Cyfarwyddyd ymarfer 13: chwiliadau swyddogol o'r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau
Diweddarwyd 3 Ebrill 2023
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
I weld hanes diweddariadau’r cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 13: hanes diweddariadau.
1. Cyflwyniad
Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw mynegai o ddisgrifiadau geiriol o ryddfreintiau cofrestredig sy’n rhyddfreintiau cysylltiedig ac o faenorau cofrestredig (rheol 10(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
I wneud cais am chwiliad swyddogol o’r mynegai, gwnewch gais ar-lein trwy e-wasanaethau busnes neu defnyddiwch ffurflen SIF. Bydd tystysgrif y canlyniad yn dangos a oes unrhyw ryddfraint gysylltiedig neu faenor gofrestredig yn berthnasol i’r ardal(oedd) gweinyddol a chwiliwyd ynghyd â’r rhifau teitl sy’n effeithio a’r math o gofrestriad.Mae Mynegai disgrifiadau geiriol yn rhestru’r gwahanol fathau o gofrestriad y bydd modd eu datgelu trwy chwiliad swyddogol o’r mynegai.
2. Rhyddfraint
Hawl neu fraint a roddwyd gan y Goron yw rhyddfraint. Mae enghreifftiau’n cynnwys hawl i godi toll neu hawl i gynnal ffair neu farchnad. Mae’n hawl anniriaethol. Nid yw’n cynnwys perchnogaeth y tir diriaethol ac mae ar wahân i unrhyw rydd-ddaliad neu fuddion prydlesol yn y tir ei hun. Yn iaith y gyfraith, mae’n hereditament anghorfforol. Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn caniatáu cofrestru rhyddfraint gyda’i theitl ei hun. Yn y cyd-destun hwn nid yw rhyddfraint yn cynnwys unrhyw hawliau masnachol/masnachu na chreu corfforaeth siartredig nad oes ganddynt unrhyw effaith uniongyrchol ar eiddo.
Yn 2003 byddai’n anodd diffinio rhyddfraint a roddwyd gan gyfeirio at ‘City of Sunlight’ yn 1189 oherwydd y bydd terfynau’r ddinas wedi newid yn sylweddol. Caiff y fath hon o ryddfraint ei galw’n ‘rhyddfraint gysylltiedig’ gan ei bod yn berthnasol dim ond yn gyffredinol i ardal. Nid ydym yn paratoi cynllun teitl ar gyfer cofrestru rhyddfraint gysylltiedig a bydd yn cael ei chofnodi yn y mynegai geiriol. Ar y llaw arall, caiff ‘rhyddfraint sy’n effeithio’, y gellir ei diffinio fel un sy’n effeithio ar ardal, ei mynegeio ar y map mynegai.
Mae cyfarwyddyd ymarfer 18: rhyddfreintiau: cofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ryddfreintiau. Mae cyfarwyddyd ymarfer 10: y map mynegai: chwiliad swyddogol yn egluro sut i chwilio’r map mynegai er mwyn gweld a yw rhyddfraint sy’n effeithio wedi ei chofrestru.
3. Maenor
Mae’r maenorau cofrestredig sy’n ymddangos yn y mynegai yn rhai ar gyfer teitlau arglwyddiaeth. Enw ar arglwydd y faenor yn unig yw arglwyddiaeth y faenor. Mewn llawer achos ni fydd unrhyw dir na hawliau ynghlwm wrth y teitl mwyach. Oherwydd ei darddiad a diffyg sylwedd diriaethol mae hefyd yn cael ei alw’n hereditament anghorfforol. Nid oes cynlluniau teitl ar gyfer y cofrestriadau hyn ac nid ydym yn dal unrhyw gofnod swyddogol o faint y faenor wreiddiol.
Mae cyfarwyddyd ymarfer 22: maenorau: teitlau a hawliau maenoraidd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am dir maenoraidd.
4. Mynegai disgrifiadau geiriol
Rhaid i Gofrestrfa Tir EF gadw mynegai sy’n fodd i gael gwybod a oes unrhyw ystadau cofrestredig neu rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf yn berthnasol i ddarn o dir (adran 68 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Am nad oes modd penderfynu maint rhyddfraint gysylltiedig neu faenor yn fanwl gywir, daliwn y wybodaeth mewn mynegai disgrifiadau geiriol yn dwyn yr enw mynegai rhyddfreintiau a maenorau cysylltiedig (rheol 10(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Trefnwyd y mynegai yn ôl ardal weinyddol ac mae’n cynnwys rhifau teitl a manylion y mathau canlynol o gofrestriad.
- ceisiadau am gofrestriad cyntaf teitl i ryddfreintiau cysylltiedig sy’n aros i’w prosesu
- ceisiadau sy’n aros i’w prosesu am rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf lle bo rhyddfraint gysylltiedig yn destun y rhybuddiad
- rhyddfreintiau cofrestredig sy’n rhyddfreintiau cysylltiedig
- maenorau cofrestredig
- rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf lle bo rhyddfraint gysylltiedig yn destun y rhybuddiad
5. Sut i gael gwybodaeth sy’n cael ei dal yn y mynegai
5.1 Sut i wneud cais
I wneud cais am chwiliad swyddogol o’r mynegai, gwnewch gais ar-lein trwy e-wasanaethau busnes neu fel arall, rhaid ichi ddefnyddio’r ffurflen SIF benodedig.
Gallwch wneud cais i chwilio’r mynegai yn erbyn ardaloedd gweinyddol. Bydd cofnodion yn y mynegai yn cael eu cofnodi ar gyfer yr ardal(oedd) weinyddol sy’n berthnasol iddynt.
Ar unrhyw chwiliad rhaid ichi ddyfynnu’r holl ardaloedd gweinyddol presennol sy’n berthnasol i’r tir o dan sylw. At ddibenion ceisiadau ar ffurflen SIF, ardal weinyddol yw sir neu awdurdod unedol.
Mae rhestr o’r ardaloedd gweinyddol i’w cael yn Atodiad A i’r cyfarwyddyd hwn. Byddwn yn gwrthod unrhyw gais nad yw’n cyfeirio at ardal weinyddol ar y rhestr.
Byddwn yn anwybyddu unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd fel disgrifiad eiddo manwl neu gynllun. Byddwn yn prosesu’r cais trwy gyfeirio at yr ardal(oedd) weinyddol a ddyfynnwyd yn unig.
Ar gyfer ceisiadau electronig, o dan Chwilio’r Mynegai Rhyddfreintiau Cysylltiedig a Maenorau, dylech ddewis y math o gofrestriad i nodi a ydych yn chwilio am ryddfreintiau, maenorau neu’r ddau.
Ar gyfer ceisiadau ar ffurflen SIF, os nad yw’r naill flwch neu’r llall ym mhanel 1 ffurflen SIF wedi ei dicio, byddwn yn cwblhau’r cais ar gyfer rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau. Sylwer: byddwn yn gwrthod unrhyw gais trwy’r post am chwiliad swyddogol o’r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau nad yw wedi ei wneud ar y ffurflen benodedig. I weld ble i anfon cais post wedi ei gwblhau, gweler Cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.
5.2 Ffïoedd
Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w dalu am y gwasanaeth hwn.
5.3 Tystysgrif canlyniad
Lle bo modd, bydd tystysgrif y canlyniad yn cael ei hanfon gyda throad y post. Lle bo’r chwiliad yn dangos bod cofnodion yn y mynegai’n ymwneud â’r ardal(oedd) weinyddol a ddyfynnwyd, bydd y dystysgrif yn cynnwys detholiad o’r mynegai. Lle nad oes unrhyw gofnodion i’w dadlennu, bydd y dystysgrif yn cynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.
6. Ymholiadau
Os oes gennych bryder arbennig sydd heb gael sylw yn y cyfarwyddyd hwn, cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF cyn unrhyw chwiliad. Os yw’r broblem yn arbennig o gymhleth, gall fod yn well ichi wneud eich ymholiad yn ysgrifenedig.
7. Atodiad A
Trefnwyd y mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau yn ôl ardal weinyddol. Mae’r tabl isod yn dangos yr holl ardaloedd gweinyddol sy’n addas at ddibenion cais am chwiliad swyddogol o’r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau.
| Ardal weinyddol | |
|---|---|
| Lloegr | |
| Barnsley | |
| Bedford | |
| Birmingham | |
| Blackburn gyda Darwen | |
| Blackpool | |
| Bolton | |
| Bournemouth, Christchurch a Poole | |
| Bracknell Forest | |
| Bradford | |
| Brighton a Hove (Dinas) | |
| Bryste (Dinas) | |
| Bury | |
| Caerefrog | |
| Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf | |
| Caerlŷr | |
| Caint | |
| Calderdale | |
| Cernyw | |
| Cilgwri | |
| Coventry | |
| Cumberland | |
| Darlington | |
| De Swydd Gaerloyw | |
| De Tyneside | |
| Derby (Dinas) | |
| Doncaster | |
| Dorset | |
| Dudley | |
| Dwyrain Essex | |
| Dwyrain Sussex | |
| Dwyrain Swydd Gaer | |
| Dyfnaint | |
| Essex | |
| Gateshead | |
| Glannau Mersi | |
| Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln | |
| Gogledd Swydd Gaerefrog | |
| Gogledd Swydd Lincoln | |
| Gogledd Swydd Northampton | |
| Gogledd Tyneside | |
| Gorllewin Berkshire | |
| Gorllewin Sussex | |
| Gorllewin Swydd Gaer a Chaer | |
| Gorllewin Swydd Northampton | |
| Gwlad yr Haf | |
| Halton | |
| Hartlepool | |
| Hampshire | |
| Kingston upon Hull (Dinas) | |
| Kirklees | |
| Knowsley | |
| Leeds | |
| Lerpwl | |
| Luton | |
| Manceinion | |
| Medway | |
| Middlesbrough | |
| Milton Keynes | |
| Newcastle upon Tyne | |
| Norfolk | |
| Northumberland | |
| Nottingham (Dinas) | |
| Oldham | |
| Peterborough (Dinas) | |
| Plymouth (Dinas) | |
| Portsmouth | |
| Reading | |
| Redcar a Cleveland | |
| Rochdale | |
| Rotherham | |
| Rutland | |
| St Helens | |
| Salford | |
| Sandwell | |
| Sefton | |
| Sheffield | |
| Slough | |
| Solihull | |
| Southampton | |
| Southend-on-Sea | |
| Stockport | |
| Stockton-on-Tees | |
| Stoke-on-Trent (Dinas) | |
| Suffolk | |
| Sunderland | |
| Surrey | |
| Swindon | |
| Swydd Amwythig | |
| Swydd Bedford Ganolog | |
| Swydd Buckingham | |
| Swydd Derby | |
| Swydd Durham | |
| Swydd Gaer | |
| Swydd Gaergrawnt | |
| Swydd Gaerhirfryn | |
| Swydd Gaerloyw | |
| Swydd Gaerlŷr | |
| Swydd Gaerwrangon | |
| Swydd Henffordd (Sir) | |
| Swydd Hertford | |
| Swydd Lincoln | |
| Swydd Nottingham | |
| Swydd Rydychen | |
| Swydd Stafford | |
| Swydd Warwig | |
| Tameside | |
| Thurrock | |
| Torbay | |
| Traean Dwyreiniol Swydd Gaerefrog | |
| Trafford | |
| Wakefield | |
| Walsall | |
| Warrington | |
| Westmorland and Furness | |
| Wigan | |
| Wiltshire | |
| Windsor a Maidenhead | |
| Wokingham | |
| Wolverhampton (Dinas) | |
| Wrekin (Sir) (a elwir hefyd The Wrekin) | |
| Ynysoedd Sili | |
| Ynys Wyth | |
| Awdurdodau Llundain | |
| Barking a Dagenham | |
| Barnet | |
| Bexley | |
| Brent | |
| Bromley | |
| Camden | |
| Croydon | |
| Dinas a Sir Dinas Llundain | |
| Dinas Westminster | |
| Ealing | |
| Enfield | |
| Greenwich | |
| Hackney | |
| Hammersmith a Fullham | |
| Haringey | |
| Harrow | |
| Havering | |
| Hillingdon | |
| Hounslow | |
| Islington | |
| Kensington a Chelsea | |
| Kingston upon Thames | |
| Lambeth | |
| Lewisham | |
| Merton | |
| Newham | |
| Redbridge | |
| Richmond upon Thames | |
| Southwark | |
| Sutton | |
| Tower Hamlets | |
| Waltham Forest | |
| Wandsworth | |
| Y Deml Fewnol a’r Deml Ganol | |
| Cymru | |
| Abertawe | |
| Blaenau Gwent | |
| Bro Morgannwg | |
| Caerdydd | |
| Caerffili | |
| Casnewydd | |
| Castell-nedd Port Talbot | |
| Ceredigion | |
| Conwy | |
| Gwynedd | |
| Merthyr Tudful | |
| Pen-y-bont ar Ogwr | |
| Powys | |
| Rhondda Cynon Taf | |
| Sir Benfro | |
| Sir Ddinbych | |
| Sir Fynwy | |
| Sir y Fflint | |
| Sir Gaerfyrddin | |
| Sir Geredigion | |
| Tor-faen | |
| Wrecsam | |
| Ynys Môn |
8. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.