Gwneud trefniadau ar gyfer plant

Gallwch ddewis sut i wneud trefniadau ar gyfer gofalu am eich plant os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner.

Mae’r hyn y gallwch ei wneud yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Efallai y gallwch chi a’ch cyn-bartner osgoi mynd i’r llys os ydych chi’n cytuno ar:

  • lle bydd y plant yn byw
  • faint o amser y byddant yn ei dreulio gyda phob rhiant
  • sut y byddwch yn cefnogi’ch plant yn ariannol

Gelwir hyn yn gwneud trefniadau plant (a elwir weithiau’n ‘cystodaeth plant’ neu’n ‘cyswllt plant’).

Gallwch gytuno ar gynhaliaeth plant ar yr un pryd neu ar wahân.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych yn cytuno

Os ydych chi a’ch cyn-bartner yn cytuno ar drefniadau plant, gallwch wneud Cynllun Rhianta. Cofnod o’r hyn rydych wedi cytuno arno ydyw.

Cael help i gytuno heb fynd i’r llys

Gallwch ddarllen mwy am:

Gallwch hefyd gael cymorth a gwybodaeth gan:

Os na allwch gytuno ar bopeth

Gallwch wneud cais am orchymyn llys os na allwch gytuno ar ôl i chi ddefnyddio cyfryngwr neu gael help.

Os byddwch yn penderfynu mynd i’r llys, bydd rhaid i chi fel arfer ddangos eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu cyn i chi wneud cais. Gallwch gael taleb gwerth hyd at £500 i dalu am gyfryngu teuluol, waeth faint rydych yn ennill.

Mae’n costio £263 i wneud cais am orchymyn llys. Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd y llys os ydych yn cael budd-daliadau neu ar incwm isel.

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu talu am gynghorydd cyfreithiol yn y llys. Er enghraifft, os oes gennych dystiolaeth eich bod yn ddioddefwr camdriniaeth ddomestig.