Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Newid neu orfodi gorchymyn
Gallwch newid gorchymyn llys neu orchymyn cydsynio sydd eisoes yn bodoli. Gallwch hefyd ofyn i lys orfodi gorchymyn os nad yw eich cyn-bartner yn ei ddilyn.
Os byddwch yn gofyn i’r llys newid neu orfodi gorchymyn, mae’n debyg y bydd rhaid i chi fynd i wrandawiad llys. Fel arfer gallwch osgoi hyn os ydych chi’n cael cymorth y tu allan i’r llys, fel defnyddio cyfryngwr neu gael help arall.
Newid gorchymyn
Gallwch benderfynu gwneud rhywbeth gwahanol i’r hyn a nodir yn y gorchymyn llys, os yw’r ddau ohonoch yn cytuno. Ond ni fyddwch yn gallu gorfodi hyn yn hwyrach ymlaen oni bai eich bod yn ei wneud yn rhwymol yn gyfreithiol.
Gwneud newid yn rhwymol yn gyfreithiol
Os yw’r ddau ohonoch yn cytuno, gallwch ddrafftio gorchymyn cydsynio i gwmpasu’r cytundeb newydd a gofyn i’r llys ei gymeradwyo.
Os na allwch gytuno, gallwch ofyn i lys benderfynu sut i newid (‘amrywio’) y gorchymyn.
Gorfodi gorchymyn
Os nad yw eich cyn-bartner yn dilyn y gorchymyn, gallwch ofyn i’r llys ei orfodi. Dilynwch y camau hyn.
-
Llenwch ffurflen C79 i wneud cais - darllenwch ganllaw CB5 os oes angen help arnoch.
-
Defnyddiwch ffurflen C78 i atodi ‘hysbysiad o rybudd’ os gwnaed eich gorchymyn cyn 8 Rhagfyr 2008. Bydd gorchmynion a wnaed ar ôl y dyddiad hwn eisoes yn cynnwys un.
-
Anfonwch ef i’r llys agosaf atoch sy’n delio ag achosion sy’n ymwneud â phlant. Mae’n costio £263.
Bydd y llys yn edrych ar y ffeithiau eto i weld a oes unrhyw beth wedi newid.
Os bydd y llys yn gorfodi’r gorchymyn
Yn dibynnu ar eich sefyllfa a beth rydych wedi gofyn i’r llys benderfynu, gall wneud:
- ‘gorchymyn gorfodi’ – mae hyn yn golygu y bydd rhaid i’ch cyn-bartner wneud rhwng 40 a 200 awr o waith di-dâl
- ‘gorchymyn iawndal am golled ariannol’ – mae hyn yn golygu y bydd rhaid i’ch cyn-bartner ad-dalu unrhyw arian rydych wedi’i golli oherwydd na wnaethant ddilyn y gorchymyn (er enghraifft, os gwnaethoch chi golli gwyliau)
Gallwch fynd yn ôl i’r llys os nad yw eich cyn-bartner yn dilyn gorchmynion y llys o hyd.
Os na fydd y llys yn gorfodi’r gorchymyn
Mae’n bosibl na fydd y llys yn gorfodi’r gorchymyn presennol os yw’n meddwl nad yw eich cyn-bartner yn ei ddilyn oherwydd:
- mae ganddynt reswm da dros beidio
- mae’n well i’ch plant wneud rhywbeth gwahanol
Gallwch fynd yn ôl i’r llys os nad ydych yn cytuno â’u penderfyniad neu os bydd eich sefyllfa’n newid.
Terfynu gorchymyn
Defnyddiwch ffurflen C100 i wneud cais i derfynu gorchymyn llys nad yw’n gweithio, neu nad yw’n berthnasol i chi a’ch plant mwyach.
Os daw eich gorchymyn i ben ar amser penodol (‘cyfyngiad amser’), gallwch wneud eich cytundeb eich hun wedi hynny. Gallwch gael cymorth i ddod i gytundeb, megis defnyddio cyfryngwr neu gymorth fel arall.