Gwirio os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol

Gall cymorth cyfreithiol helpu i dalu am gyngor cyfreithiol.

Byddwch yn cael eich holi’n gyffredinol am eich problem gyfreithiol, eich incwm â’ch cynilion. Byddwch yn cael gwybod ble gallwch gael cyngor cyfreithiol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Gallwch wirio ar gyfer achosion sydd ddim yn droseddol yn unig (‘sifil’). Os ydych chi wedi cael eich cyhuddo o drosedd, gofynnwch i’ch cyfreithiwr neu fargyfreithiwr os oes modd i chi gael cymorth cyfreithiol troseddol.

Byddwch yn cael arweiniad ynghylch p’un a ydych yn gallu cael cymorth cyfreithiol ai peidio yn unig – ni fyddwch yn cael penderfyniad terfynol nes eich bod yn siarad â chynghorydd.

Mae cymorth cyfreithiol yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.