Sut i wneud cais

Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, gwnewch gais am gymorth gyda chostau tai yn eich cyfrif ar-lein.

Os ydych yn newydd i Gredyd Cynhwysol, gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol.

Gallwch gael help i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch a gallu gwirio’ch hunaniaeth ar-lein.

Os nad oes gennych gyfeiriad parhaol

Gallwch ddefnyddio cyfeiriad:

  • hostel lle rydych yn aros
  • aelod o’r teulu neu ffrind

Gallwch ddefnyddio cyfeiriad y Ganolfan Gwaith lleol os nad oes gennych unrhyw gyfeiriad arall y gallwch ei ddefnyddio.

Os nad oes gennych gyfrif banc

Os na allwch agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol neu ewch i Ganolfan Byd Gwaith i ofyn am ffyrdd eraill i gael eich talu.

Ar ôl i chi wneud cais

Os ydych yn rhentu

Anfonir ffurflen dilysu costau tai (HCV) at eich landlord. Unwaith y byddant wedi ei gwblhau a’i anfon yn ôl, bydd yn cael ei wirio yn erbyn eich cais a’i lanlwytho i’ch cyfrif ar-lein.

Mynychu cyfweliad

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd rhaid i chi fynd i gyfweliad yn eich Canolfan Byd Gwaith leol. Fel arfer bydd hyn o fewn 7 diwrnod.

Fe ddywedir wrthych a oes angen i chi wneud apwyntiad a pha ddogfennau i fynd â hwy. Efallai y gofynnir i chi ddod â thystiolaeth, er enghraifft:

  • cytundeb tenantiaeth cyfredol, datganiad rhent neu lyfr rhent
  • llythyr wedi’i lofnodi gan eich landlord (sy’n dweud eich bod yn byw yno, yn talu rhent ac yn byw yno yn gyfreithlon)
  • manylion am daliadau gwasanaeth rydych yn gyfrifol amdanynt
  • cytundeb morgais cyfredol, datganiad morgais neu ddatganiad banc sy’n dangos taliadau morgais
  • manylion unrhyw gytundebau benthyciad a sicrhawyd ar eich eiddo

Byddwch yn cael eich penodi i anogwr gwaith yn y cyfweliad. Dywedwch wrth eich anogwr gwaith am unrhyw faterion sy’n effeithio arnoch, er enghraifft os ydych yn ddigartref, neu os oes gennych ddibyniaeth neu broblem iechyd meddwl. Efallai y cewch help a chymorth ychwanegol.

Os ydych wedi symud o Fudd-dal Tai

Bydd eich Budd-dal Tai yn parhau am 2 wythnos ar ôl i’ch cais am Gredyd Cynhwysol gael ei gymeradwyo. Bydd yn cael ei dalu yn syth i chi. Bydd angen i chi dalu rhent i’ch landlord.

Pan gymeradwyir eich cais Credyd Cynhwysol, gofynnir i chi a ydych am i’r arian ar gyfer chostau tai cael ei dalu’n syth i’ch landlord – er enghraifft os ydych mewn ôl-ddyledion. Bydd eich landlord yn cael ei hysbysu os dewiswch hyn.

Nid oes angen i chi ddweud wrth eich awdurdod lleol eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol.

Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw os ydych angen talu eich costau tra byddwch yn aros.

Ar ôl i chi wneud cais

Fe gewch amcangyfrif o’ch dyddiad talu yn eich cyfrif ar-lein o fewn 3 wythnos o wneud cais.

Gallwch ofyn cwestiynau am eich cais yn eich dyddlyfr ar-lein.