Gwneud cais am orchymyn llys

Mae gorchymyn llys yn benderfyniad sy’n rhwymol yn gyfreithiol a wneir gan y llys. Mae’n nodi’r trefniadau plant y mae’n rhaid i chi a’ch cyn-bartner ddilyn.

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer gwneud trefniadau plant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Pwy all wneud cais

Gallwch wneud cais am orchymyn llys os oes gennych gyfrifoldeb rhiant. Er enghraifft, os mai chi yw mam neu dad y plentyn.

Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn berthyn i’r plentyn mewn rhyw ffordd arall, megis rydych yn nain/taid, modryb/ewythr y plentyn.

Pa mor hir y mae’n cymryd i gael gorchymyn llys

Gan amlaf mae’n cymryd tua 10 mis i gael gorchymyn llys, gan ddibynnu ar ble rydych yn byw a’ch amgylchiadau.

Efallai yr hoffech ystyried cyfryngu neu ffyrdd eraill o gael cymorth i gytuno heb fynd i’r llys. Gall y rhain fod yn gyflymach.

Cyn i chi wneud cais

Efallai y bydd angen i chi fynd i gyfarfod cyn gwneud cais i’r llys. Gelwir hwn yn Gyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM).

Yn y cyfarfod hwn, bydd cyfryngwr yn egluro sut mae cyfryngu’n gweithio, trafod eich sefyllfa a’ch helpu i benderfynu os yw cyfryngu yn iawn i chi. Efallai y gallant hefyd egluro ffyrdd eraill y gallwch gytuno ar drefniadau plant heb fynd i’r llys.

Fel arfer, gallwch gael taleb gwerth hyd at £500 tuag at gost cyfryngu.

Os byddwch yn mynychu MIAM ond nad yw’ch cyn-bartner yn gwneud hynny, gallwch dal wneud cais i fynd i’r llys.

Darllenwch fwy am gyfryngu gan gynnwys sut i drefnu MIAM a chael y daleb.

Unigolion nad oes rhaid iddynt fynychu MIAM

Gan amlaf, ni fydd rhaid i chi fynychu MIAM os yw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych wedi mynychu MIAM neu wedi rhoi cynnig ar ffyrdd eraill o gytuno heb fynd i’r llys yn y 4 mis diwethaf
  • mae gennych dystiolaeth eich bod yn ddioddefwr camdriniaeth ddomestig
  • rydych yn gwneud cais am orchymyn cydsynio
  • mae eich plant mewn risg o niwed, er enghraifft mae gwasanaethau cymdeithasol yn gysylltiedig â’u gofal
  • ni allwch fynychu MIAM oherwydd eich lleoliad, sefyllfa neu argaeledd y cyfryngwr
  • rydych yn gwneud cais am ‘wrandawiad heb rybudd’ (gwrandawiad sy’n digwydd heb roi gwybod i’r unigolyn arall)
  • mae’r cais yn un brys, er enghraifft, rydych chi neu’ch plentyn mewn perygl

Darllenwch fwy am unigolion nad oes rhaid iddynt fynychu MIAM, gan gynnwys y dystiolaeth fydd angen i chi ddangos a sut mae’r llys yn penderfynu pa geisiadau sy’n rhai brys.

Gwirio pa orchymyn llys sydd ei angen arnoch

Mae’r math o orchymyn llys sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar beth allwch chi ddim cytuno arno.

Gallwch wneud cais am fwy nag un math o orchymyn llys.

Bydd y llys ond yn gwneud gorchymyn os mai dyna sydd orau i’r plentyn.

Os oes gennych orchymyn llys mewn lle yn barod, gallwch ei newid neu ei orfodi. Er enghraifft, os nad yw eich cyn-bartner yn ei ddilyn.

Gorchymyn cydsynio

Os ydych wedi cytuno ar drefniadau plant gyda’ch cyn-bartner, gallwch wneud cais am orchymyn cydsynio i wneud y cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol.

Mae angen i’r ddau riant lofnodi’r gorchymyn cydsynio a gall gynnwys manylion ynghylch gofalu am eich plentyn. Bydd barnwr neu ynad yn adolygu ac yn penderfynu a fydd yn cadarnhau’r gorchymyn.

Nid oes rhaid i chi fel arfer fynychu’r llys.

Gorchymyn trefniadau plant

Gorchymyn trefniadau plant yw pan fydd y llys yn penderfynu lle mae eich plentyn yn byw, gyda pwy y maent yn treulio amser a ph’un a fydd mathau eraill o gyswllt yn digwydd, er enghraifft galwadau ffôn.

Gorchymyn mater penodol

Gallwch ofyn i’r llys eich helpu i gytuno ar fater penodol, er enghraifft ble ddylai eich plentyn fynd i’r ysgol.

Gorchymyn camau gwaharddedig

Mae gorchymyn camau gwaharddedig yn atal eich cyn-bartner rhag gwneud unrhyw benderfyniadau parhaol am fagwraeth eich plentyn. Er enghraifft, cymryd eich plentyn allan o’r wlad.

Cael cymorth gan gynghorydd cyfreithiol

Gall cynghorydd cyfreithiol eich helpu i wneud cais am orchymyn llys. Gallant hefyd ddweud wrthych faint fydd cyngor cyfreithiol efallai’n costio. Mae rhai cynghorwyr cyfreithiol yn cynnig cyfarfodydd un-tro am ddim.

Chwilio am gynghorydd cyfreithiol

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu talu am gynghorydd cyfreithiol yn y llys. Er enghraifft, os ydych ar incwm isel neu os oes gennych dystiolaeth eich bod yn ddioddefwr camdriniaeth ddomestig.

Gall rhai elusennau eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol. Gallwch gysylltu ag Advocate os na allwch fforddio talu am gynghorydd cyfreithiol ac nid ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.

Os nad oes gennych gynghorydd cyfreithiol

Gallwch gynrychioli eich hun yn y llys heb gynghorydd cyfreithiol.

I gael help, gallwch gysylltu ag:

  • AdviceNow - canllawiau ar sut mae pethau’n gweithio yn y llys teulu
  • Support Through Court - gwasanaeth am ddim sy’n egluro proses y llys a gall eich helpu i wneud cais am orchymyn llys
  • Cyngor ar Bopeth - cyngor cyfreithiol am ddim neu fforddiadwy

Faint mae’n costio i wneud cais

Mae’n costio £263 i wneud cais am orchymyn llys. Efallai y gallwch gael cymorth i dalu ffioedd llys os ydych yn cael budd-daliadau neu ar incwm isel.

Bydd angen i chi dalu unrhyw costau am gynghorydd cyfreithiol ar wahân.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch gadw a dychwelyd at eich cais yn hwyrach ymlaen. Mae gennych 28 diwrnod i’w gwblhau unwaith y byddwch wedi dechrau.

Gwneud cais ar-lein nawr

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch hefyd wneud cais drwy’r post. Llenwch ffurflen C100.

Bydd angen i chi anfon eich ffurflen C100 wreiddiol a 3 copi i’r llys. Chwiliwch am eich llys teulu agosaf.