Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 17: tir cofrodd

Diweddarwyd 24 June 2015

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Yn ystod y 1970au a’r 1980au, sefydlwyd cynlluniau i werthu lleiniau bach iawn o dir gyda gwerth personol neu goffaol yn unig. Hyrwyddwyd y cynlluniau hyn yn aml at ddibenion cadwraeth. ‘Tir Cofrodd’ oedd yr enw ar holl dir o’r fath.

2. Deddfwriaeth

Pan ymddangosodd cynlluniau tir cofrodd gyntaf gallai bychander y lleiniau a nifer y teitlau mewn ardal fach iawn fod wedi peri cryn broblemau i Gofrestrfa Tir EF. O dan Reolau 1972, cafodd y Prif Gofrestrydd Tir y pŵer i ddatgan bod ardal yn destun cynllun tir cofrodd (‘cynllun’). Prif effaith y datganiad hwn oedd nad oedd prynwyr lleiniau unigol yn gorfod cofrestru eu trafodion yng Nghofrestrfa Tir EF. Gellid gwneud y datganiad ar gyfer tir cofrestredig a digofrestredig fel ei gilydd.

Newidiodd hyn o ganlyniad i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Cafodd cynlluniau datgan tir cofrodd eu dileu ac, erbyn hyn, rhaid cofrestru unrhyw drafodiad gyda thir oedd gynt yn rhan o’r cynllun, neu unrhyw ran ohono.

Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 hefyd wedi newid sut y gall perchennog cofrestredig cynllun cofrestredig ddelio â’i deitl. Gallwch adnabod teitl oedd cyn hynny’n gynllun trwy’r cyfyngiad canlynol yn y gofrestr:

“Nid oes gwarediad i’w gofrestru heb ganiatâd rhywun neu rywrai (os oes) a chanddo hawl i wneud cais i gael ei gofrestru fel perchennog y tir i’w waredu, neu unrhyw ran ohono, o ganlyniad i unrhyw drafodiad digofrestredig yr effeithir arno ers [dyddiad y datganiad a wnaed o dan reol 3 Rheolau 1972 fel y nodwyd yn y gofrestr].”

3. Ceisiadau

Gydag unrhyw bryniant tir yn y dyfodol, oedd gynt yn rhan o gynllun, rhaid i chi gofrestru’r trafodiad yng Nghofrestrfa Tir EF. Bydd y math o gais yn dibynnu ar a yw’r cynllun yn gofrestredig ac a yw’r trafodiad yn berthnasol i ran o gynllun neu’r cyfan. I ddarganfod a yw cynllun wedi ei gofrestru, rhaid i chi wneud cais am chwiliad swyddogol o’r Map Mynegai – gweler cyfarwyddyd ymarfer 10: map mynegai - chwiliadau swyddogol .

Os nad oes angen darpariaethau indemniad arnoch o ran chwiliad o’r map mynegai, gallech ystyried defnyddio MapSearch. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn ddi-dâl i gwsmeriaid e-wasanaethau Busnes sydd â mynediad i’r porthol ac mae’n darparu canlyniadau chwilio ar unwaith.

Mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Byddwn yn dychwelyd y gwreiddiol ar ôl inni gwblhau’r cais. Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

3.1 Prynu llain unigol

3.1.1 Lle cofrestrwyd y cynllun

  • rhaid i chi ddefnyddio ffurflen AP1
  • rhaid i chi gynnwys holl weithredoedd a dogfennau teitl, yn dechrau gyda’r gwerthiant cyntaf a greodd y llain
  • cyn i ni gwblhau cais i gofrestru llain byddwn yn rhybuddio perchennog cofrestredig y cynllun yn ei hysbysu o’r cais
  • wedi i ni gofrestru’r llain gyda’i rif teitl ei hun, rhaid i brynwyr dilynol y llain honno wneud cais i gofrestru yn y ffordd arferol, gan ddefnyddio ffurflen AP1

3.1.2 Lle na chofrestrwyd y cynllun

  • rhaid i chi wneud unrhyw gais am gofrestriad cyntaf llain unigol ar ffurflen FR1
  • wedi i ni gofrestru’r llain gyda’i rif teitl ei hun, rhaid i brynwyr dilynol y llain honno wneud cais i gofrestru yn y ffordd arferol, gan ddefnyddio ffurflen AP1

3.2 Cofrestru llain unigol yn wirfoddol

Gall perchennog presennol llain a brynwyd allan o gynllun cofrestredig wneud cais gwirfoddol i gofrestru ar unrhyw adeg gan ddefnyddio ffurflen AP1. Nid oes yn rhaid talu.

3.3 Prynu cynllun cyfan

3.3.1 Lle cofrestrwyd y cynllun

  • rhaid i chi ddefnyddio ffurflen gais AP1
  • effaith y datganiad oedd bod trafodion yn ymwneud â chynllun cofrestredig ar ôl hynny yn effeithiol fel pe bai’r tir dan sylw heb ei gofrestru
    • felly, fe fydd achosion lle prynodd y ceisydd y tir oddi wrth rywun heblaw’r perchennog cofrestredig
    • os felly y mae, rhaid i chi anfon tystiolaeth o’r gadwyn deitl atom o’r perchennog cofrestredig i’r gwerthwr
  • bydd y cyfyngiad, y cyfeiriwyd ato yn Deddfwriaeth, ar gofrestr unrhyw gynllun cofrestredig oedd â datganiad yn effeithio arno’n flaenorol

Bydd y cyfyngiad hwn yn ein hatal rhag cofrestru trafodiad gyda’r cyfan neu ran o’r cynllun oni bai eich bod yn darparu caniatâd perchnogion pob llain sydd â datganiad yn effeithio arno a werthwyd ac sy’n dal heb ei gofrestru. Er mwyn symleiddio trafodiad yn y dyfodol, gall y perchennog cofrestredig wneud cais ar unrhyw adeg i ddileu’r cyfyngiad hwn. Rhaid iddo ef neu hi ein bodloni na fu unrhyw drafodion gyda’r tir, neu ran arbennig ohono, ers gwneud y datganiad.

3.3.2 Lle na chofrestrwyd y cynllun

  • rhaid i chi wneud unrhyw gais am gofrestriad cyntaf y tir ar ffurflen FR1
  • fel gydag unrhyw gofrestriad cyntaf, rhaid i chi gyfrif am holl leiniau unigol a werthwyd fel y gallwn eu gadael allan o’r ardal gofrestredig

4. Pethau i’w cofio

Mae ceisiadau anghywir yn peri oedi – gwnewch yn siwr o’r canlynol.

  • pan fo tir y cynllun yn gofrestredig, rhaid defnyddio ffurflen AP1 i wneud cais i gofrestru trafodiad sy’n cynnwys llain gofrodd
  • pan fo tir y cynllun yn ddigofrestredig, rhaid defnyddio ffurflen FR1 i wneud cais i gofrestru llain gofrodd
  • mae modd gwneud cais gwirfoddol i gofrestru perchennog presennol llain gofrodd, pan fo tir y cynllun yn gofrestredig, gan ddefnyddio ffurflen AP1
    • nid oes dim i’w dalu
  • rhaid defnyddio ffurflen AP1 i wneud cais i gofrestru trosglwyddiad tir y cynllun lle y mae’n gofrestredig eisoes
  • rhaid defnyddio ffurflen FR1 i wneud cais i gofrestru tir y cynllun, lle y mae’n ddigofrestredig ar hyn o bryd
  • rhaid i chi gyflwyno’r holl weithredoedd a dogfennau perthnasol gyda phob cais

Nodyn 1: Mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Byddwn yn dychwelyd y gwreiddiol ar ôl inni gwblhau’r cais. Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Nodyn 2: Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau sy’n anghyflawn neu’n ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch – gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.