Skip to main content
Canllawiau

Dogfennau i ddilysu eich hunaniaeth ar gyfer Credyd Cynhwysol

Beth rydych ei angen i ddilysu eich hunaniaeth mewn canolfan gwaith neu yn ystod ymweliad cartref.

Os na allwch ddilysu eich hunaniaeth ar-lein pan fyddwch yn gwneud eich cais, efallai y byddwn yn gofyn i chi ddilysu eich hunaniaeth wyneb yn wyneb. Gallai hyn fod mewn canolfan gwaith neu yn eich cartref.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Er mwyn dilysu eich hunaniaeth wyneb yn wyneb, bydd angen i chi ddangos pob un o’r canlynol:

Rhaid i bob dogfen fod yn wreiddiol.

Efallai y gofynnir cwestiynau i chi i ddilysu eich hunaniaeth os nad yw’ch dogfennau’n cael eu derbyn.

Dogfennau ID gyda llun

Byddwch angen 1 dogfen gyda llun. Mae hyn yn ychwanegol i 2 ddogfen ID atodol.

Gall hyn gynnwys unrhyw un o’r canlynol:

  • pasbort y DU
  • pasbort neu ddogfen deithio arall wedi’i hardystio i ddangos eich bod wedi eich eithrio o reolaeth fewnfudo, yn cael aros yn y DU am gyfnod amhenodol, gyda’r hawl i breswylio yn y DU, neu nad oes gennych unrhyw derfyn amser ar eich arhosiad yn y DU
  • trwydded yrru cerdyn llun y DU llawn neu dros dro
  • cerdyn adnabod gyda logo achredu’r Cynllun Safonau Prawf o Oedran (PASS), a gyhoeddwyd yn y DU neu Ynysoedd y Sianel
  • cerdyn hunaniaeth gan wlad yn yr EU neu’r European Economic Area (EEA) country
  • eVisa (cofnod ar-lein o statws mewnfudo)
  • trwydded yrru cerdyn llun y tu allan i’r DU gyda thrwydded yrru ryngwladol. Rhaid i hwn fod yn ddilys hyd at 12 mis ar ôl y dyddiad mynediad i’r DU
  • tystysgrif cofrestru neu naturoli fel dinesydd Prydeinig, sy’n dangos eich bod yn cael gweithio yn y DU
  • dogfen statws mewnfudo sy’n nodi nad oes unrhyw gyfyngiad amser ar eich arhosiad yn y DU, neu fod gennych ganiatâd amhenodol i aros yn y DU
  • trwydded breswylio, tystysgrif gofrestru neu ddogfen sy’n dangos preswyliad parhaol. Wedi’i gyhoeddi gan Fisâu a Mewnfudo y DU i ddinesydd o’r EU, AEE neu’r Swistir
  • cerdyn preswylio parhaol a gyhoeddwyd gan Fisâu a Mewnfudo y DU i aelod o deulu dinesydd o’r AEE neu’r Swistir
  • cerdyn hunaniaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) gyda sglodyn biometrig
  • cerdyn hunaniaeth Lluoedd Arfog EF
  • cerdyn cyn-filwr Lluoedd Arfog EF
  • cerdyn gwarant yr heddlu
  • cerdyn cofrestru cais lloches (a elwir yn ‘ARC’) a llythyr penderfyniad y Swyddfa Gartref. Rhaid cyflwyno’r rhain gyda’i gilydd. Dim ond os ydych yn ffoadur ac nad yw eich cyfrif UKVI wedi’i greu gan y Swyddfa Gartref i gael mynediad at eich eVisa y gellir defnyddio hyn

Dogfennau ID atodol

I ddilysu eich hunaniaeth byddwch hefyd angen 2 ddogfen ID atodol.

Os oes gennych ddogfen ID gyda llun, gallwch ddefnyddio hwnnw yn lle un o’r dogfennau atodol hyn.

Gall dogfennau ID atodol gynnwys unrhyw un o’r canlynol:

  • tystysgrif geni neu fabwysiadu (gwreiddiol neu gopi ardystiedig gan y cofrestrydd)
  • tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
  • slip cyflog neu bensiwn. Rhaid iddo gynnwys enw’r talai a’r rhif Yswiriant Gwladol a wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • cerdyn debyd, credyd neu siop cyfredol ynghyd â datganiad cyfrif sy’n cadarnhau’r manylion ar y cerdyn
  • gweithred newid enw cofrestredig
  • dogfennau ysgariad neu ddiddymu: gorchymyn amodol, archddyfarniad nisi, archddyfarniad absoliwt neu orchymyn terfynol
  • trwydded yrru’r DU, ffurf hen bapur llawn
  • yswiriant bywyd neu bolisi yswiriant bywyd
  • cerdyn rhent awdurdod lleol
  • datganiad statudol newid enw
  • tocyn bws person hŷn (OAP)
  • P45 neu P60
  • llyfr siec personol
  • Pŵer Atwrnai (POA), wedi’i gofrestru gan y llys, wedi’i ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf, yn dangos eich cyfeiriad presennol
  • dogfennau benthyciadau myfyrwyr
  • dogfennau cofrestru cerbyd
  • llythyr cyfrifydd ar bapur pennawd
  • cytundeb prentisiaeth
  • polisïau yswiriant adeiladau a chynnwys
  • llyfr talu i mewn cymdeithas adeiladu
  • cerdyn tâl, cyfredol gyda datganiad o gyfrif
  • llythyr sefydliad addysgol ar bapur pennawd
  • cadarnhad cofrestr etholiadol eich bod yn byw yn y cyfeiriad
  • llythyr cyflogwr ar bapur pennawd
  • tystysgrif gynnau
  • grant o brofiant (penodwyd gan y llys), wedi’i ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf, yn yn dangos eich cyfeiriad presennol)
  • tystysgrif Lluoedd Arfog EF neu gontract cyflogaeth
  • hysbysiad treth diweddaraf CThEF, er enghraifft, asesiad treth, datganiad o gyfrif, neu hysbysiad o godio
  • tystysgrif y llynges fasnachol neu gontract cyflogaeth
  • gweithredoedd morgais
  • polisi yswiriant morgais
  • datganiad morgais gan fenthyciwr cydnabyddedig
  • cerdyn meddygol y GIG
  • cerdyn ID etholiadol Gogledd Iwerddon
  • cerdyn rhent Awdurdod Gweithredol Tai Gogledd Iwerddon
  • dogfennau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon
  • datganiad cyfrif benthyciad personol
  • llyfr cyfrifon cynilo
  • cerdyn ID myfyriwr
  • polisi yswiriant cerbyd
  • datganiad Treth Gyngor awdurdod lleol, cyfredol
  • datganiad cyfrif contract ffôn symudol neu fil, wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • biliau cyfleustodau fel nwy, dŵr, trydan, llinell daear ffôn neu fand eang, wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • tystysgrif neu lythyr cyflenwr cyfleustodau yn dangos eich bod yn defnyddio trefniant i rhagdalu yn eich cyfeiriad, wedi’i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf

Hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Os ydych chi’n hawlio JSA neu ESA, darganfyddwch Beth i ddod i’ch cyfweliad Canolfan Byd Gwaith.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Mehefin 2026

Argraffu'r dudalen hon