Hawlio budd-daliadau os ydych yn mynd i gartref gofal
Rhoi gwybod am arhosiad mewn cartref gofal os ydych chi'n hawlio budd-daliadau
Rhaid i chi ddweud wrth y sefydliad sy’n talu eich budd-dal cyn gynted â phosibl os ydych chi’n mynd i gartref gofal am un noson neu fwy. Dylech hefyd ddweud wrthynt os ydych chi’n aros mewn ysbyty ac yn cael budd-daliadau.
Gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan. Bydd angen iddynt roi eu henw a’u manylion cyswllt.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch i roi gwybod am arhosiad
Mae angen i chi roi:
- enw llawn
- dyddiad geni
- rhif Yswiriant Gwladol
- manylion eich partner (os ydyn nhw ar eich hawliad)
Bydd angen i chi roi manylion eich arhosiad, gan gynnwys:
- enw a chyfeiriad y cartref gofal rydych chi’n aros ynddo
- y dyddiad y cawsoch eich derbyn
- y cyfeiriad roeddech chi’n byw ynddo cyn i chi gael eich derbyn
- manylion am sut mae eich arhosiad yn cael ei dalu
- enw eich awdurdod neu gyngor lleol
- manylion atwrneiaeth neu benodai, os oes un
Os ydych wedi aros mewn mwy nag un cartref gofal, mae angen i chi ddarparu’r manylion hyn ar gyfer pob arhosiad. Mae hyn yn cynnwys y dyddiad y cawsoch eich derbyn a’r dyddiad y gwnaethoch adael pob cartref gofal.
Mae angen i chi hefyd roi manylion am unrhyw arosiadau yn yr ysbyty yn y 28 diwrnod cyn i chi gael eich derbyn i’r cartref gofal, gan gynnwys:
- y dyddiad y cawsoch eich derbyn i’r ysbyty
- y dyddiad y gwnaethoch adael yr ysbyty
- enw pob ysbyty roeddech chi ynddo
- os wnaethoch chi symud rhwng ysbytai
- lle cawsoch eich rhyddhau i, er enghraifft eich cartref neu gartref gofal
Efallai y byddwch yn cael eich cymryd i lys neu orfod talu cosb os ydych chi’n rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.
Os ydych chi’n byw yn yr Alban
Bydd angen i chi hefyd roi manylion am eich cais am ofal personol a nyrsio am ddim, os ydych wedi gwneud un.
Pwy i gysylltu â nhw
Mae pwy rydych chi’n rhoi gwybod iddynt yn dibynnu ar ba fudd-daliadau rydych chi’n eu cael. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â mwy nag un sefydliad os ydych chi’n cael mwy nag un budd-dal.
| Budd-dal | Cyswllt |
|---|---|
| Lwfans Gweini | Ffoniwch y llinell gymorth Lwfans Gweini |
| Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) | Ffoniwch y Ganolfan Gwasanaeth Anabledd |
| Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) | Ffoniwch Y Ganolfan Byd Gwaith |
| Budd-dal Tai | Rhowch wybod i’ch cyngor lleol |
| Cymhorthdal Incwm | Ffoniwch Y Ganolfan Byd Gwaith |
| Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) | Ffoniwch Y Ganolfan Byd Gwaith |
| Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) | Ffoniwch y Ganolfan Gwasanaeth Anabledd |
| Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn | Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn dros y ffôn neu drwy’r post |
| Credyd Cynhwysol | Defnyddiwch eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein os oes gennych un neu cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol |
Os ydych chi’n hawlio Lwfans Gofalwr ar gyfer rhywun sy’n mynd i mewn i gartref gofal, rhowch wybod am newid ar-lein neu ffoniwch yr Uned Lwfans Gofalwr.
Ar ôl i chi roi gwybod am arhosiad
Os ydych chi’n talu am y cartref gofal eich hun
Dim ond os ydych mewn cartref gofal y gallwch hawlio budd-daliadau penodol. Efallai y byddwch yn gallu parhau i gael:
- elfennau bywyd bob dydd a symudedd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- elfennau gofal a symudedd Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- elfennau gofal a symudedd Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant
- Lwfans Gweini
- swm ychwanegol ar gyfer anabledd difrifol a dalwyd gyda Chredyd Pensiwn
Bydd unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch yn dod i ben.
Os nad ydych chi’n talu am y cartref gofal eich hun
Mae’r rhan fwyaf o fudd-daliadau fel arfer yn dod i ben o fewn 28 diwrnod i’ch derbyn i gartref gofal os yw’ch arhosiad yn cael ei ariannu gan un o’r canlynol:
- Gofal iechyd parhaus y GIG
- Cyllid y GIG ar gyfer gofal nyrsio
- eich cyngor lleol
Os ydych chi’n cael cyllid y GIG ar gyfer gofal nyrsio, efallai y byddwch yn dal i allu cael elfennau gofal a symudedd Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant.
Os cewch gyllid gan eich cyngor lleol, efallai y byddwch yn dal i allu cael elfennau symudedd o: