Canllawiau

Cofrestru’ch cleient am y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW

Dysgwch sut i gofrestru’ch cleient a beth i’w wneud ar ôl i chi gofrestru.

This guidance was withdrawn on

All VAT registered businesses should now be signed up for Making Tax Digital for VAT. You no longer need to sign up clients.

HMRC will sign up all remaining businesses to Making Tax Digital for VAT automatically unless they are exempt or have applied for exemption.

You should now submit client VAT Returns using compatible software.

You can:

Erbyn hyn, mae’n rhaid i bob busnes sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW ac sydd â throsiant trethadwy dros £85,000 ddilyn y rheolau ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol. Gwiriwch pryd y bydd yn rhaid i fusnes sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW ddilyn y rheolau.

Mae’r ffordd rydych yn cofrestru’ch busnes eich hun yn wahanol.

Cyn i chi ddechrau

Cyn i chi gofrestru’ch cleient, bydd angen y canlynol arnoch:

Os yw’ch cleient eisoes wedi’i awdurdodi ar eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEM ar gyfer asiantau, bydd angen i chi gopïo manylion eich cleient drosodd i’ch cyfrif gwasanaethau asiant cyn i chi ei gofrestru.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I gofrestru’ch cleient bydd angen eich cyfeiriad e-bost eich hun arnoch, ynghyd â’r canlynol gan eich cleient:

  • Tystysgrif TAW
  • math o endid busnes (does dim angen hwn ar gyfer cwmnïau tramor sydd heb sefydliad yn y DU)
  • eich manylion cyswllt
  • cyfeiriad e-bost y busnes

Bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnoch hefyd, yn dibynnu ar y math o fusnes yr ydych yn ei gofrestru. Ar gyfer:

  • unig fasnachwyr — eu rhif Yswiriant Gwladol
  • cwmnïau cyfyngedig neu gymdeithasau cofrestredig — rhif cofrestru eu cwmni a’u Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Treth Gorfforaeth
  • partneriaethau cyfyngedig — rhif cofrestru eu cwmni, yr UTR a’r cod post ble maent wedi’u cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • partneriaethau cyffredinol — yr UTR a’r cod post ble maent wedi’u cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Cofrestru busnes eich cleient

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn.

Cofrestru nawr

Ar ôl i chi gofrestru

Cewch e-bost cadarnhau gan noreply@tax.service.gov.uk o fewn 72 awr ar ôl i chi gofrestru. Os na fyddwch yn ei gael, gwiriwch eich ffolder sbam. Peidiwch â chyflwyno Ffurflen TAW hyd nes i chi gael e-bost cadarnhau.

Os ydych wedi cofrestru cleient newydd, bydd yn rhaid i chi ei awdurdodi cyn i chi allu defnyddio’ch cyfrif gwasanaethau asiant i gyflwyno Ffurflenni TAW.

Rheoli cyfrif eich cleient

Defnyddiwch y gwasanaeth rheoli manylion eich cleient i ddiweddaru ei fanylion busnes, argraffu ei dystysgrif TAW neu ganslo ei gofrestriad TAW.

Gall eich cleient ddefnyddio ei gyfrif TAW ar-lein o hyd, er mwyn bwrw golwg dros ddyddiadau cau, rheoli taliadau, argraffu tystysgrifau TAW, a bwrw golwg dros Ffurflenni TAW sydd wedi’u llenwi.

Anfon Ffurflen TAW

Anfonwch Ffurflenni TAW gan ddefnyddio meddalwedd. Ni fydd dyddiadau cau nac amlder Ffurflenni TAW a thaliadau’ch cleient yn newid.

Bydd eich meddalwedd yn cadarnhau bod CThEM wedi cael Ffurflen TAW. Ni fyddwch yn cael cadarnhad yn uniongyrchol gan CThEM.

Gall eich cleient fwrw golwg dros Ffurflenni TAW sydd wedi’u llenwi drwy fewngofnodi i’w gyfrif TAW ar-lein.

Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Os yw’ch cleient eisoes yn talu TAW drwy Ddebyd Uniongyrchol, nid oes angen i chi greu un newydd. Fel arall, gall eich cleient drefnu Debyd Uniongyrchol.

Bydd eich cleient yn cael e-bost a neges yn ei gyfrif TAW ar-lein o leiaf 3 diwrnod cyn i CThEM gymryd y taliad o’i gyfrif. Os yw’r cleient wedi gwneud unrhyw daliadau eraill i’w fil TAW, bydd ei Ddebyd Uniongyrchol yn cael ei ostwng.

Cyhoeddwyd ar 8 February 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 December 2022 + show all updates
  1. All VAT registered businesses should now be signed up for Making Tax Digital for VAT. HMRC will be signing up all remaining businesses automatically. You no longer need to sign up clients yourself.

  2. Information has been updated to reflect the fact that VAT registered businesses with taxable turnover below the registration threshold will also need to follow the Making Tax Digital rules from 1 April 2022.

  3. You can use the online service to sign your client up after they've opted out.

  4. The content for businesses signing themselves up has moved to a different page titled 'Sign your business up for Making Tax Digital for VAT'. The URL is www.gov.uk/guidance/sign-your-business-up-for-making-tax-digital-for-vat

  5. A new section about 'How to manage your client's details' has been added.

  6. The link to sign up your client's business has been updated.

  7. This guide has been amended to include information on what happens when you send in your VAT Return using software.

  8. You can print your VAT certificate out by signing in to your VAT online account. If you usually pay VAT by Direct Debit, you do not need to set up a new one. The information you need before you sign up has been updated.

  9. If you do not pay by Direct Debit, sign up at least 72 hours before your return is due. If you pay by Direct Debit, sign up at least 7 working days before or 5 working days after your return is due. Make sure your last Direct Debit has come out of your bank account before signing up.

  10. The information you'll need to sign up has been updated and is different depending on what type of customer you are.

  11. Businesses that currently pay VAT by Direct Debit cannot sign up in the 7 working days leading up to, or the 5 working days after their VAT Return is due.

  12. Businesses that pay VAT by Direct Debit cannot sign up in the 7 working days leading up to, or the 5 working days after sending a VAT Return.

  13. The link for agents to sign up clients for Making Tax Digital for VAT has been updated.

  14. First published.