Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Gwneud cynllun trefniadau plant
Nid oes rhaid i chi lenwi unrhyw waith papur swyddogol os ydych yn cytuno ynghylch trefniadau plant.
Gallwch ysgrifennu’r hyn rydych wedi cytuno arno mewn ‘cynllun trefniadau plant’ os ydych eisiau cofnod.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i’ch helpu i drefnu a chytuno ar trefniadau plant. Mae’n creu dogfen y gallwch ei rhannu gyda’r rhiant arall i ofyn am eu cydsyniad a’u hawgrymiadau.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth gyda’r rhiant arall i lunio cynllun ar y cyd.
Beth mae’r cynllun yn cynnwys
Fe ofynnir i chi awgrymu manylion am sut rydych yn bwriadu edrych ar ôl eich plant, megis:
- pryd a lle byddant yn treulio amser gyda phob rhiant
- pryd a pha fath o ddulliau cyswllt arall a ddefnyddir i gadw mewn cysylltiad (er enghraifft, galwadau ffôn)
Pryd i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn:
- os nad oes gennych drefniadau plant mewn lle eto
- os ydych eisiau awgrymu newidiadau i’ch trefniadau presennol
Ni ddylech ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os oes gennych orchymyn llys yn barod sy’n nodi’r trefniadau plant y mae’n rhaid i chi a’ch cyn-bartner eu dilyn. Yn hytrach, gallwch newid neu orfodi gorchymyn.
Gwneud eich cynllun
Ni fydd unrhyw gynllun a wnewch gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn rhwymol yn gyfreithiol. Nid oes rhaid i’r rhiant arall wneud yr hyn mae’n ei ddweud a gall y naill neu’r llall ohonoch awgrymu newidiadau iddo unrhyw bryd.
Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn teimlo o dan bwysau neu wedi’ch bygwth i’w ddefnyddio. Os ydych chi neu eich plant mewn risg di-oed o niwed, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr heddlu. Darllenwch fwy am sut i gael help os ydych yn ddioddefwr camdriniaeth ddomestig.
Os ydych eisiau gwneud newidiadau i’r cynllun, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth eto ond bydd angen i chi greu cynllun newydd.
Gallwch hefyd lawrlwytho a llenwi’r templed cynllun trefniadau plant (PDF, 0.5MB).
Os ydych angen help i ddod i gytundeb
Gall cynghorydd cyfreithiol eich helpu i wneud cytundeb sy’n rhwymol yn gyfreithiol neu argymell ffyrdd eraill o gytuno ar drefniadau plant y tu allan i’r llys. Gallant hefyd ddweud wrthych faint mae’n gostio.
Gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol
Gallwch ofyn i gynghorydd cyfreithiol baratoi ‘gorchymyn cydsynio’ drafft.
Rhaid i chi a’ch cyn-bartner ill dau lofnodi’r gorchymyn cydsynio drafft. Bydd angen iddo hefyd gael ei gymeradwyo gan y llys.
Os bydd y llys yn cymeradwyo eich cytundeb yna bydd y gorchymyn cydsynio’n dod yn rhwymol yn gyfreithiol.
Cymeradwyo eich gorchymyn cydsynio
Bydd angen i chi neu’ch cyn-bartner wneud cais am orchymyn llys i ofyn i’r llys gymderadwyo eich cytundeb.
Cadwch gopi o’r ffurflen a’r gorchymyn cydsynio drafft.
Ar ôl i’r llys gael eich gwaith papur
Fel arfer nid oes gwrandawiad llys. Bydd barnwr yn cymeradwyo eich gorchymyn cydsynio os yw’n credu bod y trefniadau er lles eich plant.
Os nad yw’r barnwr yn cytuno gyda’r hyn sydd yn eich gorchymyn cydsynio drafft, gall:
- drefnu gwrandawiad llys
- gofyn am fwy o dystiolaeth i’w helpu i benderfynu pa fath o orchymyn y dylid gwneud
Cymorth a chefnogaeth
Gallwch gael cymorth a gwybodaeth gan Cyngor ar Bopeth
Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth a chanllawiau am gam-drin plant ac esgeulustod ar wefan NSPCC.
Darllenwch fwy am sut i gael cymorth os ydych yn ddioddefwr camdriniaeth ddomestig.