Gwirio bod HGV yn barod i groesi'r ffin (Trwyddedau Mynediad i Gaint)
Mae’r gwasanaethau canlynol wedi’u cau o 20 Ebrill 2021 ymlaen:
- Gwneud cais am Drwydded Mynediad i Gaint (KAP)
- Gwirio bod HGV yn barod i groesi’r ffin
Does dim angen Trwydded Mynediad i Gaint arnoch i fynd i mewn i Gaint mwyach.
Cyn i chi groesi’r ffin, mae angen o hyd ichi:
- gwirio bod gennych y gwaith papur angenrheidiol i groesi’r ffin rhwng Prydain Fawr a’r UE
- gwirio a oes arnoch angen prawf coronafeirws (COVID-19) a phryd y dylech chi gael un
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn Saesneg (English), Bwlgareg (български), Iseldireg (Nederlandse), Ffrangeg (Français), Almaeneg (Deutsch), Pwyleg (Polski), Rwmaneg (Română) a Sbaeneg (Español).
Os oes arnoch chi angen help
Siaradwch â chynghorydd ar-lein drwy sgwrsio ar y we rhwng 8am ac 8pm, 7 diwrnod yr wythnos.
Cyngor wyneb yn wyneb i gludwyr a gyrwyr HGVs
Mynnwch gyngor ar y rheolau newydd yn bersonol yn safleoedd cynghori cludwyr y DfT sydd wedi’u lleoli mewn rhai gorsafoedd gwasanaeth ar y traffyrdd ac arosfannau tryciau. Chwiliwch am eich safle cynghori agosaf.