Skip to main content

Ein llywodraethiant

Manylion Byrddau ac is-bwyllgorau’r Asiantaeth Safonau Bwyd.


Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr

Tanysgrifio i negeseuon ein Cadeirydd a’n Prif Weithredwr

Tanysgrifiwch i gael negeseuon ein Cadeirydd a’n Prif Weithredwr dros e-bost neu diweddarwch eich dewisiadau tanysgrifio.

Aelodau Bwrdd yr ASB, gan gynnwys cofnodion o bresenoldeb, ymrwymiadau a threuliau

Fel aelod o Fwrdd yr ASB, dylid datgan yr holl fuddiannau personol neu fusnes y gellid ystyried eu bod yn dylanwadu ar eu barn.

Mae buddiannau o’r fath yn cynnwys cymryd rhan yn y diwydiant amaeth, bwyd a diwydiannau cysylltiedig.

Aelodau cyfredol Bwrdd yr ASB

Swyddi gwag ar y Bwrdd

Cofrestr buddiannau aelodau’r Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Cofrestrau buddiannau ar gyfer Aelodau Bwrdd yr ASB, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes ac aelodaethau.

Cylch Gorchwyl y Bwrdd

Cylch Gorchwyl ar gyfer Bwrdd yr ASB a Rheolau Sefydlog ar gyfer Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB.

Cod Ymddygiad y Bwrdd

Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Bwrdd yr ASB.

Presenoldeb y Bwrdd

Mae cofnod o bresenoldeb Aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd Bwrdd yr ASB, y Pwyllgor Busnes a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) ar gael isod.

Ymgysylltiadau aelodau’r Bwrdd

Mae cofnod o ymrwymiadau a wnaed gan aelodau’r Bwrdd dros y flwyddyn ddiwethaf ar gael isod.

Treuliau’r bwrdd

Mae [manylion treuliau busnes aelodau’r Bwrdd] (https://data.food.gov.uk/catalog/datasets/014e1d59-8604-46df-9132-346804923f97) ar gael ar data.food.gov.uk.

Fframwaith Gweithredu’r Bwrdd

Mae ein Cynllun Dirprwyo yn rhoi esboniad o sut mae swyddogaethau’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael eu cyflawni, a’r rôl y mae’r Bwrdd, y Cadeirydd, y Prif Weithredwr a’r Tîm Rheoli Gweithredol yn ei chwarae o ddydd i ddydd.

Ein hamcanion

Sefydlwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 fel adran annibynnol o’r llywodraeth sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Ein cenhadaeth yw bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Mae hyn yn golygu system fwyd lle mae bwyd:

  • yn ddiogel
  • yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Llywodraethu

Mae Bwrdd yr Asiantaeth yn gyfrifol ar y cyd am holl weithgareddau’r Asiantaeth ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r Bwrdd yn atebol i’r Senedd drwy Weinidogion Iechyd Cymru, i Senedd San Steffan drwy’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, ac i Gynulliad Gogledd Iwerddon drwy Weinidogion Iechyd Gogledd Iwerddon. Rydym yn cynhyrchu adroddiad blynyddol o’n gweithgareddau a’n perfformiad, sy’n cael ei gyflwyno gerbron y Senedd, Senedd San Steffan a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Mae’r Bwrdd yn rheoleiddio ei weithdrefnau ei hun yn unol â Deddf Safonau Bwyd 1999, Atodlen 1, 9 (1).. Mae Fframwaith Gweithredu’r Bwrdd hwn yn dwyn ynghyd holl weithdrefnau’r Bwrdd mewn fframwaith llywodraethu ar gyfer yr ASB

Ein ffyrdd o weithio

Rydym wedi ymrwymo i weithredu mewn ffordd agored a thryloyw. Fel sefydliad, byddwn ni ar gael i’n holl randdeiliaid ac yn cyfathrebu â nhw mewn modd gweithredol. Bydd ein penderfyniadau a’r wybodaeth y maent sy’n sail iddynt yn cael eu cofnodi, a byddant ar gael, fel y gall unrhyw sefydliad neu unigolyn wneud barn wybodus am y ffordd yr ydym yn cyflawni ein swyddogaethau.

Ein haddewid yw rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf ym mhopeth a wnawn. Byddwn yn ymdrechu i ennill a chynnal ymddiriedaeth, parch a hyder ein holl randdeiliaid. Byddwn yn dysgu o brofiad ac yn ceisio adborth yn weithredol i wella’n barhaus sut rydym yn gweithio. Ein nod bob amser yw darparu’r gwasanaeth gorau posib. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein Datganiad o Amcanion ac Arferion Cyffredinol, a’n Polisi ar Fod yn Agored

Pwyllgorau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Pwyllgor Busnes

Mae’r Pwyllgor Busnes yn gorff sy’n darparu goruchwyliaeth lefel uchel briodol o faterion gweithredol, gan gynnwys perfformiad a’r defnydd o adnoddau (adnoddau ariannol a dynol), ar lefel y Bwrdd, ac sy’n dwyn y Bwrdd Gweithredol i gyfrif wrth gyflawni ei gynlluniau a’i bolisïau.

Ni fydd cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn cael eu cynnal yn gyhoeddus, ond bydd adroddiad o bob cyfarfod yn cael ei gynnwys ar agenda pob cyfarfod Bwrdd yr ASB. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi fel ei bod yn glir i bartïon sydd â diddordeb ac i’r cyhoedd ar ba sail y mae’r Pwyllgor wedi nodi ei argymhellion i’r Bwrdd eu cymeradwyo a pha dystiolaeth y mae wedi’i hystyried wrth bennu’r argymhellion hynny.  Bydd papurau a gaiff eu hystyried gan y Pwyllgor Busnes yn cael eu cyhoeddi fel atodiad i’r adroddiad i’r Bwrdd oni bai bod rhesymau penodol pam na ellir cyhoeddi papurau penodol.

Aelodau’r Pwyllgor

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor

Cylch Gorchwyl ar gyfer y pwyllgor busnes 

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn un o bwyllgorau Bwrdd yr ASB.

Mae’n gyfrifol am adolygu, mewn capasiti anweithredol, dibynadwyedd sicrwydd llywodraethu, rheoli risg a’r amgylchedd rheoli. Mae hefyd yn gyfrifol am adolygu cywirdeb datganiadau ariannol ac Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Aelodau’r Pwyllgor

Mynychwyr Gweithredol

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor

Cylch Gorchwyl ar gyfer yr ARAC.

WFAC: Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn gweithredu fel bwrdd cynghori annibynnol i’r ASB. Mae WFAC yn cael ei gadeirio gan aelod Bwrdd yr ASB dros Gymru. Ei rôl yw cynghori’r Asiantaeth ar faterion diogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid, gyda phwyslais ar Gymru.

Aelodau Pwyllgor WFAC

Cyfarfodydd

Gwybodaeth am gyfarfodydd sydd i ddod a gwybodaeth o gyfarfodydd blaenorol.

Cyfarfodydd sydd i ddod

Mae cyfarfodydd wedi’u trefnu ar gyfer:

Cofrestru eich diddordeb

Os hoffech gofrestru eich diddordeb i fynd i unrhyw un o’r cyfarfodydd hyn, anfonwch e-bost i WalesAdminTeam@food.gov.uk yn cadarnhau dyddiad y cyfarfod.

Cyfarfodydd blaenorol

Agenda a phapurau ar gyfer cyfarfodydd WFAC a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:

2026

2025

Archif

Dewch o hyd i bapurau a chofnodion cyfarfodydd blaenorol rhwng 2021 a 2025 (Archifau Cenedlaethol)

Dewch o hyd i bapurau a chofnodion cyfarfodydd blaenorol rhwng 2016 a 2020 (Archifau Cenedlaethol)

Dewch o hyd i bapurau a chofnodion cyfarfodydd blaenorol rhwng 2011 a 2015 (Archifau Cenedlaethol)

NIFAC: Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon (NIFAC) yn gweithredu fel bwrdd cynghori annibynnol i’r ASB. Mae NIFAC yn cael ei gadeirio gan aelod Bwrdd yr ASB dros Ogledd Iwerddon. Ei rôl yw cynghori’r Asiantaeth ar faterion diogelwch a safonau bwyd, gyda phwyslais ar Ogledd Iwerddon.

Aelodau pwyllgor NIFAC

Cyfarfodydd

Gwybodaeth am gyfarfodydd sydd i ddod a gwybodaeth o gyfarfodydd blaenorol.

Cyfarfodydd sydd i ddod

Mae cyfarfodydd wedi’u trefnu ar gyfer:

Cofrestru eich diddordeb

Os hoffech gofrestru eich diddordeb i fynd i unrhyw un o’r cyfarfodydd hyn, anfonwch e-bost i infofsani@food.gov.uk yn cadarnhau dyddiad y cyfarfod.

Cyfarfodydd blaenorol

Agenda a phapurau ar gyfer cyfarfodydd NIFAC a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:

2025

2024

2023

2022

2021

Archif

Dewch o hyd i bapurau cyfarfodydd blaenorol rhwng 2016 a 2020 (Archifau Cenedlaethol)

Dewch o hyd i bapurau cyfarfodydd blaenorol o 2015 (Archifau Cenedlaethol)

Dewch o hyd i bapurau cyfarfodydd blaenorol rhwng 2011 a 2014 (Archifau Cenedlaethol)

Cyswllt tîm

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon

E-bost: infofsani@food.gov.uk