Canllawiau

Pecyn cymorth Credyd Pensiwn: cyngor ac arweiniad i randdeiliaid

Diweddarwyd 16 Rhagfyr 2025

© Hawlfraint y Goron 2020

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio lle nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i Drwydded Llywodraeth Agored neu ysgrifennu at:

Information Policy Team
The National Archives
Kew
London
TW9 4DU
Email: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk

Lle rydym wedi adnabod unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Cyflwyniad

Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i gynllunio i ddarparu rhai syniadau ac arweiniad i sefydliadau sy’n dymuno annog pensiynwyr y maent yn delio â hwy i wneud cais am Gredyd Pensiwn lle y gallent fod â hawl. Rydym yn gwybod bod llawer o sefydliadau’n gweithio â phensiynwyr trwy’r amser ac nid oes angen i ni ddweud wrthych sut i wneud eich swydd. Mewn gwirionedd, os oes gennych rai awgrymiadau da eich hun, neu bethau sydd wedi gweithio’n dda, rhannwch hwy â ni a gallwn eu trosglwyddo i eraill. Gobeithiwn serch hynny y bydd y pecyn cymorth hwn yn cynnig rhywfaint o gefnogaeth i sefydliadau sydd â llai o brofiad o weithio â phensiynwyr a’u helpu.

Am Gredyd Pensiwn

Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at incwm wythnosol i isafswm gwarantedig o £227.10 yr wythnos ar gyfer pensiynwyr sengl neu £346.60 ar gyfer cyplau. Mae’n daliad di-dreth i’r rhai sydd:

Gallai rhywun barhau i gael Credyd Pensiwn os:

  • nad ydynt wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • mae ganddynt rywfaint o gynilion neu bensiwn bach
  • maent yn byw gyda’u teulu o oedolion
  • maent yn berchen ar eu cartref eu hunain

Defnyddiwch y gyfrifiannell Credyd Pensiwn i ddarganfod faint o Gredyd Pensiwn y gallai rhywun ei gael - heb roi unrhyw fanylion personol.

Canllaw cyflym i hawl

Mae 4 prif gwestiwn wrth ystyried a all pensiynwr gael Credyd Pensiwn:

  1. Faint yw eu hoed?
  2. Os oes ganddynt bartner sy’n byw gyda hwy, faint yw oed eu partner?
  3. Faint yw eu hincwm wythnosol? A yw’n llai na £227.10 os ydynt yn sengl neu £346.60 os ydynt yn gwpl?
  4. A oes ganddynt unrhyw gynilion? Oes ganddynt £10,000 neu lai.

Efallai y bydd pobl sydd â mwy o incwm neu gynilion na hyn yn dal i fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Ond mae’r cwestiynau hyn yn rhoi syniad da o bwy sy’n debygol o fod yn gymwys.

Os ydynt dros 65 oed ac wedi cyrraedd eu hoedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, gallent dal fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn os yw eu hincwm wythnosol yn llai na:

  • £270.35 os ydynt yn sengl
  • £395.00 os ydynt yn gwpl

Mae mwy o wybodaeth am Gredyd Pensiwn i’w gweld isod.

Hyrwyddo Credyd Pensiwn

Rydym yn gwybod efallai na fydd rhai pobl yn cael Credyd Pensiwn pan y gallent fod yn gymwys i’w gael. Rydym wedi ymrwymo i newid hynny.

Nod y deunydd hwn yw codi ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn a helpu i chwalu rhai camsyniadau cyffredin a allai atal pobl rhag gwneud cais amdano trwy dynnu sylw at y canlynol:

  • gall fod gan bobl o oedran Pensiwn y Wladwriaeth hawl i Gredyd Pensiwn er y gallant fod â chynilion cymedrol neu incwm ymddeol, neu fod yn berchen ar eu cartref eu hunain
  • gall dyfarnu Credyd Pensiwn ddarparu mynediad i ystod o fuddion eraill fel cymorth â chostau tai, treth gyngor, biliau gwresogi, ac i’r rheini sy’n 75 oed neu drosodd, trwydded deledu am ddim

Os ydych yn gweithio â phobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu â’r rhai sy’n eu cefnogi, neu’n adnabod unrhyw un a allai fod yn gymwys, anogwch hwy i ddarganfod mwy.

Defnyddio pŵer ffrindiau a theulu

Gwyddom y gall gair gan anwyliaid fod yn ysgogiad pwerus. Os ydych yn siarad yn uniongyrchol â ffrindiau a theulu pobl sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, anogwch hwy i siarad â phobl maent yn meddwl a allai fod yn gymwys am Gredyd Pensiwn a’r buddion eraill sy’n dod o wneud cais amdano. Gall hyn helpu i agor i fyny sgyrsiau pwysig a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau eu hanwyliaid.

Fideos y gallwch eu defnyddio i hyrwyddo Credyd Pensiwn

Mae croeso i chi rannu’r fideos YouTube ar eich gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Dylai’r fideo hwn eich helpu i siarad â’ch cwsmeriaid am Gredyd Pensiwn a’u helpu i wirio a ydynt yn gymwys:

Esboniwr Cyfrifiannell Credyd Pensiwn

Bydd y fideo hwn yn rhoi gwybodaeth gam wrth gam i gwsmeriaid ar sut i ddefnyddio’r gyfrifiannell Credyd Pensiwn. Mae’r gyfrifiannell yn gweithio allan a ydynt yn gymwys ac yn rhoi amcangyfrif o faint y gallent ei gael.

Sut i ddefnyddio Cyfrifiannell Cymhwysedd Credyd Pensiwn

Mae’r fideo hwn yn rhoi trosolwg o Gredyd Pensiwn mewn Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer pobl â nam ar eu clyw.

Credyd Pensiwn: Canllaw Iaith Arwyddion Prydain i bobl â nam ar eu clyw

Delweddau cyfryngau cymdeithasol y gallwch eu defnyddio i hyrwyddo Credyd Pensiwn

Lawrlwytho a gweld yr holl ddelweddau cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’u hanelu at ddarpar gwsmeriaid

Enghraifft:

Lawrlwytho a gweld yr holl ddelweddau cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’u hanelu at ddylanwadwyr

Enghraifft:

Lawrlwytho a gweld ar yr holl ddelweddau cyfryngau cymdeithasol o’n hymgyrch gyfredol wedi’u hanelu at gwsmeriaid posibl

Enghraifft:

Posteri y gallwch eu defnyddio i hyrwyddo Credyd Pensiwn

Lawrlwytho a gweld yr holl bosteri i hyrwyddo Credyd Pensiwn

Enghraifft:

Adnabod eich cynulleidfa

Rydym yn amcangyfrif y gallai fod gan hyd at 760,000 o aelwydydd pensiynwyr hawl i Gredyd Pensiwn, ond nid ydynt yn ei hawlio.

Mae rhai pensiynwyr yn meddwl oherwydd bod ganddynt gynilion neu eu bod yn berchen ar eu cartref na fyddent yn cael unrhyw Gredyd Pensiwn. Nid yw cyrraedd y bobl hyn bob amser yn hawdd, ond gallant fod yn fwy agored i wrando ar bobl y maent yn ymddiried ynddynt. Gallai hyn gynnwys:

  • ymwelwyr iechyd
  • cymorth cartref
  • staff canolfan gofal dydd
  • cynghorwyr lles
  • eu Meddyg Teulu a staff yn y feddygfa
  • y fferyllydd lleol sy’n paratoi eu presgripsiynau
  • pobl yn Swyddfa’r Post lle maent yn casglu eu pensiwn
  • cynghorau lleol
  • ffrindiau a theulu

Digwyddiadau bywyd

Mae llawer o bensiynwyr yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn pan fydd newid yn eu bywydau. Felly mae’n syniad da siarad â hwy pan fydd y newidiadau hyn yn digwydd.

Sbardunau digwyddiad bywyd

Mae llawer o bobl yn gwneud cais pan fydd digwyddiad bywyd yn gwneud iddynt stopio a meddwl am eu cyllid. Gall y rhain fod yn bethau fel:

  • newidiadau mewn iechyd
  • profedigaeth
  • genedigaeth wyrion
  • ysgariad
  • priodas
  • cylilion yn rhedeg allan
  • salwch neu anabledd

Yn aml, mae pobl wedi gwneud cais am Gredyd Pensiwn yn y gorffennol a dywedwyd wrthynt ar y pryd nad oeddent yn gymwys. Ond gallai newid yn eu hamgylchiadau eu gwneud yn gymwys yn ‘sydyn’.

Pan fyddwch yn siarad â’ch cwsmeriaid, rydym yn awgrymu y gallech wrando am y newidiadau a allai olygu bod ganddynt nawr hawl i Gredyd Pensiwn.

Mae pobl yn fwy tebygol o fod yn agored i negeseuon ar wahanol bwyntiau cylch bywyd. Gall pensiynwyr hŷn a allai fod wedi bod yn anghymwys (neu ddim ond yn meddwl eu bod yn anghymwys) yn y gorffennol ddod yn ‘gymwys yn sydyn’ yn dilyn newidiadau pwysig mewn bywyd. Er enghraifft:

  • cylilion yn rhedeg allan
  • marwolaeth partner
  • gadael cyflogaeth
  • iechyd gwael yn gwaethygu
  • dod yn ofalwr
  • datblygu anabledd
  • cymryd cyfrifoldeb am blentyn

Gallant ddod yn barod i dderbyn negeseuon am wella eu cyllid ar yr adegau hyn.

Gall cyfrifiannell Credyd Pensiwn fod yn ddefnyddiol wrth ddarganfod faint o Gredyd Pensiwn y gallai fod gan rywun hawl iddo – heb roi unrhyw fanylion personol.

Rhwystrau i wneud cais am Gredyd Pensiwn

Mae nifer o rwystrau sy’n atal pensiynwyr rhag gwneud cais am Gredyd Pensiwn. Efallai eu bod yn meddwl ar gam nad ydynt yn gymwys oherwydd:

  • mae ganddynt gynilion
  • maent yn berchen ar eu cartref eu hunain
  • gallent fod yn gweithio
  • gallent fod yn cael pensiwn galwedigaethol bach
  • gallent fod wedi eu gwrthod yn y gorffennol

Gallai ffactorau eraill fod:

  • nad ydynt eisiau cael eu gweld fel bod angen gwneud cais
  • maent yn teimlo eu bod yn gallu ymdopi
  • nad ydynt yn meddwl ei bod yn werth gwneud cais (oherwydd bydd y swm a gânt yn fach iawn)
  • nad ydynt yn cydnabod eu hunain fel hawlydd Credyd Pensiwn
  • and ydynt wedi gwneud cais
  • maent yn meddwl ei fod yn bwnc cymhleth a dryslyd
  • maent eisoes yn cael help arall ac nid ydynt am wneud llanast o’r budd-daliadau maent yn eu cael

Siarad â phensiynwyr am Gredyd Pensiwn

Ar ôl rhestru uchod rhai o’r prif resymau y gallai pensiynwyr oedi rhag gwneud cais am Gredyd Pensiwn, gallai fod yn ddefnyddiol rhoi cynnig ar ‘chwalu chwedlau’ o’r camdybiaethau y gallai fod gan bobl a’u hannog i feddwl eto.

Nid ydynt yn credu y byddant yn gymwys i gael Credyd Pensiwn

Anghywir – Peidiwch â diystyru neb. Mae tua 1.4 miliwn o bensiynwyr yn y DU yn ei dderbyn yn barod.

Byddent yn cael cyn lleied, nid yw’n werth gwneud cais amdano

Anghywir – Mae’r taliad Credyd Pensiwn ar gyfartaledd dros £83 yr wythnos – mae hynny ymhell dros £4,300 y flwyddyn yn ychwanegol. Hefyd, gall cael Credyd Pensiwn ddarparu pasbort i helpu â phethau fel rhent, treth gyngor, Taliadau Tywydd Oer a thrwydded deledu am ddim i bobl 75 oed a throsodd.

Mae ganddynt gynilion, felly ni fyddant yn cael unrhyw beth

Anghywir – Gall fod gan bobl gynilion neu bensiwn arall a pharhau i gael arian ychwanegol. Yn wahanol i fudd-daliadau eraill sy’n seiliedig ar incwm fel Credyd Cynhwysol, nid oes terfyn cyfalaf ac ar gyfer Credyd Pensiwn ac fe anwybyddir cynilion o dan £10,000.

Maent yn berchen ar eu cartref eu hunain, felly ni fyddant yn cael unrhyw beth

Anghywir – Gall perchnogion tai gael Credyd Pensiwn hefyd. Mewn gwirionedd, mae bron i hanner y bobl sy’n cael Credyd Pensiwn yn berchen ar eu cartref eu hunain.

Nid ydynt yn gymwys i gael Credyd Pensiwn – mae ar gyfer ‘hen’ bobl

Anghywir – Gall pobl wneud cais cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd yr oedran cymhwyso, sydd bellach yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Ni allant gael Pensiwn y Wladwriaeth, felly ni fyddant yn gymwys

Anghywir – Efallai bod ganddynt hawl i Gredyd Pensiwn – hyd yn oed os nad oes ganddynt hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth.

Maent wedi cael eu gwrthod am Gredyd Pensiwn o’r blaen, felly nid yw’n werth gwneud cais eto

Anghywir – Gallai amgylchiadau personol fod wedi newid ac efallai bod eu hincwm neu gyfalaf wedi newid o ganlyniad. Anwybyddir y £10,000 cyntaf o gynilion wrth weithio allan a all rhywun gael Credyd Pensiwn.

Mae’n rhy gymhleth a nid yw gwneud cais yn werth yr ymdrech

Anghywir – gallant wneud cais gydag un galwad ffôn syml am ddim. Hyd yn oed os mai dim ond ychydig bach o Gredyd Pensiwn y mae rhywun yn ei gael, gall agor y drws i dderbyn budd-daliadau a gwasanaethau eraill fel Taliadau Tywydd Oer a thriniaeth ddeintyddol am ddim.

Fodd bynnag, os dymunant, gall pobl lenwi ffurflen gais bapur, y gellir ei lawrlwytho nawr o wefan GOV.UK neu gellir gwneud cais ar-lein.

Bydd y Gwasanaeth Pensiwn hefyd yn eu helpu i wneud cais am fudd-daliadau eraill (fel Budd-dal Tai, a all helpu gyda thalu rhent) os oes ganddynt hawl i’r rheiny hefyd.

Fodd bynnag, bydd angen iddynt gysylltu â’u cyngor lleol yn uniongyrchol os ydynt yn dymuno gwneud cais am ostyngiad yn eu Treth Gyngor

Awgrymiadau eraill

Peidiwch â chymryd yn ganiataol nad oes ganddynt hawl

Gofynnwch iddynt wirio ag ymgynghorydd budd-daliadau neu gyfrifiannell budd-daliadau ar-lein.

Defnyddiwch y gyfrifiannell Credyd Pensiwn i ddarganfod faint o Gredyd Pensiwn y gallai fod gan rywun hawl iddo – heb roi unrhyw fanylion personol.

Neu cysylltwch â:

Credyd Pensiwn
Ffôn: 0800 99 1234
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 99 1234 Darganfyddwch fwy am daliadau galwadau
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm, ag eithrio gwyliau cyhoeddus

Gallant ymdopi

Mae pensiynwyr yn aml yn falch iawn ac nid ydynt eisiau siarad am fudd-daliadau. Gall helpu i nodi bod tua 1.4 miliwn o bensiynwyr yn cael Credyd Pensiwn. Os oes ganddynt hawl iddo, pam ddim gwneud cais?

Peidiwch â gadael iddynt beidio a gwneud

Nid oes rhaid i hawlio budd-daliadau fod yn gymhleth. Defnyddiwch y wybodaeth ar GOV.UK i’w tywys trwy’r broses. Mae canllaw hawlwyr Credyd Pensiwn yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am Gredyd Pensiwn a sut i wneud cais.

Awgrymwch eu bod yn ymweld â darparwr cyngor cofrestredig

Gall pobl ddod o hyd i ymgynghorydd budd-daliadau hyfforddedig. Ewch i:

Cyngor yn y cartref

Ar gyfer hawlwyr bregus iawn, bydd gwasanaeth ymweld ar cartref y Gwasanaeth Pensiwn yn cyfrifo’r mathau o fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, gan ei gwneud yn haws iddynt ddeall pa fudd-daliadau y gallant wneud cais amdanynt.

Apeliadau a thribiwnlysoedd

Awgrymwch fod hawlwyr yn gofyn i’w hymgynghorydd a all eu sefydliad eu helpu ag apêl os yw eu cais yn cael ei wrthod.

Peidiwch ag anghofio’r pethau ychwanegol

Sicrhewch fod yr hawlydd yn cael eu Taliad Tanwydd Gaeaf a thocynnau bws am ddim, profion llygaid ac archwiliadau diogelwch nwy.

Rheoli arian

I gael awgrymiadau ar gyllidebu, cyfeiriwch yr hawlydd neu eu ffrindiau a’u teulu at gyngor ariannol Age UK neu gysylltu â:

  • Step Change Debt Charity ar 0800 138 1111
  • National Debtline ar 0808 808 4000
  • Cyngor ar Bopeth

Gall hawlwyr gael cyngor gan eu banc neu Swyddfa’r Post os ydynt yn cael problemau â ‘sglodyn a PIN’.

Mwy o wybodaeth am Gredyd Pensiwn

Canllaw cyflym i ffeithiau am Gredyd Pensiwn

Nid yw tua thraean o’r rhai sy’n gymwys i gael Credyd Pensiwn yn ei hawlio a gallent fod yn colli allan ar arian ychwanegol bob wythnos.

Mae swm wythnosol Credyd Pensiwn ar gyfartaledd dros £83.

Gall newid mewn amgylchiadau wneud rhywun newydd yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn (er enghraifft, profedigaeth, newid mewn iechyd, neu anabledd). Felly hyd yn oed os ydynt wedi gwneud cais o’r blaen ac heb ei gael, efallai y byddai’n werth edrych eto.

Mae llawer o bobl yn credu ar gam na allant gael Credyd Pensiwn dim ond oherwydd nad ydynt yn gwybod y gwir ffeithiau.

Gall bod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn olygu help â phethau eraill fel gostyngiad yn y Dreth Gyngor y mae angen iddynt ei thalu

Os yw pobl wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, mae’n golygu y byddant yn cael hyd at isafswm incwm o:

  • £227.10 yr wythnos os ydynt yn sengl
  • £346.60 yr wythnos os ydynt yn gwpl

Os ydynt dros 65 oed ac wedi cyrraedd eu Hoedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, gallent barhau i fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn os yw eu hincwm wythnosol yn is:

  • £270.35 os ydynt yn sengl
  • £395.00 os ydynt yn gwpl

Nid oes rhaid i bobl dalu treth ar unrhyw daliadau Credyd Pensiwn y gallant eu cael.

Gellir ôl-ddyddio Credyd Pensiwn am uchafswm o 3 mis.

Gall pensiynwyr gael Credyd Pensiwn hyd yn oed os oes ganddynt gynilion. Anwybyddir y £10,000 cyntaf o gynilion - felly os yw rhywun wedi cael ei wrthod o’r blaen oherwydd swm eu cynilion, mae’n werth gwirio eto.

Darganfod a defnyddio gwybodaeth am Gredyd Pensiwn

Mae ystod o wybodaeth ar gael o ffeithiau sylfaenol i ganllawiau technegol.

Mae croeso i chi gopïo unrhyw beth ar y dudalen hon yn eich dogfennau eich hun i’w defnyddio er gwybodaeth i chi’ch hun neu i helpu i roi cyhoeddusrwydd i Gredyd Pensiwn.

Gwybodaeth sylfaenol

Mae canllaw hawlwyr Credyd Pensiwn yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am Gredyd Pensiwn a sut i wneud cais.

Gwybodaeth fanwl

Ein taflen ffeithiau Credyd Pensiwn yn ateb y cwestiynau a ofynnir amlaf ac yn egluro’r newidiadau a ddigwyddodd fis Chwefror a mis Mai 2019.

Mae hefyd canllaw manwl i Gredyd Pensiwn sydd wedi ei anelu at ymgynghorwyr budd-daliadau.

Gwneud cais am Gredyd Pensiwn

Pan fydd pobl yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, gallant hefyd gael help i wneud cais am Fudd-dal Tai ar yr un pryd.

Bydd angen iddynt gysylltu â’u cyngor lleol os ydynt yn dymuno gwneud cais am ostyngiad yn eu Treth Gyngor

Sut i wneud cais am Gredyd Pensiwn

Gellir gwneud cais trwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein Credyd Pensiwn os:

  • yw cais wedi ei wneud am Bensiwn y Wladwriaeth yn barod; a
  • nad oes plant neu bobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y cais

Gellir hawlio Credyd Pensiwn hefyd dros y ffôn neu’r post.

Credyd Pensiwn
Ffôn: 0800 99 1234
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 99 1234 Darganfyddwch fwy am daliadau galwadau
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm, ag eithrio gwyliau cyhoeddus

Os nad Cymraeg neu Saesneg yw iaith gyntaf yr hawlydd, gallant ofyn i ffrind neu aelod o’r teulu helpu. Fel arall, gellir trefnu dehonglydd ffôn os oes angen un arno.

Gellir trefnu ymweliad cartref os oes angen.

Os byddai’n well gan bobl, gall ffrind neu aelod o’r teulu ffonio ar eu rhan.

Y wybodaeth mae pobl ei angen pan fyddant yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn

Pan fydd rhywun yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, byddant angen y wybodaeth ganlynol am y sawl sy’n gwneud y cais:

  • eu dyddiad geni
  • eu rhif Yswiriant Gwladol – i’w gael ar slipiau cyflog, papurau treth a llythyrau gan Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
  • faint o arian sydd ganddynt bob wythnos - er enghraifft, gallai hyn fod yn fanylion unrhyw bensiwn maent yn ei gael gan gyn-gyflogwr neu gynllun pensiwn personol, a pha mor aml mae’n cael ei dalu
  • manylion o unrhyw gynilion a buddsoddiadau – bydd Y Gwasanaeth Pensiwn yn gofyn am y balans cyfredol mewn unrhyw gyfrifon banc a chynilion a manylion unrhyw fuddsoddiadau, fel cyfranddaliadau, bondiau premiwm neu dystysgrifau ymddiriedolaeth uned
  • gwybodaeth am gostau tai, fel llog morgais, taliadau gwasanaeth neu rent daear

Os oes gan rywun bartner, bydd angen iddynt gael yr un wybodaeth amdanynt hwy.

Bydd Y Gwasanaeth Pensiwn yn trin pobl fel cwpl os ydynt yn byw gyda gŵr, gwraig neu bartner sifil, neu os ydynt yn byw gyda rhywun fel petaent yn briod. Maent yn galw’r person arall hwn yn bartner.

O fis Chwefror 2019, efallai y bydd gan y rhai sydd â chyfrifoldeb am blentyn neu berson ifanc cymwys nad oes ganddo ddyfarniad credydau treth hawl i swm ychwanegol yn eu Credyd Pensiwn, a dylent ddarparu manylion y plentyn y maent yn gyfrifol amdano.

Pryd i wneud cais am Gredyd Pensiwn

Gall pobl wneud cais hyd at 4 mis cyn y dyddiad y maent am ddechrau cael Credyd Pensiwn.

Y cyfnod hwyaf y gellir ôl-ddyddio cais Credyd Pensiwn yw 3 mis.

Os oes unrhyw un eisiau i Gredyd Pensiwn ddechrau o ddyddiad y y gorffenol neu yn y dyfodol, mae angen iddynt ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn pan fyddant yn gwneud cais.

Dolenni a chysylltiadau defnyddiol

Mae canllaw hawlwyr Credyd Pensiwn yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am Gredyd Pensiwn a sut i wneud cais.

Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn.

Defnyddiwch y gyfrifiannell Credyd Pensiwn i ddarganfod faint o Gredyd Pensiwn y gallai rhywun ei gael – heb roi unrhyw fanylion personol.

Defnyddiwch y gyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddod o hyd i oedran cymhwyso Credyd Pensiwn rhywun.

Darllenwch wybdoaeth am fudd-daliadau i ofalwyr a phobl ag anableddau.

Age UK

Mae Age UK yn cefnogi pobl dros 50 oed, yn darparu gofal dydd, gwybodaeth, gwahaniaethu ar sail oedran a phensiynau.

Ffôn Age UK – 0800 169 6565

Age Cymru

Mae Age Cymru yn cefnogi pobl dros 50 oed, yn darparu gofal dydd, gwybodaeth, gwahaniaethu ar sail oedran a phensiynau.

Ffôn Age Cymru – 08000 223 444

Age Scotland

Mae Age Scotland yn cefnogi pobl dros 50 oed, yn darparu gofal dydd, gwybodaeth, gwahaniaethu ar sail oedran a phensiynau.

Ffôn Age Scotland – 0845 125 9732

Carers UK

Mae Carers UK yn cynnig ystod eang o wybodaeth am hawliau gofalwyr a ffynonellau cymorth a manylion cyswllt ar gyfer grwpiau cymorth gofalwyr lleol.

Ffôn – 0808 808 7777

Cyngor ar Bopeth

Mae gan Gyngor ar Bopeth rwydwaith cenedlaethol o ganolfannau cyngor am ddim. Yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael, gallant gynnig gwiriadau budd-daliadau a helpu i lenwi ffurflenni.

Ffôn – 020 7833 2181 (am fanylion cyswllt lleol yn unig - nid cyngor ffôn)

Citizens Advice Scotland

Mae Citizens Advice Scotland yn rhwydwaith o ganolfannau cyngor am ddim yn yr Alban. Yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael, gallant gynnig gwiriadau budd-daliadau a helpu i lenwi ffurflenni.

Darganfyddwch eich swyddfa leol Citizens Advice Scotland ar gyfer amseroedd agor a manylion cyswllt.

Awdurdod Ymddygiad Ariannol

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn sefydliad annibynnol sy’n monitro’r diwydiant gwasanaethau ariannol yn y DU. Mae’n darparu gwybodaeth ac offer diduedd a all eich helpu i weithio allan beth sy’n iawn i chi.

Llinell gymorth defnyddwyr FCA – 0800 111 6768

Llinell gymorth cwmnïau FCA – 0845 606 9966

Reach

Mae Reach yn sefydliad sy’n dwyn ynghyd sefydliadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr sydd â sgiliau gyrfa.

Ffôn – 020 7582 6543

Retired and Senior Volunteer Programme

Mae’r Retired and Senior Volunteer Programme yn helpu’r rhai dros 50 oed i gymryd rhan yn eu hardal leol trwy wirfoddoli.

Cymru – 029 2039 0477

Lloegr – 020 7643 1385

Yr Alban – 01786 475800

Silversurfers

Mae Silversurfers yn darparu adnoddau gwefan i bobl dros 50 oed.

Royal Voluntary Service

Mae Royal Voluntary Service yn elusen sy’n darparu ystod o wasanaethau ymarferol i helpu a chefnogi pobl hŷn i fyw’n dda, cynnal eu hannibyniaeth a chwarae rhan yn eu cymuned leol.

Ffôn – 0845 608 0122