Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd Teledu Cylch Cyfyng DWP a chamera a wisgir ar y corff

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae DWP yn defnyddio Teledu Cylch Cyfyng a chamerâu a wisgir ar y corff a sut y gallwch ofyn am ffilmiau ohonoch chi'ch hun.

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn defnyddio Teledu Cylch Cyfyng a chamerâu a wisgir ar y corff (BWCs) ar gyfer diogelwch staff, ymwelwyr, contractwyr, gwybodaeth ac offer.

Defnyddir camerâu mewnol i ddarparu diogelwch mewn adeiladau DWP.

Defnyddir camerâu allanol i wella diogelwch adeiladau, staff a’r cyhoedd 24 awr y dydd.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio ffilmiau i helpu i atal a chanfod troseddau.

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu

Efallai y byddwn yn casglu:

  • delweddau o unigolion a gweithgareddau
  • recordiadau sain (gan ddefnyddio BWCs)
  • lleoliad ac amser y recordiadau

Gall hyn gynnwys data personol ac, mewn rhai achosion, gwybodaeth sensitif yn dibynnu ar gyd-destun y recordiad.

Am faint o amser rydym yn cadw ffilmiau

Mae’r rhan fwyaf o ffilmiau Teledu Cylch Cyfyng yn cael eu dileu 30 diwrnod ar ôl iddo gael ei recordio.

Gallwn ond cadw ffilmiau am fwy na 30 diwrnod am resymau penodol, er enghraifft:

  • i helpu DWP neu’r heddlu yn ystod ymchwiliad
  • pan fydd rhywun wedi gofyn i ni gyfyngu ar brosesu eu data
  • helpu gydag achos cyfreithiol
  • helpu mewn mater o ddiddordeb y cyhoedd

Pan na fydd angen y wybodaeth mwyach, caiff ei ddileu’n ddiogel.

Sut mae ffilmiau yn cael eu storio a’u cyrchu

Mae ffilmiau yn cael eu storio’n ddiogel ac wedi’u diogelu rhag mynediad, newid neu ddatgelu heb awdurdod.

Dim ond aelodau awdurdodedig o staff sy’n gallu cael mynediad at ffilmiau.

Mewn rhai amgylchiadau, gall DWP rannu ffilmiau gyda’r heddlu neu sefydliadau eraill lle mae ei angen, yn gyfreithlon ac er budd y cyhoedd i wneud hynny.

Sut i ofyn am ffilmiau ohonoch chi’ch hun

Mae gennych yr hawl i:

  • ofyn am ffilmiau ohonoch chi’ch hun wedi’u tynnu gan Deledu Cylch Cyfyng neu BWCs
  • gofyn am gywiro neu ddileu data anghywir
  • gwrthwynebu prosesu mewn amgylchiadau penodol

Darganfyddwch sut i ofyn am eich gwybodaeth bersonol gan DWP.

Mae mwy o wybodaeth am eich hawliau yn siarter gwybodaeth bersonol DWP.

Neu gallwch ysgrifennu i:

Right of Access Requests
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2EF

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data

Mae prosesu data personol gan ddefnyddio Teledu Cylch Cyfyng a BWCs yn cael ei wneud o dan Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, Erthygl 6-1(e) (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.

Mae hyn yn nodi bod y prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer swyddogaethau swyddogol, ac mae’r dasg neu’r swyddogaeth yn gyfreithlon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Hydref 2025 show all updates
  1. Page updated to reflect the way a request to access CCTV footage has changed.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon