Talu Cytundeb Setliad TWE
Debyd Uniongyrchol
Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol drwy gyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) eich busnes i wneud taliad unigol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi drefnu taliad bob tro y byddwch yn talu CThEF drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Defnyddiwch eich cyfeirnod
Bydd angen eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) arnoch wrth wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.
Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE.
Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir
Mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.
Os ydych yn talu TWE neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy Ddebyd Uniongyrchol, gwnewch daliad Debyd Uniongyrchol ar wahân ar gyfer eich PSA.
Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.