Canllawiau

Rhifyn mis Awst 2023 o Fwletin y Cyflogwr

Diweddarwyd 9 November 2023

Rhagarweiniad

Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:

TWE

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.

TWE

Rhyddhad treth ar gyfraniadau cyflogai at gynlluniau pensiwn cofrestredig

Mae 2 brif ffordd o gael rhyddhad treth ar gyfraniadau cyflogai at bensiwn.

Mae CThEF wedi canfod bod rhai cyflogwyr yn gwneud camgymeriadau yn eu hadroddiad, a allai fod o ganlyniad i’r enwau a roddir i bob dull gan CThEF.

Enwau’r dulliau hyn yw:

  • trefniant cyflog net (NPA)

  • Rhyddhad wrth y Ffynhonnell (RAS) — Cyfeirir atynt fel “cyfraniadau nad ydynt yn cael eu talu o dan drefniant cyflog net” ar y Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS)

Trefniant cyflog net (NPA)

Ar gyfer trefniant cyflog net, bydd y cyflogwr yn didynnu’r cyfraniad pensiwn cyn gweithredu TWE. Yna, bydd y cyflogai’n cael rhyddhad treth ar ei gyfradd ffiniol o dreth incwm heb fod angen gwneud unrhyw hawliad ychwanegol.

Rhyddhad wrth y Ffynhonnell (RAS) 

Bydd y cyflogwr yn tynnu swm o gyflog ar ôl didyniadau TWE.

Bydd darparwr y cynllun pensiwn yn hawlio’r hyn sy’n gyfwerth â threth ar y gyfradd sylfaenol gan Wasanaethau Cynllun Pensiwn (PSS) CThEF ac yn ychwanegu at gronfa bensiwn yr unigolyn gan y swm a hawlir.

Mewn trefniadau rhyddhad wrth y ffynhonnell, bydd angen i’r unigolyn hawlio unrhyw ryddhad treth ar y gyfradd uwch ychwanegol neu ryddhad treth ar y gyfradd ychwanegol drwy CThEF yn erbyn ei god treth neu Hunanasesiad.

Er enghraifft, mae aelod sy’n gwneud cyfraniad pensiwn y gellir ei ryddhau o £100 yn cyfrannu £80 mewn gwirionedd drwy ddidyniad gan y cyflogwr oddi wrth ei gyflog net. Mae’r cyflogwr yn trosglwyddo’r £80 hynny i ddarparwr y cynllun pensiwn. Yna, mae darparwr y cynllun pensiwn yn hawlio’r rhyddhad treth ar y gyfradd sylfaenol sy’n cyfateb i £20 gan Wasanaethau Cynllun Pensiwn CThEF sy’n cael ei ychwanegu gan y darparwr at gronfa bensiwn yr unigolyn.

Ni all yr unigolyn ddewis y dull o ryddhad treth iddo’i hun. Ers mis Ebrill 2006, y dull diofyn ar gyfer pob cynllun pensiwn cofrestredig newydd yw Rhyddhad wrth y Ffynhonnell. Fodd bynnag, ar ddechrau cynllun pensiwn newydd gall cyflogwr ddewis gweithredu trefniant cyflog net cyn belled â bod y cynllun hwnnw’n bodloni amodau penodol. Ar ôl cofrestru, gosodir y dull o ryddhad treth.

Enghreifftiau o gamgymeriadau

Cyflwyniadau Trwy Gwybodaeth Amser Real (RTI) FPS

Gallai enghreifftiau gynnwys pan fo cyflogwr yn gwneud y camgymeriad o roi gwybod am gyfraniadau RAS (na dalwyd o dan gyflog net) drwy RTI yn y meysydd data ar gyfer cynllun cyflog net. Mae hyn yn arwain at ddarparu rhyddhad treth drwy’r gyflogres yn anghywir, ar ben y rhyddhad treth a ddarperir yn gywir drwy ddarparwr y cynllun pensiwn a Gwasanaethau Cynllun Pensiwn CThEF. Mae’r rhyddhad gormodol a ddarperir yn fethiant ar ran y cyflogwr o ran y gyflogres, ac mae’r cyflogwr yn agored i’r dreth sy’n cael ei thynnu a’i throsglwyddo i CThEF.

Dylai unrhyw gyflogwr sy’n ansicr wirio â darparwr ei gynllun sut mae’r cynllun wedi’i gofrestru. Os bydd unrhyw gyflogwr wedyn yn penderfynu bod ei gyflogres wedi’i ffurfweddu fel ei fod wedi adrodd am gyfraniad RAS ym maes adrodd FPS ar gyfer “cyfraniadau nad ydynt o dan gyflog net” dylent gywiro hyn ar unwaith.

Dylid rhoi gwybod am unrhyw gamgymeriadau a nodwyd o gyfnodau blaenorol drwy gyfleuster datgelu digidol CThEF (yn Saesneg).

Os ydych yn Fusnes Mawr â Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid (CCM), dylech roi gwybod am hyn drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â’ch CCM.

Aberthu cyflog a chyfraniadau pensiwn

Mae nifer o fusnesau wedi mabwysiadu trefniadau aberthu cyflog sy’n gysylltiedig â chyfraniadau pensiwn. Mewn achosion o’r fath, mae’r cyflogai yn rhoi’r gorau i wneud cyfraniadau’r cyflogai, ond yn gontractiol mae’n aberthu cyfran debyg o enillion o blaid cael cyfraniad ychwanegol y cyflogwr at ei bensiwn yn lle. I bob pwrpas, y canlyniad yw rhyddhad drwy’r gyflogres sy’n debyg i drefniant cyflog net, ond hefyd yn lleihau rhwymedigaethau cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mae cyflogwyr yn darparu adroddiad o gyfraniadau’r cyflogai a’r cyflogwr at bensiwn i’w ddarparwr cynllun pensiwn. Os bydd cyflogwr, drwy ddamwain, yn rhoi gwybod am gyfraniadau ychwanegol gan y cyflogwr sy’n gysylltiedig ag aberthu cyflog fel cyfraniadau gan y cyflogai, yna bydd darparwr y cynllun Rhyddhad wrth y Ffynhonnell yn hawlio rhyddhad gormodol pellach gan Wasanaethau Cynllun Pensiwn CThEF. Yn yr achosion hyn, er bod y cyflogwr wedi darparu adroddiad anghywir i’r darparwr cynllun pensiwn, bernir mai darparwr y cynllun pensiwn sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am y rhyddhad a or-hawlir o dan Reoliad 10(5) o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Cofrestredig (Rhyddhad wrth y Ffynhonnell) 2005 (OS3448 2005).

Mae’n rhaid i’r cyflogwr roi gwybod i ddarparwr y cynllun pensiwn fod ei adroddiadau wedi bod yn anghywir, ac mae’n rhaid i ddarparwr y cynllun pensiwn gysylltu â Gwasanaethau Cynllun Pensiwn CThEF os ydynt wedi hawlio gormod o Ryddhad wrth y Ffynhonnell ar gyfer aelodau’r cynllun pensiwn (yn Saesneg).

Dod â’ch cynllun TWE i ben

Gallwch roi gwybod i ni eich bod yn dod â’ch cynllun TWE ac elfennau contractwyr i ben drwy:

1. Ddewis y blwch ‘Cyflwyniad terfynol oherwydd bod y cynllun wedi dod i ben’.

2. A llenwi’r blwch ‘Dyddiad y daeth y cynllun i ben’ ar eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) terfynol neu Grynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS). Mae’n rhaid i’r dyddiad a nodwch fod y dyddiad y daeth y cynllun i ben, ac ni all fod yn ddyddiad yn y dyfodol.

Ar ôl cael hyn, bydd CThEF yn gwirio’r wybodaeth, ac yn y mwyafrif o achosion bydd y cynllun yn dod i ben yn awtomatig. Caiff unrhyw gostau misol amcangyfrifedig ar gyfer cyfnod cyflog sydd ar ôl y dyddiad y daeth y cynllun i ben, eu canslo’n awtomatig.

Hefyd, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • anfon eich datganiadau treuliau a buddiannau
  • nodi dyddiad gadael ar gofnod cyflogres pob cyflogai
  • rhoi P45 i’ch cyflogeion ar eu diwrnod olaf

Ewch i ‘Rhoi’r gorau i fod yn gyflogwr’ (yn Saesneg) am ragor o wybodaeth.

Dod â’ch cynllun TWE i ben sy’n cynnwys taliadau i isgontractwyr

I ddod ag elfen contractiwr y cynllun i ben, mae’n rhaid i chi gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i roi gwybod am y dyddiad y rhoesoch orau i ddefnyddio isgontractwyr.

Dod â chynllun TWE i ben sy’n cynnwys isgontractwyr yn unig

I ddod â chynllun contractwyr yn unig i ben, mae’n rhaid i chi gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i roi gwybod am y dyddiad y rhoesoch orau i ddefnyddio isgontractwyr.

yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Gweminarau Byw: gwaith cyflogedig fesul oriau a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mewn ymateb i adborth gan gwsmeriaid, mae tîm Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) CThEF yn cynnal gweminarau byw ynghylch gwaith cyflogedig fesul oriau a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Bydd y weminar yn cwmpasu pwyntiau allweddol sy’n ymwneud â gwaith cyflogedig fesul oriau, yn ogystal â nodi’r newidiadau a ddaeth i rym pan gafodd y ddeddfwriaeth ei diwygio ym mis Ebrill 2020, a chwalu’r chwedlau o amgylch gwaith cyflogedig fesul oriau.

Bydd y weminar yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • gwaith cyflogedig fesul oriau, gan gynnwys y meini prawf y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i weithiwr allu perfformio gwaith cyflogedig fesul oriau at ddibenion isafswm cyflog
  • pwysigrwydd cadw cofnodion
  • sut i gyfrifo’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr oriau cyflogedig
  • sut i gywiro camgymeriadau

Nod y weminar yw ateb y cwestiynau cyffredin sydd gennych ynghylch sut i roi’r rheolau ar gyfer gwaith cyflogedig fesul oriau ar waith.

Gan na fydd modd i ni drafod amgylchiadau unigolion, ni fydd y tîm yn ymateb i gwestiynau’n fyw yn ystod y weminar. Fodd bynnag, mae gennych yr opsiwn i gyflwyno cwestiynau cyffredinol ar y pwnc dan sylw yn ystod y broses o gofrestru.

Cynhelir y gweminarau hyn drwy gydol mis Medi 2023 — edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.

Cofrestrwch yma.

Mae sawl gweminar a recordiwyd eisoes ar gael i chi wylio ar unrhyw adeg ar y dudalen, gweminarau Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae’r gweminarau hyn yn cwmpasu sawl pwnc, megis elfennau cyflogau, amser gwaith, a phrentisiaid.

Enwi mewn perthynas â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol — cyhoeddwyd gan yr Adran Busnes a Masnachu

Yn ystod mis Mehefin 2023, gwnaeth y llywodraeth enwi dros 200 o gyflogwyr am fethu â thalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i bob aelod o’u staff.

Canfyddir bod 202 o gyflogwyr wedi methu â thalu eu gweithwyr bron i £5 miliwn. Yn amlwg, mae’r methiant hwn yn torri’r gyfraith o ran yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ac wedi gadael tua 63,000 i weithwyr allan o boced. Yn ogystal â chael eu henwi, mae’r cyflogwyr hyn yn wynebu cosbau o bron i £7 miliwn.

Mae’r cwmnïau sydd wedi’u henwi yn amrywio o frandiau stryd fawr i fusnesau bach ac unig fasnachwyr. Mae’r llywodraeth yn gobeithio bod y broses hon o enwi cwmnïau yn anfon neges glir: mae’n rhaid i bob cyflogwr dalu ei weithwyr yr isafswm cyflog statudol.

Daeth yr ymchwiliadau gan CThEF i ben rhwng 2017 a 2019.

Dangosodd y canlyniadau gwnaeth 39% o gyflogwyr ddidyniadau arian o gyflog eu cyflogai Mae’r mwyafrif o ddidyniadau yn lleihau cyflog gweithiwr at ddibenion isafswm cyflog. Gall hyn gynnwys didyniadau ar gyfer prydau o fwyd, gwisg unffurf, offer, a sawl peth arall.

Gwnaeth 39% o gyflogwyr eraill fethu â thalu eu gweithwyr yn gywir am yr amser yr oeddent yn gweithio. Er enghraifft, mae’r amserau canlynol yn cael eu hystyried fel amser gweithio at ddibenion isafswm cyflog: yr amser a dreulir yn y gweithle, neu o’i amgylch, yr amser a dreulir yn teithio i’r gwaith, ac amser hyfforddi.

Yn olaf, gwnaeth 21% o gyflogwyr dalu’r gyfradd prentis anghywir. Mae’n rhaid bod gweithiwr wedi cael ei gyflogi o dan gytundeb brentisiaeth statudol, neu gontract prentisiaeth, er mwyn bod yn gymwys i gael y gyfradd prentis. Bydd y gyfradd prentis isafswm cyflog yn berthnasol os yw’r prentis o dan 19 oed, neu os yw’r prentis yn 19 oed neu’n hŷn ac ym mlwyddyn gyntaf ei brentisiaeth.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn y cysylltiadau canlynol: Cynllun Enwi mewn perthynas â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol — Bwletin Addysgiadol.

Sut i osgoi cael eich enwi a’ch cosbi

Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael i helpu cyflogwyr i gael pethau’n iawn, gan gynnwys:

Buddiannau — Talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol ar gyfer 2022 i 2023

Os yw cyflogwr wedi talu ei holl fuddiannau drwy’r gyflogres yn ffurfiol ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, nid yw CThEF angen i’r ffurflen P11D gael ei chyflwyno ar-lein. Mae’n dal rhaid i gyflogwyr gyfrifo’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar y buddiannau a llenwi’r ffurflen P11D(b) ar-lein.

Nid yw’n ofynnol i gyflwyno P11D ond i gyflogwyr sydd â chytundeb anffurfiol ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, hynny yw dechreuon nhw dalu drwy’r gyflogres ar ganol y flwyddyn. Er enghraifft, gofynnodd cyflogwr am gytundeb anffurfiol i dalu buddiannau drwy’r gyflogres ym mis Mehefin 2022, byddem ni angen i’r P11D gwmpasu’r cyfnod o 6 Ebrill 2022 i 1 Mehefin 2022. O 2 Mehefin 2022 ymlaen, os yw cyflogwr wedi talu’r buddiannau drwy’r gyflogres, nid ydym angen i P11D gwmpasu 2 Mehefin 2022 i 5 Ebrill 2023.

Mae angen i gyflogwyr roi gwybod i ni drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, ‘TWE — hysbysiad o fuddiannau a delir drwy’r gyflogres’, fel bod y buddiannau ar y P11D yn cyfateb i’r cyfnod o 6 Ebrill 2022 i 1 Mehefin 2022.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dalu cyflogeion drwy’r gyflogres: treuliau a buddiannau trethadwy, sy’n cynnwys cysylltiad i’r ffurflen ‘TWE — hysbysiad o fuddiannau a delir drwy’r gyflogres’.

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Cynllun dargyfeirio difidendau a ddefnyddir i ariannu costau addysg gan gwmnïau a reolir gan berchnogion — Spotlight 62

Mae CThEF yn ymwybodol o gynllun arbed treth sy’n cael ei farchnata ar hyn o bryd i gwmnïau a reolir gan berchenogion, a gynlluniwyd i ddargyfeirio incwm difidend oddi wrthynt eu hunain i’w plant dan oed. Mae’r cynllun yn cael ei hyrwyddo fel opsiwn cynllunio treth i helpu i ariannu costau addysg plant.

Mae’r trefniadau’n ceisio arbed treth drwy ganiatáu i’r cyfarwyddwyr, sydd hefyd yn brif gyfranddalwyr cwmni, ddargyfeirio incwm difidend oddi wrthynt eu hunain i’w plant dan oed. Mae’r plant yn talu treth ar y difidend a gafwyd. Fodd bynnag, oherwydd lwfans personol rhydd o dreth y plant o £12,570, lwfans difidend o £1,000 a’u cymhwystra i’r gyfradd dreth sylfaenol ar ddifidendau, maent yn talu llawer llai o dreth na phe bai eu rhieni, perchnogion y cwmni, yn cael y difidend.

Barn CThEF yw nad yw’r cynllun hwn yn gweithio gan fod y trefniadau’n cael eu dal gan ddeddfwriaeth wrth-arbed benodol sydd i’w chael yn Neddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Arall) 2005, o adran 619 ymlaen, sy’n atal y math hwn o drefniant rhag darparu’r fantais dreth.

Os ydych chi neu unrhyw un yn eich busnes yn defnyddio’r cynllun arbed treth y manylir arno yn Spotlight 62 (yn Saesneg), dylech ddilyn y camau a amlinellir yn yr arweiniad i adael a setlo’ch materion treth cyn gynted â phosibl.

Os ydych yn ymwybodol o bobl sy’n gwerthu’r cynllun hwn neu unrhyw fath arall o gynllun arbed treth, dylech roi gwybod amdano i CThEF fel y gallwn helpu i’ch diogelu chi ac eraill rhag y risg o arbed treth.

Helpu cwsmeriaid i gadw’n glir o gynlluniau arbed treth

Mae CThEF yn atgoffa contractwyr a gweithwyr asiantaeth ein bod yn cyhoeddi manylion cynlluniau arbed treth, a’u hyrwyddwyr (yn Saesneg) i helpu cwsmeriaid i gadw’n glir ohonynt neu i’w gadael.

Fe wnaethom ddechrau cyhoeddi gwybodaeth am gynlluniau arbed treth ym mis Ebrill 2022 ac mae’r rhestr bellach yn cynnwys manylion dros 35 o gynlluniau. Mae’r rhestr yn cael ei diweddaru drwy’r amser ac rydym nawr hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am rai o swyddogion cwmni’r hyrwyddwyr, yn ogystal â’r deunydd marchnata (yn Saesneg) a ddefnyddir.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn o’r holl gynlluniau arbed treth sy’n cael eu marchnata ar hyn o bryd. Mae’n bosibl y bydd cynlluniau, hyrwyddwyr, galluogwyr a chyflenwyr eraill nad yw CThEF yn gallu cyhoeddi gwybodaeth amdanynt ar hyn o bryd.

Rydym hefyd yn rhedeg ymgyrch, ‘Arbed treth — peidiwch â chael eich dal wrthi’, i helpu contractwyr i sylwi ar yr arwyddion o arbed treth, rhoi gwybod am gwmnïau amheus, a chael cymorth i adael cynlluniau arbed treth.

Mae’r contractwyr, Duncan a Tanya, yn rhannu eu straeon mewn fideo personol am eu profiadau o gymryd rhan mewn cynlluniau arbed treth er mwyn helpu pobl eraill i ddysgu o’u camgymeriadau.

Gallwch helpu i amddiffyn eich cyflogeion rhag y risgiau o ddefnyddio cynlluniau arbed treth drwy rannu negeseuon ein hymgyrch gyda nhw, gan gynnwys manylion cyhoeddus am gynlluniau arbed treth, a dweud wrthynt am ein hoffer a’n canllawiau.

Os yw un o’ch gweithwyr yn meddwl eu bod yn cymryd rhan mewn cynllun arbed treth, anogwch nhw i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Gallwn eu cefnogi i adael y cynllun ac i’w rhoi ar ben ffordd.

Toll Alcohol — Cyfraddau a rhyddhadau newydd o 1 Awst 2023 ymlaen

Os ydych yn cynhyrchu, yn mewnforio neu’n ailwerthu cynnyrch alcoholaidd, dylech fod yn ymwybodol y bydd strwythur Toll Alcohol newydd, gyda chyfraddau a rhyddhadau newydd, yn dod i rym ar 1 Awst 2023.

System Toll Alcohol symlach newydd

Mae’r system newydd yn safoni’r haenau toll ar gyfer pob math o gynhyrchion alcoholaidd, gyda chyfraddau toll newydd yn seiliedig ar alcohol yn ôl cyfaint (ABV) ar gyfer pob cynnyrch.

Rhyddhad i Gynhyrchwyr Bach

Rhyddhad toll wedi’i ymestyn i gynhyrchwyr bach pob cynnyrch alcoholaidd o dan 8.5% ABV.

Cyfraddau is ar gyfer cynhyrchion o’r gasgen

Enw arall ar hyn yw Rhyddhad Cynhyrchion o’r Gasgen. Cyfradd is o doll ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd o’r gasgen o dan 8.5% ABV, sydd wedi’u pecynnu mewn cynwysyddion sy’n dal o leiaf 20 litr, ac wedi’u cynllunio i gysylltu â system gymhwyso ar gyfer dosbarthu diodydd unigol.

Trefniadau dros dro i gynhyrchwyr neu fewnforwyr gwin

Bydd dull dros dro ar waith i gyfrifo’r doll ar gynhyrchion gwin. Bydd hyn yn para am 18 mis, o 1 Awst 2023 tan 1 Chwefror 2025. Mae’r rhain yn caniatáu i fusnesau ddefnyddio ‘cryfder tybiedig’ o 12.5% ABV wrth gyfrifo’r doll sy’n ddyledus ar win rhwng 11.5% a 14.5% ABV.

Sut i baratoi ar gyfer y Doll Alcohol newydd

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth sydd wedi newid o ran y Doll Alcohol drwy ddarllen yr arweiniad diweddaraf.

Gwyliwch gweminar am strwythur a chyfraddau newydd y Doll Alcohol (yn Saesneg).

Os ydych yn gynhyrchydd bach o gynhyrchion alcoholaidd, gallwch hefyd defnyddio’r gyfrifiannell Rhyddhad i Gynhyrchwyr Bach i’ch helpu i gyfrifo faint o doll y mae angen i chi ei dalu.

Mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio yn y farchnad cwmnïau ambarél — rhannwch eich barn erbyn 29 Awst 2023

Mae gennych hyd at 29 Awst 2023 i rannu eich barn ar gynigion y llywodraeth i ddiogelu gweithwyr rhag cwmnïau ambarél nad ydynt yn cydymffurfio.

Yn dilyn pryderon a godwyd gan y diwydiant a’r cyflogeion, mae’r llywodraeth yn ymgynghori ar fesurau posibl i reoleiddio’r farchnad cwmnïau ambarél. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar fesurau i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio yn y sector, gan gynnwys diwydrwydd dyladwy gorfodol.

Os oes gennych gyfran yn y farchnad cwmnïau ambarél, gallai eich mewnbwn helpu i ddiogelu gweithwyr rhag biliau treth annisgwyl yn y dyfodol, ac ar yr un pryd cefnogi busnesau a thwf yn yr economi.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad agored ar gael drwy ymweld â ‘Mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio yn y farchnad cwmnïau ambarél’.

Treth Incwm Hunanasesiad — paratoi ar gyfer y sail blwyddyn dreth newydd

Rhyddhad gorgyffwrdd

Ar 11 Medi 2023, bydd CThEF yn lansio ffurflen ar-lein i gyflwyno ceisiadau am fanylion ynghylch rhyddhad gorgyffwrdd. Bydd hyn yn darparu ffordd haws i fusnesau ac asiantau gyflwyno ceisiadau a sicrhau bod y ceisiadau hyn yn cael eu trin ar wahân i’r post cyffredinol.

Bydd CThEF hefyd yn cyhoeddi arweiniad cysylltiedig ychwanegol ynghylch rhyddhad gorgyffwrdd a’r newidiadau i’r rheolau o ran y sail blwyddyn dreth newydd.

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, a’ch dyddiad cyfrifyddu yn wahanol i 31 Mawrth neu 5 Ebrill, a bod symud at y sail blwyddyn dreth newydd yn effeithio arnoch, efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i fanylion eich rhyddhad gorgyffwrdd. Bydd rhaid i chi wneud hyn cyn cyflwyno Ffurflenni Treth ar gyfer blwyddyn drosiannol 2023 i 2024. Gall busnesau sydd â rhyddhad gorgyffwrdd y dylent fod wedi’i ddefnyddio yn y gorffennol hefyd ei ddefnyddio ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024.

Bydd y diwygiad hwn dim ond yn effeithio ar drethdalwyr â dyddiad cyfrifyddu sy’n wahanol i 31 Mawrth neu 5 Ebrill.

O dan y rheolau newydd, o fis Ebrill 2024 ymlaen, bydd busnesau’n cael eu trethu ar elw ar gyfer y flwyddyn dreth ac nid ar yr elw ar gyfer y flwyddyn gyfrifyddu sy’n dod i ben yn y flwyddyn dreth, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Cyn y bydd arweiniad pellach yn cael ei gyhoeddi, gallwch ddysgu rhagor am y sail blwyddyn dreth newydd yn y Llawlyfr Incwm Busnes (yn Saesneg). Mae gwybodaeth hefyd ar gael yn yr erthygl ynghylch diwygio’r cyfnod sail.

Gellir ond darparu gwybodaeth am ryddhad gorgyffwrdd os yw’r ffigurau hyn wedi’u cofnodi ar systemau CThEF. Mae cofnodion CThEF yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gennych chi fel rhan o Ffurflenni Treth blaenorol. Os nad yw’r wybodaeth hon wedi’i chyflwyno ar Ffurflenni Treth, ni fydd CThEF yn gallu’i darparu.

Mae angen manylion y busnes ar CThEF wrth edrych ar gais am wybodaeth ynghylch rhyddhad gorgyffwrdd, er mwyn rhoi gwybod i chi beth yw’r ffigurau cywir. Os ydych am gyflwyno cais am wybodaeth cyn lansiad y ffurflen ar-lein, mae CThEF yn gofyn eich bod yn darparu:

  • enw’r cwsmer
  • rhif Yswiriant Gwladol neu Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • naill ai enw neu ddisgrifiad o’r busnes, neu’r ddau
  • a yw’r busnes yn unig fasnachwr neu’n rhan o bartneriaeth
  • os yw’r busnes yn rhan o bartneriaeth, Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) y bartneriaeth
  • dyddiad dechrau’r busnes hunangyflogedig, neu’r dyddiad dechrau fel partner yn y bartneriaeth (os nad yw’n hysbys, yna bydd angen rhoi’r flwyddyn dreth pan ddechreuwyd hyn)
  • y dyddiad diwedd cyfnod diweddaraf a ddefnyddiodd y busnes i adrodd ei elw neu golled

Bydd gwybodaeth bellach ar gael ar ôl i’r ffurflen fynd yn fyw.

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian — fideos YouTube ar gael i helpu busnesau

Mae CThEF wedi lansio pedwar canllaw newydd ar ffurf fideo ynghylch Goruchwyliaeth Gwrth-Wyngalchu Arian i helpu cwsmeriaid i gael pethau’n iawn y tro cyntaf wrth gofrestru gyda CThEF ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian.

Mae’r 4 fideo’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • ‘Asesiadau risg ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian’ sy’n esbonio:

    • sut i adnabod risgiau i’ch busnes, a’u hasesu
    • sut i roi rheolaethau mewnol ar waith, a’u cynnal
  • ‘Sut i gadw cofnodion ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian?’ sy’n esbonio:

    • pa mor hir y mae’n rhaid i chi gadw eich cofnodion
    • pa gofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw
  • ‘Adnabod a rhoi gwybod am weithgarwch amheus ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian’ sy’n esbonio:

    • beth yw adroddiad gweithgarwch amheus
    • sut i gyflwyno adroddiad gweithgarwch amheus
  • ‘Hyfforddi’ch cyflogeion i gydymffurfio â rheoliadau gwyngalchu arian’ sy’n egluro:

    • pa hyfforddiant y dylech ei ddarparu
    • pa gofnodion hyfforddiant y dylech eu cadw

Mae’r fideos goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian (yn Saesneg) bellach ar gael i’w rhannu ag unrhyw un rydych chi’n eu hadnabod a allai gael budd ohonynt.

Helpu eich cyflogeion newydd i gael eu talu’n gywir

Pan fydd cyflogeion newydd yn dechrau gweithio i chi, deallwn pa mor hirwyntog y mae casglu eu gwybodaeth yn gallu bod. Er mwyn gwneud hyn mor gyflym a hawdd â phosibl, rydym wedi amlygu ambell arweiniad syml a all fod o help i chi wrth gasglu’r wybodaeth gywir a sicrhau eu bod nhw’n cael eu talu’r swm cywir.

Bydd hyn yn helpu’ch cyflogeion i dalu’r dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cywir a diogelu eu hawl i fudd-daliadau’r wladwriaeth y bydd eu hangen arnynt yn nes ymlaen yn eu bywydau.

Dyma ein 3 phrif awgrym i chi eu dilyn wrth gyflogi rhywun newydd:

1. Pa gamau i’w cymryd os nad oes gan gyflogai P45

Os nad oes gan eich cyflogai newydd P45, defnyddiwch y rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn er mwyn dod o hyd i god eu datganiad ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn a’r cod treth priodol.

2. Pa god treth i’w ddefnyddio ynghyd â chod datganiad ‘C’ ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn

Os yw’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn yn penderfynu y dylai cyflogai fod ar god datganiad ‘C’ ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn, defnyddiwch god treth ‘BR’. Os nad oes modd i chi gwblhau’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn, ac nad oes gan eich cyflogai P45, rhowch god datganiad ‘C’ ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn iddynt, a defnyddiwch god treth ‘0T’.

3. Pa fanylion TWE y bydd angen i’ch cyflogai newydd eu rhoi i chi

Bydd angen yr holl wybodaeth arnoch sydd yn y rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn, gan gynnwys ei enw, ei ddyddiad geni a’i rif Yswiriant Gwladol. Gwiriwch fod y rhain yn gywir trwy edrych ar ei ddogfennau swyddogol.

Trwy wneud hyn yn iawn, byddwch yn arbed amser ac adnoddau gan osgoi gorfod diweddaru’r gyflogres ac ateb cwestiynau gan eich cyflogai ynglŷn â’i gyflog.

y Cynllun Cymorth i Gynilo wedi’i ymestyn hyd at fis Ebrill 2025

Mae cynllun y llywodraeth, Cymorth i Gynilo, ar gyfer y sawl sy’n ennill incwm isel wedi’i ymestyn hyd at fis Ebrill 2025.

Gall cynilwyr dalu rhwng £1 a £50 i’w cyfrif bob mis, a byddent yn cael bonws gan y llywodraeth hyd yn oed os oes arian wedi’i dynnu allan.

Bydd cynilwyr yn ennill bonws o 50 ceiniog am bob £1 a gynilir, a thelir y taliadau bonws yn yr ail a’r bedwaredd flwyddyn. Mae hyn yn golygu y byddai rhywun sy’n cynilo £2,400 — sef yr uchafswm y gellir ei dalu i’r cyfrif dros bedair blynedd — yn cael bonws o £1,200 gan y llywodraeth wedi’i dalu yn syth i’w gyfrif banc.

Mae creu cyfrif Cymorth i Gynilo yn hawdd ac yn gyflym. Mae’n cymryd llai na phum munud i gofrestru.

Dysgwch sut mae unigolion yn gymwys i hawlio am y Cynllun Cymorth i Gynilo drwy:

Amser i Dalu ar gyfer cwsmeriaid TAW — hunanwasanaeth

Mae CThEF yn darparu gwasanaeth newydd i helpu cwsmeriaid TAW dalu’r hyn sydd arnyn nhw.

Lle nad yw cwsmeriaid yn gallu talu eu bil TAW yn llawn, efallai y gallwn helpu drwy sefydlu trefniant Amser i Dalu. Dyma le fydd cwsmer yn talu’r hyn sydd arno mewn rhandaliadau misol fforddiadwy.

O 30 Mai 2023 ymlaen, mae cwsmeriaid sy’n bodloni meini prawf penodol wedi gallu sefydlu trefniant Amser i Dalu ar gyfer TAW ar-lein, a hynny heb fod angen ffonio CThEF.

Dyma’r meini prawf ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae angen:

  • bod yn gwsmer TAW
  • bod â dyled TAW sy’n llai na 28 diwrnod ar ôl y dyddiad dyledus ar gyfer y taliad
  • bod â dyled TAW sy’n werth llai na £20k
  • peidio â chael unrhyw ddyledion neu drefniadau Amser i Dalu eraill
  • eich bod wedi anfon pob un o’ch Ffurflenni TAW
  • wedi’ch awdurdodi i sefydlu mandad debyd uniongyrchol

Mae gwasanaethu’n cwsmeriaid drwy ein sianeli digidol yn lleihau’r nifer o alwadau i’n llinell gymorth, sy’n ein helpu ni i gefnogi mwy o gwsmeriaid sydd angen ein help.

Sut i wirio a yw eich staff tymhorol neu dros dro yn gymwys ar gyfer cofrestru’n awtomatig i gynllun pensiwn

Os ydych yn cyflogi staff tymhorol neu dros dro, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall pwy sydd angen i chi ei roi ar gynllun pensiwn.

Bydd angen i chi hefyd asesu eich staff ychwanegol yn unigol bob tro y byddwch yn eu talu. Mae hyn yn cynnwys staff ag oriau amrywiol, p’un a ydynt yn gweithio i chi am ychydig ddyddiau neu ychydig fisoedd.

Gallai cyflogwyr sy’n methu â chydymffurfio â’u dyletswyddau o ran cynlluniau pensiwn wynebu camau gorfodi, gan gynnwys cosbau.

Gwiriwch eich dyletswyddau cyfreithiol heddiw.

Dysgwch pwy sydd angen i chi gofrestru ar ein gwefan:

Llinell gymorth Covid

Gan fod y cynlluniau cymorth yn sgil COVID yn dod i ben erbyn hyn, bydd llinell gymorth COVID yn cau ar 18 Medi 2023.

Mae help a chymorth ar gael i’n cwsmeriaid o hyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i fwrw golwg dros yr arweiniad a chymorth ar gynlluniau cymorth yn sgil COVID.

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:

  • nam ar eu golwg
  • anawsterau echddygol
  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu
  • trymder clyw neu nam ar eu clyw

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
  • i gadw’r ddogfen fel PDF:
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein he-byst hysbysu.

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter @HMRCgovuk.

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy anfon e-bost at mary.croghan@hmrc.gov.uk.