Trosolwg

Fel arfer, mae’r dyddiadau cau ar gyfer talu’ch bil treth fel a ganlyn:

  • 31 Ionawr – ar gyfer treth sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol (a elwir yn daliad mantoli) a’ch taliad ar gyfrif cyntaf 
  • 31 Gorffennaf – ar gyfer eich ail daliad ar gyfrif

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Talu’ch bil treth

Talu Hunanasesiad nawr

Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i dalu’ch bil gan ddefnyddio gwasanaeth bancio ar-lein eich banc, neu ap eich banc.

Gallwch dalu’r swm sydd arnoch mewn rhandaliadau cyn y dyddiad dyledus, os yw’n well gennych. Gallwch wneud hyn drwy’r dulliau canlynol: 

  • trefnu taliadau wythnosol neu fisol tuag at eich bil   
  • gwneud taliadau untro drwy’ch cyfrif banc ar-lein, gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach), trefnu taliadau unigol drwy Ddebyd Uniongyrchol neu drwy bostio sieciau

Gallwch gael help os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd.

Dulliau o dalu

Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Bydd llog yn cael ei godi arnoch, ac efallai y bydd cosb yn cael ei chodi arnoch os yw’ch taliad yn hwyr.

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

Gallwch dalu drwy gyfrwng y dulliau canlynol:

Mae’n rhaid i chi gael slip talu oddi wrth CThEF er mwyn talu mewn banc neu gymdeithas adeiladu.

3 diwrnod gwaith

Gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:

5 diwrnod gwaith

Gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:

Os yw’r dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, sicrhewch fod eich taliad yn cyrraedd CThEF ar y diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad hwnnw (oni bai eich bod yn talu drwy gyfrwng Taliadau Cyflymach neu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd).

Problemau â gwasanaethau talu

Gall gwasanaethau talu ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Edrychwch i weld a oes problemau ar hyn o bryd, neu adegau pan na fyddant ar gael (yn agor tudalen Saesneg).