Apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
Sut i apelio
Efallai y bydd rhaid i chi ofyn am ganiatâd i apelio - mae’n dibynnu ar eich achos.
Os ydych chi’n apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan dribiwnlys arall
Mae’n rhaid i chi gael caniatâd i apelio.
Yn gyntaf, gofynnwch i’r tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad am ganiatâd i apelio. Fel arfer mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod o’r penderfyniad - siaradwch â’r tribiwnlys hwnnw i gael gwybod y dyddiad terfyn.
Unwaith y byddwch wedi cael caniatâd, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen apêl berthnasol a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen o fewn 1 mis i chi gael caniatâd.
Os gwrthodir rhoi caniatâd i chi
Gallwch ofyn i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) am ganiatâd yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’r ffurflen ganiatâd berthnasol a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen o fewn 1 mis o gael eich gwrthod.
Os ydych chi’n apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan sefydliad
Ni fydd angen i chi ofyn am ganiatâd i apelio (oni bai eich bod yn apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).
Apeliwch gan ddefnyddio’r ffurflen apêl berthnasol a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Bydd angen i chi ofyn i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) am ganiatâd cyn y gallwch apelio.
Defnyddiwch y ffurflen ganiatâd berthnasol a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.