Dod o hyd i ffyrdd o wneud trefniadau plant
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddod o hyd i opsiynau ar gyfer gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn gwahanu neu wedi gwahanu oddi wrth riant arall eich plentyn. Mae hyn yn cynnwys ffyrdd o ddod i gytundeb heb fynd i’r llys.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Weithiau, gelwir trefniadau ar gyfer plant yn ‘gwarchodaeth plant’ neu’n ‘cyswllt â phlant’.
Gofynnir cwestiynau i chi am eich amgylchiadau, gan gynnwys eich perthynas bresennol gyda’ch cyn-bartner. Ni ofynnir i chi am unrhyw fanylion personol.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud trefniadau ariannol. Darllenwch fwy am y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Mae’r hyn y gallwch ei wneud yn wahanol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon.
Cael help i wneud trefniadau ar gyfer plant
Mae’n cymryd tua 10 munud i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Ni fydd eich atebion yn cael eu cadw na’u rhannu gydag unrhyw un.
Os oes angen i chi adael y gwasanaeth yn gyflym
Mae yna fotwm ‘Gadael y dudalen hon’ ar bob tudalen o’r gwasanaeth hwn, sy’n mynd â chi i wefan tywydd y BBC.