Canllawiau

Credyd Cynhwysol a theuluoedd gyda mwy na 2 o blant: gwybodaeth i hawlwyr

Gwybodaeth am y cyfyngiad dau o blant mewn Credyd Cynhwysol ar gyfer hawlwyr Credyd Cynhwysol presennol ac hawlwyr newydd.

Ffeithiau pwysig

Bydd hawl gennych i gael swm ychwanegol ar gyfer unrhyw blentyn a aned cyn 6 Ebrill 2017.

Ni fydd Credyd Cynhwysol yn talu swm ychwanegol ar gyfer trydydd plentyn neu blentyn dilynol a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, oni fydd amgylchiadau arbennig yn gymwys.

Er enghraifft, os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, gyda chyfrifoldeb am 2 blentyn a’ch bod wedyn yn rhoi genedigaeth i blentyn newydd, ni fyddwch yn cael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn newydd hwnnw, oni fydd amgylchiadau arbennig yn gymwys.

Bydd dal gennych hawl i gael cymorth ychwanegol mewn perthynas ag unrhyw blant anabl, hyd yn oed os nad ydych yn cael swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn anabl.

Efallai bydd gennych ddal hawl i gael help gyda chostau gofal plant ar gyfer unrhyw un o’ch plant, hyd yn oed os nad ydych yn cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer eich holl blant.

Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘blentyn’ yn y canllawiau hyn, ystyr hynny yw person:

Gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol

Bydd Credyd Cynhwysol yn derbyn ceisiadau newydd gan deuluoedd gwaeth faint o blant sydd gennych. Os ydych yn gwneud cais newydd, bydd Credyd Cynhwysol yn talu swm ychwanegol ar gyfer yr holl blant a aned cyn 6 Ebrill 2017.

Bydd unrhyw amgylchiadau arbennig oedd yn gymwys mewn dyfarniad blaenorol o Gredyd Cynhwysol, Credyd Treth Plant, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn parhau i fod yn gymwys yn eich dyfarniad Credyd Cynhwysol newydd, oni bai nad yw’r amodau dros yr eithriad hwnnw yn cael eu cwrdd bellach.

Amgylchiadau arbennig

Rydym yn galw’r amgylchiadau arbennig hyn yn “eithriadau”.

Os ydych yn gyfrifol am drydydd plentyn neu blentyn dilynol a’u bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer yr eithriadau ar gyfer genedigaethau lluosog neu feichiogiad nad oedd yn gydsyniol a restrir isod, efallai y gallwch gael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn hwnnw.

Efallai y gallwch gael eithriad ar gyfer unrhyw blant yn eich cartref sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer yr eithriadau ar gyfer gofal heb fod yn rhiant neu drefniant mabwysiadu. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau y gallwch eu cael ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.

Genedigaethau lluosog

Gallwch gael Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer eich trydydd plentyn a phlant dilynol os cânt eu geni fel rhan o enedigaeth luosog, heblaw am un plentyn yn yr enedigaeth honno. Mae hyn yn golygu bod yr eithriad yn gymwys i’r plant ychwanegol yn yr enedigaeth honno.

Er enghraifft, os ydych eisoes yn cael symiau ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer 2 blentyn presennol, a’ch bod wedyn yn cael efeilliaid, byddwn yn talu swm plentyn ychwanegol arall o Gredyd Cynhwysol ar gyfer un o’r efeilliaid hynny (sy’n golygu y bydd gennych hawl i gael swm ar gyfer 3 allan o 4 o’ch plant).

Os mai’r plentyn cyntaf o’r enedigaeth luosog yw’r plentyn cyntaf neu’r ail blentyn yn y cartref, byddwn yn talu swm plentyn ar gyfer pob plentyn a anwyd fel rhan o’r enedigaeth luosog.

Plant a fabwysiadwyd

Ers 28 Tachwedd 2018, mae’r polisi ar gyfer pryd y byddwn yn talu am blant sydd wedi’u mabwysiadu wedi newid.

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant mabwysiadu, byddwch yn gallu cael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gewch ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.

Bydd yr eithriad fel arfer yn gymwys o’r dyddiad y byddwch yn dod yn gyfrifol am y plentyn a fabwysiadwyd.

Gallai hyn fod yn ddyddiad y trefniant mabwysiadu ffurfiol, neu’n ddyddiad lleoli, yn dibynnu ar pryd y caiff cyfrifoldeb rhianta ar gyfer y plentyn ei drosglwyddo i chi. Bydd angen i chi roi dogfennau ategol ar gyfer unrhyw blentyn neu blant a fabwysiadwyd sy’n byw gyda chi.

Ni allwch gael swm ychwanegol ar gyfer plentyn a fabwysiadwyd os bydd wedi’i fabwysiadu o dramor, neu os oeddech chi neu’ch partner yn rhiant neu’n llys-riant iddo cyn i chi ei fabwysiadu.

Plant sy’n byw gyda theulu a ffrindiau fel rhan o drefniadau gofalu heb fod yn rhiant

Ers 28 Tachwedd 2018, mae’r polisi ar gyfer pryd y byddwn yn talu am blant sy’n rhan o drefniadau gofalu heb fod yn rhiant wedi newid.

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant gofalu heb fod yn rhiant, byddwch yn gallu cael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gewch ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.

Gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer unrhyw blentyn neu blant sydd eisoes yn byw gyda chi fel rhan o un o’r trefniadau canlynol:

  • trefniant gofalu ffurfiol
  • trefniant gofalu anffurfiol, lle y byddai’n debygol y byddent wedi cael eu rhoi yng ngofal yr awdurdod lleol fel arall

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn talu swm plentyn ychwanegol pan fydd gan blentyn yn eich cartref (dan 16 oed) blentyn ei hun, rydych yn gyfrifol amdanynt.

Gofalwyr sy’n ffrindiau neu’n deulu: gofal ffurfiol

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant gofalu ffurfiol, efallai y gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gewch ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.

Gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer unrhyw blentyn neu blant os ydych yn gofalu amdanynt drwy drefniant gofalu ffurfiol, er enghraifft:

  • gorchymyn trefniadau plentyn
  • gorchymyn gwarcheidiaeth
  • gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig
  • rydych wedi cael eich penodi’n Warcheidwad (yn yr Alban)
  • kinship care order (yn yr Alban)
  • permanence order (yn yr Alban)

Mae’r eithriad hefyd yn gymwys os oedd un o’r trefniadau ffurfiol hyn mewn lle ond ei fod wedi dod i ben ar ben-blwydd y plentyn yn 16 oed, cyhyd â’ch bod wedi parhau i fod yn gyfrifol amdanynt ers hynny.

Gofalwyr sy’n ffrindiau neu’n deulu: gofal anffurfiol

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant gofalu anffurfiol, efallai y gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gewch ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.

Bydd yr eithriad ond yn gymwys os yw’n debygol y byddai’r plentyn wedi cael ei roi yng ngofal yr awdurdod lleol fel arall.

Bydd angen i chi ddarparu dogfennau ategol gan weithiwr cymdeithasol o’r awdurdod lleol gan ddefnyddio’r IC1 ffurflen cymorth ar gyfer plentyn sy’n byw gyda chi yn anffurfiol.

Ni fydd yr eithriad hwn yn gymwys os ydych chi neu eich partner yn rhiant neu’n llys-riant i’r plentyn.

Gofalwyr sy’n ffrindiau neu’n deulu: plant dan 16 oed sydd â phlentyn

Mae’r eithriad hwn yn gymwys pan fydd plentyn dan 16 oed rydych yn gyfrifol amdanynt yn dod yn rhiant i blentyn. Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer y plentyn newydd os ydynt hefyd yn rhan o’ch cartref. Ni fydd hyn yn effeithio ar y swm a gewch ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.

Byddwch yn parhau i gael y swm ychwanegol nes bydd y rhiant ifanc naill ai:

  • yn 16 oed ac yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, neu
  • yn gadael eich cartref, gan adael y plentyn yn eich gofal, oni fydd eithriad arall yn gymwys

Plant y mae’n debygol eu bod wedi cael eu beichiogi o ganlyniad i weithred rywiol nad oedd yn gydsyniol (yn cynnwys trais), neu ar adeg pan oedd yr hawlydd yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus gan riant biolegol arall y plentyn

Gallwch gael Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer trydydd plentyn neu blant dilynol yn eich cartref y mae’n debygol eu bod wedi cael eu beichiogi o ganlyniad i weithred rywiol na wnaethoch roi cydsyniad iddi neu nad oedd yn bosibl i chi wneud hynny.

Mae hyn yn ymwneud â phlentyn sydd naill ai:

  • yn debygol o fod wedi cael eu geni o ganlyniad i feichiogiad nad oedd yn gydsyniol (yn cynnwys trais)
  • wedi’u feichiogi ar adeg neu o gwmpas adeg pan roedd eich cydberthynas â rhiant biolegol arall y plentyn yn dreisgar a’ch bod yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus

Er mwyn bod yn gymwys i gael yr eithriad hwn (ar gyfer trydydd plentyn neu blentyn dilynol) ni ddylech fod yn byw gyda rhiant biolegol y plentyn mwyach a bydd gofyn i chi gadarnhau hyn.

Rydym yn cydnabod bod angen mynd i’r afael â’r eithriad hwn mewn modd hynod sensitif. Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn cael yr eithriad hwn er mwyn eich helpu os ydych yn y sefyllfa hon.

Ni fydd staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich holi am y digwyddiad heblaw am dderbyn y cais a’r wybodaeth ategol. Caiff unrhyw wybodaeth a dderbynnir ei thrin yn unol â’r rheolau y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisoes yn eu defnyddio ar gyfer trin a defnyddio gwybodaeth hynod sensitif.

Ceir rhagor o wybodaeth yn siarter gwybodaeth bersonol yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Gall yr eithriad hwn fod yn gymwys pan fydd euogfarn wedi’i wneud am drais neu am ymddygiad rheoli neu orfodi, neu ble rydych wedi derbyn Taliad Iawndal Anafiadau Troseddol ond nid oes raid bod achos llys nac euogfarn wedi digwydd. Os oes gennych wybodaeth am naill ai euogfarn neu daliad gallwn ddefnyddio hyn i gefnogi eich cais am yr eithriad hwn.

Os nad oes gennych ddogfennau i ategu’r eithriad hwn eisoes, byddwch yn gallu llenwi ffurflen cymorth ar gyfer plentyn a feichiogwyd heb eich cydsyniad. Gallwch wneud hyn gyda help gan sefydliadau neu unigolion fel:

  • gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, er enghraifft, meddygon, nyrsys, bydwragedd neu ymwelwyr iechyd
  • gweithwyr cymdeithasol cofrestredig
  • sefydliadau penodol, fel elusennau trais arbenigol – dewch o hyd i restr o’r sefydliadau hyn

Bydd angen iddynt roi cadarnhad bod eich amgylchiadau’n gyson â’r meini prawf ar gyfer eithriad. Ni fyddwch mewn sefyllfa lle y bydd rhaid i chi roi manylion am amgylchiadau’r beichiogrwydd i staff yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Hyd yn oed pan na allwch gael y cadarnhad hwn, cysylltwch â’ch anogwr gwaith. Byddant yn gallu eich helpu i gael y cymorth trydydd parti rydych ei angen.

Os oes trosedd neu achos o gam-drin domestig wedi effeithio arnoch neu os yw’r wybodaeth hon wedi peri gofid i chi, mae cymorth ar gael i chi.

Os byddwch angen siarad â rhywun, cysylltwch ag un o’r sefydliadau canlynol:

  • Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs) - mae SARCs mewn rhai ardaloedd o’r DU, defnyddiwch adnodd NHS Choices i ddod o hyd i un yn eich ardal
  • Yr Ymddiriedolaeth Goroeswyr – mae mwy na 135 o aelod asiantaethau ledled y DU sy’n rhoi cymorth i oroeswyr trais, trais rhywiol neu gam-drin rhywiol yn ystod plentyndod (Ffôn: 0808 801 0818)
  • Argyfwng Trais Cymru a Lloegr – elusen genedlaethol a’r corff ambarél ar gyfer rhwydwaith o Ganolfannau Argyfwng Trais sy’n aelodau annibynnol (Ffôn: 0808 802 9999)
  • Rhadffôn Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig, gwasanaeth cenedlaethol 24 awr yn cael ei redeg gan Refuge, (Ffôn: 0808 2000 247)
  • Rape Crisis Scotland - (Ffôn: 0808 801 0302)
  • Scottish Domestic Abuse and Forced Marriage Helpline – llinell ffôn 24 awr am ddim a gaiff ei staffio gan weithwyr wedi’u hyfforddi’n arbennig a gwirfoddolwyr a reolir gan Scottish Women’s Aid (Ffôn: 0800 027 1234)
  • Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru – llinell gymorth 24 awr am ddim a gaiff ei rhedeg gan Cymorth i Ferched Cymru (Ffôn: 0808 80 10 800)
  • Cymorth i Ddioddefwyr – elusen annibynnol sy’n cynnig cymorth i bobl y mae troseddau neu ddigwyddiadau trawmatig wedi effeithio arnynt (Ffôn: 0808 168 9111)
  • y Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol - rhoi canllawiau a gwybodaeth i unrhyw un y mae achosion o aflonyddu neu stelcio yn effeithio arnynt nawr neu wedi gwneud yn flaenorol (Ffôn: 0808 802 0300 neu e-bost: advice@stalkinghelpline.org)

Efallai y bydd y wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Ddioddefwyr yn ddefnyddiol er mwyn dod o hyd i gymorth yn eich ardal leol.

Gwneud cais am eithriad

Pan fyddwch yn dweud wrthym am blentyn newydd yn eich cartref, byddwch yn cael gwybodaeth am yr eithriadau. Gallwch ddweud wrthym am blentyn newydd drwy ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os bydd un o’r eithriadau yn gymwys i’r plentyn newydd, dyma beth fydd angen i chi ei wneud:

Genedigaeth luosog

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych am wneud cais am yr eithriad hwn naill ai dros y ffôn neu drwy ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn, efallai y gofynnir i chi roi’r tystysgrifau geni gwreiddiol perthnasol i ni.

Os byddwch yn cysylltu â ni drwy ddefnyddio eich cyfrif ar-lein, byddwn yn eich ffonio ac efallai y gofynnir i chi roi unrhyw dystysgrifau geni gwreiddiol i ni.

Gallwch naill ai roi’r tystysgrifau geni i’ch anogwr gwaith neu eu hanfon i’r cyfeiriad isod. Pan fyddwn wedi gweld y tystysgrifau geni, byddwn yn eu dychwelyd atoch.

Plant a fabwysiadwyd

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych am wneud cais am yr eithriad hwn naill ai dros y ffôn neu gan ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn, efallai y gofynnir i chi roi’r dogfennau ategol perthnasol i ni, er enghraifft, tystysgrif mabwysiadu.

Os ydych wrthi’n mabwysiadu plentyn ac nad oes tystysgrif mabwysiadu ar gael, bydd angen i chi roi dogfennau ategol ysgrifenedig gan weithiwr cymdeithasol.

Rhaid i’r rhain gynnwys:

  • y dyddiad y cafodd y plentyn ei leoli gyda chi
  • enw’r plentyn
  • enw(au) y rhiant/rhieni mabwysiadu

Os byddwch yn cysylltu â ni gan ddefnyddio eich cyfrif ar-lein, byddwn yn eich ffonio ac efallai y gofynnir i chi roi’r dogfennau ategol perthnasol i ni.

Gallwch naill ai roi’r dogfennau i’ch anogwr gwaith neu eu hanfon i’r cyfeiriad isod. Pan fyddwn wedi gweld y dogfennau mabwysiadu perthnasol, byddwn yn eu dychwelyd atoch.

Gofalwyr sy’n ffrindiau neu’n deulu: gofal ffurfiol

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych am wneud cais am yr eithriad hwn naill ai dros y ffôn neu drwy ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os byddwch yn cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau dros y ffôn, efallai y gofynnir i chi roi’r dogfennau ategol perthnasol i ni, er enghraifft, gorchymyn trefniadau plentyn neu brawf o warcheidiaeth.

Os byddwch yn cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau drwy eich cyfrif ar-lein, bydd yn eich ffonio ac efallai y gofynnir i chi roi’r dogfennau ategol perthnasol i ni, fel uchod.

Gallwch naill ai roi’r dogfennau gofal ffurfiol ategol i’ch anogwr gwaith neu eu hanfon i’r cyfeiriad isod. Pan fyddwn wedi gweld y rhain, byddwn yn eu dychwelyd atoch.

I wneud cais am yr eithriad hwn, bydd angen i chi roi dogfennau ategol y trefniant hwn i ni er enghraifft gorchymyn trefniadau plentyn.

Gofalwyr sy’n ffrindiau neu’n deulu: gofal anffurfiol

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych am wneud cais am yr eithriad hwn naill ai dros y ffôn neu drwy ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn neu’n defnyddio eich cyfrif ar-lein, gofynnir i chi lawrlwytho’r IC1 ffurflen cymorth i blentyn sy’n byw gyda chi yn anffurfiol.

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, gallwch gasglu’r ffurflen gan eich anogwr gwaith, neu gall yr Adran Gwaith a Phensiynau bostio’r ffurflen atoch.

Byddwch angen cwblhau’r ffurflen ynghyd â’r gweithiwr cymdeithasol. Bydd angen i’r gweithiwr cymdeithasol gadarnhau ei bod yn debygol y byddai’r plentyn rydych yn gofalu amdano’n anffurfiol wedi cael ei roi yng ngofal yr awdurdod lleol fel arall.

Gallwch naill ai roi’r ffurflen i’ch anogwr gwaith neu ei hanfon i’r cyfeiriad isod.

Gofalwyr sy’n ffrindiau neu’n deulu: plentyn plentyn

I wneud cais am yr eithriad hwn, bydd angen i chi roi gwybodaeth am y trefniant hwn i ni er enghraifft tystysgrif geni.

Ble i anfon dogfennau eithriad

Canterbury Benefit Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2EA

Plant y mae’n debygol eu bod wedi cael eu beichiogi o ganlyniad i weithred rywiol nad oedd yn gydsyniol (yn cynnwys trais), neu ar adeg pan oedd yr hawliwr yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus gan riant biolegol arall y plentyn

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych am wneud cais am yr eithriad hwn naill ai dros y ffôn neu drwy ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn neu’n defnyddio eich cyfrif ar-lein, ac nid oes gennych unrhyw ddogfennau cefnogol, gofynnir i chi lawrlwytho’r ffurflen cymorth ar gyfer plentyn a feichiogwyd heb eich cydsyniad. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, gallwch gasglu’r ffurflen gan eich anogwr gwaith.

Bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen ynghyd â’ch gweithiwr trydydd parti proffesiynol.

Er mwyn gwneud cais am yr eithriad hwn ni ddylech fod yn byw gyda rhiant biolegol arall y plentyn mwyach.

Bydd angen i chi roi’r ffurflen i’ch anogwr gwaith. Peidiwch â phostio’r ffurflen i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Ni fydd staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich holi am y digwyddiad heblaw am dderbyn y cais a’r wybodaeth ategol.

Ble na allwch gael yr holl ddogfennau cefnogol, dylech gysylltu â’ch anogwr gwaith am gymorth.

Mwy o wybodaeth

Nid effeithir ar ginio ysgol am ddim a budd-daliadau pasport eraill ar gyfer plant.

Dylech barhau i roi gwybod am enedigaeth plentyn ac unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau sy’n cynnwys plant neu bobl ifanc, er mwyn sicrhau na fyddwch yn colli allan ar fudd-daliadau.

Ers 28 Tachwedd 2018, mae’r polisi ar gyfer pryd y byddwn yn talu am blant sy’n rhan o drefniadau gofalu heb fod yn rhiant a phlant a gaiff eu mabwysiadu wedi newid.

Os bydd yr amgylchiadau hyn yn berthnasol i’r plentyn cyntaf neu’r ail blentyn yn eich cartref, a bod gennych drydydd plentyn neu blentyn dilynol nad oeddech yn cael swm plentyn ar ei gyfer, dylech gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i roi gwybod iddi fod y newid wedi effeithio arnoch.

Dim ond i gartref sy’n gyfrifol am blentyn a aned cyn 6 Ebrill 2017 y bydd premiwm plentyn cyntaf Credyd Cynhwysol yn daladwy.

Rhagor o wybodaeth fanylach am y cymorth ar gyfer hyd at 2 blentyn.

Cyhoeddwyd ar 6 April 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 January 2021 + show all updates
  1. From 27 January 2021 you can claim claim Universal Credit if you’re getting Severe Disability Premium (SDP), or if you received SDP in the last month and are still eligible for it.

  2. Page updated and revised.

  3. Removed references to Universal Credit full service and live service.

  4. Updated guidance to reflect that new claims to Universal Credit can now be made by households with more than 2 children.

  5. Updated the guide to correct some drafting errors.

  6. Updated to reflect regulation change for adopted and kinship care children.

  7. Added an attachment 'Universal Credit: 2 child limit flowchart' to the section 'New claimants with 2 children or fewer'.

  8. Universal Credit live service telephone helpline opening hours changed to 9am to 4pm.

  9. Updated guide with new 0800 freephone numbers for Universal Credit.

  10. Amended the date claimants with 3 or more children are able to claim Universal Credit.

  11. Amended information for new claimants with 3 children or more.

  12. Clarified the information about when someone with 3 or more children can make a new Universal Credit claim (English).

  13. First published.