Talu’ch bil treth Hunanasesiad
Gwirio bod eich taliad wedi cyrraedd
Ewch i’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF i wirio a yw’ch taliad wedi cyrraedd – dylai ddangos fel ei fod wedi’i dalu cyn pen 3 i 6 diwrnod gwaith yn ddiweddarach.
Os ydych yn talu drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr gyda’ch taliad er mwyn gofyn am dderbynneb oddi wrth CThEF.