Taliad Tanwydd Gaeaf
Edrychwch i weld os ydych angen gwneud cais
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.
Nid oes angen i chi wneud cais os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Cymorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
Efallai y bydd angen i chi wneud cais os ydych yn byw dramor.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf:
- trwy’r post - o 30 Medi 2024
- dros y ffôn - o 28 Hydref 2024
Mae ffordd wahanol i wneud cais os ydych yn byw dramor.
Y dyddiad cau i chi wneud cais ar gyfer gaeaf 2024 i 2025 yw 31 Mawrth 2025.
Gwneud cais trwy’r post
Llenwch Ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf i breswylwyr y DU a’i hafnon i’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf.
Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad canlynol os ydych yn y DU.
Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR
Gwneud cais dros y ffôn
Ffoniwch y Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf i wneud cais dros y ffôn.
Canolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf
Ffurflen ymholiad e-bost
Ffôn: 0800 731 0160
Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar 18001 ac yna 0800 731 0464
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Beth i’w baratoi cyn i chi ffonio
Cyn i chi ffonio, byddwch angen gwybod:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu
- y dyddiad gwnaethoch briodi neu d dod yn rhan o bartneriaeth sifil (os yw’n briodol)
Ni ellir gwneud taliadau i gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) oni bai eich bod eisoes yn cael budd-daliadau eraill wedi’u talu i’r cyfrif.
Byddwch hefyd angen dweud os, yn ystod wythnos gymhwyso 16 a 22 Medi 2024, roeddech:
- yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim i gleifion mewnol
- mewn cartref gofal preswyl neu ‘Ilford Park Resettlement Home’
- yn y carchar
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.