Drwy'ch cod treth

Gallwch dalu’ch bil treth Hunanasesiad drwy’ch cod treth TWE, cyn belled â bod yr holl amodau isod yn berthnasol:

  • mae arnoch lai na £3,000 ar eich bil treth (ni allwch wneud taliad rhannol er mwyn cyrraedd y trothwy hwn)
  • rydych eisoes yn talu treth drwy TWE, er enghraifft, rydych yn gyflogai neu’n cael pensiwn cwmni
  • gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar bapur erbyn 31 Hydref, neu’ch Ffurflen Dreth ar-lein erbyn 30 Rhagfyr

Sut mae’n gweithio

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn casglu’r hyn sydd arnoch yn awtomatig drwy’ch cod treth os ydych yn bodloni pob un o’r 3 amod, oni bai eich bod wedi gofyn yn benodol iddynt beidio â gwneud hynny (ar eich Ffurflen Dreth).

Os nad ydych yn gymwys, ni fyddwch yn gallu talu yn y ffordd hon.

Pryd na allwch dalu drwy’ch cod treth

Ni fyddwch yn gallu talu’ch bil treth drwy’ch cod treth TWE os yw’r amodau isod yn berthnasol:

  • nid oes gennych ddigon o incwm TWE i CThEF allu casglu’r dreth sydd arnoch
  • byddech yn talu mwy na 50% o’ch incwm TWE mewn treth
  • yn y pen draw, byddech yn talu mwy na dwywaith cymaint o dreth ag yr ydych yn ei thalu fel arfer
  • roedd arnoch £3,000 neu fwy, ond gwnaethoch daliad rhannol i ostwng y swm sydd arnoch i lai na £3,000

Os ydych yn hunangyflogedig, ni allwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 drwy’ch cod treth, oni bai bod yr Yswiriant Gwladol wedi bod yn ddyledus ers cyn 6 Ebrill 2015. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio un o’r dulliau talu eraill erbyn y dyddiad cau yn lle hynny.

Sut y gwneir didyniadau

Bydd y dreth sydd arnoch yn cael ei thynnu oddi wrth eich cyflog neu’ch pensiwn fesul rhandaliad cyfartal dros 12 mis, ynghyd â’ch didyniadau treth arferol.