Gofyn am eich gwybodaeth bersonol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Darganfyddwch sut i ofyn am gopi o'r wybodaeth a gedwir amdanoch chi. Gelwir hyn yn 'hawl mynediad' a gellir ei alw’n gais mynediad pwnc (SAR) hefyd.
Trosolwg
Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am gopi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch chi. Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y gallwch ofyn amdano:
-
eich llythyr hawl neu lythyr prawf o fudd-dal (os o fewn y 5 blynedd diwethaf)
- y symiau (cyfraddau) o fudd-dal rydych chi’n eu cael a’r dyddiadau rydych chi’n cael eu talu
- eich nodyn ffitrwydd diweddaraf
- tystiolaeth a ddefnyddiwyd mewn anghydfod neu ymchwiliad
- asesiadau gallu i weithio ac iechyd
- gwybodaeth eich cyfrif Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
- unrhyw wybodaeth arall sydd gan DWP amdanoch chi
Mae yna wahanol ffyrdd o ofyn i ni am y wybodaeth rydych ei angen.
Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych chi eisiau gwybod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael, gallwch gwirio eich rhagolwg ar-lein.
Prawf o fudd-dal
Gallwch ddefnyddio llythyr prawf budd-dal i ddangos eich hanes gwaith, profi eich bod yn byw yn y DU neu fod gennych hawl i bethau fel:
- prydau ysgol am ddim
- cyllid ar gyfer profion llygaid, hyfforddiant a theithio
- budd-daliadau eraill
Gall hefyd helpu gydag unrhyw ymholiadau am Drwydded Deledu.
Sut i gael prawf o fudd-dal
Cysylltwch â’ch swyddfa budd-daliadau
I gael gwybodaeth am y rhan fwyaf o fudd-daliadau, bydd angen i chi gysylltu â’r swyddfa sy’n eich talu. Gallwch ddod o hyd i’w manylion ar lythyr maen nhw wedi’i anfon atoch, neu ewch i GOV.UK a chwiliwch am fanylion cyswllt y budd-dal rydych chi’n ei gael.
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein ar gyfer budd-daliadau penodol
Gallwch gael llythyr prawf o fudd-dal gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein os ydych chi ar hyn o bryd yn cael:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Pensiwn y Wladwriaeth
Credyd Cynhwysol
Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol a bod gennych gyfrif ar-lein, gallwch arbed copi o’ch datganiad Credyd Cynhwysol.
Gofyn am wybodaeth arall y mae DWP yn ei gadw amdanoch chi
Os ydych angen copi o unrhyw beth arall, gallwch ofyn am eich gwybodaeth bersonol ar-lein. Ni ddylid defnyddio’r ffurflen hon ar gyfer ceisiadau syml fel cyfraddau budd-daliadau a dyddiadau talu. I gael gwybodaeth am y pethau hyn, darganfyddwch sut i gael prawf o fudd-dal.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i ofyn am fynediad at luniau Teledu Cylch Cyfyng neu Gamera Wedi’i Wisgo ar y Corff ohonoch chi mewn swyddfa DWP. I’n helpu i ddod o hyd i’r ffilm, dylech ddweud wrthym:
- pa adeilad neu leoliad y digwyddodd y recordiad
- dyddiad ac amser bras y recordiad
- disgrifiad byr o’r digwyddiad
- disgrifiad ohonoch hun, gan gynnwys beth oeddech yn ei wisgo neu’n ei wneud ar y pryd
Darllenwch am sut mae’r DWP yn defnyddio CCTV a chamera a wisgir ar y corff
Gallwch hefyd ysgrifennu at DWP. Cynnwys disgrifiad o’r wybodaeth rydych chi ei eisiau a’r cyfnod amser y mae angen i’r wybodaeth ei gynnwys a’ch:
- enw llawn
- cyfeiriad a chod post
- dyddiad geni
- rhif Yswiriant Gwladol
- rhif ffôn os ydych chi’n gofyn am recordiadau galwadau ffôn
Anfonwch eich cais ysgrifenedig i:
Right of Access Requests
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2EF
Gofyn am wybodaeth ar ran rhywun arall
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer cyfreithwyr neu drydydd partïon eraill.
Dylech ysgrifennu at DWP gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar gyfer trydydd partïon (ODT, 25.8 KB).
Bydd angen i ni gael caniatâd y person arall (y ‘pwnc’) cyn gallwn ddechrau eich cais. Mae’r canllawiau yn y ffurflen yn esbonio sut rydym ni’n gwneud hyn.
Pryd i ddisgwyl ymateb
Byddwn yn anfon y wybodaeth atoch o fewn un mis calendr o’r adeg y byddwn yn derbyn eich cais. Os oes angen mwy o wybodaeth arnom byddwn yn cysylltu â chi.
Sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth
Mae siarter gwybodaeth bersonol DWP yn cynnwys y safonau y gallwch eu disgwyl pan ofynnwn am, neu rydym yn cadw, eich gwybodaeth bersonol. Mae hefyd yn esbonio’r hawliau eraill sydd gennych o dan y gyfraith diogelu data.
Updates to this page
-
Added link to DWP CCTV and body worn camera privacy notice.
-
Added a link to the new proof of benefit service and removed information on the old process.
-
The guidance has been updated because the way to request access to CCTV footage has changed.
-
If you’re claiming Universal Credit and have an online account, you can save a copy of your Universal Credit statement.
-
Added translation
-
Re added link to 'request your personal information online'.
-
Removed the link to the online request for personal information service as there is currently a problem with the service.
-
Minor Welsh change to match English change
-
Added a message that there was a problem with the online request for personal information service from 2.45pm until 6.15pm on Wednesday 7 June 2023. We may not have received your request if you requested personal information during this time. If you have not received your personal information, please submit a new request.
-
Added a link to the Get a proof of benefit service.
-
Added information about how to request footage from CCTV cameras at DWP offices.
-
Added note advising people to resend any requests made between 18 October 2018 and 1 November 2018.
-
Updated the personal information request form for third parties (ODT file).
-
Updated the section about how to get proof of a benefit claim, including examples of what this information can be used for and that this can be requested from a benefit office.
-
Added simplified third party request form.
-
Updated the third party request form to reflect the new legal terms under GDPR.
-
First published.