Hawlio budd-daliadau os ydych yn mynd i gartref gofal

Sgipio cynnwys

Gwnewch gais newydd am fudd-daliadau

Dim ond os ydych mewn cartref gofal y gallwch hawlio budd-daliadau penodol. Mae’r hyn y gallwch ei gael a pha mor hir y mae’r budd-daliadau hyn yn para yn dibynnu ar sut mae eich arhosiad yn cael ei ariannu.

Os ydych chi’n talu am y cartref gofal eich hun

Efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau hawlio:

Ni allwch wneud cais newydd am DLA i oedolion.

Os nad ydych chi’n talu am y cartref gofal eich hun

I ddarganfod a ydych chi’n gymwys, rhaid i chi wneud cais am y budd-dal a chynnwys sut mae eich arhosiad yn cael ei ariannu yn y ffurflen gais.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gweithio allan beth allwch chi ei gael.

Gallwch ddarganfod sut mae eich arhosiad yn cael ei ariannu o’r llythyr a gawsoch gan eich cyngor lleol pan wnaethant eich asesiad ariannol. Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych chi’n gwybod sut mae eich arhosiad yn cael ei ariannu.

Gwnewch gais newydd cyn gynted â phosibl - dim ond o fewn 28 diwrnod ar ôl cael eich derbyn i gartref gofal y gallwch wneud cais am rai budd-daliadau.