Apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
Sut bydd eich achos yn cael ei benderfynu
Bydd barnwr yn gwneud penderfyniad gan ddefnyddio:
- eich ffurflen apêl
- y dogfennau a ddarparwyd gennych
- y dogfennau a ddefnyddiwyd gan y tribiwnlys is neu’r sefydliad wnaeth benderfynu eich achos
Anfonir y penderfyniad atoch drwy’r post.
Mynychu gwrandawiad
Mewn achosion penodol efallai y gofynnir i chi fynychu gwrandawiad i gyflwyno eich achos. Gallwch hefyd ofyn am wrandawiad pan fyddwch yn gwneud cais - bydd y barnwr yn penderfynu a yw’n angenrheidiol.
Byddwch yn cael gwybod amser a dyddiad y gwrandawiad a ble bydd yn cael ei gynnal. Byddwch yn cael gwybod o leiaf 14 diwrnod ymlaen llaw fel arfer os bydd yna wrandawiad. Gall gwrandawiadau gael eu cynnal yn gynt na hyn o dan amgylchiadau eithriadol neu os bydd pob parti yn cytuno i gyfnod rhybudd byrrach.
Fe anfonir gwybodaeth atoch am sut i baratoi a pha ddogfennau y byddwch angen eu darparu.
Os ydych chi neu eich tyst neu gynrychiolydd y tu allan i’r DU ac yn dymuno rhoi tystiolaeth fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i ofyn am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi, y tyst neu’r cynrychiolydd a pha fath o dystiolaeth a roddir. Rhaid i chi wneud hyn cyn gynted ag y bo modd.
Cael estyniad amser
Efallai y gallwch gael estyniad amser os byddwch angen mwy o amser i baratoi – gofynnwch i’r barnwr.
Mae’n rhaid bod gennych reswm da, er enghraifft rydych yn cael problemau dod o hyd i ddogfen neu rydych yn sâl.