Consultation outcome

Response to the consultation on a Police Covenant for England and Wales (Welsh) (accessible version)

Updated 11 August 2021

Cyflwyniad

Cyfamod Heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr - Ymateb i’r ymgynghoriad

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref yng Nghynhadledd yr Uwch-arolygwyr ym mis Medi 2019 y byddai hi’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Gyfamod yr Heddlu, gan ganolbwyntio ar iechyd a llesiant, amddiffyniad corfforol a chefnogaeth i deuluoedd.

Ymrwymodd y Llywodraeth yn ei Maniffesto 2019 i gynnwys y Cyfamod yn y gyfraith.

Ar 26 Chwefror 2020 lansiwyd yr ymgynghoriad ar Gyfamod yr Heddlu i Gymru a Lloegr. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Ebrill. Oherwydd y pandemig Covid-19 derbyniwyd nifer fach o ymatebion ar ôl y dyddiad cau. O dan yr amgylchiadau ystyriwyd ei bod yn bwysig bod y rhain yn cael eu cynnwys yn y dadansoddiad. Derbyniwyd cyfanswm o 1113 o ymatebion i’r holiadur. Cawsom ymatebion naratif hefyd gan nifer fach o grwpiau rhanddeiliaid allweddol.

Nododd naw deg y cant o’r ymatebwyr eu bod yn cefnogi’r syniad o Gyfamod yr Heddlu.

Rydym hefyd yn cydnabod bod hon yn foment ganolog ar gyfer plismona ac rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth gan bartneriaid plismona bod cefnogi a gwarchod ein heddlu yn cynnwys creu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol, lle gall pobl o bob cefndir a diwylliant ffynnu. Mae’r Swyddfa Gartref yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio â phlismona i ehangu cynrychiolaeth a sicrhau nad yw amrywiaeth yn cael ei chynnwys yn unig ond ei bod yn cael ei hyrwyddo’n weithredol. Bydd hyn yn sicrhau y gall plismona barhau i ddenu a chadw’r unigolion mwyaf talentog sydd ag ystod eang o sgiliau a phrofiad.

Dylid nodi bod y ddogfen ymgynghori yn pennu bod tâl a phensiynau y tu allan i gwmpas y cyfamod. Fodd bynnag, cyfeiriodd nifer sylweddol o ymatebwyr at y ddau yn eu hymatebion. Rydym wedi cynnwys rhai o’r sylwadau yn yr ymateb hwn i sicrhau ein bod yn adlewyrchu’n gywir bryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, hyd yn oed pan yw’r pynciau hynny y tu allan i’w gwmpas.

Cyd-destun

Mae’r heddlu’n gwneud gwaith unigryw a rhyfeddol yn wyneb heriau a phwysau enfawr. Mae’r Llywodraeth wedi cynnig cynlluniau ar gyfer Cyfamod yr Heddlu, sydd wedi’i ymgorffori yn y gyfraith, i gydnabod hyn a darparu’r amddiffyniad a’r gefnogaeth y maent yn eu haeddu.

Y llynedd, amlygodd Adolygiad Rheng Flaen y Swyddfa Gartref (FLR) bryderon swyddogion a staff yr heddlu a’r angen i wneud mwy i’w helpu.

Nododd yr Adolygiad ystod eang o faterion, gan gynnwys:

  • Swyddogion rheng flaen, staff a gwirfoddolwyr yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol gan y system blismona ehangach;
  • Datgysylltiad rhwng y rheng flaen a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau uwch/cenedlaethol;
  • Amheuaeth ynghylch mesurau llesiant, ac awydd i weld gweithredu ystyrlon ag effaith barhaol.

Amlygodd hyn yr angen am weithredu ar frys i sicrhau bod yr heddlu’n cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi’n llawn. Cyflwynwyd pecyn o fesurau ar unwaith mewn ymateb, ond mae’r Llywodraeth wedi parhau i chwilio am ddulliau i wneud mwy i wella llesiant yr heddlu a mynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Ym mis Medi 2019, comisiynodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu adolygiad brys o ddiogelwch swyddogion a staff ar ran yr holl Brif Gwnstabliaid. Canolbwyntiodd yr adolygiad ar hyfforddiant diogelwch swyddogion, cyfarpar, adleoli a chynllunio gweithredol, ymchwiliadau i ymosodiadau ar swyddogion gan gynnwys y gofal a ddarperir ar ôl ymosodiad a’r ymateb gan y system cyfiawnder troseddol, ac i ba raddau y mae’n darparu ataliad digonol.

Cyhoeddwyd canfyddiadau’r adolygiad ar 2 Medi, â chyfanswm o 28 o argymhellion. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar agweddau megis hyfforddiant diogelwch personol, cyfarpar amddiffynnol, llesiant, cefnogaeth rheolwr llinell a chanlyniadau cyfiawnder troseddol. Mae’n arbennig o bwysig ein bod, lle mae’n bosibl, yn edrych am gyfleoedd i symud ymlaen â’r argymhellion o dan gylch gwaith y Cyfamod ac yn defnyddio’r canfyddiadau i lywio ein datblygiad o’r gwaith hwn.

Ym mis Tachwedd 2019, lansiodd Gwasanaeth Llesiant Cenedlaethol yr Heddlu (NPWS) yr arolwg Llesiant a Chynhwysiant Cenedlaethol yr Heddlu cyntaf erioed. Nod yr arolwg oedd asesu cyflwr llesiant a chynhwysiant cyfredol ar draws pob un o’r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr a sefydlu sut mae pobl yn teimlo yn y gwaith fel y gallai’r NPWS adeiladu darlun clir o’r hyn y mae angen cymryd camau pellach arno. Bydd canfyddiadau’r arolwg hwn yn cael eu hystyried wrth i ni ddechrau gweithredu’r cyfamod.

Ym mis Ionawr 2020 cyhoeddwyd y Cyd-gytundeb ar Droseddau yn erbyn Gweithwyr Brys. Llofnodwyd y cytundeb gan Wasanaeth Erlyn y Goron, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, GIG Lloegr, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Tân a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi. Mae’r cytundeb yn darparu ar gyfer fframwaith eang i sicrhau ymchwilio ac erlyn achosion yn fwy effeithiol lle mae gweithwyr brys yn dioddef trosedd, yn arbennig wrth weithredu darpariaethau’r Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr Brys (Troseddau) 2018 ac i nodi’r safonau y gall dioddefwyr y troseddau hyn eu disgwyl.

Gan adeiladu ar bob un o’r rhai uchod, cyflwyno Cyfamod yr Heddlu yw’r cam nesaf i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr, ystyrlon a pharhaol i’r rhai sy’n gweithio ym maes plismona. Mae cyfle i gyfuno rhywfaint o waith cyffrous sydd eisoes ar y gweill â phrosiectau sydd newydd eu nodi i wneud gwahaniaeth cynhwysfawr i fywydau’r rhai sy’n gweithio neu sydd wedi gweithio o fewn y maes plismona.

Byddai Cyfamod yr Heddlu yn adeiladu ar waith sy’n bodoli eisoes i wella llesiant ac annog gwella cefnogaeth o’r fath. Mae ar wahân i unrhyw benderfyniadau a phrosesau sy’n ymwneud â chyflogau ac amodau a darpariaethau pensiwn.

A oes cefnogaeth i’r syniad o Gyfamod yr Heddlu?

I ba raddau ydych chi’n cytuno y byddai’n fuddiol cael Cyfamod yr Heddlu?

a bar chart with percentage on the vertical axis showing over 70% strongly agree, over 10% agree, less than 10% neither agree nor disagree, less than 5% disagree and less than 5% strongly disagree

Cytuno’n gryf - Cytuno - Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Anghytuno - Anghytuno’n gryf

Wedi’i seilio ar 1,097 o ymatebwyr.

Roedd dros 90% o’r ymatebwyr naill ai’n cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r syniad o Gyfamod yr Heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr. Roedd cefnogaeth hefyd dros ddod â Lluoedd heblaw rhai’r Swyddfa Gartref o fewn cwmpas y Cyfamod. Yn ogystal, roedd ymateb clir gan yr ymatebwyr y dylai’r Cyfamod gwmpasu pawb sy’n gweithio o fewn y maes plismona mewn rhinweddau cyflogedig a gwirfoddol. Mae Cyfamod yr Heddlu yn ddatganiad cyhoeddus o gefnogaeth i’r rhai sy’n gweithio ym maes plismona.

Pwy ymatebodd?

Roedd cyfran uchel o’r ymatebwyr yn swyddogion mewn swydd gyda’r grwpiau mwyaf nesaf yn staff yr heddlu ac yn swyddogion sydd wedi ymddeol. Derbyniwyd pump y cant o’r ymatebion gan aelodau’r cyhoedd, yn ogystal â hynny roedd nifer fach o ymatebion gan weddwon yr heddlu, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCCs) a theuluoedd yr heddlu.

Cefnogaeth i’r Cyfamod fesul grŵp

I ba raddau ydych chi’n cytuno y byddai’n fuddiol cael Cyfamod yr Heddlu?

Cytuno’n gryf % Cytuno % Ddim yn cytuno nac yn anghytuno % Anghytuno % Anghytuno’n gryf
Swyddogion yr Heddlu [413] 70.2 16.9 8.2 2.4 2.2
Staff yr Heddlu [220] 67.7 26.4 4.1 0.9 0.9
Yr Heddlu – Eraill* [43] 74.4 20.9 4.7 0 0
Swyddogion/Staff yr Heddlu sydd wedi ymddeol [203] 86.2 7.9 3.9 1 1
Y Cyhoedd [53] 64.2 20.8 11.3 0 3.8
Teuluoedd yr Heddlu [27] 92.6 0 7.4 0 0
Heb Ddatgan [120] 64.2 23.3 7.5 1.7 3.3

*PCSOs [Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu] yn bennaf

DS: Mae dadansoddiadau canrannol ar gyfer gwirfoddolwyr a chyrff cynrychioliadol wedi’u cau allan oherwydd maint bach eu sampl. Allan o’r 14 gwirfoddolwr a ymatebodd i’r cwestiwn ‘i ba raddau ydych yn cytuno y byddai’n fuddiol cael Cyfamod yr Heddlu?’, cytunodd 13 yn gryf a chytunodd un. O’r pedwar corff cynrychioliadol a ymatebodd i’r cwestiwn hwn, cytunodd y pedwar yn gryf.

Yn ogystal, derbyniwyd ymatebion naratif gan nifer o randdeiliaid plismona a chymdeithasau staff.

Pwy oedd yn cefnogi egwyddor y Cyfamod?

Daeth cefnogaeth i egwyddor y Cyfamod gan bob categori o ymatebwyr. Roedd y rhai a gytunodd yn gryf ag egwyddor y Cyfamod yn teimlo y dylai staff a gwirfoddolwyr, yn ogystal â heddlu sydd wedi ymddeol, fod o fewn ei gwmpas. Mynegwyd pryder penodol ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael yn dilyn ymddeol, yn arbennig pan yw ymddeol ar sail afiechyd.

Roedd y mater ynghylch y ffaith bod swyddogion “bob amser ar ddyletswydd” yn thema a oedd yn codi dro ar ôl tro mewn ymatebion, a chodwyd cwestiynau ynghylch a yw hyn yn angenrheidiol mewn bywyd modern. Roedd awydd cryf i sicrhau bod effaith gronnol trawma meddyliol trwy gydol gyrfaoedd yn cael ei chydnabod.

Mae swyddogionyr heddlu yn ymrwymo i fod yn rhan o wasanaeth 24/7, ond mae gan y Llywodraeth rôl i fonitro, deall a lliniaru’r effeithiau.

Pwy nad oedd yn cefnogi’r Cyfamod?

Roedd cyfanswm o 35 o’r ymatebwyr (3%) yn anghytuno’n weithredol â chysyniad y Cyfamod ac roedd dros hanner y grŵp hwnnw’n swyddogion mewn swydd. Y prif reswm a roddwyd oedd eu bod yn teimlo na fyddai unrhyw beth yn newid o ganlyniad i’r Cyfamod. Nododd rhai nad oedd y Cyfamod drafft yn ddigon beiddgar. Awgrymodd nifer fach o’r grŵp hwn o ymatebwyr y dylai fod yn gymwys i swyddogion yr heddlu yn unig tra bod eraill am weld staff yr heddlu’n cael eu cynnwys cyn iddynt deimlo y gallent ei gefnogi.

A ddylid ei ymgorffori yn y gyfraith?

Roedd cefnogaeth i sylfaen ddeddfwriaethol i’r Cyfamod ar y cyfan yn unol â chefnogaeth i’r cyfamod. Mae rhai enghreifftiau o sylwadau yn cynnwys:

  • “Mae deddfwriaeth yn gosod dyletswydd barhaus y tu hwnt i fynegiannau neu ddatganiadau egwyddor yn unig ac yn ymestyn y ddyletswydd i ystyried amddiffyn yr heddlu i’r Weithrediaeth, y Deddfwrfa a’r Farnwriaeth yn ogystal ag ar draws cymdeithas”.

  • “Gall y Cyfamod gynnig goruchwyliaeth o ddeddfwriaeth allweddol arall sy’n helpu i gadw teulu’r heddlu yn ddiogel megis polisïau Iechyd a Diogelwch, Adnoddau Dynol. Yn y pen draw, mae’n creu’r gofynid i adolygu cynnydd a chydymffurfiaeth. Mae’n cynnig cyfle i herio safbwynt a gymerir pan fydd hyn yn briodol.”

  • “Dylai’r Cyfamod nodi ac ymgorffori rôl ceidwad o fewn y ddeddfwriaeth. Bydd y person hwnnw’n dogfennu cynllun cenedlaethol a fydd yn cyflawni amcanion y Cyfamod, ac ar yr un pryd bydd yr unigolyn hwnnw’n cael ei ddal yn atebol.”

O’r rhai a oedd yn teimlo na ddylid ei ymgorffori yn y gyfraith, roedd y rhesymau a roddwyd yn cynnwys diffyg hyder y byddai’n gwneud unrhyw wahaniaeth mewn termau real. Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at y newidiadau a wnaed i gynlluniau pensiynau’r heddlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan awgrymu nad oedd y newidiadau hyn yn arwydd o gefnogaeth i’r heddlu.

Geiriad y Cyfamod

Roedd y gefnogaeth i’r geiriad drafft yn llai eglur.

Drafft - Cyfamod yr Heddlu: Mae’r Cyfamod hwn yn cydnabod ac yn nodi’r aberthau a wneir gan y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Heddlu, neu sy’n dal swydd Cwnstabl Arbennig. Fe’i bwriedir i sicrhau nad ydyn nhw a’u teuluoedd dan anfantais o ganlyniad i’r ymrwymiad hwnnw ac mae’n ceisio lliniaru’r effaith mae’n ei chael ar fywyd o ddydd i ddydd. Mae’r Cyfamod yn cydnabod nad yw swyddogion yr heddlu yn gyflogeion ond yn hytrach maent yn dal swydd cwnstabl, sy’n dod â lefel uchel o atebolrwydd a chyfrifoldeb personol yn eu rôl i wneud cymunedau’n fwy diogel trwy gynnal y gyfraith yn deg ac yn gadarn; atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; cadw’r heddwch; amddiffyn a rhoi sicrwydd i gymunedau; ymchwilio i droseddu a dod â throseddwyr o flaen eu gwell. Rhaid iddynt hefyd gadw at god moeseg sy’n nodi’r safonau ymddygiad uchel a ddisgwylir gan bawb sy’n gweithio ym maes plismona yng Nghymru a Lloegr, ar ddyletswydd a heb fod ar ddyletswydd. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn ymestyn i gyrff gwirfoddol ac elusennol, sefydliadau preifat, a gweithredoedd unigolion wrth gefnogi’r heddluoedd. Mae cydnabod y rhai sydd wedi cyflawni dyletswydd plismona yn uno’r wlad ac yn dangos gwerth eu cyfraniad. Nid oes gan hyn fwy o fynegiant nag wrth gynnal y Cyfamod hwn.

Cefnogaeth i eiriad drafft y Cyfamod fesul grŵp

I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno bod y Cyfamod drafft uchod yn cynrychioli’ch disgwyliadau?

Cytuno’n gryf % Cytuno % Ddim yn cytuno nac yn anghytuno % Anghytuno % Anghytuno’n gryf
Swyddogion yr Heddlu [416] 36.8 36.3 15.9 7 4.1
Staff yr Heddlu [222] 23.9 33.8 11.3 15.8 15.3
Yr Heddlu – Eraill* [40] 15 47.5 15 10 12.5
Swyddogion/Staff yr Heddlu sydd wedi ymddeol [202] 45.5 32.2 8.9 10.9 2.5
Y Cyhoedd [53] 28.3 35.8 13.2 13.2 9.4
Teuluoedd yr Heddlu [27] 37 40.7 14.8 7.4 0
Heb Ddatgan [121] 33.1 33.9 14 11.6 7.4

*Predominantly PCSOs [Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu] yn bennaf

DS: Mae dadansoddiadau canrannol ar gyfer gwirfoddolwyr a chyrff cynrychioliadol wedi’u cau allan oherwydd maint bach eu sampl. Allan o’r 14 gwirfoddolwr a ymatebodd i’r cwestiwn ‘i ba raddau ydych yn cytuno bod y Cyfamoddrafft uchod yn cynrychioli’ch disgwyliadau?’, cytunodd 10 yn gryf a chytunodd tri. O’r pedwar corff cynrychioliadol a ymatebodd i’r cwestiwn hwn, cytunodddau ac anghytunodd dau.

Fe wnaeth y rhai a gytunodd yn gryf â’r geiriad roi neges glir y dylai’r Cyfamod gwmpasu staff a gwirfoddolwyr yn ogystal â swyddogion yr heddlu sydd wedi ymddeol a soniodd nifer y dylai hefyd gwmpasu heddluoedd nad ydynt yn rhai’r Swyddfa Gartref. Clywsom fod oddeutu 40% o’r rhai sy’n gweithio ym maes plismona yn staff a bod llawer o’r rhain mewn rolau rheng flaen megis Swyddogion Safleoedd Troseddau.

Teimlai’r rhai a oedd yn anghytuno nad oedd y drafft mor gryf â Chyfamod y Lluoedd Arfog. Roedd y rhai a oedd yn anghytuno’n gryf yn bennaf am weld staff yr heddlu’n cael eu cynnwys; roedd rhai yn teimlo bod angen iddo fod yn fwy beiddgar. Codwyd tâl a phensiynau fel rhesymau dros amheuaeth gan ymatebwyr. Soniwyd am y geiriau tâl, pensiwn, salari, cyflog a gwobr gan gyfanswm o 410 (37%) o ymatebwyr.

Clywsom fod y Cyfamod drafft yn nodi’r hyn a ddisgwylir gan yr heddlu ac nad yw’n dweud digon am yr hyn y byddai’r Cyfamod yn ei wneud i’w cefnogi o ran cefnogaeth ymarferol.

Yng ngoleuni’r adborth uchod, gwnaed newidiadau i’r Cyfamod drafft:

Drafft newydd arfaethedig – Cyfamod yr Heddlu

Mae’r Cyfamod hwn yn cydnabod yr aberthau a wneir gan y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Heddlu, naill ai mewn swydd gyflogedig neu wirfoddol, p’un ai fel swyddog neu fel aelod o staff. Fe’i bwriedir i sicrhau nad ydyn nhw a’u teuluoedd dan anfantais o ganlyniad i’r ymrwymiad hwnnw ac mae’n ceisio lliniaru’r effaith ar eu bywyd o ddydd i ddydd neu yn eu mynediad at gyfiawnder.

Mae’n ofynnol bob amser i swyddogion yr heddlu gynnal egwyddorion pwysig plismona trwy gydsyniad, sef sylfaen eu perthynas hirsefydlog â’r cyhoedd. Gofynnwn i lawer iawn o’n heddlu ac rydym yn disgwyl i’r safonau uchaf gael eu cynnal. Yn gyfnewid am hyn, mae gennym gyfrifoldeb i ddarparu amddiffyniad a chefnogaeth i’r heddlu.

Mae’r Cyfamod yn cydnabod bod gweithio o fewn maes plismona yn dod â lefel uchel o atebolrwydd personol, dyletswydd a chyfrifoldeb sy’n gofyn am ddewrder a risg bersonol ar ddyletswydd a heb fod ar ddyletswydd. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn ymestyn i bawb sy’n cefnogi heddluoedd i gynnal egwyddorion ac arferion eu galwedigaeth. Mae cydnabod y rhai sydd wedi gwasanaethu mewn plismona yn uno’r wlad ac yn dangos gwerth eu haberth. Nid oes gan hyn fwy o fynegiant nag wrth gynnal y Cyfamod hwn.

Mae Cyfamod drafft yr Heddlu yn cael ei gadw ar lefel uchel er mwyn ei alluogi i fod yn ystwyth ac i ychwanegu themâu yn gyflym wrth i’r angen esblygu.

Archwiliodd yr ymgynghoriad dair thema allweddol sy’n cael eu hystyried fel ffocws i’r Cyfamod:

  • Amddiffyniad Corfforol
  • Iechyd a Llesiant
  • Cefnogaeth i deuluoedd

Amddiffyniad Corfforol

I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y byddai’n fuddiol i’r Cyfamod ganolbwyntio ar amddiffyniad corfforol?

a bar chart with percentage on the vertical axis showing 45% strongly agree, over 25% agree, 15% neither agree nor disagree, over 5% disagree and less than 5% strongly disagree.

Cytuno’n gryf - Cytuno - Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Anghytuno - Anghytuno’n gryf

Wedi’i seilio ar 1,093 o ymatebwyr

Gwelsom lefel uchel o gefnogaeth ar gyfer cynnwys amddiffyniad corfforol fel thema i’r Cyfamod. Clywsom fod dyletswydd foesol i amddiffyn y rhai yr ydym yn gofyn iddynt wynebu niwed ar ein rhan. Soniodd y rhai a oedd yn gefnogol am:

  • Safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant ac offer diogelwch personol
  • Dull caffael cenedlaethol ar gyfer gwisg a chyfarpar
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) (Cyfeirir at Covid fel sbardun ar gyfer hyn)
  • Gwell iechyd galwedigaethol
  • Criwio dwbl
  • Mynediad at gyfiawnder pan fydd ymosodiadau yn digwydd.

Byddai strategaeth gaffael genedlaethol ar gyfer darparu, safoni a chysondeb nwyddau a gwasanaethau gan gynnwys PPE, gwisgoedd a chyfarpar yn fuddiol i wasanaeth yr heddlu

Dylai’r holl gyfarpar diogelwch fod yn destun Asesiad Effaith Cydraddoldeb.

Gallwn ni ddisgwyl cyflawni ar ein gorau pan fyddwn ni’n teimlo’n ddiogel a’n bod yn derbyn gofal. Os ydym yn disgwyl i’r rhai sy’n gweithio ym maes plismona gyflawni hyd at safonau uchel, mae’n gwneud synnwyr i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu bod yn cael eu gwneud i deimlo’n ddiogel, wedi’u cyfarparu’n dda ac os cânt eu niweidio, y gallant ddisgwyl i gyfiawnder gael ei wneud. Nid oes gan hiliaeth le yn ein gwlad ac ni fyddwn ni’n ei oddef. Mae unrhyw un sy’n gweithio yn y teulu plismona yn haeddu cefnogaeth ac amddiffyniad, a pharch holl bobl Prydain.

O’r rhai a oedd yn anghytuno’n gryf bod amddiffyniad corfforol yn bwysig o ran y Cyfamod, y rhesymau a roddwyd oedd bod iechyd meddwl yn peri mwy o bryder a bod anafiadau corfforol yn gwneud y penawdau’n amlach. Dywedir bod yr effaith gronnol ar iechyd meddwl gyrfa o ddod i gysylltiad â straen a thrawma yn fater mwy taer. Mae cydnabyddiaeth ar draws lleoliadau gofal iechyd yn y DU y dylid rhoi parch i iechyd corfforol ac iechyd meddwl.

Iechyd a Llesiant

I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y byddai’n fuddiol i’r Cyfamod ganolbwyntio ar iechyd a llesiant?

a bar chart with percentage on the vertical axis showing over 60% strongly agree, over 20% agree, less than 10% neither agree nor disagree, less than 5% disagree and less than 5% strongly disagree.

Cytuno’n gryf - Cytuno - Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Anghytuno - Anghytuno’n gryf

Wedi’i seilio ar 1,094 o ymatebwyr

Mae cefnogaeth gref i ganolbwyntio ar Iechyd a Lles. Nodwyd rhai themâu o’r ymatebion:

  • Mae mynediad cyflym i ofal meddygol yn flaenoriaeth
  • Dod i gysylltiad dro ar ôl tro â’r “gwaethaf o ddynoliaeth”. Roedd effaith gronnol mynychu digwyddiadau trawmatig â diffyg gwaith dilynol gan oruchwylwyr yn thema gyffredin.
  • Wedi i ddigwyddiad difrifol ddod i ben, yn aml nid oes unrhyw sôn amdano eto a c mae diffyg ôl-drafod.
  • Ni chymerir ymosodiadau o ddifrif.
  • Diffyg seibiau a dim digon o amser hamddenol - bob amser ar ddyletswydd.
  • Absenoldeb wedi’i ganslo a phatrymau gwaith anrhagweladwy.
  • Cydbwysedd bywyd a gwaith.
  • Darpariaeth afreolaidd o iechyd galwedigaethol
  • Anghydraddoldeb wrth ddarparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol rhwng Lluoedd.

Cyflwynwyd tystiolaeth i ategu’r syniad y dylid ystyried iechyd a llesiant swyddogion yn gyfannol. Ystyriwyd bod cefnogaeth ragweithiol ar gyfer iechyd meddwl a mynediad at adnoddau ffitrwydd corfforol o ansawdd da yn bwysig wrth atal problemau yn y dyfodol. Soniodd nifer o ymatebwyr y gall gweithlu iach a gefnogir arwain at well ymdrech ddewisol, gan arwain yn ei dro at welliannau mewn cyflawniad.

Mae llawer o elusennau heddlu sy’n darparu cefnogaeth ar gyfer iechyd a llesiant. Dylai pawb gael mynediad at y gwasanaethau hyn, nid dim ond y rhai sy’n talu ffioedd.

Nododd nifer o ymatebwyr fod mynediad amserol i iechyd meddygol yn broblem. Roedd rhywfaint o gefnogaeth i ystyriaeth arbennig gael ei rhoi i’r rheini sy’n gweithio ym maes plismona a fyddai’n caniatáu mynediad cyflymach i rai gwasanaethau iechyd estynedig megis cymorth iechyd meddwl. Gellid darparu hyn trwy wella’r gwasanaethau a ddarperir gan elusennau ar hyn o bryd pe byddai modelau cyllido’n cael sylw.

Swyddogion a staff sydd wedi ymddeol

Dywedodd ymatebwyr wrthym nad yw’r materion a nodir uchod yn dod i ben ar ôl ymddeol. Nododd llawer o’r ymatebwyr a ddisgrifiodd eu hunain fel rhai sydd wedi ymddeol ôl-fflachiau i ddigwyddiadau o’u gyrfa a achosodd broblemau iechyd meddwl parhaus, heb fynediad at gymorth pwrpasol.

Y rhai sy’n anghytuno â chynnwys Iechyd a Llesiant

Roedd pedwar ar hugain o ymatebwyr (2%) yn anghytuno â chynnwys Iechyd a Llesiant fel ffocws ar gyfer Cyfamod yr Heddlu. Nid oedd y rhesymau a roddwyd yn ymwneud ag iechyd a llesiant, ond â pherthnasedd y Cyfamod yn ei gyfanrwydd: naill ai nad oeddent yn teimlo y byddai’r Cyfamod yn cyflawni unrhyw welliannau go iawn neu, oni bai ei fod yn cynnwys staff yr heddlu, nid oedd yn bosibl rhoi sylwadau. Roedd hyn yn golygu bod nifer fach o ymatebwyr wedi dewis peidio â chefnogi unrhyw elfennau o’r Cyfamod.

Cefnogaeth i deuluoedd - beth ellir ei wneud?

I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y gallai Cyfamod yr Heddlu ychwanegu gwerth wrth helpu teuluoedd i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth?

a bar chart with percentage on the vertical axis showing over 60% strongly agree, over 20% agree less than 10% neither agree nor disagree, less than 5% disagree and less than 5% strongly disagree.

Cytuno’n gryf - Cytuno - Ddim yn cytuno nac yn anghytuno - Anghytuno - Anghytuno’n gryf

Wedi’i seilio ar 1,087 o ymatebwyr

Roedd yr ymatebion yn cynnwys cydnabyddiaeth gref bod canslo absenoldeb a phatrymau gwaith anrhagweladwy yn amharu ar fywyd teuluol a gwelwyd bod hyn yn tanseilio cefnogaeth i deuluoedd.

Mae penblwyddi a diwrnodau chwaraeon coll oherwydd absenoldeb wedi’i ganslo ac amserlenni gwaith anrhagweladwy yn ffordd o fyw, nid oes rhaid iddo fod fel hyn.

Soniodd rhai ymatebwyr am yr angen i gael rhwydwaith i gynorthwyo teuluoedd i ddelio â rhywfaint o’r straen unigryw sy’n deillio o waith yr heddlu.

Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch anrhydeddau clywsom fod teimlad cryf o hyd mai dim ond i uwch swyddogion y rhoddir medalau er gwaethaf newidiadau/ymdrechion diweddar i sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i rengoedd eraill.

Er bod pensiynau y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad, adlewyrchwyd cryfder y teimlad ynghylch newidiadau i bensiynau yn y ffordd yr oedd rhai ymatebwyr yn teimlo am gysyniad y Cyfamod.

Casgliad

Mae cefnogaeth amlwg i gael Cyfamod yr Heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr, i’r gefnogaeth honno ymestyn i rai heddluoedd nad ydynt yn rhai’r Swyddfa Gartref ac i bawb sy’n gweithio o fewn y maes plismona fod o fewn ei gwmpas. Ystyrir y bydd ymgorffori’r Cyfamod yn y gyfraith yn ffordd o sicrhau ei fod yn parhau i fod yn flaenoriaeth, wrth i adroddiadau blynyddol i’r Senedd ddwyn cynnydd i ffocws. Mae’r gefnogaeth ar gyfer cyflwyno Cyfamod yn adlewyrchu canfyddiadau’r FLR, Arolwg Cenedlaethol Llesiant a Chynhwysiant yr Heddlu a’r Adolygiad o Ddiogelwch Swyddogion.

Daeth pwysigrwydd dull cynhwysol i’r Cyfamod ar draws yn gryf iawn trwy gydol yr ymgynghoriad. Byddai cau allan unrhyw un grŵp o’r Cyfamod yn niweidiol i’r cysyniad cyffredinol. Mae sylwadau gan grwpiau heblaw rhai’r Swyddfa Gartref sy’n nodi’r tebygrwydd i’w profiad byw yn dangos pwysigrwydd archwilio ffyrdd o ymestyn cyrhaeddiad y Cyfamod er mwyn dod â nhw o fewn cwmpas.

Ystyriwyd yn gyffredinol bod y tri maes ffocws cychwynnol arfaethedig (amddiffyniad corfforol, iechyd a llesiant, a chefnogi teuluoedd) yn bwysig i blismona. Bydd yr angen am gefnogaeth bob amser yn esblygu ac felly mae’n hanfodol bod y Cyfamod yn ystwyth ac yn gallu ystwytho er mwyn ymateb i anghenion sy’n dod i’r amlwg. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n bwysig nad yw’r ddeddfwriaeth wedi’i drafftio mor dynn fel ei bod yn atal gweithredoedd neu ymatebion i sefyllfaoedd newydd yn anfwriadol a allai fod yn ddymunol neu’n ddefnyddiol yn y dyfodol.

Byddai ymgorfforiyn yn y gyfraith y gofyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol adrodd wrth y Senedd ar y cynnydd a wneir ar y Cyfamod yn flynyddol (h.y. yn hytrach na darpariaeth fwy penodol neu gyfarwyddol o ran sylwedd neu effaith y Cyfamod) yn darparu’r hyblygrwydd angenrheidiol tra hefyd yn cynnal goruchwyliaeth ac yn canolbwyntio ar welliannau.

Mae llawer eisoes yn cael ei ddarparu yn y gofod Iechyd a Llesiant ac o ran Cefnogaeth i Deuluoedd trwy ystod o elusennau. Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Llesiant Cenedlaethol yr Heddlu yn cael ei ariannu trwy grant i’r Coleg Plismona ac mae’n gwneud gwaith rhagorol i fynd i’r afael â materion llesiant ar lefel genedlaethol.

Gallai cyflwyno Cyfamod yr Heddlu ddod â chydlyniant i dirwedd cefnogaeth yr heddlu. Gallai strwythur llywodraethu cadarn gyda chynrychiolwyr o’r holl chwaraewyr allweddol ddarparu haen o gynllunio strategol ar draws y dirwedd. Gall fod yn heriol i rai elusennau llai gyrchu grantiau a dyraniadau cyllid untro eraill gan lywodraeth ganolog. Gallai llywodraethu da ddarparu gwell mynediad at grantiau ar gyfer elusennau llai.

Gallai’r Bwrdd Plismona Cenedlaethol (NPB) ddarparu’r llywodraethu ar gyfer cyflwyno’r adroddiad blynyddol i’r senedd. Gallai’r NPB gomisiynu prosiectau i gyflawni set o amcanion wedi’u blaenoriaethu a chymryd perchnogaeth ar lunio’r adroddiad blynyddol ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol.

Ymhlith y rolau allweddol a awgrymwyd gan ymatebwyr i’r ymgynghoriad mae Comisiynydd y Cyfamod a Phrif Swyddog Meddygol Plismona ar gyfer Cymru a Lloegr.

Cynigion

I. Dylai Llywodraeth Ei Mawrhydi ddeddfu i’r Ysgrifennydd Cartref adrodd yn flynyddol wrth y Senedd ar y cynnydd ar y Cyfamod.

II. Dylai cwmpas y Cyfamod gynnwys pawb sy’n gweithio o fewn rolau plismona, neu sydd wedi ymddeol o rolau plismona, p’un a ydynt yn gyflogedig neu’n gwirfoddolwr.

III. Bydd ffocws y Cyfamod yn y lle cyntaf ar:

  • Amddiffyniad Corfforol
  • Iechyd a Llesiant
  • Cefnogaeth i Deuluoedd

IV. Dylid sefydlu strwythur llywodraethu, sy’n adrodd wrth fwrdd plismona lefel uchel.

V. Dylai’r bwrdd ystyried ymhellach fanteision sefydlu rôl newydd sef Prif Swyddog Meddygol Plismona ar gyfer Cymru a Lloegr.

VI. Dylai’r bwrdd archwilio opsiynau ar gyfer dod â gweithgarwch cyfredol o fewn cwmpas y Cyfamod ac ystyried y llywodraethu sydd ei angen i yrru’r gweithgarwch hwnnw yn ei flaen.

VII. Dylai fod opsiwn i heddluoedd nad ydynt yn rhai’r Swyddfa Gartref ymuno â’r Cyfamod trwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth, fesul achos, a gytunir gyda’r adran berthnasol.

Crynodeb o’r ymatebion

Ymatebwyr:

Grŵp o ymatebwyr Cyfanswm yr ymatebion
Teulu 16
Grŵp 4
Comisiynydd Heddlu a Throseddu 9
Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu 34
Swyddog yr Heddlu 416
Staff yr Heddlu 223
Y Cyhoedd 53
Gweddw’r heddlu 11
Swyddog yr heddlu sydd wedi ymddeol 201
Staff sydd wedi ymddeol 2
Heb ddatgan 130
Gwirfoddolwr 14
Cyfanswm 1113

Cwestiwn 1 - I ba raddau ydych chi’n cytuno y byddai’n fuddiol cael Cyfamod yr Heddlu?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 799 193 70 16 19

Cwestiwn 3 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y byddai’n fuddiol i’r Cyfamod gael ei ymgorffori mewn deddfwriaeth?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 770 211 81 13 19

Cwestiwn 5 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno bod y Cyfamod drafft uchod yn cynrychioli’ch disgwyliadau?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 379 386 143 116 75

Cwestiwn 7 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y byddai’n fuddiol i’r Cyfamod ganolbwyntio ar amddiffyniad corfforol?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 502 307 168 89 27

Cwestiwn 10 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y byddai’n fuddiol i’r Cyfamod ganolbwyntio ar iechyd a llesiant?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 718 251 83 29 13

Cwestiwn 13 - I ba raddau ydych chi’n credu y dylai’r Cyfamod gynnwys cefnogaeth i deuluoedd?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 676 319 82 9 12

Cwestiwn 17 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y gall hyfforddiant gyfrannu at ddiogelwch gwell?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 625 366 80 14 13

Cwestiwn 19 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno bod gan lywodraeth ran i’w chwarae wrth osod safonau ar gyfer cyfarpar diogelwch ar gyfer plismona?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 652 271 96 55 20

Question 21 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y gallai safonau cenedlaethol cyson ar gyfer hyfforddiant diogelwch personol gyfrannu at wella diogelwch ym maes plismona?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 590 337 120 32 11

Cwestiwn 23 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno bod cyfarpar diogelwch personol ar gyfer swyddogion rheng flaen yn addas ar gyfer heddlu modern amrywiol?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 251 263 272 206 101

Cwestiwn 25 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y byddai Cyfamod yr Heddlu yn mynd i’r afael â materion llesiant ar lefel genedlaethol?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 473 336 195 60 31

Cwestiwn 27 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y dylid rhoi mesurau diogelwch ar waith i sicrhau bod y rhai sy’n gwasanaethu o fewn yr heddlu yn gallu cyrchu gofal meddygol yn gyflym ar gyfer materion sy’n codi o ganlyniad i’w swydd?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 908 127 43 9 9

Cwestiwn 29 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno bod angen darpariaethau iechyd meddwl penodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes plismona?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 841 195 38 12 9

Cwestiwn 31 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno bod gan y sector preifat rôl wrth gefnogi anghenion llesiant yr heddlu?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 338 261 336 74 84

Cwestiwn 34 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno bod cymdeithas eisoes yn cydnabod yr aberthau a wneir gan yr heddlu a’u teuluoedd?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 84 155 187 402 269

Cwestiwn 37 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno bod cofebion, y system anrhydeddau, dyfarniadau sector yr heddlu a mathau eraill o gydnabyddiaeth yn bwysig wrth helpu teuluoedd i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 337 321 282 104 48

Cwestiwn 39 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno bod yr anrhydeddau/medalau sydd ar gael i’r heddlu (gwobrau Dewrder, gwobrau’r Ymerodraeth, Medalau Heddlu’r Frenhines, Gwasanaeth Hir yr Heddlu a Medal Ymddygiad Da, Medal Gwasanaeth Hir y Cwnstabliaeth Arbennig) yn cydnabod yn briodol dewrder, gwasanaeth ac ymrwymiad y rhai sy’n ymwneud â phlismona?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 188 317 282 199 104

Question 41 - To what extent do you agree/disagree that honours are important in helping families to feel supported?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 259 348 306 116 56

Cwestiwn 43 - I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y gallai Cyfamod yr Heddlu ychwanegu gwerth wrth helpu teuluoedd i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
Ymatebion 402 437 192 30 26