gwlad – a nifer o ddatblygiadau stiwdios newydd ledled y DU. Ym mhob un o’r rhanbarthau hyn eisoes, mae rhai o’r unigolion creadigol a masnachol mwyaf talentog mewn unrhyw ddiwydiant, a rhaid i’r dirwedd sgiliau esblygu i fanteisio ar y cyfle hwn. Mae’r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol, gyda chefnogaeth gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, wedi agor safleoedd yn Glasgow, Swydd Efrog a Chaerdydd gyda’r nod o gryfhau’r piblinellau doniau lleol ar gyfer cynyrchiadau ledled y DU. Mae nifer o achosion hefyd lle mae cymunedau unigol yn gweithredu; er enghraifft, drwy Fargen Ddinesig Rhanbarth Belfast, sicrhawyd £38 miliwn ar gyfer Clwstwr Creadigol Sgriniau’r Dyfodol Gogledd Iwerddon – labordy arloesi’r cyfryngau a sgrin gyntaf Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn cael ei ategu gan £2.9 miliwn o gyllid o Rownd Un y Gronfa Codi’r Gwastad ar gyfer Stiwdio Gynhyrchu Hyblyg yn Belfast, er mwyn cyflymu twf y ddinas fel clwstwr creadigol cystadleuol ar gyfer ffilm a sgrin. Bydd y buddsoddiadau hyn yn sicrhau bod y diwydiant mewn sefyllfa dda i ehangu ei gyfraniad tuag at sbarduno twf economaidd rhanbarthol ledled y DU.

Wrth gwrs, mae codi’r gwastad hefyd yn golygu rhoi cefnogaeth i gysylltu cymunedau a meithrin balchder. Gall ein sectorau darlledu gyfrannu yma hefyd. Fel y crybwyllwyd uchod, mae radio cymunedol yn sector sy’n tyfu, gyda staff o wirfoddolwyr lleol yn bennaf ac yn cynnig o nifer o effeithiau cymdeithasol i ranbarthau, gan gynnwys meithrin balchder dinesig, cynyddu cyfranogiad cymunedol a lleddfu unigrwydd. Hyd yn hyn, mae gorsafoedd sy’n derbyn arian gan y Gronfa Radio Cymunedol wedi helpu i wella bywydau yn eu cymunedau, er enghraifft drwy hyrwyddo achosion codi arian lleol, boreau coffi ar gyfer grwpiau sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol neu sy’n agored i niwed, a dosbarthiadau ymarfer corff. Roedd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cynnal gwerthusiad o’r gronfa yn ddiweddar, a ganfu fod grantiau wedi bod yn achubiaeth i orsafoedd llai ac wedi rhoi hwb i’w twf.

4.7. Cyflawni ein hymrwymiad i sero-net

Mae’r llywodraeth yn cydnabod bod angen mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ar frys. Yn dilyn Uwchgynhadledd lwyddiannus COP26 y Cenhedloedd Unedig a gynhaliwyd yn Glasgow ym mis Tachwedd 2021, bydd y DU yn parhau i ddal Llywyddiaeth COP tan COP27 yn yr Aifft yn 2022, lle byddwn yn sbarduno cynnydd pellach ar y mater pwysig hwn. Rydym yn dal wedi ymrwymo i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, gyda tharged o leihau allyriadau o 78% o’i gymharu â lefelau 1990 erbyn 2035.

Mae gan y sector darlledu rôl bwysig i’w chwarae yma. Yn arbennig, mae’r llywodraeth yn croesawu gwaith albert BAFTA wrth fynd i’r afael â’r mater hwn fel y brif fenter cynaliadwyedd ar gyfer cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu yn y DU. Drwy ddarparu offer a chymorth ymarferol, mae albert yn galluogi’r diwydiant i fynd i’r afael ag allyriadau carbon a chyfyngu ar wastraff o weithgareddau cynhyrchu. Mae llawer o gyllidwyr, gan gynnwys darlledwyr a chorff hyd braich y llywodraeth, Sefydliad Ffilm Prydain, yn mynnu bod llawer o’r cynyrchiadau, os nad pob un, yn defnyddio carboniadur ac offer ardystio albert BAFTA er mwyn cael gafael ar gyllid.

Mae nifer o ffynonellau i allyriadau carbon yn y sector darlledu, gan gynnwys:

Cynhyrchu. Yn ôl yr adolygiad diweddaraf gan albert, fe fu yn 2020 ostyngiad o 52% yn yr alllyriadau am awr gyfartalog o deledu, sef o 9.2 tunnell i 4.4 tunnell o CO2 cyfwerth. Gellir priodoli hanner y gostyngiad hwn i gyfyngiadau a gyflwynwyd o ganlyniad i bandemig COVID-19, yn enwedig y gostyngiad mewn teithio. Mae’n debygol y bydd yr effeithiau ar yr amgylchedd yn cynyddu unwaith eto, wrth i’r gwaith cynhyrchu ddychwelyd i’r arfer a mynd yn uwch fyth na’r uchelfannau blaenorol. Fodd bynnag, ni ddylai hyn atal y diwydiant rhag parhau i adeiladu ar y pethau cadarnhaol y gallwn eu cymryd o’r cyfnod hwn a’r ffyrdd newydd o weithio sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r pandemig.

Dosbarthiad. Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi amcangyfrif bod yr ôl troed carbon cyfartalog yn Ewrop am bob awr o fideo sy’n cael ei ffrydio yn gyfwerth â thua 55g o CO2 (sy’n debyg i ferwi tegell trydan cyfartalog dair gwaith) fesul gwyliwr.Mae eu papur gwyn a gyhoeddwyd yn 2021 yn amcangyfrif bod y defnydd o ynni sy’n gysylltiedig â gwylio ar deledu 50 modfedd tua 4.5 gwaith yn fwy na gwylio drwy liniadur, a 90 gwaith yn fwy na gwylio ar ffôn clyfar. Ar yr un pryd, cyfrifir bod diwydiant radio’r DU yn defnyddio tua 115 GWh y flwyddyn ar gyfer trosglwyddo – sy’n cyfateb i’r ynni trydanol a ddefnyddir gan 30,000 o aelwydydd.

Cynhyrchu dyfeisiau. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cynhyrchu teledu sgrin fflat nodweddiadol yn cyfrannu tua hanner allyriadau nwyon tŷ gwydr ei gylch bywyd cyfan. Mae hefyd angen defnyddio nifer o fetelau gan gynnwys indiwm, sef un o’r mwynau lleiaf toreithiog ar y Ddaear. Felly, mae ymestyn oes ddefnyddiol setiau teledu, a sicrhau eu bod yn cael eu hailgylchu yn y pen draw, yn chwarae rôl allweddol o ran cefnogi cynaliadwyedd. Mae’r llywodraeth yn falch fod cwmnïau’n dod yn llawer mwy ymwybodol o’u hôl troed carbon. Er enghraifft, y llynedd, lansiwyd y set deledu carbon niwtral ardystiedig cyntaf yn y byd, sef Sky Glass.

Mae’r llywodraeth hefyd yn croesawu’r gwaith y mae darlledwyr unigol yn ei wneud i gefnogi targed sero-net y DU ar gyfer allyriadau carbon erbyn 2050, ac mae’n gwerthfawrogi’r cynseiliau cadarnhaol y mae’r sector yn y DU eisoes yn eu gosod. Mae’r gwaith arloesol a wnaed gan Sky wedi gosod safon uchel iawn, ac rydym yn croesawu’n fawr yr ymrwymiadau dilynol gan ddarlledwyr eraill i fod yn garbon niwtral erbyn 2030, gan gynnwys y BBC, ITV a Channel 4, ac rydym yn galw ar ddarlledwyr eraill Prydain i ddilyn yr esiampl hon.

Nid yw’r mater hwn yn unigryw i deledu. Roedd yr Adolygiad Radio a Sain Digidol diweddar yn cynnwys asesiad cynhwysfawr o’r defnydd o ynni sy’n deillio o ddarlledu radio analog a digidol ac ymrwymiad clir gan y diwydiant radio y dylent, fel rhan o dybiaethau cynllunio yn y dyfodol, ymrwymo i dargedau i ddefnyddio llai o ynni ar gyfer setiau radio a throsglwyddo.

Mae’r llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd cyfraniad y sector darlledu, o ran allyriadau a hefyd o ran negeseuon gwasanaeth cyhoeddus. Dyna pam ein bod yn falch o weld y diwydiant yn cyhoeddi ar y cyd ‘Adduned Cynnwys ar yr Hinsawdd’ yn ystod COP26. Mae hwn yn ymrwymiad newydd a gynullwyd gan albert BAFTA, gyda 12 llofnodwr hyd yma (gan gynnwys y BBC, ITV, Channel 4, Channel 5, STV a Sky) i ddefnyddio eu cynnwys i addysgu cynulleidfaoedd am yr angen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn ogystal ag ysbrydoli a llywio dewisiadau gwyrdd.

Yn ogystal, mae’r llywodraeth yn dal i fod yn weithgar wrth hyrwyddo camau gweithredu ar y mater pwysig hwn gyda’n partneriaid rhyngwladol. Yn ystod 2021, roedd y DU yn dal Llywyddiaeth Arsyllfa Cyfryngau Clyweledol Ewrop, sef un o gyrff Cyngor Ewrop a oedd â chylch gwaith yn cynnwys y sector clyweledol. Fel rhan o hyn, bu’r llywodraeth yn gweithio gydag albert, Sefydliad Ffilm Prydain, ac amryw o bartneriaid rhyngwladol yn y diwydiant a’r llywodraeth i annog trafodaeth ar gynaliadwyedd amgylcheddol, gan ddod i ben mewn cynhadledd dan arweiniad y DU ar thema ‘Cynaliadwyedd ym maes cynhyrchu ffilm a theledu’. Diolch i arweinyddiaeth y DU a thrwy drafod â’n partneriaid rhyngwladol, mae’r Arsyllfa wedi cadarnhau y bydd yn ymgorffori’r pwnc pwysig hwn yn ei hymchwil wrth symud ymlaen, a fydd yn rhoi sylfaen dystiolaeth werthfawr i’r DU a gwledydd eraill i barhau i chwarae rhan flaenllaw yn y mater pwysig hwn.

4.8. Annog hysbysebu cyfrifol

Mae’r llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd hysbysebu wrth gyfrannu at fywiogrwydd a chryfder marchnadoedd y cyfryngau, yn enwedig darlledwyr. Rydym yn cefnogi’r dull hunanreoleiddiol cyffredinol a ddefnyddir gan y diwydiant hysbysebu, ond rydym hefyd yn gweld gwerth deddfwriaeth a rheoleiddio cyfyngedig lle rydym yn credu bod angen hynny.

Dyma pam, er mwyn helpu i fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant, rydym yn cyflwyno cyfyngiadau ar hysbysebu cynnyrch bwyd a diod llai iach. Mae ein dadansoddiad yn amcangyfrif bod cyfanswm o 2.9 biliwn o effeithiau ar blant ar y teledu yn 2019 ar gyfer cynnyrch bwyd a diod llai iach. Gallai’r mesurau newydd hyn dynnu hyd at 7.2 biliwn o galorïau o ddeiet plant y flwyddyn yn y DU, gan olygu gostyngiad o 20,000 yn nifer y plant sy’n ordew..

Rydym yn cydnabod y bydd y cyfyngiadau newydd hyn yn effeithio ar ffrydiau refeniw darlledwyr yn y dyfodol. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno nifer o eithriadau ac esemptiadau er mwyn cydbwyso’r manteision a’r effeithiau iechyd disgwyliedig ar fusnesau a chreu lle i ddarlledwyr barhau i gynhyrchu refeniw. Er enghraifft, bydd hawl gan frandiau i barhau i hysbysebu, gan ganiatáu i gwmnïau bwyd a diod mawr barhau i farchnata eu hunain. Byddwn yn parhau i weithio gyda darlledwyr ac i fonitro effaith y mesurau newydd.

Byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o gefnogi darlledwyr yn y DU drwy newidiadau posibl yn yr ecosystem hysbysebu ehangach. Er enghraifft, drwy’r Rhaglen Hysbysebu Ar-lein, rydym yn bwriadu ystyried sut mae creu mwy o degwch rhwng hysbysebion sy’n cael eu darlledu a hysbysebion ar-lein, gan gynnwys o ran atebolrwydd llwyfannau, wrth i ni ystyried pa fesurau y gellid eu cyflwyno i wella atebolrwydd a thryloywder. Lansiwyd ymgynghoriad y Rhaglen Hysbysebu Ar-lein ar 9 Mawrth.

4.9. Diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol

Yn ogystal â’i werth masnachol, mae teledu, ochr yn ochr â ffilmiau a gweithgareddau eraill ar y sgrin, yn rhan bwysig o dreftadaeth a llesiant diwylliannol y DU. Mae’n adlewyrchu ac yn siapio barn, yn cofnodi eiliadau o bwys, ac yn ein galluogi i ddeall ein hunain a’n gwlad yn well. Am y rheswm hwnnw, mae’n hanfodol ein bod yn diogelu’r diwylliant hwnnw, a’r cynnwys hwnnw, i’r cenedlaethau i ddod.

Mae Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) yn cynnal Archif Genedlaethol BFI ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol wneud cyfraniadau ariannol i’r Archif honno. O dan Ddeddf Darlledu 1990, mae Ofcom yn goruchwylio’r cyfraniadau hyn ac yn penderfynu faint sy’n briodol i ddeiliaid trwyddedau Sianel 3, Sianel 4 a Sianel 5 er mwyn cyfrannu at gostau cynnal yr Archif. Mae’r BFI hefyd yn gweithio’n agos gyda’r BBC a’i weithgarwch archifo i osgoi dyblygu.

Dros amser, mae cynnwys sgrin perthnasol sy’n siapio diwylliant y DU yn cael ei wneud fwyfwy y tu allan i’r ecosystem darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Felly, mae’n bwysig fod yr Archif yn parhau i gyd-fynd â’r newid yn allbwn diwylliannol y DU, a byddem yn croesawu ymgysylltiad mwy rhagweithiol gan wneuthurwyr cynnwys nad ydynt yn ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus â’r Archif ynghylch sut byddant yn cyfrannu at, ac yn cefnogi, stôr y DU o gynnwys o bwys diwylliannol yn y dyfodol. Gan edrych i’r dyfodol, a gweithio gyda phartneriaid perthnasol, byddwn yn ystyried ac yn gweithredu ar y ffordd orau o ddiogelu treftadaeth sgrîn ddiwylliannol y genedl er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu ei deall.

4.10. Gweithio gyda’n partneriaid byd-eang

Mae masnach rydd yn esblygu, ac mae gan y DU gyfle pwysig i fasnachu mwy a gwneud hynny mewn ffordd wahanol. Rydym yn dechrau ar gyfnod newydd yn ein perthnasoedd masnachu, gan negodi rhai o gytundebau masnach rydd arloesol gorau’r byd gyda marchnadoedd y dyfodol. Drwy gysoni ein cytundebau masnach a’n cysylltiadau â blaenoriaethau’r DU, rydym yn creu cyfleoedd allforio sy’n gweithio i bob rhan o’r DU.

Mae’r llywodraeth yn falch o sector clyweledol cryf y DU, sy’n cynhyrchu cynnwys o’r radd flaenaf ac yn denu buddsoddiad o bob cwr o’r byd. Mae talent a seilwaith y DU wedi ei gwneud yn gyrchfan o ddewis i saethu cyfresi ffilm a theledu mawr fel Star Wars a The Lord of the Rings: The Rings of Power. Mae’r llywodraeth hefyd yn gweithredu i roi cymorth i gynnwys annibynnol o’r DU gael ei weld yn ehangach, ac roedd yn falch o gadarnhau y byddwn, fel rhan o becyn ehangach gwerth bron i £50 miliwn y Diwydiannau Creadigol, a gyhoeddwyd yn yr Adolygiad o Wariant diweddar, yn buddsoddi £21 miliwn arall yng Nghronfa Sgrin Fyd-eang y DU. Bydd y Gronfa honno’n creu mwy o gyfleoedd i feithrin partneriaethau rhyngwladol a rhannu straeon y DU â’r byd, gan ganolbwyntio’n benodol ar sicrhau bod hyd yn oed mwy o gynnwys sgrin annibynnol hynod lwyddiannus y DU yn cyrraedd cynulleidfaoedd ar draws y byd.

Mae’r sector clyweledol yn ecosystem gymhleth, ac mae ei lwyddiant yn cael ei gefnogi gan gyfres o ymyriadau polisi cyhoeddus, llawer ohonynt wedi’u nodi yn y ddogfen hon. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i gynnal a datblygu cryfder y sector, gan gynnwys drwy ein hagenda masnach ryngwladol.

Yn benodol, byddwn yn sicrhau bod polisi masnach y DU yn ategu ac yn diogelu fframwaith polisi cyhoeddus clyweledol y DU, gan gynnwys cynnal ein haelodaeth o Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Deledu Trawsffiniol ac, o ganlyniad, ein statws Gwaith Ewropeaidd. Mae’r statws hwn yn sicrhau bod y DU yn parhau i gyfrannu at gyfoethogi diwylliannol hanfodol ar draws y gwledydd, gan ganiatáu i ni gydweithio’n effeithiol â’n cymdogion yn Ewrop a dosbarthu gweithiau sy’n bwysig yn ddiwylliannol ar draws Ewrop. Er enghraifft, mae’n golygu bod darlledwyr ledled Ewrop yn gallu cael gafael ar gynnwys o’r DU sy’n boblogaidd iawn gyda chynulleidfaoedd Ewropeaidd, gan gynyddu’r dewis a’r ymgysylltiad, a hefyd helpu i sicrhau bod cynulleidfaoedd y DU yn gallu cael gafael ar y cynnwys Ewropeaidd gorau. Mae hefyd yn cefnogi cynhyrchwyr y DU ac Ewrop i gydweithio i gynhyrchu cynnwys ar draws Ewrop, a thrwy hynny helpu i sicrhau bod gwledydd ledled Ewrop yn cynnal eu systemau darlledu bywiog eu hunain.

4.11. Hyrwyddo cystadleuaeth mewn marchnadoedd digidol

Mae newidiadau cyflym mewn technoleg, arferion gwylio a dyfodiad chwaraewyr byd-eang wedi cyflwyno heriau newydd i ddarlledwyr ym Mhrydain fel yr eglurir ym Mhennod 1.

Mewn sectorau eraill, mae dyfodiad cewri technolegol byd-eang, a’r don o gydgrynhoi y maen nhw’n ei hysgogi, wedi codi cwestiynau am yr effaith ar gystadleuaeth a’r risg i’r amrywiaeth o safbwyntiau posibl sydd ar gael i ddefnyddwyr.

Mewn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2021, roedd y llywodraeth wedi nodi ei chynigion ar gyfer trefn newydd o blaid cystadleuaeth ar gyfer marchnadoedd digidol, a byddwn yn cyhoeddi ein hymateb maes o law. Bydd y drefn hon yn sbarduno economi ddigidol fwy bywiog ac arloesol ledled y DU, a bydd yn ategu’r drefn gystadlu bresennol a’r pwerau rheoleiddio sydd ar gael i reoleiddwyr sector fel Ofcom.

Bydd y drefn yn cael ei goruchwylio gan yr Uned Marchnadoedd Digidol newydd yn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, a bydd yn cynnwys rheolau newydd i sicrhau bod defnyddwyr a busnesau’n cael eu trin yn deg a sicrhau tegwch er mwyn i gwmnïau technoleg newydd ac arloesol allu ffynnu. Dim ond i nifer fach o’r cwmnïau technoleg mwyaf pwerus y bydd y rheolau newydd yn berthnasol er mwyn siapio eu hymddygiad yn y farchnad a diogelu’r rheini sy’n dibynnu arnynt, a allai gynnwys darlledwyr a/neu weithredwyr llwyfannau mewn rhai amgylchiadau. Bydd yr Uned Marchnadoedd Digidol yn cael ei grymuso i fynd i’r afael â’r ffynonellau pŵer sylfaenol yn y farchnad a chanlyniadau hynny drwy gyflwyno gofynion ymddygiad ac ymyriadau o blaid cystadleuaeth. Er enghraifft, bydd yn cynnwys amrywiaeth o offer i sicrhau bod y cwmnïau technoleg mwyaf pwerus yn gweithredu ar delerau teg a rhesymol gyda thrydydd partïon.

Bydd y llywodraeth yn deddfu ar gyfer y drefn newydd hon o blaid cystadleuaeth pan fydd amser seneddol yn caniatáu hynny. Mater i’r Uned Marchnadoedd Digidol, fel rheoleiddiwr annibynnol, fydd penderfynu sut i ddefnyddio eu pwerau newydd.

Yn y tymor hwy, wrth i’r sector darlledu barhau i esblygu, byddwn yn parhau i ystyried sut mae marchnadoedd digidol yn effeithio ar ddarlledu ac a oes angen rhagor o ymyriadau pwrpasol yn y farchnad.

Pennod 5: Technoleg newydd a datblygol

Mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu bod gan wylwyr a gwrandawyr heddiw ddewis enfawr o ran yr hyn maen nhw’n ei wylio a sut maen nhw’n ei wylio – ac maen nhw’n manteisio ar hynny. Ochr yn ochr â theledu a radio byw, mae cynulleidfaoedd bellach yn rhannu eu hamser rhwng nifer cynyddol o ddarparwyr a dyfeisiau.

Mae’r bennod hon yn nodi dull gweithredu’r llywodraeth o reoleiddio’r technolegau hyn – gan annog arloesi ar yr un pryd â chynnal tegwch i’r rhai sy’n cymryd rhan.

5.1. Rheoleiddio cynnwys mewn gwasanaethau fideo-ar-alw

Mae gwasanaethau fideo-ar-alw fel Netflix ac Amazon Prime Video yn darparu gwerth enfawr i gynulleidfaoedd y DU, ac mewn llawer o achosion maent yn darparu cyfraniadau sylweddol, a chynyddol, i economi’r DU. Erbyn hyn, mae gwylwyr yn gallu cael gafael ar filoedd o oriau o raglenni ar-alw drwy ddefnyddio botwm ar draws cannoedd o wasanaethau fideo-ar-alw, pob un yn amrywio o ran graddfa ac uchelgais a chyrhaeddiad cynulleidfa.

Fodd bynnag, nid yw’r gwasanaethau ar-alw, ar wahân i iPlayer y BBC, yn rhwym wrth God Darlledu Ofcom, sy’n nodi safonau priodol ar gyfer cynnwys, gan gynnwys deunydd niweidiol neu dramgwyddus, cywirdeb, tegwch a phreifatrwydd. Mae hyn yn golygu bod y cynnwys sy’n debyg i deledu rydych chi’n ei wylio yn cael ei reoleiddio’n wahanol yn dibynnu ar sut rydych chi’n dewis ei wylio. Yn yr un modd, mae hwn yn un maes o arloesi a thwf sylweddol yn y diwydiant. Mae defnyddwyr yn mwynhau’r ystod eang o wasanaethau ar-alw sydd ar gael ac ni fyddem yn dymuno i reoleiddio lesteirio’r profiad hwn na gwneud y DU yn farchnad llai deniadol i weithredu gwasanaethau fideo-ar-alw ynddi.

Dyna pam rydym wedi lansio ymgynghoriad i ystyried a oes angen lefelu’r rheolau ar gyfer darlledwyr traddodiadol a gwasanaethau fideo-ar-alw mawr.

Mae ymateb llawn i’r ymgynghoriad hwnnw wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r Papur Gwyn hwn, sy’n amlinellu bod y Llywodraeth yn bwriadu deddfu’n ysgafn i roi pwerau i Ofcom ddrafftio a gorfodi Cod Fideo-ar-alw newydd, tebyg i’r Cod Darlledu, i sicrhau y bydd cynnwys tebyg i deledu, ni waeth sut mae cynulleidfaoedd yn dewis ei wylio, yn rhwym wrth safonau tebyg. Bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd cynulleidfaoedd y DU yn cael eu diogelu’n well rhag deunydd niweidiol a byddant yn gallu cwyno’n well wrth Ofcom os byddant yn gweld rhywbeth sy’n peri pryder iddynt.

Bydd y gyfundrefn hon, a fydd gyda’r gorau yn y byd, yn cael ei hanelu at wasanaethau fideo-ar-alw tebyg i deledu, mwyaf o ran maint, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau mawr sy’n ymgysylltu’n fawr â chynulleidfaoedd yn y DU yn rhwym wrth yr un rhwymedigaethau neu rwymedigaethau tebyg i ddarlledwyr yn y DU. Bydd hyn yn sicrhau hefyd fod darparwyr ar-alw tebyg i deledu, mwy o faint, nad ydynt yn cael eu rheoleiddio yn y DU ar hyn o bryd ond sy’n targedu ac yn elwa o gynulleidfaoedd yn y DU, yn dod o dan awdurdodaeth Ofcom. Bydd y gwasanaethau penodol a fydd yn destun rheoleiddio newydd yn cael eu pennu gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn dilyn adolygiad gan Ofcom.

Bydd hyn yn golygu y bydd gan wasanaethau ffrydio ar-alw mwy o faint yr un rhwymedigaethau neu rwymedigaethau tebyg i ddarlledwyr traddodiadol, gan gynnwys delio â chwynion yn effeithiol. Bydd dulliau Ofcom o reoleiddio fideo-ar-alw, megis casglu gwybodaeth a phwerau gorfodi, hefyd yn cael eu cysoni â’r rheoliadau darlledu presennol.

Yn ein cyfundrefn ysgafn, ni fydd cydymffurfiaeth gynyddol ar fesurau ac offer diogelu, fel sgoriau oedran, codau PIN a rhybuddion, yn orfodol. Yn hytrach, bydd gan Ofcom ddyletswydd barhaus i asesu mesurau diogelu cynulleidfaoedd darparwyr ar-alw. Bydd hyn yn sicrhau bod y systemau sy’n cael eu rhoi ar waith gan ddarparwyr fideo-ar-alw yn rhai effeithiol ac addas i’r diben, ac yn caniatáu i Ofcom sicrhau newid os oes angen.

Gan barchu materion sy’n ymwneud â’r rhyddid i lefaru a chymesuredd, bydd gwasanaethau ar-alw llai o faint, â risg is, yn y DU yn parhau o dan y rheolau presennol, gan sicrhau nad yw gwasanaethau llai o faint yn cael eu cosbi’n annheg nac yn ddiangen.

5.2. Sicrhau bod pob cynulleidfa’n gallu cael gafael ar wasanaethau fideo-ar-alw

Erbyn hyn, mae dros dri chwarter o gartrefi yn defnyddio gwasanaethau fideo-ar-alw, ond mae darparu is-deitlau, iaith arwyddion a sain-ddisgrifio ar y gwasanaethau hyn yn dal ar ei hôl hi o gymharu â theledu sy’n cael ei ddarlledu. Er bod targedau statudol yn bodoli ar gyfer gwasanaethau mynediad (is-deitlau, iaith arwyddion a sain-ddisgrifio) ar deledu sy’n cael ei ddarlledu, nid yw’r rhain yn cael eu dyblygu ar gyfer gwasanaethau ar-alw, sy’n golygu bod cyfran sylweddol o boblogaeth y DU yn cael ei hatal rhag mwynhau teledu pan fydd hynny’n gyfleus iddyn nhw.

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i gymdeithas ddigidol gynhwysol, lle dylai cynnwys teledu fod yn hygyrch i holl gynulleidfaoedd y DU, ni waeth pa lwyfan a ddewisir i gael gafael ar gynnwys. O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017), mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i osod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar-alw yn hygyrch i bobl sydd ag anableddau. Mae hyn yn cynnwys gofynion mewn perthynas ag isdeitlo, sain-ddisgrifio ac iaith arwyddion.

Fel rhan o’r broses o weithredu’r gofynion newydd hyn, gofynnodd y llywodraeth i Ofcom ddarparu argymhellion ynglŷn â sut gallai deddfwriaeth wneud gwasanaethau ar-alw yn fwy hygyrch. Roedd Ofcom wedi cyhoeddi adroddiad cychwynnol ym mis Rhagfyr 2018, ac yna, yn dilyn cais gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, cynhaliodd ymgynghoriad ychwanegol wedi’i dargedu i lywio rhagor o argymhellion ynghylch sut byddai’r gofynion newydd yn gweithio’n ymarferol. Cyhoeddwyd y cynigion hyn ym mis Gorffennaf 2021 ac rydym yn gweithio gydag Ofcom i ddatblygu cynigion deddfwriaethol i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth yn y ddarpariaeth gwasanaethau mynediad rhwng gwasanaethau darlledu ac ar-alw. Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i sicrhau bod deddfwriaeth yn glir, yn gymesur ac yn addas i’r diben.

5.3. Teledu daearol digidol

Mae teledu daearol digidol (DTT), sy’n adnabyddus i gynulleidfaoedd fel llwyfan Freeview, yn rhan boblogaidd a phwysig o system ddarlledu’r DU. Mae digon o sbectrwm (amleddau radio penodol) yn cael ei ddyrannu i deledu daearol digidol i sicrhau bod cynnwys ar y llwyfan ar gael yn gyffredinol, oherwydd mae ei ddarpariaeth yn bron i 99% ledled y DU.

Ym mis Rhagfyr 2020, cynhaliodd y llywodraeth ymgynghoriad a oedd yn gofyn am safbwyntiau ar adnewyddu pum trwydded amlblecs cenedlaethol ar y llwyfan DTT sy’n dod i ben yn 2022 a 2026. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Chwefror 2021, a chyhoeddodd y llywodraeth ei hymateb ar 17 Awst 2021. Yn ein hymateb roeddem wedi cadarnhau y byddem yn rhoi deddfwriaeth ar waith i roi’r pŵer i Ofcom adnewyddu pob un o’r pum amlblecs cenedlaethol tan 2034, ynghyd â’r hyblygrwydd rheoleiddio priodol drwy gynnwys pŵer dirymu newydd lle na all dirymu ddod i rym cyn diwedd 2030.

Mae’r ddeddfwriaeth hon bellach mewn grym, ac mae’r adnewyddiadau hirdymor yn cydnabod ein hymrwymiad i’r llwyfan DTT. Rydym yn disgwyl, ar sail lefel uchel y DTT sy’n cael ei ddefnyddio gan aelwydydd ar draws pob rhan o’r DU, y bydd hon yn parhau i fod yn sianel bwysig ar gyfer dosbarthu cynnwys am weddill y 2020au o leiaf, ac yn debygol o gyrraedd y 2030au cynnar.

Rydym yn cydnabod y bydd y llwyfan DTT a’i ddyfodol yn parhau i fod yn faes diddordeb parhaus i’r sector ac y bydd hyn yn faes pwysig i’r DU o ran datblygu sefyllfa’r DU ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol Radio Byd yr Undeb Telegyfathrebiadau Rhyngwladol nesaf yn 2023 lle bydd dyrannu’r sbectrwm sydd wedi’i ddyrannu ar hyn o bryd i deledu daearol digidol yn eitem sylweddol ar yr agenda. Mae cynnal buddsoddiad a hyder yn nyfodol y llwyfan DTT yn bwysig a dyna pam mae’r llywodraeth wedi galluogi adnewyddu’r trwyddedau yn y tymor hir hyd at 2034. Hefyd, bydd y llywodraeth yn gofyn i Ofcom barhau i gadw golwg ar newidiadau i wylio teledu daearol digidol ac i gynnal adolygiad cynnar cyn diwedd 2025 o newidiadau yn y farchnad a allai effeithio ar ddyfodol dosbarthu cynnwys.

5.4. Teledu sy’n cael ei ddarparu ar y rhyngrwyd

Er bod gwasanaethau fideo-ar-alw wedi cyrraedd yn y DU a’i fod yn cynnig hwylustod, teledu byw yw’r dewis i filiynau o gartrefi o hyd wrth chwilio am newyddion, adloniant neu rywbeth newydd.

Mae teledu sy’n cael ei ddarparu ar y rhyngrwyd – a elwir hefyd yn IPTV – yn codi’r posibilrwydd o gael y gorau o’r ddau fyd, gan gyfuno’r hwylustod a’r dewis sy’n cael ei ddarparu gan lwyfannau modern sy’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd â natur cyfarwydd a chyson teledu llinol.

Mae’r DU yn parhau i fod yn flaenllaw yn y datblygiadau arloesol hyn, gyda chefnogaeth ein 96% o ddarpariaeth band eang cyflym iawn a chyflwyno band eang gigabit o’r radd flaenaf i fwy na 17.5 miliwn o gartrefi. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod o leiaf 85% o adeiladau, erbyn 2025, yn gallu cael mynediad at rwydweithiau sy’n gallu delio â gigabits, a bydd yn ceisio cyflymu’r broses o’u cyflwyno ymhellach er mwyn cyrraedd mor agos â phosibl at 100%. Ar yr un pryd, mae cynnyrch newydd sy’n cael ei lansio o lwyfannau fel Sky, Virgin a BT, a datblygiad pellach dyfeisiau sy’n gallu delio â Freeview Play, yn cynyddu’r nifer sy’n defnyddio gwasanaethau IPTV i fwy o gartrefi nag erioed o’r blaen.

Y llynedd, gwnaeth y llywodraeth ymrwymiad clir i DTT fel y prif lwyfan darparu ar gyfer teledu byw am flynyddoedd lawer i ddod, ond mae llawer yn credu y gallai IPTV ddisodli DTT dros amser, yn union fel roedd DTT wedi disodli teledu analog traddodiadol. Ymhen amser, gallai hyn ryddhau’r tonnau awyr at ddibenion eraill – gan fod diffodd gwasanaethau analog wedi hwyluso cyflwyno’r gwasanaethau symudol 4G – er y gallai mwy o ddibyniaeth ar led band y rhyngrwyd ar gyfer dosbarthu teledu greu pwysau ar rwydweithiau sefydlog. Byddai angen i unrhyw ystyriaeth i symud oddi wrth teledu daearol digidol gysoni materion mwy eang, fel y ffaith bod derbyn a gwylio teledu daearol digidol ‘am ddim’ os ydych yn talu am eich trwydded deledu, ond mae derbyn a gwylio IPTV hefyd yn mynnu bod gan ddefnyddwyr fynediad at gysylltiad band eang digon cyflym ar hyn o bryd. Er bod dyfodol dosbarthu yn ansicr, ac nad oes angen gwneud penderfyniadau ar IPTV nawr, bydd angen trafodaeth gyhoeddus helaeth ar y materion hyn maes o law. Dyma’r math o faterion y byddem yn disgwyl i adolygiad Ofcom o deledu daearol digidol yn 2025 ddechrau eu hystyried.

Rhaid cael chwarae teg hefyd rhwng darparwyr gwasanaethau IPTV a darlledwyr traddodiadol. Fel cam cychwynnol, byddwn yn cau’r bwlch sy’n caniatáu i wasanaethau IPTV heb eu rheoleiddio ymddangos ar setiau teledu yn y DU drwy ddynodi cyfeiryddion rhaglenni electronig ychwanegol wedi’u rheoleiddio. Bydd hyn yn golygu y bydd Ofcom yn dod â’r gwasanaethau IPTV sydd wedi’u rhestru ar y cyfeiryddion hyn o fewn cwmpas rheoleiddio. Byddwn hefyd yn parhau i adolygu’r pwerau casglu gwybodaeth a gorfodi sydd ar gael i Ofcom yn y maes hwn.

5.5. Dyfeisiau sain cysylltiedig sy’n cael eu defnyddio yn y cartref ac mewn cerbydau

Mae’r ffordd mae pobl yn gwrando ar y radio wedi newid yn gyflym dros y pum mlynedd diwethaf, ers i’r dyfeisiau sain cysylltiedig cyntaf, sef ‘seinyddion clyfar’, gyrraedd y farchnad yn y DU.

Erbyn hyn felly, nid yw dyfodol radio yn gwestiwn syml o newid o analog i ddigidol – mae gwrando dros seinyddion clyfar eisoes yn cynrychioli bron i un rhan o bump o’r holl wrando ar y radio, ac mae hyn yn debygol o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf wrth i sylfaen y seinyddion cysylltiedig mewn cartrefi yn y DU barhau i dyfu.

Mae twf cyflym seinyddion clyfar yn rhoi radio mewn sefyllfa lle nad yw erioed wedi bod o’r blaen, gyda thechnoleg trydydd parti yn gallu rheoli (a chyfyngu) mynediad at orsafoedd poblogaidd iawn.

Mae’r Adolygiad Sain a Radio Digidol wedi cyflwyno achos cryf dros weithredu i warchod radio a’r gwerth cyhoeddus enfawr y mae’n ei ddarparu yn wyneb newid technolegol. Rydym yn cytuno â chasgliadau’r Adolygiad y gallai fod angen mesurau newydd i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn gallu cael gafael ar wasanaethau radio ar ddyfeisiau newydd heb ymyrryd yn ormodol â’r gwasanaethau hynny na ffioedd mynediad.

Fodd bynnag, ni fydd hyn yn syml. Bydd angen ystyried unrhyw ymyrraeth sylweddol yn y maes hwn yng nghyd-destun ehangach y gwaith arall rydym yn ei wneud, yn enwedig mewn perthynas â marchnadoedd digidol a diwygio diogelu data. Bydd angen i ni hefyd ymgysylltu ymhellach â’r diwydiant radio, a chael dealltwriaeth ddyfnach o bolisïau ac arferion y llwyfannau seinyddion clyfar, er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r drefn orau bosibl ar waith i ganiatáu i radio barhau i gyrraedd ei wrandawyr ymhell i’r dyfodol.

Cydnabyddiaetha

Hoffai’r llywodraeth ddiolch i’r sefydliadau a’r unigolion a helpodd i lunio’r cynigion polisi a nodir yn y ddogfen hon, gan gynnwys:

  • Ofcom, ac eraill a gyfrannodd at eu hadolygiad diweddar o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus;

  • Aelodau o’r Panel Cynghori ar Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus;

  • Cyfranwyr at yr Adolygiad Sain a Radio Digidol;

  • Ymatebwyr i ymgyngoriadau’r llywodraeth, gan gynnwys mewn perthynas â safonau diogelu cynulleidfaoedd ar wasanaethau fideo-ar-alw a newid posibl ym mherchnogaeth Channel 4; ac

  • Aelodau Pwyllgor Digidol a Chyfathrebu Tŷ’r Arglwyddi a’r Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon am eu gwaith blaenorol yn y maes hwn.

  1. Mae gorsafoedd radio cymunedol sy’n gweithredu ar FM neu AM wedi’u trwyddedu am bum mlynedd ac mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu tri adnewyddiad pellach (20 mlynedd i gyd).