Canllawiau

Cael eich Treth Incwm yn gywir os ydych yn gadael y DU

Rhowch wybod i CThEF os ydych wedi gadael, neu os ydych yn bwriadu gadael, y DU, a dysgwch sut i gael rhyddhad rhag Treth Incwm y DU neu ad-daliad o’r dreth hon (P85).

Gallwch hawlio ar-lein, neu gallwch ddefnyddio ffurflen P85 i roi gwybod i CThEF eich bod wedi gadael, neu’n bwriadu gadael, y DU a’ch bod am hawlio treth yn ôl o’ch cyflogaeth yn y DU.

Gallwch hawlio os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi byw ac wedi gweithio yn y DU
  • rydych wedi gadael y DU, ac mae’n bosibl na fyddwch yn dychwelyd
  • rydych yn gweithio dramor amser llawn, a hynny am o leiaf un flwyddyn dreth llawn

Does dim rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth yr ydych yn gadael y DU.

Cyn i chi ddechrau

Gwiriwch yr adran ‘manylion cyflogai sy’n gadael gwaith’ ar eich P45 — bydd angen yr wybodaeth hon arnoch wrth i chi wneud hawliad.

Rhowch wybod i ni os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych gartref yn y DU
  • rydych yn gweithio amser llawn y tu allan i’r DU
  • mae cyflog yn cael ei dalu i chi yn y DU o hyd
  • byddwch yn treulio amser yn y DU dros y 3 blynedd nesaf

Hawlio ar-lein

I ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Os nad ydych wedi gadael y DU eto, mae’n rhaid i chi argraffu ac anfon eich hawliad drwy’r post.

Hawlio ar-lein

Byddwch yn cael cyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich hawliad.

Os oes angen i chi argraffu ac anfon eich hawliad drwy’r post

Os oes well gennych beidio â defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, neu os oes angen i chi argraffu ac anfon eich hawliad drwy’r post ar ffurflen P85, gallwch wneud y canlynol:

  1. Dechrau eich hawliad ar-lein.

  2. Argraffu’r ffurflen.

  3. Llofnodi’r datganiad.

  4. Cynnwys eich P45, os oes un gennych — os nad oes un gennych, bydd yn rhaid i chi esbonio pam.

  5. Anfon y ffurflen at CThEF.

Dylech anfon y ffurflen i:

Talu Wrth Ennill
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg
CThEF
HMRC
BX9 1ST

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Os oes ad-daliad yn ddyledus i chi, byddwn yn gwneud y canlynol:

  1. Eich talu chi, neu rywun arall ar eich rhan.

  2. Postio siec i’ch cyfeiriad chi neu gyfeiriad eich enwebai — bydd modd i’r siec hon gael ei thalu i gyfrif banc sydd yn eich enw chi, neu yn enw eich enwebai.

Gallwch wirio pryd i ddisgwyl ateb gan CThEF.

Ni fydd CThEF yn talu unrhyw ffioedd i drosi’ch ad-daliad yn arian gwlad dramor, neu i’w drosglwyddo i wlad dramor.

Cyhoeddwyd ar 9 August 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 February 2024 + show all updates
  1. If you have not left the UK yet, you must print and post your claim.

  2. The guidance has been amended to include information about keeping your UK bank account open until you receive the repayment.

  3. The planned downtime for the the print and post online service that started at 2pm on Friday 6 October 2023 will now end at 3pm on Friday 13 October 2023. We apologise for any inconvenience this may cause.

  4. Due to planned downtime, the print and post online service will be unavailable from 2pm on Friday 6 October 2023 to 10am on Tuesday 10 October 2023.

  5. Added translation