Apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
Os byddwch yn colli'ch achos
Efallai y gallwch apelio i lys uwch os ydych chi’n meddwl bod y tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.
Ceisiwch gyngor neu gymorth cyfreithiol os ydych yn ansicr am hyn.
Gofyn am ganiatâd
Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at y tribiwnlys a gofyn am ganiatâd cyn i chi apelio.
Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn mis i chi gael y penderfyniad (neu 3 mis ar gyfer achosion nawdd cymdeithasol, cynnal plant neu bensiynau rhyfel a’r lluoedd arfog).
Cymru a Lloegr
Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
5th Floor Rolls Building
7 Rolls Buildings
Fetter Lane
Llundain
EC4A 1NL
Yr Alban
Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
George House
126 George Street
Caeredin
EH2 4HH
Gogledd Iwerddon
Canolfan Wrandawiadau’r Tribiwnlys
2nd floor
Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast
BT1 3JF
Unwaith y cewch ganiatâd, dylech apelio i’r llys uwch perthnasol:
Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn:
- 28 diwrnod o gael caniatâd (Cymru a Lloegr)
- 42 diwrnod o gael caniatâd (Yr Alban)
- 6 wythnos o gael caniatâd (Gogledd Iwerddon)
Efallai y bydd rhaid i chi dalu ffioedd llys a chostau’r parti arall.
Os gwrthodir rhoi caniatâd i chi
Gallwch ofyn i’r llys uwch perthnasol am ganiatâd.
Yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod i’ch cais am ganiatâd gael ei wrthod.
Mae’r terfynau amser yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon - cysylltwch â’r swyddfa tribiwnlys perthnasol am fanylion.