Canllawiau

Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad os nad ydych yn hunangyflogedig

Defnyddiwch y ffurflen SA1 i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad am unrhyw reswm heblaw hunangyflogaeth.

Pwy sydd angen cofrestru

Mae sut y byddwch yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Defnyddiwch ffurflen SA1 os bydd angen i chi gofrestru, ond nad ydych yn hunangyflogedig.

Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn cael incwm o dir neu eiddo (yn agor tudalen Saesneg) yn y DU
  • mae gennych incwm tramor trethadwy (yn agor tudalen Saesneg)
  • mae gennych incwm net wedi’i addasu sydd dros £50,000 ac rydych chi, neu’ch partner, yn parhau i gael taliadau Budd-dal Plant
  • mae gennych incwm blynyddol sydd dros £150,000
  • rydych yn cael incwm blynyddol o ymddiriedolaeth neu setliad
  • rydych yn cael incwm sydd heb ei drethu na ellir ei gasglu drwy eich cod TWE
  • mae gennych Dreth Enillion Cyfalaf i’w thalu

Cyn i chi ddechrau

Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

Pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen, bydd angen i chi roi’r manylion canlynol i ni:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad post (gall hwn fod y tu allan i’r DU)
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif ffôn yn ystod y dydd
  • eich rhif Yswiriant Gwladol yn y DU — os oes un gennych

Bydd hefyd angen i chi egluro pam mae angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad, a’r dyddiad y dechreuodd hyn.

Llenwi’r ffurflen ar-lein, a’i hanfon

Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)
  • defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi

Dechrau nawr

Llenwi’r ffurflen, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post

  1. Llenwch y ffurflen SA1.

  2. Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post i CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Mae’n bosibl nad yw’r ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol — megis darllenydd sgrin. Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni Cyllid a Thollau EF (yn Saesneg).

Ar ôl i chi gofrestru

Fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 21 diwrnod i’r dyddiad y daw eich ffurflen i law, ond gall hyn gymryd yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.

Os gwnaethoch gofrestru ar-lein, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) yn gynt drwy ddefnyddio Ap CThEF neu’ch cyfrif treth personol.

Os na fyddwn wedi cysylltu â chi ar ôl 3 wythnos, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb.

Cyhoeddwyd ar 15 August 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2024 + show all updates
  1. The yearly income threshold for the tax year 2023 to 2024 has been updated.

  2. Information about what happens after you have registered has been added.

  3. Added translation