Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

CThEF/HMRC
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Fe welwch hwn ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.

Os nad oes gennych slip talu

Gallwch argraffu slip talu (yn agor tudalen Saesneg) a’i ddefnyddio i dalu drwy’r post. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.