Credyd Cynhwysol i bobl sy’n gadael carchar
Diweddarwyd 12 Ionawr 2026
1. Ar gyfer pwy mae’r canllaw hwn
Mae’r canllaw hwn ar gyfer pobl sydd eisiau gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac:
- sy’n paratoi i adael y carchar
- sydd wedi gadael y carchar yn ddiweddar
2. Am Gredyd Cynhwysol
Ni allwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol nes i chi gael eich rhyddhau o’r carchar. Fodd bynnag, gallwch gymryd camau i baratoi i wneud y cais hwn.
Gallwch ddarganfod mwy am beth yw Credyd Cynhwysol ynghyd â chanllawiau ar:
- pa fudd-daliadau mae’n eu disodli
- a allwch chi wneud cais amdano
- beth sy’n rhaid i chi ei wneud tra rydych yn ei hawlio
Nid yw Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth i dalu Treth Gyngor. Os oes gennych eich tenantiaeth eich hun bydd angen i chi wneud cais am hyn ar wahân drwy eich cyngor lleol. Efallai bydd eich anogwr gwaith yn gallu eich helpu gyda hyn.
3. Help tra yn y carchar
Yn y carchar, efallai y bydd gennych fynediad at:
- dîm cyn rhyddhau
- anogwr gwaith carchar
Os oes gennych, gallant eich helpu i baratoi eich cais am Gredyd Cynhwysol.
Os nad oes gennych fynediad at dîm cyn rhyddhau neu anogwr gwaith carchar, dylech fynd i’r canllawiau ar wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol.
3.1 Anogwr gwaith carchar
Os oes gennych anogwr gwaith carchar, gallwch drefnu cwrdd â nhw ar unrhyw adeg yn ystod eich dedfryd.
Os ydych yn sengl ac yn gyfrifol am gostau tai, ac yn disgwyl bod yn y carchar am 6 mis neu lai, siaradwch â’r anogwr gwaith carchar. Os oeddech chi’n derbyn Credyd Cynhwysol cyn i’ch dedfryd ddechrau, efallai y byddwch yn gallu parhau i dderbyn cymorth ar gyfer eich costau tai.
Dylech gael eich gwahodd i’w gweld tua 12 wythnos cyn i chi gael eich rhyddhau i drafod cyflogaeth, tai, hyfforddiant, budd-daliadau a mwy.
Gall anogwr gwaith carchar hefyd eich helpu i baratoi eich cais am fudd-dal cyn rhyddhau trwy:
- wirio pa fudd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt
- gwirio bod gennych y dogfennau adnabod angenrheidiol i agor cyfrif banc a thystiolaeth i gefnogi eich cais
- trefnu apwyntiad cychwynnol yn y ganolfan gwaith agosaf i ble byddwch chi’n byw ar ôl i chi gael eich rhyddhau
- rhoi gwybod i chi beth i’w ddisgwyl yn yr apwyntiad canolfan gwaith
Yr wythnos cyn rhyddhau, bydd yr anogwr gwaith carchar yn eich helpu i baratoi eich cais a byddant yn trefnu eich apwyntiad yn y ganolfan gwaith.
3.2 Tîm cyn rhyddhau
Os oes gennych dîm cyn rhyddhau, gallwch gwrdd â nhw i drafod tai, cyllid, budd-daliadau ac addysg.
Dylech fynychu unrhyw apwyntiadau gyda’r tîm cyn rhyddhau. Byddwch yn agored am unrhyw bryderon sydd gennych am gael eich rhyddhau.
Gallwch gael mwy nag un apwyntiad gyda’r tîm cyn rhyddhau os oes angen.
Os ydych am wneud cais am Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn cael eich rhyddhau, byddwch angen dogfennau adnabod a chyfrif banc. Gall y tîm cyn rhyddhau helpu gyda hyn.
4. Gwneud eich cais am Gredyd Cynhwysol ar ôl gadael y carchar
Ar ôl i chi adael y carchar, dylech wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol cyn gynted â phosibl.
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, bydd gan eich canolfan gwaith gyfrifiaduron y gallwch eu defnyddio. Gall staff y ganolfan gwaith eich helpu i wneud eich cais.
Os na allwch gyrraedd y ganolfan gwaith, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Gadael Carchar ar 0800 169 0345 i wneud eich cais dros y ffôn. Mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4:30pm ac mae’n rhad ac am ddim o ffôn symudol neu linell daear.
Dim ond os ydych wedi gadael y carchar yn ddiweddar y gallwch ddefnyddio’r Llinell Gymorth Gadael Carchar. Ni all ateb cwestiynau eraill am Gredyd Cynhwysol.
Ni allwch wneud cais tra byddwch yn dal yn y carchar.
5. Yn y ganolfan gwaith
Bydd yr hyn y byddwch yn ei wneud yn y ganolfan gwaith yn dibynnu ar a wnaethoch chi gyfarfod â thîm cyn rhyddhau neu anogwr gwaith carchar cyn eich rhyddhau o’r carchar.
Os oes gennych eich papurau rhyddhau, dewch â nhw gyda chi.
Efallai y gofynnir i chi ddod â dogfennau adnabod i’r ganolfan gwaith i brofi eich hunaniaeth.
Os derbynnir eich cais, bydd angen i chi lofnodi ymrwymiad hawlydd. Dyma gofnod o’r hyn rydych yn cytuno i’w wneud i:
- baratoi ar gyfer gwaith a chwilio am waith
- cynyddu eich enillion, os ydych eisoes yn gweithio
5.1 Ni wnaethoch gyfarfod â thîm cyn rhyddhau neu anogwr gwaith carchar
Byddwch yn dilyn y llwybr arferol ar gyfer gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Ar ôl i chi wneud eich cais, cewch apwyntiad yn y ganolfan gwaith y mae’n rhaid i chi fynychu.
5.2 Rydych chi wedi cwrdd â thîm cyn rhyddhau neu anogwr gwaith carchar
Os gwnaethoch weithio gyda thîm cyn rhyddhau neu anogwr gwaith carchar i baratoi’ch cais am Gredyd Cynhwysol, dilynwch y cyfarwyddiadau a roddwyd i chi.
Bydd angen i chi ddal gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Os ydynt wedi trefnu eich apwyntiad canolfan gwaith cyntaf i chi, rhaid i chi wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol cyn yr apwyntiad hwnnw. Gallwch wneud hyn:
- ar-lein eich hun gartref
- defnyddio ffôn clyfar
- defnyddio’r cyfrifiaduron yn y ganolfan gwaith
Dewch ag unrhyw ddogfennau neu wybodaeth gyda chi i’r ganolfan gwaith y dywedodd y tîm cyn rhyddhau neu’r anogwr gwaith carchar wrthych.
6. Byddwch yn agored am eich sefyllfa
Rydym yn deall y gall fod yn anodd i chi siarad â ni am faterion neu heriau rydych chi’n eu profi, ond mae eich anogwr gwaith yno i’ch helpu chi.
6.1 Siaradwch â’ch anogwr gwaith
Dywedwch wrth eich anogwr gwaith carchar cyn eich rhyddhau, a’ch anogwr gwaith canolfan gwaith ar ôl eich rhyddhau, am unrhyw broblemau sydd gennych, gan gynnwys:
- digartrefedd
- dibyniaeth
- problemau iechyd meddwl
- gofal plant
Po gynharaf y mae’r anogwr gwaith yn gwybod, y cynharaf y gallant ddechrau rhoi’r gefnogaeth rydych ei angen.
7. Help allwch chi ei gael
Gall eich anogwr gwaith yn y ganolfan gwaith esbonio’r gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael neu gallwch gysylltu â Chredyd Cynhwysol.
7.1 Taliad cynnar o’ch Credyd Cynhwysol
Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol neu daliad caledi os:
- na allwch aros am eich taliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol
- rydych yn cael treuliau annisgwyl yn ddiweddarach yn eich cais
Byddwch yn ad-dalu’r swm hwn yn raddol o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.
7.2 Newid pryd neu sut rydych yn derbyn eich Credyd Cynhwysol
Os ydych yn poeni am gael eich Credyd Cynhwysol mewn un taliad bob mis, gallwch ofyn am newid sut rydych yn cael eich talu.
Bydd cyfanswm y swm a dderbyniwch bob mis yr un fath.
Os ydych yn derbyn help gyda’ch rhent, gallwch gael hyn wedi’i dalu’n uniongyrchol i’ch landlord fel nad oes rhaid i chi boeni amdano.
Gelwir y rhain yn ‘drefniadau talu amgen’.
7.3 Help gyda’ch costau tai
Gall Credyd Cynhwysol helpu gyda’ch costau tai.
Gallwch wneud cais am hyn naill ai:
- fel rhan o’ch cais am Gredyd Cynhwysol
- ar ôl i chi ddechrau derbyn Credyd Cynhwysol
Bydd eich sefyllfa yn effeithio ar faint y byddwch chi’n ei gael am rentu gan landlord preifat .
Mae yna reolau gwahanol ar gyfer os ydych yn byw mewn cartref rydych yn berchen arno neu mewn tai cymdeithasol.
7.4 Newidiadau i’ch ymrwymiad hawlydd
Gellir teilwra eich ymrwymiad hawlydd i ystyried eich amgylchiadau a dylid ei adolygu’n rheolaidd.
Gall eich anogwr gwaith yn y ganolfan gwaith benderfynu a ddylid newid neu leihau eich ymrwymiad hawlydd dros dro. Gelwir hyn yn ‘hawddfraint’.
Byddant yn penderfynu os oes angen hyn yn seiliedig ar eich amgylchiadau, er enghraifft, os ydych:
- yn ddigartref
- yn cael triniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
- yn ffoi rhag cam-drin domestig
- o dan amodau trwydded penodol
Siaradwch â’ch anogwr gwaith canolfan gwaith os ydych yn cael trafferth gyda’r gweithgareddau yn eich ymrwymiad hawlydd, neu os yw’ch sefyllfa yn newid.
8. Sut i reoli eich cais
Ar ôl i chi wneud eich cais, fel arfer bydd angen i chi wirio’ch cyfrif ar-lein i weld a yw eich anogwr gwaith canolfan gwaith wedi gosod camau gweithredu i’w cwblhau. Gelwir y camau hyn yn ‘pethau i’w gwneud’.
Rhaid i chi roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.
Gallwch ddefnyddio ffôn clyfar neu gyfrifiadur i wirio eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Gall anogwyr gwaith y ganolfan gwaith eich helpu i wneud hyn.
Os na allwch fynd ar-lein, mae yna ffyrdd eraill i gysylltu â Chredyd Cynhwysol.