Talu Cytundeb Setliad TWE
Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’ch Cytundeb Setliad TWE yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.
Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Cytundeb Setliad TWE. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad Cytundeb Setliad TWE.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Fel arfer bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.