Canllawiau

Sut y gall strwythur eich busnes gael effaith ar eich cymhwystra i gael Rhyddhad i Gynhyrchydd Bach

Dysgwch sut i gyfrifo’ch cynhyrchiad blynyddol o alcohol os ydych yn rhan o grŵp, neu os ydych yn uno â busnes arall neu’n gwahanu oddi wrtho.

Os ydych yn rhannu safleoedd mewn grŵp

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich cynhyrchiad blynyddol cyfunol o alcohol yn dod i 4,500 hectolitr neu lai.

  1. Cyfrifwch y cynnyrch blynyddol o alcohol pur ar gyfer pob safle yn y grŵp.

  2. Adiwch y cyfansymiau hyn at ei gilydd er mwyn cadarnhau eich bod yn bodloni’r trothwy o 4,500 hectolitr.

Os nad ydych yn siŵr p’un a ydych yn rhannu safleoedd mewn grŵp neu beidio

Rydych yn rhannu safleoedd mewn grŵp os yw cynhyrchydd arall, sy’n gysylltiedig â chi, yn gwneud cynhyrchion ar eich safle chi yn ogystal â gwneud cynhyrchion ar ei safle’i hun.

Mae sawl ffordd o fod yn gysylltiedig, gan gynnwys:

  • perthnasau rhwng pobl, er enghraifft:
    • perthnasau teuluol
    • partneriaethau busnes
  • perthnasau rhwng busnesau, er enghraifft, os oes gennych reolaeth dros:
    • un neu fwy o’r busnesau
    • un o’r busnesau, a bod gan aelod o’ch teulu reolaeth dros y llall

Os ydych yn uno’ch busnes â busnes arall

Mae’n bosibl y gallwch gael rhyddhad trosiannol am 3 blynedd ar ôl i chi uno ag 1 neu fwy o fusnesau.

Gelwir y 3 blynedd hyn yn ‘blynyddoedd trosiannol’, ac maent yn cynnwys:

  • y flwyddyn gynhyrchu pan wnaeth eich busnesau uno
  • 2 flynedd gynhyrchu gyfan ar ôl uno

Bydd yn rhaid i chi gyfrifo swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer y busnesau sydd newydd eu huno, a hynny ar gyfer pob blwyddyn drosiannol.

Cymhwystra i gael rhyddhad trosiannol

Ni allwch gael rhyddhad trosiannol os ydych yn ymuno ag unrhyw fusnes nad yw’n gymwys i gael Rhyddhad i Gynhyrchydd Bach ar ei ben ei hun.

Ar gyfer y 3 blynedd gynhyrchu, mae’n rhaid i chi hefyd sicrhau’r canlynol:

  • nid yw’r swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu yn cynnwys fwy na 4,500 hectolitr o alcohol pur
  • o’r alcohol a gynhyrchwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol gan bob set o safleoedd yn y grŵp (ar ôl uno), roedd llai na hanner o’r cynhyrchion hynny wedi’u gwneud o dan drwydded

Sut i gyfrifo’ch swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu

Mae’n rhaid i chi gyfrifo’r swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer pob blwyddyn drosiannol fel a ganlyn.

Blwyddyn 1

Blwyddyn 1 yw’r flwyddyn gynhyrchu pan unodd y busnesau.

I gael eich swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu, mae’n rhaid i chi ddefnyddio swm o gynhyrchiad safle’r cynhyrchydd mwyaf ar gyfer y flwyddyn gynhyrchu cyn uno.

Bydd angen y ffigur hwn arnoch i gyfrifo’ch swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 hefyd.

Blwyddyn 2

Dyma sut i gael y swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer Blwyddyn 2:

  1. Tynnwch eich swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer Blwyddyn 1 o swm o gynhyrchiad go iawn y busnes sydd wedi uno ar gyfer Blwyddyn 1.

  2. Lluoswch eich ateb ag un traean.

  3. Adiwch eich ateb a’ch swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer Blwyddyn 1.

Blwyddyn 3

Dyma sut i gael y swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer Blwyddyn 3:

  1. Tynnwch eich swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer Blwyddyn 1 o swm o gynhyrchiad go iawn y busnes sydd wedi uno ar gyfer Blwyddyn 2.

  2. Lluoswch eich ateb â dau draean.

  3. Adiwch eich ateb a’ch swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer Blwyddyn 1.

Ar ôl y drydedd flwyddyn drosiannol, bydd yn rhaid i chi ddefnyddio’ch symiau o gynhyrchiad go iawn er mwyn cyfrifo’ch cyfradd is.

Enghraifft o sut i gyfrifo swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu

Mae busnes A yn uno â busnes B i greu busnes C.

Yn ystod y flwyddyn gynhyrchu cyn uno, gwnaeth busnes A gynhyrchu 1,000 hectolitr o alcohol pur, a gwnaeth busnes B gynhyrchu 500 hectolitr o alcohol pur.

Swm busnes C o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu yw 1,000 hectolitr ar gyfer Blwyddyn 1.

Swm busnes C o gynhyrchiad go iawn yw 1,700 ar gyfer Blwyddyn 1.

Dyma sut i gael y swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer Blwyddyn 2:

  1. Cyfrifwch (1,700 – 1,000) × (1 ÷ 3) = 233 hectolitr.

  2. Adiwch eich ateb a’r swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer Blwyddyn 1 (233 + 1,000) = 1,233 hectolitr.

Swm busnes C o gynhyrchiad go iawn yw 1,900 ar gyfer Blwyddyn 2.

Dyma sut i gael y swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer Blwyddyn 3:

  1. Cyfrifwch (1,900 – 1,000) × (2 ÷ 3) = 600 hectolitr

  2. Adiwch eich ateb a’r swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu ar gyfer Blwyddyn 1 (600 + 1,000) = 1,600 hectolitr.

Blwyddyn drosiannol
Busnes C
Swm o gynhyrchiad sydd wedi’i addasu
(alcohol pur) mewn hectolitrau
1 1,000 hectolitr
2 1,233 hectolitr
3 1,600 hectolitr

Cyfnod pontio yn dod i ben yn gynnar

Bydd eich cyfnod pontio yn dod i ben yn gynnar os mae’r canlynol yn digwydd:

  • mae swm go iawn yr alcohol a gynhyrchwyd yn ystod blwyddyn gynhyrchu ar draws pob un o safleoedd y busnesau sydd wedi’u huno yn llai na’r swm addasedig ar gyfer yr un cyfnod
  • rydych yn uno â chynhyrchydd bach arall yn ystod y cyfnod pontio

Os ydych yn uno â busnes arall yn ystod y cyfnod pontio

Os ydych yng nghanol cyfnod pontio ac yn uno â chynhyrchydd bach arall, bydd y cyfnod pontio cyntaf yn dod i ben.

Os ydych yn bodloni’r amodau cymhwystra, gallwch ddechrau cyfnod pontio newydd o’r dyddiad uno newydd.

Os ydych yn uno â 2 neu fwy o gynhyrchwyr bach eraill ar yr un adeg

I gyfrifo’r swm sydd wedi’i addasu ar gyfer y busnesau sydd wedi’u huno, mae’n rhaid i chi wybod pa gynhyrchydd yw’r mwyaf.

Y cynhyrchydd mwyaf yw’r cynhyrchydd a wnaeth y mwyaf o alcohol ar ei safle yn ystod y flwyddyn cyn i’r uno ddigwydd.

Os gwnaeth 2 gynhyrchydd neu fwy yr un faint o alcohol, gall unrhyw un o’r cynhyrchwyr hynny gael ei ystyried fel y cynhyrchydd mwyaf.

Os ydych yn gwahanu’ch busnes oddi wrth fusnes arall

Bydd eich cynhyrchiad blynyddol o alcohol ar gyfer y flwyddyn cyn gwahanu’n cael ei gyfrif yn ‘dim’.

Mae’n rhaid i chi amcangyfrif eich cynhyrchiad ar gyfer y flwyddyn gynhyrchu bresennol er mwyn ailgyfrifo’ch cyfradd i gynhyrchydd bach. Mae’ch amcangyfrif yn cael ei ddefnyddio fel eich ffigur blynyddol o ran cynhyrchiad ar gyfer y flwyddyn bresennol.

Ni fyddwch yn gymwys i gael rhyddhad trosiannol os byddwch yn ail-uno â’r un busnesau o fewn 7 mlynedd o wahanu oddi wrthynt.

Cyhoeddwyd ar 29 June 2023