Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor

Diweddarwyd 1 March 2024

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn ymdrin â’r gofynion cofrestru ar gyfer endidau tramor, yn enwedig cwmnïau tramor a’r gofynion lle maent yn wahanol i’r rheiny ar gyfer cwmnïau’r DU. Mae’r cyfarwyddyd hefyd yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am gwmnïau tramor, partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig tramor a gwladwriaethau tramor.

2. Diffiniad o gwmni tramor ac endidau tramor

At ddibenion y cyfarwyddyd hwn, ystyr ‘cwmni tramor’ yw cwmni sydd wedi ei gorffori y tu allan i’r DU. Mae hyn yn cynnwys endidau sydd wedi eu corffori yn:

  • un o Ynysoedd y Sianel (megis Jersey neu Guernsey fel arfer)
  • Ynys Manaw
  • Gweriniaeth Iwerddon (mae cwmnïau sydd wedi eu corffori yng Ngogledd Iwerddon yn gwmnïau’r DU)

Yn y cyfarwyddyd hwn, mae cyfeiriad at gwmni tramor yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig dramor neu Grŵp Budd Economaidd y DU hefyd oni nodir fel arall.

Ystyr ‘gwladwriaeth dramor’ yw unrhyw wlad heblaw’r DU, ac mae’n cynnwys llywodraethau tramor a rhai awdurdodau cyhoeddus tramor.

At ddibenion Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022, mae i endid tramor yr ystyr a roddir gan adran 2 o’r Ddeddf honno. Ystyr “endid tramor” yw endid cyfreithiol sydd wedi ei lywodraethu gan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r DU; ac ystyr “endid cyfreithiol” yw corff corfforaethol, partneriaeth neu endid arall sydd (ym mhob achos) yn berson cyfreithiol o dan y gyfraith sy’n ei llywodraethu.

3. Y Gofrestr Endidau Tramor

3.1 Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022

Daeth rhannau o Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 a greodd Gofrestr Endidau Tramor a gedwir gan Dŷ’r Cwmnïau i rym ar 1 Awst 2022. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i endidau tramor sy’n berchen ar dir yn y DU neu sy’n bwriadu caffael eiddo yn y DU gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau, oni bai eu bod yn esempt, i ddarparu gwybodaeth am eu perchnogion llesiannol neu swyddogion rheoli a diweddaru neu ategu’r wybodaeth hon yn flynyddol, neu mewn ymateb i hysbysiad penodol a anfonir gan y cofrestrydd cwmnïau. Wrth gofrestru, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn dyroddi rhif adnabod yr endid tramor unigryw ar gyfer pob endid tramor. I gael gwybodaeth am ofynion cofrestru Tŷ’r Cwmnïau gweler Cofrestru endid tramor a dweud wrthym am ei berchennog llesiannol.

Mewn perthynas â Chymru a Lloegr, mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 dim ond yn berthnasol i endidau tramor a gafodd eu cofrestru fel perchennog ystad gymwys ar neu ar ôl 1 Ionawr 1999.

Mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 yn diwygio Deddf Cofrestru Tir 2002 trwy fewnosod Atodlen 4A newydd.

Mae darpariaethau Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn atal Cofrestrfa Tir EF rhag cofrestru endid tramor fel perchennog ‘ystad gymwys’ oni bai bod yr endid tramor wedi cael rhif adnabod yr endid tramor yn gyntaf. Mewn rhai achosion, bydd angen rhif adnabod yr endid tramor ar endid tramor cyn iddo wneud gwarediad.

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn nodi sut i gydymffurfio â Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru endid tramor fel perchennog ystad gymwys, neu warediad a ddisgrifir isod gan endid tramor o ystad gymwys.

3.1.1 Ystad gymwys

At ddibenion Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 ac Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, mae ystad gymwys yn golygu ystad rydd-ddaliol mewn tir, neu ystad brydlesol mewn tir a roddwyd am gyfnod o fwy na saith mlynedd o’r dyddiad rhoi.

3.2 Cyfyngiadau ar gofrestru gwarediadau gan endidau tramor

Cofnodir y cyfyngiad a ganlyn mewn cofrestri o dan baragraff 3 o Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, ar gyfer pob endid tramor sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru’n berchennog:

Nid oes gwarediad o fewn adran 27(2)(a), (b)(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 i’w gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod un o’r darpariaethau ym mharagraff 3(2)(a)-(f) o Atodlen 4A i’r Ddeddf honno yn gymwys.

Yn ogystal, cofnodwyd y cyfyngiad canlynol yn y cofrestri ar gyfer pob ystad cymwys lle’r oedd y cofrestrydd yn fodlon bod endid tramor wedi ei gofrestru’n berchennog yr ystad a chafodd ei gofrestru’n berchennog yn unol â chais a wnaed ar neu ar ôl 1 Ionawr 1999:

Ar ôl 31 Ionawr 2023 ni chaiff unrhyw warediad o fewn adran 27(2)(a), (b)(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ei gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod un o’r darpariaethau ym mharagraff 3(2)(d) (a)-(f) o Atodlen 4A i’r Ddeddf honno yn gymwys.

Mae’r cyfeiriad at 31 Ionawr 2023 yn adlewyrchu’r cyfnod trosiannol cychwynnol (gweler Trefniadau trosiannol yn 2022-23), pan allai rhywun sy’n cymryd gwarediad gan endid tramor wneud cais i gofrestru’r gwarediad er ei bod yn bosibl na chofrestrodd yr endid tramor gyda Thŷ’r Cwmnïau erbyn dyddiad y gwarediad.

3.3 Ceisiadau sydd wedi eu dal gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022

Mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2002 yn gymwys i’r mathau canlynol o geisiadau a gwarediadau.

  • Trosglwyddiadau o ystad gymwys i endid tramor.
  • Trosglwyddiadau o ystad gymwys gan endid tramor.
  • Prydlesi cofrestradwy am gyfnod o fwy na saith mlynedd o’r dyddiad rhoi i endid tramor, sydd wedi eu rhoi o ystad gymwys.
  • Prydlesi cofrestradwy am gyfnod o fwy na saith mlynedd o’r dyddiad rhoi gan endid tramor, sydd wedi eu rhoi o ystad gymwys.
  • Arwystlon cofrestradwy gan endid tramor.
  • Ceisiadau am gofrestriad cyntaf o ystad gymwys lle mae’r ceisydd yn endid tramor.
  • Ceisiadau meddiant gwrthgefn i gofrestru endid tramor fel perchennog ystad gymwys.

Rhaid ichi ddarparu rhif adnabod yr endid tramor dilys neu, os yw’n gymwys, nodi pa eithriad a ganiateir (gweler Eithriadau ac esemptiadau) rydych yn dibynnu arno pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru gwarediad gan endid tramor sydd wedi ei ddal gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022.

3.3.1. Gweithredoedd amrywio

Efallai y bydd gweithred amrywio yn ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, bydd cais i gofrestru gweithred amrywio prydles sy’n gyfystyr ag ildiad ac ail-roi (lle mae’r cyfnod yn cael ei estyn neu lle mae’r stent a brydlesir wedi ei gynyddu) yn cael ei ystyried yn gais i gofrestru ildiad o deitl prydlesol presennol y tenant a chofrestru rhoi’r brydles newydd o deitl y landlord. Felly:

3.4 Y dystiolaeth sy’n ofynnol ar gyfer gwarediadau a effeithir gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022

3.4.1 Cais i gofrestru endid tramor fel perchennog ystad gymwys

Lle mae cais yn cael ei wneud i gofrestru endid tramor fel perchennog ystad gymwys ar neu ar ôl 5 Medi 2022, y dystiolaeth y mae ei hangen i gydymffurfio â gofynion paragraff 2 o Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir yw rhif adnabod yr endid tramor dilys.

Rhaid i’r rhif adnabod yr endid tramor fod yn ddilys ar adeg gwneud cais i Gofrestrfa Tir EF. Os na ddarperir rhif adnabod yr endid tramor dilys ar gyfer yr endid tramor, caiff eich cais ei wrthod.

Bydd rhif adnabod yr endid tramor yn cael ei gofnodi yn y gofrestr perchenogaeth.

Sylwer, er bod paragraff 2 o Atodlen 4A yn cyfeirio at endidau tramor esempt, nid yw unrhyw reoliadau wedi eu gwneud eto yn pennu endidau tramor esempt (o dan adran 34(6) o Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022).

3.4.2 Cais i gofrestru neu gynnwys gwarediad gan endid tramor sydd wedi ei ddal gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022

Yn yr holl senarios a ddisgrifir isod, lle bo’n ofynnol, rhaid bod rhif adnabod yr endid tramor wedi bod yn ddilys adeg y gwarediad. Os na ddarperir rhif adnabod yr endid tramor dilys ar gyfer yr endid tramor neu os na all yr endid tramor ddibynnu ar un o’r eithriadau a ganiateir (gweler Eithriadau ac esemptiadau) caiff eich cais ei wrthod.

Lle mae cyfyngiad fel y disgrifir yn Cyfyngiadau ar gofrestru gwarediadau gan endidau tramor yn cael ei gofnodi ar y gofrestr ac wedi dod i rym, y dystiolaeth sy’n ofynnol i ddangos cydymffurfiaeth â’r cyfyngiad yw naill ai rhif adnabod yr endid tramor dilys ar gyfer yr endid tramor sy’n gwneud y gwarediad neu dystysgrif OE1 gan drawsgludwr fel y nodir yn Atodiad 2 sy’n pennu pa eithriadau ym mharagraff 3(2) o Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 sy’n gymwys.

Lle gwneir cais i gofrestru gwarediad o ystad gymwys gan endid tramor sydd â hawl i gael ei gofrestru fel perchennog yr ystad honno ar neu ar ôl 5 Medi 2022 (ond na chofrestrwyd felly), y dystiolaeth sy’n ofynnol i gydymffurfio â gofynion Paragraff 4 o Atodlen 4A i’r Ddeddf Cofrestru Tir yw naill ai rhif adnabod yr endid tramor dilys ar gyfer yr endid tramor hwnnw neu dystysgrif ET2 gan drawsgludwr fel y nodir yn Atodiad 2 sy’n pennu pa eithriadau ym mharagraff 4(2) o Atodlen 4A sy’n gymwys.

Lle gwneir cais i gofrestru gwarediad o ystad gymwys ac mae’r cais yn cynnwys gwarediad a wnaed gan endid tramor sydd â hawl i gael ei gofrestru fel perchennog yr ystad honno ar neu ar ôl 5 Medi 2022 (ond na chofrestrwyd felly), y dystiolaeth sy’n ofynnol i gydymffurfio â gofynion paragraff 4 o Atodlen 4A i’r Ddeddf Cofrestru Tir yw naill ai rhif adnabod yr endid tramor dilys ar gyfer yr endid tramor hwnnw neu dystysgrif ET2 gan drawsgludwr fel y nodir yn Atodiad 2 sy’n pennu pa eithriadau ym mharagraff 4(2) o Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 sy’n gymwys.

Os, o ganlyniad i gofrestru’r gwarediad, na fydd yr endid tramor bellach yn berchennog y teitl, byddwn yn dileu’n awtomatig unrhyw gyfyngiad a gofnodwyd fel y disgrifir yn Cyfyngiadau ar gofrestru gwarediadau gan endidau tramor.

3.4.3 Senarios y gallech ddod ar eu traws gyda cheisiadau a gwarediadau sydd wedi eu dal gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022

Rydym wedi nodi rhai senarios ar gyfer ceisiadau a gwarediadau a allai fod yn ddefnyddiol ichi yn Atodiad 3.

3.5 Eithriadau ac esemptiadau

Mae paragraffau 3(2) a 4(2) o Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gwahardd cofrestru unrhyw warediad o fewn adran 27(2)(a), (b)(i) neu (f), Deddf Cofrestru Tir 2002 oni bai bod un o’r eithriadau ym mharagraffau 3(2) neu (4(2) yn gymwys. Os na ddarperir rhif adnabod yr endid tramor ac yn dibynnu ar un o’r eithriadau eraill dylech nodi ‘ddim yn ofynnol’ ar y ffurflen gais a/neu warediad a darparu naill ai tystysgrif OE1 neu OE2 (fel y bo’n gymwys) gan drawsgludwr yn ardystio pa eithriad sy’n gymwys a’r wybodaeth bellach y gofynnir amdani. Mae ffurf y dystysgrif i’w defnyddio wedi ei nodi yn Atodiad 2.

Sylwch nid yw unrhyw reoliadau wedi cael eu gwneud eto sy’n darparu ar gyfer endidau tramor esempt. Mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 yn darparu yn y rhan fwyaf o achosion nad yw ‘endid tramor esempt’ yn ddarostyngedig i’r gofynion a nodir uchod ond ar hyn o bryd nid yw unrhyw reoliadau wedi cael eu gwneud sy’n pennu pa endidau tramor sy’n esempt.

3.5.1 Pryd mae’n briodol i nodi ‘Ddim yn ofynnol’

Gallwch nodi ‘Ddim yn ofynnol’ yn yr amgylchiadau canlynol.

  • Ar warediad sydd y tu allan i adrannau 27(2)(a), b(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (gweler Ceisiadau sydd wedi eu dal gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022).
  • Lle mae eithriad ym mharagraff 3(2) neu 4(2) o Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gymwys (heblaw darparu rhif adnabod yr endid tramor) a’ch bod yn cyflenwi tystysgrif OE1 neu OE2.
  • Lle mae cais yn effeithio ar ystad nad yw’n ystad gymwys (gweler Ystad gymwys).
  • Lle mae perchennog cofrestredig presennol yn endid tramor a gofrestrodd cyn 1 Ionawr 1999.
  • Lle mae endid tramor yn barti i weithred ond nid yr endid tramor yw’r perchennog cofrestredig na’r ceisydd (er enghraifft cwmni rheoli neu warantwr).

Bwriedir i’r enghreifftiau hyn gwmpasu’r senarios mwyaf cyffredin a gall fod enghreifftiau eraill lle mae nodi ‘Ddim yn ofynnol’ yn briodol.

Os oes rhif adnabod yr endid tramor gennych ar gyfer endid tramor byddem yn eich annog i’w gynnwys yn eich cais er mwyn gallu ei ychwanegu at y gofrestr hyd yn oed os ydych yn nodi ‘Ddim yn ofynnol’. O dan yr amgylchiadau hyn gallwch ei ddarparu mewn llythyr eglurhaol neu yn y cyfleuster priodol yn ein gwasanaethau electronig.

3.6 Ychwanegu rhif adnabod yr endid tramor at y gofrestr fel cais annibynnol

3.6.1 Cwsmeriaid y Gwasanaeth Cofrestru Digidol

Gallwch ofyn inni ychwanegu rhif adnabod endid tramor at y cofnod perchnogaeth ar gyfer teitl cofrestredig lle mae gan y perchennog un, hyd yn oed pan nad yw un yn ofynnol o dan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 (er enghraifft, lle cafodd y teitl ei gaffael cyn 1999). Mae rhannau canlynol yr adran hon yn egluro sut i wneud hyn.

Sylwer – ar hyn o bryd, nid yw’r cyfleuster diweddaru ar gael i ddiweddaru cofnodion cofrestr eraill sy’n nodi endid tramor – megis cofnodion perchnogaeth arwystl, buddiolwyr rhybudd unochrog, ac ati.

I ychwanegu rhif adnabod endid tramor at y cofnod perchnogaeth ar gyfer teitl cofrestredig fel cais annibynnol trwy’r Gwasanaeth Cofrestru Digidol, dewiswch gais ‘change of name’. Bydd angen ichi gyflwyno cadarnhad o’r diweddariad sydd ei angen fel ‘correspondence’ a chopi o’r ffurflen OE01 a ddarperir gan Dŷ’r Cwmnïau fel ‘evidence’. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Cofrestru Digidol ar gyfer hyd at 25 o deitlau.

Parhewch i ddefnyddio’r Gwasanaeth Cofrestru Dogfennau electronig etifeddol ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys 26 i 50 o deitlau.

3.6.2 Ceisiadau lluosog

Ar gyfer dros 50 o deitlau, cysylltwch â’r Tîm Ceisiadau Lluosog yn uniongyrchol. Bydd y tîm yn trefnu i rywun eich ffonio i egluro’r gweithdrefnau perthnasol a’r ffordd orau o baratoi a chyflwyno’ch cais.

3.6.3 Cwsmeriaid Busnes Gateway

I ychwanegu rhif adnabod yr endid tramor at y gofrestr fel cais annibynnol trwy Business Gateway, dylech naill ai ei gyflwyno mewn llythyr eglurhaol gyda’ch cais neu ddefnyddio’r maes ‘additional information’ presennol yn y sgema cyflwyno.

3.6.4 Cyflwyno trwy ddulliau eraill

I ychwanegu rhif adnabod yr endid tramor at y gofrestr fel cais annibynnol trwy unrhyw ddull arall, bydd angen ichi gyflwyno ffurflen AP1 gyda chopi o’r OE01 a ddarperir gan Dŷ’r Cwmnïau.

3.7 Trefniadau trosiannol yn 2022-23

Darparodd Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 gyfnod trosiannol yn dechrau ar 1 Awst 2022 ac yn dod i ben ar 31 Ionawr 2023 pan allai prynwr neu denant newydd endid tramor wneud cais i gofrestru eu gwarediad heb gofrestru’r endid tramor gyda Thŷ’r Cwmnïau yn gyntaf. Byddai’n rhaid i’r endid tramor fod wedi darparu manylion y gwarediad i Dŷ’r Cwmnïau o dan ddarpariaethau eraill Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 o hyd.

3.7.1 Ceisiadau i gofrestru endid tramor yn berchennog a wnaed rhwng 1 Awst 2022 a 5 Medi 2022

Er na ddaeth Atodlen 4A i rym tan 5 Medi 2022, roedd yn effeithio ar geisiadau i gofrestru endid tramor yn berchennog a wnaed ar neu ar ôl 1 Awst 2022.

Os cyflwynwyd cais i gofrestru endid tramor rhwng 1 Awst 2022 a 2 Medi 2022 yn gynwysedig (ar yr amod iddo gael ei gyflwyno mewn pryd iddo gael ei nodi ar y rhestr ddydd ar 2 Medi) nid oedd angen i chi ddarparu rif hunaniaeth endid tramor, ond ychwanegwyd cyfyngiad at deitl yr endid tramor ar neu ar ôl 5 Medi 2022. Mae hyn oherwydd gosododd Atodlen 4A rwymedigaeth ar y Cofrestrydd i gofnodi cyfyngiad pan fo endid tramor wedi ei gofrestru’n berchennog ar neu ar ôl 1 Awst 2022. Daeth y cyfyngiad i rym unwaith iddo gael ei nodi. Pe bai’r endid tramor wedi cael rhif adnabod endid tramor yn ystod y cyfnod hwn, gallech ei gynnwys gyda’ch cais a byddem yn ei gofnodi yn y gofrestr.

4. Ceisiadau cofrestru gan gwmnïau tramor a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig

4.1 Tystiolaeth sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru cwmni tramor fel perchennog ystad neu arwystl

Rhaid i Gofrestrfa Tir EF fodloni ei hun ynghylch statws corfforaethol y cwmni a’i bwerau i ddal a delio â thir yng Nghymru a Lloegr cyn ei gofrestru fel perchennog ystad neu arwystl.

Rhaid ichi hefyd ystyried effaith Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 y cyfeirir ati yn y Gofrestr Endidau Tramor.

Mae rheol 183 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn ei gwneud yn ofynnol ichi ddarparu un o’r mathau canlynol o dystiolaeth gyda’r cais oni bai bod trefniant ar gyfer y cwmni gyda Chofrestrfa Tir EF (gweler Trefniadau â Chofrestrfa Tir EF ynghylch cyflawni):

  • tystysgrif ar Ffurf 7 wedi ei chwblhau oddi wrth gyfreithwyr cymwysedig sy’n ymarfer yn nhiriogaeth corfforiad y cwmni (gweler Atodiad 1: Ffurf 7 Tystysgrif pwerau cwmnïau tramor).
  • copi ardystiedig o’r siarter, rheolau, statud, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu neu ddogfennau eraill sy’n ffurfio cyfansoddiad y cwmni

Rhaid cynnwys cyfieithiad ardystiedig neu wedi ei notareiddio gydag unrhyw ddogfennaeth sydd mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.

Bydd llythyr barn gyfreithiol yn dderbyniol yn lle un o’r uchod dim ond os yw’n darparu’n bendant yr holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Ffurf 7, ac nid yw’n amodol.

Mae angen yr un dystiolaeth lle mae cais yn cael ei wneud i gofrestru partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig dramor fel perchennog ystad neu arwystl, ond mae angen tystiolaeth arnom hefyd i ddangos bod gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei phersonoliaeth gyfreithiol ei hun.

Er mwyn cofrestru UK Societas neu Grŵp Budd Economaidd y DU, yn ychwanegol at y dystiolaeth uchod, rhaid ichi ddarparu’r canlynol:

  • chwiliad cwmni diweddar sy’n cynnwys yr holl ddogfennau a gyflwynwyd gan UK Societas neu Grŵp Budd Economaidd y DU, y mae’n rhaid iddo gael cofrestriad sefydliad y DU yn Nhŷ’r Cwmnïau (gan gynnwys tystysgrif trosi Tŷ’r Cwmnïau i fod yn UK Societas neu’n Grŵp Budd Economaidd y DU).
  • tystiolaeth o benodiad rheolwr(wyr) UK Societas neu Grŵp Budd Economaidd y DU neu’r person(au) cyfreithiol arall(eraill) fel ei gynrychiolydd, os nad yw hyn yn glir o’r dogfennau eraill a gyflwynwyd

Cymdeithas anghorfforedig ond a sydd â phersonoliaeth gyfreithiol annibynnol yw Grŵp Budd Economaidd y DU.

Rhaid i gyfeiriad ar gyfer gohebu swyddogol Grŵp Budd Economaidd y DU fod o fewn y DU.

Ar gyfer cyd-doddiadau trawsffiniol yr Undeb Ewropeaidd neu’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, bydd y dystiolaeth sy’n ofynnol yn dibynnu ar amgylchiadau’r cais. Fodd bynnag, yr egwyddor gyffredinol yw bod hawliau dros eiddo na ellir ei symud (gan gynnwys tir a morgeisi neu arwystlon wedi eu gwarantu ar dir) yn cael eu rheoli gan gyfraith y lle y mae’r eiddo wedi ei leoli ynddo (y “lex rei sitae” – gweler hefyd Adams v Clutterbuck (1883) 10 QBD 403). Yn ychwanegol at y dystiolaeth sy’n ofynnol wrth gofrestru cwmni tramor fel perchennog ystad neu arwystl, (gan gynnwys gofynion Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022), a thystiolaeth o gyd-doddiad o dan y gyfraith leol, mae trosglwyddiad asedau eiddo sy’n deillio o gyd-doddiad yn warediad cofrestradwy o dan adran 27(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, a bydd cwblhau ffurf drosglwyddo Atodlen 1 briodol yn unol ag adran 25(1) a rheolau 206 a 58 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn ofynnol.

4.1.1 Cwmni wedi ei gorffori am gyfnod cyfyngedig

Os ydych yn cofrestru cwmni tramor fel perchennog ystad neu arwystl, rhaid ichi sicrhau bod y cwmni yn bodoli ar ddyddiad y cais. Os yw oes wreiddiol y cwmni y darparwyd ar ei chyfer yn ei gyfansoddiad wedi dod i ben, bydd yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth i ddangos bod yr oes wedi cael ei hestyn a chadarnhau bod hyn yn unol â chyfansoddiad y cwmni.

Lle mae cwmni wedi ei gorffori am gyfnod cyfyngedig yn cael ei gofrestru fel perchennog ystad, gall cyfyngiad ansafonol gael ei gofnodi yn y gofrestr i adlewyrchu hyn trwy anfon ffurflen RX1 (oni bai bod trefniant yn ei le eisoes gyda ni yn ymwneud â’r cwmni ar gyfer cofnodi cyfyngiad). Y math o eiriad sy’n dderbyniol ar gyfer y cyfyngiad hwn yw:

‘Ni chaiff unrhyw warediad gan berchennog yr ystad gofrestredig a gwblhawyd ar neu ar ôl (rhowch y dyddiad pan ddaw oes y cwmni i ben yma) ei gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod tystysgrif yn cael ei rhoi gan drawsgludwr ar ran y cwmni sy’n datgan ei fod yn parhau’n gorfforedig o dan ei gyfraith gartref ar ddyddiad gwarediad o’r fath.’

Yn yr un modd, lle mae cwmni wedi ei gorffori am gyfnod cyfyngedig yn cael ei gofrestru fel perchennog arwystl ac mae cyfnod byr o oes y cwmni yn weddill ar ddyddiad yr arwystl, er enghraifft 25 o flynyddoedd, gellir gwneud cais am y cyfyngiad ansafonol canlynol:

‘Ni chaiff gwarediad gan berchennog yr arwystl dyddiedig (rhowch ddyddiad yr arwystl yma) o blaid (rhowch enw’r cwmni yma) a gwblhawyd ar neu ar ôl (rhowch y dyddiad pan ddaw oes y cwmni i ben yma) ei gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod tystysgrif yn cael ei rhoi gan drawsgludwr ar ran y cwmni yn dangos ei fod yn parhau’n gorfforedig o dan y gyfraith gartref ar ddyddiad y fath warediad.’

4.2 Cofnodi cwmni tramor yn y gofrestr

Lle mae wedi ei gofrestru fel perchennog ystad neu arwystl, bydd enw’r cwmni tramor yn cael ei nodi yn y gofrestr wedi ei ddilyn gan diriogaeth ei gorfforiad, rhif adnabod yr endid tramor ac, os yw’n gymwys, ei rif cofrestru’r DU. Er enghraifft:

[Enw’r Cwmni] (wedi ei gorffori yn [tiriogaeth y corfforiad]) (Rhif Adnabod yr Endid Tramor: Endid Tramor xxxx (Rhif Cofrestru’r DU [FCxxxxxx]).’

Bydd enw’r cwmni wedi ei nodi fel y cafodd ei gofrestru yn ei wladwriaeth tarddiad. Os oes gan gwmni enw sefydliad oherwydd bod ganddo gangen neu le busnes yn y DU, ni fyddwn yn cofrestru’r cwmni fel perchennog gan ddefnyddio’r enw hwn, er y gellir ei gofnodi ar ôl rhif cofrestru’r DU os gwneir cais am hynny.

Bydd cwmnïau wedi eu corffori yn Unol Daleithiau America a Chanada wedi eu corffori’n aml o fewn gwladwriaethau neu diriogaethau sydd wedi eu cynnwys yn y gwledydd hynny ac adlewyrchir hyn hefyd yn y gofrestr. Mae’r un peth yn gymwys i gwmnïau sydd wedi eu corffori mewn rhan arbennig o’r Emiraethau Arabaidd Unedig, er enghraifft Abu Dhabi, a hefyd lle mae cwmni wedi ei gorffori mewn parth masnach rydd, er enghraifft Parth Masnach Rydd Madeira.

4.3 Arwystlon

Rhaid i Gofrestrfa Tir EF fodloni ei hun ynghylch statws corfforaethol y cwmni a’i bwerau i ddal a delio â thir yng Nghymru a Lloegr cyn ei gofrestru fel perchennog arwystl. Bydd angen ichi ddarparu un o’r mathau o dystiolaeth a restrir yn Tystiolaeth sy’n ofynnol i gofrestru cwmni tramor fel perchennog ystad neu arwystl oni bai bod trefniant a gytunwyd ymlaen llaw gyda ni ar gyfer y cwmni hwnnw.

Rhaid i’r arwystl gael ei gyflawni yn unol â Rheoliadau Cwmnïau Tramor (Cyflawni Dogfennau a Chofrestru Arwystlon) 2009 (OS 2009/1917) fel yr esbonnir yn Cyflawni gweithredoedd gan gwmnïau tramor.

Nid yw darpariaethau rheol 111A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gymwys mwyach i arwystlon a grëwyd gan gwmni tramor. Roedd yn rhaid cofrestru arwystlon o’r fath yn Nhŷ’r Cwmnïau os cawsant eu creu ar neu ar ôl 1 Hydref 2009 a chyn 1 Hydref 2001, ond dirymwyd y darpariaethau perthnasol yn Rhan 3 o Reoliadau Cwmnïau Tramor (Cyflawni Gweithredoedd a Chofrestru Arwystlon) 2009 ar 1 Hydref 2011 gan OS 2011/2194. Mae ein cofnodion yn awgrymu bod ceisiadau i gofrestru arwystlon o’r fath a grëwyd cyn 1 Hydref 2011 wedi dod i ben, a bod rheol 1111A wedi ei ddirymu gan Reolau Cofrestru Tir (Diwygiad) 2018, o 6 Ebrill 2018.

Nid oes unrhyw ofyniad o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 i gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau unrhyw arwystl a grëwyd gan bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig dramor.

4.4 Newid enw

Os yw cwmni tramor wedi newid ei enw, mae angen tystiolaeth arnom sy’n dangos bod y cwmni wedi newid ei enw yn ei wlad tarddiad yn unol â chyfreithiau’r wlad honno. I gofrestru newid o’r fath, rhaid ichi ddarparu un o’r canlynol:

  • lle mae’r cwmni wedi sefydlu lle busnes yn y Deyrnas Unedig ac mae manylion y cwmni hwnnw wedi cael eu cofrestru yng Nghofrestrfa’r Cwmnïau o dan adran 1048 o Ddeddf Cwmnïau 2006, llythyr gan Gofrestrfa’r Cwmnïau yn cadarnhau bod yr enw newydd wedi cael ei gofrestru gyda nhw, neu
  • gopi o dystysgrif cofrestru newid enw cwmni tramor a gyhoeddwyd gan Gofrestrfa’r Cwmnïau. (Nid yw tystysgrif sy’n cyfeirio at sefydlu cangen neu le busnes yn y DU yn dystiolaeth ddigonol o newid enw.)

Rhaid cynnwys cyfieithiad ardystiedig neu wedi ei notareiddio gydag unrhyw ddogfennaeth sydd mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.

4.5 Newid domisil

Lle mae cwmni tramor wedi newid ei diriogaeth corfforiad bydd angen cyflwyno’r mathau canlynol o dystiolaeth:

  • llythyr gan gyfreithiwr cymwysedig sy’n ymarfer yn nhiriogaeth A (lle gwreiddiol y corfforiad) sy’n egluro a fydd y cwmni naill ai:
    • yn peidio â bod yn gwmni corfforedig yn y diriogaeth honno, neu
    • yn parhau i fod yn gwmni corfforedig yn y diriogaeth honno yn ogystal â thiriogaeth B

Rhaid i’r llythyr ddatgan hefyd bod cyfraith tiriogaeth A yn cydnabod y cwmni a gorfforwyd yn nhiriogaeth B fel yr un person cyfreithiol â’r cwmni sydd wedi ei gorffori neu a oedd wedi ei gorffori cyn hynny yn nhiriogaeth A, a:

  • llythyr gan gyfreithiwr cymwysedig sy’n ymarfer yn nhiriogaeth B (lle gwreiddiol y corfforiad) sy’n egluro bod:
    • y cwmni wedi cael ei gorffori yn nhiriogaeth B (nid dim ond ei gofrestru fel cwmni tramor gyda changen neu le busnes yno), ac:

mae cyfraith tiriogaeth B yn ystyried mai’r un yw’r cwmni â pherson cyfreithiol â’r cwmni sydd neu oedd wedi ei gorffori cyn hynny yn nhiriogaeth A, yn hytrach na chwmni newydd, a naill ai tystysgrif wedi ei chwblhau’n briodol ar Ffurf 7 gan gyfreithiwr cymwysedig sy’n ymarfer yn nhiriogaeth B neu gopi ardystiedig o’r siarter, statud, rheolau, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu neu ddogfennau eraill yn ailgyfansoddi’r cwmni yn nhiriogaeth B. Rhaid cynnwys cyfieithiad ardystiedig neu wedi ei notareiddio gydag unrhyw ddogfennaeth sydd mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.

Nodir enghreifftiau o lythyrau posibl (yn dibynnu ar yr amgylchiadau) yn Llythyrau enghreifftiol ynghylch newid domisil.

Oni bai bod cyfreithiau’r ddwy diriogaeth yn trin y cwmni a gofrestrwyd yn nhiriogaeth B fel yr un person cyfreithiol â’r cwmni a gofrestrwyd, neu a gofrestrwyd cyn hynny, yn nhiriogaeth A, rhaid i’r cwmni yn nhiriogaeth B gael ei ystyried fel person cyfreithiol newydd a gwahanol, ac os felly ni ellir ei gofnodi yn y gofrestr oni bai bod yr ystad neu’r arwystl yn cael ei drosglwyddo iddo gan y cwmni a gorfforwyd yn nhiriogaeth A, neu ei ddatodwr, yn y ffordd arferol.

Llythyrau enghreifftiol ynghylch newid domisil

(A) Llythyr/tystysgrif oddi wrth bractis/gweithle cyfreithiwr cymwysedig gan gynnwys gwlad [tiriogaeth A]

Enw:

Cyfeiriad (practis/gweithle’r cyfreithiwr tramor, gan gynnwys gwlad [tiriogaeth A]:

Rwy’n ymarfer y gyfraith yn [tiriogaeth A] ac mae gen i hawl i wneud hynny fel cyfreithiwr cymwysedig o dan gyfraith y diriogaeth. Mae gen i’r wybodaeth angenrheidiol o gyfraith y diriogaeth ac o [enw’r gorfforaeth] i roi’r cadarnhad/dystysgrif hon.

Rwy’n cadarnhau/ardystio mewn perthynas ag [enw’r gorfforaeth] (dilëwch fel sy’n briodol):

  • y bydd [enw’r gorfforaeth] yn peidio â chael ei ymgorffori yn [tiriogaeth A], neu
  • y bydd [enw’r gorfforaeth] yn parhau i gael ei ymgorffori yn [tiriogaeth A] yn ogystal â [tiriogaeth B]

a bod cyfraith [tiriogaeth A] yn cydnabod y gorfforaeth a gorfforwyd yn [tiriogaeth B] fel yr un person cyfreithiol â’r cwmni sydd wedi ei gorffori, neu a oedd wedi ei gorffori cyn hynny, yn [tiriogaeth A].

Llofnodwyd:

Dyddiad:

(B) Llythyr/tystysgrif gan gyfreithiwr cymwysedig sy’n ymarfer yn nhiriogaeth B (y man corffori newydd)

Enw:

Cyfeiriad (practis/gweithle’r cyfreithiwr tramor, gan gynnwys gwlad [tiriogaeth B]:

Rwy’n ymarfer y gyfraith yn [tiriogaeth B] ac mae gen i hawl i wneud hynny fel cyfreithiwr cymwysedig o dan gyfraith y diriogaeth. Mae gen i’r wybodaeth angenrheidiol o gyfraith y diriogaeth ac o [enw’r gorfforaeth] i roi’r cadarnhad/dystysgrif hon.

Rwy’n cadarnhau/ardystio mewn perthynas ag [enw’r gorfforaeth]:

  • bod [enw’r gorfforaeth] wedi ei ymgorffori yn [tiriogaeth B]. Nid yw wedi ei gofrestru fel cwmni tramor yn unig gyda changen neu le busnes yn [tiriogaeth B];
  • bod cyfraith [tiriogaeth B] yn cydnabod [enw’r gorfforaeth] fel yr un person cyfreithiol â’r cwmni sydd, neu oedd wedi ei ymgorffori cyn hynny yn [tiriogaeth A], yn hytrach nag fel cwmni newydd.

Llofnodwyd:

Dyddiad:

Sylwer: Yn y ddau achos, rhaid i’r llythyr fod yn ‘agored’ – heb ei farcio’n ‘breifat a chyfrinachol’, neu gydag unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu – a rhaid iddo beidio â bod yn amodol neu’n gyfyngedig mewn unrhyw ffordd

4.6 Cyd-doddiadau trawsffiniol

Mae Rheoliadau Cwmnïau (Trawsffiniol) 2007, sy’n gweithredu Cyfarwyddeb yr EU 2005/56/EU, yn sefydlu fframwaith ar gyfer cyd-doddiadau trawsffiniol rhwng cwmnïau’r DU a chwmnïau o aelod-wladwriaethau Ardal Economaidd Ewropeaidd eraill.

Mae cyd-doddiad trawsffiniol yn digwydd pan fydd cwmni atebolrwydd cyfyngedig newydd neu sy’n bodoli o un wlad yn caffael cwmni o wlad arall, ac o ganlyniad mae’r cwmni ‘trosglwyddai’ sy’n caffael yn ‘amsugno’r’ cwmni sy’n cyd-doddi, sy’n cael ei ddiddymu heb ddatodi ac mae ei asedau a’i rwymedigaethau yn cael eu trosglwyddo i’r trosglwyddai ar ei ddiddymiad.

Rhaid i lys y DU gymeradwyo’r cyd-doddiad os yw’r trosglwyddai yn gwmni’r DU. Os nad yw’r trosglwyddai yn gwmni’r DU, bydd yn rhaid i’r awdurdod cymwys (na fydd, o bosibl, yn llys; er enghraifft, gall fod yn gofrestrfa cwmni) roi ei gymeradwyaeth yn yr aelod-wladwriaeth berthnasol.

Daw cyd-doddiad trawsffiniol o dan Reoliadau Cwmnïau (Trawsffiniol) 2007 i rym trwy weithrediad y gyfraith ac mae’n warediad cofrestradwy at ddiben adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Nid oes ffi i gofrestru’r cyd-doddiad gan ei fod yn fath o freinio statudol.

Lle mae’r ystad yn ddigofrestredig nid yw cyd-doddiad o’r fath yn ysgogiad ar gyfer cofrestriad cyntaf gorfodol o dan adran 4(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, er y gall cais gael ei wneud o hyd ar gyfer cofrestriad gwirfoddol ar ffurflen FR1, gyda’r dystiolaeth o deitl dogfennol arferol. Sylwer bod ffi graddfa 1 (llai) yn daladwy ar gyfer cofrestriad cyntaf gwirfoddol o dan erthygl 2(5) y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)

Bydd angen copi o’r gorchymyn llys gofynnol gydag unrhyw gais i gofrestru cyd-doddiad trawsffiniol. Os yw’r trosglwyddai yn gwmni Ardal Economaidd Ewropeaidd, bydd angen un o’r canlynol arnom hefyd:

  • tystysgrif wedi ei chwblhau’n briodol ar Ffurf 7 (gweler Atodiad 1: Ffurf 7 – Tystysgrif pwerau cwmnïau tramor) gan gyfreithiwr cymwysedig sy’n ymarfer yn nhiriogaeth y corfforiad neu gopi ardystiedig o’r siarter, statud, rheolau, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu neu ddogfennau eraill sy’n ffurfio cyfansoddiad y gorfforaeth
  • copi o’r gorchymyn a wnaed gan yr awdurdod cymwys yn aelod-wladwriaeth berthnasol yr Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • copi o’r cofnod perthnasol a wnaed yng nghofrestr cwmnïau’r DU yn unol â rheoliad 21 o Reoliadau Cwmnïau (Trawsffiniol) 2007 (yn cadarnhau dyddiad effeithiol y cyd-doddiad trawsffiniol a throsglwyddiad yr asedau a rhwymedigaethau i’r cwmni Ardal Economaidd Ewropeaidd)

Rhaid cynnwys cyfieithiad ardystiedig neu wedi ei notareiddio gydag unrhyw ddogfennaeth sydd mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.

4.7 Cwmnïau cell gwarchodedig a chwmnïau cell corfforedig

Mae rhai awdurdodaethau yn darparu ar gyfer cwmnïau cell gwarchodedig a chwmnïau cell corfforedig. Mae hyn yn golygu y gall asedau a rhwymedigaethau amrywiol y cwmni gael eu rhannu’n ‘gelloedd’ ar wahân a all fod â phersonoliaeth gyfreithiol ar wahân neu beidio. Bydd union natur cwmni cell gwarchodedig neu gwmni cell corfforedig yn dibynnu ar y gyfraith yn y diriogaeth lle y crëwyd y cwmni. Lle mae cais yn cael ei wneud i gofrestru cwmni cell gwarchodedig neu gwmni cell corfforedig fel perchennog ystad neu arwystl, bydd angen tystiolaeth arnom ynghylch cyfansoddiad a phersonoliaeth gyfreithiol y ceisydd.

Er enghraifft, o dan gyfraith Guernsey, mae cwmni cell gwarchodedig yn unig berson cyfreithiol ac nid yw celloedd gwahanol o fewn strwythur y cwmni cell gwarchodedig yn bersonau cyfreithiol. Felly gall ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig gael ei gofrestru dim ond yn enw’r cwmni cell gwarchodedig p’un a yw’r eiddo yn berchen i graidd y cwmni cell gwarchodedig neu dim ond cell. Os oes enw masnachu ei hun gan y gell ac mae cais penodol yn cael ei wneud yn y ffurflen gais neu mewn llythyr, caiff hyn ei gynnwys yn y cofnod yn y gofrestr.

Yn wyneb strwythur cwmni, gall cais i gofnodi cyfyngiad gael ei gyflwyno gyda chais i gofrestru cwmni cell gwarchodedig.

Yn wahanol i gwmni cell gwarchodedig, os yw cwmni cell corfforedig, o dan gyfraith Guernsey, yn creu cell o fewn ei strwythur, mae pob cell gorfforedig yn berson cyfreithiol ar wahân.

4.8 Societas Europaea

Mae Societas Europaea yn fath o gwmni cyhoeddus Ewropeaidd a gyflwynwyd i gyfraith y DU a daeth i rym o 8 Hydref 2004 gan Reoliadau Atebolrwydd Cyfyngedig Cyhoeddus Ewropeaidd 2004 gyda’r nod rhannol o hwyluso trosglwyddiadau a chyd-doddiadau gyda chwmnïau mewn rhannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd. Mae personoliaeth gyfreithiol wahanol ganddo i’w aelodau.

Gall Societas Europaea gael ei sefydlu a’i gofrestru mewn unrhyw aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Gall drosglwyddo ei swyddfa gofrestredig o fewn yr Undeb Ewropeaidd heb ddiddymu mewn un aelod-wladwriaeth a’i ail-gorffori mewn un arall.

Pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru Societas Europaea fel perchennog ystad neu arwystl, bydd yn rhaid inni gael y dystiolaeth a nodir yn Tystiolaeth sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru cwmni tramor fel perchennog ystad neu arwystl.

O dan Reoliadau Grŵp Budd Economaidd Ewropeaidd (Diwygiad) (Ymadael â’r UE) 2018 (OS 2018/1299), fel y’i diwygiwyd gan adran 2 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020, cafodd unrhyw Societas Europea sy’n bodoli ac sy’n dal wedi ei gofrestru yn y DU ar 31 Rhagfyr 2020 (diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) ei drosi’n awtomatig i fod yn “UK Societas”. Mae UK Societas yn cael ei ystyried at ddibenion adran 1044 o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel un sydd wedi ei ymgorffori y tu allan i’r DU.

Rhaid i Societas Europea (ac UK Societas), p’un a oes ganddo strwythur “dwy haen” neu “un haen”, gael o leiaf 2 aelod o’i “organ reoli” (“dwy haen”) neu organ weinyddol (“un haen”) (Rheoliadau Cwmnïau Atebolrwydd Cyhoeddus Cyfyngedig Ewropeaidd 2004, rheoliadau 61 a 64). Felly bydd y gofynion ar gyfer cyflawni dogfennau yr un fath ag ar gyfer cwmni tramor ond gyda 2 aelod o’i organ reoli neu weinyddol yn cyflawni’r offeryn.

Fodd bynnag, mae trosi i fod yn gwmni atebolrwydd cyfyngedig y DU yn bosibl (roedd yn rhaid i Societas Europea sy’n bodoli wneud hyn cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; ar gyfer UK Societas nid oes terfyn amser ar hyn o bryd). Pan fydd wedi trosi i fod yn gwmni atebolrwydd cyfyngedig y DU, bydd y gofynion ar gyfer cyflawni dogfennau yr un fath ag ar gyfer cwmnïau sydd wedi eu corffori o dan Ddeddf Cwmnïau 2006.

5. Cyflawni gweithredoedd gan gwmnïau tramor

Mae Rheoliadau Cwmnïau Tramor (Cyflawni Dogfennau a Chofrestru Arwystlon) 2009 (Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009) yn caniatáu i gwmni tramor gyflawni dogfen mewn un o’r tair ffordd ganlynol. Mae Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009 yn cymhwyso adran 44 o Ddeddf Cwmnïau 2006 gyda rhai diwygiadau.

Mae cwestiynau ynghylch pwy sydd â’r awdurdod priodol i weithredu ar ran cwmni tramor wrth lunio contract neu gyflawni dogfen yn cael eu penderfynu gan gyfraith domisil y cwmni, ac nid cyfraith lywodraethol y contract neu’r ddogfen (Integral Petroleum SA v Scu-Finanz AG [2015] EWCA Civ 144).

Oni bai bod y cwmni tramor eisoes yn berchennog y tir neu’r arwystl, bydd angen inni weld tystiolaeth o’i statws corfforaethol, a all gynnwys naill ai dystysgrif ar Ffurf 7 a ddarperir gan gyfreithiwr cymwysedig sy’n ymarfer yn nhiriogaeth y corfforiad neu gopi ardystiedig o gyfansoddiad y gorfforaeth – gweler Tystiolaeth sy’n ofynnol wrth gofrestru cwmni tramor fel perchennog ystad neu arwystl.

Os yw’r dull cyflawni gan gwmni tramor yn cynnwys llofnod electronig, rhaid i’r llofnod gydymffurfio â’n gofynion yng nghyfarwyddyd ymarfer 82: llofnodion electronig a dderbynnir gan Gofrestrfa Tir EF. At ddibenion cyfarwyddyd ymarfer 82, mae i “trawsgludwr” yr ystyr a roddir gan reol 217A o Reolau Cofrestru Tir 2003 ac ystyr “trawsgludwr unigol” yw unigolyn a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) neu (b) o’r rheol honno.

5.1 Cyflawni o dan sêl gyffredin

Gall cwmni tramor sydd â sêl gyffredin gyflawni gweithredoedd trwy ddefnyddio’r sêl honno ar yr amod bod y weithred yn cael ei chyflawni mewn ffurf sy’n briodol i gwmni a gofrestrwyd o dan y Ddeddf Cwmnïau, gyda’r fath addasiadau ag y gall fod yn angenrheidiol. Mae Cyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd – adran 3.1 Cwmni yn cyflawni o dan ei sêl gyffredin yn amlinellu’r dulliau ar gyfer cyflawni gweithred yn y modd hwn.

Lle mae’r sêl yn cael ei gosod a’i hardystio ym mhresenoldeb swyddog parhaol y gorfforaeth nad yw’n glerc (neu ei ddirprwy) neu’n ysgrifennydd (neu ei ddirprwy), rhaid ychwanegu nodyn at y disgrifiad o dan y llofnod i’r perwyl bod y llofnodwr, mewn gwirionedd, yn swyddog parhaol o’r gorfforaeth. Mae nodyn tebyg yn ofynnol pan fydd y sêl yn cael ei gosod a’i hardystio ym mhresenoldeb aelod o’r corff llywodraethu os nad yw ei deitl yn gwneud hynny’n glir.

Gallwn dderbyn cyflawni trwy’r dull hwn hefyd hyd yn oed os nad yw cwmni tramor wedi cael sêl o’r blaen. Ar yr amod nad oes dim yng nghyfansoddiad y gorfforaeth neu gyfraith gartref i gyfyngu ei phwerau yn hyn o beth, byddai’n ymddangos y gallai’r bwrdd, cyngor neu gorff llywodraethu arall fabwysiadu sêl er mwyn cyflawni gweithredoedd ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr.

5.2 Cyflawni mewn dull a ganiateir gan gyfraith leol

O dan Reoliad 4 o Reoliadau Cwmnïau Tramor 2009, gellir cyflawni gweithred “mewn unrhyw ddull a ganiateir gan gyfreithiau’r diriogaeth lle mae’r cwmni’n gorfforedig i gwmni o’r fath gyflawni dogfennau”. Yn yr achos hwn bydd angen tystiolaeth arnom (a allai gynnwys llythyr gan gyfreithiwr cymwysedig sy’n ymarfer deddfwriaeth gartref tiriogaeth y corfforiad neu’n gyfarwydd â hi) i weld bod y dull cyflawni a ddefnyddir yn effeithiol mewn gwirionedd yn ôl cyfraith tiriogaeth y corfforiad. Ni ddylai tystiolaeth o’r fath fod yn amodol mewn unrhyw ffordd.

Rhaid cynnwys cyfieithiad ardystiedig neu wedi ei notareiddio gydag unrhyw ddogfennaeth sydd mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.

5.3 Cyflawni trwy lofnod person awdurdodedig

5.3.1 Unigolyn yw’r person awdurdodedig

Mae Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009 yn cymhwyso adran 44(2) o’r Ddeddf Cwmnïau ddiwygiedig fel a ganlyn:

“(2) Mae gan ddogfen sydd:

(a) wedi ei llofnodi gan rywun sydd, yn unol â chyfreithiau’r diriogaeth lle corfforwyd y cwmni tramor, yn gweithredu o dan awdurdod (goblygedig ac ymhlyg) y cwmni, ac

(b) wedi ei mynegi (ar ba ffurf bynnag) i’w chyflawni gan y cwmni,

yr un effaith o ran y cwmni hwnnw ag y byddai o ran cwmni corfforedig yng Nghymru a Lloegr neu Ogledd Iwerddon o’i chyflawni o dan sêl gyffredin cwmni a gorfforwyd felly.”

Caiff adran 44(3) o Ddeddf Cwmnïau 2006 ei addasu i ddarllen:

“(3) O blaid prynwr ystyrir bod cwmni tramor wedi cyflawni dogfen yn briodol os yw’n honni ei bod wedi ei llofnodi yn unol ag is-adran (2).”

Mae Rheoliadau 2009 yn addasu adran 46 o’r Ddeddf Cwmnïau i gadarnhau y caiff dogfen ei chyflawni’n ddilys fel gweithred gan gwmni tramor os caiff ei gyflawni gan y cwmni a’i anfon fel gweithred.

Lle mae’r weithred i gael ei chyflawni gan y cwmni trwy lofnod personau awdurdodedig yn unol ag adran 44(2) o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel yr addaswyd gan Reoliadau Cwmnïau Tramor 2009, rhaid defnyddio’r cymal ardystio canlynol (paragraff E o Atodlen 9 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Diwygiwyd paragraff E gan Reolau Cofrestru Tir 2018 o 6 Ebrill 2018 ar gyfer gweithredoedd a gwblhawyd ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, er mwyn adlewyrchu’n fwy cywir Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009.)

Wedi ei chyflawni fel gweithred gan (enw’r cwmni), cwmni corfforedig yn (tiriogaeth), yn gweithredu gan (enwau llawn y rhai sy’n llofnodi) sydd, yn unol â chyfreithiau’r diriogaeth honno, yn gweithredu o dan awdurdod y cwmni.

Llofnod yn enw’r cwmni

Llofnod(ion):

[Llofnodwr][Llofnodwyr] awdurdodedig

Enghraifft o sut i gwblhau ffurf gweithredu:

[Graffig ar gyfer cyflawni]

O dan “Llofnod yn enw’r cwmni” yn y blwch llofnod, rhaid i enw’r cwmni ymddangos. Gall y person sy’n paratoi’r offeryn deipio neu ysgrifennu’r enw hwnnw yn y gofod a ddarperir, neu gall y llofnodwr awdurdodedig ei ysgrifennu â llaw. Os oes mwy nag un llofnodwr o’r fath, dim ond unwaith y mae angen i enw’r cwmni gael ei ysgrifennu, ac os na chaiff ei gynnwys fel rhan o’r offeryn yn ystod ei baratoi, gall unrhyw un o’r llofnodwyr ei ysgrifennu.

Rhaid i’r llofnodwr (neu lofnodwyr) awdurdodedig lofnodi isod gyda’u llofnod eu hunain. Gellir cynyddu maint y blwch llofnod fel bo’r angen i ddarparu ar gyfer y llofnodion.

Rhaid cwblhau’r cymal ardystio (y panel naratif ar ochr chwith y blwch llofnod) yn gywir. Mae hyn yn cadarnhau bod y cwmni’n cyflawni fel gweithred, yn unol ag adran 46 a addaswyd o Ddeddf Cwmnïau 2006, ac yn cadarnhau pwy yw’r llofnodwr(wyr) awdurdodedig sy’n gallu cyflawni’n ddilys i’r cwmni o dan adran 44(2).

5.3.2 Corff corfforaethol tramor arall yw’r person awdurdodedig

Lle mae cwmni tramor yn gweithredu gan lofnodwr(wyr) awdurdodedig sy’n gyrff corfforaethol eu hunain, dylai cyflawni gydymffurfio ag is-adrannau 44(4), (5) a (6) o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel y’u haddaswyd gan reoliad 4 o Reoliadau Cwmnïau Tramor 2009, ac Atodlen 9 Rhan E o Reolau Cofrestru Tir 2003 (er gellir ychwanegu eglurder o ran statws y llofnodwr). Lle mae dogfen wedi ei llofnodi gan berson ar ran mwy nag un cwmni tramor, nid yw wedi ei llofnodi’n briodol oni bai bod y person yn llofnodi ar wahân ym mhob rhinwedd. Ffurf cyflawni awgrymedig lle mae corff corfforaethol yn gwmni tramor hefyd fyddai:

Wedi ei chyflawni fel gweithred gan (enw cwmni A), cwmni wedi ei ymgorffori yn (tiriogaeth), yn gweithredu gan (enw cwmni B) {a (enw cwmni C)}, sydd, yn unol â chyfreithiau’r diriogaeth honno, yn gweithredu o dan awdurdod y cwmni.

Mae (enw cwmni B) wedi ei ymgorffori yn (tiriogaeth) ac yn gweithredu gan (enw’r unigolyn[unigolion] X [ac Y]) sydd, yn unol â chyfreithiau’r diriogaeth honno, yn gweithredu o dan awdurdod (cwmni B)

Mae {(enw cwmni C) wedi ei ymgorffori yn (tiriogaeth) ac yn gweithredu gan (enw’r unigolyn[unigolion] Y [a Z]) sydd, yn unol â chyfreithiau’r diriogaeth honno, yn gweithredu o dan awdurdod (cwmni C)}

Llofnod yn enw’r cwmni [A]

Llofnod yn enw’r cwmni [B]

Llofnod y cwmni [llofnodwr] [llofnodwyr] cwmni [B]

[Llofnod yn enw’r cwmni [C]

Llofnod [llofnodwr] [llofnodwyr] awdurdodedig cwmni [C]]

Enghraifft o sut i lenwi ffurf cyflawni:

[Graffig ar gyfer cyflawni]

Fel arall, mae’r gofynion ar gyfer ‘Person awdurdodedig yn unigolyn’ yn gymwys (gan gynnwys y geiriad y mae’n rhaid iddo ymddangos o dan “Llofnod yn enw’r cwmni”).

5.3.3 Corff corfforaethol yng Nghymru neu Loegr yw’r person awdurdodedig

Lle mae’r llofnodwr/wyr awdurdodedig wedi eu hymgorffori yng Nghymru a Lloegr, rhaid i’r cyflawni gydymffurfio ag is-adrannau 44(4), (5) a (6) o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel y’u haddaswyd gan reoliad 4 o Reoliadau Cwmnïau Tramor 2009, ac Atodlen 9 Rhan E o Reolau Cofrestru Tir 2003 o hyd (er y gellir ychwanegu eglurhad ynghylch statws y llofnodwr).

Ffurf cyflawni awgrymedig fyddai:

Wedi ei chyflawni fel gweithred gan (enw cwmni A), cwmni wedi ei ymgorffori yn (tiriogaeth), yn gweithredu gan (enw cwmni B), sydd, yn unol â chyfreithiau’r diriogaeth honno, yn gweithredu o dan awdurdod y cwmni.

Mae (enw cwmni B) wedi ei ymgorffori yng Nghymru a Lloegr o dan rif cofrestru cwmni (rhif) ac mae’n gweithredu gan (enw’r unigolyn), cyfarwyddwr, ac (enw’r unigolyn), cyfarwyddwr [ysgrifennydd y cwmni].

Llofnod yn enw’r cwmni [A]

Llofnod yn enw’r cwmni [B]

Llofnod y cwmni [llofnodwr] [llofnodwyr] cwmni [B]

[

Enghraifft o sut i gwblhau ffurf cyflawni:

[Graffig ar gyfer cyflawni]

Fel arall, mae’r gofynion ar gyfer ‘Unigolyn yw’r person awdurdodedig’ yn gymwys.

5.3.4 Cyflawni o dan atwrneiaeth yng Nghymru a Lloegr

Gall cwmni tramor benodi atwrnai gan ddefnyddio atwrneiaeth yng Nghymru a Lloegr. Os caiff dogfen a gyflwynir inni ei chyflawni o dan atwrneiaeth o’r fath, bydd angen copi ardystiedig o’r atwrneiaeth arnom. Rhaid cyflawni unrhyw atwrneiaeth o’r fath fel gweithred. O ganlyniad, rhaid ei chyflawni yn unol â Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009 (a drafodir uchod) a bydd angen ichi gyflwyno unrhyw dystiolaeth briodol o hyn gyda’ch cais.

Os yw cwmni tramor yn penodi unigolyn fel atwrnai o dan atwrneiaeth yng Nghymru a Lloegr, caiff yr unigolyn hwnnw:

  • gyflawni yn ei enw ei hunan fel atwrnai ar gyfer y rhoddwr (adran 7(1) o Ddeddf Atwrneiaeth 1971), neu
  • gyflawni yn enw’r rhoddwr ar yr amod ei fod yn cydymffurfio â gofynion adran 74(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925

Os yw cwmni tramor yn penodi corfforaeth fel atwrnai o dan atwrneiaeth yng Nghymru a Lloegr, caiff y gorfforaeth honno:

  • gyflawni’r weithred mewn modd a ganiateir gan adran 44 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y’i diwygiwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth briodol, er enghraifft, rheoliad 4 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009), neu
  • os ydynt yn gorfforaeth yng Nghymru a Lloegr, penodi swyddog i gyflawni yn unol ag adran 74(4) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925

Ymhob achos, mae adran 9 o gyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd yn cynnwys enghreifftiau o gymalau cyflawni sy’n briodol mewn amgylchiadau o’r fath.

Lle mae’r rhoddai o dan atwrneiaeth yng Nghymru a Lloegr yn gwmni tramor, byddai’n rhaid i unrhyw gymal cyflawni gydymffurfio â Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009. O dan amgylchiadau o’r fath, gallai’r canlynol fod yn gymal cyflawni addas:

“Wedi ei chyflawni fel gweithred gan (enw cwmni’r rhoddai), cwmni sydd wedi ei gorffori yn (tiriogaeth), yn gweithredu gan (enwau llawn y personau sy’n llofnodi) sydd, yn unol â chyfreithiau’r diriogaeth honno, yn cyflawni o dan awdurdod y cwmni fel atwrnai ar gyfer (enw cwmni’r rhoddwr).

Llofnod yn enw cwmni’r rhoddai

Llofnod(ion):

[Llofnodwr] [llofnodwr] awdurdodedig”

Yn yr achos hwn ystyr ‘rhoddai’ yw’r person/pobl/cwmni/cwmnïau wedi eu hawdurdodi i gyflawni ar ran y cwmni tramor trwy atwrneiaeth.

5.3.5 Cyflawni o dan atwrneiaeth dramor

Gall cwmni tramor benodi atwrnai trwy atwrneiaeth a grëwyd mewn awdurdodaeth arall ac a lywodraethir gan gyfraith awdurdodaeth arall. Gall atwrneiaethau o’r fath ganiatáu i’r rhoddai gyflawni dogfennau ar ran y rhoddwr.

O dan amgylchiadau o’r fath, gan dybio bod yr atwrneiaeth yn rhwymol ar y cwmni tramor yn unol â deddfau tiriogaeth ei gorfforiad, bydd y rhoddai yn berson sy’n gweithredu o dan awdurdod penodol y cwmni at ddibenion Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009. Yn unol â hynny, caiff ddefnyddio’r cymalau cyflawni a nodir yn adran 5.3.1-5.3.3 (uchod). Os yw’r partïon yn dymuno egluro bod awdurdod y llofnodwr/llofnodwyr yn dod o atwrneiaeth dramor, gallant wneud hynny. O dan amgylchiadau o’r fath, gallai’r canlynol fod yn gymal cyflawni addas:

“Wedi ei chyflawni fel gweithred gan (enw cwmni’r rhoddwr), cwmni wedi ei gorffori yn (tiriogaeth), yn gweithredu gan (enwau llawn y personau sy’n llofnodi) sydd, yn unol â chyfreithiau’r diriogaeth honno, yn gweithredu o dan awdurdod y cwmni yn unol ag atwrneiaeth wedi ei dyddio (dyddiad) a wnaed o dan gyfraith (tiriogaeth).

Llofnod yn enw cwmni’r rhoddwr

Llofnod

[Llofnodwr] [llofnodwyr] awdurdodedig”

Lle caiff unrhyw ddogfen ei chyflawni yn unol ag atwrneiaeth dramor, rhaid i’r ceisydd ddarparu:

  • copi ardystiedig o’r atwrneiaeth (ynghyd â chyfieithiad wedi ei ddilysu o’r atwrneiaeth os nad yw yn Gymraeg neu Saesneg, a
  • barn gyfreithiol fel y nodir isod.

Lle rhoddir yr atwrneiaeth o dan gyfraith tiriogaeth corfforiad y cwmni tramor, rhaid i’r ceisydd ddarparu barn gyfreithiol gan gyfreithiwr sy’n gymwysedig i ymarfer yn y diriogaeth honno sy’n cadarnhau:

  • y caniateir cyflawni gan atwrnai gan gyfreithiau’r awdurdodaeth yr ymgorfforwyd y cwmni tramor ynddi;
  • bod gan y cwmni y gallu cyfreithiol i benodi atwrnai;
  • bod y cwmni tramor wedi cydymffurfio ag unrhyw ffurfioldeb sy’n llywodraethu penodiad atwrnai yn awdurdodaeth ei gorfforiad ac wedi ei rwymo gan atwrneiaeth;
  • bod yr atwrneiaeth yn awdurdodi’r rhoddai i gyflawni’r ddogfen berthnasol ar ran y rhoddwr, a
  • bod yr atwrneiaeth yn parhau’n ddilys adeg ei chyflawni.

Rhaid i unrhyw farn gyfreithiol beidio â bod yn gymwys nac yn amodol. Os yw mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, rhaid i’r ceisydd ddarparu cyfieithiad ardystiedig ohoni.

Pan roddir yr atwrneiaeth o dan gyfraith awdurdodaeth heblaw tiriogaeth corfforiad y cwmni tramor neu Gymru a Lloegr, efallai y bydd angen tystiolaeth ychwanegol arnom gan gyfreithiwr yn y diriogaeth honno hefyd i ddangos bod y cyflawni yn effeithiol.

5.3.6 Cyflawni gan Grwpiau Budd Economaidd Ewropeaidd

Ar gyfer Grwpiau Budd Economaidd Ewropeaidd, dim ond eu rheolwr(wyr) neu (os yw rheolwr yn gorff corfforaethol) cynrychiolydd a benodwyd yn briodol o dan reoliad 5 o Reoliadau Grŵp Budd Economaidd Ewropeaidd 1989 (OS 1989/638) all gynrychioli’r Grŵp Budd Economaidd Ewropeaidd mewn deliadau â thrydydd partïon. Gallwn gwestiynu gwarediad a gyflawnwyd gan unig reolwr os yw’r gwarediad o blaid un o aelodau’r Grŵp Budd Economaidd Ewropeaidd.

Awgrymir y ffurf ganlynol o gyflawni (nid oes un penodedig):

“Llofnodwyd a chyflwynwyd (neu llofnodwyd fel gweithred) gan [enw]

(Unig neu gyd) gynrychiolydd)/(reolwyr)

__________ Grŵp Budd Economaidd Ewropeaidd

Ym mhresenoldeb________.”

O dan Reoliadau Grŵp Budd Economaidd Ewropeaidd (Diwygiad) (Ymadael â’r UE) 2018 (OS 2018/1299), fel y’i diwygiwyd gan adran 2 ac Atodlen 5, paragraff 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020, cafodd unrhyw endidau Grŵp Budd Economaidd Ewropeaidd sy’n bodoli oedd yn dal i fod wedi eu cofrestru yn y DU ar 31 Rhagfyr 2020 (diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) eu trosi’n awtomatig i fod yn endid corfforaethol newydd y DU – Grŵp Budd Economaidd y DU.

Gall aelodau o Grŵp Budd Economaidd y DU ofyn am “lofnod dwbl” ac felly mae Grŵp Budd Economaidd y DU wedi ei rwymo gan weithredu ar y cyd dau reolwr arall yn unig.

Ar gyfer Grŵp Budd Economaidd y DU, awgrymir y ffurf uchod o gyflawni (nid oes un penodedig) ond rhoi “Grŵp Budd Economaidd Ewropeaidd y DU” yn lle “Grŵp Budd Economaidd Ewropeaidd”.

5.4 Rhyddhadau a gollyngiadau gan gwmnïau tramor

Rhaid cyflawni ffurflen DS1 neu ffurflen DS3 fel gweithred (rheol 114(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid felly i’r cyflawni gydymffurfio ag un o’r tri dull cyntaf o gyflawni gweithred gan gwmni tramor a nodir uchod. Bydd angen inni weld yr un dystiolaeth â’r hyn a ddisgrifir uchod, heblaw am statws y cwmni, lle mae eisoes wedi ei gofrestru fel perchennog yr arwystl cofrestredig hefyd.

5.5 Trefniadau â Chofrestru Tir EF ynghylch cyflawni

Efallai yr hoffai cwmni tramor sy’n barti rheolaidd mewn dogfennau a gyflwynir i’w cofrestru ystyried ceisio gwneud trefniant â ni lle rydym yn ceisio cymeradwyo’r dull o gyflawni gweithredoedd a rhyddhadau, a’r dystiolaeth y mae’n ofynnol i’w darparu wrth wneud cais i gofrestru fel perchnogion ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig. Nid oes unrhyw sicrwydd y caiff y trefniant ei ddarparu ym mhob achos; fodd bynnag, dylai trefniant o’r fath osgoi’r angen am ymholiadau ynghylch dilysrwydd cyflawni neu bwerau cwmni tramor i ddal ystadau neu fenthyca arian ar warant ystadau. Os caiff ei gymeradwyo, bydd Prif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF yn cyhoeddi ‘llythyr cyfleuster’ i gadarnhau manylion y trefniant. Dylid cyflwyno copi o unrhyw lythyr cyfleuster a gyhoeddir gyda cheisiadau i gofrestru.

Os ydych yn teimlo y gall cleient elwa ar drefniant o’r fath, cysylltwch â’r Adran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF i gael cyngor pellach.

Sylwer nad yw’r cyfarwyddyd hwn mewn unrhyw fodd yn effeithio ar drefniadau sydd eisoes mewn grym.

6. Ansolfedd

Yn ogystal â’r cyfarwyddyd isod, efallai y bydd angen ichi ystyried a yw paragraffau 3(2)(f) neu 4(2)(f) o Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gymwys i’r gwarediad, gan gynnwys a yw’r gwarediad wedi ei wneud gan ymarferydd ansolfedd penodol mewn amgylchiadau penodol o dan baragraffau 3(2)(f) neu 4(2)(f) o Atodlen 4A. Fodd bynnag, sylwch nad oes unrhyw reoliadau wedi eu gwneud ar hyn o bryd yn nodi’r amgylchiadau hyn.

Cydnabyddir datodiad cwmni tramor yng ngwlad ei gorfforiad yng nghyfraith Lloegr. Os hoffech wneud cais i gofrestru gwarediad a wnaed gan neu ar ran y fath gwmni rhaid ichi gyflwyno’ch cais ar ffurflen AP1, gyda thystiolaeth briodol o’r datodiad a’i effaith. Gallai hyn gynnwys:

  • copïau ardystiedig o’r gorchmynion llys neu ddogfennau eraill y dibynnir arnynt, yn cynnwys penodi datodwr tramor, a
  • barn ysgrifenedig cyfreithwyr sy’n gymwys i ymarfer cyfraith cwmnïau yng ngwlad y corfforiad ynghylch natur ac effaith yr achos ar y cwmni a phwerau’r datodwr neu’r person arall sy’n cynrychioli’r cwmni, gan gynnwys y pŵer i gyflawni dogfennau ar ran y cwmni

Rhaid cynnwys cyfieithiad ardystiedig neu wedi ei notareiddio gydag unrhyw ddogfennaeth sydd mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg. Gall cwmni tramor sydd wedi bod yn gwneud busnes yn y DU gael ei ddirwyn i ben fel cwmni digofrestredig o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 er iddo gael ei ddiddymu eisoes o bosib, neu mae wedi peidio â bodoli fel arall, o dan gyfraith gwlad ei gorfforiad (adran 225 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Caiff y cwmni ei ddirwyn i ben trwy gyfrwng gorchymyn llys a bydd yn rhaid cynhyrchu copi ardystiedig o’r gorchymyn dirwyn i ben (o dan adran 125 o Ddeddf Ansolfedd 1986) ym mhob achos. Os mai’r derbynnydd swyddogol yw’r datodwr, nid oes angen unrhyw beth arall. Ar gyfer datodwyr eraill, rhaid ichi gynhyrchu fel tystiolaeth naill ai:

  • copi ardystiedig o’r penderfyniad a basiwyd yng nghyfarfod y credydwyr sy’n penodi’r datodwr (o dan adran 139(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986)
  • copi ardystiedig o’r penderfyniad a basiwyd yng nghyfarfod y cyfranwyr sy’n penodi’r datodwr a thystysgrif gan y datodwr, neu ei drawsgludwr, yn dangos bod cyfarfod o’r credydwyr wedi cael ei gynnal yn briodol a bod cyfarfod o’r credydwyr naill ai wedi cadarnhau penodiad y datodwr neu nid oedd wedi pasio penderfyniad yn enwebu’r datodwr. Os yw cyfarfodydd y credydwyr a’r cyfranwyr yn enwebu datodwyr gwahanol, bydd y person a enwebir gan y credydwyr yn gweithredu oni bai bod gorchymyn yn cael ei wneud gan y llys ar gais a wneir o fewn saith diwrnod o enwebiad y credydwyr – adrannau 139(3) a (4) o Ddeddf Ansolfedd 1986
  • copi ardystiedig o orchymyn y llys sy’n penodi’r datodwr o dan adrannau 139(4) neu 140 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Unrhyw bryd ar ôl cyflwyno’r ddeiseb dirwyn i ben, gall y llys benodi datodwr dros dro i gyflawni’r fath swyddogaethau fel y gallai eu rhoi. Gall pwerau’r datodwr dros dro gael eu cyfyngu gan y gorchymyn sy’n gwneud y penodiad, neu
  • gopi ardystiedig o benodiad y datodwr gan yr Ysgrifennydd Gwladol (o dan adran 137 o Ddeddf Ansolfedd 1986)

6.1 Ceisiadau o dan y Rheoliadau Ansolfedd Trawsffiniol

Mae Rheoliadau Ansolfedd Trawsffiniol 2006 (Rheoliadau 2006) yn gweithredu Cyfraith Enghreifftiol Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith Masnachu Rhyngwladol ar ansolfedd trawsffiniol. Mae’r Gyfraith Enghreifftiol yn bwriadu cwmpasu achosion megis y rhai lle mae asedau gan ddyledwr mewn mwy nag un wladwriaeth. Amcan pwysig y Gyfraith Enghreifftiol yw darparu mynediad uniongyrchol i’r sawl sy’n gweinyddu achos ansolfedd tramor (y cynrychiolydd tramor) i lysoedd y wlad hon i geisio seibiant dros dro a chaniatáu i’r llysoedd benderfynu pa ryddhad neu gydlyniad y mae ei angen er mwyn gwaredu’r ansolfedd yn y ffordd orau bosibl.

Mae’r Gyfraith Enghreifftiol yn sefydlu meini prawf ar gyfer llys yng Nghymru a Lloegr i benderfynu a yw achos tramor i’w gydnabod ac os felly, ai fel “prif” achos neu “heb fod yn brif” achos (yn dibynnu a yw’r achos tramor yn cael ei gynnal yn y wlad lle y lleolir prif ganolfan buddion y cwmni sy’n ddyledwr).

Mae’r Gyfraith Enghreifftiol yn amlinellu effeithiau cydnabod achos ansolfedd tramor gan lys yng Nghymru a Lloegr a’r rhyddhad sydd ar gael i gynrychiolydd tramor.

Un o effeithiau gorchymyn ar gyfer cydnabod prif achos tramor o dan Erthygl 20 o’r Gyfraith Enghreifftiol yw ysgogi’n awtomatig atal hawl cwmni i drosglwyddo, llyffetheirio neu waredu ei asedau fel arall. Mae’r atal hwn o’r un cwmpas â phe bai’r cwmni wedi cael ei wneud yn destun gorchymyn dirwyn i ben. Fodd bynnag ni wneir gorchymyn dirwyn i ben ac nid oes datodiad neu benodi datodwr. Yr effaith bennaf at ddibenion Cofrestru Tir yw na fydd pŵer gan swyddogion y cwmni i gyflawni dogfennau mwyach ar ran y cwmni. Gall yr atal awtomatig gael ei addasu neu ei derfynu gan orchymyn llys.

Mae’r Gyfraith Enghreifftiol hefyd yn darparu i’r llys roi naill ai rhyddhad interim (Erthygl 19) neu ddewisol (Erthygl 21) i’r cynrychiolydd tramor er budd unrhyw achos tramor cydnabyddedig. Mae hyn yn cynnwys rhyddhad i ohirio hawl y cwmni i waredu neu lyffetheirio ei asedau. Rhagwelir y bydd unrhyw orchmynion llys sy’n rhoi rhyddhad o dan naill ai Erthygl 19 neu 21 yn benodol eu natur.

6.1.1 Ceisiadau i gofrestru cyfyngiad yn seiliedig ar orchymyn llys o dan Erthyglau 19, 20 a 21

Os yw gorchymyn yn cael ei wneud gan y llys, mae Rheoliadau 2006 yn darparu y bydd cynrychiolydd tramor yn cyflwyno’r cais priodol i’r Prif Gofrestrydd Tir i weithredu telerau’r gorchymyn. Mae Atodlen 2 o Ran 7 o Reoliadau 2006 yn amlinellu’r math o ddiogelwch y gellir gwneud cais amdano. Ni fydd hyn yn effeithio ar y diogelwch a roddir i brynwyr trydydd parti o dan adran 26 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

6.1.2 Lle mae’r cwmni yn berchennog cofrestredig ystad gofrestredig

Lle mae’r gorchymyn yn orchymyn cydnabod mewn perthynas â phrif achos tramor o dan Erthygl 20 neu orchymyn sy’n atal hawl y cwmni sy’n ddyledwr i drosglwyddo, llyffetheirio neu waredu fel arall ag unrhyw asedau’r cwmni ac mae’r cwmni yn berchennog cofrestredig ystad gofrestredig y mae’n ei dal er ei unig fudd, mae’r Rheoliadau yn rhagnodi y bydd y cais ar gyfer cyfyngiad i’r perwyl:

“ni chaiff gwarediad o’r ystad gofrestredig …gan berchennog cofrestredig yr ystad …ei gwblhau trwy gofrestriad o fewn ystyr adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac eithrio o dan orchymyn pellach y llys”.

Rhagwelir y bydd y math arferol o gais ar gyfer cofnodi ffurf cyfyngiad ansafonol yn y telerau hynny. Mae hyn yn debyg mewn gwirionedd i’r cyfyngiad safonol ffurf AA a ddefnyddir i ddiogelu buddion o dan orchymyn rhewi.

Mewn unrhyw achos arall, bydd y cais ar gyfer cofnod o’r fath yn ôl yr hyn sy’n angenrheidiol er mwyn adlewyrchu effaith y gorchymyn llys.

Dylai’r cais gael ei wneud ar ffurflen RX1 gyda’r ffi briodol a chopi ardystiedig o’r gorchymyn llys.

Mae’n bosibl y gall y llys gyfarwyddo’r cofrestrydd i gofnodi cyfyngiad trwy ddefnyddio ei bwerau o dan adran 46 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Os yw llys yn cyfeirio’r cofrestrydd i gofnodi cyfyngiad, y math priodol o gais fydd ffurflen AP1. Unwaith eto dylid cyflwyno’r cais gyda’r ffi briodol a chopi ardystiedig o’r gorchymyn llys.

Nid yw atal yr hawl i waredu neu lyffetheirio ei asedau yn effeithio ar hawliau credydwyr gwarantedig, ac nid yw’n rhwystro cychwyn achos ansolfedd dilynol o dan Ddeddf Ansolfedd 1986.

6.1.3 Lle mae’r cwmni sy’n ddyledwr yn berchennog arwystl cofrestredig

Bydd yr un egwyddorion ag a nodir yn Lle mae’r cwmni yn berchennog cofrestredig ystad gofrestredig yn gymwys lle mae’r cwmni sy’n ddyledwr yn berchennog arwystl cofrestredig, ac eithrio y bydd y cyfyngiad yn ymwneud â gwarediadau o’r arwystl cofrestredig yn hytrach na’r ystad gofrestredig.

7. Gwladwriaethau tramor

Diffinnir gwladwriaeth dramor fel unrhyw wlad ar wahân i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly mae’r canlynol wedi eu cynnwys yn y diffiniad o wladwriaethau tramor.

  • Un o Ynysoedd y Sianel (Jersey neu Guernsey yn gyffredin).
  • Ynys Manaw.
  • Gweriniaeth Iwerddon

Mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 yn gymwys i wladwriaethau tramor (gweler Y Gofrestr Endidau Tramor).

7.1 Cofrestru gwladwriaeth dramor fel perchennog

Wrth gofrestru gwladwriaeth dramor, ynghyd â’r cyfyngiad y cyfeirir ato yn Cyfyngiadau ar gofrestru gwarediadau gan endidau tramor byddwn yn cofnodi’r cyfyngiad canlynol yn y gofrestr:

CYFYNGIAD: Ni chaiff unrhyw warediad gan berchennog yr ystad gofrestredig ei gwblhau trwy gofrestriad.

Diben y cyfyngiad hwn yw sicrhau bod unrhyw un sy’n delio â’r ystad gofrestredig wedi ei awdurdodi’n briodol i wneud hynny ac wedi dilyn yr holl gamau cyfreithiol ffurfiol angenrheidiol.

Byddwn yn derbyn fel tystiolaeth bendant sy’n bodloni’r cyfyngiad, unrhyw ddatganiad yn cadarnhau hyn a wnaed gan y Llysgennad, Pennaeth Cenhadaeth neu uwch gynrychiolydd diplomyddol addas arall o’r wlad dan sylw, neu dystysgrif gan gyfreithiwr sy’n gymwys i ymarfer yn y wladwriaeth dramor dan sylw, gan gynnwys bod y camau cyflawni ffurfiol priodol wedi cael eu bodloni.

8. Atal twyll

8.1 Cyfeiriad ar gyfer gohebu

Os oes angen inni ysgrifennu neu anfon rhybudd ffurfiol at berchennog cofrestredig byddwn yn ysgrifennu ato yn ei gyfeiriad(au) ar gyfer gohebu fel y dangosir yn y gofrestr. Mae’n hollbwysig bod ei gyfeiriad yn gywir ac yn gyfoes a’n bod yn cael gwybod am unrhyw newid cyfeiriad mor gynnar â phosibl. Ni chodir ffi ar gyfer newid neu ychwanegu cyfeiriad ar gyfer gohebu, ac mae manylion pellach i’w gweld ar GOV.UK.

Gallwch roi hyd at dri chyfeiriad ar gyfer gohebu, ac mae’n rhaid i un ohonynt fod yn gyfeiriad post (ond nid oes rhaid iddo fod o fewn y DU) a gall un neu ragor fod yn gyfeiriad ebost. Argymhellir yn gryf bod cwmni tramor yn darparu o leiaf un cyfeiriad ebost, yn enwedig os nad yw’r eiddo cofrestredig wedi ei feddiannu gan y perchennog neu os yw’r cyfeiriad post dramor. Mae hyn yn sicrhau bod unrhyw rybuddion a anfonir i’r cyfeiriad ar gyfer gohebu yn cael ei dderbyn gan y cwmni cyn gynted â phosibl. Sylwer os yw’r rhybudd yn cael ei anfon i gyfeiriad tramor, ni fyddwn yn rhoi unrhyw amser ychwanegol i’r derbynnydd ddelio â’r rhybudd.

8.2 Gwirio hunaniaeth

Wrth ddelio â chwmni tramor sydd heb ei gynrychioli gan drawsgludwr y DU, dylech ddisgwyl gweld, er enghraifft, llythyr gan gyfreithiwr sydd wedi ei awdurdodi i ymarfer yng ngwlad corfforiad y corff yn cadarnhau ei fod yn dal i fodoli a bod y cynrychiolydd wedi ei awdurdod i weithredu ar ei ran. Rhaid ichi fodloni’ch hun mai’r parti i’r trafodid rydych yn delio ag ef yw’r un sefydliad – bydd chwiliad cwmni yn dangos a yw cwmni’r DU wedi cael ei sefydlu gyda’r un enw.

8.3 Gwasanaeth Property Alert

Mae ein gwasanaeth am ddim Property Alert yn cynnig modd ichi fonitro gweithgarwch allweddol ar gyfer hyd at 10 eiddo. Argymhellir yn gryf eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Byddwn yn rhoi gwybod ichi bob tro y bydd gweithgarwch arwyddocaol ar unrhyw un o’r eiddo sy’n cael ei fonitro, er enghraifft os yw chwiliad swyddogol neu gais yn cael ei gyflwyno. Bydd hyn yn cynnig modd ichi asesu a yw’r gweithgarwch yn amheus ac, os ydych yn meddwl ei fod, cysylltwch â ni fel mater o frys er mwyn inni gymryd camau i atal y mater rhag mynd ymhellach. Mae llinell twyll eiddo arbennig gan Gofrestrfa Tir EF sydd ar gael at y diben hwn, a chewch fanylion amdani yn Llinell Twyll Eiddo. I gael rhagor o wybodaeth a sefydlu cyfrif, gweler cyfarwyddyd Property Alert.

8.4 Cofnodi cyfyngiad

Gall cwmni wneud cais i gofnodi cyfyngiad gwrth-dwyll yn y gofrestr sy’n ei gwneud yn ofynnol i drawsgludwr ardystio ei fod yn fodlon mai’r cwmni sy’n cyflawni gweithred ar gyfer yr eiddo yw’r un cwmni â’r perchennog cofrestredig. Rhaid i’r trawsgludwr ardystio hefyd ei fod wedi cymryd camau rhesymol i sefydlu bod unrhyw un a gyflawnodd weithred o’r fath ar ran y cwmni yn dal y swydd a nodwyd adeg cyflawni.

Gallwch wneud cais i gofnodi’r cyfyngiad ansafonol hwn ar hyd at dri theitl trwy ddefnyddio ffurflen RQ(Co), y gellir ei llwytho i lawr o’n gwefan. Ni chodir ffi am y gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, os ydych am i’r cyfyngiad gael ei gofnodi ar unrhyw deitlau ychwanegol, rhaid cyflwyno cais ar gyfer y teitlau ychwanegol hyn trwy ddefnyddio ffurflen RX1 gyda’r ffi briodol o dan Ran 1(2) o Atodlen 3 i Orchymyn Ffi Cofrestru Tir 2013.

8.5 Llinell twyll eiddo

Ar gyfer unrhyw bryderon ynghylch twyll, mae llinell twyll eiddo benodol gennym sy’n gweithredu rhwng 8.30am a 5pm Llun – Gwener. Ffoniwch 0300 006 7030 o fewn y DU neu +44 300 006 7030 o dramor. Gallwch gysylltu â ni trwy’r ebost hefyd yn reportafraud@landregistry.gov.uk.

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef twyll dylech gysylltu ag Action Fraud hefyd trwy ddefnyddio ei online reporting tool neu trwy gysylltu â’i ymgynghorwyr twyll arbenigol ar 0300 123 2040 yn y DU neu +44 1475 650 451 o dramor. Bydd yn trosglwyddo gwybodaeth i’r Swyddfa Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol sy’n cael ei redeg gan Heddlu Dinas Llundain.

9. Atodiad 1: Ffurf 7 – Tystysgrif pwerau cwmnïau tramor

Gwelir geiriad Ffurf 7, fel y cyfeirir ato yn rheol 183 ac Atodlen 3 i Reolau Cofrestru Tir 2003, isod:

  • Yr wyf fi o [rhowch gyfeiriad gweithle, gan gynnwys gwlad] yn ardystio -
  • fy mod yn rhoi’r dystysgrif hon mewn perthynas â [y gorfforaeth],
  • fy mod yn ymarfer y gyfraith yn [nodwch y diriogaeth] (y diriogaeth) a bod gennyf yr hawl i wneud hynny fel cyfreithiwr cymwysedig o dan gyfraith y diriogaeth,
  • bod gennyf wybodaeth angenrheidiol o gyfraith y diriogaeth ac o’r gorfforaeth i roi’r dystysgrif hon,
  • bod y gorfforaeth wedi ei chorffori yn y diriogaeth gyda’i phersonoliaeth gyfreithiol ei hun, ac
  • nad oes gan y gorfforaeth unrhyw gyfyngiadau ar ei phŵer i ddal, morgeisio, prydlesu a delio fel arall â, neu i roi benthyg ar forgais neu arwystl, tir yng Nghymru a Lloegr.

Llofnod ……………………………………… Dyddiad: ………………………………………………

10. Atodiad 2: Mathau o dystysgrif i ddarparu eithriad neu esemptiad o dan Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir 2002

11. Atodiad 3: Senarios yn gysylltiedig ag adran 3 y cyfarwyddyd hwn

Rydym wedi cynnwys yr enghreifftiau canlynol i helpu i egluro’r dystiolaeth y gallai fod angen ichi ei darparu gyda cheisiadau sy’n cynnwys un neu ragor o endidau tramor. Mae’r rhain yn ddetholiad o’r senarios mwyaf cyffredin ond ni fyddant yn cwmpasu pob sefyllfa.

Darllenwch y nodiadau ar ddiwedd yr adran hon hefyd, a all helpu i esbonio’r enghreifftiau yn fwy manwl ac sy’n cynnwys rhestr o’r termau a ddefnyddir.

11.1 Trosglwyddiad gan endid tramor (ETX) i endid tramor (ETY) a’r cais i gofrestru’r trosglwyddiad yn cael ei gyflwyno cyn 5 Medi 2022

Gan fod hyn yn digwydd cyn cychwyn, nid yw’n ofynnol i ETX gael rhif adnabod yr endid tramor er mwyn gallu gwneud y trosglwyddiad ac nid yw’n ofynnol i ETY gael rhif adnabod yr endid tramor er mwyn gallu cofrestru’r trosglwyddiad. Fodd bynnag, ar ôl cychwyn:

  • Lle mae’r cais yn cael ei gyflwyno cyn 1 Awst 2022, byddwn yn cofnodi cyfyngiad trosiannol yn y gofrestr.
  • Lle mae’r cais yn cael ei gyflwyno ar neu ar ôl 1 Awst 2022, byddwn yn cofnodi cyfyngiad Cofrestr Endidau Tramor yn y gofrestr.

11.2 Trosglwyddiad gan endid tramor (ETX) i endid tramor (ETY) cyn cychwyn ond mae’r cais i gofrestru’r trosglwyddiad yn cael ei gyflwyno ar ôl cychwyn

Gan fod y trosglwyddiad cyn cychwyn, nid oes angen rhif adnabod yr endid tramor ar ETX i wneud y trosglwyddiad. Fodd bynnag, gan fod y cais yn cael ei wneud ar ôl cychwyn, mae angen rhif adnabod yr endid tramor ar ETY i gofrestru’r trosglwyddiad. Byddwn yn cofnodi cyfyngiad Endid Tramor yn y gofrestr.

11.3 Trosglwyddiad gan endid tramor (ET) i berson (A) ac mae cyfyngiad trosiannol yn y gofrestr. Mae’r cais i gofrestru’r trosglwyddiad yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y cyfnod trosiannol

Gan fod y cais yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod trosiannol, ni fydd y cyfyngiad trosiannol yn gymwys eto. Ni fydd angen rhif adnabod yr endid tramor arnom i gofrestru’r trosglwyddiad.

11.4 Trosglwyddiad gan endid tramor (ET) i berson (A) ac nid oes cyfyngiad trosiannol neu gyfyngiad Endid Tramor yn y gofrestr (na chais sy’n aros i’w brosesu i gofnodi un). Mae’r cais i gofrestru’r trosglwyddiad yn cael ei gyflwyno ar ôl diwedd y cyfnod trosiannol

Gan nad oes unrhyw gyfyngiad (na chais sy’n aros i’w brosesu i gofnodi un) ar adeg cyflwyno’r cais, ni fydd angen rhif adnabod yr endid tramor arnom i gofrestru’r trosglwyddiad.

11.5 Trosglwyddiad gan endid tramor i berson (A) ac mae cyfyngiad trosiannol yn y gofrestr. Mae’r trosglwyddiad yn cael ei gwblhau ac mae cais i gofrestru’r trosglwyddiad yn cael ei gyflwyno ar ôl diwedd y cyfnod trosiannol

Gan y bydd y cyfyngiad trosiannol yn weithredol, bydd angen naill ai (a) rhif adnabod yr endid tramor arnom i gadarnhau bod yr endid tramor yn Endid Tramor cofrestredig ar ddyddiad y trosglwyddiad neu (b) tystysgrif OE1 yn cadarnhau bod un o’r eithriadau eraill ym mharagraff 3(2) o Atodlen 4A i’r Ddeddf Cofrestru Tir yn gymwys.

11.6 Trosglwyddiad gan endid tramor (ET) i berson (A) ac mae cyfyngiad trosiannol yn y gofrestr. Mae’r trosglwyddiad yn cael ei gwblhau cyn diwedd y cyfnod trosiannol ond mae’r cais yn cael ei gyflwyno ar ôl diwedd y cyfnod trosiannol

Er bod y trosglwyddiad wedi ei gwblhau cyn diwedd y cyfnod trosiannol, bydd y cyfyngiad trosiannol yn weithredol erbyn adeg cyflwyno’r cais. Bydd angen naill ai (a) rhif adnabod yr endid tramor arnom i gadarnhau bod yr endid tramor yn Endid Tramor cofrestredig ar ddyddiad y trosglwyddiad neu (b) tystysgrif OE1 yn cadarnhau bod un o’r eithriadau eraill ym mharagraff 3(2) o Atodlen 4A i’r Ddeddf Cofrestru Tir yn gymwys).

11.7 Trosglwyddiad gan berson (A) i endid tramor sydd wedyn yn rhoi arwystl (i C) cyn cofrestru. Mae’r trosglwyddiad a’r arwystl yn cael eu cwblhau ar ôl cychwyn ac yn ystod y cyfnod trosiannol

I gofrestru’r trosglwyddiad, bydd angen rhif adnabod yr endid tramor arnom i gadarnhau bod yr endid tramor yn Endid Tramor Cofrestredig ar ddyddiad cyflwyno’r cais.

I gofrestru’r arwystl, bydd angen rhif adnabod yr endid tramor arnom i gadarnhau bod yr endid tramor yn Endid Tramor Cofrestredig ar ddyddiad yr arwystl neu dystysgrif ET2 yn cadarnhau bod un o’r eithriadau eraill ym mharagraff 4(2) o Atodlen 4A i’r Ddeddf Cofrestru Tir yn gymwys.

Nid yw’r cyfnod trosiannol yn effeithio ar y gofynion hyn gan eu bod yn gymwys o’r cychwyn.

1 Mae paragraff 4(2) yn gymwys oherwydd, adeg creu’r arwystl, nid yw’r endid tramor wedi ei gofrestru fel perchennog ond yn arfer pwerau perchennog (gweler adran 24 o’r Ddeddf Cofrestru Tir) ar y sail bod hawl ganddo fod yn gofrestredig (yn rhinwedd y trosglwyddiad). Mae hyn yn gwahardd cofrestru’r arwystl oni bai y cydymffurfir â gofynion y paragraff.

11.8 Mae person (A) yn contractio i werthu i endid tramor sy’n contractio i werthu i berson (C). Yna mae A yn trosglwyddo i’r Endid Tramor sy’n trosglwyddo i C heb wneud cais i gofrestru yn gyntaf. Mae C yn gymwys i gofrestru’r trosglwyddiad o’r Endid Tramor. Mae’r holl drosglwyddiadau yn cael eu cwblhau ar ôl cychwyn ac yn ystod y cyfnod trosiannol

I gofrestru’r trosglwyddiad, bydd angen naill ai (a) rhif adnabod yr endid tramor arnom i gadarnhau bod yr endid tramor yn Endid Tramor Cofrestredig ar ddyddiad y trosglwyddiad neu (b) tystysgrif ET2 yn cadarnhau bod un o’r eithriadau eraill ym mharagraff 4(2) o Atodlen 4A i Ddeddf Cofrestru Tir yn gymwys. Gallai’r eithriad ym mharagraff 4(2)(c) fod yn gymwys os cafodd y trosglwyddiad i C ei wneud yn unol â chontract gwerthu rhwng yr Endid Tramor ac C a wnaed cyn i’r Endid Tramor fod â hawl i gael ei gofrestru (cyn y trosglwyddiad o A i’r Endid Tramor).

Nid yw’r cyfnod trosiannol yn effeithio ar y gofynion hyn gan eu bod yn gymwys o’r cychwyn.

2 Mae paragraff 4(2) yn gymwys oherwydd, ar adeg y trosglwyddiad i C, nid yw’r Endid Tramor wedi ei gofrestru fel perchennog ond yn arfer pwerau perchennog (gweler adran 24 i’r Ddeddf Cofrestru Tir) ar y sail bod ganddo hawl i gael ei gofrestru (trwy rinwedd y trosglwyddiad o A). Mae hyn yn gwahardd cofrestru’r trosglwyddiad o’r Endid Tramor i C oni bai y cydymffurfir â gofynion y paragraff.

11.9 Mae person (A) yn trosglwyddo i endid tramor (ET) sy’n trosglwyddo i berson (C). Mae C yn gwneud cais i gofrestru’r trosglwyddiad o’r ET. Mae’r contract gwerthu rhwng yr Endid Tramor ac C yn cael ei wneud ar ôl y trosglwyddiad o A i’r ET. Mae’r holl drosglwyddiadau yn cael eu cwblhau ar ôl cychwyn ac yn ystod y cyfnod trosiannol

I gofrestru’r trosglwyddiad, bydd angen naill ai (a) rhif adnabod yr endid tramor arnom i gadarnhau bod yr Endid Tramor yn Endid Tramor Cofrestredig ar ddyddiad y trosglwyddiad neu (b) tystysgrif ET2 yn cadarnhau bod un o’r eithriadau eraill ym mharagraff 4(2) o Atodlen 4A i’r Ddeddf Cofrestru Tir yn gymwys. Ni fyddai’r eithriad ym mharagraff 4(2)(c) (a nodir yn senario 8 uchod) yn gymwys oherwydd cafodd y trosglwyddiad i C ei wneud ar ôl i’r Endid Tramor fod â hawl i gael ei gofrestru (ar ôl y trosglwyddiad o A i’r Endid Tramor).

Nid yw’r cyfnod trosiannol yn effeithio ar y gofynion hyn gan eu bod yn gymwys o’r cychwyn.

3 Mae paragraff 4(2) yn gymwys oherwydd, ar adeg y trosglwyddiad i C, nid yw’r Endid Tramor wedi ei gofrestru fel perchennog ond yn arfer pwerau perchennog (gweler adran 24 i’r Ddeddf Cofrestru Tir) ar y sail bod hawl ganddo gael ei gofrestru (trwy rinwedd y trosglwyddiad o A). Mae hyn yn gwahardd cofrestru’r trosglwyddiad o’r Endid Tramor i C oni bai y cydymffurfir â gofynion y paragraff.

11.10 Mae person (A) yn trosglwyddo i endid tramor (ET) sy’n trosglwyddo i berson (C). Yna mae C yn trosglwyddo i berson (D). Mae D yn gwneud cais i gofrestru’r trosglwyddiad o C. Mae’r contract gwerthu yn cael ei wneud rhwng yr Endid Tramor ac C ar ôl y trosglwyddiad o A i’r ET. Mae’r holl drosglwyddiadau yn cael eu cwblhau ar ôl cychwyn ac yn ystod y cyfnod trosiannol

I gofrestru’r trosglwyddiad i D, bydd angen naill ai (a) rhif adnabod yr endid tramor arnom i gadarnhau bod yr Endid Tramor yn Endid Tramor Cofrestredig ar ddyddiad y trosglwyddiad i C neu (b) tystysgrif ET2 yn cadarnhau bod un o’r eithriadau eraill ym mharagraff 4(2) o Atodlen 4A i’r Ddeddf Cofrestru Tir yn gymwys. Ni fyddai’r eithriad ym mharagraff 4(2)(c) (a nodir yn senario 8 uchod) yn gymwys oherwydd cafodd y trosglwyddiad i C ei wneud ar ôl i’r Endid Tramor fod â hawl i gael ei gofrestru (h.y. ar ôl y trosglwyddiad o A i’r Endid Tramor).

Nid yw’r cyfnod trosiannol yn effeithio ar y gofynion hyn oherwydd maent yn gymwys o’r cychwyn.

4 Mae paragraff 4(2) yn gymwys oherwydd, ar adeg y trosglwyddiad i C, nid yw’r Endid Tramor wedi ei gofrestru fel perchennog ond yn arfer pwerau perchennog (gweler adran 24 i Ddeddf Cofrestru Tir) ar y sail bod hawl ganddo gael ei gofrestru (trwy rinwedd y trosglwyddiad o A). Fodd bynnag, ni fyddai gan C hawl i gael ei gofrestru oni bai y cydymffurfir â gofynion paragraff 4(2), oherwydd mae’r paragraff yn gwahardd cofrestru’r trosglwyddiad o’r Endid Tramor i C (oni bai y cydymffurfir â gofynion y paragraff). Felly nid oes hawl gan C i ddibynnu ar bwerau perchennog i drosglwyddo i D oni bai y gall ddangos bod gofynion paragraff 4(2) wedi eu bodloni mewn perthynas â’r trosglwyddiad o’r Endid Tramor i C (oherwydd fel arall ni fyddai hawl gan C fod yn gofrestredig).

11.11 Mae person (A) yn berchennog cofrestredig eiddo ac yn rhoi arwystl o’r eiddo i endid tramor (ET)

Nid yw Atodlen 4A yn gymwys oherwydd mae’n ymwneud â chofrestru ystadau cymwys yn unig ac nid arwystlon a roddir o blaid endidau tramor.

11.12 Mae endid tramor (ETX) yn berchennog cofrestredig eiddo ac yn rhoi arwystl o’r eiddo i endid tramor (ETY). Mae cyfyngiad trosiannol ac mae’r arwystl a’r cais i’w gofrestru yn cael eu gwneud ar ôl diwedd y cyfnod trosiannol

Gan y bydd y cyfyngiad trosiannol yn weithredol, bydd angen naill ai (a) rhif adnabod yr endid tramor arnom i gadarnhau bod ETX yn Endid Tramor Cofrestredig ar ddyddiad yr arwystl neu (b) tystysgrif OE1 yn cadarnhau bod un o’r eithriadau eraill ym mharagraff 3 (2) o Atodlen 4A i’r Ddeddf Cofrestru Tir yn gymwys).

Ni fydd angen tystiolaeth arnom fod ETY yn Endid Tramor Cofrestredig oherwydd mae gofynion Atodlen 4A yn ymwneud â chofrestru ystadau cymwys yn unig ac nid arwystlon a roddir o blaid endidau tramor.

11.13 Mae cais yn cael ei wneud i gau teitl prydlesol lle mae endid tramor wedi ei gofrestru fel perchennog. Mae’r cais yn cynnwys ffurf waredol sy’n achosi ildiad ac mae cyfyngiad Endid Tramor ar gofrestr y teitl prydlesol

Er ei fod wedi ei achosi gan ffurf waredol, nid yw’r ildiad yn warediad cofrestradwy o fewn adrannau 27(2)(a), (b)(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac felly nid yw wedi ei ddal gan y cyfyngiad. Nid oes angen rhif adnabod yr endid tramor.

11.14 Nodiadau ar yr enghreifftiau hyn

  • Lle cyfeiriwn at drosglwyddiad, bydd yr enghraifft hefyd yn gymwys i brydles a roddir am fwy na 7 mlynedd.
  • Lle mae enghraifft yn cyfeirio at endid tramor sy’n berchennog cofrestredig, bydd yn ymwneud ag endid tramor sydd wedi ei gofrestru fel perchennog ar neu ar ôl 1 Ionawr 1999 yn unig.
  • Mae’r enghreifftiau yn cymryd bod pob trafodiad yn drafodiad ‘ystad gymwys’, a ddiffinnir fel (a) ystad rydd-ddaliol mewn tir neu (b) ystad brydlesol mewn tir a roddir am gyfnod o fwy na saith mlynedd o’r dyddiad rhoi.
  • Lle cyfeiriwn at gyfyngiad sydd yn y gofrestr ar adeg gwneud gwarediad, mae hynny’n cynnwys lle, ar yr adeg honno, mae cais sy’n aros i’w brosesu a fydd, o’i gwblhau, yn arwain at gofnodi cyfyngiad.
  • Mae’r cyfeiriad at
    • ‘cychwyn’ yn golygu 5 Medi 2022, sef y dyddiad y bydd darpariaethau Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022, gan gynnwys Atodlen 4A i’r Ddeddf Cofrestru Tir, yn dod i rym.
    • ‘Deddf Cofrestru Tir’ yn golygu Deddf Cofrestru Tir 2002.
    • ‘rhif adnabod yr endid tramor’ yn golygu’r hunaniaeth endid a ddyroddir gan Dŷ’r Cwmnïau pan fydd endid tramor wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022.
    • ‘cyfyngiad ET’ yn golygu cyfyngiad sy’n weithredol ar unwaith ac sydd yn y ffurf ganlynol:

Ni chaiff oes unrhyw warediad o fewn adran 27(2)(a), (b)(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ei gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod un o’r darpariaethau ym mharagraff 3(2)(a)-(f) o Atodlen 4A i’r Ddeddf honno yn gymwys.

  • Mae ‘Endid Tramor Cofrestredig’ yn golygu endid tramor sydd wedi ei cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau o dan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022
  • Mae ‘cyfnod trosiannol’ yn golygu’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Awst 2022 ac sy’n dod i ben ar 31 Ionawr 2023. Mae ‘cyfyngiad trosiannol’ yn golygu cyfyngiad a gofnodwyd yn y gofrestr yn y ffurf ganlynol a fydd yn atal cofrestru gwarediadau a gyflwynir i’w cofrestru ar ôl y cyfnod trosiannol:

Ar ôl 31 Ionawr 2023 ni chaiff unrhyw warediad o fewn adran 27(2)(a), (b)(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ei gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod un o’r darpariaethau ym mharagraff 3(2) (a)-(f) o Atodlen 4A i’r Ddeddf honno yn gymwys.

12. Atodiad 4: Rhestr wirio

Er mwyn osgoi’r gwallau mwyaf cyffredin dylech wneud y canlynol:

  • cynnwys tystiolaeth mewn perthynas â statws corfforaethol y cwmni a’i bwerau i ddal a delio â thir yng Nghymru a Lloegr
  • amgáu cyfieithiadau ardystiedig neu wedi eu notareiddio o unrhyw ddogfennau nad ydynt wedi eu hysgrifennu yn Gymraeg neu yn Saesneg
  • amlinellu tiriogaeth y corfforiad a rhif cofrestru’r DU (os yw’n gymwys) ym mhanel 6 ar ffurflen AP1/FR1
  • rhoi’r cyfeiriad ar gyfer gohebu diweddaraf inni
  • ystyried cynnwys Atal twyll

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.