Byw mewn eiddo rydych yn berchen arno

Gallech gael taliad Credyd Cynhwysol i’ch helpu i dalu am daliadau gwasanaeth os yw’r canlynol yn berthnasol:

Mae taliadau gwasanaeth yn cynnwys:

  • defnyddio cyfleusterau a rennir, fel casglu sbwriel neu lifftiau cymunedol
  • glanhau ffenestri’r lloriau uchaf
  • atgyweiriadau a cynnal a chadw

Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)

Efallai y byddwch yn gallu cael Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI) os ydych wedi bod ar Gredyd Cynhwysol am 3 mis yn olynol.

Benthyciad yw SMI a all helpu tuag at daliadau llog ar:

  • eich morgais
  • benthyciadau rydych wedi’u cymryd ar gyfer rhai atgyweiriadau a gwelliannau i’ch cartref

Os ydych yn gymwys i gael benthyciad SMI, gallwch gael help i dalu’r llog ar hyd at £200,000 o’ch benthyciad neu’ch morgais.

Mae’r swm a gewch yn seiliedig ar gyfradd llog sefydlog ar yr hyn sydd ar ôl o’ch morgais. Fe’i telir yn syth i’ch benthyciwr.

Bydd angen i chi ad-dalu’ch benthyciad SMI â llog pan fyddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth eich cartref (oni bai eich bod yn symud y benthyciad i eiddo arall)

Help gyda chostau gwasanaeth

Efallai y gallwch gael help i dalu am eich tâl gwasanaeth os ydych yn berchen ar eiddo lesddaliad ac wedi bod ar Gredyd Cynhwysol am 9 mis.

Ni allwch gael help gyda thaliadau gwasanaeth os ydych yn cael incwm gan:

  • eich swydd os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig
  • ad-daliad treth
  • Tâl Salwch Statudol
  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • Tâl Rhiant a Rennir Statudol