Sut mae DWP yn gwirio cymhwysedd budd-daliadau gan ddefnyddio'r Mesur Gwirio Cymhwysedd
Rhaid i fanciau a sefydliadau ariannol eraill rannu gwybodaeth gyfyngedig gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) pan fyddant yn derbyn Hysbysiad Gwirio Cymhwysedd. Mae hyn yn helpu i adnabod taliadau budd-daliadau anghywir, a gwirio hawl budd-daliadau.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Am y Mesur Gwirio Cymhwysedd
Mae’r Mesur Gwirio Cymhwysedd (EVM) yn ei gwneud yn ofynnol i fanciau a sefydliadau ariannol eraill ddarparu gwybodaeth pan ofynnir amdano gan DWP i adnabod taliadau budd-daliadau anghywir.
Gall y mesur fod yn berthnasol os ydych yn hawlio:
Bydd DWP yn rhannu gwybodaeth benodol gyda banciau a sefydliadau ariannol eraill, a elwir yn ‘ddangosyddion cymhwysedd’. Mae’r dangosyddion hyn yn seiliedig ar reolau cymhwysedd budd-daliadau ac yn helpu sefydliadau i adnabod cyfrifon y gallai fod angen eu gwirio gan DWP. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pobl yn derbyn y budd-daliadau mae ganddynt hawl iddynt.
Bydd sefydliadau ariannol yn gwirio’r wybodaeth sydd ganddynt ar gyfrifon sy’n derbyn taliadau budd-dal DWP penodol. Byddant yn dweud wrth DWP pan fydd cyfrif personol y telir budd-dal perthnasol iddo yn bodloni dangosydd cymhwysedd. Mae hyn yn cynnwys cyfrifon cysylltiedig. Gall y cyfrif fod yn perthyn i hawlydd neu i rhywun nad yw’n hawlydd.
Pa wybodaeth y gellir ei rannu
Pan fo dangosydd cymhwysedd yn cael ei fodloni, bydd sefydliadau ariannol ond yn rhannu gwybodaeth gyfyngedig gyda’r DWP i helpu i adnabod taliadau budd-daliadau anghywir, a gwirio hawl i fudd-daliadau.
Efallai y byddant yn rhannu:
- enwau pob deiliad cyfrif
- manylion unrhyw gyfrifon sydd gennych, gan gynnwys cyfrifon cysylltiedig a chyfrifon ar y cyd
- rhifau cyfrif
- codau didoli, os oes gan y cyfrifon y rhain
- gwybodaeth am faint o arian sydd yn y cyfrifon perthnasol
- dyddiad trafodion a ddigwyddodd mewn gwlad arall
Ni all DWP fewngofnodi i’ch bancio ar-lein na gweld eich cyfrif mewn amser real.
Rhowch wybod am newidiadau i’ch amgylchiadau
Rhaid i chi gadw’ch gwybodaeth yn gyfredol fel eich bod yn cael y swm cywir o fudd-dal. Gall unrhyw oedi olygu eich bod yn derbyn gormod o arian ac efallai y bydd yn rhaid i chi wneud ad-daliad.
Rhowch wybod am newid mewn amgylchiadau i’r DWP cyn gynted â phosibl os bydd eich amgylchiadau’n newid.
Gall newid amgylchiadau gynnwys:
- newidiadau i’ch arian, cynilion neu fuddsoddiadau
- newidiadau i’ch incwm
- symud i gyfeiriad newydd
- pobl sy’n symud i mewn neu allan o’r lle rydych chi yn byw (er enghraifft, eich partner, plentyn neu letywr)
- derbyn taliadau untro fel rhoddion, ad-daliadau neu iawndal
- gadael Cymru, Lloegr a’r Alban am unrhyw gyfnod (er enghraifft, mynd ar wyliau)
Os nad ydych yn siŵr a yw newid yn effeithio ar eich budd-dal, gwiriwch y:
- rheolau cymhwysedd ar gyfer Credyd Cynhwysol
- rheolau cymhwysedd ar gyfer Credyd Pensiwn
- rheolau cymhwysedd ar gyfer ESA Dull Newydd
Os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn, neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau, gallwch:
- fod angen ad-dalu unrhyw arian rydych wedi cael eich gordalu os gofynnir i chi
- cael eich erlyn
- fod angen talu dirwy
Os oes angen i DWP wirio eich cymhwysedd
Os yw’r wybodaeth a rennir gan eich banc yn awgrymu y gallech fod yn cael taliad budd-dal anghywir, bydd DWP yn adolygu’ch cais.
Efallai y bydd yr adolygiad yn darganfod:
- nad ydych yn gymwys i gael y budd-dal rydych yn ei hawlio
- mae’r swm rydych yn ei gael yn anghywir
Efallai y bydd DWP yn gofyn i chi ateb cwestiynau am eich cymhwysedd neu ofyn i chi ddarparu rhagor o wybodaeth i gefnogi eich cais am fudd-dal.
Bydd DWP yn cysylltu â chi trwy eich dyddlyfr ar-lein os oes gennych gyfrif ar-lein wedi’i sefydlu. Os nad oes gennych gyfrif ar-lein, efallai y bydd DWP yn cysylltu â chi dros y ffôn, trwy lythyr neu neges destun.
Dylech ymateb cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi bod eich taliadau budd-daliadau yn cael eu gohirio neu eu stopio.
Efallai y bydd DWP yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth, neu benderfynu a oes angen ymholiadau pellach. Bydd unrhyw benderfyniad am eich hawl neu daliadau budd-dal bob amser yn cael ei wneud gan staff DWP.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad am eich budd-daliadau, gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto. Gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’.
Beth na all sefydliadau ariannol ei rannu trwy EVM
Ni all banciau a sefydliadau ariannol eraill rannu:
- datganiadau neu drafodion llawn
- sut rydych yn gwario eich arian
- gwybodaeth bersonol sensitif am eich cefndir, fel barn wleidyddol neu gredoau crefyddol
- lleoliadau trafodiad penodol
Gall banciau a sefydliadau ariannol eraill gael dirwy os ydynt yn rhannu’r wybodaeth hon.
Sut mae DWP yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth
Mae cyfyngiadau llym ar ba ddata y gellir ei rannu a’i ddefnyddio, fel:
- bydd DWP ond yn defnyddio’r data i helpu i wirio hawl i fudd-daliadau, helpu i adnabod taliadau anghywir a chefnogi unrhyw ymholiadau i’r taliadau hynny, os oes angen
- ni all DWP ofyn am wybodaeth sy’n torri deddfau diogelu data
- lle mae gwybodaeth yn cael ei rannu gyda’r DWP nad yw’n uniongyrchol berthnasol i hawlydd budd-daliadau, bydd yn cael ei ddinistrio yn unol â Polisi Rheoli Gwybodaeth DWP
- ni fydd DWP yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda banciau neu sefydliadau ariannol eraill
Mae gennych yr hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth sydd gan DWP amdanoch chi, darganfyddwch sut i ofyn am eich gwybodaeth bersonol gan DWP.
Gwiriadau a goruchwyliaeth annibynnol
Mae’r gwiriadau, safonau a pholisïau canlynol mewn lle i’ch diogelu chi a’ch gwybodaeth:
Adolygydd annibynnol
Bydd adolygydd annibynnol yn gwirio bod DWP, banciau a sefydliadau ariannol eraill wedi dilyn y gyfraith, ymhlith pethau eraill. Bydd eu hadroddiadau’n cael eu cyflwyno i’r Senedd.
Siarter gwybodaeth bersonol DWP
Mae Siarter gwybodaeth bersonol DWP (or privacy policy) yn egluro:
- sut mae’n casglu ac yn defnyddio’ch gwybodaeth
- y safonau y gallwch eu disgwyl pan fydd yn gofyn am, neu’n cadw, eich gwybodaeth bersonol
- pa mor hir mae’r DWP yn cadw’ch gwybodaeth
- yr hawliau eraill sydd gennych o dan y gyfraith diogelu data
Cod Ymarfer ar Hysbysiadau Gwirio Cymhwysedd
Mae’r cod ymarfer yn nodi sut y gall y DWP ddefnyddio eu pwerau o dan Ddeddf Twyll, Gwallau ac Adfer) 2025 i wirio bod budd-daliadau’n cael eu talu’n gywir.
Mae’n esbonio:
- sut y bydd y mesur yn gweithio yn ymarferol
- pa fesurau diogelu sydd rhaid bod mewn lle
- sut y mae’n rhaid diogelu data personol
- beth fydd yr adolygydd annibynnol yn ei wneud
- sut i godi cwyn fel ‘gwrthrych data’
Cymorth
Dywedwch wrthym os ydych angen cymorth ychwanegol i reoli eich cais. Gallai hyn gynnwys os ydych yn profi cam-drin domestig neu mewn perygl o niwed.
Os ydych angen cymorth, cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal:
Credyd Cynhwysol
Gallwch gysylltu â Credyd Cynhwysol:
- trwy’ch cyfrif ar-lein
- drwy ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych chi ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Credyd Pensiwn
Gallwch gysylltu â’r llinell gymorth Credyd Pensiwn:
Llinell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn
Ffôn: 0800 731 0469
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0469
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych chi ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau
ESA Dull Newydd
Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith:
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0310
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych chi ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Llinell Gymreag: 0800 169 0207
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau