Skip to main content

Talu Cytundeb Setliad TWE

Sgipio cynnwys

Drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau), nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif.

Os na allwch dalu eich Cytundebau Setliad TWE (PSA) yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu, megis trosglwyddiad banc.

Cyfeirnod

Bydd angen eich cyfeirnod PSA arnoch. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.

Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE.

Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir

Mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.