Canllawiau

Gwirio a ydych yn gymwys i gael Rhyddhad i Gynhyrchydd Bach ar Doll Alcohol

Pwy all gael y rhyddhad hwn, pryd i wirio’ch cymhwystra, a sut i gyfrifo’ch cyfraddau tollau gostyngedig.

Pwy all gael y rhyddhad

Os ydych yn gynhyrchydd bach, mae’n bosibl y gallwch dalu cyfradd is o Doll Alcohol ar unrhyw gynnyrch sydd ag alcohol yn ôl cyfaint (ABV) sy’n llai na 8.5%.

Gallwch gael Rhyddhad i Gynhyrchydd Bach os yw’r canlynol yn wir:

  • roedd dim mwy na 4,500 hectolitr o alcohol pur yn y cynhyrchion a wnaethoch yn ystod y flwyddyn gynhyrchu flaenorol
  • mae’n rhesymol i ddisgwyl i’r cynhyrchion y byddwch yn eu gwneud yn ystod y flwyddyn gynhyrchu bresennol gynnwys dim mwy na 4,500 hectolitr o alcohol pur
  • mae llai na hanner o gyfanswm yr alcohol rydych yn eu gwneud yn ystod blwyddyn gynhyrchu yn cael eu gwneud o dan drwydded

Pryd i wirio’ch cymhwystra

Y flwyddyn gynhyrchu ar gyfer Rhyddhad i Gynhyrchydd Bach yw 1 Chwefror hyd at, a chan gynnwys, 31 Ionawr.

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • gwirio’ch cymhwystra a chyfrifo’ch cyfraddau tollau ar ddiwedd bob blwyddyn gynhyrchu
  • amcangyfrif eich cynhyrchiad blynyddol o alcohol ar gyfer y flwyddyn gynhyrchu nesaf cyn i chi gyfrifo’ch cyfraddau gostyngedig

Os byddwch yn mynd dros y trothwy ar gyfer cynhyrchydd bach mewn blwyddyn cynhyrchu, sef 4,500 hectolitr

Nid ydych yn gymwys mwyach i gael y rhyddhad. Bydd cyfradd lawn y doll yn ddyledus ar y cynhyrchion y byddwch yn eu gwneud:

  • o’r adeg honno ymlaen yn ystod y flwyddyn bresennol, ac
  • yn ystod y flwyddyn gynhyrchu ddilynol

Hefyd, mae’n bosibl y bydd CThEF yn eich asesu am y gwahaniaeth rhwng y gyfradd is a dalwyd hyd at yr adeg honno, a’r gyfradd lawn.

Gwirio a yw’ch cynhyrchion yn gymwys

Mae’n bosibl y gallwch dalu llai o doll ar y canlynol:

  • cwrw
  • seidr, gan gynnwys perai
  • gwirodydd, gan gynnwys diodydd gwirodol sydd wedi’u cymysgu ymlaen llaw ac yn barod-i-yfed (RTD)
  • gwin, gan gynnwys gwin pefriog a gwin cadarn
  • cynhyrchion eplesedig eraill (a elwir yn ‘gwin a wnaed’ yn flaenorol), megis seidr ffrwythau

Gallwch ond gael rhyddhad ar gynhyrchion sydd:

  • â chryfder alcoholaidd sy’n llai na 8.5% ABV
  • heb eu gwneud o dan drwydded
  • yng Ngogledd Iwerddon, os maent yn gymwys

Cynhyrchion a wneir o dan drwydded

Gall hyn gynnwys yr adegau canlynol:

  • pan fo telerau’r drwydded yn cyfyngu ar y gallu i wneud a gwerthu’r cynnyrch
  • pan fyddwch yn gwerthu’r cynnyrch fel pe bai’n eich cynnyrch chi, ond mae’r deunydd pacio yn nodi ‘wedi’i gynhyrchu o dan drwydded’
  • pan fyddwch yn talu breindaliadau neu bremiwm i berchennog y brand
  • pan fo gennych yr hawl i wneud brand o alcohol sydd eisoes yn bodoli, ond cynhyrchydd arall sy’n berchen ar yr enw a’r hawliau eiddo deallusol

Gallwch gael rhyddhad ar gynhyrchion a wneir o dan gontract, ond nid ar gynhyrchion a wneir o dan drwydded.

Cynhyrchion a wneir o dan gontract

Gall hyn gynnwys yr adegau canlynol:

  • pan fyddwch yn gofyn i gynhyrchydd arall wneud cynnyrch alcoholaidd ar eich rhan
  • pan fyddwch yn talu tâl gwasanaeth i gynhyrchydd arall i wneud cynnyrch alcoholaidd ar eich rhan
  • pan nad oes cynhyrchydd arall yn ymwneud â marchnata na hyrwyddo’r cynnyrch

Gallwch gael rhyddhad ar gynhyrchion a wneir o dan gontract, a hynny ar gyfradd is y cynhyrchydd sy’n eu gwneud.

Cymhwystra ar gyfer Gogledd Iwerddon

Gallwch gael Rhyddhad i Gynhyrchydd Bach yng Ngogledd Iwerddon os ydych yn bodloni’r canlynol:

  • y trothwy o 4,500 hectolitr ar gyfer alcohol pur, yn ogystal â phob meini prawf cymhwystra arall
  • pob trothwy unigol o ran cynhyrchu ar gyfer y wahanol fathau o gynnyrch
Math o gynnyrch Trothwy Gogledd Iwerddon o ran cynhyrchu (y flwyddyn)
Cwrw 200,000 hectolitr o gynnyrch terfynol
Gwin, gan gynnwys gwin pefriog a gwin cadarn 1,000 hectolitr o gynnyrch terfynol
Seidr, gan gynnwys perai a chynhyrchion eplesedig eraill, megis seidr ffrwythau 15,000 hectolitr o gynnyrch terfynol
Gwirodydd, gan gynnwys diodydd gwirodol sydd wedi’u cymysgu ymlaen llaw ac yn barod-i-yfed 10 hectolitr o alcohol pur

I gyfrifo’r trothwy unigol o ran cynhyrchu ar gyfer pob math o gynnyrch gorffenedig, defnyddiwch yr un rheolau a ddefnyddir yn ystod cynhyrchu alcohol pur.

Mae’n rhaid i chi gynnwys:

  • pob math o gynnyrch gorffenedig a gynhyrchwyd yn y flwyddyn flaenorol
  • amcangyfrif o’ch cynhyrchiad ar gyfer pob math o gynnyrch gorffenedig ar gyfer y flwyddyn gyfredol
  • yr holl gynhyrchion alcoholaidd yr ydych yn eu cynhyrchu ym mhob un o’ch safleoedd

Os bydd eich lefelau cynhyrchu yn mynd dros y trothwy ar gyfer un fath o gynnyrch, bydd yn rhaid i chi dalu’r gyfradd lawn o doll ar y cynhyrchion hynny.

Mae’n bosibl y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael cyfradd is ar eich cynhyrchion eraill.

Os ydych yn darparu cynhyrchion o Brydain Fawr, ac nad ydynt yn bodloni meini prawf cymhwystra Gogledd Iwerddon

Os ydych yn anfon cynhyrchion i Ogledd Iwerddon, a’r doll wedi’i thalu’n llawn, gallwch gofnodi’r naill neu’r llall o’r canlynol ar eich datganiad:

  • y gyfradd lawn o doll ar gyfer y cynhyrchion hynny
  • y gyfradd o Ryddhad Gynhyrchydd Bach ar eich datganiad, a thalu’r doll ychwanegol pan symudir y cynhyrchion

Y doll ychwanegol bydd y gwahaniaeth rhwng:

  • y gyfradd o Ryddhad i Gynhyrchydd Bach a dalwyd
  • y gyfradd lawn o doll ar gyfer y cynhyrchion hynny

Os nad ydych am anfon cynhyrchion a’r doll wedi’i thalu’n llawn, gallwch eu symud o dan waharddiad toll os oes gennych ganiatâd i wneud hynny.

Os nad ydych yn siŵr os bydd y cynhyrchion yn cael eu defnyddio ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) pan rydych yn eu hanfon, a’r doll wedi’i thalu’n llawn, mae’n rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol yn eich dogfennau masnachol:

  • y gyfradd o Ryddhad i Gynhyrchydd Bach a dalwyd
  • cadarnhad bod y cynhyrchiad blynyddol ar gyfer y math hwn o gynnyrch dros y trothwy perthnasol

Mae’n rhaid i’r wybodaeth hon symud gyda’r cynhyrchion wrth iddynt fynd drwy’r gadwyn gyflenwi. Bydd yr wybodaeth hon yn galluogi rhywun sy’n symud y nwyddau i Ogledd Iwerddon, bellach i lawr y gadwyn gyflenwi, i sicrhau bod y swm cywir o doll wedi’i thalu.

Dysgwch ragor am sut i dalu toll ychwanegol drwy ddefnyddio’r system gwrthbwyso toll ecséis (yn Saesneg).

Os ydych yn darparu cynhyrchion o Ogledd Iwerddon, ac nad ydynt yn bodloni meini prawf cymhwystra Gogledd Iwerddon

Os ydych yn anfon cynhyrchion i Brydain Fawr, a’r doll wedi’i thalu’n llawn, gallwch dalu’r gyfradd o Ryddhad Gynhyrchydd Bach, a chofnodi hynny ar eich datganiad.

Os nad ydych am anfon cynhyrchion a’r doll wedi’i thalu’n llawn, gallwch eu symud o dan waharddiad toll os oes gennych ganiatâd i wneud hynny.

Sut i gyfrifo’ch cynhyrchiad blynyddol o alcohol

Mae’n rhaid i chi gyfrifo’ch cynhyrchiad blynyddol o alcohol er mwyn gwirio a ydych yn bodloni’r trothwy o 4,500 hectolitr.

Gallwch gyfrifo faint o alcohol pur sydd mewn cynnyrch drwy luosi ei gyfaint (mewn hectolitrau) gyda’i ABV.

Mae’n rhaid i chi gynnwys cyfanswm yr alcohol pur sydd yn yr holl gynhyrchion alcoholaidd a gynhyrchwyd ar draws pob un o’ch safleoedd.

Ni all cyfanswm eich cynhyrchiad o alcohol pur fod dros 4,500 hectolitr ar gyfer y cynhyrchion:

  • a wnaethoch yn ystod y flwyddyn gynhyrchu flaenorol
  • rydych yn disgwyl i’w gwneud yn ystod y flwyddyn gynhyrchu bresennol

Peidiwch â chynnwys unrhyw gynhyrchion a gafodd eu:

  • difetha
  • taflu
  • creu fel sgil-gynnyrch wrth i chi wneud cynnyrch alcoholaidd arall — er enghraifft, os gwnaethoch gynhyrchu breci wrth wneud cwrw

Os ydych yn rhan o grŵp, neu os ydych yn uno â busnes arall neu’n gwahanu oddi wrtho

Dysgwch sut y gall strwythur eich busnes cael effaith ar eich cymhwystra i gael Rhyddhad i Gynhyrchydd Bach.

Os ydych yn gwerthu’ch cynnyrch i gynhyrchydd arall sydd wedyn yn ei ddefnyddio i wneud cynnyrch alcoholaidd ei hun

Wrth gyfrifo’ch cyfansymiau o gynnyrch, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch nodi faint o alcohol pur sydd yn eich cynhyrchion gorffenedig.

Os ydych yn cymysgu cynhyrchion alcoholaidd gan gynhyrchwr bach arall gyda’ch cynhyrchion chi

Dim ond os nad oes toll eisoes wedi cael ei thalu y gallwch wneud hyn.

Wrth gyfrifo cyfansymiau’ch cynnyrch, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch nodi faint o alcohol pur sydd yn eich cynhyrchion gorffenedig.

Os ydych yn gwneud cynnyrch sydd angen aeddfedu

Mae’n rhaid i chi nodi lefel yr alcohol pur o’r adeg pan grëwyd y cynnyrch, ac nid lefel yr alcohol sydd yn y cynnyrch terfynol.

Os ydych yn gwneud cynhyrchion o dan drwydded

Wrth gyfrifo cyfansymiau’ch cynnyrch, mae’n rhaid i chi nodi faint o alcohol pur sydd yn y cynhyrchion gorffenedig rydych yn eu gwneud o dan drwydded.

Os ydych yn gwneud cynhyrchion o dan gontract i gynhyrchydd arall

Wrth gyfrifo cyfansymiau’ch cynnyrch, mae’n rhaid i chi nodi faint o alcohol pur sydd yn y cynhyrchion gorffenedig rydych yn eu gwneud o dan gontract.

Os defnyddiwyd eich safle ar gyfer gwneud alcohol am ran o’r flwyddyn flaenorol yn unig

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffigurau sydd gennych i gyfrifo’ch ffigur o gynhyrchiad ar gyfer 12 mis.

Dylech wneud y canlynol:

  1. Rhannwch swm yr alcohol pur a gynhyrchwyd â nifer y diwrnodau y dechreuodd y cynhyrchiad.

  2. Lluoswch y swm hwnnw â 365 (nifer y diwrnodau yn y flwyddyn gynhyrchu).

Os ydych yn mewnforio cynhyrchion alcoholaidd

Gallwch ofyn i gynhyrchydd dramor a yw ei gynhyrchion yn gymwys i gael y rhyddhad.

Os mae’r cynhyrchydd dramor yn gymwys, mae’n rhaid i chi ofyn am dystysgrif sydd:

  • yn cadarnhau ei fod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra
  • wedi’i gymeradwyo gan awdurdodau’r wlad lle mae’r cynnyrch yn cael ei wneud

Mae’n rhaid i chi gadw’r dystysgrif gyda’ch cofnodion i ddangos eich bod yn gallu talu cyfraddau tollau gostyngedig.

Cael gwybod faint o ryddhad y gallwch ei gael

Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein i gael gwybod faint o Ryddhad i Gynhyrchwyr Bach y gallwch ei gael.

Os hoffech gyfrifo hwn eich hunan, dysgwch sut i weithio allan eich cyfraddau Toll Alcohol.

Os ydych yn symud neu’n derbyn cynhyrchion alcoholaidd o dan ohiriad tollau

Os ydych yn symud cynhyrchion

Bydd angen i chi ddefnyddio’r System Symudiadau a Rheolaeth Ecséis (EMCS) i symud cynhyrchion o fewn y DU, oni bai y gallwch ddefnyddio gweithdrefnau symlach ar gyfer symudiadau penodol o fewn y DU.

Bydd angen i chi ysgrifennu ‘Drwy hyn, rwyf yn cadarnhau bod y cynnyrch alcoholaidd a ddisgrifir wedi’i gynhyrchu gan gynhyrchydd bach annibynnol / It is hereby certified that the alcoholic product described has been produced by an independent small producer’ fel datganiad ar y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y ddogfen weinyddol electronig (eAD), os ydych yn defnyddio EMCS
  • tystysgrif o gymhwystra ar y cyd ag unrhyw ddogfen fasnachol, os ydych yn defnyddio gweithdrefnau symlach

Bydd angen i chi nodi’r cynhyrchiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn gynhyrchu flaenorol gan nodi’r alcohol pur mewn hectolitrau. Er mwyn bod yn gymwys i gael Rhyddhad i Gynhyrchydd Bach, ni all y cynhyrchiad blynyddol fod yn fwy na 4,500 hectolitrau.

Bydd yn rhaid i’r person a fydd yn talu’r doll gael manylion gennych o’ch cyfradd o Ryddhad i Gynhyrchydd Bach. Bydd y manylion hyn yn ei helpu i gyfrifo faint o doll i’w thalu pan na fydd y cynhyrchion o dan ohiriad tollau mwyach.

Darllenwch ragor am gofrestru a chymeradwyo nwyddau ecséis a ddelir o dan ohiriad tollau (yn Saesneg), ac am dderbyn nwyddau i mewn i warws ecséis a’u symud ymaith (yn Saesneg).

Os ydych yn derbyn cynhyrchion

Bydd angen eAD ardystiedig arnoch, neu dystysgrif o gymhwystra sy’n dangos y datganiad a’r manylion a roddwyd gan y cynhyrchydd. Dylech gadw’r ddogfen hon yn eich cofnodion, neu fel arall ni fydd modd i chi wneud y canlynol:

  • dangos bod y cynnyrch alcoholaidd wedi cael ei wneud gan gynhyrchydd bach
  • rhoi cyfrif am y doll ar y cynnyrch alcoholaidd sydd ar gyfradd y Rhyddhad i Gynhyrchydd Bach

Os ydych yn symud cwrw o fewn y DU, a hynny wedi’i wneud gan gynhyrchydd bach arall

Os ydych yn gweithredu safle bragdy cofrestredig neu warws ecséis, bydd angen i chi gadw’r eAD ardystiedig, neu’r dystysgrif o gymhwystra sy’n dangos y datganiad a’r manylion a roddwyd gan y cynhyrchydd gwreiddiol.

Os ydych yn symud y cwrw i rywun arall sydd â’r awdurdod i’w symud a’i ddal o dan ohiriad tollau, bydd angen i chi roi’r un wybodaeth a roddwyd gan y cynhyrchydd gwreiddiol ar y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y ddogfen weinyddol electronig (eAD), os ydych yn defnyddio EMCS
  • tystysgrif o gymhwystra ar y cyd ag unrhyw ddogfen fasnachol, os ydych yn defnyddio gweithdrefnau symlach

Os nad yw’r cynhyrchion yn bodloni meini prawf cymhwystra Gogledd Iwerddon

Mae’n rhaid i chi hefyd gadarnhau bod y cynhyrchion dros y trothwy perthnasol o ran cynhyrchiad blynyddol ar gyfer y math hwn o gynnyrch.

Cyhoeddwyd ar 29 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 October 2023 + show all updates
  1. The online calculator in section ‘Find out how much relief you can get’ has been moved to the guide ‘Find out your Small Producer Relief rates’.

  2. Added translation

  3. The section 'check if your products are eligible' has been updated to explain the difference between products made under contract and those made under licence. Also included more details about what you need to do if you're moving or receiving alcoholic products in duty suspense.

  4. Added translation