Taliad Tanwydd Gaeaf
Os ydych yn byw dramor
Os nad ydych yn byw yn y DU, rydych ond yn gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych:
- wedi symudu i wlad gymwys cyn 1 Ionawr 2021
- wedi cael eich geni cyn 25 Medi 1957
- gyda cysylltiad dilys a digonol â’r DU - gall hyn gynnwys cael byw neu weithio yn y DU, a chael teulu yn y DU
Gwledydd cymwys
- Awstria
- Gwlad Belg
- Bwlgaria
- Croatia
- Y Weriniaeth Tsiec
- Denmarc
- Estonia
- Ffindir
- Yr Almaen
- Hwngari
- Gwlad yr Ia
- Iwerddon
- Yr Eidal
- Latfia
- Liechtenstein
- Lithwania
- Luxembourg
- Yr Iseldiroedd
- Norwy
- Gwlad Pwyl
- Romania
- Slofacia
- Slofenia
- Sweden
- Y Swistir
Pryd i wneud cais
Mae angen i chi wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf dim ond os nad ydych wedi ei gael ers i chi symud dramor.
Gweddill yr amser, byddwch yn cael y taliad yn awtomatig.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf:
- trwy’r post - o 18 Medi 2023
- dros y ffôn - o 4 Hydref 2023
Y dyddiad cau i chi wneud cais ar gyfer gaeaf 2023 i 2024 yw 31 Mawrth 2024.
Gwneud cais drwy’r post
Bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi:
- ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf
- ffurflen IPCF091, os ydych yn gwladolyn y DU neu gyda chenedligrwydd deuol yn byw mewn gwlad cymwys heblaw Iwerddon.
Anfonwch eich ffurflenni wedi’u cwblhau i’r cyfeiriad canlynol.
Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1ZU
UK
Gwneud cais dros y ffôn
Ffoniwch y Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf i wneud cais dros y ffôn.
Canolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf
Ffurflen ymholiadau e-bost
Ffôn: +44 (0)191 218 7777
Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar +44 (0)151 494 2022 ac yna 0800 731 0160
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Beth i’w baratoi cyn i chi ffonio
Cyn i chi ffonio, byddwch angen gwybod:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu
- eich rhifau BIC ac IBAN
- y dyddiad gwnaethoch briodi neu d dod yn rhan o bartneriaeth sifil (os yw’n briodol)
Ni ellir gwneud taliadau i gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) oni bai eich bod eisoes yn cael budd-daliadau eraill wedi’u talu i’r cyfrif.
Byddwch hefyd angen dweud os, yn ystod wythnos gymhwyso 19 a 25 Medi 2022, roeddech:
- yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim i gleifion mewnol
- mewn cartref gofal preswyl neu ‘Ilford Park Resettlement Home’
- yn y carchar
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.