Skip to main content

Talu Cytundeb Setliad TWE

Sgipio cynnwys

Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:

  • drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
  • drwy ffonio’ch banc

Cyfeirnod

Bydd angen eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) arnoch wrth wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar y slip talu a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE.

Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir

Mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.

Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU

Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001020
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor

Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.