Treth os byddwch yn dod i’r DU
Mae angen i chi dalu treth ar eich incwm os ydych yn dod i fyw, i weithio neu i astudio yn y DU. Mae incwm yn cynnwys:
- cyflogau
- buddiannau
- eich pensiwn
- llog o gynilion
- arian yr ydych yn ei wneud o weithio i chi eich hun
- arian yr ydych yn ei wneud o roi eiddo ar osod
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Byddwch yn talu treth incwm ar incwm sydd dros eich Lwfans Personol.
Yn ogystal, bydd angen i chi dalu treth os gwnaethoch elw wrth werthu (neu ‘waredu’) asedion penodol, megis cyfranddaliadau neu ail gartref. Yr enw ar hyn yw Treth Enillion Cyfalaf. Byddwch dim ond yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar elw dros eich Swm Eithriedig Blynyddol.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar unrhyw incwm neu enillion yn y DU a wnaed pan oeddech yn byw dramor os ydych wedi byw yn y DU o’r blaen (yn agor tudalen Saesneg).
Ni fydd yn rhaid i chi dalu treth yn y DU os ydych yma am gyfnod byr yn unig – er enghraifft, ar gyfer gwaith neu ar wyliau.
Sut i dalu
Os ydych yn gyflogedig yn y DU, dylai’ch cyflogwr ddidynnu Treth Incwm o’ch cyflog.
Bydd yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn gweithio i chi’ch hun
- mae gennych incwm arall yn y DU, er enghraifft, o bensiwn, llog o gynilion neu wrth roi eiddo ar osod
- rydych wedi gwneud elw wrth werthu (neu ‘waredu’) asedion penodol, er enghraifft cyfranddaliadau neu ail gartref
- mae’n rhaid i chi dalu Treth yn y DU ar incwm tramor (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft pensiwn tramor, llog ar gynilion mewn cyfrif banc tramor neu drwy roi eiddo ar osod
Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar incwm neu enillion yn y DU a wnaed pan oeddech dramor os ydych wedi byw yn y DU o’r blaen (yn agor tudalen Saesneg).
A oes gennych incwm o’r tu allan i’r DU
Mae p’un a ydych yn talu treth ar incwm o’r tu allan i’r DU (incwm tramor) yn dibynnu a ydych chi’n ‘breswylydd’ yn y DU.
Gallwch wirio beth yw’ch statws preswylio (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych chi’n siŵr.
Os nad ydych yn breswylydd yn y DU
Ni fydd angen i chi dalu treth ar eich incwm tramor.
Os ydych yn breswylydd yn y DU
Fel arfer, byddwch yn talu treth y DU ar incwm tramor (yn agor tudalen Saesneg). Ond, mae’n bosibl na fydd yn rhaid gwneud hynny os yw’ch cartref parhaol (‘domisil’) (yn agor tudalen Saesneg) dramor.
Os ydych hefyd wedi’ch trethu dramor
Mae’n bosibl y byddwch yn cael eich trethu ddwywaith (yn agor tudalen Saesneg) ar yr un incwm neu enillion oni bai bod gan y wlad y gwnaethoch ddod ohoni gytundeb trethiant dwbl (yn agor tudalen Saesneg) gyda’r DU.
Os ydych wedi talu gormod o dreth
Gallwch hawlio rhyddhad treth neu ad-daliad treth os ydych yn gweithio yn y DU am gyfnod byr yn unig ac yn bwriadu gadael.
Gwnewch gais i hawlio treth yn ôl (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn wladolyn tramor ar aseiniad yn yr DU ac rydych o’r farn eich bod wedi talu gormod.
Yswiriant Gwladol
Fel arfer, byddwch yn talu Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio yn y DU. Mae sut yr ydych yn talu yn dibynnu ar p’un a ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig.
Bydd angen i chi brofi i’ch cyflogwr y gallwch weithio yn y DU (yn agor tudalen Saesneg).
Gwnewch gais am rif Yswiriant Gwladol os ydych am weithio neu hawlio budd-daliadau yn y DU, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.
Pryd nad oes angen i chi dalu
Nid oes angen i chi dalu Yswiriant Gwladol na chael rhif Yswiriant Gwladol os oes gennych y naill neu’r llall o’r canlynol:
- tystysgrif neu ddogfen sy’n profi eich bod yn talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir (yn agor tudalen Saesneg)
- tystysgrif o wlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU (yn agor tudalen Saesneg)
Gwiriwch gyda’r awdurdod nawdd cymdeithasol yn eich gwlad er mwyn gweld sut i wneud cais i gael y ddogfen neu’r dystysgrif.
Os na allwch gael tystysgrif neu ddogfen i brofi eich bod yn talu nawdd cymdeithasol mewn gwlad arall
Fel arfer, ni fydd angen i chi dalu Yswiriant Gwladol am y 52 wythnos cyntaf rydych yn y DU os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
- rydych yn cael eich hanfon i’r DU i weithio gan gyflogwr yn eich gwlad wreiddiol am gyfnod dros dro
- rydych yn dod o wlad sydd ddim yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir, neu wlad nad oes ganddi gytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) neu’r awdurdod nawdd cymdeithasol yn eich gwlad os nad ydych chi’n siŵr a ddylech fod yn talu Yswiriant Gwladol yn y DU.