Talu’ch bil treth Hunanasesiad
Talu â siec drwy’r post
Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.
HMRC
Direct
BX5 5BD
Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.
Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich taliad yn cyrraedd CThEF erbyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr neu 31 Gorffennaf. Gallwch wneud mwy nag un taliad tuag at eich bil cyn y dyddiad cau.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, ar gefn y siec. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’.
Mae’ch UTR i’w weld:
- yn eich cyfrif ar-lein CThEF
- yn ap CThEF
- ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF gyda’ch datganiad papur, os ydych yn dal i gael datganiadau ar bapur
Os gwnaeth CThEF anfon slip talu atoch, dylech ei gynnwys gyda’ch siec. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Gall eich taliad gael ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.
Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad i ofyn i CThEF am dderbynneb.