Talu’ch bil treth Hunanasesiad
Debyd Uniongyrchol
Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i wneud taliadau unigol ar gyfer 31 Ionawr.
Gallwch hefyd drefnu Debyd Uniongyrchol arall os oes angen i chi wneud taliad ar gyfrif.
Os ydych am wneud mwy nag un taliad cyn y dyddiad cau, bydd angen i chi drefnu taliadau unigol bob tro y byddwch am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Er mwyn gwneud taliadau Debyd Uniongyrchol wythnosol neu fisol tuag at eich bil treth Hunanasesiad nesaf, trefnwch Gynllun Talu Cyllidebol.
Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.
Ni allwch ddefnyddio Debyd Uniongyrchol ar gyfer taliadau dros £20 miliwn. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio dull arall o dalu.
Dod o hyd i’r cyfeirnod ar gyfer eich Debyd Uniongyrchol
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’.
Bydd hwn naill ai:
- yn eich cyfrif ar-lein CThEF
- ar eich slip talu i mewn, os ydych yn cael datganiadau papur
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.