Skip to main content

Talu Cytundeb Setliad TWE

Sgipio cynnwys

Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu yn eich cangen ag arian parod neu siec. Bydd angen i chi ddefnyddio’r slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (os ydych yn ei dalu o ddydd Llun i ddydd Gwener), nid ar y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif.