Trosolwg

Efallai y gallwch apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) os credwch bod camgymeriad cyfreithiol wedi’i wneud gyda phenderfyniad a wnaed yn eich erbyn gan rai tribiwnlysoedd is a sefydliadau.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Efallai y gallwch apelio os oedd eich achos am:

  • nawdd cymdeithasol neu gynnal plant
  • pensiynau rhyfel ac iawndal y lluoedd arfog
  • iechyd meddwl
  • anghenion addysgol arbennig neu anableddau
  • anghydfod a wrandawyd gan y Siambr Rheoleiddio Cyffredinol
  • penderfyniad a wnaed gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • penderfyniad a wnaed gan y Comisiynydd Traffig (neu’r Uned Rheoleiddio Trafnidiaeth yng Ngogledd Iwerddon)

Mae yna hefyd achosion eraill y mae’r tribiwnlys yn delio â nhw.

Mae yna broses wahanol os yw eich achos am iawndal am anafiadau troseddol.

Mae’r tribiwnlys yn annibynnol o’r llywodraeth a bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.

Byddwch angen i chi wneud cais i gomisiynwyr Gogledd Iwerddon os gwrandawyd eich achos yng Ngogledd Iwerddon ac roedd yn ymwneud â nawdd cymdeithasol neu bensiynau rhyfel.

Cael help gyda’ch apêl

Gallwch ddarllen mwy am y broses apêl.

Mae’n bosibl y gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol am ddim gan Cyngor ar Bopeth neu help gan Hawliau Lles os ydych yn yr Alban.

Cysylltu â’r tribiwnlys

Cymru a Lloegr

ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 020 7071 5662
Ffacs: 0870 324 0028
Gwybodaeth am gost galwadau

Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
5th floor
7 Rolls Buildings
Fetter Lane
Llundain
EC4A 1NL

Yr Alban

UTAACMailbox@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0131 271 4310
Ffacs: 0131 271 4398
Gwybodaeth am gost galwadau

Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
George House
126 George Street
Caeredin
EH2 4HH

Gogledd Iwerddon

Canolfan Wrandawiadau’r Tribiwnlys
2nd floor
Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast
BT1 3JF